Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
GABD1FF (2) H NEWPORT PONTYPOOL PONTYPRIDD 8WANSEA LLANELLY ^HW Evertasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £5 15 Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan &Go., L d,Wales' argest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price I Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered III Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori- I -I
Y Stori- NANNO. BYWYD PEXTREFOL YM MON. Can J. Tywi Jones. PENNOD V.—Parhad. Wedi gwneud ei rieni yn ddiofal yn ei gylch, aeth Jac gyda'r heddgeidwaid i gyfeiriad Rhoseithin. Pan welwyd y tri yn troi i fyny o ben y Ion, tynai rhai yn y pentref y casgliad y byddai Jac dan glo y noson hono. Ceisiodd Jac ar y ffordd gan yr hedd- geidwad i gadw'r gyfrinach rhag Nan- no, ac ategai Huw Roberts ef. Ni ddy- wedai Ketchum ddim, a phan gyrhaedd- wyd Rhoseithin, mynnai ef agor y parsel yn ngwydd Nanno a'i meistres, a datguddio dirgelion y llogellau i gyd. Yn mhlith pethau ereill ddaeth- ant i'r amlwg yr oedd potelaid o whisci a'r Beibl hardd roddasai Nanno i Huw Morus ar ei ymadawiad. Daeth cwm- wl ar wyneb Nanno, a deigryn i'w llygad. Nid oedd hyn eto yn ddigon i Ketchum; agorodd y Beibl a daeth dar- lun swynol o Nanno i'r golwg, yn nghyda'r hyn a ysgrifonasai ar y wyne b- ddalen: Pa fodd y glanha llanc ei lwyjbr Wrth ymgadw yn ol Dy Air Di. A'm holl galon y'th geisiais: na ad i mi gyfeiliorni oddiwrth Dy orch- ymynion. Cuddiais dy ymadroddion yn fy nghalon, fel na phechwn i'th erbyn." —Salmcxix., 9-11. Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."—Ceiriog. "NANNO." Deuai dagrau i lygaid pawb yn awr, ond i'r eiddo Ketchum. "Paciwch y cwbwl i fyny, a gyrrwch nhw iddo fo; tipyn o anffawd fu'r cwbl," meddai Huw Roberts. "No, that's not the way," meddai Ketchum, "we must take them over." "Lol botas," meddai Roberts, "tydir peth yn ddigon eglur i ddyn dall. Be 'newch chi i neud helynt i frifo teimlad y ferch ifanc yma a'i deulu o? Pacia hi, Jac, fel 'roedd hi. Aros fynud, hwdiwch chitha, Master Ketchum, waeth i chi gymyd y botal yma ddim. 'Tydi hi ddim yn iawn gyrru hon drwy'r post. "A most sensible edition," meddai Jac. Tawelodd y whisci Mr. Ketchum. "Wyddon ni ddim be ydi'r address," meddai Nanno. "0, dyma fo," meddai Ketchum, ac estynodd lythyr anfonasai Huw at y tafarnwr yn holi yn nghylch y got. "Dyma hi iddo fo, without note or comment; i'r post a hi 'fory, Nanno bach, and think no more about it," meddai Jac. "B'le cefist ti'r not a'r comant yna sy gin ti, Jac?" gofynai Huw Roberts. "Gin ryw stiwdant fu'n pygethu yn y Capel Mawr acw. Ddigwyddais ina fyn'd i'r capal y nos Sul hwnw, a bren- siach anwl, dyna lle'r oedd geira Sys- nag. 'Roedd o'n deud geira Cymraeg odd pawb yn ddallt, ac yn deud geira Sysnag mawr na wydda neb ar affeth y ddaear be oeddan nhw i'w hegluro nhw i Jbobol Llandderwydd. Y cwbwl gefis i gyno fo oedd y note a'r comment oedd o ryw iws i fi; a dydw i ddim yn reit siwr eto mod i'n gwybod lie ma iwso hwn yn iawn." meddai Jac. Bu'r dadleniad a wnaed yn frlw i fron Nanno. Aethai yn agos i bythef- nos heb iddi gael gair oddiwrth Huw. A phwy a feiddia geisio desgrifio ei theimlad? Nid ysgafn a dibwys oedd mater o garwriaeth yn ei golwg hi. Caru yn angerddol, neu beidio caru o gwbl, yn unig oedd yn bosibl iddi. Edrychai ar arwyddion dirywiad Huw fel pe byddai ef y perthynas agosaf ac anwylaf iddi. 'Roedd y syniad yn ei llethu—fod cyd-ymaith ei hieuencty.l, un a garai a'i holl galon, wedi myn'd yn mhellach nag y tybiasai ar lwybrau y rhybuddiodd ef rhagddynt lawer gwaith cyn hyn. Teimlai Huw Roberts, y plisman, i'r byw oherwydd yr amgylchiad, ac fel un oedd yn fwy ymdrechol i geisio cadw pobl yn eu lie nag i'w cospi am dros- eddu, ySgrifenodd lythyr at Huw Morus yn "deud y drefn yn ofnatsan wrtho," ac yn awgrymu iddo, gyda llaw, mai yn ffodus iawn yr aeth v got i ddwylaw Jac Martin, yn hytrach nag i ddwylaw y lleill fu yn cyd-yfed ag ef pan aethant yn ol o'r stesion i chwilio am dam. Sobrodd y llythyr gryn lawer ar Huw. Nid yn ddiolchgar, er hyny, ond yn flin a digofus ei ysbryd y teimlai tuag at Jac Martin pan glywodd am ei ran ef yn y mater. Yr oedd yn edifar ganddo yn awr iddo fyn'd mor gyfeillgar ag ef foreu ei ymadawiad. Teimlai y buasai yn well ganddo fod wedi colli ei got a'r oil oedd ynddi nag i'r helynt fyn'd i'r cyfeiriad a gymerodd. Nid ystyriai y buasai gair at Nanno. pan gyrhaedd- odd. wedi osgoi y cwbl, ac mai ei es- geulusdod ei hun fu'n achlysur i wneyd ei ffolineb yn gyhoeddus. Dangosodd Jac Martin ei wyneb yn y pentref cyn iddynt fyn'd i orphwys, er mwyn iddynt weled ei fod o hyd a'i draed yn rhyddion. "Be' oedd gynyn nhw eisio hefo chdi, Jac?" gofynai Sian Huws. "Ydan nhw yn dechra cael hyd i ti, dywad?" "N a, choelia i fawr," meddai Jac; "holi tipyn o'ch hanas chi 'roeddan nhw. Hwrach cewch chi glywad eto. Be'dach chi'n rieud tua Fangor a Llan- gefni yna, ddynas?" "Taw'r sclyfath. Paid ti a fy sgan- daleisio, a threio tori 'ngharictor i," meddai Sian. "Ddeudis i ddim byd; gofyn i chi ddaru mi," meddai Jac. (I barhau.)
Eisteddfod Treorcby. I
Eisteddfod Treorcby. I BEIRNIADAETH BRYNFAB. I Darn Adroddiadol. I Llatai Bro a Bryniau.—" Addysg a Chrefydd yw testyn hwn. Gafaelodd mewn gormod o faich. Buasai un gangen o'r testyn yn llawn dig on iddo. Mae y darn yn dechreu yn rhagorol yn y mesur diodl. Mae y bardd wedi chwareu tipyn o ystranc yn yr ail ad- ran, trwy ysgrifennu dwy linell yn un. Oddiyno ymlaen mae y darn yn mynd yn fwy diegni. Ceir y gair "deffroad" mewn dau gwpled, y nesaf i'w gilydd, ac nid yw hyn yn taro yn eraidd ar y glust. Ceir yma sillgolli ar ol cydsain ddwywaith. Gwneir gormod o ddef- nydd o'r gair "brad," a hynny i ddim ond er mwyn odl. Cododd y darn fy nisgwyliadau yn uchel ar y dechreu, ond cefais fy siomi yn fuan. leuan. Y Carcharor Mae yn y darn hwn amcan da am adroddiad. Egyr yn hapus. Ceir ynddo ddefnydd gwaith gwych; ond nid yw y stori wedi ei gweithio allan yn ddigon eglur. Pan mae y wraig yn ymbil gerbron y Barnwr, mae y darn yn mynd yn gym- ysglyd, ac ni ellir deall pa un ai mam "Willie" neu ynte ryw weddw arall sydd yn siarad. Rhaid wrth eglurder diamheuol mewn darn i'w adrodd. A I u n. Y Cybydd Darn gwych. Dechreua ychydig yn ddieffaith; ond daw i'w le yn fuan. Mae yn y darn hwn gyfle rhagorol i adroddwr da i ddangos beth allai ei wneud. Ceir yn- ddo ddigon o amrywiaeth; ac mae y stori wedi ei gweithio allan yn eglur ac effeithiol. Llygad Dyst. — Y Cybydd yn Marw Darn gwych eto. Ceir ynddo ergydion barddonol cryfion. Ambell linell anllednais sydd yn ei amdwyo, megys- Anesmwyth oedd ar wely brwnt, I mi nid yw ond Meistr Caled, brwnt." Ychydig yn llipa yn y cyplysiad rhwng darn yr hanesydd ag ymson y cybydd, a chydio yn lied drwsgl wrth yr ymson wna y darn olaf- "Y Cybydd gwael! ar hyn mae'n cau ei law." Dylasai y geiriau dechreuol fod allan, er mwyn cyd-ddilyniad hapus; ond er hyn, mae hwn yn ddarn lied dda. O'r Maes. Y Milwr Clwyfedig Darn lied ddiegni yw hwn. Nid oes yn- ddo ddigon o amrywiaeth, ac nid oes ynddo ddim sydd yn gynhyrfus. Rhy ddof ydyw o'r dechreu i'r diwedd. Hen Lowr.—" Y Danchwa Rhydd- ieithol iawn yw y darn hwn, a diwedda yn hen ffasiynol. Llais A berth.—" Arwr y Gilfach Goch Cymysg o'r gwael a'r gwych yw y darn hwn. Mae yma ambell er- gyd barddonol iawn, a llawer o rydd- iaith noeth. Os dim, mae yn rhy debyg. i adroddiad gohebydd newyddiadur. Balaclava. The War Horse Dyma y gwaith mwyaf meistrolgar yn y gystadleuaeth. Mae yn farddonol a desgrifiadol. Ond, rhy unffurf ydyw fel darn adroddiadol. Heblaw hyn, yr wyf yn gyfarwydd ag ef, ac mae wedi enill o'r ,blaen flynyddoedd yn ol. Nid wyf yn credu fod y pwyllgor yn ddigon hael- frydig i roi gwobr am beth "ail law." Wedi darllen y darnau amryw weith- iau, yr wyf yn cae l "Y Cybydd" gan Alun yn fwy cymwys fel darn adrodd- iadol, nag un o honynt, ac iddo ef y dyfernir y wobr.
Advertising
Artificial LIMBS, Crutches, Eyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, SteeUess Easifit" Trusses, etc.; lady attendant; Belts, Belt- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-8. List free. Tel. 1282.-Allen Pearce, 23 Charles Street, Cardiff.
Eisteddfod Aberaman,. Mehefin…
Eisteddfod Aberaman, Mehefin 2, 1914. BEIRNIADAETH Y FARDDON- IAETH. I 1 I YR ENGLYN. I Mae englyn wedi dod yn gamp yng Nghymru yn awr, a chynhyrchir rhai englynion godidog mewn eisteddfodau Ileol. Gydag ymchwil am un yn deall y grefft yn dda, ac wedi taro ar awr hapus yn hanes ei awen, yr awn drwy yr ugain englynion hyn i ddarganfod y goreu. Y testyn yw Yr Enaint Gwerthfawr." Gallesid cymeryd mwy nag un ystyr i'r testyn, ond blwch en- aint Mair sydd ganddynt oil. S.T.—Gwallus; yr ail a'r olaf o'r llinellau. Glan Dyfi.-Englyn da, meddylgar. Will y Blwch.-Da eto. Disgybl.-Da, ond nid ydym yn hoffi per hudfawr nwy." Dieddu yn gampus. Offrwm Serch.—Da. Nid yw'r cyd- weddiad yn hollol yr hyn a garem iddo fod yn "eneinio yr Oen." Arogl Hyfryd.—Gormod o ymdrech, nes mynd braidd yn anaturiol: "A serch wyddfa Mair haeddfawr." Gwynfal.—Yr ail linell yn wallus. Gwan. Rhaid ei garu digwron.—Cyffredin yw "Nefolwych ffaith." Peth aneglur- der. Simon. —Gwan. Cywir Barch.-Naturiol a syml. Nardus.—Dyma un yn deall y grefft. Englyn campus. Perarogl.—Nid da "arianwawr nir- ion. Nidyr Iscariot.—Da. Perarogl (2).-Da iawn. Crefftwr eto. Gwyddon.—Anffodus yw "groena. Cyffredin. Lazarus.—Go dda. .Galilead.-Da iawn. Nardus (2).-Heb fod cystal a Nardus (i). Wrth Ei Draed.—Da. Alltud.—Rhy dywyll a rhyddiaethol. Mae tri yn rhagori-Galilead: Eithriad i fyd, weithred fyw-bur Ar Brynwr dynolryw; [enaint Na ddweder "afradedd ydyw," Y gore dyst o gariad yw. Perarogl: Yr enaint-Mair a'i prynodd;—Yn y Y Crist glan a'i cafodd; (wlad Ar Ei draed y nard a rodd, Bro'r Eglwys beraroglodd. Nardus Mawr ydyw fry, Mair dy fraint-ni I'r Iesu hoff gymaint; (roes un 'E dyrr dawn y drud enaint Yn b6r Salm i bawb o'r saint. Y goreu yw Galilead.
Pontypridd a'r Cylch.
Pontypridd a'r Cylch. Y dydd o'r blaen claddwyd y brawd Noah Morgan, Fferm Heolycawl, Llan- illtyd. Daethai torf o hen gyfeillion ynghyd. Brawd tawel oedd Noah. Cyr- haeddasai 75 oed. Treuliodd ei fywyd yn y lie Bu yn aelod a blaenor hardd ym Mryntirion am flynyddoedd. Duw ddiddano y weddw a'r plant. Mae yn Nhrefforest hen chwaer, sef Mrs. Leyshon, yn cyflym nesu at y 99 mlwydd oed. Credwn mai un o ardal Llanytmddyfri ydyw. Bu yn ardal Merthyr, ond yn Nhrefforest y mae yn awr er's blynyddoedd. Medr fyn'd o gwmpas ac i'r cwrdd. Hi a Mrs. Richards o'r Ddraenenwen, sydd yn 94 oed, yw'r ddwy henaf yn y cylch. Y dydd o'r blaen daearwyd gweddill- ion Mrs. Jenkins, gweddw Mr Evan Jenkins, Trealaw, ym Mynwent Soar. Yr oedd yn aelod ym Methlehem. Claddwyd hi yn ymyl ei phriod, a'i rhagflaenasai er's 13 mlynedd. Gadaw- odd feibion a merched ac wyrion yn eu galar. Dydd Gwener, y 19eg, daear- wyd yng Nghladdfa Gyhoeddus Tre- orchy, weddillion Mrs. Williams, priod hawddgar Mr T. R. Williams, manager, Hearts of Oak, Parade, Pontypridd. Gedy hithau briod a phedwar o blant, a thad a pherthnasau ereill i alaru ar ei hoi. Collodd y Tabernacl chwaer ffyddlon. CYFAILL JOHN.
Cwrdd Coroni Ap Hevin,i! Aberdar.
Cwrdd Coroni Ap Hevin, Aberdar. Mewn canlyniad i lwyddiant Mr. H. t Lloyd (Ap Hevin), yn ennill y Goron I Arian yn Eisteddfad y Caerau, am ei awdl, "Deled Dy Deyrnas," pender- I fynodd ei edmygwyr gynnal cyarfod i'w longyfarch. Yr oedd y Cymrodor- j ion a'r Ddraig Goch i'w gweled yn amlwg yn y drafodaeth. Llwyddwyd j i gael adroddwyr a chantorion goreu y cylch i wasanaethu, ynghyda'r telynor poblogaidd, Mr. Roger Thomas, Cwm- aman, a chafwyd un o'r cyfarfodydd I goreu o'r fath fu erioed yn yr ardal. Cynhaliwyd yn Seion, Capel y Wes- ieyaid, Aberdar, nos Fawrth, Mehefin 23, 1014. Llywyddwyd gan y Parch. D. Silyn Evans. Telynor, Mr. Roget Thomas, Cwmaman; cyfeilydd, Mr. Thomas Lewis, Bryn-y-Wawr. Rhag- len Detholiad ar y berdoneg, Mr. A. Watkins, G. & L.; adroddiad, Mr. G. Williams; anerchiad gan y Llywydd; adroddiad, "Y Ddannodd," Mr. J. Rees, Hirwain; adrodd, Rhoi'r Meddwon a rWerth" (John Elias), Mr. J. Tarrell Williams; canu penhill- ion gyda'r tannau, Mrs. (Parch.) R. Williams a Miss Megan Williams, Dolwar; adrodd, "Araith Llewelyn" Elfed), Mr. W. R. Evans; deuawd I (ddwywaith), Mri. David Lloyd a Jos. Jones, Penrhiwceibr; cainc ar y delyn, Mr. Roger Thomas; adrodd, "Sut i ddewis gwraig," Mr. John Walters, Abernant; can, Mr. Llew Jones (en- coriwyd). Arweiniwyd yn nefod y Coroni gan Mr. T. Evans (Tel), Cwm- aman. Canwyd y Corn Gwlad gan Mr. Berry. Galw rh61 y beirdd gan Mr. Afanydd Morgan. Darllen beirn- iadaeth y Parch. W. Evans, B.A., gan I Eurfab. Cyrchu'r bardd gan y Parch. Ben Vaughan a Mr. E. Ogwen Wil- liams, F.R.G.S. Alaw ar y delyn, "Gwyr Harlech," Mr. Roger Thomas. Wedi gofyn "A oes heddwch?" dair gwaith gan Tel, a chael yr ateb cad- arnhaol, gweiniwyd y cledd. (Cafwyd ( benthyg cleddyf gan Mr. Hill—cleddyf tua thri chant oed, wedi ei wneud ym Mhalestina). Dilynwyd gyda chyf- ? archiadau mewn pennill ac englyn gan'' y beirdd canlynol:—Tel, Parch. Ben 1 Vaughan, Eurfab, Ogwen, Mri. Harryf Harris, W. J. Harris, Hywel Nedd, Myfyr Meirion, Alaw Sylen, Caerludd- ian, lago Aman, Abel Jones, Afanydd, Miss Megan Williams, Glan Wenallt, Mr. J. Evan Jones, loan Eithrin, Mr. Abraham Watkins, Darrenfab, loan Gwallter, &c. Darllennodd Afanydd lythyron ac englyion oddiwrth Ogai, Pelidros, Gwilym Alaw, Gwilym Nedd, Wern, Glaneirw, R.R., Gwendraeth, 1 Pencerdd Mellte, Parcwyson, &c. Con- wyd can y coroni gan Mrs. Edwards (Miss Maggie Phillips gynt). Llywydd y pwyllgor oedd Mr. D. Nevern Rich- ards; trysorydd, Mr. W. J. Nicholas; ysgrifennydd, Mr. J. Afanydd Morgan. UN OEDD YNO. Rhyw frenin mawr yr awron ydyw'r Ap Cadeiriau aeth ddigon, Llwydd ei ffawd enhillodd ffon, Yn awr mae'n gawr dan goron. AFANYDD MORGAN. Cwyd arwr y Cadeiriau,—i fri uwch, I fro uchel Coronau; I Sedd Awen, fwyn-wen, fau Fel Brenin Gwlad y Bryniau. MYFYR BRYCHAN (Abraham Watkins). Anadla ein pen odlydd,-ac ebrwydd Gwobrau ddeuant beunydd; Ac arian sain coron sydd Yn awen ein 'teyrn' newydd. Drwy'i wir ddawn ni gawn y gwr Yn y Caerau'n goncwerwr. TEL. TEL. Ap Heiin," wyf flin afonydd,-o'th weled Yn cludo'r pres a'r clodydd, Tra mi heb wobr yn sobr sydd. Heno rhoir iddo wir addas-goron, Diguro ei hurddas; Yn bwr cu heb eiriau cas, Dioerni boed i'w deyrnas. I Abercwmboi. I ALAW SYLEN. I
[No title]
I Gofidir o herwydd ymddiswyddo yr I Henadur E. H. Davies, U.H., Pentre, ¡ Rhondda, fel Trysorydd Athrofa Goffa Aberhonddu. Bu ei gysylltiad a'r I Athrofa am yn agos i ddeugain mlyn- edd. Ei olynydd yw S. Sandbrook, Ysw., U.H., Merthyr, sef diacon a thry- sorydd eglwys Soar, a gwr a leinw am- ryw swyddi pwysig eraill yn y Cyfun- deb.
Advertising
Cadewch Iml al.d a chwi am Anhwylderau Nerfol I ein giau fel gwe blethedig 0 wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir =■ fel y canolfan gieuol. Dibynna cyflwr y canblfannau N i, 10I ar gyflwr yr iechyd corfforol. lJan amherir M? ?? i?W? ? yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r 0D 1 ?t nerfau. Yr adeg hynny y poenir ni §M?jb ?\ ??N gyda nerfau "-cur pen, niwralgia, N?'?? ??? gwendid gieuol. Mewn achosion W I felly 'does dim tebyg i I Wincarnis,' ¥ 7 4 Gwin y Bywyd.' Mae 4 Wincarnis* f l\ fl yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- N redu'n union gyrchol ar y canol- fannau nerfol ac a rydd iddynt N fywyd newydd a bywiogrwydd newydd. Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. ■■H ? ? Dechreuwch weiia? ■QH RHAD VAnfonwch am brawf-gostrel rhad o Wincarni.. -aid ei flas ye unig, ond digon i wneud Met. Arngsaet tri atmmp ceiniog (i dalu'r cludiad). COLEMAN & CO.. LTD., W. 169. Wincarnis Works. Norwich. "GwlD y Bywyd" Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J /?EORGE'S  ?' (tlLE^GR/WEl|F m I \p\i± £ ^i—i MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewa tri'ffurf. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn triJSurf. No. I, George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.—Jeorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Pelerii Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwl"" I-Gofynwch yn eglur am "-George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, NI.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.