Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
COLOFN Y DDRAMA. i -I
COLOFN Y DDRAMA. i I Y Ddrama Gymraeg. i Mae Pwyllgor Hyrwyddo'r Ddrama yn Abertawe" wedi bod wrthi yn ddyfal yn paratoi ar gyfer dyfodiad y Cwmni Dramodol yma Meh. 29ain a'r dyddiau dilynol. Prynhawn dydd Gwener, Meh. 1ge9, cynhaliwyd cyfarfod pwysig yn Neuadd y Guild Hall o foneddigesau Cymraeg, a rhai Cymreig eu teimladau o blith y Saeson er hyrwyddo y mudiad. Cynhullydd y cyfarfod oedd Mrs. Aeron Thomas, boneddiges flaenllaw gyda phob mudiad lie sol i gymdeithas yn y dref. Yr oedd y neuadd wedi ei llen- wi gan y gwahoddedigion, ac yn eu plith nifer o wir blaenllaw yn y dref. Cadeir- iwyd gan yr Henadur David Davies (Golygydd y South Wales Daily Post). Darllenwyd nifer o lythyrau gan D. Rhys Phillips, F.L.A., cyd-ysgrifennydd a D. Spurrell Davies, oddiwrth fonedd- igion a boneddigesau oedd yn methu bod yn bresennol, ac yn eu plith oddi- wrth y Prif Athro T. F. Roberts, yr Athro Lloyd, M.A. (Bangor), Syr Grif- fith Thomas, Lady St. Davids, Lady Stafford Howard, etc., yr oil yn dy- muno pob llwyddiant i'r mudiad. Anerchwyd y cyfarfod gan Mrs. Aeron Thomas, "Owen Rhoscomyl," y Fon- esig Cecile Barclay, Mrs. (Capt.) Vaughan, Syr D. Brynmor Jones, a'r Maer. Wedi diolch i'r cadeirydd am lywyddu ffurfiodd y boneddigesau eu hunain yn bwyllgor i ystyried y ffordd oreu i wneud wythnos y Ddrama yn Abertawe yn llwyddiant. Nos Lun bydd y Maer yn cynnal cwrdd croeso i gyfarfod Arglwydd Howard de Walden a Granville. Barker, Ysw., yn Neuadd Albert, pan ddisgwyl- ir dros fil o wahoddedigion. Ceir hanes y cyfarfod hwn yn ein nodion yr wythnos nesaf. Isod gwelir apel y "pwyllgor" am nodded Cymry'r dref a'r cylch i'r mudiad pwysig yma. Mae yn cae l ei ddosbarthu ar ffurf cylch- lythyr yn Gymraeg a Saesoneg Apel at Genedlgarwyr. I Yn ystod yr wythnos sy'n dechreu ar y 29ain o Fehefin, ceir gweled yn y Chwareudy Mawr, Abertawe, gyfleuad o ddramau gwreiddiol wedi eu hysgrifen- nu gan Gymry, a'u dehongli gan actwyr Cymreig. Dylai hyn ennyn diddordeb trigolion Abertawe, y mwyaf cymreig ei hanian o drefydd mawr cymru. Rhan yw'r wythnos ddrama o antur- iaeth, genedlaethol ei nodwedd, sydd a'i hamcan i gyfleu drama gartrefol a'i dwyn i boblogrwydd. Dengys hon, mewn drych, fywyd fel y mae yng Nghymru; amlyga ddelfrydau a phrof- iadau ei phobl, a rhydd fynegiad dra- matig i'w meddyliau a'u coelion. Nid. dynion a'u bryd ar wneud arian yw ei hyrwyddwyr, ond Cymry blaenilaw a dynion yn cydymdeimlo a dyhea laur genedl, sy'n argyhoeddedig y jielhr. drwy ddrama o'r fath, fywhau prysur- deb deall y Cymry a chodi safon gwr- taith yn y wlad. Gan ein bod yn sylweddoli'r gwirion- edd hwn, ac yn credu fod mudiad y ddrama genedlaethol wedi ei gychwyn gan Gymry sydd a'u bryd ar lesoli eu gwlad, apeliwn am yngynhulliad cyffredinol a haelfrydig dan y faner sydd wedi ei chodi ganddynt, ac at yr achos gwladgarol yr ymegniant gymaint drosto. Llawer o siarad ac ysgrifennu sydd yn bresennol am y ddrama, a gobeith- iwn na lesteirir hi gan ragfarn. Mae y ddrama wedi chwarae rhan bwysig ym mywyd cenedloedd ereill, ac wedi gwneyd lies. Cof gennyf pan oeddwn yn Hyde Park, America, i Miss Mary Anderson a'i Chwmni ddod am noson i Opera House, Scranton. Yr oedd hynny 30 mlynedd i'r mis diweddaf. Perrform- ient y ddrama enwog East Lyne. Yr oeddwn wedi ei gweled o'r blaen, a'i darllen fel nofel, ond nid a'n angof y noson honno tra fyddaf yr ochr hon. Ni welais gymaint o golli dagrau gan gynulleidfa erioed. Dywedais nad aethwn byth i weled East Lyne mwy, ac nid aethum ychwaith. Bu East Lyne fel goleudy i filoedd ar for bywyd, ac yn help i lestri prydferth gyrraedd yr hafan yn ddiogel ar ol ymladd eu ffordd trwy y "Pirates," a ymrithiant fel engyl gwynion. Perfformiodd y foneddiges hon East Lyne rhai miloedd o weithiau hyn nes i'w hiechyd dorri i lawr. Priododd a gwr cyfoethog o'r enw Antonio de Navarro bum mlyn- edd wedi hyn, yn 1889. Maent yn byw yn awr mewn palas yn y wlad yn Kent. Cymerant ddiddordeb yn y tylodion sydd o'i hamgylch. Mae gan y sawl a welodd Syr Forbes Robinson yn y ddrama, Passing of the Third Floor Back," atgofion melus am gymhorth a gafwyd i fyw yn well. Y mae y dramodau Cymraeg a welais ar linellau iawn mor bell, ac yn sicr o wneyd lies. Mae y dydd wedi myned heibio i'r gair 'theatre' fod yn dram- gwydd. Pan oeddwn yn hogyn bydd- ai son am theatre yn creu braw, fel pe byddai y drws nesaf i'r lie poeth. Cyffroid fy nhad gan y gair fel y cyffroir tarw gan gochni. Er hynny mae gan grots Aberdar atgofion melys am Johnny Noakes—gwr digrif y cwmni, a Mrs. Julia Jennings arferai wisgo dillad morwr. Arhosent chwe mis yn ymyl Ty'r Farchnad. Dyma ein arwyr pan yn ieuainc. Mae y Garw yn weddol iach ar y cwestiwn, a Chwmni. Drama'r Cymrodorion wedi penderfynu agor y tymor nesaf gyda drama, a chael drama fel arfer ar Wyl Ddewi. Maent yn gwmni galluog. Gwel y sawl a fyddo byw ddeng mlynedd eto lawer o gyfnewidiadau. BERDAR BACH. Y DDRAMA GYMREIG. I Syr,—Boed anrhydedd fyth i'r hen DARIAN, estynedig fel y mae; yn erbyn gelynion ein Drama fech- an yn nyddiau ei babandod. Mae y DARIAN yn cymeryd heddyw y safbwynt a gymerais i-yn gyntaf mewn erthygl yn Wales, Rhagfyr diweddaf, at y testyn "Cymru a'r Chwareufa," ac hefyd mewn llythyr i'r South Wales Daily News ar y 9fed o'r mis presennol-pan roddais, gan ei gyfieithu, rai o'r sylwadau oedd yn y DARIAN yr 28ain o Fai. Ond mae'n deg, yn ol fy meddwl i, i ddywedyd nad yw pob un o'r professional actors Cymreig i'w fell- dithio yn ddiarbed. Y mae yn eu mysg rywrai sydd yn ffyddlawn i Gymru a'i harferion a'i chrefydd; mae eu henwau ar fy nhafod a'u cymeriadau o -flaen fy llygaid. Amlhaer y nifer o honynt, felly megir ysgol uchel a fydd yn deil- wng o'n gwlad ni. Pa un o'r efengylwyr enwog a arferai aw- grymu Pa hawl sydd i'r Diafol i fod yn bercbennog ar bawb o'r tonau tlysion ? Yreiddoch, Syr, yn ddiffuant, J. TANAD POWELL. Merthyr Tydfil, Mehefin 16eg. [NODIAD.-Ceir ysgrif yn y golofn hon yr wythnos nesaf ar Ble ma fa?"]
Y -Cor Mawr.-I
Y Cor Mawr. I Ychydig fisoedd yn ol, yr oedd brwdfrydedd cerddorion a chanwyr yr ardaloedd yn berwi dros yr ymylon mewn perthynas a dathlu buddugoliaeth fawr Cor Caradog yn Llundain. A'i tybed fod y Ddrama wedi lledu ei hadenydd llydain a chuddio pob haeddiant a gogoniant berthynai i'r amgylchiad pwysig hwn. Ceir amryw ohebwyr heddyw yn ymdrechu'n galed i gadw tan ar yr allor, Gymreig, ond ychydig mewn cymhariaeth sydd yn barod i ysgrifenu gair ar brif ddigwyddiad y genedl yn ystod y ganrif ddiweddaf. Gwir fod Iwan Goch, Mr. Phillips, Casnewydd, a Brynfab, Pontypridd. wedi codi'r llenni yn ddigon uchel fel ag y gallai'r werin ganfod gogoniant y fuddugoliaeth, ond erbyn heddyw mae yr hyn a wnaed wedi syrthio ac yn cartrefu yn dawel ymhlith y pethau a fu. Credwn, er hynny, fod y gofgolofn ar waith, ond paham na chlywir swn y morthwylion ar faes y newyddiadur? Pan gymer rhyw ddyrchafiad le, mewn tref neu ardal, daw'r seindorf i udganu'r clodydd, a galw sylw'r cyhoedd at yr anrhydedd. Dywedwn fod budd- ugoliaeth Cor Caradog yn ddigon o ddyrchafiad i genedl y Cymry fel ag i gyfreithloni cadw tipyn o stwr yn ei gylch. Mae amser penodedig y dadorchuddiad yn nesau, a dylasai y testynau fod wedi eu hwylio ym- hell cyn hyn. Dylid trefnu ar unwaith, a pharotoi yn helaeth fel bo'r diwrnod o wir anrhydedd i goffadwriaeth mor arbennig. Mae amgylchiadau cysylltiedig a'r Cor Mawr yn deffro adgofion fyrdd yn meddyliau'r lluaws, ac y mae yr hen aelodau yn hiraethu am gael dydd i gyd gyfarfod, er ymddifyru mewn atgof am ddigwyddiadau deugain mlynedd yn ol. Bdrychwn ymlaen gyda dyddordeb mawr am wledd yn nhre'r DARIAN yn ystod Gorffenaf a gweled dadorchuddiad colofn ein hen gyfaill anwyl a'r ar- weinydd byd enwog Caradog. Efallai fod yr hyn a ysgrifenn- wyd yn ddigon i ail enyn y tan, a chynhesu'r brwdfrydedd, ac y daw rhyw un arall i'w gadw rhag llosgi allan yn rhy fuan. Bu'r newydd- iadnron Saesneg yn cadw tipyn o stwr yn ddiweddar, ond gan mai digwyddiad vn perthyn i'r Cymry ydoedd ymdrech lwyddiannus y Cpr Mawr. Dylesid trafod yr am- gylchiadau yng ngholofnau ein newyddiaduron Cymraeg, yn en- wedig y DARIAN, gan fod Caradog a hithau yn frodorion. J. JAMES (loan Gwyllt). I
ITipyn o Bopeth oI IBontardawy.
Tipyn o Bopeth o I Bontardawy. Nis gwn sut y bu, na phwy sydd gyfrifol, y Gol. ai y cysodwyr, am ddiweddarwch fy llith ddiweddaf ? Dylasai fod yn y DARIAN wythnos ynghvnt. Yr oedd rhai o fy nod- iadau dipyn yn hen pan anfonais hwynt, ond yr oeddynt wedi magu barf pan ddaethant i olwg gwyr Pontardawy. Mae yr annealltwriaeth yng ngweithiau alcan Glantawy a Phontardawy wedi dod i'r terfyn, a heddwch yn teyrnasu unwaith eto. Mae amryw felinau yn segur yn y ddau le. Mae cadeiriau Beirdd yn dyfod i'r lie wrth v llwythi. Y Llungwyn, enillodd y Parch. Llewelyn Bowyer, j gweinidog Danygraig, gadair yn j Eisteddfod u Prestatyn, Gogledd I Cymry, ar Awdurdod." Pedrog I yn beirniadu. j Mawrthgwyn, enillodd yr un gwr I gadair arall yn Eisteddfod Fforest- j fach ar Lusern Gobaith." Beim- iad, Gwili. Caf ar ddeall fod y rhai hyn yn gwneuthur pedair iddo. Y Sadwrn diweddaf, enillodd Thomas Jones, Alltwen, gadair ym Mrechfa, Sir Gaer. Mae y brawd hwn wedi bod yn chwareu o gylch traed amryw o honynt yn ddi- weddar. Efe oedd yr ail yn yr Eisteddfod yma ddwy flynedd yn ol. Beth ddywed archrwgnachwr y cylch yn awr wrth weled y cadeir- iau yn lluosogi yn yr ardal ? Mae yn sicr o fod gerllaw hollti gan nerth yr ysbrydion sydd yn effro ynddo. Ofna rhai y bydd raid ei gylcho, os nad ei osod mewn cyffion. Awgrym ardderchog oedd hwnnw o'i eiddo, sef, rhoi test ar y Beirdd Cadeiriol yma, rhag iddynt lanw y lie, ac hefyd fel y caffo efe sicrwydd i'w feddwl cythryblus eu bod yn deilwng o eistedd mewn cadair farddol. Diameu gennyf nad yw pob cyw o fardd sydd o fewn dwy I filltir o ysgwar y Bont yn foddlon I gwynebu y test er ei fwyn, ar yr amod ei fod ef ei hun i ddytod yno I er myned trwy yr un prawf. Mae Eisteddfod y Rhos wedi myned heibio, ac fel pob Eistedd- fod arall, wedi gadael ami i Jeremiah i wylo yn y gongl. Aeth Cor Fforestfach a'r brif ddarn; Mon- achlog Nedd ag eiddo y plant; Perllannog Clydach a'r gadair; Ap Perllannog a'r englyn Meudwy a'r Delyneg, a Morgan Williams, o'r Alltwen, oedd y prif goedwr. Mae taranu trwm ym myd lien ar hyn o bryd yn erbyn y swllt ofynir gan bwyllgorau yn gwmni i'r cyfan- soddiad. Mae ystorm mewn rhyw gragen yn gyson. Tipyn o anesmwythter sydd ar hyn o bryd yn y Faelfa gydweith- redol, os na arferir pwyll a doeth- ineb, o bob tu, fe a'r llong ilr tywod. Ffolineb yw i neb wylltu a chodi eu rhanddaliadau allan. Mae SWYddfa yr Observer wedi newid dwylaw; gobeithiaf y daw llwyddiant i'r anturiaethwyr new- yddion. Mae Cyngor Dosbarth Pontar- dawy mewn ymchwil am "Borter i'r Tlotdy. Rhaid iddo fod yn ddyn ieuanc rhwng 25ain a 35ain oed. Cynhygiant iddo E25 y flwyddyn o gyflog i ddechreu, ynghyd a'i fwyd, llety, a'i olch. Pwy yw y rhan fwyaf o'r cyng- horwyr hyn ? Beth yw eu henillion ? A ydynt yn cyfrif y gyflog yn gyflog byw, ac a garent hwy fyw ar y gyflog eu hunain ? Gwn mai eu honiad fydd, eu bod yn gofa!u am arian 3 trethdalwyr. Dyma beth yw hidlo gwibed a llyncu camelod. Y Sul a'r Llun diweddaf, cynhal- iodd eglwys Bethesda, Ynys Meu- dwy, ei Chyfarfodydd Hanner- Blynyddol. Gwasanaethwyd yn- ddynt gan y Parch. Jeremy Jones, Cwmllynfell. Mae achwyniad yma nad oes modd cael y DARIAN am arian lawer pryd, a'i bod yn hwyr yn yr wythnos yn cyrraedd rhai o'r gwerthwyr, mor belled a'r Sadwrn. Dyna'r achwyniad sydd o Dre- bannos, Alltwen, a'r Ynys Meudwy. Mae Rhydyfro, y prif le, heb werth- wr yno o gwbl. Gellir cael y DARIAN unrhyw nos Fercher gan Jenkins, Smith Buildings. B'le ma'r bai, Gol. ? BRUTUS.
Arbollad Ysgolion Sui U.B.C.
Arbollad Ysgolion Sui U.B.C. DOSBARTH ABERDAR. Nifer yr Ysgolion, 17; Ymgeiswyr, 262 CALFARIA, ABERDAR. Safon I.-Irene Williams, 86; Una Williams, go; Jenny Rees, 77; Maggie Edwards, 75; Willie Richards, 78; Ivor Thomas, 80; Thos. John James, 93; James Ivor James, 84; John Rees Davies, 92; David James Rees, 52; Benjamin Oliver, 89; John Emlyn Jones, go; Clifford Jones, 84; David Richard Williams, 72; Aneurin Oliver, 77; Margaret Mary Davies, 93; Harold Williams, 94; Mervyn Davies, 89. Safon II.—Nancy Rees, 73; Elsie May John, 74; Annie Price, 80; John Emlyn Evans, 76; Robert Gwynne Price, 73; Phyllis Williams, 75; Joseph Lewis, 73. Safon III.—Maggie Rees, 77; Ellen Florence Davies, 57. NEBO, CWMDAR. Safon IV.—David Lloyd Evans, 31. Safon V.—Isaac Davies, 56. YNYSLWYD. Safon I.-Annie May Harris, 56; Nancy Sambell, 63; Irene May Evans, 42; Evelyn Mary Sambell, 42; Hannah Roberts, 47; Phoebe Lloyd, 58; Maggie Lewis, 42; Myfanwy Evans, 55; May Davies, 33, Margaret Ann Evans, 64. Safon II.-Gwynfryn Evans, 20; Thos. John Darby, 49; Johnny Parry, 24. FFRWD, MOUNTAIN ASH. Safon II.—Hannah Jane Watts, 77; Olwen Evans, 76; Olwen Morgan, 73; Tom Rees Evans, 78. RHOS, MOUNTAIN ASH. Safon II.-Phillip E. Davies, 74; Annie M. Ellis, 73; Lily Powell, 73. Ceinwen Hughes, 68; Sarah J. Davies, 36; Gwladys Phillips, 64. Safon III. —Sarah A. Powell, 60. Safon IV.— Elizabeth Harris, 35. SEION, CWMAMAN. I Safon I.—Lydia Rees, Trydydd y Gymanfa; Annie Mary Rees, Ail yr Undeb; Bessie Isaac, Ail y Gymanfa; Maggie J. Thomas, Ail y Gymanfa; Alice M. Jenkins, Goreu yr Undeb; Annie Richards, Goreu y Gymanfa; Geo. J. Matthews, Goreu y Gymanfa; Arthur Haydn Rees, 98; Evan David Harris, 90. Safon II.—Wm. Geo. Rees, 86; Clifford Percy Thomas, 78; Wm. Rees Evans, 84; Thomas Ryland Rees, 82; Wm. John-Rees, 69; Edward Rees Morgan, 73; Benjamin Morgan, 73; Elizabeth Irene Thomas, 84; May P. Thomas, Ail y Gymanfa; Sarah James, Trydydd y Gymanfa; Jane Evans, 82; Idwal Rees, Goreu y Gy- manfa. Safon III.—Katie Matthews, 74; Elizabeth Ann Jones, 62; Thomas Isaac, 64; WTm. John Morgan, 61. Safon V.—Ben Davies, 44; Lizzie Prosser, 55; Margaret Jane Evans, 41; Jessie Rees, 61; Morgan Rees, 70; Gomer Thomas, 70; John Evan Harris, 61; John James Matthews, 45. SOAR, LLWYDCOED. I Safon I.-NVm. John Morgan, 93. GWAWR, ABERAMAN. Safon II.—Hettie May Lewis, 72; Mary Jane Samuel, 72; Doris E. Lewis, 59; Olwen James, 60; Thomas Lewis, 82; Ivor Hugh Samuel, 82. Safon IV. -Evan Wm. Lewis, 50; Edward W. Battenbo, 52. HEOLYFELIN. I Safon I.—Hannah Ellen Jones, 96^ Beatrice May Jenkins, 88; Annie Morris, 92; Jennie May Darby, 95; Lizzie Jane Williams, 87; Catherine Mary Thomas, 96; Hannah May Thomas, 92; Annie Margaret Rees, 94; Maggie May Phillips, 94; Joseph Em- lyn Thomas, 71; Wm. John Lewis, 34. Safon II.—David John. Evans, 77; David Thomas, 74; Maldwyn Jenkins, 74; Daniel Davies, 73; Joseph Moseley, 72; Thomas David Evans, 49. Safon V!—Blodwen A. Stephen, 48; Mary A. Thomas, 33; David Griffiths, 27; Dd. Morgan Davies, 53; Thomas Owen, 28. SILOA, PONTBRENLLWYD. I Safon !Richard Bell Jones, 94; D. Glyndwr Davies, 96. Safon II.— Treor John Edwards, 75; Thos. Wm. Jones, 78; David Evan Lewis, 75; John Hughes Jones, 72; Annie Jane Jones, 69; Mary Jane Jones, 63; Wm. Thomas Tones, 82. Safon III.- Jenkin Ed. Edmunds, ye. NODDFA, TRECYNON. Safon I.-Christmas Evans, 88; Geo. Morley King, 71; Robert Mills Davies, 97; Dewi Emlyn Davies, 94; Irene Davies. 84; Hilda Williams, 99; Annie Margretta Evans, 99; Doris Llewelyn, 83 Lily Gertrude Holmes, 92 Elizabeth Mary Bay ton, 88. Safon II.—Wyndham Davies, 59; Gwilym Jones, 55; Annie Elizabeth Davies, 75; Muriel Evans, 73; Thos. Picton Evans, 81; Sarah Evans, 76; William Hughes, 58; Trevor John Bayton, 77; Albert Edward King, 72. Safon III.—Gomer Morgan, 49; Edward Jones, 56. RAMOTH, HIRWAUN. Safon I.-Williq George Evans, 89; John Thomas, 92; William Thomas, go; Edith Maud Jones, 95; Maggie May Powell, 68; Dorothy John, 95; Hannah Harris, 95; Olwen Powell, 94; Evan John Morgan, 87; Hannah Davies, 82; Morgan Edwards, 90. Safon II.—Thomas Henry Bryant, 59; Evan Morgan Jones, 69; Edith Davies, 71; Marjorie Richards, 72; Mary Lizzie Hill, 72; Willie Trevor Edwards, 72; David John Morgan, 74. Safon III. —Henry John Hill, 63. Safon IV.— Willie Evans, 83. Safon V.—David Thomas, 73; H. B. Jones, Ail y Gy- manfa; John Evans, 71; Thomas J. Davies, 41; M. Jones, Goreu y Gy-, manfa; William Watkins, 65; W. J. Edwards, 65. I SALEM, GODREAMAN. Safon I.—Violet Curtis Pryce, 81; Maggie Williams, 84; Sarah Jane Phillips, 83; Alma James, 82. Safon II.—Jane Elizabeth James, 74; Eliz. Lewis, 72; Elizabeth Hannah Leach, 72; Emily Ann Phillips, 66; Edgar Davies, 71; Dd. Roger Williams, 70; Maggie Ann Jones, 78. Safon III.- Madge Williams, ?a; Maggie Ellen Phillips, 40. Safon V.—Stephen Harries, 41. I GADLYS, ABERDAR. Safon I.—Idris Williams, 93; Idris Glyndwr Thomas, 94; Maldwyn Davies 96; Lizzie Maud Edwards, 96; Albert Edward Davies, 90; Phyllis Auriel Williams, 93. Safon II.-Huldah C. Bassett, 82; James Morgan Harries, 72; Maggie Mary Davies, 72; Blodwen Thomas, 79. I ABERCWMBOI. Safon I.-Maggie- May Neal, 83; Freddie Phillips, 67; Annie Morris, 83. Safon II.-Hilda May Jones, 61; Lizzie Mary Lambert, 61; Richard Ivor Phil- lips, 57; Beatrice Maud Jones, 85; W. John Sturgess, 78; Elizabeth Grace Sturgcss, 81; Evan M. Phillips, 51. Safon III.— C. A. Jenkins, Trydydd yr Undeb; Thomas James Davies, 18. Safon IV.-Isaac Edmunds, 48; Dd. Watkin Phillips, 41; James Llewelyn Jones, 79. Safon V.—John Esaiah Morgan, 52; D. T. Evans, 29. I JERUSALEM, PENRHIWCEIBER. I Safon II.-Willie Henry Thomas, 64; George Bertie Davies, 63; William Ean Eynon, 64; Richard Gwyn Evans, 64; Ceridwen Jenkins, 68; May Evans, 69; Annie Daies, 76; Doris Lilian Greenslade, 72; Ceinwen Hughes, 75; Lily Mary Davies, 75. Safon III.—- Thomas Llewelyn Phillips, 74; Annie Bowen, 38; Sarah Davies, 53; Edith Davies, 57; Myfanwy James, 68. Safon IV.— Johnny Sallis, 57. Safon V.—Hannah James, 64; Daniel Davies 45; John Arthur Bower, 43. BETHANIA, CWMBACH. I Safon I.-May Jones, 94; Richard Thomas, 87; Ettie May Owen, 88; Frances May Doughton, 88; Beatrice May Lewis, 92; Ada Palmer, 92; Wm. Thomas Jones, 84; Gwennie Hughes, 88.—Safon II.—Annie May Thomas, 61; Edgar Jones, 73; James John Pot- ter, 66; Emlyn Jones, 81; Idwal Jones, 71. Safon IV.—Catherine James, 72. PENUEL, CWMBACH. 11 Safon I.-EF-john Parry, 84; Heziah Evans, 77; William Jones, 59; Amos James Edwards, 84; Robert Thomas, 88; Evan H. Thomas, 64; Henry Thomas, go. Safon II.—Mary Ellen David, 66, Bessie Griffiths, i3; Mary Ann Edwards, 62; Bronwen Parry, 67; Rebecca Williams, 60. I
Y Barri.I
Y Barri. I Hynod nid yn unig i'r dref hon ond i Gymru benbaladr a fu Arddang- hosfa'r Deffroad Cymreig a gynhal- iwyd yma am wythnos, Meh. 15-20.. Yng ngeiriau'r Prif Athro E. H. Grif- fiths, yng nghyfarfod Nos Lun, "*Dengys gyfnewidiad agwedd y Cymry yn ystod y blynyddau di- weddaf. Gwelwyd pob ochr i fywyd Cymreig-i fyny o waith plant ysgol hyd at eiddo Celfyddwyr yr Athrofa Frenhinol, a chafwyd mantais i gym- haru y drefn ddiweddaraf o addysgu'r plant ag un lawer iawn hyn. j Derbyniwyd pethau gwerthf awr iawn o bob man o'r wlad. Diddorol: oedd gweled telyn deir-res y Brenin, cleddyf y diweddar Arglwydd^Tredegar a ddefnyddiodd ym mrwydr Balaclava, cynffon y. aeffyl a farchogodd ac a arbedodd ei fywyd, a'i gostrel ddwr a oedd ganddo yn yr un amgylchiad. Bu'r Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfr- gell Genedlaethol a Phrif Athrofeydd Caerdydd, Bangor, ac Aberystwyth o gynhorthwy mawr. Mewn un congl yr oedd gwydd a rhod nyddu o dan gyfarwyddid Mr. Jacob Jones, Blaenau Festiniog, un o wehyddion goreu Cymru. Yr oedd Mr. Charles Wil- liams o'r un lie wrthi yn gweu, ac yn barod i ddysgu i ereill y gelfyddyd honno a'r modd i nyddu. Mewn blwch gwydr gwelwyd cadair aur genedl- aethol Gu,rnos, a choron arian Ceiriog a enillodd ar Myfanwy Fychan," a'i ysgrif-lyfr. Yr oedd yno greiriau dirif oddiwrth Mr. Geo. Eyre Evans, Aberyswyth, a mawr y diddordeb gvmerid ynddynt pan oedd fe yno i'w hesbonio yn ei ffordd ddi- ddorol ei hun. Danghoswyd g\\ aith Miss Margaret Lindsay Williams, y ddynes ieuanc 'lwyddiannus o'r Barri,, Mr. F. Kerr (Ysgol Sir), ac craill mewn celf, a gwaith efrydwyr Ysgol Haf y Barri, dan arolygiaeth Mr. Sutcliffe, Caer- dydd. Bum i lawer gwaith yn yr ystafell Gymreig gyda'r hen ddodrefn, yr hen lestri, etc. Carwn berchnogi llawer uno honynt. Cymerwyd plant holl ysgolion Barri a'r cylch gyda'u hath- rawon drwy'r holl adrannau, a mawr y diddordeb gymerwvd Dydd Iau, pan aethom drwy'r ffurf o gadeirio'r bardd yng nghadair dderw Gurnos," yn yr Ystafell Gymreig. Yr oedd merch-yng- nghyfraith Gurnos a Mrs. Cadle, merch Ceiriog, yn bresennol. Gofynnodd yr olaf gan y dosbarth adrodd Nant y Mvnydd," a chanodd geneth fychan y penillion hynny gyda'r delyn nes cyffwrdd yn agos iawn a theimladau Mrs. Cadle a'i dwy ferch. Y fath syndod i'r dosbarth weled merch ac wyrion bardd y soniant gymaint am dano yn yr ysgol! Bu'r Arddanghosfa yn llwyddiannus tuhwnt i bob disgwyliad, a barnu yn ol y diddordeb gymerwyd ynddi, a'r nifer pobol ddaeth i ymweled a hi. Gresyn na ellid ei chvnnal am fis er mwyn rhoi cyfle i amryw a garent ei gweled.
I Colofn y Gohebiaethau. '
I Colofn y Gohebiaethau. I ABERDAR. I Mr. Golygydd,— A fyddwch cyslal a obaniatau i mi alw sylw gweithwyr Aberdar at y fantais sydd ar ddyfod iddynt i gael ychwaneg- iad yn nifer y cyniychiohvyr Llafur ar y Cyngor Dosbarth. (Jan fod yr Ael- odau Llafur wedi proli eu hunain mor effeithiol yn y gorffennol, ac wedi dangos i'r byd pu bod yn eithaf cymwys i gymeryd rhan yn Hvwodraethiad a gweinyddiad materion dinesig, .i llwyddiant mor arddnchog wedi dilyn eu gweithrediadau hyd yn bresennol, ein dyledswydd yw lluosogi etinifer, fel y gellir cael mwyafrif o honynt. a thrwy hynny, sicrhau gwelliannau pell- ach, er llesiant y werin weithgar. Y maè saith sedd newydd i'w gosod yn y Cyngor, un ymhoh un o'r pedair Ward uchaf, a thair yn y Ward isaf—Aber- aman. Nid oes dilll yn annheg i hawl- io pob un o'r saith sedd i Lafur. Gwel- wn fod blaenoriaid y Biaid Ieuanc Ryddfrydol wedi symud yn Ward 2. Galwyd cyfarfod nos Wener diweddaf, ond nis gwn y canlyniad. Gobeithio fod enwau y gweithwyr hynny sydd wedi bod mor ffyddlon i'r blaid, wedi eu cynnyg, sef James Evans. Gospel Hall; David Evans, Tresalem, neu Wm. Jenkins, Tudor Terrace. Dyna dri sydd yn deilwng o'u hystyried gan y "League of Young Liberals." Yn.yr un Ward beiddiwn awgrymu enw Mr. Morgan Richards, Oxford Street, fel un teilwng o gymeradwyaeth a chefnog- aeth fwyaf brwdfrydig y Cyngor Celf a Llafur. Oddiwrth fy adnabyddiaeth o'r gwr hwn mewn cysylltiadau eraill, gwn y gwna aelod defnyddiol iawn. Weithwyr Nantmelyn, a phreswylwyr y Gadlys, rhowch dreial iddo. Beth am Mr John Griffiths, Llewelyn Street, y tro hwn i'r Ward 11 Nis gellir cael ei well, mi wn. Nawr, ynte, am dani, chwi fechgyn y Bwllfa, ac etholwyr Llwydcoed. A oes unrhyw rwystr i gael gan y foneddiges Mrs. Rose Davies sy'n bresennol ar y Pwyllgor Addysg, i sefyll am sedd ar y Cyngor? Os na, dylai hi gael cyfle am sedd Ward 3. Neu dyma gyfle i'r Young Liberals i gael Mr. Howells, eu cynlywydd o Abernant, i gynnyg am y sedd. Yn Ward 4, dymunaf awgrymu enw W. John Edwards fel dyn ieuanc cyfaddas. Y mae ef wedi cael disgyblaeth effeith- iol Coleg Ruskin, Rhydychen, ac y mae yn llawn brwdfrydedd dros ddelfrydau Llafur. Am y Ward isaf, sef No. 5, nid oedd brinder ar bersonau teilwng i lanw y tair sedd agored. Dyma gyfle i Gwm- aman i osod Mr Evan Jones, prawf- bwyswyr Glofa Cwmaman, i'w cynrych- ioli. Ac Aberaman, dyna Will Davies, bachgen ieuanc arall sydd wedi ei ddis- gyblu yng Ngholeg Ruskin. Nis gallant yn well na rhoddi mantais iddo ef i'w gwasanaethu ar y Cyngor. Am Aber- cwmboi, sicr yw y gwnai Mr Jack Evans, yr hwn a wnaeth mor dda pan yn cynnyg am sedd ar y Guardians, aelod da. Weithwyr Aberdar, meddyl- iwch am y rhai hyn.—Yr eiddoch, etc., LLYGAD AGORED.
Araith Dr. Harris, Treherbert…
Araith Dr. Harris, Treher- bert yn Aberfan. Trysorfa Gynorthwyol yr Eglwysi Cweiniaid. Cafwyd araith fyw iawn gan Dr. Harris yng Nghymanfa'r Bedyddwyr yn Aberfan ar y mater hwn. Rhoddwn yma rai o'r gemau. Dechreuwn gyda'i ddameg: Gynt ar ben Moriah yr oedd fferni fawr dan ofal dau frawd, y naill o hon- ynt a theulu mawr ganddo a'r llall yn wr sengl. Cydweithient ymhob peth, wrth aredig, llyfnu, achlesu, hau a medi. Yn amser y Cynhaeaf cydran- nent yr ysgubau yn gyfartal rhyng- ddynt. Rhoddai y gwr sengl ei ysgub- au mewn ydlan ar un ochr i'r ty a'r gwr priod ei yegubau yntau ar yr ochr arall iddo. Ryw noson, meddyliodd y gwr sengl rhyngddo ag ef ei hun y dy- lasai ei frawd gan fod ei deulu yn drwm gael mwy o ran o gynnyrch y tir. Yng ngwres y teimlad caredig hwn aeth i'w ydlan ei hun a chludodd lawer o'i ys- gubau i, ydlan ei frawd. Yr un noson meddyliodd y gwr priod mai ei frawd sengl a weithiasai galetaf o lawAr 1V y maes ac fod ganddo hawl i fwy o ran o'r da. Aeth yntau allan a dygodd farch o ysgubau i ydlan ei frawd. Nos ar ol nos aeth yr un peth ymlaen a'r naill heb wybod yr hyn a wnai y llall. O'r diwedd, ar noson dywell fel y fag- ddu a'r ddau wedi mynd allan o'r ty tua'r un amser i gyfoethogi ydlannau eu gilydd, digwyddodd iddynt tra dan eu beichiau'n mynd o un ydlan i'r llall daro yn erbyn eu gilydd a syrthio. Felly y daeth yn amlwg garedigrwydd y naill tuag at y Hall.. A dywed tra- ddodiad Iddewig mai yn y fan lle'r am- lygwyd y caredigrwydd hwn yr adeil- adwyd Teml Solomon-lIe priodol iawn i adeiladu teml i'r hwn sydd yn rhoddi nerth i'r diffygiol ac yn amlhau cryfder i'r dirym. Nid oes dim yn fwy amlwg na bod gormod dieithrwch rhwng eglwysi Bed- yddiedig a'u gilydd. Ni wyddant ond ychydig am eu gilydd, a hynny er iddynt breswylio yn yr un cwm ac yn yr un dref. Yr ydym mor hunangar fel nad ydym yn gallu llawenychii yn llwyddiant neb ond yn llwyddiant yr eglwys y perthynwn iddi. Er cywilydd i ni yr ydym wedi gadael yr eglwysi bychain bron yn hollol ddisylw. YIll- ddygasom tuag atynt fel pe buasent yn estronesau. Gwnai rhai eglwysi gas- gliad blynyddol tuag atynt, ond yr oedd hwnnw mor bell o gwrdd a'u hangen ag yw'r dwyrain oddiwrth y gorlelwin. Cawsant foddloni naill ai ar rywfath o weinidogaeth neu ar ddim gweinidogaeth o gwbl. Mwyach, gyda'r cynllun hwn, ni adewir eglwysi gweiniaid at drugaredd neb. Y mae'r enwad trwy Gymru Benbaladr yn mynd i'w easglu, megis y casgl yr iar ei chywion dan ei haden- ydd. A'r ystyriaethau sydd wrth gefn y symudiad hwri i gynorthwyo'r eglwysi gweiniaid yw eu bod: (1) Y n berthyn- asau agos i ni. Plant ydym o'r un Tad. Nid gweddus yw i ni sydd yn gryfion 1 fod yn ddifater o'r gweiniaid. Ad- lewyrchu anfri arnom ni wna'u gwendid hwy. (2) Y maent o gyffelyb werth fawr ffydd a ninnau. Ac fel rheol deil eglwysi bychain yn ffyddlonach i'w hegwyddorion a'u defodau na'r eglwysi mawrion. (3) Dibynna'r eg- lwysi mawrion am eu llwyddiant ar yr eglwysi bychain. Y ffrydiau bychain sy'n llifo i fewn iddi wna'r afon yn fawr. Ond "dynion dwad" a chwydd- asant niferi eglwysi mawrion y cynnydd a'r trefi. (4) Trwy ofalu am yr eg- lwysi gweiniaid y bydd yr eglwysi mawrion yn gofalu am danynt eu hun- ain. Cofier y ddameg. Nid colled yw y gymwynas a wneir a'r gwan. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the Qqunty of Glamorgan