Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
A DDARFU I CHWI AMEU EICH ARENAU ? .JLx II Pob darlun Q a ddywed i hanes. A ydych yn bruddglwyfus, yn gy f frous? neu yn fclino yn fuan ? A ydych wedi rhedeg i lawr, neu yn gymalystog (rh6U!7iatic) ? Effeithia Blinder Arenol ar yr holl gorph. Llawer sydd yn dioddef oddiwrth yr an- hwylder hwn nad amheuasant erioed eu harenau (kidneys), ae etc yr arenau ydyw yr organau niwvnf tcbygol i waelu. oblegid ganddynt hwy y niau y ¡.rwuith mwynf i'w wneyd. Dyild a hob, o'n geiiedigaeth hyd 'ddiwedd ein bywvdau, maent ar weith yn gwahanu y lleisw in rive) oddiwrth y gwaed, ac yn hidlo nllaii y gwenwvnau sydd yn achosi y fath anhwykk-rau a'r rhai hyn:- Pcwn yn y cefn, poenau yn yr ystlYllau s'r llwynaii. prvdiau pensvfrdanol, afreoleidd-dra tructhoi (uriuary ijvegularities), Ash\vym>eh 1V.ki>kknoi, (bladder disease), grafeJ, careg, anhunedd (sleeplessness), cryd fcymnwlau, lhvvnwst {lumbago), chwvddiadau dyfrol, dylVfflwyf (dropsy), calon afreolaidd, annhrefn- "11 ^k>uol, a Bright's disease. OliH) blinder arenol yn effeithio yn wahnnol ar <>ud os ydych yn dioddef oddiwrth un o'r iirgo(ilion uciiod, gcllwch Bicrhau fod geuych ariechyd vu yr arenau. Maent yn pvrthio yn ol "•vdn'ii gwaith, ac yn analluog i gadw o'ch < j corjth y surni dyfrol a'r gwenwvuau arenol sydd vn dethreu cymaint o afiechydon. Mae giv:t:tli N-riretiati mor fawr ac mor ddiorpliwvs fel, pan unwaith y gwaelant, nis gallant byth wellhau heb gy north wy. Cynonhwy neillduol vr arenau ydyw Pelkni Akknau Ckkn i:okv BOAN (Doan'n Backache Kidney fills) gwnelir hwvnt o wreiddiau pur a llysmu a iachant lie a adfywiaut yr arenau mewn ffordd naturiol. Gwellhant bob math o anhwyider yn yr itrenaii ac yn y bledren; crvfhant y CCfl, a iachnnt boenau vn yr ytin.siii a'r lhvynuii, cyvirnnt. annhrefnau troethol (uiiimri/ dismders), ;I'r grafel; hwy a'ch aimlditfynant rhag balliant gwaed, rhag fflame^ (i'jlal1/l//f/lillll) yn y bledren, vnemia. dvfrglwyf, trwvthlif (dia- teB), a Brig fit's disease. Nid oes nnddY!J. unrhvw weitlirediti(I ar v eoluddinn. Un tiilt-g tybiJ mae annhrefnau troethol "11 unit; a ellid I I eu priodoli i'r arenau, ond niae t;\vydlfoniaetli ddiweddar yn proli fod y rlinn fwyat o afiech- ydon yn cael eu dechreuad yn yr organnu pwvwiir hyn. Felly, os ydych yn wllel, ni waeth beth a feddyliwch yw v mater, dech- reuweh ar unwaith gyda I'hklkni Akknai' Ckknhokn DOAN (Diion'.t Back-.chf Kidney Pith), a chriiwch gael eich arenau yu inch, yna hwythau a ddvgant yn ol i iechyd yr holl I õrannu- ereill. Xid drwy yr un ffordd arall Y'ch hadferir.  S?    Backache Sp ? a KidnfF!Jb iRrM?W ???_ ppilm ?M  a Vn???}?\?\?\?????????????<??????\ v  &< N  YR UNIG FLWCH -401 DIDWYLL. Gan holl fferylhvyr ac yn y Stores am 2/!( v blwch (j blwch 13/9 neu yn rhydd drwy y pmt yn syth oddiwrth v FOSTErit McCi.ki.t.an Co., 8, Wells Street, Oxford Street, London, W.
.coiorn y Llyfrau.I
coiorn y Llyfrau. I GAN WYDDONWY. 1 D.S.D.—Hughes and Son, Wrex- ham, yw'r cyhoeddwyr, a'r pris, swilt. Gall eich cyfanwerthwr ei gael i chwi. R.J.—Deliwch sylw—daw'r mater i fwy o sylw yn fuan, ac fel y dywedais o'r blaen, bydd angen i chwi fodyn fwy unol nag erioed os am osgoi'r doll new- ydd hon. S.-Mae Mr. Evans (W. M. Evans & Son, Seren, Caerfyrddin) yn dod heib- io'ch ardal chwi ambell waith. Nid oes lawer o reol, feallai, ar ei ymwel- iadau ef, felly gwell fydd i chwi ys- grifennu ato i ofyn ganddo. alw gen- nych chwi pan nesaf yn y gymdogaeth. Mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau a nodwch ganddo ef. Am y gweddill yr wyf yn gobeithio gallu'ch cyfarwyddo erbyn y rhifyn nesaf o'r "Darian." A.G.—Ar archeb mor lleied disgwylir i chwi dalu'r cludiad; ac mewn am- gylchiadau cyfEelyb cynghorwn chwi i ddelio'n hytrach drwy gyfanwerthwr nag yn syth at y cyhoeddwyr. Gyda mwy o brofiad dewch i ddeall y rheswm paham y rhaid ei bod fel hyn. D.M. S.—Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, mai'r duedd yn awr yw cyhoeddi mwy a mwy o lyfrau o hyd ar y telerau "net." Y canlyn- iad i hyn yw y ceir y pris cyhoeddedig felly am bob Ilyfr-am ryw gymaint o amser wedi ei gyhoeddiad, beth byn- nag. Dylai pob dosbarthwr a llyfr- werthwr roi ei gefnogaeth i'r system newydd hwn, am ei bod, yn rhoi yr un fantais i lyfrwerthwyr y pentrefi i gyflenwi anghenion eu hardaloedd eu hunain. Heb fod ymhell o'r man lle'r wyf yn ysgrifennu yr oedd ar Jawyllgor llyfrgell gyhoedduB yn ddiweddar angen llyfrau newyddion. Yr oedd ar y pwyllgor hwn rai personau go flaenllaw mewn undebau llafurol, na thybient hi'n dramgwydd o fath yn y byd ar egwyddor i orchymyn i'w hygrifennydd i geisio "estimate" oddiwrth lyfrwerth- wyr y gymdogaeth a thuallan, a bod yr archeb i'w rhoddi i'r hwn fuaBai'n fodd- Ion gweithio, mewn ystyr, am leiaf o dal,—a roddai yn ol fwyaf o discount. Yr oedd yna hen wr yn y gymdogaeth dan sylw, yr hwn er's. blynyddau sydd wedi methu dilyn ei waith arferol, a thrwy fawr ymdrech yn ceisio cael dau pen llinyn bywoliaeth yn nghyd drwy werthu llyfrau a newyddiaduron. Hwn, yn ei awydd am gael yr archeb, fel y bu ffola, a gynhygiodd dair ceiniog yn y swllt o "discount" ar brisiau heblaw "net." Rhoddwyd yr archeb i gwmni —dalier sylw, Cwmni o Lundain, am ei bod hwy yn cynnyg pedair ceiniog yn y swllt, er fod y naill a'r Hall yn gofyn y pris cyhoeddedig am lyfrau "net." S.J.O.—Nid ymdrinir & materion yn y golofn hon ond a fyddont yn union- gyrchol gysylltiedig a llyfrau a llyfr- werthwyr. Ar faterion o bwys, yn gofyn sylw buan, anfonir atebion drwy'r post pan yr anfonir llythyr- nodau at y cludiad. D.G.—Yr wyf yn gwneud ymholiad i'r cwestiwn a godwch, a chewch ateb gynted y gallaf. Sentiment" yn wir, nid yw ddim ar gyfer cael arian y rhent a bwyd i'ch gwraig a'ch plant. Mae llyfrwerthwyr, fel rheol, wedi eu dysgu i gydnabod nad, yw enwaediad ddim, na dienwaediad ddim-mewn busnes. Hyny yw, y mae wedi dysgu nad yw'n werth iddo ef ymdrabaeddu mewn "politics." Nid yw efe yn gallu gweled pa wahaniaeth sydd (os oes yma wahaniaeth hefyd) rhwng Vernon Hartshorn a Hugh Edwards ond y mae yn ceisio cyflawni'r Ysgrythyr yn bur lythyrennol, lie y dywed: "Bydded eich ymadrodd chwi (gan osod y pwyslais ar y 'chwi') yn ie, ie; nage, nage." Enfyn Mr. J. Wynne Parry, 18 Tithe- born Street, atom: Yr wyf yn ddiolchgar iawn i'r cyfeillion anfonas- ant ataf ynghylch hen lyfrau. Anfon- ais amryw o hen gerddi i un cyfaill. Disgwyliaf glywed oddiwrtho yn y man. Anfonodd un cyfaill ataf i ofyn a oedd Rhifyn Dwbl (Ionawr, 1906) gennyf. Nac ydyw, ac anawdd ydyw ei gael. Dyma ychydig o fargeinion gynhygiaf mewn llyfrau:— Gweithiau Dewi Wyn, 2/6; Golud yr Oes, 6/ Gweithiau Cawrdaf, 2/6; Gweithiau Ieuan Brydydd Hir, 2/ Cerddorion Cymreig, 1/6; Brutu- sania, 7/ Prydyddiaeth y Cymry, 6/ Cofiant y Parch. Thomas Jones, Din- Jbych, 4/ Cofiant y Parch. John Prichard, Amlwch, 1/6; Yr Ysgol Farddol (Dafydd Morgannwg), 1/ Llyfr y Cyfarfod Plant (Wm. George), 1/ a llyfrau eraill; 150 o Cymru (0. M. Edwards), etc., etc.
Advertising
Mae'r Cyllideb a'r Trethi Newyddion wedi poeni llawer, ond y mae Diffyg Traul, Bustl, Cur Pen, neu Flinderau'r Afu yn llawer gwaeth. Mater o lawenydd yw y gellir naill ai lleddfu neu iachau y rhai hyn gyda dogn prydlon ar ychydig o draul o BELENI LLYSIEUOL KERNICK. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blycbitu 7ic., 131c., a 28. 9c., gan yr holl fferyllwyr.
Diwrnod yn Rhydychen. I
Diwrnod yn Rhydychen. I Mi a glywais a'm clustiau son I am danat, ond yn awr fy llygaid a'th welodd di." Clywswn innau lawer o son am Rydychen, a gwel- swn ambell i fachgen yn mynd yno, ac yn eu plith fachgen o fab i minnau, a theimlwn awydd i dalu ymweliad a'r fangre, ac yn ddi- weddar, daeth hynny o fraint i'm rhan, ac addawais i chwithau Mr. I Gol., i roi helynt a hynt y diwrnod I a dreuliais yn Rhydychen. Diwrnod o godi bore a fu, o deithio caled, o ddringo grisiau, o weld adeiladau, I o ymwau drwy lwybrau culion, o gerdded diddiwedd gan amled y gwahanol fannau yr ymwelwn â. hwynt, fel erbyn gorffen o'r dydd y teimlwn rhywbeth tebyg i hyn-os yw'r diwrnod hwn yn enghraifft o'r hyn yw tymor yn Rhydychen, yna melus bod hebddo! Ceisiwyd gwneud mewn diwrnod, yr hyn y dylaswn gael wythnos ato o leiaf A gadewch i mi roi ychydig o hanes y dydd a'r daith. Cychwynwyd o Glydach fore Llun am Fryste, er cael golwg ar yr Arddanghosfa, ond wfft iddi! A chynghorwn ddarllenwyr y DARIAN, os yw yn eu bryd a'u bwriad i ymweled A'r Arddanghosfa, i aros o leiaf, am fis eto, Ar byn o bryd, hanes yr Ar- ddanghosfa yw eiddo'r hyn a adroddir yn yr adnod honno "Y dyn hwn a ddechreuoctd adeiladu, ac ni allodd ei orffen." Yn anorffen y mae hithau mewn llawer ystyr. Ond cafwyd cyfle i alw heibio i ffrindiau yn ninas Bryste, a threul- iwyd dwy noson ddeddd o dan gronglwyd glyd Mr. W. D. Edwards, un o fasnachwyr mwyaf llwydd- iannus y ddinas. Ac ni wiw aros yno, heb roi tro hefyd am breswyl y Cymro pybyr, a'r Bedyddiwr pybrach na hynny, Mr. Robert Roberts, brodor o Glydach, ond wedi treulio 21 o flynyddau yn yr heddlu ym Mryste' Yn anffodus i mi, yr oedd ef yn digwydd bod yn un o nos-wylwyr yr Arddanghosfa, ac wrth ei swydd yn bennaf rhag digwydd i rai o'r merchetos disyn- wyr a diras-y sutfragettes-i roi'r He ar dAn Dinas ddiddorol yw Bryste, a gallwn lanw hyn o lith a chryb- wyllion am dani, ond dinas arall yw'r nod, sef Rhydychen. Codwyd yn fore dydd Mercher, dipyn yn foreach nag yw arfer pregethwr, er bod mewn pryd i ddal tren rhad redai oddiyno i Rydychen, prif ddinas dysg y cyfanfyd. Adna- byddais y ddinas o draw, oblegid gwelwn ei thyrrau'n ymgodi o flaen y golwg. Rhifwch ei thyrrau hi." Ac un o'r pethau cyntaf a dery'r ymwelydd ynglyn a Rhydychen, yw ei thyrrau a'i phinaclau, y rhai a ymgodant i'r golwg yn y pellter. Yn fy nghyfarfod yn y stes-i-on (ys dywedai Roberts, Llwynhendy) yr oedd fy mab Emrys, a da oedd gennyf ei weld, a'i gwrdd, a chyf- newid ychydig eiriau'n Gymraeg ym mro'r Sais. Wedi mynd i'w lety, a chael lluniaeth, awd allan i weld y ddinas. Anodd fyddai des- grifio'r ddinas. Mewn rhai pethau, y mae ar ol pob dinas arall. Dis- gwyliech i ddinas sy'n brif-ffordd i addysg fod ar y main-line, ond, ys dywedai Llwynhendy eto, ar ryw siding y mae, a'r stes-i-on oddiallan iddi, ac yn lie bod y tren yn rhedeg iddi a thrwyddi, rhed heibio iddi, a chafwyd cryn helynt a helbul i gael caniatad gan yr awdurdodau i redeg tren rywle i gyrion y ddinas. Ac ar y strydoedd drachefn gwelais rywbeth anhygoel yn nyddiau'r ceir trydanol, sef tram-car yn cael ei dynnu gan ddau geffyl, a'r ddau geffyl yn ymddangos heb unryw awydd i gyrraedd pen y daith. Mae llawer o dai'r ddinas drachefn yn blaen a diaddurn a hen-ffasiyn- ol, ac amryw o'i heolydd yn gyfyng a chul iawn, ac yn y cyfryw a'u cyffelyb, ceir golwg ar Rydychen ar ol. Ond, ac y mae hon yn ond- fawr iawn-mae yna ystyriaethau sy'n gwneud Rhydychen ar y blaen i ddinasoedd y byd! Mae ynddi fwy o golegau na'r un ddinas. Mae ynddi fwy o nifer o efrydwyr na nemor un. Mae ynddi fwy o olion henafiaethol. Mae wedi bod yn feithrinfa am dymor i fwy o wyr o nod na'r un, oblegid gall restru ymhlith ei dinaswyr ar ryw adeg neu gilydd rai o enwogion pennaf pob cylch mewn cymdeithas. Mae llechres ei henwogion yn bur, ac yn ddisglaer tuhwnt. Ie'n ddiau ar lawer ystyriaeth, y hi yw prif ddinas y byd! I weled yr ysgolion yr aethwn i yno, a gwelais lawn dwsin o honynt, ac ni welais y fath olygfa erioed. Mae'r gwr ieuanc y medd- wn i ddiddordeb ynddo, yn ysgolor yng ngholeg yr Iesu, ac yn naturiol teimlwn innau awydd i weld y Coleg hwnnw; heblaw fod y Coleg oblegid ei gysylltiad agos a Chymru o'i sef- ydliad hyd heddyw, yn ei wneud o ddiddordeb arbennig i Gymro. Y Cymro cyntaf gysylltir ag ef yw Dr. Hugh Price, brodor o Sir Frych- einiog, yr hwn a fu farw yn 1564. Efe fu a'r Haw flaenaf, a chyntaf, tuag at ei wneud yn sefydliad addysgol. Mae rhagor nag un Cymro adnabyddus ac enwog wedi bod yn Brif-athrawon y Coleg, a chydnabyddir y gwr sydd wrth y llyw yno'n bresennol fel un o brif a phennaf ysgolheigion Celtaid y byd, sef y Syr John Rhys. Ac efallai y caniateir i mi enwi rhai o wyr enwog y genedl sydd wedi bod yn fyfyrwyr yno ar wahanol adeg- au, ac enwir hwy yma nid yn ol eu hamseriad, nac yn ol graddau eu henwogrwydd, nac yn ol y gwahan- ol gylchoedd y daethant i fri ynddynt, ond yn bennaf yn ol llyth- yren y wyddor. Dyma Thomas Charles, o'r Bala, fu a llaw mor amlwg ynglyn a sefydliad yr Ysgol Sul a Chymdeithas y Beiblau. Dr. Thomas Cape, anwyd yn Aber- honddu, yn 1747, urddwyd yn offeir- iad Eglwys Loegr vn 1772, ond oblegid dyfod o hono i gysylltiad I a John Wesley yn 1776, a adawodd j yr Eglwys Wladol ac a fwriodd ei goelbren ymhlith y bodyr Wesley- aidd. Efe fu prif offeryn sefydliad y Genhadaeth Dramor ynglyn a'r Cyfundeb a nodwyd. Bu farw yn ei gaban coed yn yr India yn y flwyddyn 1814.—Dr. Davies o Fall- wyd, roddodd gymorth sylweddol i'r Esgob Parry ynglyn a diwygiad Beibl William Morgan, ac a gy- hoeddodd Eirlyfr Lladin a Chym- raeg -Parch. Daniel Evans,'Daniel Du o Geredigion,' awdwr Gwinllan y Bardd.'— James Howell, anwyd yng Nghefnybryn, Llangamarch, yr ieithwr a'r llythyrwr enwog, yr hwn garcharwyd, ac yn ystod ei gaeth- iwed a ysgrifennodd ei 'Familiar Letters' sy'n fyd adnabyddus.— Syr Leoline Jenkins, brodor o Fro Morgannwg, ac a benodwyd yn 1691 yn Brif-athro Coleg yr Iesu.- Thomas Jones, o Aberedw, Sir Faes- yfed, un o ddisgyblion Richard Wilson, ac a ddaeth agos enwoced ag yntau fel arlunydd.—Simon Lloyd, un o'r offeiriaid a ymunodd a'r Methodistiaid, ac a gyhoeddodd esboniad ar Lyfr y Datguddiad.— Edward Llwyd y naturiaethwr a'r hynafiaethwr enwog. Goronwy Owen o Fon.—Dr. David Powell fu o gryn help i'r Dr. William Morgan ynglyn a chyfieithu'r Beibl i'r Gym- raeg yn 1588, yr hwn hefyd a olyg- odd ac a gyhoeddodd amryw o weithiau gwerthfawr. vavasor Powell a anwyd yn y Cnwcglas, Sir Faesyfed, a ddychwelwyd o dan weinidogaeth Walter Cradoc, ac a deithiodd trwy bob rhan o Gymru i bregethu 'r Efengyl.-Rees Prichard, y Ficer o Lanymddyfri, gynheuodd ei ganwyll. Pan oedd tywell nos dros Gymru, Heb un argoel toriad gwawr." Rice Rees, olygydd y Ganwyll ac a gyhoeddodd ei Welsh I;anita.- Henry Vaughan, brodor o Frych- einiog, yr hwn oedd feddyg a bardd enwog.— John Wynne, yr hwn yntau a fu'n Brif-athro yng Ngholeg yr Iesu, am ddwy flynedd, pan y dyrch- afwyd ef i'r fainc esgobol. Dyna i chwi amryw o lawer mwy allesid enwi, o wyr enwog mewn dysg a dawn fu'n ysgolheigion ac athrawon yng Ngholeg yr Iesu. A charwn enwi rhai o Gymry Byw addysgwyd yno, ond ymataliwn am y tro. yno, Ilith eisoes wedi mynd yn feithach nag y bwriadwn. Os y ceir egwyl a hwyl, feallai yr an- fonwn lith eto am y colegau ereill a gwahanol fannau o nod yr ymwel- wyd a hwy, hynny yw, os nad ellir darbwyllo Emrys neu Henry Lewis i wneud hynny. T. VALENTINE EVANS. 13, vi., 1914. 9
I-Beirniadaeth.i
I Beirniadaeth. EISTEDDFOD LLANHARRAN. Mawrthgtfvn 1914. i DARN ADRODDIADOL I BLENTYN Pedwar i mewn. Nid pob bardd fedr gyfansoddi darn adroddiadol, yn neillduol darn adroddiadol i blentyn. Disgwylir swn cerdded mewn darn o'r fath, a'r peth diogelaf o ddigon yw dweyd stori syml ar gan. Excelsior": An English poem of six stanzas. Rather a good descrip- tion of the Coming of Spring, but we hardly believe that it is written from a child's standpoint at all. Arthur: Cyfres o orchymynion, bob un yn dechreu gyda'r gair "Paid"— gair na ddylid ei ddefnyddio ond yn brin brin wrth ddysgu plant. Ond y gwyn fwyaf sydd gennym yn erbyn Arthur yw nad darn adrodd i blentyn sydd ganddo o gwbl. Darn yw i wr hanner-cant i'w adrodd i gynulleidfa o blant. Tant Esmwyth: Cyfres o henhillion yn dechreu gyda "0, na bawn i". Gwir fod darnau o'r natur yma yn boblogaidd iawn, ond anodd iawn i blentyn yw adrodd dymuniadau o'r fath gyda llawer o sel. Meddyliwch am fachgen neu ferch iach yn gallu dweyd 0, na bawn i yn lili!" Awen Ebrill: Nid yw yntau chwaith yn llwyddiannus iawn. Pwy ystyr all plentyn roi i linell fel hon Yn y wawrddydd dardd o'r Groes?" Mae y pedwar yn feirdd rhagorol; ond yn sicr sibmedig yw eu gwaith yn y gystadleuaeth hon. Y goreu o ych- ydig yw Awen Ebrill." W.E. V
Colofn y Beirdd. I
Colofn y Beirdd. I Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu I cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. Y DELYN. I Henafol, ber off-eryn, 11 swynol Wasanaeth sydd ddillyn, Si hudolus y delyn Dawdd deimlad, llygad dry'n llyn. Adloniadol ei nodwedd,—a'i thannau Rhwth a ennyn foledd Ysbrydol,—eawn ddawns bridwedd, Grea Ion wladgarol hedd. WM. BASSETT. UNDEB. I Beth yw Undeb? Iaith iawnder,— dewr wych nerth Drecha nwyd gorthrymder; "Twr lies i ormes yn her Ar faes gwlad—arfwisg glewder. Clydach. PERLLANNOG. Y DERYN PUR. I Ar y dderwen wrth y ty- Aderyn du sy'n canu, Mae yn swyno 'nghalon i A'i felus lais yn moli; Yma!n pyncio mae yn llawen, A'i buraidd galon ar y golf en, Llawenychu a chlodfori, Galw'n uchel mae ar Gymru: O! deuweh bellach at eich gwaith I godi'n hiaith i fyny." Llais yr un aderyn du Bob boreu sydd yn pyncio 0 flaen y drws ger bron y ty, Ei fiwsig sy'n atseinio; Yr un seiniau sy'n fy nglustiau, A'r un yn union yw'r molawdau, Mae yn unig, mae yn ddiddig, Mae yn seinio'i felus fiwsig, Bob boreu lion ei hyfryd waith Yw cadw'i iaith nodedig. Bryncethin. CYNDAL. BUGEILIAID MYNYDD DU, LLAN- DDAUSANT. Hen Fynwent Plwyf Llanddeusant Sydd gysegredig fan, Beddrodau'r pererinion sydd Wrth furiau llwyd y Llan; Bugeiliaid praidd y mynydd, Hen arwyr dyddiau fu, A gafodd fan eu holaf hun Wrth droed y Mynydd Du. Mae'r mynydd ar ei seiliau Yn gadarn megis cynt, A phrydferth ydyw gwellt y waen, Yn chwarae yn y gwynt; Ond yno, 'run ni welir O'r hen fugeiliaid fu Yn dringo llethrau serth y bryn I ben y Mynydd Du. O'r Llyn y llifa Sawdde, I'w gwely yn y pant, A dorau egyr, iddi hi, I ddyfroedd llawer nant, Ond distaw y telynau Fu'n chwarae ger ei lli, Ni ddeuant mwyach i'r rhodfeydd Sydd ar ei glannau hi. Mae Llechach .fel pe'n llechu Rhwng creigiau, ar ei thaith, A rhoddi'n rhad o'i dyfroedd clir Y w ei hyfrydol waith; Llawn bywyd yw'r brithyllod A welir ynddi'n llu, Ond marw y bugeiliaid mad Wrth droed y Mynydd Du. Brefiadau 'r praidd a glywir, A chyfarthiadau'r cwn, Ar ddydd crynhoi, cymanfa fawr Y Sawdde, am ei swn, Ond distaw'r lleisiau glywyd Yn groch o foel hyd fan Gorffwysa'r hen fugeiliaid fu Yn mynwent hen y llan. .7i Y ddaear rydd ei chynnyrch Yn helaeth fel o'r blaen, A gwelir defaid man ag wyn Yn pori ar y waen; Ond nid oes un yn aros O'r hen fugeiliaid fu Yn fawr eu sel ar ol y praidd Ar lethrau'r Mynydd Du. Sigledig hyd ei seiliau Yw'r hen fythynod mad, Cartrefi hen drigolion fu Yn meithrin tir y wlad; Fe aeth yr hen amaethwyr I orwedd at y llu, 0 fewn y Fynwent wrth y Llan Wrth droed y Mynydd Du. Daw Gwanwyn, Haf, a Hydref, A'r Gaeaf yn eu tro, Ac anian sydd mewn gwisgoedd cain Yn harddu'r hyfryd fro, .Ond distaw'r gan a glywyd 0 enau'r cedyrn lu, Tra yn cyflawni dyddiol waith Ar lethrau'r Mynydd Du. Y lleisiau mwyn soniarus Ddistawodd yn y glyn, Ond bydd eu henwau mewn coffad Tra dyfroedd yn y llyn. Y babell glai a roddwyd I orwedd gyda'r llu Hyd foreu'r atgyfodiad mawr I W rth droed y Mynydd Du. i Y tadau aeth i orffwya Ar ol llafurus ddydd, Mewn gobaith cael meddiannu'r wlad Yn addawedig sydd; A phan daw bore'r codi, Yn hardd y gwelir llu Mewn gynau gwynion, am eu gwaith Wrth droed y Mynydd Du. Tredegar. W.LL. FFORDD DYRCHAFIAD (" THE HEIGHTS.") YmJbiliais a'r Angel: "Rhohetpimi ddringo I'r uchder disgleirwych, can s yno mae'm bryd Yng ngoleu yr haul, heb un cwmwl i'w guddio, 1-wehlaw hall drafferthion a dadwrdd y byd.' son arn Yr ateb a gefais oedd: "Paid son am uchder, A chymaint o waith yn dy aros ar igwr Rhaid gorffen y cyfan cyn meddwl am ddringo I oleu'r uchelder-dos, dechre yn awr Ar d'61 y mae ereill a ddeuant i'th gartref, Rhaid gwneuthur y bwthyn yn deg cyn eu dod, Bydd gwneud cartref dedwydd 1 • 1'ai o'th gyd-ddynion Yn gymorth i tithaui gyrraedd dy nod.„ Taclusais fy mwthyn-'roedd popeth yn drefnus. Gorffennnais Ac meddwn^ynhapuB fy ngwaith, Mae'r ?rSef?ddedwydd pwy bynnag I'D, dttaW yno i'r I', d? T felly, cychwynwn i'r daith." Na,n?"meddarr Angel, d'yw hyn ddim yn ddigon, Amhosibl cychwyn a gadael dy ardd I .rail ei chwyn. a ddaw yn hyderus I geisio-nid efrau—?ond J??'?? hardd Symudais yr efrau o'r ardd heb ymaros, Meddyliais yn awr fod fY Ilafur ar ben, S'^T.lo^ byohao fel pe bae yn diolch • Am belydr heulwen, a glesni y nen. Ond "Owel," meddai'r Angel, gar- dotyn mewn eisiau ??-?s Ynsefyllynwylaiddynyrnyl???- Anghyson f' ai cychwyn a gwel, d Mcragr^aSfe mae popeth n,or Mor ages i'th ardd lie m? ?P?..?? th m?or dlws. H ?''  ol canfo d y Cydsyniais a'' r AA ngel, canfod Y truan, Tosturiais wrth weld ei angen-yn wir, Aeth ymaith dan ganu, k chalon ddiolchgar, Ac meddwn, O'r diwedd mae'r Uwybr yn glir." Rhaid aros am ennyd, mae r gwaith heb ei orffen, Gwel yna. dy frawd sydd fel tithau a'i Ar adael pob gwagedd, a chyrracdd yr fryd 1, c b yrra-e d d yr uchder; Ei ner?ydd yn pallu-mae'n syrthi. o hyd. Er garwed ? llwy?r, er cymaint y pell- ter, 'Rwyt?n llawer cryfach,-? phalla dy nerth. Ac feuy, rho'th law i dy frawd sydd yn wannach Gan gofio'i fod yntau'n Uawn cymaint o werth." Ami'ncynorthwyofy?rawd ^da Dywedais, 0, Angel, tyr d gyda ni 'nawr, 'R ym ?n ein gorchfygu gan gryfed ein hawydd oddiwrth Am gyrraedd yr uchd,r oddiwrth bethau'r llawr." v Atebodd yr Angel a gwen àr  At.bcddyrAng?yn g ffyddlon-gorff en- Ymdrechaist yn ^«y Jdlon_gorfien Ae er 'ffmawr^ndod-^ ngoleu'r Ii chelder Y Safw^cyn gwybod i'm ddechre y daith! Senghenydd. ENID HUGHES.
Eisteddfod Caerffili, Llungwyn,…
Eisteddfod Caerffili, Llun- gwyn, 1914. ENGLYN: YR HYDD." Mae deugain englyn yn y gystadleu- aeth yma. Mae y canlynol yn arg- hywir o ran cynghanedd y cyrch yw Y maen-rhwystr 1 r mwyafrif o honyn Syria, Tabor, Talddu, Cymro, Dan yr Hesg. Herw Hehwr, Taw, Robin Rood, Hen Boacher, lolo (y llmeli gyntaf), Dewi. e, } Mae rhai ymysg y deugain £ 0(j yn eithaf siwr beth F hydd. Efallai mai y goreuon ymysg: iia^ we 0 englyn- wyr da yw Nimrod, Dis,th, Y March Gwyn, MabyCoed?P?dur Lewsyn Gw3m, Mab y Coed, yr Heliwr, Coedwigw r, Ar y^ Twyn, Dan yr Heulw?n, Aled ?Fon ?y ? Y Carw yr Heulw,;n Aled, pontyrewig, Y Carw Coch. Y ;?,e englyn y dosparih yma yn agos iawni.w?g??d ?Dyma yr un mwyaf naturiol: Hyddh..nus.rdd..yd<'?-?M Fin oer y^fonig Un cormog yw—car hen gwlg A phriod hoff yr ewig. Gwobrwyer Dan yr Heulwen, awdur yr uchod. W. EVANS. (Y buddugol vw Mr Thomas Titus Williams, Cwmtwrch, Swanaea V?. ley.)