Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
COLOFN Y BOBL IEUAINC.',
COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. i Cwestiwn yr laith Gymraeg. Ni all llythyr clir ac iach "Calon Friw' 'lai na tharo at galon rhagor nag un dosparth y cyfeirir yn bendant atynt ganddo. Bendith i'r symudiad cenedlaethol ar hyn o bryd fyddai cael yr oil a ellir o ddadorchuddio- ar gyflwr pethau. Y peth cyntaf yw di- noethi modd y delo'r ffeithiau'n fyw ger ein bron. Cymerer y dosparth- iadau anodir gan "Calon Friw." Awgryma yn ddibetrus nad yw cret- ydd Cymru heddyw yn gweini i fywyd goreu'r genedl. Dywed diwygwyr cym- deithasol nad yw'r eglwys yn allu er eyfiawnder mewn cymdeithas. A phrin y gall neb wadu, beth bynnag fu dy- lanwad anuniongyrchol yr eglwys, fod y symudiadau mawr mewn gwyddon- iaeth, athroniaeth a chymdeithasiaeth wedi cychwyn y tu allan i'r eglwys. A gwir yw'r gair mai tu allan i gylchoedd yr eglwysi y mae'r deffroad Cymreig wedi'i fagu. Yn y rhan fwyaf o'r symudiadau crefyddol efelychu'r estron ydyw. Meddylier am yr ymysgwyd sydd y dyddiau hyn i geisio cyfaddasu'r Ysgol Sul at ofynion bywyd diweddar. Gadawer i nifer o eglwysi ymuno a'u gilydd mewn tref, ni wna dim y tro ond cael Sais i areithio ac egluro, ac yna ffwdan mawr i impio pren estronol ar foncyff cartrefol. Dyma sydd wedi lladd ein gwreiddioldeb. Paham nad allem fel Stephen Hughes, Charles Ed- wards, ac ereill yn yr 18fed ganrif dar > a; gynlluniau cydnaws a'n hanianawd fel cenedl. Cymerer engraifft arall o'n llacrwydd yn y eyfeiriad hwn. Nid si yn y gwynt ydyw bellach, ond ffaith y gellir ei gwaeddi ar bennau tai fod amryw on heglwysi hanner-yn-hanner yn paTotoi'r ffordd i fynd drosodd yn hollol at y Saeson er mwyn sicrhau'r gyflog ¡ addewir i'r gweinidog. Ymddengys i mi mai dyma un o'r arwyddion gwaeth- af o gwrs pethau yn ddiweddar. Digon tebyg y gwelir gwerthu ardaloedd* yn I ysgafn cyn hir ar y mater yma. Nid j wyf ym meddwl y gellir siarad yn rhy I glochaidd wrth yr eglwysi parthed eu dyledswydd i fod yn deyrngar i'r Gym- raeg. Mae Adroddiad Pwyllgor An- hawsderau'r laith ynglyn a Chyfarfod Misol y Methodistiaid Calfinaidd yn Nwyrain Morgannwg yn un o'r dat- I guddiadau mwyaf digalon i unrhyw Gymro a gar ei wlad. Amlwg ydyw fod pethau wedi cael rhedeg i ormod rhysedd cyn dechreu agor llygad ar y I drwg. Ar yr un pryd, dylem lon- gyfarch y brodyr yn y Cyfundeb Meth- odistaidd am eu gwroldeb a'u sel i wybod y ffeithiau yn gywir. Pa bryd, I tybed, y bydd i'r enwadau ereill symud ryw gymaint? Hwynthwy sydd gryfaf o ran rhif o fewn cylch maes y gad. Mae gosodiad "Calon Friw" mai'r I "eglwysi a'r weinidogaeth" yw'r rhwystrau pennaf ar ffordd sylweddol- iad o ddelfrydau Cymreig," braidd yn eithafol er fod ynddo fesur o wir. Yr wyf ym meddwl fod newid mawr yn nhon gweinidogion ieuainc Cymru rhago r yr hen weinidogion ar fater I yr iaith. Ar aelwydydd yr hen wein- idogion Saesneg a siaredir gan amlaf, a hynny am y tybid o bosibl fod y sawl a siaradai felly o uwch gradd a thras, ond fy mhrofiad i ydyw fod pethau wedi newid yn ddirfawr. Mae awyrgylch yr aelwyd yn llawer mwy Cymreig nag y bu. Nis gwn i sicrwydd faint o ddiddor- deb llosg sydd yn y weinidogaeth o blaid y Gymraeg. Mae lie i ofni mai ychydig yw cefnogaeth y gweinidogion i I lenyddiaeth a mudiadau Cymreig. Dyma a ddaeth i'm clyw yr wythnos ddiweddaf yn y dref hon:- Dydd Gwyl Dewi diweddaf cyfarfu geneth ifanc a'i bugail ysprydol ar y stryt. Hyhi ar ei ffordd i Wyl y Cymrodorion, yntau ar ei rawd o gylch y dref. Pan ddeallodd mai yno yr oedd hi yn cyfeirio, dywedodd wrthi mai da iddi fuasai llosgi'r tocyn a throi ei chefn ar y fath ddylni. Dyna ymag- weddiad un a honna ei fod yn perthyn i Eglwys y Cymry. Teg yw cydnajbod mai prin y gellir taro ar weinidog yn elynol i Gymru a'i sefydliadau, er i lawer fod yn farw i'r peth. Ai tybed nad yw'r hyn a ddywedir am yr athrofeydd enwadol wrth wraidd y llacrwydd yma? Ni oddefid yr esgeu- lusdod ofnadwy hwn mewn unrhyw wlad arall. Pa reswm fod dynion ieu- anc a godir i efengylu yn ein gwlad yn treulio tair a phedair blynedd a mwy mewn coleg a gynhelir gan arian gwerin Cymru heb gael gwers erioed yn iaith eu mam? Sut y gellir disgwyl iddynt ymgynefino a meddwi ar arddull gain y lienor a'r bardd. Rhaid meithrin awch at iaith, a byw ym myd ei pheth- goreu cyn y gwerthfawrogir ac y gwas- anaethir hi. Dyma agwedd ar addysg enwadol na chlywir air byth yn ei chylch mewn Undeb na Sasiwn. Gellir pasio penderfyniadau wrth y miloedd yn erbyn pechodau a drygau mawr, ond beth am y drygau ysprydol sydd yn nefolion leoedd yr eglwysi. Carem i'r golofn hon fod yn gyfle datganiadau cymwynaswyr ein hiaith a'n gwlad. Mae amryw yn barod wedi bod yn ddigon caredig i ddiolch am godi'r mater i'r gwynt. Carem wahodd ereill o gyffelyb aiddgarwch i "Calon Friw" "dorri trwyddi" yn y golofn hon. Ati, feibion y Cedyrn.
[No title]
0 herwydd dyfarniad y Llefarydd yn 1 Nhy y Cyffredin bydd raid gwneud cryn gyfnewidiadau yng Nghyllideb Mr Lloyd George, a gohirir y rhoddion addawedig i'r awdurdodau lleol. Y mae ffytdd rhywrai heblaw trosedd- wyr yn galed.
Am Dro i'r Neuaddlwyd.1.
Am Dro i'r Neuaddlwyd. 1. Anfarwolwyd rhai ardaloedd gwledig gan enwogion pwlpud Cymru Fu. Drwy gysylltu y Wern ag enw y seraff bregethwr—Williams—y codwyd y Wern i sylw'r oesau. Codwyd Myn- ydd Hiraethog yn uwch i olwg Cymru drwy i'r cawr fardd-bregethwr Gwilym Hiraethog gynieryd benthyg ei enw. Er fod enw Dr. Phillips yn anwahan- adwy oddiwrth Neuaddlwyd, nis "gellir son am yr enw Neuaddlwyd heb fod anfarwolion lawer yn codi i'r meddwl, ac yn cael lie cysegredig yn y galon. Eto, y mae enwogion hyn yn perthyn yn agos i Dr. Phillips, efe fel pregethwr a gweinidog, fel athraw a chyfaill fu y cyfrwng er rhoddi cychwyniad iddynt ar ei gyrfa gyhoeddus. Un o ddynion mwyaf ei oes ydoedd Dr. Phillips, fel pregethwr a gweinidog i'w eglwys, fel cenhadwr yn Sir Aberteifi, fel athraw i bregethwr, ac fel esboniwr, fel y prawf ei esboniad cynhwysfawr a chlir. Bendith, nid yn unig i eglwys ac ar- dal yw cael ei fath yn weinidog, ond Ileda y fendith dros y sir, y wlad a'r byd. Ardal wledig, dawel, a swynol o brydferth, o fewn cam byr i Aberaeron, yw y Neuaddlwyd. Y mae'r dyffryn a'r bryn wedi myned i gyfamod a'u gil- ydd i harddu y lie ac y mae priodas awelon mor a mynydd yn sicrhau fod yr j ardal yn neilltuol o iach. Hyd yn ddiweddar, nid oedd ond can- iadau adar, brefiadau defaid, a swn! preswylwyr ty a chysegr yn torri yn swynol ddymunol ar dangnefedd hedd- j ychol y wlad o amgylch. Ond heddyw clywir swn peiriannau a cherbydau y rheilffordd yn pasio rhwng Llanbedr- Pont-Stephan ac Aberaeron ar lan y mor aflonydd. Un o ddyffrynoedd prydferthaf y De I yw Dyffryn Aeron. Yr oedd gan deith- wyr cerbydau hamddenol yr heol well cyfle i weled a sylwi, edmygu a dotio ar ei ogoniant nag sydd gan etifeddion y tren, er nad yw hwnnw yn hollol mor gyflym a'r Boat Express! Un o beryglon y tsawl ruthra drwy y byd yw pasio drwyddo heb gael golwg arno y pererin hamddenol sydd yn cael gweledigaethau gogoneddus byd natur. Rhag ofn i'r ymwelydd anghyfarwydd gamgymeryd, eglurwn yn ddiymdroi fod darn o daith rhwng yr addoldy a'r hen ysgoldy, neu adfeilion yr hen ys- goldy. Ond i fechgyn a merched Mor- gannwg yn mwynhau darn helaeth o fis yn wyliau 11awen ar fin y don, rhamant farddonol neu freuddwyd felus yw'r daith o Lanerch Aeron heibio'r addoldy hyd yr Ysgoldy. Heb y daith i gyd- yn rhannol yr ymwelwyd a'r Neuadd- lwyd, a bydd bwlch pwysig heb ei lanw ym myd hanes a chalon. Mae'r "Achos Da" yn yr ardal yn arwain y sylwedydd am dro i'r gorffen- nol pell. Yr oedd Ymneilltuwyr yn Sir Afcerteifi cyn geni 1662, er mai y flwyddyn gyfoethog hon ddaeth a'r cynhaeaf i'r amlwg. Y mae dolen-gydiol rhwng Neuadd- lwyd a Chiliau-Aeron, ac arweinia yr hanes ni i ganol dadleuon a chwerylon a rhwygiadau. Ar wahan i gychwyniad Eglwys Loegr yng Ngheredigion, diddorcl yw dilyn camrau yr Annibynnwr, y Bed- yddiwr, y Crynwr a'r Undodwr. Bu Apostol Sir Gaerfyrddin (Stephen Hughes) yn yr ardaloedd cylchynol "yn bwrw tan ar y ddaear." Yn canlyn gwroniaid 1662, rhoddodd y nefoedd Phillip Pugh yn apostol i ddarn eang o Ganolbarth Ceredigion. Dilynwyd yn- tau gan gedyrn lawer-fel mai nid ar ddyfodiad Thomas Phillips y cychwyn- nwyd yr Eglwys Annibynnol yn Neu- addlwyd. Diddorol yw darllen am weinidogion o ardaloedd pell yn bwrw golwg dros y praidd—William Gibbon, Capel Is- aac Henry George, Brynberian, ac eraill. Doniol yr hanes am Eglwys Neuadd- lwyd yn ysgrifennu "llythyr llym a cheryddol" at Eglwys Mynyddbach, Morgannwg, am feiddio cymeryd David Davies oddiarnynt! Bu Thomas Phillips yntau am tua blwyddyn cyn ateb yr alwad o Neuadd- lwyd, gan ei fod yn petruso rhwng Athrbfa Homerton a'r alwad. Urdd- wyd ef Ebrill 6ed, 1796, ac efe yw'r gweinidog sefydlog cyntaf yn hanes yr eglwys. Bu llwyddiant mawr ac amlwg ar ei weinidogaeth; bendithiwyd yr eglwys a diwygiadau nerthol, a dywedir fod yr enwog Dr. Phillips wedi derbyn "am- ryw filoedd yn aelodau yn y Neuadd- lwyd a'r canghenau." Dyma fam-eglwys Pencae, Mydroilyn, Aberaeron, Llwyncelyn, Dihewyd a lle- oedd eraill. Ar y 3ydd a'r 4ydd o Rhagfyr, 1835, ordeiniwyd Mr William Evans yn gyn- orthwywr i'r Dr. Phillips. Dyna yr Hybarch William Evans, Aberaeron, un o'r gweinidogion sancteiddaf ei fywyd a dwyfolaf ei ddylanwad a welodd Cymru. Sylwed y darllenydd fod Aberaeron wedi myned yn gysylltiedig ag enw y gweinidog bellach—yn lie Neuaddlwyd. I Gydag amser aeth y ferch yn gryfach na'r fam, a naturiol i'r ferch gael ei henw, er fod y fam a'r ferch yn parhau o dan yr un weinidogaeth hyd heddyw. Yn 1891 urddwyd Mr T. Gwilym Evans yn gyd-weinidog a'r Hybarch William Evans, ac er's blynyddodd bell- ach y mae holl ofal y ddwy eglwys arno f ef; ac y mae yn un o weinidogion cryf- af y sir-yn ei holl gylchoedd cy- hoeddus. I { Craffed y darllenydd ar y ffaith hynod —mai y Parch. T. Gwilym Evans yw trydydd gweinidog yn Neuaddlwyd er gwanwyn 1796-a dymunwn iddo .flyn- yddoedd lawer yn ei gylch enwog, gyda llwyddiant a pharch mwy a mwy o flwyddyn i flwyddyn. Naturiol i'r darllenydd yw gofyn: A oes gan y llythyr llym a cheryddol at Eglwys Mynyddbach, Morgannwg, ryw ran mewn cael cadw y gweinidogion heb symud i eglwysi eraill!, Prydnawn dydd Gwener, Mai 22ain, 1914, dadorchuddiwyd Cofgolofn hynod o brydferth i Enwogion Neuaddlwyd. II Yr Athraw Syr Sdward Anwyl, M.A., fu yn dadorchuddio, a thraddododd anerchiad gwir werthfawr-yn benaf ar Dr. Phillips. Dangosodd lod Dr. Phil- lips yn fwy na dyn enwad, ac yn fwy na dyn ardal, fod t mneillduaeth yn ddyledus iddo, a Chymru a'r byd wedi profi ei ddylanwad. Dychwelwn at yr Y sgol a'rEnwogion mewn rhifyn arall. Aneddfa, Cellau. J. D. JONES, j i I
0 Bontardawe i Gaerdydd. I…
0 Bontardawe i Gaerdydd. I Ac yn ol ar ein gwell ddarllenydd, a rhaid i ti gydnabod fod y duw "Mynd" yn bwyta llawer iawn o arian ac amser pobl yr oes hon, a hynny yn ami er niwed, ysywaeth. Pan mae gau-bleser a meddwdod ynglyn a'r mynd, melldith ydyw, yn arbennig i weithiwr caled glo neu ddur. Chwilia llawer o'r gweith- wyr am seibiant ac adnewyddiad nerth yn yr un modd ag y gweithia llawer er gwario cyfoeth nad yw'n eiddo iddynt. Gwibdaith fodurol gawsom ni gyda Mr G. T. Jenkins, Arweinydd Cor y Tabernacl, a'i Ddosparth Ysgol Sul, yn ddeuddeg mewn nifer, ynghyda dau ereill o'r ysgol yn gwneud pedwar-ar- ddeg. j Cychwynnwyd bore lau, y 4ydd cyf., am saith ar y gloch oddiwr Gapel y Tabernacl, a'r arosfa gyntaf oedd Pontypridd. Ac 'roedd y bore'n chwerthin I Ei heulwen dros y wlad, Ac Eden tan wen Hefin Oedd ael y cwmni mad. Awd ymlaen yn hwylus ac a llygaid agored trwy un o ardd-lwybrau cread, sef Cwm Nedd, ac nid hir y buwyd cyn cyrraedd Aberdar, a thrwy y Pare, ac ymlaen trwy Aberpennar, nes y glan- iwyd ym Mhontypridd, gerllaw yr hen Bont ardderchog ei bwa sy'n sefyll yn gadarn fel cof-golofn un o adeiladwyr Pynt Cerrig goreu y ddeunawfed gan- rif, sef y Parch. Wm. Edwards, 07r Groeswen. Efe hefyd adeiladodd y Bont (gyntaf) ar Dawe, a phont fawr Llandeilo. Wedi croesi y bont yn ol ac ymlaen, a chael yr olwg oreu arni oddiar lan yr afon tan gyfarwyddyd yr athraw, aeth y cwmni am ail-foreufwyd, oddigerth pedwar o'i nifer y rhai a benodasid i ddisgwyl dyfodiad "Arch- dderwydd y Bont," a phe'r "Bont" yn Ilawn o feirdd, pwy hefyd a fyddai'r Archdderwydd ond yr enwog, y diddan a'r galluog Brynfab 1 Brynfab a addawsai ddiddori y cwmni ag ychydig o hanes eedyrn y Bont, a thoc! wele'n llygaid yn disgyn arno'n ymlwybro tuag at ein harsyllfa. Ymunwyd yn awr a'r gweddill o'r ewmni ym mwyty Mr Hop- cyn Morgan, ac yn wir. nid oedd prinder archwaeth at yr ham a'r wy, ac 'roedd yr ambell ffraetheb a sylw a chrac a ddaethai o frest yr hen "Fryn" cystal a dim s6s ar y boreufwyd hwnnw, a chystal a dim llun o'r hen bont oedd ei adroddiad o gwpled un o'r hen feirdd, Llun ewr lloer yn llyncu'r lli." Yr oedd hefyd fel efe ei hun yn adrodd hanes adeiladu'r bont. Bellach, wele ni dan ei ofal yn anelu at Fynwent Carmel at fedd "Ieuan ap Iago," ac ar y ffordd ni esgeulusodd y cyfle i'n cyflwyno i'r hen foneddiges annwyl Mrs Davies, gwerddw "Ap Myfyr," awdur y "Toddaid" cynhwysfawr sydd ar faen coffa "Ieuan." Hi bia'r clod am ganu "Hen Wlad fy Nhadau" yn y cyhoedd y tro cyntaf erioed, a dyna fraint i'r cwmni oedd cael ymgydnabyddu ag un o gyfryrigau meithriniad Cenedlaethol- deb Cymreig. Hir oes i Mrs. Davies. Ydyw, y mae y gwir Gymro a'n Han- them Genhedlaethol mwyach yn anwa- ha -dwy. Cyrhaeddwyd y Fynwent lb ?dd, ac nid maen a Ilythyrennau arno yn unig oedd yno, eithr yr oedd yno hefyd ysbryd wrth ysbryd yn siarad hawliau'r iaith-ysbryd undeb yn cy- hoeddi melldith ar ben yr ysbryd hwnnw a gynhygiodd wobr o ugain punt mewn Eisteddfod Genhedlaethol am y cyfansoddiad goreu o Anthem Genedlaethol Gymreig," a hynny mor ddiweddar. cofier, a phum neu chwe mlynedd yn ol! Rhad arno!! Ai nid yw "Hen Wlad fy Nhadau" wedi cydio yng nghalon y genedl? Atebed rhywun dros y 45,000 a'i canodd gyda dylanwad mor ysgubol ar y maes chwarae yng Nghaerdydd rai blynydd- oedd cyn i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnyg y wqbr grybwylledig. Gallaf innau ateb dros lawer cynhulliad heb- law'r cynhulliad o filoedd ar filoedd a'i canodd hi mor angherddol ddydd y Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Gwrecsam yn 1912. Gyfoethogion hael! pe rhoddech ddegwm o'r arian a'r dylanwad a roddwch tuag at ddwyn traul llofruddio, a chodi ysbryd- ion heintus gwahaniaethau ac ymran- iadau, tuag at feithrin yr hyn sydd yn uno ac yn cyfannu byddai clod i chwi. Os blina'r genedl, ond flinith hi byth. ar eiriau melodus a nodau persain "Hen Wlad fy Nhadau" yn ddios hi a bair glywed ei lief yn yr heol am yr an- them amgennach. Ddarllenydd hyn- aws, Elli di ddychmygu dy hunan yn sefyll ar un o uchel-fannau cenhedlaeth- oldeb a bwrw dy olwg o Fynwent Car- mel, Pontypridd, dros y ffiniau sectol, sirol, plwyfol, teuluol a phersonol, heb deimlo dy fod mewn dyled i'r gwladwr gweithgar, gonest, leuan ap Iago, a theimlo hefyd fod y Meddwl Cenedl- aethol yn rhy fawr a byw i'w lyffetheir- io a gwellt ? Gwerinwr ganodd ein can, ac yn serch y werin y mae diogelwch ein delfrydau. Nodyn Hen Wlad fy Nhadau," A aiff byth o'r bur hoff bau." Gan gefnu ar Y Tyddyn oer a'r Toddaid a dywedyd-Awdur hoff dy ado raid, wele ni mewn dymuniad da yn ysgwyd Haw a chyfaill a chydnabod, Mr. D. S. Williams, ond ni fynnem gefnu ar wyneb derwyddol y "Bryn" cyn cyrraedd o honom y Groeswen, a thra yn yngan y gair ffarwel i'r "Bont," ei rhamant a'i hud, yr oedd y "Bryn" a ninnau a'r llwch ar ein hoi yn hiraethu am fawr elw o'r anfarwolion. Ond er fod "Brynfab" yn ein cerbyd ni buan y sylweddolwyd gennym nad oedd efe tan ein gofal ni. A pha gwmni a gy- merasai arno ofalu am y glew ar y ffordd hon, canys llwybr cynefin iddo ef yw pob llathen ohoni, ac nid hir y bu'r cwmni cyn mawrygu y fraint o gael bod tan ei ofal. Cafwyd llawer o ffrwyth ei feddwl goleubwyll ar lawer o bethau, a help i fwynhau gogoniannau'r daith a hanes y lleoedd diddorol yr aem trwyddynt. Ar un o'r llethrau rhyng- om a "Westminster Abbey Cymru" (chwedl rhywun ond nid Gol. y "Brython") bu nerth y ceffyl haearn ar brawf, do, a chawd hwyl, ac er e; ami besychiad a'i hir weryru dallo M y prawf yn ganmoladwy, a chawsom nin- I nau'n hunain yn droedolion llawen ar ben ac ar hyd ffordd gul yn mwynhau tangnefedd a balm gan ddisgwyl i'n cyf- arfod y caredig a'r hynaws Barch Tawelfryn Thomas. Ni'n siomwyd tianys dyma glywed ei lais o bell yn llongyfarch "Brynfab" ar fuddugol- j iaeth ardderchog ei ferch ar holl ferch- i ed y byd mewn gweithio ymenyn yn yr Arddanghosfa fawr yn Abertawe ych- ydig ddyddiau'n ol. I Unodd y dosbarth yn y llawenydd trwy uno yn y llongyfarchiadau a churo o bob un ei ddwylaw. Dychmygem fod pob llysieuyn o gweiryn o'r mynydd-dir yn chwerthin ei lawenydd yntau gydag arogl esmwyth a dieithr. Gyda hynny wele ninnau yn sangu ar gysegredig a thragwyddol ddi-angof lwch rhai o'r tadau annwyl ym Mynwent y Groes- wen.. j (I barhau.)
I i ! "Cymru Fydd." ¡ I I…
"Cymru Fydd." ¡ Beirniadaeth ar Destyn y Cadair yn > Eisteddfod Gadeiriol Bargoed, 1914. Mae'r testyn yn ardderchog, ond nid yw'r gystadleuaeth yn gref. Hwyrach fod yr amser yn fyr i ganu ar destyn mor eang. Mae 5 yn cystadlu. Lief un yn Llefain: Rhanna ef ei awd] fel hyn: (1) Cymru rydd; (2) Cymru oleuedig; (3) Cymru lan. Ceidw at y pwnc yn ffyddlon, a dywed yn dda am dano. Ond y mae ei arddull yn gyffredin, a'i gynghanedd yn wallus ambell dro. Prin y gellir dweyd fod y Uinell hon yn gywir: Cymru Fydd fydd rydd o drais." Ac nid yw "llonydd" yn odli efo "nos- I wyl" yn y paladr canlynol: 1 I aelwyd lan fy ngwlad lonydd—yr af Ar hynt adeg noswyl." Os yw yr ymgeisydd yn ieuanc, gall obeithio am lwyddiant. Nid yw ei awen yn gref, ond diwedda yn hapus, a buasai yn cyrraedd y gamp pe can- asai o hyd fel hyn: A h d Am ei hanian lan lonydd,—am ei dysg, Am ei dawn a'i chrefydd. Am ei chred yn mysg gwledydd, Cymru fawr fydd Cymru Fydd." Mab y Wawr: Awdl feddylgar mewn gwisg lan, ond mae'r arddull yn llac, a'r mynegiant yn aneglur. Traetha y bardd yn egniol am ddyfodol Cymru: Gwel y wawr yn tori mewn llawer cyf- eiriad, ond y mae niwl ar ei weledig- aeth. Gwelir dwy linell wallus o leiaf: I Tra sylla i'r olygfa fawr." A'r haul gynhesa i'r wal eginyn." Nid yw yn ofalus am hyd ei linellau, a throsedda un reol adnabyddus yn ami —defnyddia gynghanedd lusg mewn ail linell. Mae yn feddyliwr cryf, a chryf- ha ei awen i'r diwedd; ond prin yw ei awdl o darawiadau awenyddol. Bu- asai cyffyrddiadau fel hyn yn dderbyn- iol: Adar f el pe yn oedi, Eu cerdd yn ei miwsig 'hi." Ar y Mur: Awdl fer sydd ganddo ef. Burddona. yn rhwydd a didrafferth- dyna ei berygl. Ni theimla. gaethiwed y gynghanedd, ac y mae ei rwyddineb j yn fagl iddo. Temtir ef i bentyrru geiriau heb roddi neges iddynt. Mae'i fydryddiaeth yn llithrig, a.'i arddull j yn fywiog, a buasai yn hawdd iddo ragori, ond nid yw yn ymdrechu fel un ar ei oreu. Rhiwallon: Nid yw ei awdl wedi'i rhannu yn glir, ond y mae yn llawn o Gymru Fydd. Nid yw'r gynghanedd yn hollol beraidd, ond y mae yn gywir. Ceir nifer helaeth o linellau wythsill mewn cywydd ac englyn, a cheir ambell i linell glogyrnog fel hyn: Etto'r hen wlad wedi cas driniaeth." Dyma'r portread cyflawnaf o Gymru Fydd mewn ystyr cyffredinol yn y gystad- leuaeth. Nid yw'r awenyddiaeth yn drydanol, ond y mae yn ffyddlon i'r testyn. Owyliedydd: Awdl ddymunol, yn cynnwys awenyddiaeth loew. Mae Gwyliedydd yn atteb i'w enw. Anadla awyr Cymru Fydd. Gwel yr olygfa euraidd, a dyry bortread eglur ohoni mewn arddull goeth. Ond rhaid addef ei fod yn ddibris o'r gynghanedd yma a thraw. Mae yn feistr ar y gelf, ond ceir amryw o wallau cynghaneddol yn ei awdl. Oni bai hyn ni byddai un- rhyw betrusdier am y goreu. Teimlir fod Gwyliedydd a Rhiwallon yn sefyll ar y blaen, ond y cwestiwn yw, "Pa un o'r ddau hynny yw y goreu 1" Mewn coethder awenyddol hawlia Gwyliedydd y flaenoriaeth. Ond y mae gwallau cynghaneddol yn anurddo ei awdl, ac oherwydd diofal- weh neu esgeulusdra fforffetia ei hawl i'r Gadair. Rhiwallon yw'r mwyaf cywir a threfnus, ac uniongyrchol. Os nad yw mor goeth a Gwyliedydd mae yn glir- iach a llawnach na hwnnw. Ac wedi cymharu y ddwy awdl yn fanwl, cyr- haeddir y farn sefydlog mai eiddo Rhiwallon yw yr oreu, a'i bod yn deil- wng o'r Gadair a'r anrhydedd. BETHEL. Beirniadaeth y Traethawd, "Y Ddrama I fel Cyfrwng Addysg." Dyma gystadleuaeth ragorol ar bwnc amserol. Nid oes ond tri yn cystadlu, ond y maent yn gystadleuwyr cryfion. Mae un yn Gymraeg a dau yn Saesneg. Ballantrae has written an interesting essay in a clear ctyle and an excellent spirit. He takes an impartial view of the subject, but he does not deal with it exhaustively. He is content with making general observations which are sane and instructive. The essay con- tains a number of pertinent and sug- gestive remarks, and the effect is ad- mirable as far as it goes. Plentyn y Deffroad is a writer of in- tellectual power and keen perception. He is evidently acquainted with the literature of the subject. He gives a historical survey of the drama, follows it from early times, and shews its var- ied influence on different nations. He is endowed with critical insight which enables him to analyze national char- acteristics and see the principles and tendencies which underlie them. He thinks clearly and orderly and ex- presses his thoughts with masterly re- straint. Andronicus: Ysgrifenna Andronicus yn Gymraeg, ac y mae yn ysgrifennydd craffus a diwylliedig. Dengys wasan- aeth y ddrama i fywyd cenedlaethol Groeg. Mae yn hyddysg yngweithiau Shakespeare, a defnyddia hwy fel engreifftiau neilltuol. Dyry le priodol i wahanol arweddau y testyn. Edrych arno yngoleuni barn addfed a meddwl goleuedig. Nid yw Ballantrae ymhell ar ol; byddai yn bleser ei gydnabod. Wedi ystyried yn fanwl teimlir fod Andron- icus a Phlentyn y Deffroad yn rhagori, a'u bod yn gyfartal mewn teilyngdod, ac felly rhennir y wobr rhyngddynt. BETHEL. I I
i I Hirwaun.I
I Hirwaun. I Gwyl Flynyddol yr Ysgolion Sul. Penderfynwyd yn y pwyllgor undebol fod gwyl y plant eleni i'w chynnal ddydd Llun, Gorffennaf 13eg. Bydd ysgol Nefco yn mynd i Borthca aI, ac ysgolion Ramoth, Tabernacl, a Soar yn mynd i Abertawe. Claddu.-Ddydd Gwener diweddaf cludwyd gweddillion Mr Morgan Bry- ant, Railway Terrace, i'w feddrod ,7m ^Mhenderyn. Bu farw ddydd Mawrth yn Nhalgarth ar ol poen a nychdod am hir amser. Gwasanaethwyd ger y ty gan y Parch. R. Derfel Roberts (yn ab- senoldeb y Parch. E. Cefni Jones). Nawdd y nef i'r weddw a'r holl berthyn- asau yn eu galar. Damwain. Digwyddodd damwain dost nos Iau diweddaf i'r brodyr Charles a George Pearce, Heol Stesion, ac eraill o Ferthyr, trwy i ddau fodur daro i'w gilydd ar heol Cwmtaf. Y mae pawb erbyn hyn yn hysbys o'r achos, felly nid doeth manylu. Prof odd y ddamwain yn angeuol i'r brawd George Pearce yr un noson. Fe'i cleddir ddydd Mawrth. Rhown hanes yr angladd yn ein rhifyn nesaf. Cydym- deimlir yn fawr a'r teulu yn yr ar- gyfwng hwn. Gweithfaol.—Y mae argoelion cyn- nydd pellach yn yr ardal trwy fod Mr D. R. Llewelyn yn agor glofa newydd ymhren ucha'r comin.; Hyderwn y bydd hyn yn gaffaeliad i'r lie, yn neill- tuol ynglyn a chyflog y gweithwyr, oblegid y mae digon o le i wella yn y cyfeiriad hwn ar Hirwaun. Gwyl y Dirwestwyr.-Ddydd LIun di- weddaf aeth Cymdeithas Ddirwestol y G.W.R. am drip i Torquay a Weston. Cawiiant (kvwyda braf a. diwrnod llawen. Mynd rhagddo y mae achos dirwest ar y relwe; diolch am hynny.
Advertising
0YMERWCH HYN I yN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain oa un a ddylai Parotid, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei bun yo mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwiriooeddol a'i Adnoddau lachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? y pWNC q XECHYD • Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyff re- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored 1 r mwyaf peryglus o anhwylderau. Mae QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg ideli fel y feddyginiaeth bysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod ya Barotoad sydd wedi ei barotw yo fedrus a Quinine yn ngbyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i'r Afu, Treul. iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf. haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan y. dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o wendid a Iludded ar y corff. pEIDWCH OEDI. YSTYRIWCH YN A WR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynweh botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- at, ond pan yn prynu mynwcb weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddoi. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn PotelaU, 25. 9C. a 4s. 6ch. yr UD Unig Berchenogiod:- QUININE BITTERS 14ANUFACTURING COMPANY, LIMITED, LLAIOIKLLY, Slutll WalM. 3