Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Molchfeydd Pen Pwll. I

Colofn y Pwlpud.

Ar Lannau Tawe.

News
Cite
Share

Ar Lannau Tawe. Rhoddodd Cwmni Dramodol Resolven berfformiad tra dymunol o'r ddrama Gymraeg boblogaidd "Die Shon Dafydd" yn Neuadd Gyhoeddus Clydach, nos Sadwrn diweddaf. Daeth cynhulliad da iawn ynghyd, ac aeth y chwareu- wyr drwy eu gwaith yn ganmol- adwy. Elai yr elw tuag at gyn- orthwyo gwragedd a phlant y glowyr sydd allan o waith yn yr Ynysarwed. Cafodd Boy Scouts Clydach eu gwledd flynyddol yn yr awyr agored prynhawn Sadwrn diweddaf. Ychydig ddaeth ynghyd i gyfar- fod o Ryddfrydwyr Clydach a gyhoeddesid yn y Neuadd Gy- hoeddus, nos Wener diweddaf. Y maent naill ai wedi marw bron i gyd neu y mae Mr. John Williams, A.S., wedi eistedd yn rhy drwm arnynt. Sefydlwyd y Parch. J. M. Wil- liams, diweddar weinidog Carmel, CJydach, yn Soar,Penygroes, Arfon, dydd Iau diweddaf. Cyfarfu Can gen y Merched leu. ainc o Gymdeithas Ddirwestol Clydach a'r cylch yn Ysgoldy Hebron, nos Iau diweddaf. Lly- wyddodd Mrs. Shaw, areithiodd Miss Jenny Warren, Treharris; canodd Miss Ruth Morgan, ac adroddodd Miss Wills. LLEW.