Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Molchfeydd Pen Pwll. I

Colofn y Pwlpud.

News
Cite
Share

Colofn y Pwlpud. Dyted ym Methel, Pontycymer. Nos Sul, Meh. 14, bu'r Archdderwydd yma, a phregethodd ar y geiriau, Ni ddysgant ryfel mwyach," o Esaia ii., 4. Ceisiaf roddi rhai o'r gemau a gaed ganddo :-Mae heddwch yn sicr o ddod. Nid oes synnwyr mewn lladd. Mae yn gywilydd fod brenhinoedd balch yn gallu cynhyrchu ryfel i fylchu cenedloedd. Fe ddaw dynion i rodio yn ffordd angylion. Efe a farn. Efe sydd i glirio'r ffordd i heddwch. Os bydd y ffynnon yn hallt, sicr bydd y ffrydiau yr un modd. Nis gall calon lygredig gynhyrchu rhinwedd. Mae yn syn fod y byd yn yr oedran y mae mor ddall. Gwneir cyfreithiau manwl er diogeli'r bywyd unigol. Crogir am ladd a chosbir am ladrata. Ond caiff teyrnas ladd ei miloedd a lladrata gwledydd heb yr un gosb. Y inae haul lladd yn enfawr. Byddai yn ddigon i wneyd i ffwrdd a thylodi'r wlad. Degymir o lafur y gweithiwr tlawd. Fe ddywed Penadur Prydain ar agor- iad y Senedd ei fod ar delerau da a phob gwlad er hynny gwerir can' mil- iwn ar y llynges er bod yn barod l ryfel bob blwyddyn. Dywedodd Iesu ei fod wedi dyfod i fwrw tan ar y ddaear tan yw hwnnw i losgi egwyddorion drwg, eithyn, efrau —defnydd tan yw y rhai hyn. Ymhob gwlad newydd ddarganfyddir ceir fforestydd duon, drain a mieri, ac anifeiliaid gwylltion yn byw ar ladd ei gilydd. Beth mae dyn yn wneyd gyn- taf yno? Onid llosgi'r drain a'r mieri, torri'r goedwig i lawr i adeiladu tai. Ty^na'r haul ar y ddaear ar ol hyn, a cheir gweled wyn yn ymbrancio lie bu llewod yn chwarae. Mae wyneb Efengyl ar bob clwyf o drueni er ei wella. Mae ambell glaf yn esgeuluso cymeryd y dognau yn ol gorchymyn y Meddyg, a'r dolur oblegid hynny yn ennill tir. Dyna'r rheswm ein bod mor wael-nid ydym yn gwneyd gorchmynion y Meddyg Da. Mae gennym ryw eilunod, a rhai creulon ydynt oil. Anghyfraith— bywyd wedi myned yn wyllt. Efengyl yn dod a'r gwallgof i'w synnwyr. Daeth Iesu i ddattod rhwyiiwiu. II mqm. — Duw yn puro yn y ffynhonnell. Di- ddyma yspryd ryfel, a throir y cleddyf- au yn sychau. Dyn i fod yn amaeth- wr ac nid torrwr beddau. Rhaid i udgorn rhyfel ddistewi. Daw udgorn gras i alw pawb i eistedd dan ei ffigysbren ei hun. Bydd y llewpart a'r oen yn cyd-chwarae a'r llew fel yr ych a bawr wellt, a'r ddaear yn llawn ddeddfau'r lor. Peidier codi rhwystrau i gerbyd gras. Mae Iesu yn fwy poblogaidd heddyw nag erioed. Cymhellodd Dyfed y bobl ieuainc yn ddwys i ddal Baner Iesu yn uchel. Mae gennyf barch mawr i Ddyfed er pan oeddwn yn grotyn yn gweithio yn ei ymyl yng Nglofa Blaengwawr. Yr oeddynt yn gweithio y ddau frawd yno, sef yr annwyl ddiweddar Jonathan Rees, Nathan Wyn, ac ni fu gwell glowyr yn y lofa. Dringodd y ddan allan o'r lofa. Cafwyd pregeth bwysig, syml, heb ddim o'r bardd yn y golwg dim ond Iesu. Amheuthyn cael tipyn o waith cartre heb ddim o'r German Yeast a'r bara ffenast na'r Groeg sy'n crogi'r grasusau. BERDAR BACH.

Ar Lannau Tawe.