Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
[No title]
Rhai o Geidwaid yr Hen laith- Cwmni Dramodol Pontycymer. I
COLOFN Y PLANT.I
COLOFN Y PLANT. I DAN OLYGIAETH MOELONA. I LLE RHYFEDD. I Aeth llanc o'r wlad unwaith i fyny i Lundain. Nid oedd wedi bod mewn tref erioed o'r blaen, ac ni welsai heolydd wedi eu palmantu a cherrig fel sydd yn Llundain. Fel yr ai yn ei flaen drwy ryw ran o'r ddinas, rhedodd ci allan o ryw ddrws a chyfarthodd arno. Cafodd y bachgen ei ofn, a phlyg- odd k godi carreg er mwyn ei yrru i ffwrdd. Wrth gwrs ni fedrai gael un yn unman. Yr oeddent i gyd wedi eu gwneud yn ddiogel yn y palmant. "Hawyr bach!" ebe'r llanc. "Dyma le rhyfedd! Mae'r bobl yn cadw'r cerrig yn rhwym, ac yn gollwng y cwn yn rhyddion. UN AR Y TRO I Yr oedd gan orsaf-feistr yn un o orsafoedd y G.W,R. yng Ngkymru, barot bychan prydferth. Dysgodd ef i siarad llawer o eiriau a braw- ddegau yn glir a chroew. Ar amser y tren, rhuthrai y bobl yn fynych yn ddiamynedd i geisio eu tocynnau, gosododd y meisfr gawell y parot, a phan ddeuai'r teithwyr yn dyrfa frysiog at y He, gwaeddai'r parot yn uchel:—" Un ar y tro, os gwel- wch fod yn dda." Fel hyn ceid gwell trefn ar bethau. Ond un diwrnod, cafodd y parot ddrws ei gawell yn agored, a hed- odd allan i fwynhau ei ryddid yn y caeau a'r perthi. Mynnodd ei blu amryliw sylw'r adar ereill. Methai yr adar cyffredin ddeall beth oedd y creadur rhyfedd hwn ddeuai mor sydyn i'w plith. Daeth nifer fawr o honynt o gylch y parot, druan, a dechreuasant ei bigo a thynnu ei blu prydferth. Pan oeddent felly yn rhuthro arno bob un, gwaeddai y parot a'i holl egni: Un ar y tro, os gwelwch yn dda." Un ar y tro, os gwelwch yn dda." CYSTADLEUAETH MEHEFIN. 1'r rhai dan 16 oed. Ysgrifennu dau hanesyn bychan tebyg i'r ddau uchod, yn cynnwys rhyw ddywediad ffraeth. Ni raid i'r ddau hanesyn fod yn wreiddiol. Gellwch ysgrifennu un glywsoch rywdro, neu a ddarllenasoch mewn rhyw lyfr. Ni raid iddynt chwaith fod yn faith. Nid wrth eu hyd y'u bernir. I'r rhai dan 12 oed. Ysgrifennu'r dychmygion a gan- lyn ynghyd a'r atebion iddynt- a Beth sydd debycaf i hanner lleuad ? b Beth sydd ar ford y frenhines a deigryn ar ei rudd ? c Fe anwyd plentyn yn Llangan Nid mab ei dad na mab ei fam, Nid mab i Dduw na mab i ddyn, Ond plentyn prydferth hardd ei lun. Beth oedd ? Gellwch ofyn i bawb am eich helpu. Adroddwch y dychmygion wrth bawb, a mynnwch yr atebion cywir gan rywun. Os nad ellwch fod yn sicr, rhoddwch yr atebion fyddwch chwi yn weld debycaf. Y Gwobrau a'r Amodau. 1. Rhoddwch enw'r llyfr garech gael. Nidydysynsiwrmaihwnnw gewch er hynny, oblegid rhaid iddo beidio bod uwchlaw swllt o bris, ac yn addas i blant. I chwi y bwriedir -ef, nid i'ch tad neu eich mam, neu eich ewythr, neu eich modryb. 2. Ysgrifennwch eich goreu, ar un tu i'r ddalen. 3. Rhoddwch eich enw, eich cyf- eiriad a'ch oedran fel arfer. 4. Cyhoeddir gwaith y goreu, ac efallai rhai o'r lleill, o'r dosbarth uchaf. 5. Gyrrwch eich gwaith i'r Gol- ygydd (Colofn y Plant), Swyddfa'r DARIAN, Aberdar, ar neu cyn Gor- fFenaf 4ydd.
[No title]
Am bob math o Argraffwaitb ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r Darian," 19 Cardiff Street, Aberdar.
Oddiar Lechwedd Penrhys.
Oddiar Lechwedd Penrhys. Dro yn ol aeth brodor o Drealaw, o'r enw William Williams, ar ym- weliad a Phontypridd, a chafodd ei wenwyno wrth fwyta cregin- bysgod, a tbrwy hynny bu farw Mehefin 13eg. Yr oedd yn ddyn cryf, ac yn gymdeithaswr gwych. Ym mhlith ofergoelion y dyddiau gynt, bu "crefydd Cefn Beibl" mewn ymarferiad mawr gan Iawer. Eu dull oedd dodi y Beibl ar ei gefn, a'i ollwng i agoryd o hono ei hun, fel y byddai da gan yr Arglwydd." Os byddai yr adnod gyntaf y syl- went arni yn cyfeirio at eu pwnc, credent fod ganddynt feddwl Duw arno, a phenderfynai hynny y mater; clywais am un oedd yn gweddio yn am), ond a betrusai a oedd Duw yn gwrando ei weddiau ai peidio. Er mwyn symud y dyr- yswch, tybiai fod yr yspryd yn ei gynhyrfu i roddi y Beibl ar ei gefn, a gadael i Dduw ei agor lie y mynnai. Wedi i'r llyfr sanctaidd agor, yr adnod gyntaf ddaeth i'w sylw oedd, Y tlawd hwn a lefodd, a'r Arglwydd a'i clybu," &c., cafodd esmwythad i'w feddwl yn ddioed, credodd fod Duw yn ei wrando. Teimlai un dyn ieuanc awydd mawr am fod yn bregethwr, ond yr oedd yn amheus a alwasai Duw ef at y gwaith. Dododd yntau y Beibl ar ei gefn, a'r geiriau ddaeth i'w sylw gyntaf oeddent, dos yn fy ol i satan," credodd fod Duw yn ei ger- yddu am yr awydd oedd ynddo am bregethu, a derbyniodd y cerydd fel dyn call. Ceir hanes am grefydd sydd lawer gwaeth na chrefydd cefn Beibl" yn Lloegr yn ddi- weddar, sef gweinidogion yn myn- ychu ac yn cefnogi ymladdfeydd dyrnau, gwell fuasai iddynt ehwareu Bando na hynny, neu ynte geisio difyrru eu hunain wrth farddoni, neu wneud gwell pregethau. Gob- aith gwan sydd i'r Boxing Gloves fod yn foddion gras i neb. WM. BASSETT. I
Cwmogwr.I
Cwmogwr. I Wedi hir ddihoeni, hunodd Jen kin Williams, Penllwydgwent Farm o'r plwyf uchod, fore Llun, Mehefin 8fed, yn 75 mlwydd oed. Llai na dwy flynedd yn ol collodd ei briod mewn modd brawychus, yr hyn a effeithiodd yn rhwygol ar ei natur dyner. Magwyd ef mewn awyr- gylch grefytfdol. Buan canfuwyd ynddo gymhwysderau i gylchoedd amrywiol. Etholwyd ef i swyddi yn ei blwyf a'r cylch, ac ni fu edifeiriol gan neb ei gefnogi. Pan sefydlwyd Bwrdd Lleol yn y cylch, etholwyd ef, ac ni chollodd ei sedd mewn etholiad hyd ei fedd er Ilawer ymgais i'w orchfygu. Yn 1870 etholwyd ef ar Fwrdd Ysgol ei blwyf, a chadwodd ei sedd hyd ddiddymiad y Byrddau trwy ddeddf Bdlfour yn 1902. Nid ymfflamychai ac ni chynhyrfai awel mewn dadl. Er's blynyddoedd lawer ymaelod- odd ef a'i briod yn Hermon (M.C.) Yr oedd yn flaenor yno. Pan ar ei ddeulin nid amlder geiriau a nod- weddai ei ymbiliad, eithr symledd a dwysder yspryd fel un yn gweled yr anweledig. Y dydd Iau canlynol cynhullodd llu mawr i hebrwng ei weddillion i fynwent eglwys Llan- dyfodwg at ei briod. Yn y ty dar- llenodd y Parch. Richard Davies, Penllin, Pontfaen, rannau pwrpasol, a gweddiodd y Parch. M. J. Mills, Nantymoel. Wrth godi y corff, rhoddodd y Parch. E. Williams, ei weinidog, bennill allan. Yn yr eglwys gweinyddwyd gan y Parch. W. Edward, person v plwyf, a chydag ef ar lan y bedd gwasan- aethodd y Parch. E. Williams. Gwelsom yn bresennol hefyd y Parchn. J. Cynlais Evans (A.), Brynmenyn W. Paran Griffiths (B.), Melinifanddu J. G. Jones (A.), Cwmogwr; a J. Davies (B.), Glyn- ogwr. Aeth J. W. i'w fedd gan wneud adwy fawr ym mywyd y plwyf. Dyddorol oedd ei olrhein- iad o helynt a rhamant. Cydym- deimlir yn ddwys a'i blant lluosog. Traddodir pregeth goffadwriaethol iddo gan ei weinidog, nos Sabboth, Mehefin 1ge9: Aeth i'w fedd a'i daith ar ben, Duw nerthwyd ei dywarchen."
0 Wy i Dywi.I
0 Wy i Dywi. I Gwersi Mewn Hanes Lleol gan Lewis I Davies, Cymer. Enw annwyl iawn inni oil ydyw Mor- gannwg, onide ? Enw hen ydyw hefyd, ac yn bod cyn erioed rannu ein gwlad yn siroedd fel y gwelir hwynt heddyw, canys yr oedd Gwent a Morgannwg, fel y danghoswyd eisoes, yn un o bedair pentalaith Cymru.. Bychan mewn eymhariaeth ydyw maintioli Morgannwg-y sir, o'i chyfer- bynnu a Morgannwg y dalaith. Cyfyng- ir y fiaenaf, fel y gwyddoch, i'r tir a orwedd rhwng Elyrch, Llwchwr, Mor Hafren, a Blaenau Taf, Nedd a Thawe, tra ymestynnai yr Hen Forgannwg o Wy i Nedd, ac o For Hafren i Fannau Brycheiniog, ac oddiyno draw (ar rai adegau o leiaf) i Gwm W ysc ar ffordd Henffordd. Mewn gair, cynhwysai yr hen dalaith deir-ran o'r Forgannwg bresennol, yr oil o Fynwy, tua hanner Brycheiniog, ynghyd a lleiniau helaeth o Gaerloew a Henffordd-yr oil yn cyfuno un o randiroedd godidocaf y deyrnas. Morgan Mwyn Mawr. I Y person hanesyddol cyntaf a gysylltir a rheolaeth y rhandir hwn ydyw Morgan Mwyn Mawr, un y dy- wedir llawer am dano gan haneswyr, ond un hefyd y mae hanes ei hun yn dra dwedwst yn ei gylch. Fel siampl o'r ansicrwydd a berthyn i'w ystori, y mae o fy mlaen pan yn ysgrifennu ddau awdurdod, un yn traethu fod Morgan yn bucheddu yn y 6ed ganrif, a'r llall (a ysgrifennai oddeutu 1820) yn dweyd mai ynghylch mil o flynyddoedd a aethant heibio (h.y., y nawfed ganrif felly), y teyrnasai. Ni chymerai nemor o drafferth i brofi yr olaf yn gamsyniol, a chrybwyllaf ei ddywediad yn unig er mwyn dangos yr anhawsder a geir weithiau wrth nithio 'hanes yr hen oes- au.' Nid oes le i ameu mai odaiwrth y Morgan hwn y cafodd y dalaith (yn gyntaf) a'r sir (yn ddiweddarach) eu henwau. Iddo ef hefyd y tadogir enw plwyf a phentref Margam, ger Aber- afan. Cynhaliai lys yno yn eithafbarth ei diriogaeth, a dilynodd yr enw yn naturiol. Diddorol yw sylwi, Wrth fyned heibio, y modd y mynych-newidir yn ein hiaith olafsain gair o'r n i'r m. Dyna plain, pant, a phlaim, oddiwrth y geiriau Saesneg cyfystyr plane, pane a plain. A'r un modd enwau lleoedd megis Mawdlam oddiwrth Mawdlen neu Magdalen, a Margam oddiwrth Margan neu Morgan. Cyn y cyfnod Tuduraidd Morgan neu Margan (nid Margam) a welir ymhob gweithred a memrwn sy'n son am y lie. Ond i ddychwelyd at Morgan Mwyn Mawr. Sonir yn gyffredin, ond ar ba sail nis gwn, ei fod o linach Arthur Fawr, ac mai y rheswm iddo adael Caerllion oedd y perigl o fod mor agos i'r terfyndir Seisnig. Gwnaeth ei brif lys gerllaw Caerdydd, mewn lie a elwir yr Adyr. Adnabyddir y pentref hwnnw yn awr wrth yr enw Radyr, ac hawdd ydyw gweled treigliad yr enw presennol oddiwrth yr hen, yn union fel y gwelir enw tref Risca yn deilliaw oddiwrth ei hen ffurf yntau 'Yr Isca.' Morgan Hen. I Bu i Dalaith Morgannwg Forgan di- weddarach na'r Mwyn Mawr oedd lawn enwoced a'r sylfaenydd ei hun. Adna- byddir hwn fynychaf fel Morgan Hen, ond geilw rhai ef yn Forgan Mwyn Mawr yr Ail, a chan fod ganddo yntau lysoedd yn Yr Adyr a Margam, hawdd yw camgymeryd un Morgan yn lle'r llall. Ond i fod yn glir yn y mater fyddwch chwi garediced a chofio mai gan nad faint o ansicrwydd sydd am amseriad rheolaeth y Morgan Cyntaf, fod i Forgan Hen fucheddu drwy yr oil o'r ddegfed ganrif, ac iddo farw yn y flwyddyn 1001. Yn y cyfnod rhwng y ddau Forgan, bu ar Forgannwg ddwsin o benaethiaid yn olynol, sef Ithel, Einydd, Rhys I., Hywel I., Arth- fael I., Meurig, Brochmael, Gweirydd, Arthfael II., Rhys II., Hywel II., ac Owain, y rhai, yn y mwyafrif, nid ydynt inni heddyw ond enwau yn unig. Ond gan eu bod yn ddolennau yn ein hanes rhaid peidio anwybyddu eu bod- olaeth ychwaith. Gorchwyl mawr bywyd yr oil oedd dal eu tir yn erbyn y Saeson oeddynt erbyn hyn wedi medd- iannu yr holl wlad hwnt i Hafren. Nid oedd y genedl honno yn hollol unol yn y cyfnod hwnnw yn fwy na'r Cymry. Rhennid hwynt yn saith o fan deyrnas- oedd, ond gyda threigliad amser daeth- ant i lawr i dair, sef Northumbria, Wes- sex a Mercia, unrhyw un o ba rai oedd gryfed o ran poblogaeth a chyfoeth a Chymru gyfan. Northumbria, fel yr ydys wedi sylwi eisoes, fu yn andwy- aeth i Ystrad Clwyd, a cheisiodd Saeson Mercia (neu y Mers) hwnt i Wy, a Saeson Wessex, is Hafren, wneud yr un peth i Went a Morgannwg. Bu eu hymosodiadau yn -ddirif, ond medrodd hiliogaeth y Siluriaid, heriasant Rhuf- ain cyhyd, ddal eu tir yn erbyn y Sax- oniaid hyn hefyd. Nid oedd haul anni- byniaeth Cymru i fachlud am bum can- rif ymhellach. Trodd disgynyddion Hengist i ym- rafaelio a'u gilydd hyd nes i Wessex o'r diwedd gael yr oruchafiaeth, ac i'w brenhinoedd o Egbert hyd Harallt ddyfod yn frenhinoedd LIoegr oil. Ond yn yr 8fed ganrif Mercia oedd gryfaf, a'i thywysogion hi fu yn flangellu ein cyndeidiau fwyof yn y ganrif honno. Ystyr Mercia neu Y Mers ydyw ffindir, a phery y gair yn ei arwydd- ocad cysefin yn y fath frawddegau a'r Welsh Marches, Scottish Marches, Court of the Marches, etc. Rhedai ffin y dalaith dan sylw o Gasgwent (Chep- stow) i Gaerllion Gawr (Chester), a hon fu yn brif linell ein tymhestioedd gwladwriaethol am lawer cenhedlaeth yn ol llaw. I
I I .Pontygwaith. I -i
I I Pontygwaith. I i PRIODAS. I Dydd Mawrth, Mehefin y 9fed, yngnghapel Mount Tabor, Primitive Methodist, Caerdydd, unwyd mewn I glan briodas Mr. T. Davies, Prif- arolygwr Cwmni Yswiriol y Britanic yn Neheudir Cymru a Swydd Fyn- wy, a Miss M. A. Dent, Roath, Caerdydd. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. N. W. Bed- ford, gweinidog yr eglwys uchod, lie mae'r briodasferch yn aelod ymroddgar a dichlynaidd. Un o fechgyn y pinaclau uchel yw Mr. Davies, wedi gweithio yn galed drwy lawer o anhawsterau i ennill y safle a lenwir ganddo. Hunan- ddiwylliant a theilyngdod hunan gre-edig yn annibynnol ar unrhyw ddylanwad arall a'i sicrhaodd iddo. Genedigol o Aberdar ydyw, a theimlaf awydd gwaeddi nes bo'r j bryniatin adsain-" Sweet 'Berdar." Prynhawn yr un dydd ymadawodd y par ieuanc am Lundain a rhai o brif drefi Lloegr i dreulio eu mis mel. Hir oes i'r ddau a gwenau Duw fo ar yr uniad. CYDNABOD TEILYNGDOD. < Nos Fercher, Mehefin iofed, cyn- haliwyd cyfarfod dan nawdd Bed- yddwyr Hermon, Pontygwaith, i I gyflwyno tysteb i'r brawd a'r chwaer Mr. a Mrs. Thomas Perrot, ar eu hymadawiad a'r eglwys i Salem, Porth. Cadeiriwyd gan y Parch. D. D. Hopkins, gweinidog, yn gartrefol a hapus fel y gall ef. Dygwyd symudiad y brawd a'r chwaer i'r Porth oddiamgylch gan symudiad Mr. Perrot fel Goruch- wyliwr dan Gwmni Yswiriol y Refuge o ddosbarth y Rhondda Fach, i gymeryd gofal Dosbarth y Rhondda Fawr, yr hwn a ymestyn o ran uchaf Ynyshir i lawr i'r Porth, gan ymganghennu yno ar un llaw i lawr i Drefforest, ac ar y Haw arall i fyny i Blaenycwm, ac i lawr drachefn drwy Pen ygraig, Williams- town, a Thonyrefail. Buasent yn aelodau disglaer yn Hermon am 13eg o flynyddoedd, ac ni allent am hir amser gymodi a'r syniad o ymadael. A phan ddaeth yn anghenraid arnynt i symud, anawdd iddynt oedd cydsynio. Ond doethineb a ddywedai mai dyna oedd oreu. Pan hysbysant yr eglwys o'u bwriad i ymadael, penderfynwyd cyflwyno anerchiad hardd iddynt. Prif symudydd y dysteb a threfnydd y cyfarfod oedd Mr. W. J. Davies. Brawd ardderchog yw hwn eto. Diflana rhwystrau fel niwl o'i flaen. Sicrhaodd wasanaeth sopranos fel y Missess Annie M. David, Annie Jones a Bessie Price. Contralto, M. J. Davies. Nid ydynt o bosibl hyd yn hyn yn adnabyddus tuallan i'r cylch hwn, ond mentraf ddweyd fod dydd yn eu haros pan ddaw Cymru gyfan i'w hadnabod a'u hedmygu. Ewch rhagoch. Adrbdd- iad, "Bill Mason's Bride," Murmur Cynon. Yna galwodd y cadeirydd ar Mr. Theophilus Thomas, ysgrif- ennydd yr eglwys i ddarllen yr an- erchiad. Cyflwynwyd ef i'r brawd a'r chwaer gan Mr. W. Evans, diacon hynaf yr eglwys. Gwyr ef braidd am bob carreg sydd yn yr adeilad-gall gyfeirio atynt megys wrth eu henwau. Hysbys iddo hefyd ydynt rhagoriaethau a gwen- didau pob aelod o gorphoriad yr eglv/ys hyd yn awr. Dygodd dyst- iolaeth uchel i'r ddeuddyn ymhob ystyr. Dilynodd Mr. W. Williams Cash Stores, un o flaenoriaid eglwys barchus y Methodistiaid. Cyfeir- iodd at ei gysylltiad yn y blynydd- oedd gynt a rhai o oreugwyr Bedyddwyr Cymru. Beth bynnag, rhag i Mr. Perrot anghofio ei hun I dywedodd fod Mrs. Perrot yn teilyngu tair rhan o bedair o'r parch a'r anrhydedd gyflwynid i'w phriod. Diweddodd drwy gyferio at y ddwy linell:— Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem lan oddeutu'r bwrdd." Diolchodd Mr Perrot ar ran ei briod ac yntau mewn" araeth fer- ond brwdfrydig-ac mewn Cymraeg o'r diwyg goreu. Cymaint a allai wneud oedd atal ei deimladau i dorri dros y glannau. Terfynwyd trwy gydganu emyn un o'r cyfar- fodydd goreu o'r natur hyn y buom ynddo erioed. MURMUR CYNON. j
Advertising
ARTIFICIAL LIMBS, Crutc:' I AEyes, Deformity Boots, Flat-Foot Supports, Steelless Easifit" Trusses, etc.; lady attendant; Belts, Beit- Corsets, Elastic Stockings, Trusses, etc. Daily, 10-6; Wed. 10-1; Sat. 10-2. List free. Tel 1282.-Allen Peaice, Se Charles Street, Cardiff. GWAED! GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYF, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynai eftelthioi at Creu Cwaed Nawydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar hell Organau y Corff, drwy hyny yn lashau Dolur Pan. Olffyg Traul, Aopt\ Biliousness, A fu Odrwlg, mmum. Tarddlantau y Cnawd, Cornwydon, Sc!!r? PnM W? A ? \M F Fltl, Han- ousness, 11 c w y n t Gwynegon ("OU y Coital- wst), PHil Cefn, Lum- bago, Cor.. Nouridgle, alA yr Aron- au, ISlldlr Y a p r y d, 8 V cyHa BENYWOD! At Anhwylderau tueddol I bob Gwraig, Mam a Merch o bob oedraa mae Hughes's Blood pm, II ym nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwoh weled "I Trade Mark, aef ilun Calon fel hys- I8r N B w ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Store* am 1/1i. If I, C'I. Neu danfonwoh ei Gwerth mewn Stampa neu P.O. at y Perchenog- JACOB HUGHE81 MANUFACTURING CHEMIST, M.P.8., L DoS Pen art h, Cardiff. 4- Can, LienaCweriq Gwaithy dlweddar Myfyp Wynn, set BACHAN Ifanc Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLOR, DAKNAU BARDDONOL A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/. Drwy'r Fost 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, uen oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. LALP; FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivailed for al Irregularities, &a.. they speedily afford relief and neve rffcul to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia. Bitter Apple, h. ftlanphard's are the Best of all Pilla for Women. Sold in boxes, 1/11, by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from BSLIB MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp /> A PAGE Book about Herbs and how to use 04 them. Post free. 8end for one. j Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE ¡ THE ADDRESS. To prevent fraud see that you get Estab- ,le he;i 187911 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine.-Trimnell, The Herbalist, 144 Rich- mond-road, Cardiff. ) TRIMNELL'S PILLS AND POWDERS have oured thousands. Why not you ? See that you get Established 1879 on every label.—Trimnell, The Herbalist, 144 Riohmond i Road, Cardiff. Agents wanted. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how aU Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never FARL thousands of Testimonials. Established 1862. £ £ i £ CiMMMnt BoUIe. Dalaton ??ne, TcIOL ETO DDIWRNODARALL GWEDDI AM BOB DYDD O'R FLWYDDYN, sax J. H. JOWETT, M.&,o D.D. CYFIEITHEDIG I'R GYMRAEG GAN Y DIWEDDAR WILLIAM THOMAS, LLANGEFNI. GOLYGWYb GAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A. PRIS SWVLLT. LLUDA Rhyddion Cyngor Cenedlaethol yr Eghvyai Rhyddion Efengylaidd, Memorial Hall, B.C. Y FORD. Yn cynnwys arlwy fisol am flwyddwyn i blant 0 bob oed, sef:- 13 0 Bregethau A 13 0 Delynegion. Mae'r gyfrol wedi 'i hadolygu yn y modd mwyat ffafriol gan y Wasg Gymreig, meglfl Y Beirniad, Y Brython, T Tyst, Cymru, CY- Ir Plant, Seren Cymru, Seren Gamer, Y Drysorfa, Ac., ao y mae'r Awdwr wedi derbyn llu 0 lythyrau cftDmol oddiwrth bregetbwyr, llenorion, plant, &o. Y g? frol 1 w chael ar dderbyniad Postal Order Swllt gan yr Awdwr- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr. Swansea. 4so Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHBIFYSGOL CDmV)" Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr at gyfer Arholiadan Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw 0 yagolorisethau (rial o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddys bon. Am fanylion pellacb, ymofyner a- H. DAVIES, M.A., Cofrettrydd. Dywedwch wrth bawb: II Y ma. DA VIES.S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswoh." ANWYD, PESWCH, INFLUENZA. -Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio. ddef oddi wrth BeswcH, Bronchifcia, PM, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diftyl Anadl. Y mae yr hen Feddygmiaekb Davies's Cough Mixture" etto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi ya fwy nag erioed, bob amaer wrth law, yB felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/H a 2/9   HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE Aberaman & Mountain Ash Billposting and Advertising Co. Proprietors of tbeobst prominent stations In Aberaman, Cwmaman, Cwmbach, Abepcwmbol, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTINQ. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should be addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. AM BOB MATH 0 ARGRAFFWAITH YMOFYNER YN Swyddfa 9r "Leade. A Swyddfa'r "Darian," 19 CARDIFF ST., ABERDAR. DOWN & SONS,, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. <LuMMTWoMs:? ??rr?T? C?ft 21 :¿T St. 0 Morris Lane, OW??iO?ct. The Largest and Cheapest Steaif) Cabinet Hamifactory in South Wales. Illustrated Catalog" free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on ail Orders above lie, or Oollvortd Free in out gwg Veog.