Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Eisteddfod Treorchy. I

News
Cite
Share

Eisteddfod Treorchy. I BEIKNIADAETH BRYNFAB. TELYNEG-" WRTH Y GAMFA." ABNANT.—Er nad oes nemor o swyn awen yn y delyneg, nae yndtii ambel darawiad digon naturiol. MAB Y GLORAN.-Cellwair una y bardd yn y gerdd hon. Gallai wneud gwell gwaith pe'r aethai ati o ddifrif. Y "tarw coch" ddaeth a'i wynfyd iddo wrth "Gamfa'r Tonn.' Mae ei iaith yn wallus: llediaith ydyw mewn rhai mannau. Camleola yr h' yn fynych. DAFYDD.—Pedwar penill pedair llinell, a byrdwn. Nid yw y byrdwn yn gwneud fawr dros y penhillion, er fod v rhain yn burion ddigon, nes dod at yr olaf. Yn hwn, neidir yn rhy swta at Arthur bach, wrth y gamfa. Lied garpiog yw yr iaith yma hefyd. Mae gosod y plentyn i chwyfio ei gadach ar ei "dada" yn anfaddeuol mewn telyneg Gymraeg. MAB GLYN GLAS. Telyneg swynol ddigon. Ychydig yn ddof yw y ddau bennill blaenaf. Y pennill olaf yn dda, ac i'r pwynt. MEUDWY'R COED. Telyneg ganmoladwy ar y cyfan. Y pennill canol yw y goreu. Terfyna yr olaf yn anhapus:— A chyn i Medi ddod yn ol I rodio trwy y meusydd yd, Ces weld un arall yn fy siom Yn mynd a'm Gwen i arall fyd. Mae yn rhy amwys. Nis gellir gweld yn iawn pa un ai marw neu redeg i ffwrdd gyda gwell carwr wnaeth Gwen. HAPUS HWYR. — Rhai ergydion naturiol ac hapus. Gwneir gormod o ddefnydd o'r gair "Mi' yn y ddau ben- nill blaenaf. Nis gellir iawn ddeall dechreu yr ail: Pe medrai'r derwen siarad, Y llwyn a'r gloew li. Pennill gwych yw y trydydd, er fod sill-goll ar ddechreu llinell ynddo: 'Rwy'n cofio Mair o ddifrif Yn rhoi cwestiynnau im, A mi wrth wlitho rhos ei grudd Ym methu ateb dim. Diwedda y delyneg yn rhy brudd- glufus :— Mae'r gamfa yno heddyw Ond nid yw Mair gen i! A chyda deigryn hallt a chan, 'Rwy'n mynd i'w gweled hi. TONNAU GOBAITH.—Ar v Gam- fa yw pennawd y delyneg hon, tae hynny o ryw bwys. Ceir ychydig o ddelw Tyr'd yn ol, fy ngeneth wen Ceiriogf arni — Daw yr haf a'i ddirif flodau Etc i harddu bryn a dof, Daw yr adar i delori, Os y deui yn dy ol. Cofier nad wyf yn dwyn un cyhuddiad yn erbyn yr awdur wrth nodi hyn. Mae rhyw ledchwithdod yn y trvdydd pen- nill — Cofiaf am fwynderau'r cyfnos, Pan y'th wasgwn i dy gol, Mae y Gamfa eto'n aros, Otwen anwyl, tyrd yn ol. Gwyr pob un a wasgodd ferch beth yw y coll sydd yn yr ail linell, ac fe wel yr awdur hynny hefyd. Llinell glogyrnog yw Neb ond ti all droi nif hon. Anffodus fu gosod yr un gair yn odlau y ddwy linell olaf o'r delyneg Olwen anwyl, paid ag oedi, Cofia'r dyddiau gwell sy'n mlaen Gad i Arthur gael dy gwmni Ar y Gamfa fel o'r blaen. HWSMON TYLADU. Telyneg dlos iawn.—Gresyn ei bod mor fyrr- dim ond ugain llinell. Nid wyf yn hoffi y ddwy linell olaf: Os lion oedd fy nghalon, y nefoedd a wyr, Yn llonnach oedd calon Gwen. Dylasai y bardd gydnabod, fel carwr gonest, mai ei galon ef oedd "lonnaf," I yn lie tybio mai calon Gwen oedd felly. Ni ddylid cymeryd mantais ar y genethod yn eu cefnau. Bardd gwych yw Hwsmon Tyladu. MAB Y CYFNOS. Mae rhyw swyn neilltuol yn y delyneg. Dywed ei stori garu yn naturiol a barddonol o'r dechreu i'r diwedd. Gresyn fod sillgoll ar ddechreu un o'i linellau. Er fod dwy neu dair o'r telynegion yn gwasgu yn dynn ar draws eu gil- ydd, credaf mai eiddo Mab y Cyfnos yw y goreu. Felly gwobrwyer ef. ENGLYN- Y GELYNEN." I Rhennir yr englynion ddaeth i law yn dri dosbarth. Yn y dosbarth gwallus mae Mab y Wawr, Glasfryn, a Xmas. Yn y dosbarth cywir ond egwan ceir Gwinllanwr, Ffrind yr Eira, Rhisiart, Gethin, Gwilym, Antonia, a Choedwig- wr. Yn y dosbarth barddonol ceir y rhai canlynol BARDD YR ALLT: Llinell olaf yr englyn yn ei andwyo: Welir ger bwth a phalas. PENPYCH Gresyn fod yr englyn yn "cyrchu" yn "rhy debyg" — —Golynog Yw'r Gelynen, etc. Y r esgyll yn dda: A hud haf, er gaea' dig, Leinw 'i deilen, Nadolig. DAN YR EIRA: Paladr egwan, a lied ddibwynt yw y fraich olaf: Yn y Gaeaf rhag awen. GAEAFOL.—Y "Gaeaf carpiog" yn anafu y paladr. Llinell eiddill yw yr olaf Dan yr od, O un wridog. Er fod ynddi gynghanedd bert, di- wedda yn ddigon pendwp. TANT NADOLIG: Yr "ael heini" yn gwneud difrod ar y llinell flaenaf. Esgyll gwychion Addurnol yn nydd oerni, Gaea' rydd haf i'w grudd hi. PELYDRYN Ar y mwyaf o an- soddeiriau, ac nid oes llawer o swyn yn y fraich olaf t Nis gwywir yng nghwrs gaeaf. SU'R AWEL Yr un bai eto gan yr un awdur. Y fraich olaf yw y peth goreu yn yr englyn Trwy aeaf erch, tirf yw hon. COEDWIGWR Gresyn fod "rhy debyg" yn y cyrchiad —er gwaeau'r Gwyw aeaf anniben. Dylasai yr awdur gael ffonnod am ddefnyddio y gair hyll sydd yn y paladr. Y GLYN GLAS Egwan yw y llinell flaenaf, ac nid hapus yw y "gair cyrch" -îr ei gwyrdd. Gwell fuasai —ir ei gwedd. Lliw'r gwaed ar bob cangen. Y paladr yn Bed dda I Nadolig daw deilen, A delw haf o'i dail hen. Ond digon prin y gellir dweyd fod dail y gelynen yn "hen." ALlTUD Englyn gwych, pe gellid credu mai un i'r gelynen ydyw Nerth a braint ym mherthi bro,-ceidw hwn Yn nhranc dail i'w swyno; A gwerdd drem yn ei grudd dro Oeda bywyd heb wywo. Feallai nas gellir condemnio y llinell olaf, gan nad yr un sain sydd i'r llafar- iad yn nau ben y cyfryw. Clywais son am "lygad tro" o'r blaen, ond Idyma y tro cyntaf i mi weld "grudd dro." Ond dichon mai am dro feddyl- iai y bardd; os taw, nid yw pethau yn gwella dim. ANWYN Englyn tlws Oesol iach gyfeilles Ion !—drwy wyw- dra Hydref, tra prydferthion Oer gan farug yn feirwon, Hardd aeres werdd erys hon. Dichon na ddeil feirniadaeth lem. Gor- mod o ansoddeiriau sydd ynddo. Nid yw yr enw ynddo chwaith, tae fater am hynny. Gwel y critig manwl fai yn y llinell olaf hefyd. ARDW YN Englyn gwych Gelynen gu, lonna'n gaeaf !-fyth- wyrdd, Faethir trwy'r hin oeraf; Rhan o'r addurn ireiddiaf Ddyry Duw ar feddrod haf. Bydd y beirniaid yn collfarnu yr englyn am nad oes fannod ar ei ddechreu, na berf yn yr asgell gyntaf. Ond waeth yn y byd beth a ddywedir, dyma yr englyn gorau, a chaffed ei awdur y "Goron.

Advertising

Eisteddfod Aberaman. I

Advertising