Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. DAN OLYGIAETH MOELONA. I Y FAM A'R PLENTYN. Mewn cartref hardd yn un o drefi bychain Cymru trigai gwr a gwraig ieuanc tra chyfoethog. Yr oedd gan- ddynt un plentyn, a charai y fam y bychan nes bron ei addoli. Ofnai ei groesi mewn un modd, nes, yn fuan iawn i'r plentyn dyfu i fod yn feistr ar bawb yn y ty. Fel plant yn gyffredin gofynnai am lawer o bethau nad oedd wiw iddo eu cael, ac os gomeddid un- rhyw beth iddo ai i dymer nwydwyllt nes blino a dychrynu y sawl a'i gwyl- iai. Mynych y cynghorid y fam. Myn- ych yr adroddid iddi eiriau gwr doeth, Hyfforddia blentyn yn mhen ei ffordd a phan heneiddio nid medy a hi," ac eto, "Y Wialen a cherydd a rydd ddo- ethineb, ond y mab a gaffo ei rwysg ei hun a gywilyddia ei fam." Eithr ofer y cynghori a'r rhybuddio. Ei ffordd ei hun a gai y plentyn o hyd. Un diwrnod pan oedd y fam yn ei hystafell clywai waeddi a chrio en- byd. Edrychodd allan drwy'r ffenes- tr, a gwelai'r plentyn ynghanol ei dym- er ddrwg yn ysgyrnygu ei ddanedd ar y forwyn am na chawsai rywbeth a ofynasai am dano. Aeth allan ar un- waith. "Ai nid oes dim cywilydd ar- noch?" ebe hi wrth y forwyn. Rhowch i'r plentyn ar unwaith yr hyn a geisia." "Yn sicr, meistres," ebe'r forwyn, fe ga grio hyd fore fory, os myn, cyn y rhof fi iddo yr hyn y mae am gael." Wrth glywed y geiriau hyn aeth y fam ei hun i dymer enbyd. Rhedodd i ystafell arall lle'r oedd ei phriod gyda rhai o'i gyfeillion. Gofynnodd iddo ei dilyn hi ar unwaith, a dod i yrru dros y drws y forwyn a ymddygasai tuag ati mor amharchus drwy anufuddhau iddi. Yr oedd y gwr mor hoff o'i wraig ag oedd hi o'i phlentyn, felly canlynodd hi yn ddiymdroi.. Safai y cwmni oedd o'r tu fewn yn ymyl y ffenestr er mwyn gweld beth ddigwyddai. Rw- y'n synnu atoch" ebe ef yn ddigllawn wrth y forwyn, sut meiddiwch an- ufuddhau i'ch meistres? Pam na rhoddwch chwi i'r plentyn bach yr hyn gais gennych?" "Yn wir, syr," ebe'r forwyn, "efallai y rhydd meirtres ef iddo. Er's chwarter awr mae wedi bod yn syllu ar y lleuad yn y llyn yna, ac y mae am mi ei rhoi iddo." Wedi clywed y geiriau hyn chwardd- odd y gwr a'i gyfeillion. Nid allai y fam ei hun, er ei thymer, lai na chwerthin gyda hwy. Cywilyddiodd t gymaint am yr hyn ddigwyddasai nes iddi yn raddol weld ei chamsyniad yng- lyn a'r plentyn. Ceisiodd o hyny allan ei ddisgyblu, ei geryddu a'i hy- fforddi ym mhen ei ffordd, a daeth y bachgen o dipyn i beth yn fachgen da. Hwyrach y gwnai digwyddiad eyffelyb les i lawr o famau. j Dyma restr arall o ddiarhebion :— j DIARHEBION CYMRAEG. j i i Casgliad Kate Hutchings, 9 Bassett I Street, Barry Dock, 11 0". i Gwell gwr o'i barchu. I 2 Melus moes mwy. 3 Hawdd yw clwyfo claf. 4 Gwaethaf gelyn calon ddrwg. 5 Nid da rhy o ddim. 6 Gwell un gair gwir na chan gair j teg. 7 Goreu adnabod, adnabod dy hun. j 8 Afrad pob afraid. 9' Ami gnoc a dyr y garreg. 10 Gwan dy bawl yn Hafren. 111 Cludo heli i'r m6r. 12 Na ddeffro y ci fo'n cysgu. 13 Tynnaf y bo'r llinyn, cyntaf y tyr. 14 Nid dysg, dysg heb, ei ddilyn. 15 0 flewyn i flewyn a'r pen yn foel. 16 Oni heuir, ni fedir. 17 Yr oen yn dysgu'r ddafad bori. 18 Mwya'r brys, mwya'r rhwystr. I 19 Ymhob gwlad y megir glew. 20 Ceisied pawb ddwfr i'w long. 21 Lion llygod He ni bo cath. 22 Gwell Duw na dim. i 23 Gwell dod yn hwyr na pheidio dod byth 24 Y cynta i'r felin gaiff falu. 25 Gwell goddef cam na'i wnwthur. 26 Gwisg oreu merch yw gwylder. 27 Gwell yw ci a gyfartho na'r ci a gno. 28 Deuparth gwaith ei ddechreu. 20 Da yw dant i atal tafod. 30 Dall pob anghyfarwydd.

Pontypridd.:I

ITlodi, Cysur a Chyfoeth.

Y Tridwr. II

jBeirniadaeth Gwill

Eu Hiaith a Gadwant.

ISciwen.