Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Beirdd y Bont. ]

I -I Colofn y Ddrama. I

News
Cite
Share

I Colofn y Ddrama. I ASGRE LAN YNG NGHWM- BACH. Y ddrama yw popeth yn awr A chroeso iddi! Cefais fy hun yn Neu- add y Gweithwyr yng Nghwmbach y noson o'r blaen yn gweled ac yn gwrando parti o Abercwmboi yn actio'r Asgre Lan." Iechyd oedd gweled, a braint oedd cael eistedd wrth ochr dau weinidog oedd yn y seddau blaen-un o'r Cwmbach a'r llall o Abercwmboi. Wedi gweled parti Gwaelodygarth yn y Memorial Hall y llynedd, buaswn bron yn barod i ddweyd mai rhyfyg fydai i neb ym- gymeryd a'r un darn. Ond er mai dyma'r tro cyntaf i'r parti hwn lwyfan- nu'r Asgre Lan," yn gyhoeddus, ni raid iddynt gywilydd pe bai cewri'r Neuadd Goffa yn edrych arnynt. Wrth gwrs, yr oedd gan Waelodygarth y fantais o lenni mwy pwrpasol. Gan i un perthynol i'r parti ofyn i mi roddi barn arno yn y Darian," dy- wcdaf y gallai'r pwyslais a'r goslef mewn mannau fod yn well. Yr oedd ccfn rhai o'r actwyr yn y golwg yn rhy ami, a gallent defnyddio rhagor ar ffrynt y llwyfan. Nid oedd pob un yn siwr o'i bart yn nechreu y ddrama. Cymeriadau rhagorol oedd y gweinid- og a'i ferch, y ffarmwr a'i wraig, y carwr a'r arwerthwr.. Yr oedd yr oc- siwn yng Nghwmbach i fyny os nad yn well nag yn y Neuadd Goffa. I ateb syniad ei gwr 'am dani, dichon y gallasai y wraig fod yn fwy tafodog, a thanio a chodi ei chloch yn fwy ar adegau. Da iawn, er hynny, oedd ei thaerineb am ateb gan ferch y gwein- idog. Yr oedd yr hen weinidog yn peri i-mi feddwl am Walchmai neu Morris y Dyffryn. Yr oedd ei lais yn taro'r pwrpas i'r dim o ran ansawdd. Ni wn, er hynny, a oedd yn ddigon hyglyw i ben pella'r oriel. Deallaf fod y rhai a actient y gweinidog a'i ferch yn dal yr un berthynas yn ol y cnawd, yr hyn a, brofai yn fante tol iawn. Drama fer, ysgafn, naturiol, yw hon, a llawer o'r gelf sydd yn cuddio celf ynddi. Y mae yn lan a didramgwydd hefyd, ac arwr Cymru-y pregethwr- yn cael chwareu teg ynddi. I AP HEFIN.

Advertising

Ein Hysgolion Elfennol a'n…

Cwmbach.

Advertising