Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Beirdd y Bont. ]

News
Cite
Share

Beirdd y Bont. ] GAN BRYNFAB. DEWI WYN 0 ESSYLLT. (Parhad.) I ) Bu ffrae ddoniol rhyngddo a Meudwy Glan Elai unwaith. Nid wyf yn cofio yn iawn pa un ai yn y Gwladgarwr I neu y "Fellten" y bu yr ornest eng- lynol, ond ni waeth yn y byd am hynny. Un lied bigog oedd y Meudwy hefyd, a chaffai y sawl a ymyrrai ag ef mewn cynghanedd lawn dwy chwech am swllt. Crydd a llythyrgludydd fu y Meudwy am y rhan fwyaf o'i oes, ac ni fu Dewi yn ol o chwarae ar ei alwedigaethau wedi i'r frwydr fynd yn hoeth. Ebai Dewi:- Gwr o achau y gwrychyn,—ac arwr Y cWyr a'r pwyntrhedyn Ydyw efe, gwnaed a fynn, Dyna'i radd, dyna'i wreiddyn. Cyffyrddodd ag ef fel llythyrgludydd hefyd: Mi a adwaen y Meudwy,—mai ei waith Yn myn'd at bob trothwy I gario clee, a rhoi clwy' I frodyr clodforadwy. Yr oedd y Meudwy wedi rhoi "pills" yn flaenorol i Dewi, a daliai mai y rhai hynny oedd wedi ei gynhyrfu 1 ym- osod arno fel crydd, a gwas ei Mawr- hydi y Frenhines Victoria: Llyncaist y pills fel llencyn,—mi welaf, Mae'u holion yn canlyn; Er eu bias, wele'r gwas gwyn, Y gwreiddiol bills gan gryddyn. Danododd Dewi iddo ei wendid fel bardd yn rhedeg ar ol helgwn Llan- wynno. Yr oedd y Meudwy yn Nimrod cadarn, fel y profodd ei waith yn rhedeg oddiar y 11 wyf an cyn derbyn ei wobr, pan ddaeth yr helgwn heibio yn eu full cry." Ond nid oedd hoffder o hela yn anghlod yn y byd i fardd, crydd, na gwas ei Mawrhydi. Dyma fel yr atebodd ei gyhuddwr: Cydnaws im' hela cadno—hyd yr allt Ar ol ctfrn Llanwynno: Tra byddaf, cadwaf mewn co' Y gynnes adeg honno. Parhaodd yr ornest am wythnosau, a gwanodd Brythonfryn a Gurnos eu trwynau iddi cyn y diwedd; ond os do, ,cawaant deimlo blaen y myniawyd gan y Meudy: Hyn o ben Annibynnwr,—a sylwedd Silyn o bregethwr, ■efoai am lith y gwr moel ei gernau. Ond feallai y byddäi cystal gadael helynt,riewi a'r Meudwy yn y fan hon. Lied hwyrfrydig oedd Dewi i gyd- nabod galluoedd y llanciau oedd yn esgyn i fri barddol, yn enwedig os byddai i rai o honynt ei guro mewn cystadleuaeth. Nid oedd yn syl- weddoli fod ei nerth yn gwanhau, ac mai hynny gyfrifai am ei fod yn cael llaw-er codwm ar y maes cystadleuol. Pan gurwyd ef gan Berw ar Unig- rwydd yn Birkenhead, a chan Dyfed ar U Gwilym iraetho" yn Lerpwl, bu yn ysgythru yn ofnadwy. Ond yr oedd un pwynt da ynddo yn ei siomed- igaethau-priodolai ei holl anffodion i'r ffaith nad oedd y "beirniaid yn deall .eu gwaith," yn hytrach na haeru eu bod yn gwneud cam bwriadol ag ef. Ond, er ei holl wendidau, bydd Cym- ru yn hir cyn y gwel un o'i allu ymhob cyfeiriad. Dyna ddesgrifiad personol lied gyflawn o'r bardd. Rhaid oedd gwneud hynny, am fod miloedd o Gym- ry heb wybod dim am dano yn y cyfeir- iad hwnnw, tra mae agos pob bardd a lienor yn gwybod am ei allu yn y byd barddol. Ond gadewch i mi roi ychydig o ddarnau i ddangos ansawdd ei awen. Y mawreddog a'r tlws oedd y ddwy •e lfen amlycaf yn ei weithiau. Anodd taro ar lygedyn o ddifyrrwch mewn un man. Dyma fel yr agor. ei bryddest i'r "Mynydd" a-fu yn fuddugol yn un G Eisteddfodau y Rhos, Mountain Ash, tua deugain mlynedd yn 01:- Fel bardd uwch ei farwnad, wyt ddifrif dy wawr, •O'r gloewon wybrennydd yn edrych i lawr Ar fyd odditanat yn myn'd ar ei hynt, Efe yn cyfnewid, ond ti, megys cynt; Ti welaist dranc oesoedd,—wyt yna erioed, A'r nen ar dy ysgwydd, a'r byd wrth dy droed. I ddangos ei fod yn athronydd yn .ogystal a bardd, dyma ei gan ar Fferylliaeth Heddyw, mae'r dyfroedd yn cysgu'n y llyn, Yfory yn gorffwys yn darth ar y Joryn, Neu'n myn'd gyda'r gwynt Oylch ogylch yr awyr; ond hwy, maes o law, Ddisgynant i'r ddaear yn wlith ac yn wlaw, Yr un fath a chynt. Fe dardd y llysieuyn o'r ddaear i'r lan, Yn llawn o ryw fywyd, i farw'n y fan, Can's marw yw'r drefn; Bu farw y llynedd, ond ca'dd ei fywhau, Mae'n marw eIeni, ond marw y mae Er mwyn byw drachefn. I Y gloyn byw welir yn hedeg yn awr Goruwch y gwyrdd-ddolydd, mor bryd- ferth ei wawr, Pwy dybia mai ef Un waith fu'n ymgripian ar fresych yr ardd,— A gysgai'n ei blisgyn ar bared y bardd, Drwy'r gaeaf ystormus, ond heddyw a chwardd Rhwng daear a nef. ♦ Mor naturiol eto, y canodd i'r Blewyn Brith O! flewyn brych, Bu arnat unwaith olwg wych, Pan gynt y'th drown o flaen y drych; Glaswelltyn ir mewn ffrwythlawn dir Oe't ti, ger llawer ffrydlif grych; Ond heddyw, nid oes ffrwd a'th wlych, Na chwmwl clau wna'th ddyfrhau, Ac ail fywhau dy wreiddyn sych. Pan oeddit ti, Dan natur yn ei rhwysg a'i bri, A'th wreiddyn yn ei dyfroedd hi, A'm henaid innau'n drachtio'r lli,— Mor wyn fy myd-mor lion fy mryd,— Mor llawn o obaith oeddwn i. Ah! flewyn llwyd, Pe ymaith tynnwn di'n fy nwyd, Un arall yn dy le a gwyd: Ti blenni'm pen a'r almon wen, Gwas ffyddlawn iawn i henaint wyd. Beth sydd yn dynerach eto na'i englyn ar farwolaeth ei fam;- Boreu Gwener bu'r gwyneb-anwylwn Welwi mewn marwoldeb; Ochenaid y trychineb Yn ddau lyn wnai'm dwyrudd wleb. Cyfansoddodd lawer o awdlau a phryddestau meithion-yn ol arfer ei oes ef. Ni lafuriodd nemor i geisio en- nill y Gadair Genedlaethol. Nid wyf yn cofio ond am 4dwy ymdrech o'i eiddo yn y cyfeiriad hwnnw, sef yng Nghaernarfon ar "Y Flwyddyn," ac yn Lerpwl ar Hiraethog," ac aflwydd- iannus fu y ddau gynnyg. Yn Eis- teddfod Gadeiriol Deheudir Cymru yn Abertawe yn y flwyddyn 1880, enillodd ar yr awdl i "Syr Rowland Hill." Dyfed oedd yr ail oreu, a barnai llawer fod awdl y llanc yn rhagori. Cyhoedd- wyd y ddwy awdl, a chafwyd cyfle i fwrw barn arnynt. Yr oedd Dewi Wyn yn beirniadu ym Merthyr y flwyddyn ddilynol, pan enillodd Dyfed ei Gadair Genedlaethol gyntaf. Ond rhaid tynnu yr ysgrif hon i ben cyn mynd dros y ganfed ran o droion gyrfa y bardd o Essyllt. Hunodd ym Mhontypridd, a rhoddwyd ei weddillion i orwedd yn ei fro enedigol-yn Ninas Powys. Cyfodwyd cofadail urddasol o serch ac edmygedd cyfeillion ar "fan fechan ei fedd."

I -I Colofn y Ddrama. I

Advertising

Ein Hysgolion Elfennol a'n…

Cwmbach.

Advertising