Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
■EST far M ^■EDS and H ^Hekteads d OMMPP M PONTYPRIDD SWANSEA LLAMELLY T Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at 15 15/=! -———— —- < Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroohi Suite Manufacturers, essrs. B evan &Go., L d Wa es Largest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offelled r I Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch, 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
. Y Stori:
Y Stori: NANNO. BYWYD PEXTREFOL YM MON. Can J. Tywi Jones. Pennod IV. Yr Henfwth.-(Parhad). Oddiallan y mae yr olygfa! Mewn hafan yn y graig o'r neilltu, gwelir pentwr o bob math o hen gelfi,-hen geir, neu o leiaf ddarnau ohonynt; hen glychau heb olwynion ynddynt, a hen olwynion heb gylchau am danynt; hen fothau, hen geffylau heiyrn, hen Joeiriannau malu eithin a gwellt, hen bedolau ceffylau a mulod a bastard mulod. a llu o bethau ereill, Tlawer ohonynt yn cadw adgofion am y "llongddrylliadau" y bu'r "genesis" ynddynt ar y ffordd yn ystod ei grwydriadau drwy'r wlad. Dan unto a'r ty ceir hoewal, lie cedwid y car un adeg, ond llanwodd i fyny o hen harnis ceffylau a gweddillion. myrdd o bethau a gasglassi y "genesis" a'i dadau o bob man; a bu raid i Mathew wneyd hoewal newydd i gadw'r car. Cyfyng iawn yw ar yr anifail yn yr ystabl hefyd. Wiw iddo wyro llawer ar v dde nac ar yr aswy, rhag iddo dynnu pethau yn ei ben. Dyn bychan ydyw Mathew, yn cerdded yn heinyf pan yn medru cerdded, yn taflu ei draed yn syth yn ei flaen, ac yn edrych i fyny. Y mae ganddo lwvn o farf arw o gwmpas ei geg a'i en. Ceidw ei wallt braidd yn hir, ac yn y boreu bydd yr hyn a dyf un ochr i'w ben wedi ei droi yn claclus dros ei goryn moel, ond yn gorffwys, feallai, cyn nos ar ei ysgwydd. Y mae ei lygaid yn hynod fyw fel pe'n synu at bopeth a glyw ac a wel. Pan yn cychwyn yn y boreu, rhydd Mathew y merlyn, neu y farlen, y mul neu y bastard mul, fel y digwydd, yn y car ar y Jjuarth. Yn ami =bydd ganddo ferlyn yn cychwyn yn y boreu, a mul, neu fastard mul, yn dychwelyd yn y prynhawn; bryd arall bydd ganddo un o'r creaduriaid hyn yn cychwyn a merlyn neu farlen yn dychwelyd. Yr un modd gyda'r car nid yr un fydd ganddo'n dyfod yn ei ol ag oedd ganddo'n mynd. A'i gwn drachefn; daeargi fydd ganddo yn y boreu, milgi erbyn nos hynny yw, os na ddigwydd iddo ddychwelyd heb na cheffyl na mul, na char na chi. Digwydd felly wèithiau. Gwna'r ffeiriau a'r bargein- ion doniolaf yn ystod ei grwydriadau drwy y Wlad. Gall Mathew ymffrostio fod anifeil- iaid yn hoff ohono, ac fod anifail new- ydd ddaw ato ymhen diwrnod neu ddau yn deall ei ffordd i'r dim. Fel rheol, ar olrhbi'r merlyn. neu beth bynnag fyddo yn y car yn barod i gychwyn, bydd arno eisieu rhywbeth o'r ty, ac wrth gychwyn i'w 'nol, gwaedda "Dos yn dy fiaen," ac a'r anifail i lawr a saif wrth y giat ar ben y Ion, neu os bydd honno yn agor. a yn ei flaen at y Rose and Cr9wn, lie gwlycha Mathew ei big yn y bok,,e'u, Cychwynna Mathew ar ei ol Yl1: y man a'i chwip yn ei law, a'r ci ar ei1 ol, a dichon mai dyma'r olwg oreu geir ar Mathew yn ystod y diwrnod. Gellid tynnu'r casgliad, yn awr ei fod yn ddyn o fusnes. Bydd ar rai o ferched y pentref eisieu anion neu gael negeseuau; bydd yn well ganddynt anfon na chael fel rheol, oblegid y mae Mathew yn ddiogelach yn mynd nag ydyw yn dod. Bydd y rhai hyn ar y drysau yn ei wylio. Wedi gwrando ar genadwri un ohonynt, a phan ar droi i ffwrdd, odid na ddywed rywjbeth fel hyn, a golwg deimladwy iawn arlno: "Mistar Lewis, Cefn Eithin, sy' wedi myn'd, ynte 'rhen slaf, piti garw!" "Peidiwch a deud!" ddywedai honno yn syn. "Reit wir. wchi," ddywedai Mathew. Wrth un arall yn nes yn mlaen, dywedai yn llawn: "Ma' Mistar Lewis, Cefn eithin, wedi mynd i ffwr' y bora 'ma i Landrindod am iechvd gybeithio mendiff o'n fuan. Mae o'n hen fachgen reit glen." "Ydi, wir, v criadur, mae o wedi cael llawar o'i boeni gin rai tua'r capal yna," fyddai'i atebiad. Hwyrach mai ar Sian Huws y celai Mathew gipdrem nesaf, a chan edrych arni fel dialydd gwaed, galwai arm. a dvwedai wrthi "Sian Huws, 'rydach chi wedi mynnu lladd yr hen frawd o'r Cefn Eithin yn y capal yna. Mae o wedi mynd. Wyddoch chi be', bobol? Ma' dydd farn yn dod ar frys arnoch chi. 'Rydach chi wedi 'i ladd o a ch'lwvdda. Synnwn i ddim na fyddan' nhw'n ordro megina new- yddion i chwythu'r tan pan ewch chi i'r lie yna. Ma'i waed o ar y'ch dwylo chi'r mynud yma. mi gyma fy llw." Edrychai Sian ar ei dwylaw, a syrthiai ei gwynepryd ar unwaith. Xi ddangosai ei hwyneb yn yr ystryd am oriau. Byddai gwahanol weddau y stori yn ymladd yn hir am orucha- fiaeth. Yn y diwedd, tystiai rhai mai hen sglyfath c'lwyddog oedd Mathew Martin, a'r lleill na ddywedasai ond y gwir noeth. Foreu arall, byddai stori Mathew i rai fel y canlyn:— "Mochyn Margiad Ifas, Ty'rallt, sy' wedi marw'n, te?" "Ydach chi ddim yn deud?" "Mae o'n reit wir, wchi," ddywedai Mathew. 'Wel, y greduras dlawd, a hitha heb neb Odd o'n flit ladd hefyd! Tydi'n ne b Odd o'n ffit la re syn!" "Wel, odd wchi, 'n reit ffit," ddyw- edai Mathew. I ereill byddai'r stori wedi newid; gofynai Mathew. "Sut mae'r moch yn dod ymlaen hefo chi ?" "Siort ora; fyddan' yn barod yn reit fuan. "Wyddoch chi be' ddywedai Mathew, "mi laddis i fochyn short noblia i Margiad If as, Ty'rallt, neithiwr  wc h i." Elai rhan fawr o'r o'r dydd heibio eto cyn; bawb sylweddoli mai Mathew ei hun, angau cydnabyddedig moch yr ardal, gymerasai ymaith fywyd mochyn Marged Ifans yn y dull arferol. Gellid ysgrifennu cyfrolau ar "genesis" Mathew yn y cyfeiriad hwn, a chan nad Jbeth feddylir am dano, nid oes amheu- aeth na wna'i ran i gadw ysbryd pruddglwyf rhag dod bwyso ar lon- yddwch Llandderwydd. Hogyn difarf, heb gyrraedd ei ugain oed, oedd Jac Martin pan soniasom am dano gyntaf, yn treulio ei amser i ddal cwningod, i grwydro weithiau yn lie ei dad, ac i wneyd man orchwylion i hwn a'r llall. Yr oedd yn fachgen ieuanc hynod o hawdd ei hoffi. Nid oedd gan neb, y byddai ,eu gair o werth, ddim drwg i'w ddyweyd am Jac. Nid oedd angen craffter mawr i weled fod ynddo alluoedd gwertfhfawr pe disgyblid hwy yn briodol. Prawf o hyn oedd ei fedr i gymeryd i fyny frawddegau Saesneg, a chofio rmhale y cawsai bob un ohon- ynt. Hyd yn hyn, ni ddaethai bwriad gwell i'w feddwl na bod yn ail-argra- ffiad o'i dad a pharhau traddodiadau yr Henfwth. Yr unig rai y teimlai Jac yn ddlgofus tuag atynt, oedd Sian Huws Mr Tom- os Sparcer, a Huw Morus. Neu, feallai fod y gair digofus yn rhy gryf; y rhai hyn yn unig fuont yn nod i'w ddireidi a'i watwareg ddeifiol, ac ar oedd rhesymau am hyn. Dirmygai Sparcer Jac fel y dirmygai lawer ereill yn ddireswm. Clywai Jac lawer o'i hanes yntau nas gwyddai Llandder- wydd am dano, a chai bleser mawr mewn gallu crafu Sparcer i'r byw. Bu Sian Huws un adeg yn prynu cwnhingod Jac i'w gwerthu ym Man- gor, ond ni chafodd Jac erioed y pris a addawsai hi ei hun yn llawn ganddi. Tystiai bob amser ei bod wedi colli arian ynddynt. Y canlyniad fu i Jac nid yn unig wrthod ei wningod i Sian, ond casglu holl wningod yr ardal a myned i Fangor i'w gwerthu ei hun, a chael allan y gallai Sian fod wedi gwneyd cryn arian ar ei draul ef. Colled nid bychan oedd hyn i Sian, ac ni flinai gyhoeddi dial y Nefoedd ar yr Henfwth a'i breswylwyr. Daliodd Jac Huw Morus yn cymeryd cwnhingod o'i hamper fwy nag un- waith. A thro difrifol o wael ydyw hyn ag unrhyw un. Cymerai Jac at ei boenydio bob cyfle gai o hyn allan. Dynwaredai osgo fawreddog Huw yn pasio rhai heb eu gweled ar y ffordd, ac yn cyrlio blaenau ei fwstash. By- gythiai fyned ag achos y cwnhingod i seiat y Methodistiaid. Tystiai mai yn yr eglwys y dylasai Huw fod yn aelod, ac y cawsai yno wneyd yn agored y pethau a wnai yn llwynogaidd yn y Capel Mawr. Dychryn parhaus oedd Jac Martin i Huw. Gwelir fod gan Jac mewn unrhyw ffrae fantais ar ei elyn- ion. Nid oedd ganddynt hwy ddim i'w edliw iddo ef y byddai eisieu iddo gywilyddio o'i blegid, tra yr oedd gan- ddynt lawer i'w ofni oddiwrtho un- waith y cynhyrfent ei watwareg. Treuliai Jac gryn lawer o amser yn y Rose and Crown, nid yn gymaint er mwyn yr hyn a yfai, ag am y dygai rhai wnhingod yno i'w gyfarfod yn awr ac eilwaith, ac efallai er mwyn y cwmni. Yno yr oedd un noson, ymhen rhyw bythefnos ar ol y daith i Fangor a nod- asom, pan welid dau heddgeidwad yn cerdded i fyny'n araf ac yn Jiwysig drwy'r pentref. Heddgeidwad yr ar- dal, Huw Roberts, o Benmorfa, oedd un ohonynt. a Sergt. Ketchum, o Fan- gor, oedd y llall. Mawr oedd y dyfalu pwy oedd y troseddwr a geisient. Yr oedd Sparcer yn y Rose and Crown, ac awgrymai ef mai Sian Huws oedd wedi methu cadw ei dwylaw yn Honydd, ond gwelwai ef ei hun wrth ddyweyd. Par- odd yr olwg arno i Jac Martin awgrymu mai Sparcer ei hun fyddai yn y ddalfa am rai o'i aml-gamweddau. Rhegodd Sparcer mor frwmstanaidd ag y medrai i guddio ei ofn. j Pan welodd Sian Huws y swyddogion yn myned heibio, tystiai hi mai at Marthew Martin yr oeddent yn myned, ac fod c'lwydda, neu feddwi, neu ladrad, neu rywbeth ysgeler arall yn y cwestiwn. Gwelwyd mai i Ion yr Hen- fwth y troisant hefyd. Teimlai Sian Huws yn awr fod y dial a ragddywed- asai hi wedi dechreu disgyn, ac mai "serfio'r hen sglyfaethod, Mathew a Jac, yn siort ora fydda 'u rhoid nhw mewn lie saff am dipyn." Tro Jac i'w boenydio ydoedd yn y Rose and Crown erbyn hyn. Yr oedd Jac i fyny a hwy i gyd. "Wyddoch chi'n iawn," meddai, "mod i a 'nhad yn gwbod y'ch hanas chi bob sowl ohonoch chi, a falla mai wedi dwad i chwilio am evidence ma' nhw, i grogi rhai ohonoch chi." Ymhen enyd daeth cenad i alw Jac i'r ty. 'Roeddwn i'n meddwl," meddai, na fedre nhw neud dim heb- ddo i." (I barhau.)
f Docs Rhydyfro.II
Docs Rhydyfro. I Mr Gol.—Gwelais yn ddiweddar gy- feiriad at y docs yn y Darian gan un dan yr enw Brutys. Efallai y caniat- ewch i mi, fel un a anwyd ac a fag- wyd yn y He, ychydig ofod er rhoi eu hanes. Pan oeddwn yn hogyn bychan yn un o amaethdai y Gwrhyd addewid arbenig ein mamau i ni fel plant, ond i ni fod yn blant da, oedd y caem fyned i weled y Docs i Rhydy- fro, a gwnai hon ni yn blant da ar un- waith. Pan welem ein mam yn gwisgo i fyned allan byddem yn crefu ac yn gwaeddi am fyned gyda hi, a'r ffordd a gymerai er rhoddi taw ar ein hys- grechfeydd fyddai rhoddi addewid y caem fyned gyda hi i weled y Docs ddydd Sadwrn. A dyna He y byddem yn neidio gan falchder ac yn gwaeddi, He he, w i yn mynd i wledd Docs Rhydyfro gyda mam ddydd Sadwrn, chai di ddim dod, a mi fyddai i yn prynu ceffyl a chart ar y farchnad yno, yr un peth a sy gyta nhad," ond elai y Docs yn anghof drachefn. Un diwrnod beth bynnag yr oeddwn wedi gwneyd penderfyniad y mynnwn fyned gyda hi i weled y Docs, deued a ddeuai. "Tacla te" meddai mam yn dawel, "ond a wyt ti yn gwpod beth yw'r peth cynta sy raid i ti neyd wrth fynd drwy'r glwyd i'r dre?" Na wn i" meddwn. "a dyw e un gwahaniaeth da fi ed beth yw,e, wi yn dod." "Wel os wyt ti'n folon cusanu'r Maer lie na ma neb yn arfer cusanu, eitha da," meddai mam. "Mae pob un sy'n mynd i Rydyfro y tro cyntaf yn gorfod gwneyd hyny, cofia. Nid oedd y gor- chwyl hwnw yn flasus yn fy ngolwg, a rhag ofn mai felly y byddai pender- fynais aros gartref. Fel y tyfwn i fyny cynyddai fy awydd am weled y Docs, a phoenwn fy mam yn feunyddiol. Digwyddai fy nillad fod yn llwyd ac yn dyllog, ac addawodd mam y cawn fyned gyda hi y Sadwrn dilynol i Rydyfro i fesur am siwt o ddillad, ac i weled y Docs. Rhwng y ddwy addewid yr oeddwn yn an o'r plant dedwyddaf ar y Gwrhyd. Y Sad- wrn a ddaeth, ac i Rydyfro yr aethom, ond nid oedd y Maer wrth y glwyd y diwrnod hwnnw fel y dywedasal mam. Dichon ei fod yn glaf, ond gan nad pa le yr oedd yr oeddwn i yn llawen am nad oedd yno, ac ni fu raid i mi wneyd yr hyn a ofnaswn. Mesurwyd fi gan y teiliwr, a gwelais y Docs a'r llon- gau, a chefais fwynhad wrth edrych arnynt, a mwynhad hefyd wrth feddwl y dash a dorwn ar ol siwt o ddillad cot felfed a llodrau rib. Daeth y su fod y dillad yn barod, a chefais innau fyned fy hunan i Rydy- fro i'w nol; ofnwn y byddai y Maer wrth y glwyd y diwrnod hwnw, ond nid felly yr oedd. Cefais heol glir, a chefais fy nillad yn barod yn ol yr add- ewid, yr hyn oedd yn groes i arferion teilwriaid. Wedi eu cael methais fy- ned adref heb weled y Docs. Dranoeth, sef y Sul, a Sul nad an- ghofiaf byth oherwydd yr hyn a ddig- wyddodd, yr oeddwn yn fy ngwisg. newydd, ac yn honno y cychwynais am y tro syntaf i Ysgol Sul Saron yn nghwmni fy nhad. Teimlwn fy llodr- au yn dyn, yr oeddynt yn fach ac yn anghysurus iawn. Daeth yr ysgol i'r terfyn a chychwynasom ein dau tuag adref v ffordd v daethom. Yr oedd ein taith drwy gae lie yr oedd nifer o bob math o geffylau yn pori ochr yn ochr, ynghyd a nifer dda o ieir a gwyddau. Wrth groesi'r gamfa o un cae i'r llall neidiodcj un o fotymau fy llodrau ymaith nes taro fy nhad yn ei dalcen. Hobiodd oddi yno ar draws un o'r ceffylau nes ei fwrw i'r llawr, yna un arall, ac un arall, nes yr oedd chwech o honynt yn feirwon un ar ol y llall. Rholiodd y botwm yn ei flaen a tharo- wodd hen geiliocwydd mawr yn ei ben nes yr oedd yn troi fel olwyn. Digwy- ddais fod ar y cae hwnw ymhen deu- gain niwrnod wedi hyny, ac yr oedd yr hen geilocwydd yn troi o hyd. Dechreu- odd y gweddil o'r gwyddau waeddi a'r ieir glochdar nes y darfu i hen geiliog oedd yn rhwym wrth gart a'i lond o gerrig gymeryd ei edyn, ac i fyny i'r awyr yr aeth a'r llwyth cerrig yn rhw- ym wrth ei goes. Tra yn hedeg trwy yr uchelderau disgynai y cerrig o'r cart ar bennau y trigolion, nes v dcchreuasant waeddi ar i'r dyn yn y lleuad adael ei ystranciau, Erbyn hyo yr oedd y botwm wedi rholio i lawr y pentref a dinystrio pob peth fel y cerd- dai. Aeth i'r Docs, lie y suddodd ddwy long ddigwyddodd fod ar ei ffordd. Mae yr hanes yna yn wir bob gair, Mr Gol, ond efallai y byddwch chwi fel pregethwr yn fy anghredu. Oni bai i mi weled y cwbl fy hunan efallai y buaswn gymaint anghredadyn a neb, a dichon cewch glywed pethau odach na'r rhai yna. Yn awr rhoddaf gipdrem dros hanes v Docs. I Driugain mlynedd yn ol yr oeddynt yn llawn bri, ac nid bychan ychwaith oedd yr allforiad o honynt. Yr oedd amryw o weithfaoedd mawrion ar eu glanau, yr hyn at olygai arbediad traul ac hwylusdod i'r perchenogion anturi- aethus. Yn y cyfnod hwnnw yr oedd preswylwyr Rhydyfro yn alluog i droi allan bob math ar nwyddau oedd yn angenrheidiol ar y ddynoliaeth. Yr oedd eu masnach yn eang a galw am eu cynhyrchion ym mhellafoedd y dda- ear, ac o herwydd y gofyn a'r galw cyson hwnnw cedwid y Docs yn bar- haus yn llawnion o longau mwyaf y byd. J Cofiaf un tro fod llong fwyaf y byd y pryd hwnnw yn ceisio myned i mewn i un o'r Docs. Yr oedd v Ilanw braidd yn isel iddi nofio, ac yr oedd, wrth reswm, yn drom i wyr y Docs ei chario i fewn. Yr oedd wedi sefyll yn hollol Methai yr awdurdodau a deall beth oedd i'w wneyd yn yr anhawster, ac yn y dyryswch bu agos i'r prif swyd- dog gyflawni hunanladdiad. Y diwrnod blaenorol yr oedd rhai o'r brodorion wedi bod yn dal llysywod yn v Docs, a'r hen William y Bwtshwr ac eraill oedd a'r gwaith o'u blingo.. Yr oeddynt yn ofnadwy o fawr, yn ddigon i beri dychryn i ddyn gwan. Yr oedd yn ofynol cael hanner dwsin o ddynion nerthol i'w troi. Tra yr oedd yr awdurdodau mewn penbleth beth i'w wneyd cofiodd un o honynt am y llys- ywod, a daeth i'w feddwl y gallasent fod o gynhorthwy iddynt yn eu helbul. Heb aros i bendrymu ychwaneg aeth ar ei union at William gan egluro iddo yr anhawster yr oeddynt ynddo, a gof- yn iddo yr un pryd am un neu ddwy o honynt at eu gwasanaeth. Dywedodd William y gallasai gael cymaint ag oedd eisiau o grwyn. Cwmerodd un beth bynnag, a dywedodd, gyda Haw, os byddai angen ychwaneg ei fod yn gwybod pa le i'w cael. Cafodd gyn- horthwy dau o'r blingwyr gan 'William er cario'r croen at y Docs. Wedi ym- gynghori a'r awdurdodau penderfyna- sant gylymu un pen i'r llysywen wrth ben blaen y llong, yr hwn oedd gyfer- byn a melin falu Gelligron, ac yna cyl- ymu y pen arall am un o goed afalau Pegi'r Gwehydd ymhen uchaf y fro. Gan fod y rhywogaeth yma o deulu'r dwr yn anawdd ganddynt farw tyn- wyd y llong i fewn i'r doc erbyn boreu drannoeth, trwy waith y llysywen yn ceision gwneyd ei hun yn dorch, a rhyddhawyd yr awdurdodau o flinder mawr. Boreu drannoeth dechreuwyd ei llanw o frethynoedd wedi eu gweu o. wlan defaid mynyddoedd y Gwrhyd a'r Baran. Gosodwyd i fewn hefyd be- dair tunnell o loshyn du a Spanish o waith Modryb Pegi, tri chan tunnell o flawd o felin Gelligron, can tunnell o gloron oddiar dir Gellilwca Fach, a 550 o dunnelli o fonau cabbage o ardd yr hen Frenin i fyned i'r Llywodraeth i adeiladu llongau rhyfel. HEN WR O'R LLE.
Advertising
"SARZNE" BLOOD MIXTURE CROEN IACH A GWAED PUR.- Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, l/li a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. ps'?'  )  ???. ?? O???weh !mt ?)tn?d a chwi .m 1 Odif fyg Gwaed I Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd M ?? ??SS ?°?? a gwyn-y coch i faethu'r cod£. f y gwyn i ymladd agafiechyd. Mewn L Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cochion wjfjffi' yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni all y gwaed gynnal y corff yn briodol a'i faethu. Mae'r llygaid yn farwaidd, tSS^y K y wyneb yn wyn, a daw teimlad Jn o ludded difrifol drwy yr holl gyfan- ■ soddiad. Nid oes dim mor effeithiol W t W mewn achos o Ddiflyg Gwaed a 'Wincarnis'Oherwydd Ileinw I Win- U Itv H carnis' y corff a gwaed coch, newydd, cyfoethog, a rydd ddisgleirdeb yn y ^ml U v^l llygaid, ddwg rosynnau i'r gruddiau, M ac a rydd ynni newydd, bywiogrwydd mwydd, a bywyd menydd i'r holl gorC Dechreawch wella yn N?BBHtt?tNt? ? \?? RHAD ???N???t\ ???tM t -'?'?M Tfh?yw Ma?M??????e??MMh' .14 myw Has ood di<on i wn?td H«s. Amtnmm .r(I dalu'r cludiad). ??tt COLEMAN ? CO.. LTo.. ?'?.  \?r W. tM. Wiscamis W«tB. Ne??et. "QwIa w" ??ymeradwylr gaD dros 10, 0 FecldygOD.  ILE14, RAVEL N MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLfAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. i.-George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. a. George's Gravel Pills (label las) No. 3.-3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvohau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. GoohelwcH Dwyll"r I-Gofynweh yn eglur am "{George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PEBCHENOG- J. E. GEORGE, NI.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.