Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
I. TO LE T
Advertising
W. Williams I CO. JEWELLERS, &G-o 29 Castle St., Swansea. Speotalttios l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ^GAG^ffiNT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS, ISet. GOLD KEKPKRS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoC, ae w b ? y oya" Os am beirdd fodrwy?u M?. Oriadnron M awrieisiao, Gemaa a chad wynan claer: Yspectol gelfydd. hip-fynegydd, CWM wd;;8r Geir gM W ut H y oesta Tr<?oh! mewn i wel'd ei iw.
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Gwlad a Senedd Tud. 1 Colofn Llafur „ 1 Ysgrapiau o'm Hysgrepan gan Ap Hefin 1 Nanno" 2 Docs Rhydyfro 2 Dewi Wyn o Esyllt gan Brynfab 3 Asgre Lan yng Nghwmbach 3 Ein Hysgolion Elfennol a n Hathrawon 3 Y Cwmni Dramodol Cenedlaethol 4 Colofn y Bobl Ieuainc 5 Cwrdd y Mwg Gwyn yn Llan- samlet 5 Abertawe 5 Cyngor Plwy Dulais Uchaf. 5 Briwsion Mab y Mynydd 5 Colofn y Plant „ 6 Tlodi, Cysur a Chyfoeth 6 Beirniadaeth Gwili 6 Undeb y Cymdeithasau Cym- raeg 6 Beirniadaeth Brynfab 7 Beirniadaeth yr Athro Timothy Lewis, M.A. 7 Beirniadaeth Parch. W. Evans. 8 Hanesion Lleol 8
GWLAD A SENEDD.
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. j Difrod y Merched. Dal i ddinystrio, trwy y morthwyl, y ffwyell, a'r fflam y mae y Suffragettes. Y maent wedi llosgi pump o Eglwysdai i lawr mewn blwyddyn a hanner. Aeth tua mil o Ryddfrydwyr Bryste yr holl ffordd i Gricciaeth gydag anrheg i Mr Lloyd George yn ogystal ag i gael araith ganodo, yr wythnos cyn y ddi- weddaf. Tra yr oedd y cyflwyno a'r areithio yn mynd ymlaen yr oedd y marched aU morthwylionwrtht yn torri ffenestri sicFpwyr Criccieth. Gwnaeth- ant wertli dros Aso o ddifrod. Ymwel- ant o hyd hefyd ag orielau celf a din- ystriant ddarluniau costus ac uchel- ryw. Dydd Gwener wythnos i'r di- weddaf llosgasant Eglwysdy hynafol Breadsall yn Swydd Derby a estynai yn ol dros saith cant a haner o flynydd- oedd, ac a gynhwysai greiriau hynaf- ieithol gwerthfawr. Pa ddaioni all ddeilliaw oddiwrth anfadwaith o'r fath ? I Derbyniodd Toriaith ergydion trym- ion iawn yn ddiweddar. Ar wahan i wanychiad nerth Mr. Joseph Chamber- lain, gwelodd golli trwy yr angau Iarll Percy, larll Cawdor, Mr Lyttelton, a'r wythnos cyn y diweddaf Syr William Anson. Ysgolhaig ac awdurdod ar ddeddf wr- iaeth gyfansoddiadol gan mwyaf oedd ?fe. Ni wnaeth fare ar y llwyfan, ond telid cryn warogaeth iddo pan siaradai ar bynciau addysg ac ar y Cyfansodd- iad Prydeinig. Efe oedd prif swydd- og Bwrdd Addysg yn Nhy y Cyffredin. Efe hefyd hwyliodd Ddeddf 1902 trwy y Ty. Yr oedd yn Dori o'r Toriaid, ac yn bur groes i fesurau o duedd werin- ol. Cyfrifir ei lyfr, Law and Custom ofathe Constitution," yn waith clasurol ac uwchraddol. Ychydig iawn sydd j yn aros yn Nhy y Cyffredin o'r rhai oeddynt yn llywodraeth olaf Mr. Bal- four. Darogenir eto, yng ngwersylloedd Toriaith, ein bod ar fin Etholiad Cyffredinol. Pa Bryd? Dyna'r cwestiwn pwysig. A un o wyr mawr yr wrthblaÏd mor 'bell ag enwi dyddiad, yn y mis nesaf, pryd yr apelir unwaith eto at y wlad. Tery hyn yn syth yn erbyn geiriau pendant Mr.. Lloyd George dydd Mawrth diweddaf. Tystiodd y Canghellor na wnaent ddim o'r fath beth a thorri y Senedd i fyny.ar hyn o bryd. Y mae y cynhaeaf mawr Rhyddfrydol yn galw am gael ei gywain i'r ysgubor yn gyntaf. Dywedai na fyddent yn ddim amgen ynfydion a llwfriaid pe taflent bethau i fyny yn y eyfwng presennol. Ond atolwg, a yw yr Arglwyddi yn barod i basio mesur Un dyn un bleidlais ? Gofynnol yw i'r Llywodraeth aros mewn swydd am o leiaf flwyddyn gyfan eto, os yw y mesur pwysig hwn i'w droi yn ddeddf. Heblaw hynny geilw Rhaglen y Senedd-dymor Presennol am fisoedd o waith caled. Teimlir yn bur sicr y Jbydd i'r Arglwyddi luchio Mesur Ymreolaeth Iwerddon allan bendramwnwgl y cyfle cyntaf. Ond rhaid fydd iddynt ystyr yr ail fesur Gwyddelig. Yn ol yr argoelion, ca Datgysylltiad fwy o barch yn y Ty Dchaf. Tebygol yw y pesir ef ac y «wneir cyfnewidiadau ynddo. Nid cariad at yr egwyddor a gynhwysa bery hyn, ond ei drefniadau ariannol. Dis- gwylir y ceisia yr Arglwyddi sicrhau mwy o'r gwaddoliadau i'r eglwys. Rhaid fydd i Dy y Cyffredin ail ystyried y pethau hyn. Yn ffodus y mae y gair terfynol i'w roddi gan gynrychiolwyr y werin. Heblaw yr uchod, geilw y Budget am lawer iawn o amser ein Seneddwyr eleni. Fel y nodasom ych- ydig wyflhnosau yn ol, bydd yn ofynnol cael pedwar neu bump o fesurau Sen- eddol trwy y Ty os yw darpariadau y Gyllideb i'w cario unwaith y flwyddyn hon. Coflaid arall yw cynhygion y Llywodraeth i ddiwygio Ty yr Ar- glwyddi. Addawodd Mr Asquith yn y rhagair i Ddeddf y Senedd tua thair blynedd yn ol y bwriad o greu y Ty Uchaf o'r newydd, ac y mae disgwyl pryderus a dyfal wedi bod am gael gwybod ei gynllun. Gofynnol fydd dadlu y cwestiwn hwn yn ystod y tri mis nesaf. Son am etholiad cyffredin- ol, y mae y fath beth allan o'r cwes- I tiwn, os na ddigwydda daeargryn wleidyddol o ryw fath neu gilydd. Ac 1 o ran hynny nid yw y wlad yn galw am y fath beth. Os yw y Llywodraeth wedi colli ychydig s%ddau, nid yw yr wrthblaid Doriaidd yn enill tir. Daw y colledion yn hollol oddiwrth y gwrth- darawiad oanffodus cydrhwng Rhydd- frydiaeth a Llafur. Nid blino ar ddeddfwriaeth Lloyd George y mae y wlad, ond blino ar arafwch y Llywod- raeth yn deddfu ychwaneg i'r un cyfeir- iad. Arwyddair Rhyddfrydiaeth heddyw ddylasai fod y geiriau osododd Punch yn ngenau y diweddar Syr Henry Campbell Bannerman pan ym- aflodd yn awenau y Llywodraeth fwy nag wyth mlynedd yn ol, sef, u Full Steam ahead." Byrhau Oriau Tafarnwyr. Daeth Deddf Ddirwestol J.913 i rym yn Scotland Mai ,.28aipu.» sO'x jiyddfc hwnnw ni chaniateir agor tafarndy yn y wlad cyn deg o'r gloch yn y bore. Delia y ddeddf yr un modd a chlybiau mor bell ag yr a diodydd meddwol. Ni wna hyn fawr gwahaniaeth mewn ardaloedd gwledig ond crea chwilHroad nid bychan yn y dinasoedd mawnon ac mewn ardaloedd gweithfaol. Ym- ddengys ei bod yn arferiad gyda llawer o weithwyr Scotland i fyned i'r dafarn ar awr brecwast, ac mai eu dogn dyddiol fyddai glasiad o whisci yn cael ei ddilyn gan beint- o gwrw, a hynny yn fynych ar gylla gwag. Dilynid hyn gan ganlyniadau tra annymunol: drygai yr iechyd yn enbyd, ac arwein- iai i feddwdod. Dywedir fod y goreu- on o'r gweithwyr a bron yr oil o'u har- weinwyr yn ffafriol i'r ddeddf newydd. Daeth i mewn yn hynod ddidwrw, ac ni chafwyd dadlu o gwbl yn ei herbyn gan y werin. Yn unig condemnir hi yn ddi- arbed gan dafarnwyr a bragwyr. Cau- odd un gwr ei dafarn i fyny yn Dundee am fod cau hyd ddeg o'r gloch yn gol- ygu dinystrio ei fasnach bron yn holl- ol. Yn yr un ddinas hefyd ceid cerdyn yn ffenestri yr holl dafarndai yn dwyn y traethiad canlynol Trwy orch- ymyn y Llywodraeth Rhyddfrydol ni agorir y masnachdy hwn hyd 10 o'r gloch y bore ar ac ar ol dydd Gwener nesaf." Disgwylir cryn gyfnewidiad yn mywydau llawer o weithwyr trwy y trefniant newydd. Un o orchestun seneddol yr Ysgotiaid oedd cael eu deddf trwy y Senedd yn nghan)l prysui'deb a threialon Sene kl-oyrw r 1913. Gwrthdystiad Cryf Rheithior Ecton. I Buddiol yw i ni y Cymry gael cipolwg ar bethau y tuhwnt i'r lien yn mywyd Eglwysig Lloegr. I'r diben hwnnw bydd llythyr gwrol y Parch. A. W. Jephson yn help inni. Ymddengys fod yr Archesgobion a'r Esgobion oil wedi dyrtiuno am i ddydd Gwener, Mehefin 12ed. gael ei ddefnyddio yn ddydd o weddi yn erbyn Mesur Datgysylltiol y Llywodraeth. Y fath bethau rhyfedd geisir wrth Orsedd Gras! Apelir at Dywysog Tangnefedd ar iddo Ef lwyddo arfau gwaedlyd rhyfel! Ac wele yr Esgobion yn gofyn am fendith ac amddiffyn y nef ar yr egwyddor o grefydd Crist yn hualau llywodraefh fydol, elynol hollol i'w hysbryd! Pwy fedr adrodd holl greulonderau eglwysi gwladol y byd a'r gwaed gwirion a dy- walltwyd ganddynt? Dywed Mr Jephson ei fod ef er yn Ficer yn Eglwys Loegr yn eredu mewn Datgysylltiad, a rhydd ei resymau dros hynny, yn groyw ac yn ddigel ddigon. Cyfeiria at lythyr Esgob Peterborough atto. yr hwn a ddywed fel y eanlyn Pe trinid yr Esgobaeth hon, fel y trinir Esgobaethau Cymru dan y mesur, ar gyfartaledd dygid ymaith 18s. Hie. o bob punt o'n gwaddoliadau, gan adael Is. Ole. yn unig ar ol." Beth olyga hyn, gofynna Mr Jephson, ond nad yw Eglwyswyr am dros 250 o flyn- yddau wedi tybio ei bod yn werth rhoddi neu adael gwaddoliadau i'r eglwys. Dywed yn mhellach ei fod yn gweled oddiwrth yr adroddiad fod 195 o bentrefi yn Esgobaeth Peterborough heb wneud unrhyw gasgliad o gwbl at y drysorfa i sicrhau ciwradiaid ych- wanegol. Lled-dybiai hefyd fod nifer cyffelyb heb gyfrannu dim at y gwaith cenhadol. Tystia fod y gwaddoliadau. wedi lladd yspryd cyfrannu. Agorwyd y Senedd dydd Gwener mewn cryn dawelwch er fod tyrfa anarferol fawr o'r aelodau wedi dod ynghyd. Erbyn dydd Iau ym- ddanghosai yr hen yspryd fel cynt. Ni chollwyd amser heb wneud ym- osodiadau Ilidiog ar Mr. Lloyd George. Yr oedd wedi dweud yn ei araith yng Nghricieth fod nifer o uchelwyr y deyrnas yma wedi gor- foleddu yn y rhagolwg o weled anufudd-dod a gwrthryfel yn y fyddin. Ymholent a'r Prif-weinidog os oedd y fath beth wedi cymeryd lie. Atebwyd hwy yn bur syth gan y Canghellor yr hwn na ddywedai nad oedd ganddo air i'w dynnu yn ol, ac y gallasai gael prawfion di- gonol o'i haeriad fod llu o Doriaid wedi gwneud eu goreu i ennyn drwg yn y fyddin. Cafwyd ymdriniad pwysic ar i ACHOS Y SUFFRAGETTES. Ymosodwyd ar Mr. McKtnna, yr Ysgrifenydd Cartrefol, i wahanol: gyfeiriadau. Awgrymai rhai y dylasai adael i'r merched, oedd yn gwrthod bwytta yn y carchar, farw o eisieu bwyd. Mynnai ereill all- tudio yr holl o honynt i ryw ynys yn y mor, tra y daliai trydydd gwmni mai yr unig lwybr ddylid gymeryd yw caniatau y bleidlais iddynt. Yn ei atebiad dywedodd y?r??gnf?M?yd?MSMtt?oi na&galkir feddwi, am ,y blkenaf, ae o ran hynny nad oedd dim a roddai fwy o foddlonrwydd i dyrfa o'r merched mwyaf beiddgar na gwneud rhai ohonynt yn ferthyron i'r achos. Am yr ail awgrym daliai ei fod allan o'r cwestiwn. Pe byddai, iddynt alltudio y merched y deuent yn ol drachefn. Hysbysodd er hynny fod y llywodraeth wedi cymeryd meddiant o nifer o swydd- feydd cymdeithasau y 'suffragettes,' ac felly wedi cael o hyd i lawer o'u llenyddiaetha'ueyfrifon. Tystiodd fod llawer o foneddigesau cyf- oethog yn cyfrannu at y cymdeith- asau hyn a'i fod yn meddwl y gellir eu gwneuthur yn gyfrifol mewn ystyr ariannol am y difrod a wneir gan y merched ar eiddo. Barna pe gellid gwneud hyn y darfyddai y son am Mrs. Pankhurst yn bur fuan. Ond peth pwysig iawn arall a ddy- wedwyd gan Mr. McKenna oedd, fod ganddo le cryf i gredu y beiid y suffragettes' yn fynych am danau nad oedd a fynnent a hwy: fod dynion yn yswirio eu meddiannau, yna yn gosod tan ynddynt ac yn gwasgar llenyddiaeth neilltuol er mwyn taflu y bai ar yr uchod! Beth" nesaf wys ? BYDDINOEDD IWERDDON. Dal i gynhyddu yn gyflym mewn rhifedi a ffafr y mae byddin gen- hedlaethol Iwerddon, ond deffry bryder mewn llawer mynwes. Nis gall dim llai na gwyrth gadw y pleidiau rhag taro os na wneir rhywbeth gan y pleidiau seneddol i sicrhau dealltwriaeth lawn a phar- haol ar bwnc Ulster. Meddylier am niferi lluosog o'r ddwy blaid yn myned trwy ymarferiadau milwrol yn ninas Belfast yn unig. Rhaid dweud er hynny fod llawer o ar- weinwyr Toriaidd y wlad hon wedi dofi cryn dipyn. ac fod Syr Edward Carson yn pwyllo. Erys Mr. Bonar Law mor anghymodlon ag erioed a chwvtha fygythion a chelanedd fel pe rhyfel gartrefol a llwyr ddym- chweliad gallu Pryden yn unig nod ei fywyd. Mewn atebiad i ofyniad dywedodd Mr. Asquith y gellir dwyn i fewn yr ail fesur sydd yn ymwneud ag achos Ulster cyn i Fesur Ymreolaeth fyned nemor pellach trwy Dy yr Arglwyddi.
[No title]
Gwnaeth Undeb Trethdalwyr Aber- dar gais i'r Cyngor ganiatau iddynt gopi argraffedig o'u penderfyniadau. Gwrthodwyd y cais. Dylai gweithred- iadau Cynghorau gael mwy o gyhoedd- usrwydd. Gwaherddir i'r wasg fyned i bwyllgorau Ilywodraethwyr yr Ysgol- ion Canolraddol, a hynny am y rhesWm fod y gweithrediadau'n fynych heb fod uwchlaw amheuaeth. V mae ofn y goleuni ar blant y tywyllwch.
COLOFN LLAFUR.
COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR. Sicrwydd yn eu Gwaith. Dydd Iau diweddaf bu dirprwyaeth o feddygon ac arolygwyr iechydol, yn cyfarfod a Mr Lloyd George a'i gyd- swyddogion yn y wladwriaeth, y Mri. Hert Samuel a J. A. Pease, yn Nhy y Cyffredin. Eu cais oedd cael mesur- au o ddiogelwch yn eu gwaith, rhag dial arnynt a'u herlid a cholli eu safle- oedd, pan y digwyddent adrodd yn erbyn a chondemnio tai a meddiannau CyngKorwyr cyfoethog fyddent yn ael- odau ;ar y Cynghorau Lleol. Wrth ateb, dywedodd Mr Lloyd George, nad gwiw fyddai gwneyd deddfau pellach mewn fysylltiad a darparu tai i'r bobl, a gwneyd i ffwrdd a hen dai afiach, heb fod yna. ddarpariaeth yng nghyntaf i ddiogelu safle y swyddogion hynny oeddyut yn gyfrifol am adroddiadau an- ffafriol i berchenogion. Herbert Samuel a ddywedodd ei fod ef o'r farn er ys Jjlynyddau nad oedd bosibl cael gweinyddiad priodol o ddeddfau iechyd heb yu gyntaf roddi sicrwydd i'r swydd- ogion na fyddai cyflawniad gonest o'u dyledswydd yn golygu niwed iddynt. Beth am y Clowr? Wrth gwrs y mae yr achwyniad a'r cais uchod yn eithaf rhesymol, ac yn dod oddiwrth ddOsbarth o weithwyr mor anrhydeddus a'r Meddygon a'r Sanitary Inspectors, y mae yn sicr o gael syltf uniongyrchol. Ond beth am achwyniad mawr y glowyr am y dial a'r dioddef sydd wedi ei ymarfer arnynt hwy yn ystcd yr holl dynyddoedd oddi- ar pan gawsant yr hawlfaint drwy Ddeddf Rheoleiddiad Mwnfeydd 1872 i wneyd ajchwiliad misol ar ran eu hun- ain gan archwilwyr penodedig gan- ddynt <»v^hunain 1 0 herwydd y perygl mawr õ1li eu gwaitb drwy ddialedd y swyddogion y mae yr hawlfraint lesol hon wedi bod yn llythyrren farw. A'r diffyg mawr hwn sydd wedi rhoddi bodolaeth i'r cri cyffredinol y dyddiau hyn am benodiad arebwilwyr neillduol (special pit examiners) ar hyd a lied y wlad. Arwyddion Gobeithiol. Y mae yn achos llawenydd ein bod yn clywed o wahanol rannau o'r dos- barthiadau gweithfaol fod y gweithwyr yn dihuno i'r amgylchiadau, ac yn pen- odi dynion annibynnol i weithredu drostynt. Ond fel yn achosion y Bwll- fa a Chwmaman, Aberdar, drwy waeth af y perchnogion y caniateir y penod- iadau hyn. Os oes teilyngdod yng nghais y, Meddygon a'r Swyddogion lechydol eraill, am sicrwydd bywol- iaeth, yn sicr y mae yr angen a'r teil- yngdod yn fwy o du y glowyr. Cymanfa Gweithwyr y Relwes. Cynhelir cymanfa fawr flynyddol Gweithwyr y Relwes yn Abertawe yr wythnos hon. Pan yn ysgrifenmi, y mae yn rhy gynnar i gael adroddiad, ond disgwylir cael hanes diddorol a cha.Ionogol o waith yr undeb, r.d cyfrifiad torcalonnus o ddamweiniau a lladdiadau ar y rheilffyrdd. [Y gweddill o Nodiadau Peredur, ynghyd a'i atebiad cryf i'r Sosial- ydd Cymreig yn y nesaf.-Gol. ]
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.
Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch. A ydyw addysg yr Ysgolion Elfennol yn dirywio Y mae lie i gredu ei fod. Y mae plant ymhellach yn ol mewn addysg nag oeddynt ugain mlynedd yn ol. Beth yw'r rheswm ( Gwelaf fod Cyngor Dosbarth Y strad- gynlais uchaf yn gweithio'n egniol, y mae yn codi tuag ugain o dai gweith- wyr ar y Coelbren. Y mae eisiau i Gyngor Dulais Uchaf ei efelychu. Clywir yn ami y dyddiau hyn, Y mae'r 'Daiian' yn well na'r un papur Cymraeg arall." (Gresyn na fai mwy o ddarllen arni.—Gol.) Nos Sul diweddaf bu'm yn gwrando y Parch. Penar Griffiths yng nghyfar- fodydd blynyddol Soar, Seven Sisters. Yr oedd y capel yn orlawn, a Penar yn ei hwyliau gore. Yr hyn oedd yn fy moddhau yn fawr oedd distawrwydd yr oedfa, pawb ar eu heithaf yn gwrando. Hefyd yr oedd y canu yn neillduol o dda. Os yw rhai o ddiaeoniaid Soar yn euog o fynychu y Cinemas, credaf. nad ant yno byth mwy- Xos Fercher diweddaf bu farw Mrs. Gwen Roberts, priod D. John Roberts, Duffryn (diweddar Onllwyn Inn), yn 30ain oed, 1.,1' enedigaeth plentyn. GLAN PYRDDIN.
I Ysgrapiau o'm Hysgrepan.
I Ysgrapiau o'm Hysgrepan. I GAN AP HEVIN, ABERDAR. Ceir achos cwyno yn rhy fynych oblegid gormod sylw'r eisteddfod i ganu, ar draul diystyrru Hen ac awen. Ni ellir dweyd hynny am Eisteddfod Aber a Chwm Aman. Yr oedd yno amryw destynau llenyddol oedd yn glod i chwaeth rhywrai, a gwobrwyon teil- wng i'r buddugwyr. Amheuthyn mewn Eisteddfod bob)- ogaidd fel hon oedd gweled y beirniaul llenyddol yn cael cystal chwarae teg draethu eu lien. Cafodd yr ysgolor enwog Mr Timothy Lewis, M.A., Aberystwyth (gyda Haw, un o blant y Cwm), hamdden ac amser da gyda dwy neu dair o feirniadaethau. Yr oedd yn wledd i wrando ei Gvmraeg gloew a'i Saesneg gwych. Ni ryhdd- em ddim at hynny, ond synnem uc y gwrandawiad astud. Nid oedd prinder beirdd yn yr Eis- teddfod hon, fel y gwelwyd wrth yr or- ymdaith ohonynt ddaeth i llwyfan ar ganiad y corn gwlad i gyfarcn yr Ab k Eynon ddigyffelyb. Yr oedd y gwr ieuanc dirodres hwn wedi gwneud hafog ar aur y diwrnod cynt tua Chaer Ffili am ei "Furmuron y Mor." "Y Tan Cymreig" oedd y pwnc yn Aber- aman. Ac yr oedd ar wyr Treorci eis- ieu ei weled trannoeth, mewn canlyniad i'w waith yn canu i'r Carchar." Yr oedd yr ystori hon wedi mynd yn eiddo cyffredin i'r frawdoliaeth yn gynnar ar y dydd; a dyna ystyr un o'r englynion cyfarch:— Ddoe yn y dw'r, heddyw'n dan,— yfory'n Anfarwol fel Bunyan; Yo y A diwylliant daw allan." Yn eisieu Beirdd Byddai Myfyr Arthen bybyr, pan oedd yn y cylch, yn gallu galw cant a hanner o ffugenwau mewn cwrdd cadeirio. Rhaid, meddai Afanydd, ei fod yn cloddio yn isel iawn i'w ffeindio! Cydrhwng symud o le i le ac o fyd i fyd arall, mae cryn fylch- au yn y rhengau. Dyna Tiberog, Gwilym Gwyllt, Ieuan Elfed, Gruffydd Dyfed, etc., ymysg y cyfeillion tuhwnt i'r lien; a rhwng popeth, mae y rhestr, o leiaf un ran o dair yn llai nag ydoedd yng nghofrestr y Myfyr. Eithaf peth, dan yr amgylchiadau, fyddai cael ben- thyg y peiriant oedd ganddynt yn Aber- aman yn troi allan feirdd, ffugenwau, ac englynion newydd fflam—y cwbl ar un ergyd—am yr un pris a sgadan ffres (meddai un o'r ysgrifenyddion): Saith am chwech Er cystal y babell a'r gwaith oedd yn myned ymlaen o'i mewn, melys oedd mynd allan i'r maes agored dan y coed i gael ymgom a'r "dynon dwI," fel y geilw Gwyrosydd y dosbarth y mae efe yn aelod mor anrhydeddus o- hono. Yr oeddym yn falch i weled yr erthyglwr cyfoethog y Parch. Rhys J. Huws yn gwneud cyfeiriad mor barch- us at Wyrosydd yn y "Genhinen"ddi- weddaf. Wel, yr oedd fiwyrosydd yn yr Eisteddfod, ond yn rhy wylaidd i ddod i'r llwyfan, am na chlywsai alw ei enw. Ar ei glust ef, ac nid ar y cofiadur Dewi Llwyd yr oedd y bai. Dyma englyn o waith Gwyrosydd i'r "bwgan brain" i Darlun o'r d-l ei hunan-vw bwbach, A bobi y gigfran; Hei, frawd dyma bunt am fran A biga lie bo bwgan. Dyma englyn arall adroddodd Gwyr- osydd o waith Cadifor i'r un gwr boiiheddig Bwbach y brain diachau,—acw saif A'i foes het a'i garpiau; Gwarcheidiwr goruwch hadau Y maes ar ol amser hau. Cwmniwr diddan iawn arall vw Alaw Sylen, heb fod yr un fath a neb ond ei hunan. Deryo llwyd ar naill aden ydyw er's tro. Dyma fel yr adroddai wers gafodd gan ei wraig ryw dro wedi dod adref yn hwyr: Ymhle buoch chi, Isaac?" Mewn eisteddfod yn -.$I "Steddfod, wir! 'Nilloch chi 'rioed fwy na chwecheiniog. Os bydd- ai'r wobr yn swllfc, ail fyddech chi; ac os byddai yn hanner coron, byddech allan o'r gystadleuaeth." Dyma englyn o waith yr AJaw i'r Hedd- geidwad I Swyddwr gtew ddtlk droseddwyr gwlad-i farn Yw yr hyf heddgeidwad; Ei fara ef a'i fawrhad Yw gwylio'n diogeliad. Y mae America i dderbyn archeb am tua 300,000 o dunelli o lo o Ddebcudir Ewrop y flwyddyn hon. Collir o Gym- ru felly tua banner miliwn o anan. Cinema i'r eglwysi! Y ^fsyn Dr. Charles Stelzie, wedi P?i dde-wis  gyfarwyddwr arolygol í Gwnin «urgr i ddarparu Yn i ddarjDaru Cinema i ° ? ?Y? America. Bydd gan y Cw?n. ?ydd? ogion mewn gwahanol rannau 0 r y yn hel darluniau cyfaddas 1'w d..ngo? Bydd ganddynt 60 o g?noif?nn&u, a dyn yn gofalu am yr arddangosiad ymhob He. Trefnir i wasanaethu'r eglwys yn eu tro. Yn ystod y blynyddoedd nesaf disgwylir y bydd hanesion y Beibl mewn darluniau a digwyddiadau yn y meusydd cenhadol yn cael eu dangos yn yr un dull.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAtD GOFALU A* Y .1 HYN. Elllululd.11, I ria.' hyn drwy ddamwale ass II. all ashool Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddy?Ht?tf Bialtlle" Er 'H?yn yonol Perifgi rhidd y"*? mwn prb* 'DOES DIM MOil A gion A GOMER'S BALM. Mae H?n ym awr ym M*' ''??" I gan filoodd fal y maddYgliN sior a diogal a dd?<??S?S*?K' erioed at laehaa Clwyfau, AToholllon, Tardd- lantau y Cnawd, Eaema, Craoh a N a d d yw Mhenav Plant, Llosglad. au, yagal. danau, 8 o u r v y, L I ugrad Plant, Benywod a Babanod, Tarwden, Caul, Cymaiau Poena*, Qheumat. ics, Poon Cefn, Piles. Hynod 8 eflelthlol at CLWYFAU ar COESAU. Yr oedd pM  tyn mown .t»t 001otes, GweHhaodd G<M"? hi yn bur fusim. Mlloodd yn tystlo I'M! Eftelthlau R" RHODDWCH BRAWF ARMO iowellhad sydd 810r Ar werth KM bolDid StorN 1/H. Gofyner am Cem?'f"* -JJk wch weled enw Jtt? H"? .r b? blwch. Heb hyn nid yw  danfoner ei gwerth (P.O. Deu Stamp.) at Jaoob HUaMS, Mian?fsoturins Chow- 1st, M.P.S., L.O.S.. PtH' CardiN. GWRTHOD WCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed to PurcbaSers upon mentioning this Paper. TelirPris ilen prynwyr yma ao 7° ol on iddynt enwi TARIAN y Gwbixhiwb.