Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

I COLOFN Y BOBL IEUAINC.|…

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC. | 1 I DAN OLYGIAETH DYFNALLT. At Olygydd Colofn y Bobl leuainc. t Syr,—Darllenais gyda diddordeb eich llythyr ar gwestiwn y Gymraeg yn y Darian am Mehefin y 4ydd. Gwelaf eich bod yn nodi tair elfen am- lwg yn "nhraws gyweiriad bywyd Cymru, sef ein "cyfundrefn addysg dyfodiad estroniaid a "chyfnewid- iad o un iaith i iaith arall." Gyda golwg ar y cyntaf, synnwch fod cymwynaswyr addysg wedi bod mor ddall ac mor ddwl fel ag i "an- wybyddu achos Cymru mor llwyr." 'Fel dyn ieuanc sydd yn caru ei gen- edl yr wyf yn hollol gydweled a chwi, ac y mae fy nghalon yn gwaedu a'm gruddiau'n wlybion yn ami wrth fedd- wl am y brad. Y mae'r dellni a'r dylni o hyd yn aros yn y tir. A'r hyn sydd yn anfad yw hyn fod yr hyn sydd yn ddellni ac yn ddylni gyda golwg ar fuddiannau Cymru yn gall- ineb sarffaidd gyda golwg ar hunan- lesiant tymhorol a gwagogoniant byd- ol. Gresynus iawn yw meddwl fod pervgl y ceir na fydd crefydd Cymru wedi gwneud dim tuag at gadw bywyd y genedl. Gwyddoch cystal a neb am yr ymdrech wneir y dyddiau hyn i gadw'r iaith. Y mae rhyw nifer o werinwyr Cymreig selog ar ei holl egni yn ceisio ail gynneu'r tan gwladgar ym mynwesau'r Cymry. Ond wyddoch chwi beth ddywedir am yr eglwysi a'r weinidogaeth yn y cysylltiad hwn? Y mae'n flin gennyf ddweyd mai hwy gyfrifir gan lawer y rhwystrau pennaf ar ffordd sylwedd- oliad o ddelfrydau Cymreig. Gwir fod eithriadau gogoneddus, ond a'u cymeryd trwyddynt draw ofnaf fod gwir yn yr hyn a ddywedai un, sef fod y weinidogaeth a'r eglwysi yn rhy ddyfal yn caru'r byd o dan yr esgus o geisio achub eneidiau i feddwl dim am geisio meithrin yr hyn sydd oreu ym mywyd y wlad. Dywedir fod pethau yn gwella yn yr ysgolion, ac yn sicr y maent yn gwella mewn llawer lie, ond hyn yw'r gwir yn y rhan fwyaf o leoedd, sef fod rhieni yn ami yn codi eu plant yn Gymry ar yr aelwyd, ond ni fyddant ond ychydig ddyddiau ar ol mynd i'r ysgol na fydd yr anhawster mwyaf i'w cael i siarad a'u rhieni yn Gymraeg. Meddylier eto am swanc a hymbyg Seisnigaidd yr athrofeydd enwadol. A ydyw'r sefydliadait hyn, os gwir yr hanes am danynt, yn rhyw- beth amgen na pheiriannau i falu pethau goreu Cymru'n llwch? Edrych- ed gweinidogion, diaconiaid, blaen- oriaid, athrawon ac athrawesau ar eu t dwylaw a gwelant eu bod yn goch gan waed. Son am nerth Ymneilltuaeth! Bydd i Ymneilltuaeth oni ddeffry'n fuan y gwaradwydd o fod wedi methu achub ei phlant rhag llygredigaeth estronol, a hynny'n unig am ei bod yn rhy lygredig ei hun. Datgysylltiad yn wir Torred rwymau ei chaethiwed ei hun bellach. Gyda golwg ar ddylifiad estroniaid i'n gwlad, ni fyddai eisiau ofni oni- buasai am wendid moesol ein cenedl— ei dellni a'i dylni. Dywedwch fod y trawsgyweiriad ieithyddol yn fwy na'r ddau arall o lawer. Eithaf gwir, ond y mae yn effaith y ddau arall hefyd. Yn hytrach na gofalu am burdeb ys- bryd a chryfder cymeriad aeth Cymru i swancio ynglyn a'i chrefydd a'i haddysg. Prin y dechreuid ei rhydd- hau o un caethiwed nad oedd yn llamu i gaethiwed arall gwaeth na dim y bu ynddo erioed o'r blaen-caethiwed balchder a bydolrwydd. Tystiolaeth pawb sydd wedi gwneud prawf ar hynny yw fod meithrin plant mewn gwybodaeth o iaith a llenyddiaeth Cymru y ffordd oreu i wrthweithio y dylanwadau estronol drwg a ffynnant yn y wlad. Ond pa waeth gan lawer o weinidogion a diaconiaid a rhieni cre- fyddol Cymru am eu plant? Edrych- wch ar y llenyddiaeth afiach sydd mewn bri o'ch cwmpas yng Nghaer- fyrddin Onid hanes puteindra, llof- ruddiaethau, a phob camwedd yw bwyd beunyddiol y bywyd ieuanc o'i febyd i fyny? Eto synna'r eglwysi eu bod yn colli gafael ar y plant a'r bobi ieuainc. Y ffaith yw nid ydynt yn eu colli pan y mae'r Cymro'n ffyddlon iddo ei hun. Efallai y tybiwch fy mod yn dweyd pethau cryfion. Os felly maddeuwch i mi, ond o fy mlaen yr ochr arall i'r heol y mae hysbyslen newyddiadur a brawddeg arni na charwn lychwino gwyneb y Darian" a hi. Bydd ugeiniau ar ol gweled yr hysbysiad o'r llygredd yn rhuthro i brynu'r papur. Pobl grefyddol sy'n gwerthu'r papur a phlant eglwysi Cymru fydd yn gwledda ar y budreddi. Y mae yma egl vysi Cymraeg lluosog, ond prin y eew h air o Gymraeg gan neb a gyfarfyddwch er gweled eu hwynebau yn y capelau o Sul i Sul. Pan, oddiar deimlad o ffyddlondeb i'm gwlad ac i'm crefydd y cyfarchaf rai 'n Gymraeg, dichon yr ymostyngir i'm hateb yn yr un iaith, ond gwneir hynny gydag awgrym amlwg mai ymostwng wneir at un sydd yn wrthrych tosturi. -Yr eiddoch, etc., CALON FRIW.

Advertising

Eisteddfod Treorehy. I

-'- - - -Ividdiar Lechweddau…

Advertising

Tipyn o Bopeth o Bontardawy.