Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

0 Bant i Bentan. I

News
Cite
Share

0 Bant i Bentan. I Y Parch. Robert Beynon, Abereraf, gipiai'r cadeiriau yn Eisteddfodau'r De adeg y Sulgwyn. Bydd yn rhaid i'r beirdd dorchi eu Ilewys at y bardd hwn, ac er hynny, diameu y rhydd gyfrif da am dano ei hun. Rhwydd hynt iddo i ennill y goron genedlaethol. Cyfarfu Mrs. Davies, priod Mr. Timothy Davies. B.A.. Aberdar, a'u merch fach, a damwain gas yn y cerbyd trydan ar y ffordd i Abernant Nr wyth- nos ddiweddaf. Aeth y cerbyd yn er- byn polyn y gwifrau a drylliwyd y ffen- estri. Anafwyd eu hwynebau'n dost, ond da gennym ddeall eu bod yn gwella cystal ag y gellir disgwyl. Amheuwr yw arwr y ddrama, "HIe Ma Fa?" Dengys ymysg pethau ereill nad yw anghredinaeth yn ddrwg ar wa- han i foesoldeb. Nid yw'n syndod fod eglwysi glaiared yn cefnogi y Chwareu- fa Symudol a ddygir o amgylch y dydd- iau hyn. Os yw hon yn iawn y mae Cnstionogaeth yn anwiredd. Y mae'r ddrama y "Poacher" cyn- ddrwg os nad gwaeth na "Ble Ma Fa.' Tuedd honno yw diystyrru athrawiaeth yr ail-enedigaeth. Gellir fforddio an- wybyddu y coegddysgedig sydd yn gwawdio'r athrawiaeth hon, ond y mae'n rhy ddrwg fod peth fel hyn yn cael ei gymeradwyo dan rith. diwylliant. Bydd yn rhaid i'r eglwysi wrthwynebu symudiad yr Arglwydd de Walden, a gore po gyntaf y sylweddolir hynny. Boneddwr sydd newydd ddychwelyd o'i daith i Dde America yw Mr D. Thomas, U.H., Porth. Dywedai ar y fainc yr wythnos ddiweddaf y dylent fod yn ddiolchgar am Sul Cymru, ae y bwr- iadai ef ei amddiffyn yn erbyn y mas nachwyr sydd ym masnachu ar y Sul. Dywedai mai yn Buenos Ayres y gwel- odd y dydd yn cael ei sarnu waethaf a'i fod yn ddydd o uffern ar y ddaear yno. Gadawodd Mr W. Davies, East Aven- ue, Aberdar, L-50 ar ei ol i Eglwys Nazareth, i'r gweinidog a'r blaenoriaid i'w defnyddio ar yr achos fel y barnont yn ddoeth. Y mae Mr Harry Evans, yr arweinydd corawl, wedi ei analluogi gan afiechyd i gyflawni ei ymrwymiadau. Yr oedd i arwain Cor o 8,000 o leisiau yng Nghaer- narfon y mis hwn, ond gorfodir ef i wrthod y ranrhydedd. Ymddengys mai Mr. W. J. Evans, Aberdar, sydd i gy- meryd ei le. Dywed y Parch. T. L. Blathwayt, o Gaerlwytgoed, fod rhai wedi clywed yr eos yn saith o Siroedd Cymru, sef Mor- gannwg, Brycheiniog, Trefaldwyn, Din- bych, Flint, Aberteifi, a Chaerfyrddin. Credwn y gellid ychwanegu siroedd ereill heblaw Mynwy at yr uchod. Dy- wed mai yn Nwyrain De Morgannwg y clywir hi amlaf, a bod yr eosau yn ystod y deuddeg mlynedd diweddaf wedi llu- osogi yno. Y mae'r Aquitania wedi croesi'r wer- ydd am y waith gyntaf i'r America mewn pum niwrnod, dwy awr ar bym- theg, a thair munud a deugain. Y mae hon yn Hong anferth ac yn eiddo Cwmni y Cunard. Barn gwyr y gyfraith yw y gellid cosbi y sawl sydd yn cyfrannu at gronfeydd y suffragettes. Dylid eu gorfodi i dalu am y colledion a wneir yn y wlad gan y merched gwallgof hyn. Ni oddef Cronfeydd Ffederashwn Glowyr Prydain ychwanegu rhagor na dau ymgeiswyr seneddol newydd yn Ne- heudir Cymru, sef Mr Alfred Onions yn Nwyrain Morgannwg, a Mr. Hartshorn yng Nghanolbarth Morgannwg. Gwas- traff ar arian yw gwrthwynebu aelodau gwerinol fel Clement Edwards, a J. Hugh Edwards, a'r perygl yw i'r Toriaid Iwyddo i gael seddau mewn cylchoedd gweithfaol. Pa adeg yn oes dyn yw ei anterth ? Barn G. R. Sims yw mai rhwng deugain oed ac hannerlearit. Medir jirofiad ieu- enctyd y blynyddoedd, heb ddioddef oddiwrth wendid henaint. Cyffelyb yw barn Bullen. Dylai'r blynyddoedd hyn brofi'n ddymunol iawn mewn ystyr anianyddol am mai dyna'r tymor v mae natur yn ei gogoniant i'r saw sydd yn treulio fywyd yn rhesymol. Bu farw Syr W. Anson, A.S.. yn Rhydychen, nos Iau diweddaf. Efe oedd ysgrifennydd Bwrdd Addysg o'r flwyddyn 1902 hyd 1905. Cynrychiolai y Brifysgol fel Ceidwadwr yn y Senedd. Yr oedd yn 71 oed. Ysgrif gwerth ei darllen yn y Welsh Outlook yw'r Eglwysi a Chwestiynau Cymdeithasol." Gel- wir sylw at ffaith fawr yr oes hon, sef cri y byd am drefn gymdeithasol am- gennach na'r un sydd. Dyma gyfle'r eglwys. Gall ddinoethi drygau cym- deithas a gwneud ffordd y diwygiwr yn hawdd. Y mae awdur yr ysgrif yn wel- edydd, ac amheuthyn yw darllen ffrwyth meddwl addfed pan mae cymaint o syn iadau gwylltion yn y gwynt. Amlwg yw fod yr awdur yn cysylltu pwys mawr a'r eglwys, ac yn credu mai ynddi hi y mae gobaith cymdeithas. "Y mae'r gallu i adeni cymdeithas," ebe, "yn nerth goruwch-ddynol Duw sydd yn dwyn Teyrnas Nefoedd i'r byd." Hwnnw yw nerth yr eglwys i'w ddefnyddio yng ngwasanaeth Duw a dyn. Yn yr un rhifyn ceir ysgrif odidog arall ar A oes angen y ddrama ar Gymru." Os anhepgorion i'r ddrama yw'r professional actor, elw ariannol, a dramau llygredig, gwell yw bod heb- ddi, dyna gasgliad yr awdur, ond os ceir gweledyddion celfydd i ysgrifennu dramau ac iddynt genhadaeth a del- frydau uchel, a berfformir gan chwareu- wyr mewn cydymdeimlad a'u neges, dan arolygiaeth pobl ore'r genedl, yna I teilynga le anrhydeddus yn y bywyd I cenedlaethol. Ysgrif amserol yw hon hithau, ac o dalu sylw iddi gall daioni mawr ddeilliaw. I Gorffennaf nesaf cynhelir dau arhol- iad neillduol er dewis nifer o glereod ar gyfer y Ddirprwyaeth Yswiriol yng Nghymru. Dewisir c-hwech o glercod yr ail ddosbarth, a bydd eu cyflog yn -Cloo i ddechreu, ac i godi tlo yn flyn-- yddol hyd X200 mewn deng mlynedd. Yna JB15 yn flynyddol i A;350 mewn 20 mlynedd. Cyfyngir yr arholiad i rai rhwng 20 a 25 oed. Dewisir deg ar hugain o glercod cynorthwyol, a bydd y gyflog yn zC45, i godi £ 5 yn flynyddol hyd t85, yn £7 10s. y flwyddyn hyd £ 150. Cyfyngir yr arholiad i rai rhwng 17 a 18 oed. Nid yw Cymraeg yn orfodol i'r ym- geiswyr yn yr arholiadau. Hwyrach fod yr argraff ar led fod yr iaith yn marw os nad wedi many yng Nghymru. Credwn na ddylai neb gael swydd o dan y Llywolraeth yng Nghymru oddi- eithr iddo ddysgu Cymraeg. Boed fab i Gymro neu Fffancwr dylid gwneud gwybodaeth o'r iaith yn anhepgor i gael swydd yn y wlad hon sydd yn nwylo'r Llywodraeth i'w roddi. Os na fyddo y sawl sydd yn ein llywodraethu yn parchu ein hiaith a'n cenedl, yna ni ddylent synnu ein .gweled ninnau yn vmddwyn tuagatynt hwy yn gyffelyb. Gwaith hawdd yw gwaeddu fod yr iaith yn marw. Credwn fod amcan tuol i'r waedd hon mewn rhai cylchoedd, sef i'w lladd hi. Y mae'r iaith yn fyw ac i fyw ond i Gymry brwdfrydig ddal ati i agor llygaid y wlad at y modd y dygir pethau ymlaen yng Nghymru heddyw. Y mae gennym enghreifftiau o fyrddau'cyhoeddus a llywodraethol yn gwneud y cwbl yn eu gallu i ladd yr iaith mewn cylchoedd hollol Gymraeg yn bresennol. Dro'n ol ysgrifennai Beriah ar y modd y diystyrrid yr iaith pan oedd efe yn athro ysgol. Gallwn nodi ffeithiau i brofi fod hynny yn myn- ed ymlaen heddyw, ac mai llywodraeth- wyr merchetaidd a dicshondafyddaidd sydd fwyaf yn y camwedd. Apeliwn at Gymry yn amser etholiad i wylied rhag pIeidleisio i neb sydd yn diystyrru'r iaith a chenedl y Cymry.

\ I'Ferndale.

Advertising

0 Wy i Dywi.I

I TARIAN Y GWEITHIWR.

Nodion o'r Gogledd. I

I Penderyn.

[No title]

Cymru Heddyw. I

IYmneilltuad "Afanwy." I

I Abercraf a'r Cylch. I

Advertising