Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
■EVAfTS^ ■EST for 10 IR an d ^■kaiiche CARDIFF (2) NEWPORT ■ PONTYPOOL PONTYPRIDD MFL Swansea ^Bflr LLANELLY V Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £ 5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, m essrs. B evan &Co., L d.,Wales' argest Furnishers ane*now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-llght Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-aeated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered I! I Immense Stocks. Everythirg for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori.
Y Stori. NANNO. BYWYD PENTREFOL YN MON. GAN Y PARCH. J. TYWI JONES. PENNOD IV. Mathew Martin a'r Henfwth. Tybir mai yr Henfwth yw y ty hynaf yng nghylchoedd Llandderwydd, a nid anodd yw credu hyn ar ol ei weled. Saif ryw led cae allan o'r pentref. Wedi gadael y tai wrth fyned i gyfeiriad y gorllewin, try ffordd gul i'r deheu, ac wrth edrych yng nghyfeiriad hon, gwelir pone fechan yn codi'n araf a llun- iaidd o gyfeiriad y dwyrain, a'i chefn yn Ilwythog gan eithin llathraidd, ond yn gwynebu tua'r gorllewin yn graig noeth a serth. Y "Bone Boeth" y gel- wir hi gan amlaf rhai gyda mwy o ofal am gywirdeb a'i galwant yn "Bone-y- Bwth." Y bwth, medd y rhai hyn, a roddes ei enw i'r bone. Yn nghesail y bone hon, yn gwynebu tua'r gorllewin, y llecha ty bychan to gwellt, a elwir yn Henfwth, a chartref Mathew Martin a'i hynafiaid er cyn cof. Mor ddiolwg yw yr Henfwth, hyd yn oed yngolwg bythynwyr Llandderwydd, fel mai gydag ysgafnder y crybwyllir ei enw gan lawer. A megis y bwthyn, felly ei breswylvdd. Testyn difyrrwch parhaus i lawer yw Mathew Martin. Ychydig feallai sydd yn sylweddoli nac yn cydnabod maint eu dyled iddo. Mewn pentref gwledig a llonydd fel Llandderwydd, na thyr tren, na modur ond yn anaml, ar ei ddistawrwydd, tu- edda bywyd i fyned yn undonog i lawer. Mathew Martin yw y meddyg goreu i'r rhai hyn. Y mae hyd yn oed hynod- rwydd a chwithigrwydd ei weithrediad- au wedi bod yn ffynhonell o ddiddordeb parhaus ar hyd y blynyddoedd. Ymddengys mai rhywheth yn debyg yw ymddangosiad yr Henfwth a'i bres- wylwyr o genhedlaeth i genhedlaeth. Rhyw bobl o bob crefft ydynt, ac yn hoff o'u peint. A rhyfedd fel yr edrychir i lawr ar bobl felly. Golyga gryn ymdrech i lawer i allu eu cymeryd yn ddifrifol. Hwyrach mai'r ffaith fod dynion gwannach eu synhwyrau na'r cyffredin yn dueddol at y math yma o fvwyd, gyfrif am ei fod mewn anfri, er yn wir ddefnyddiol lawer pryd. Hawlia barn y cyhoedd fod gan ddyn ryw waith neu alwedigaeth sefydlog cyn y gall ei barchu. Daeth y canghennau a aethant allan o'r Henfwth, yn awr ac eilwaith. yn debyg i bobl ereill. Medd- iennir y rhai a arosant yno y naill ar ol y llall gan yr un ysbryd. Pan oedd tuag ugain oed, argoeliai Jac Martin fod yn ail-argraffiad perffaith o'i dad. Y mae y fconc, a'r llain fechan sydd o flaen v ty. yn rhvdd-ddaliadaeth i'r teulu er cyn cof, ac y mae'r fantais hon, chwedl Jac Martin, wedi bod yn gryn help iddynt 'at eu nyw." Tamaid syml a dillad plaen sydd yn angenrheid- iol iddynt, ac nid ydynt erioed wedi ymgais am ddim mwy. Nid oes angen iddynt ymorol am ardreth drom i dir- feddiannydd na llawer o drethi i'r casglwr ychwaith. 'I' Gallesid cadw buwch yno, ond ni welwvd yno'r un tan yn ddiweddar iawn. Atebai merlin y diben yn well. Fel ei hynafiaid ar grwydr y treulia Mathew y rhan fwyaf o'i ddvddiau. Nid oes dref na phentref ym Mon nad ymwel a hwynt yn eu tro i werthu rhyw- beth neu i ddanfon a chyrchu negeseu- au. Pan na fydd achlysur i'r crwydr- iadau hyn, gwelir ef a'i arfau yn crogi wrth ei wregys, a'i brenau traed ar ei ysgwydd, yn myn'd i ladd moch; bryd arall yn tori bedd yn un o'r mynwent- ydd, neu yn gwynnu muriau rhyw dy, a llawer o bethau a wna efe yn eu tro. Yr oedd Mathew yn llu ynddo'i hun, a sicrhaodd yr amrywiol bethau y troai ei law atynt, gynifer a hynny o lys- enwau iddo. Wele rai ohonynt:— "Mathew anga' mochyn," Martin whitewash," Matho cocos," Matho penwaig ffresh," Martin y bedda," Matho Marcwis." Cafodd yr enw olaf am ei fod yn yr haf yn myned i fferniydd yn yr ardal i brynu afalau, ac yna yn myned i Benmorfa i'w gwerthu i'r yimvelwyr, fel Marquis of Anglesey Apples." Y mae ganddo hefyd un enw arall yr ymfalchia ynddo. Cerddai y Parch. Glyn Ifan. gweinidog y Method- istiaid, a gwr dieithr o L-. -r y ffordd goddiweddwyd hwynt gan Mathew, a gwahoddodd hwy i'w gar. Ni fu erioed weddeiddiach Mathew mewn cwmni felly. Anodd fyddai cae l pen blaenor i'r Methodistiaid yn fwy Ilednais ei ymadrod dion a pharchedig ei osgo. nac yn fwy gwreiddiol ei ddy- wediadau a chyffreoinol ei wybodaeth I ychwaith. Nid yw yn orawyddus i wneyd arddangosiad ohono ei hun. Y Parch. Glyn Ifan oedd y tro hwn ar ei oreu yn ei dynnu allan. er mwyn i'r gwr dieithr gael cipdrem ar ei gymeriad. Ni fu hwnnw yn hir cyn deall eu bod yn nghwmni hen garactor. Pan ddisgyn- nai Mathew i adael neges yn ambell dy ar y ffordd, sylwai y gwr dieithr ar ddonioldeb ei atebion, a'r gwahanol adroddiadau o'r un stori a roddai i wa- hanol bersonau, ac hefyd ar yr amryw- iaeth yng ngweddau ei wyneb pan yn cyfarch rhai a gyfarfyddai ar y ffordd. Pan gai y Parch. Glyn Ifan gyfle, rhoddai yn ddistaw ychydig o hanes Mathew a'i deulu i'w gydymaith. Tyst- iai fod Mathew yn adnabod ei gwsmer- iaid bob un. Gallai llawer ohonynt ym- ddiried na ddywedai byth ond y gwir plaen wrthynt. Er i'r lleill gael allan fod popeth a ddywedasai, neu a dybient iddo ei ddywedyd wrthynt, yn gelwydd noeth. credent a thaenent bob stori newydd a ddywedai. Ac os digwyddai y byddai angen olrhain stori anwiredd- us i'w ffynhonnell, ni chaed Mathew er- ioed yn euog. Yr oedd digon o dystion na ddywedasai Mathew ond y gwir wrthynt hwy. Drwy air amwys, osgo, neu bwyslais o'i eiddo y gyrrai y lleill ar gyfeiliorn. ac i daenu y stori mewn lliw hollol wahanol. Wel, wel!" meddai'r gwr dieithr, "geniuses reit wedi myn' d ar'grwydr ydi pobol"fel hyn; gresyn na fasa'i dalant o wedi 'i disgyblu i well pwr- pas. Pan ddaeth Mathew yn ol, i'r car, gofynodd Glyn Ifan iddo Wyddoch chi be' oedd y gwr diarth yma'n ddeud am danoch chi 'rwan, Mathew?" Na wn, wir, wchi," meddai Matfiew. • Deud 'roedd o taw geniuses wedi myn'd ar grwydr oeddech chi a'ch teulu, a mai gresyn na fasach chi'n gneud deunydd o'ch talant mewn gwell cyf- eiriad," meddai Glyn Ifan. 'Rydw i'n ddiolchgar iawn i chi, syr; fydd yn dda iawn gin i fod dynion call yn medru gwel'd trwyddo i, ond crwydro fydd raid i'r genesis mwy," meddai Mathew. Daeth Genesis yn crwydro yn enw poblogaidd ar Mathew, a hwn oedd yr hoffaf ganddo o'i holl enwau. Gwnai Mathew ddefnydd rhyfedd iawn ar adegau o'i liaws enwau. Cyfar- £'1 unwaith ar ei deithiau a pherson o blwy' arall. Eglwyswr oedd Mathew yr adeg honno, a holai y person hwn ef parthed llwyddiant yr eglwys yn Llan- dderwydd. Er mai tri neu bedwar fyn- ychent hon yn gyson, enwodd Mathew ei hun a'i deulu i ddechreu, yna un o'r lleill. Enwodd eto Matho Cocos, a Martin white-wash a'u teuluoedd; yna un o'r mynychwyr a'i deulu, a rhestr o Fathewiaid a Martiniaid yn dilyn hwn eto. Aeth cynulleidfa yr eglwys yn lluosog. a synnai y person dieithr at y llewyrch oedd ar yr achos yno, rhagor yn ei blwyf ef ei hun. Ychydig feddyl- iai mai enwau Mathew ei hun waent i fyny naw rhan o ddeg o'r gynulleidfa. Y mae o amgylch yr Henfwth yn ddrych i edrych arno. Oddimewn y mae mor lan a chysurus ag y gellir dis- gwyl i dy felly fod. Dynes fechan blaen yw y wraig, yn hapus bob amser, ac yn treulio llawer o'i hoes i glytio hen ddill- adau, glanhau'r ty, a disgwyl Mathew adref. (I barhau.)
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym,…
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen. Cynhaliwyd trydydd cyfarfod y tymor hwn nos Sadwrn, Mai 30. Daeth nifer go lew ynghyd, a darllenwyd papur ar "Ffraethineb Watcyn Wyn gan y brawd J. W. Hughes, Glan Dwr, Aber- tawe (o Golegau'r Iesu a Mansfield). Casglasai'r brawd nifer mawr o ystrae- on difyr iawn am Watcyn. ac adroddodd hwy mewn modd rhagorol iawn. Son- iodd, ymhlith pethau ereill, am gyngor Watcyn i Orsedd y Beirdd, pan oedd honno mewn cryn benbleth yn chwilio am olynydd i Hwfa Mon, mai'r peth gorau iddi oedd 'stwffo Hwa!' Adrodd- odd hefyd englyn Watcyn i'r cwrdd mawr hwnnw yn y Deri y cawsai efe hwyl neilltuol ynddo, ond a ddiflaswyd gan ryw un y gelwid Penywern arno. Penywern yn pwno arni-yn wyrgam Heb argoel dibennu; 0 d-o hwn, dyma hi, Rhoi dwr ar oedfa'r Deri. Yr oedd llawer o'r storiâu hyn yn ddieithr i'r rhan fwyaf .0 honom, a mwynhawyd hwy yn fawr iawn. Adroddwyd nifer o hanesion ereill gan; wahanol frodyr, a gobeithir y ceir j toreth o'r ystraeon yng Nghofiant Wat- cyn Wyn. Diolchwyd yn gynnes iawn i'r brawd Hughes am roddi cwrdd mor hwylus a difyr, a therfynnwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau."
Beirniadaeth Gwili,I Ar Gyfansoddiadau…
Beirniadaeth Gwili Ar Gyfansoddiadau yn Eisteddfod Fforestfach, Abertawe, Mawrthgwyn, 1914. Pan ddaeth y pentwr i'm llaw, bu agos imi aralleirio'r cypled, a dywedyd Rhy fyr fydd tragwyddoldeb llawn I ddweyd yn iawn am danynt." Digon o waith am yr wythnos a rodd- wyd imi oedd darllen y cyfansoddiadau, heb son am eu beirniadu a'u dosbarthu. 0 dan yr amgylchiadau, rhaid i'r beirn- iadaethau fod yn fyr iawn. I 1. Traethawd ar "Gadwraeth y I Saboth." Derbyniwyd pedwar ar bymtheg o draethodau ar y testun pwysig hwn, ac y mae yma nifer o rai gwych. Sylwir arnynt yn ol fel y daethant i'r llaw ar y cyntaf. Dewi o'r De.—Traethawd trefnus, a Ilawn o synnwyr cyffredin, er nad o oleuni'r cyfnod ar y Saboth. Gresyn ei fod mor wallus, o ran ei sillafiaeth a'i Gymraeg. Idwal.-Traetliawd tebyg, ond mwy henaidd ei gynnwys, a chyffredin ei iaith a'i sillafiaeth. Idwal Foel.- oel iawn,jyn wir. Ni wyr mo'r gwahamaeth sydd rhwng 'yw' ac 'i'w,' heb son am bethau pwysicach. Gwan a hen ffasiwn yw'r ymdriniaeth. Alpha writes 'religous' for 'religious' throughout. His essay is a well-in- formed, well-written, and careful state- ment of the question, from the histori- cal and present day point of view. The breadth and sanity of the writer are to be highly commended. Caron.—Traethawd Cymraeg cywir, mewn hen orgraff; a'i ymdriniaeth gyflawn ac amlweddog. Y mae Alpjia'n rhagori wrth drin y dechreuadau yng ngoleuni beirniadaeth, ond y mae sjan Garon fwy o amrywiaeth y pwnc. Ezra.— W ele eto draethawd pur gywir o ran iaith a sillafiaeth. Rhannwyd ef yn drefnus, a dywedir pethau priodol o dan bob pen. Nid yw mor amlwedd- og ag eiddo Caron, nac mor newydd a gloyw ag eiddo Alpha. Andrew Carlyle writes a short and pithy essay on traditional lines. One or two statements are not strictly accur- ate, apart from tradition, and the treat- ment of the present day aspects of the question is much too brief. Cromwell. Traethawd gweddol gywir. Y mae'n gryf ac yn destynol, ond nid yw'r dosbarthiad o'r mater cys- tal ag y gallasai fod, na'r mater mor ffres ag yw mewn amryw o'r traeth- odau eraill. Y Llai na'r Lleiaf.-Y mae brychau man ar y traethawd hwn, er fod yr awdur yn ysgrifennwr go wych. Ceir ganddo sylwadau gwerthfawr, ond nid yw ei gynllun yn gyfan, na'i ymdrin- iaeth ag agwedd hanesyddol y testun i fyny a goleuni'r dydd. Serebiah. Traethawd gwallus eto, ond ceir ynddo ymdriniaeth bur gyflawn ar yr hen linellau. Talogfab.-Pur wallus yw hwn hefyd. Nid oes ganddo syniad am orffwys- fannau. Araith sydd ganddo, ac y mae ynddi bethau pur blentynnaidd. Caradog.-Eto draethawd gwallus a chyffredin. Y mae rhannau ohono fel pregeth, a daw i derfyn gydag anhog- aeth ac 'Amen.' Didymus.—Gwelir amcan pa faint o lenor ydyw ef oddiwrth un frawddeg o'i eiddo Cyfrifer ein Sul un o'r bendith- ion mwyaf daearol." Cyffredin hefyd yw ei draethawd, neu ei araith. Un Carai ei Barchu. Traethawd maith a llafurus. Nid yw'n loyw iawn o ran ei arddull. Dipyn yn anghysyllt- iol yw'r cynllun, ond cynnwys ymdrin- iaeth gyflawn iawn o'r pwnc, er fod y rhan hanesyddol i fesur o dan ddylan- wad trac^dodiad. Mab Llafur.-Pregeth ar eiriau yn Esa 58 yw'r traethawd hwn, fe ellid tybio. Y mae'n bregeth werthfanvr, ond teimlir fod rhai agweddau ar y pwnc heb eu cyffwrdd, oblegid y ffordd a ddewiswyd i'w drin. Terminus sends in a well-written es- sav. His treatment of the subject is pretty full and instructive, though its historical basis is largely traditional. Cadwyson.—Y mae Cadwyson yn lienor pur dda. Dipyn yn ystrydebol yw ei draethawd, ac fel Mal) Llafur pre- getha ar ddwy adnod o Esa. 58. Nid yw'n gystal pregethwr o gryn dipyn a'i frawd. An Old Navvy writes well within the limits of a short essay, and is always to the point. There are aspects of the subject which he barely touches, but he escapes the taint of traditionalism al- most entirely. Bob writes a short essay, and stum- bles over such words as 'inherent' and 'received.' He is independent in his thinking, though he is far from cover- ing the whole ground. Y mae yma nifer o draethodau da. Hwyrach mai'r chwe' goreu yw eiddo Terminus, Un Garai ei Barchu, Mab Llafur, Ezra, Caron, ac Alpha. Y mae'r ddau ddiweddaf yn rhagori'n rhwydd, ac ni ellir yn well na rhannu'r wobr rhyngddynt. (I barhau.) l
.I Nodion o Glyn Nedd. j
I Nodion o Glyn Nedd. j GAN TOM CY.N.? ON. 1 1 Dydd Llun, Mai 25ain, claddwyd gweddillion un o hen drigolion y Cwm, j sef William Jones, Penwaun Marchog, ac efe yn dri ugain a phymtheg mlwydd j oed. Yr oedd yn ddyn o wybodaeth eang, a hynod o garedig. Methasai j gan lesgedd er's Jblynyddoedd. Bu farw ym Mhenybont. Dygesid ei wedd- j illion i dy ei fab, Mr Seth James, Bryn- arlais. Daethai lluaws o hen ffrindiau iddo o'r Banwen a'r Onllwyn, a lleoedd < eraill, i'w gynhebrwng. Gwasanaeth- wyd yn y ty ac yn yr Addoldy gan y Parch. D. Tegfan Davies, ac wrth y bedd gan y Parchn. D. Thomas, On- llwyn, ac E. J. Evans, Capel y Glyn. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu galar, yn arbennig a'i weddw fethodd fod yn yr angladd oherwydd henaint a llesgedd. < Cydymdeimlir a Mr Thomas Elias, j Abernant, yn y golled a gafodd trwy i dair buwch o'i eiddo syrthio dros ddi- I byn a'u lladd, boreu dydd Mercher, Mai'r 27ain. I Nos Iau, Mai'r 28ain, cafwyd cyngerdd fawreddog yn y Neuadd Gyhoeddus gan blant ieuengaf yr Ysgol Ddyddiol, dan arweiniad Miss M. Thomas, yr ysgol- feistres. Canai y rhai bychain mor swynol a'r adar yn y coed. Cynorthwy- id gan barti Mri. Ryan o Dreherbert. Canwyd y piano gan Mrs. Maggie Jones (Eluned Nedd). Llywyddodd y Cyngh. T. Williams, ysgolfeistr. Y mae diolch yn ddyledus i Miss Thomas a'r athrawesau eraill am eu llafur car- iad i gynorthwyo rhai mewn angen, sef David Davies ac Ifor Davies ei fab, Aberdare Road, y ddau wedi methu dilyn eu gwaith er's tro. Diolchir hefyd i'r pwyllgor, i Wm. Henry Brown, yr ysgrifennydd, ac I Gwilym Griffiths, y trysorydd, am eu llafur hwythau. Dydd Llun, Mai 25ain, yn 52 oed, bu farw'r cyfaill tawel Tom Williams, Aberdare Road. Ychydig feddyliasai ei ffrindiau fod ei ddiwedd mor agos. Yr oedd gyda'i waith yr wythnos flaen- orol. Dyn tyner oedd efe, yn hynod gymwynasgar, ac ar gyfrif hynny yn barchus gan ei gydweithwyr. Cladd- wyd ei weddillion ym Mynwent Eben- tzer, Pontneddfechan, y dydd Iau can- lynol. Gwasanaethwyd gan y Parchn. Dr. Hughes, Bethania, ac E. J. Evans, Capel-y-Glyh. Y, mae gweddw a thri o rai bychain ynghyda dau frawd a phedair chwaer yn galaru ar ei ol. Yr wythnos o'r blaen aeth y Gym- deithas Ddadleuol ar wib i Ystradfellte i fwynhau prydferthwch cyfareddol y lie hwnnw. Yr oedd y Parch. J. H. Thomas, Ficer Aberpergwm, yn eu plithfi a'i wen siriol ar ei wyneb fel ar- fer, a Mr Ben Harris, llywydd y Gym- deithas a gwneuthurwr peiriannau am- ser yn ogystal. Cymaint oedd meddwl yr aelodau o'u glendid fel mynasant dynnu eu lluniau cyn dychwelyd.
Cwmbach.
Cwmbach. Bydd yn dda gan ddieithriaid a fwriadant dalu ymweliad a'r lie hwn glywed y bydd yma stesion yn fuan. Bydd hon yn gaffaeliad mawr. Buwyd yn ei cheisio gan Gwmni'r G.W.R. er's blynyddoedd. Ceir hefyd bont dros Gynon ar y naill du iddi, a thros y T.V.R. ar y llall. Dywedir i Tel ganu am y bont yma flynyddoedd yn 'ol, a rhaid cydnabod ei fod ef yn y gan honno yn broffwyd yn ogystal ag yn fardd. Gadawer i ni gael y gan i'r gotwg eto. A thybed na allai ganu a phroffwydo am bethau gwell eto i godi'n gobeithion yng Nghwmbach. Golygfa hardd yma'r Llungwyn oedd gorymdaith yr Ysgol Sul. Trodd cannoedd o blant allan, a chanent yn swynol ar eu taith. Trefnid hwy gan yr athrawon a'r athrawesau, a blaen- orid hwy gan weinidog eu heglwys. Y fath ddyfodol gogoneddus fyddai i Eglwys Crist yng Nghwmbach pe gofelid yn briodol am iaith, moesau, a chymeriad y plant hyn. Dywedai un hen frawd wrth weled yr olygfa, Brenhines Cymru yw ei Hysgol Sul," a dywedaf finnau: "Byw byth fo'r Frenhines hon."—Tim Palmer.
Advertising
IA.) I j  ?? -? Cadewch !m! ?mw?d chwi am I ????? Anhwylderau Nerfol ) ?????????????? ??? ein S?? fel gwe blethedig a m ???3  ? \s?   wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir J  ? .????p  hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir  g el y canolfan gieuol. Dibynna S cyflwr y canolfannau > ol ar gyflwr yr iechyd corfforol. I'an amherir Hp yr iecbyd corfforol cyd-ddioddefa'r Sfe ] BT nerfau. Yr adeg hynny y pcenir ni gyda nerfau "—cur pen, niwralgia, gwendid gieuol. Mewn achosion W # W felly 'does dim tebyg i I Wincarnis,' ¥ f Gwin y Bywyd.' Mae 1 Wincarnis* [ l\ fl yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- fl redu'n union gyrchol ar y canol- t fannan nerfol ac a rydd iddynt fywyd newydd a bywiogrwydd newydd. Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. WBM ? D?chrenwch w?ta? ■H RB" Anfonwch am brawf-jostrel rhad o Wincaraia f —Oid ei flas to unig, ond digon i wneud lies. H Ameaues tri stamp ceiniog (i dalu'r cludiad). COLEMAN & CO.. LTD., W. 169, Wincarnis Works. Norwich. "Gwla y Bywyd" 1 Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J  ^ORGE^ ^X I  MIRACULOUS EFFECTS! ï I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged bv the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y ma.e y Feddyginiaefch werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. = George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3.-George's Pills for the Piles (label goch.) Gwertbir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob maa, mewii Blvohau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/O, Goohelwch Dwyllwyr I-Gofynwcb yn eglur am George's eills," a gwelwcb eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.B.P.S., HIR WAIN, ABERDARE.