Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Cynllun y Bedyddwyr i gynorthwyo…

News
Cite
Share

Cynllun y Bedyddwyr i gynorthwyo Eglwysi Gweiniaid. Prynhawn dydd Iau, Mai'r 28ain, cafwyd cyfarfod cryf a brwdfrydig ynglyn a'r mater hwn ym Methesda, Abertawe. Daethai yno gynrychiol- aeth gref o eglwysi cylchoedd Aber- tawe, Treforis, a Phontarddulais. Llywyddwyd cynhadledd y prynhawn gan Arglwydd Pontypridd. Teimla ef ddiddordeb mawr yn y mudiad, ac y mae wedi gwneud help mawr i ennyn brwdfrydedd o'i blaid, heblaw hyn y mae wedi cyfrannu mil o bunnoedd tu- ag ato. Cafwyd araith yn llawn o ys- brydiaeth gan y Parch. W. A. Wil- liams, Pontypridd, yr ysgrifennydd, ac nis gallesid dewis neb cymhwysach i'r gwaith. Pwysleisiodd ef ddyled yr eglwysi mawrion i'r eglwysi gweiniaid. Codasai llawer o weinidogion goreu yr enwad o'r eglwysi hyn, ac o honynt hwy y cawsai eglwysi Morgannwg lawer o'n dynion cyhoeddus. Eto yr oedd llawer o honynt yn rhv dlawd i gynnal gweinidogaeth sefydlog eu hunain, a gweinidogion mewn eglwysi eraill yn gorfod byvv ar gyflog oedd yn annigonol Siaradodd Mrs. H. Morgan, Pontypridd, hefyd dros y cynllun, a Dr. Edwards, Caerdydd, y Cynghorwr Dd. Griffiths, ac eraill. Traddodwyd areithiau yn yr hwyr gan Dr. Morris, Treorchy; y Parch. E. T. Jones, Llanelli, ac eraill. Disgwylid y byddai Mrs. Edwards, Caerdydd, hef- yd yn siarad, ond trefnwyd i gael cyf- arfod i'r chwiorydd yn fuan a cheir ei hanerchiad hi yn hwnnw. Pum mil ar hugain oedd y nod osodasai'r Bed- yddwyr o'u blaen, ond cymaint oedd y brwdfrydedd a gynhyrchwyd mewn cwrdd yng Nghaerdydd, a'r symiau a daethent i fewn fel y teimlir yn bur sicr bellach y gellir cael hanner can mil os nad ychwaneg cyn y diwedd. Cafwyd addewidion lawer am symiau da yn Abertawe. Disgwylia llawer o eglwysi bychain yn aiddgar am y cymorth ddaw iddynt o'r gronfa hon. Y Bedyddwyr yw yr olaf o'r enwadau i symud i gael cronfa o'r fath, ac of- nid ar y dechreu mai methiant a fydd- ai'r cais i'w ffurfio. Arwydd dda yw fod pethau yn troi allan yn well nag y tybesid. -Goh.

Pontypridd a'r Cylch.I

Er Cof. I

¡Cymanfa Ddwyreiniol Bedydd-I…

Undeb Ysgolion Sul AnnibynwyrI…

Gohebiaeth.

Y SKINTIAr. I

Colofn y Beirdd.

[No title]

Advertising