Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT.

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) Erbyn hyn adwaen lawer o blant yl "Darian." Gwn pwy sydd yn dyfal barhau a phwy sydd yn rhoi fyny wedi colli unwaith. Edmygaf y rhai hynny sydd yn cystadlu dro ar ol tro, a hwy yn gwyjbod os nad enillant wobr y der- byniant les. Edmygaf eu rhieni hefyd am eu cymell a'u hyfforddi. Y plant hyn a rhai tebyg lddynt dyf i fod o was- anaeth i'w gwlad a'u cenedl. Hwy fydd halen y ddaear yng Nghymru'r dyfodol. Bychan yw nifer y cystadleuwyr y tro hwn—pedwar mewn un dosbarth a thri yn y llall. Sylwir arnynt heddyw bob yn un, gan enwi'r lie yn unig pan na roir gwobr. 1.—Rhai dan Ddeuddeg. (a) Llanelly: Un o ffyddloniaid bychain y "Darian" yw hon, ac, os wyf yn cofio'n iawn, enillodd wobr unwaith. Mae ei gwaith yn lan a destlus, ond mae gormod o eiriau Saesneg ganddi heddyw. Mae'r pennawd yn Saesneg i ddechreu. Hefyd, ysgrifenna 21st May yn lie Mai 31ain. Collieries yn lie gweithfeydd glo. Tin yn lie alcan. Coracle men yn lie gwyr y corwgl. Sylwed hefyd mai "Cymry" yw'r bobl ac mai Cymru" yw'r wlad. Ac eithrio'r beiau hyn, mae ganddi bara- graff da ar Sir Gaerfyrddin. (b) Glais: Dim mor ddestlus a'r cyn- taf, ond mae gan hon eto baragraff da ar ei Sir. Defnyddia hithau "Cymry" pan yn golygu "Cymru. Hefyd "poblogaidd" yn lie "poblog." Dyn poblogaidd (popular) ddywedir, a Sir .boblog (populous). Fel hyn y dylid ys- frifennu "mwnau" a "Meirionydd." Gwell dweyd trefi yn hytrach na "pen- trefi" ar Gaerdydd, Merthyr, Aberdar, ac Abertawe. (c) Ferndale: Papur dysgedig iawn gan fachgen unarddeg oed, ond wedi ei ysgrifennu yn bur ddiofal. Ni ddefn- yddia'r atalnodau yn briodol, ac wrth hyn gedy'r argraff nad yw bob amser yn deall rhediad y brawddegau a ys- grifenna. "Ffinir" (o'r gair "ffinio") ddylid roi yn lie "ffynir," ac "erwau" yn lie "erwi." Nid yw yn iawn ysgrif- ennu enw afon fel hyn: "llwchwr." Wedi ei gywiro, ca hwn ymddangos, gan fod ynddo ffeithiau diddorol na roir gan y lleill. (d) Ystrad Rhondda: Gwaith glan iawn wedi ei ysgrifennu yn drefnus a chlir. Paragraff bach syml a chryno, ac yn debyg i waith plentyn. Sylwed y plant ar drefniad y papur hwn. Nid yw "llu o fobol" yn iawn, ond "llu o bobl (o'r gair pobl). Fel hyn y dylid sillebu "bronnau." Dybler yr n Y11 ..Mo,r,ga-nnwg. Wele'r papur buddugol. Danfonir Straeon y Cyfnos i Bessie Phillips: Mai 20fed. 1914. Cystadleuaeth i Rai dan 12. Rhoddi Enwau Tair Sir ar Ddeg Cymru. Mon, Arfon, Fflint, Meirion, Maesyfed, Maldwyn, Brycheiniog, Mynwy, Penfro, Caerfyrddin, AJberteifi, Morgannwg, Dinbych. MORGANNWG. Hon yw'r Sir lie yr wyf yn byw. Hi yw y fwyaf ei phoblogaeth o holl Sir- oedd Cymru, ac ynddi y mae Prif Ddinas ein gwlad. Hefyd y fwyaf o lawer am ei gweithfeydd glo. Er wedi ei hanharddu mewn llawer man gan y rhai hyn, mae yma lawer lie prydferth. Nid y lleiaf o'r rhai hyn yw Bro Mor- gannwg, Glyn Nedd, ac amryw fannau ereill. Hefyd y mae llu o bobl o fri wedi ei magu ar ei bronnau hi, yn wleidyddol a crefyddol. BESSlfi PHILLIPS. 3 Shady Road, Ystrad Rhondda. (10 oed). 2.-Rhai Dan Un-ar-Bymtheg. I Tri llythyr yn disgrifio'r Sabath ddaeth i law, a daeth y tri o leoedd pur debyg i'w gilydd, sef, Mountain Ash, Ferndale, ac Aberdar. Ni cheir felly lawer o arnrywiaeth disgrifiadau. (a) Mountain Ash: Mae llawer o wallau mewn sillebu yn y llythyr hwn, ond y mae y llythyr yn ddarllenadwy iawn, ac yn ddiddorol ddigon. Darllen- ed y bachgen a'i hysgrifennodd lawer o Gymraeg fel ag i ddod yn gyfarwydd a golwg geiriau. Dyma rai o'r geiriau gwallus Ifed, iechid, dyweddaf. Sylwer beth ddywedwyd uchod am "fobl." "Prynhawn" yw'r ffurf ddiweddaraf. ac nid "prydnawn." (b) Ferndale: Swn rhywun ymhell dros un-ar-bymtheg sydd mewn J'han- nau o'r llythyr hwn. Mae hwn eto yn ddiddorol, ac nid oes ynddo ond ych- ydig wallau orgraffyddol, megis "ych- edig" "ar" yii lie "a'r" "ou" yn lie "0' u, "a thyna" yn lie "a dyna." Gwell fuasai llythyr llai coeth a mwy o swn plentyn ynddo. (c) AJberdar: Hwn yw y goreu o'r tri. Mae yn fwy rhydd oddiwrth wall- au, ac yn llawn mor ddiddorol. Fyn- ychaf, ceir gan hon yr orgraff ddiwedd- araf. Ysgrifenned "prynhawn" y tro nesaf. Danfonii" y wobr felly, sef Y Pentre Gwyn," i— Dorothy Evans, Braeside, Stuart Street, Aberdar. ,Yt l ivr yn v D ai- i an" Cyhoeddir y tri llythyr yn y "Darian" nesaf, gan roi enw a chyfeiriad y buddugol yn unig. Dyma ddisgrifiad arall o Sir Forgannwg :— Mon, Caernarfon, Meirionydd. Diu- bych, Fflint, Trefaldwyn, Aberteifi, Maesyfed, Penfro, Caerfyrddin, Mynwy, Brycheiniog a Morgannwg. Morgannwg yw'r Sir lie 'rwyf yn byw. Ffinir hi ar y Gogledd gan Gaerfyrddin a Brycheiniog. Ar y Dwyrain gan Mynwy. Ar y Dde a'r Dde Orllewinol gan Gulfoi- Caerodor, a'r Gorllewinol gan Gaerfyrddin. Ei hyd o'r Dwyrain i'r Gorllewin yn 52 o filldiroedd ei lied yn 27 o filldit-oetid ei hanigvlchedd yn 140 o filldiroedd a'i harwynebedd yn 547,070 o erwau. Derbyniodd ei henw oddiwrth Morgan ab Adras. neu Athrwys ab Meurig, yr hwn a elwid yn Morgan Mwynfawr, yr hwn a fu farw yn y flwyddyn 560 o.c. Mae yr amryw- iol afonydd yn rhedeg o'r Gogledd i'r De a'r De Ddwyreiniol, ac yn ffurfio gwahanol gymoedd, a'r rhai penaf yw Cwm Taf, Rhondda, Ely, Ogwr, Afon, Nedd, a Chwm Tawe. Ei phrif fasnach yw glo, haearn ac alcan. Mae yr ar- fordir isel a orwedda ar Gulfor Caer- odor yn cael ei alw yn Fro Morgannwg. Ac o Fasfor Abertawe i geg y Llwchwr yn Fro Gwyr. Mae y sir yn un rhwyd- waith o reilffyrdd, a'r oil yn cyfeirio i I Gaerdydd ac Abertawe. I EVAN THOMAS (11 oed), 40 Oak Street, Ferndale, Glam.

Eisteddfod Cymru a'i Dyfodol.

ARGRAFFWAITH. II

0 Deifi i'r Mor. |

I Abercraf a'r Cylch.

Llansamlet.

I Beirniadaethau.

Advertising