Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Beirdd y Bont. I

Duw yn rhoddi Dechreu Da.

Ymha le bydd y GymraegI Farw?

Advertising

Rwystro Gwalth y Senedd.

News
Cite
Share

Rwystro Gwalth y Senedd. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Terfysg Rhagdrefnedig. Yr ydym wedi cael prawf pellach o'r eithafion yr a Toriaid y deyrnas iddynt er mwyn rhwystro ddeddfwriaeth Ryddfrydig, ac o'i gelyniaeth enbyd yn erbyn Deddf y Senedd. Yr oedd pob peth yn iawn tra y gallent ymddibynnu ar Dy'r Arglwyddi. Gwnaed Ty'r Cyffredin beth a fynnai sythid popeth yn y lie arall a chwarddai yr uchelwyr am ben y werin. Ond y mae yr hen bethau wedi myned heibio a phob peth wedi ei wneuthur o'r newydd. Gall yr Arglwyddi ohirio Meaur am ddwy fiyn- edd, ond ar law y Cyffredin y mae rhoddi y ffurf derfynol i bob cyfraith mwyach. Y mae y cyfnewidiad yn un aruthrol bwysig, a chrea gyfnod new- ydd yn hanes yr Ymherodraeth Brydein- ig. Er gwaethaf pawb a phopeth dyma Ddatgysylltiad yn ymyl bod yn ddeddf, ac ar sodlau hynny y mae Ym- reolaeth i'r Iwerddon ar ddod yn ffaith, a hyn a wyr Toriaeth yn dda. Nos Iau, wythnos i'r ddiweddaf, llwyr ddyryswyd gwaith Ty y Cyffredin. Bu adrannau arianol Mesur Ymreol- aeth dan sylw nos Fercher, ac aetha.nt trwodd gyda mwyafrif da. Nos Iau disgwylid dadl ar y trydydd ddarllen- iad, ac yr oedd Mr Campbell, Tori yn cynryehioli Prifysgol Dublin, i gynnyg fod y mesur i'w daflu allan. Yn ystod y cwestiynnau ofynnid yn flaenorol i'r Prif-weinidog, ceisid gwybod beth fyddai cynnwys y mesur ychwanegol fwriadai y Llywodraeth ddwyn i fewn i gyfarfod a dymuniadau gwyr Ulster. Atebodd y Prif-weinidog y dygid ef i fewn yn Nhy yr Arglwyddi, ac yr hys- bysid ar y pryd beth fyddai ei gyn- nwys. Daliai, er hynny, fod yn rhaid pasio yn gyntaf y mesur oedd o flaen y Ty. Dyma'r hyn gynhyrfodd lid yr wrthblaid. Niç oedd modd iddynt les- teirio y mudiad yn hwy. Teyrnasai y mwyafrif yn Nhy y Cyffredin, ac nid oedd yn y Ty arall allu o gwbl i'w rhwystro. Aeth amser cwestiynnau heibio, a daeth yn adeg i ddwyn ymlaen y ddadl. Disgwyliai y Llefarydd weled rhywun yn codi, ond ni syflai neb. Ymhen yspaid galwodd ar Mr. Camp- bell, yr hwn a ddynesodd at y bwrdd dan wenu. Gyda fod y gwr hwn yn agor ei enau, dechreuodd y cynnwrf trwy wersyll y Toriaid, fel nad oedd modd clywed gair. Ceisiodd y Llefar- ydd gael gosteg, ond yn gwbl ofer. Yna apeliodd at Mr Bonar Law, fel ar- weinydd yr wrthblaid, gan ofyn iddo, os gwyddai efe rhywbeth am y twrw. Amlwg oedd mai apelio wnai y Llyw- ydd am help Mr Bonar Law i sicrhau tawelwch. Neidiodd y gwr hwnnw ar ei draed, yn wflw ac yn gynhyrfus, at atebodd: Mr. Llefarydd, ni fuaswn byth yn meddwl am eich beirniadu chwi yn nghyflawniad eich dyledswyddau, ond gwn beth yw fy nyledswydd i ar hyn o bryd, a hynny yw, gwrthod ateb eich gofyniad." Disgynnodd y geiriau fel taranfollt ar y Ty. Teimlid fod y Llefarydd wedi derbyn anfri; eto i gyd cymeradwyodd y Toriaid yr atebiad gyda bonllefau byddarol. Gwelodd y Llywydd nad oedd obaith am dawel- wch, a chyhoeddodd fod gwaith y dydd ar ben. Nid oedd ond tua chwech o'r gloch ae felly gwasgarodd yr aelodau. Pan gododd Mr Asquith i fyned allan canlynwyd ef a chymer- adwyaeth gynnes Rhyddfrydwyr, Gwyddelod, ac aelodau Plaid Llafur. A ydym i ganiatau i derfysgwyr wneud fel y mynont? Os felly gallwn ddisgwyl gweled amseroedd enbyd yn ein gwlad cyn bo hir. Os yw Toriaid ffroenuchel ac ystyfnig i arfer pen- rhyddid i perwyl hwn, rhaid fydd cania- tau yr unrhyw beth i'r werin yn gyffredinol. Diwedd hyn fydd ar- wain Pry den unwaith eto i gyflwr o an- wareidd-dra ac i ymddibynnu ymhob cylch ar rym braich neu arfau rhyfel. Canmolwn wroldeb, pwyll a threidd- garwch Mr. Asquith. Pe buasai yn dwyn ail fesur yr Iwerddon i fewn i Dy y Cyffredin, o anghenrheidrwydd y Rhyddfrydwyr fuasai yn rhoddi ffurf iddo am mai hwy sydd yn y mwyafrif. Ar y llaw arall trwy ei gyflwyno yn gyn- taf i Dy yr Arglwyddi teflir y cyfrifol- deb o wrthod heddwch ar yr Arglwyddi. i Hyd yn hyn, y maent hwy wili taflu allan bob mesur o'r fath gyda dirmyg. Wedi i Fesur mawr y Llywodraeth gael ei wneuthur yn ddeddf, wele gyfle i'r Arglwyddi ffurfio un arall i gyfarfod ag achos Ulster. Os gwrthodant, ac i hynny arwain i dywallt gwaed, yn ofer y ceisir beio y Llywodraeth. Ond sut bynnag y try pethau nid yw y wlad yn dejbyg o anghofio y terfysg Seneddol diweddaf. Erbyn hyn gwyddys mai nid ffrwydriad sydyn ar gynhyrfiad y foment, ond mai cynllun oedd a wnaed mewn gwaed oer i rwystro deddfwriaeth y bobl. Fel y dywedodd Mr Lloyd George yn Ipswich nos Wener: Tra y gallai Ty yr Ar- glwyddi atal mesurau peryglus rhag myned trwodd, gellid dioddef Ty y Cyffredin, ond yn awr y mae y gwrth- gloddiau wedi eu torri. Ceir llwybr clir i fesurau y bobl, y rhai ddeuant o'u calonnau ac o'u heneidiau—oddiwrth y miliynnau sydd yn llefain—yn syth at risiau yr Orsedd. Felly rhaid taflu pob anfri ar Dy'r Cyffredin; rhaid torri i fyny Dy y Cyffredin; rhaid damsang ar Dy y Cyffredin. Sut Yn gyntaf, trwy wrthryfel; yn ail, trwy anufudd-dod yn y fyddin. Wedi i'r ddau hyn fethu, yna trwy dwrw ac annhrefn yn y Ty. Credwch fi, nid cynhyrfiad tymer sydyn oedd hyn ond ystryw bwyllog yn erbyn Llywodraeth rydd yn y wlad hon." Ceir prawf diymod o hyn mewn geir- iau a lefarwyd gan Mr Bonar Law, I mewn dadl ar Ymreolaeth yn Nhy'r Cyffredin Gorff. 7, 1913, ac a ddyfynir1 gan Mr J. G. Swift McNeill, A.S., ac a ryddgyfieithwn fel y canlyn: Nid oes genyf ond un peth arall i'w ddweud cyn eistedd i lawr. Hon yw y waith olaf yr ymdrinir a'r Bil hwn yn dawel yn Nhy y Cyffredin. Yr ydym wedi parchu traddodiadau y Ty hwn, ond credaf y gallaf ddweud mai hon, )-11 debygol, yw y waith olaf yr ymdrinir a'r BiI. presennol gyda thawelwch yn y Ty hwn." Anawdd fuasai cael proff- wydoliaeth neu fygythiad mwy pen- dant, na chyflawniad mwy llythrennol chwaith. Tystia Mr Lloyd George mai y ddau Anarchist pennaf yn y Deyrnas heddyw ydynt Mr Bonar Law a Mrs. Pankhurst. ——p—.

I Ynys Barri.i

Advertising