Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

Adolygiad.

Ein Llywodraeth Leol.

ARORAFFWAITH. II

Cwrdd Anrhegu'r Henadur 1…

I Drama ar Hirwaun.

News
Cite
Share

I Drama ar Hirwaun. Nos Faivrth, y geg, bu Cymdeithas Ddramodol Siloh, Aberdar, yn per- fformio y ddrama newydd Gymreig, James Jarvis" neu "Y Tadau Dros y Gwir" (David Evans, Cilfynydd) yn Neuadd Victoria, Hirwaun. Yr oedd y chwareuwyr ieuainc yn eu hafiaith yn portreadu y gwahanol gymeriadau, a hynny gyda medr a rhwyddineb. Deallwn mai hwn oedd y trydydd tro iddynt berfformio y ddrama ragorol hon. Gosodant ger bron yn fyw iawn dymor cythryblus yn hanes ein gwlad a'n crefydd-troad allan y 2,000. Daethai cynhulliad lluosog ynghyd, a phawb fel pe'n sylweddoh yn bur drwyadl y triniaethau chwerwon en- byd y bu ein cyn-deidiau ynddynt pan vn sefyll yn gadarn dros eu heg- wyddorion, a thrwy hynny enmll i ni, megis a gwaed eu calon y rhyddid crefyddol a fwvnheir heddyw; ie, ac yr oedd hyn oil yn mynd ymlaen ar Hirwaun pan oedd Mesur Datgys- ylltiad a Dadwaddoliad o flaen y Ty yn Llundain, ac y pasiwyd ei Drydydd Darlleniad gvda I mwyafnf o 77. Haedda cyfarwyddwr a hyfforddwr yr actwyr ganmoliaeth uchei am y modd dihafal yr aeth y cwmni drwy eu gwaith. Deallwn y cawn ymweliad arall gan y cwmni hwn yn fvan eto. Ie, dowch ar frys, meddwn, a chroesa.

[No title]

Advertising