Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

Adolygiad.

Ein Llywodraeth Leol.

ARORAFFWAITH. II

Cwrdd Anrhegu'r Henadur 1…

News
Cite
Share

Cwrdd Anrhegu'r Henadur 1 J. Jordan a'i Briod, o Barcyderi, Llansamlet. Cyfarfod hynod o ddiddorol gaed I nos lau, Mai 2iain, ynglyn a'r gorch- wyl hwn yng Nghapel y Methodistiaid, Peniel Green. Chwith oedd clywed fod y llywydd apwyntiedig, sef y Parch. J. E. Griffiths, Ficer y Plwy, yn methu bod yno oherwydd marw'i briod. Cvmerwyd ei le gan Abraham H. Thomas, Ysw. (Crymlyn), ac ar ei gais ef danghosodd y dorf ei chyd- ymdeimlad a'r Ficer a'r teulu yn eu trallod trwy i bawb godi ar eu traed a chanu "0 Fryniau Caersalem." Daeth- ai yr Arglwydd a'r Arglwyddes Villiers yno i ddangos eu parch i'r Henadur ac i gyflwyno iddo'n anrheg- ion. Dywedai Arglwydd Villiers mai dyn oedd yr Henadur Jordan fedrai godi uwchlaw gwahaniaethau sectol a phleidiol wrth gyflawnu ei ddyled- swyddau, ac yr oedd yn llawenydd iddo ef weled pawb o bob enwad a phlaid yn uno i'w anrhydeddu. Yr oedd yn dda ganddo am y gwerthfawrogiad hwn o lafur un a fuasai'n vvasanaeth- gar gyda phob rhan o waith cyhoeddus y plwyf. Cyfeiriodd at grefyddolder ysbryd yr Henadur a'i haelioni nid yn unig i'w eglwys ei hun, ond i rai a wahaniaethent oddiwrtho mewn cred. Gwnaethai waith da ar y Cyngor Sir, ar y Pwyllgor Addysg, ac mewn cylch- oedd eraill. Gadawai ef y gwaith o ddadorchuddio i'w Arglwyddes. Pan dynnodd hi'r llenni yn ol daeth darlun godidog o'r Henadur i'r golwg ar y mur. Cyflwynodd A. H. Thomas, Ysw., anrhegion gwerthfawr, sef "gold pendant a chadwyn aur i Mrs. Jor- dan, a thystiai fod llwyddiant yr Hen- adur i'w briodoli i raddau pell iawn i'w doethineb a'i ffyddlondeb hi. Dilyn- wyd gan Miss Sims, Bonymaen, ag unawd Gymraeg, "Darlun fy mam," a chanodd yn wefreiddiol, a chan y cor dan arweiniad Mr. Joseff Jones yn canu "Worthy is the Lamb," a Mr. T. Simes-Rees yn canu'r piano. Galwyd ar y Parch. Thomas Jones, Trallwn, i siarad. Hen frawd ydyw ef sydd wedi bod yn ysgol Wil Bryan yn hir. 'Roedd yn dda ganddo am y Hun oedd ar y mur, ond yr oedd yn well ganddo am Jordan. 'Roedd rhai yn edrych yn dda iawn ar len, ond yr I oedd Jordan yn well nag unrhyw ddar- lun ellid wneud o hono. Ni daethai'r Henadur erioed i'w dy i geisio'r dreth heb ei chael oni ddigwyddai fod oddicartref. Y Parch. J. D. Harris, Adulam, a gyfeiriodd at yr hen dyb nad oedd t&l am wasanaethu'r cyhoedd, ac yr oedd yn dda ganddo'r noson honno weled eituriad i'r rheol. Cawsai'r Henadur bob amser yn barod i gynorthwyo achosion da, a bu wrth ei ddrws law- er gwaith yn cardota. Y Parch. T. C. Lewis, Llwyn- brwydrau, a sylwasai fod y gair croeso" ar y mat" o flaen y drws yn Mharcyderi, a chroeso oedd yno bob amser. Deisyfai ef ar i'r Henadur eto wneud un gwasanaeth aralIz sef ys- grifennu hanes y plwyf; gwyddai fod ganddo gyflawnder o ddefnyddiau. Dygai Mr. Richard Rees, cadeirydd yr hen Fwrdd Ysgol, dystiolaeth gyffelyb i'r Henadur. Daethai y Ficer Stewart, mab- ynghyfraith Ficer y plwyf, yno ar gais y teulu oedd mewn trallod i dystio ar eu rhan nad oedd dim yn rhy dda i'w ddweyd am y gwr a anrhydeddid a'i briod. Credai y dylal'r wlad fod yn falch o ddynion fel yr Henadur Jor- dan. Dilynwyd gan y Dr. E. Rice Mor- gan, mab y diweddar Ficer Morgan, Llansamlet. Gofidiai Mr. Dan Griffiths, cadeir- ydd presennol y Cyngor Plwy, na fuasai yno ddarlun o Mrs. Jordan, a rhoddodd grynhodeb o waith yr Hen- adur am 40 mlynedd. Mewn atebiad dywedai yr Henadur ei hun fod ei deimlad yn ormod iddo i fedru siarad llawer, ond diolchai o galon drosto ei hun a'i briod. Edrych- ai ef a hithau o hyn allan ar yr anrheg- ion fel eu pennaf drysorau ar gyfrif y teimladau da oedd o'r tu cefn iddynt. Cydnabyddai yntau fod y llwyddiant fu iddo i'w briodoli i'w briod. Diolchai i Dduw am y iechyd a'r nerth a gawsai. Ni chawsai ddiwrnod o afiechyd oedd yn ddifrifol yn ystod ei oes, ac ni choll- odd gyfarfod erioed o herwydd afiechyd. Diddorol oedd deall mai treth gasglydd oedd tad Mrs. Jordan, a phan fu farw ef ddewis Mrs. Jordan i'r swydd yn ei le. Casglai Mr. Jordan y dreth ar y pryd ym Mhlwy Llansam- let. Ers yn agos i 40 mlynedd elai o ^16,000 i ^18,000 o arian y cyhoedd trwy ei ddwylaw, ac ni chawsai neb achos achwyn fod ceiniog yn eisiau yn ystod yr amser. Buasai ar y Cyngor Sir am yn agos i 20 mlynedd heb orfod sefyll etholiad unwaith, Ni fu iddo gyfarfod o gwbl i hyrwyddo'n ymgeis- iaeth. Ni argraffodd gymaint ag anerchiad i gymell ei hun yn ystod yr holl amser. Rhoddodd ran o'i araith yn Gymraeg. I Rhoddodd Mr. John Meredydd, Treforis, cadeirydd Cymrodorion Aber- tawe, deyrnged uchel i'r Henadur am I ei deyrngarwch i Gymru ac i'r Gym- raeg. Mr. D. W, Jenkins, Is-gadeirydd yr hen Fwrdd Ysgol, a ddywcdai fod Mr. Jordan yn gwneud daioni am nas gallai beidio. Caed penhillion gan Mr. J. Morgan, Trallwn, ac areithiau gan Mr. J. Rees, a chan yr Arolygydd Powell o Gastell- nedd, a diolchwn iddo am siarad yn Gymraeg, a thrwy hynny roddi esiampl dda i'r plant oedd yno. Cafwvd gair eto gan Mr. Vernon, ysgolfeistr, a hanes diddorol gan Mr. Ed. Thomas, ysgolfeistr arall o Birch- grove, am yr Henadur fel athraw yn yr Ysgol Sul. Yr araith olaf oedd eiddo Mr. Rhys Llewelyn, un arall o ddisgyblion Wil Brvan, a chafwyd disgrifiad domol ganddo o'r modd yr oedd Mrs. Jor- dan yn gwneud trefn ar bentwr papurau "John" pan fyddai ef wedi eu cyrnvsgu. J Cafwvd unawd ar y piano yn ystod y cwrdd gan foneddiges ieuanc. 'pa gennym hysbysu darllenwyr y "Darian" fod yr Henadur Jordan yn addo cyfoethogi tudalennau r "Darian" a hanes Plwy Llansamlet. T. J T.J.

I Drama ar Hirwaun.

[No title]

Advertising