Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Y Diweddar J. R. Jones (Ehedydd Emlyn), Castell-newydd-Emlyn. Gwelais hysbysiad byr yn y "Da nan" ychydig wythnosau yn ol am farwolaeth y diweddar a'r anwyl Mr J. R. J ones (Ehedydd Emlyn), Castell-ne>vydd Emlyn. Tybiais y carai llawer u 1 KY'.t- nabod a'i berthynasau sydd >n dda"- Ilenwyr cyson o'r "Darian" weled ei ddarlun a chael ychydig o'i hanes. Yr oedd yr Ehedydd, fel y'i gelwir, yn gy- meriad gwreiddiol iawn, ac ynddo nod- weddion y byddai yn werth pe caniatai gofod, eu dwyn ar gof. Tystiolaeth pawb a'i hadwaena oedd, Wele Israel iad yn wir, yn yr hwn nid oedd dwyll" gwr unplyg, dirodres, yn Ilawn caredig- rwydd oedd Ehedydd Emlyn. Ni byddai byth yn fwy hapus na phan yn gwneud cymwynas; chwliai am le i wneud daioni, ac er na chafodd ei freintio a chorff iach, eto ni fu ddiog mewn daioni. Bu iddo ran ymhob symudiad da yn y cylch a'i ysjbryd bob amser yn y gwaith. Safai yn gadarn dros egwyddorion a fyddent er Iles cymdeithas. Gwr addfwyn a thawel ydoedd, yn meddwl yn dda am bawb. Gwell oedd ganddo ddioddef ei hun na chlwyfo arall Yr oedd nodweddion y "disgybl anwyl" yn amlwg iawn yn ei ddynoliaeth, a gras y nef wedi ei gym- j hwyso yn dda ar gyfer y wlad y can- odd gymaint am dani. Parchai grwydryn ar ymyl y ffordd, a ehofue gennym ei glywed yn dweyd fod y tramp yn werth gwaed Gwaredwr y byd. Y dydd diweddaf pan agorir ilyfrau'r llys y ceir allan lluosogrwydd j ei gymwynasau i'r tlawd. Teithiai bob Sadwrn er's blynyddau i Aberteifi i'r farchnad, a galwai mewn llawer bwth- | yn tlawd i gynorthwyo rhai i ymladd eu brwydrau. Mae gruddiau tlodion y cylch wedi eu gwlvchu gan ddagrau hiraeth ar ol un mor anwyl. Oristion gloew ydoedd, ac un o'r hoelion wyth yn Seion. Yr oedd yn ddiacon ers blyn- yddau yn Ebenezer, Emlyn yn athraw ffyddlon; yn arweinydd med- rus, ac yn wr doeth o gyngor ymhob cylch o fywyd. Mab ydoedd i Dafydd ac Esther Jones. Crydd oedd ei dad a'i daid. Hannai o deulu parchus ac enwog am eu hathrylith. Disgynnai o achau hen feirdd Cwmdu fel y'u gel- wir. Ei daid ydoedd y Parch. Thomas Jones, Rhiwson (Twm Josiah), awdwr yr emyn, "Nac aed Calfaria fynydd byth o'n cof," etc. Dau ewythyr iddo ydoedd y Parchn. Thomas Jones, Cil- cennin, a William Jones, Pentrety- gwyn-dynion cedyrn o nerth yn eu dydd Ganwyd ef mewn ty. o'r enw | Troedrhiwfforest, Trewen, lie hynod am ei enwogion, tua'r flwyddyn 1849. Efe oedd yr ieuengaf ond un o dri-ar- ddeg o blant. Brawd iddo ydoedd tad y Cymro enwog, Parch. Towyn Jones, A.S., a chwaer iddo oedd mam Mr. J. ) T. Davies, B.Sc., ysgrifennydd cyfrin- achol Canghellor y Trysorlys, ac hefyd y bardd o Cwm Coy. Etifeddasai ein gwrthrych athrylith a doniau ei dadau -ci,nhvsgaeth well na chyfoeth y byd hwn. Yr oedd yn fardd gwych yn y menurau caeth a rhydd. Dechreuodd gyfeillachu a'r awen pan yn llanc ieuanc ac astudiodd y gynghanedd. Dysgodd reolau Dafydd Morgannwg ar ei got. fel y gallai ei hadrodd air am air. Enillodd lawer o wobrwyon. Yn Eisteddfod Goronog Capel Ivan, Cas- tellnewydd, gwnaeth enw da iddo ei hun, trwy fod yn gyd-fuddugol a'r di- weddar Barchedig D. Onllwyn Brace, A,berdar. am farwnad i'r diweddar Barch. John Williams, Capel Ivan a Chllstellnewydd. Ystyrid Onllwyn Brace y pryd hwnnw yn brif farwnadwr Cymru. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1880. Enillodd wedi hynny rhai can- oedd o wobrwyon am ganeuon, englyn- ion toddeidau a chywyddau. yn Eis- teddfod Gadeiriol Dyfed yn Emlyn cip- iodd y wobr am y beddargraph goreu i'r diweddar Barch. J. Pryse Jones, offeiriad Emlyn, pryd yr oedd deugain namyn un yn cynnyg am yr anrhydedd. Enillodd ddwy gadair a thlws aur, a rhannwyd y wobr o bum gini am awdl yn Eisteddfod Llandudno rhyngddo ag un arall nas cofiaf ei enw yn awr. Nid rhif cadeiriau yw mesur maintioli bardd bob amser. Mae yna doraeth o farddonaeth heb weled goleu ddydd eto, a. chredwn y byddai ei chyhoeddi yn gaffaeliad i lenyddiaeth Cymru. Gobeithio y gwel y teulu ei ffordd yn glir i gyhoeTlcli ffrwyth awen y bardd neilltuedig hwn. Trueni fyddai gadael y fath drysorau yn guddiedig mewn coffrau dros byth. Yr oedd iddo barch mawr trwy yr holl wlad, a gwelwyd hynny yn amlwg ddydd ei angladd yn y dorf fa,wr ddaethai ynghyd. Gwelwyd yno wreng a bonedd, tlawd a chyfoeth- og. Naturiol oedd gweled yno amryw o weinidogi-oii; cawsai llawer o honynt hwy lety cysurus ganddo ef a'i briod. Hoffai gyfeillach. a byddai yn ddifyr iawn mewn cwmni. Mae ei ddywediad- au difyr a diniwed yn dyfod yn fyw i'm cof pan yn ysgrifennu yr hanes yma. Dioddefasai bob amser yn ddirwgnach, a bu farw fel un yn mynd i'w deyrnas. Cysured Duw y weddw fu mor ofalus o hono yn y blynyddoedd olaf. Mae ei bedair merch erbyn hyn wedi gwneud cartrefi iddynt eu hunain, sef Mrs. T. Davies, Bronwion, Aberdar; Mrs. D. Evans, Mardy House, iJandeilo; Mrs. D. J. Nicholas, Arosfa, Blaen- rhondda. a Mrs. D. Evans, Cemetery Road, Aberdar. Diddaner hwythau yn eu galar a llwybrau eu tad a gerddont. D.J.N.

Adolygiad.

Ein Llywodraeth Leol.

ARORAFFWAITH. II

Cwrdd Anrhegu'r Henadur 1…

I Drama ar Hirwaun.

[No title]

Advertising