Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. j

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. j (DAN OLYGIAETH MOELONA.) Geneth fach wyth oed oedd Wini Elis, yn byw gyda'i mam a'i thad mewn bwthyn ynghanol y wlad. Tu ol i'r bwthyn yr oedd gardd, ac ynddi dri phren afalau. Planasai ei thad un o'r rhai hyn ar y dydd y ganed Wini. Bob blwyddyn pan ddeuai afalau arno, cai hi eu tynnu, cai fwyta rhai o honynt, .cai gadw rhai yn y ty erbyn y gaeaf, a chai roi faint a fynnai i'w ffrindiau. Ei phren hi oedd y pren afalau. Un dydd o Fai yr oedd gwledd o de a bara brith i'w chael yn yr ysgol, ac addawsai y plant fyned a sypiau o flodau tlysion i'w gosod ar y byrddau. Aeth Wini allan i'r ardd i ddewis ei blodau. Wedi ychydig funudau aeth ei mam allan ar ei hoi, a gwelodd Wini yn prysur dynnu blodau'r pren afalau. Gwaeddodd yn wyllt: "Wini! Wini! Beth wyt yn wneud ? Blodau afalau yw y rhai yna wyt yn dynnu. 0, Wini! Beth wnei mwy am ffrwvth 1" Onid ynt yn flodau pert, mam?" ebe Wini. Mae Mair yn mynd a briallu a blodau'r gwynt a blodau'r gwcw, ond ni fydd gan neb yn yr ysgol gystal 'posi' a mi." Ond, merch annwyl i." meddai'r fam, ch.L-i-n ni ddim ffrwyth yn yr Hydref os tynnwn ni'r blodau yn y Gwanwyn.' "0, mae'r Hydref ymhell iawn, ebe Wini. "Mi dyrma i'r Jblodau yn a,wr tra y maent yma yn fy ymyl." Daeth yr haf tesog a'r hydref mwyn a-- ei ol. Daeth afalau ddigonedd i'r gerddi a'r poi'llarmnu. Yng ngardd y bwthyn yr oedd riwy goeden yn plygu dan eu baich o ffrwythau per. Yn eu hymyl, yr oedd pren Wini, heb un afal arno, a'i ddail crin yn ysgwyd yn siom edig dan yr awel. Edrych arno yn drist wnai Wini pan ddaeth ei mam ati. Does yma ddim afalau, fel y gweli, Wini fach," ebe'r fam, ond mae'r blodau gennyt, onid ynt 1 Ble mae'r posi hardd dynnaist ar y bore hwnnw ym mis Mai 1" "Y blodau 7" ebe Wini. "Maent wedi gwywo i gyd. Fuont hwy ddim byw mwy na diwrnod, a nawr, nid oes gennyf na blodau nac afalau," a dech- reuodd Wini wylo yn chwerw. "Wini fach," ebe'r fam yn dyner, dysg wers oddiwrth y pren afalau. Os mai chwilio am bleser yn unig wnawn yng ngwanwyn bywyd-fel ti gyda'r blodau ym mis Mai-Di fydd gen- nym obaith am ffrwyth ar ddiwedd oes. Rhaid parotoi yn y gwanwyn erbyn yr hydref. Os am fyw i fod o ddefnydd yn y byd rhaid parotoi ar gyfer hynny pan yn ieuanc. Os tynnwn y blodau yn y gwanwyn, siomedig a di-ddefnydd fel y pren hwn fyddwn yn niwedd oes." Y GWCW. » I Y gwcw lwydlas dery gerdd Yng nghoedwig werdd y flaenol; Ei hunodl ydyw anadl ha', Mae'r eira wedi meiriol. Cw-cw Cw-cw Awelon mwyn Sy'n llawn o swyn hudolus, Mae'r brieill glan a'r meillion brltb Dan berliog wlith yn felys. Yn iach, yn iach i'r gaeaf oer, Mae gwen y lloer yn gwynnu Yn iach i'r olwg noethlwm hyll, Mae'r closydd cyll yn glasu; Cw-cw! Cw-cw I Mae'r irion adail A'r gwiail yn blaendarddu, Mae gwen ar wyneb glan y glyn, Mae bro a bryn yn tyfu. Cw-cw! Cw-cw Mae'r adar mwyn Yn dweyd eu cwyn i'w cymar; Cw-cw! Cw-cw! Mae'r deiliog iwyn Yn llawn o swyn caniadgar; Cw-cw Cw-cw Awelon mwyn Sy'n llawn o swyn hudolus, Mae'r brieill glan a'r meillion r.th Dan berliog wlith yn felys. GLASYNVS. (GAN TALNANT.) I Darllenais gyda diddordeb neillduol golofn Moelona yn y rhifyn diwedd- af o'r Darian." Deffrodd ei rhestr o Hen Ddychmygion atgofion melus am oriau diddan ar yr hen aelwyd hoff yn y dyddiau gynt pan oeddwn blentyn. Ar hirnos gaeaf cawsai y 'dychymyg' le arblwg ar ein haelwyd, ac wrth ddar- llen rhestr "Moelona" daeth yr hen amser dedwydd yn fyw i'r oof. Yr oedd y mwyafrif o honynt ymhlith ein casgliad ni, ond yn gwahaniaethu peth yn eu ffurf. Dyma gwpwl yn ych- wanegol :—■ Ladi wen lis Yn byw yn y plâs, Ei hanner i miwn A'i hanner i ma's. —Ceninen. Oist fach yn y nant, Fe'i agorir gan un Ond ni cheuir gan gant. —Cneuen. Goleu leuad fel y dydd, Shanco Dafydd ar ei hyd Yn claddu plant yn y nant, Saith ugain ac wyth cant. —Eog yn Shodi. A dyma ffurf arall i'r Naw Hen Wr": I Naw yn ddyn, a naw hen ddyn, ( A naw cot fawr gan bob hen ddyn; ( A naw cwden yn mhob cot fawr, « A naw cath wen yn mhob cwden, ) A naw cath fach gan bob cath wen. (

I Cymru Heddyw.I i

Advertising

I Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr!…

—————————I i Cwrdd Sefydlu…

Advertising

Llanbradach.

Pontycymmer.

I Calfaria, Llanelli.