Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
HEVAirS ?ll I for K 10 OR an d CARDIFF (2) NEWPORT PONTYPOOL PONTYPRIDD SWANSEA LLANELLY V .1 1-gSS-SS5SSB ■ J 1 USSS Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan & Co., Ld., Wales' Largest Furnishers are-now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a hnndsome Washstand lwlth Marble Top and The Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & S7 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori.I
Y Stori. NANNO. Cydfuddugol yn Eisteddfod M6n. GAN J. TYWI JONES. PENNOD II.—YNG IS" GHAR WIL I SION DDAFYDD. "Wel, dyna Jona wedi 'i setlo," meddai un. | "Batis oedd Jona, decini," meddai un arall. "Be wyt ti'n weld yno fo'n debyg i Fatis?" gofynnai William Owen. "Meddwl nad aethe neb i'r nefoedd oedd o, ond fo a'i enwad i hun," medd- ai'r llall. "Taw, da chdi," meddai Wiliam Owen; "glywast ti Fatis erioed yn deud ffasiwn beth 1 Chlywas i ddim. Tydi mynd i'r nefoedd ddim yn y ewestiwn heiddiw o gwbl." "Sut rydach chi'n medru deud i bod hi'n bosib iddyn nhw i fynd i'r nefoedd Wiliam Owan?" gofynnai Shan. "Be sy gynnoch chi i ddeud rwan, rhen frawd ?" gofynnai'r un eto. "Mi fedra ddeud hyn," meddai Wil- iam Owen, "na wyr Sian a titha ddim mwy am y Batis na wydda Sian am Jona a Ninifa cyn i Robat Parri ddeud yr hanas. Nid Sian ydi'n sboniad ni." "Sian Huws a Wil Dwm! Dyna'r cauad ar ych piseri chi '11 dau un- waith eto," meddai Jac Martin. "IIwyt ti yn llygad dy le, Jac," meddai'r dreifar, does gin neb hawl i ddod ag enwadaeth i nghar i. Rydw i wedi 'u rhybuddio nhw o'r blan. A ma'n dda gin y nghalon i mai rhai sy'n i smyglio fo i mewn i bopath sy'n cael y gwaetha bojb amser. Pobol yn mynd i'r farchnad ydan ni heiddiw, a rw i'n gybeithio y down ni yn yn hola yn Bobor ag yn onast i gyd. Dyna ydi'r peth mawr, Wiliam Owen a Robat Parri." "Yn llygad dy le," meddai'r ddau. "Taid anwl, rydan ni yn y Borth! Tydi'r amsar wedi mynd!" meddai Betsan Wmffras. "Felly byddai yn clywad pawb yn deud bob amsar yn y car yma, os bydd hi'n syol o dywydd," meddai'r dreifar. "Ma'r scwrs wedi bod yn ddifyr, neilltuol felly, heiddiw," meddai un arall. Ysgafnhawyd cryn lawer ar y llwyth yn y Borth, ac adrefnwyd y gweddill. Buont yn ddistaw am ennyd ar ol ail gychwyn. Rhai ohonypt heb ddim o werth i'w ddweyd, ereill yn syllu ar swynion bytholfyw glannau'r Fenai, neu yn edmygu unwaith eto gywreinwaith y bont odidog grogai uwch y lli odditanynt. Jac Martin o'r diwedd dorrodd ar y distawrwydd- "Ma Huw Morus," meddai, "yn gadal yr hen wlad, a 'does yr un ohon- och chi wedi deud gair wrtho fo." "Ddeudson ni'n gora wrtho fo yn y capal nos Ferchar," meddai Robert Parri, "a rydw i'n gybeitho, Huw bach, gnei di gofio'r cwbwl ddeudwd yno, a doi di'n ol aton ni'n ddyn graenus, gorff, ac enaid." "Mi 'na ngora," meddai Huw. "Mi gyma i fy llw i rywun arall ddeud yn o lew wrtho fo'r bora yma," meddai Wiliam Owen; "mi welis i gefn rhywun yn mynd i fyny'r Ion acw pan ddoth y car ymlaen. Tendia di neud tro gwael hefo Nanno, Huw. Chei di ddim o well Nanno yn y ddeuddeg shir. A Duw yn rhwydd i ti wella dy hun. Fedra i ddymuno dim gwell i ti, machgan i." "Rydw i'n ddiolchgar i chi i gyd," meddai Huw. "0 ella bydd Huw wedi gweld gwell Nanno'n reit fuan. 'Does dim eisio i ti rwmo dy hun wrth neb, Huw, tan gei di weld be ddaw, machgian i. A ma'n siwr, ran hynny, na fedar Nanno ddim byw heb rwfyn iddi i chan- lyn hi ar ol i ti fynd," meddai Sian Huws. "\Vel, huddug i botas o hyd! Be haru chi, Shan Huws ?" gofynnai Jac Martin. "Dyna be 'di taro'r hoel ar i phen, Jac," meddai'r dreifar. "Ia," meddai Dafydd Rolant gyda theimlad, "fasa dim gair mor isal i Shir Fon, mewn un peth o leia, tasa Jbob merch ifanc yr un fath a Nanno." "Pam. neno'r taid; ydach chi'n meddwl mod i'n ddigon gwirion i gredu i bod hi'n well na rhyw ferchad erill? Rydan ni i gyd 'run fath, ond mae rhai o honom.ni sy wedi gorfod syffro pawb o-bob enwad. Be 'dach chi'n ddeud, Betsan Wmffras1? Rydw i'n siwr y deudwch chi mod i'n iawn," meddai Shan Huws. ("Y Tad a'n gwarchod! Y Tad a'n gwarchod!" meddai Wiliam Owen, lawer gwaith yn ystod yr araith hon o eiddo Shan.) "Na ddeuda i, Sian Huws, ddim ych bod chi'n iawn. Mi wn i na tydach chi ddim. Ddynas! Ma'n andros o beth i chi geisio gneud pawb 'run fath a chi'ch hun," meddai Betsan Wmffras, a'r dagrau gan dymer a theimlad yn ymsaethu yn loewon o'i llygaid. Cwilydd o beth, Shan Huws, ydi deud dim am Nanno o bawb. Tendiwch i mi i gneud hi'n boeth arnoch chi, ddynas," meddai Huw Morus. Well spoken, Huw!" meddai Jac Martin. 0 dim ond fi a fy merchad sy'n ddrwg, felly! Roeddwn ina'n arfar ama'n bod ni mewn cwmni reit rispect- abl," meddai Sian. "Tad a'n gwarchod! Taw Sian, rhag cwilydd i ti, ddynas. Tydan ni ddim am glywad am ych hen bechoda chi," meddai Wiliam Owen. Tydan nhw ddim yn bechoda, Wiliam o wan, diolch i chi. Rydw i cystal Batis a chitha yn ych dannadd chi, a tydw i ddim heb synnu llawar atoch chi yn codi yn 'y mhen i heiddiw. Gewch chi glywad am hyn yto," meddai Sian. Roeddent ym Mangor erbyn hyn, a Sian yn parotoi i ddisgyn. Rwan, Sian," meddai'r dreifar, mae arnoch chi lawar o bres i mi am ych cario chi. Rydw inna rwan yn 'u madda nhw i gyd i chi ar yr amod nad ydach chi byth i ddod i 'nghar i eto. Mi of ala i na ddowch chi ddim, ran hynny. Tydach chi ddim o'r cwaliti fydda i'n leicio gario. Chwiliwch am ryw gar arall i fynd yn ych hoi hefo fo." Wyddost ti fod cosfc am ofyn pres ar y ffordd, a gallwn i dy roi di yng ngafal cyfrath 1 Faswn i'n talu'r cwbwl i ti un o'r dyddia nesa yma," meddai Shan. "Na, 'dwn i fawr am y cyfreithia yma," meddai'r dreifar. "Rydw i wedi byw hyd yma heb wybod fawr am danyn nhw. Ddaru mi ddim gofyn pres i ti chwaith; 'u madda nhw i ti ddaru mi. Taswn i wedi 'u madda nhw'n gynt, fasa gin i lai o waith. Dos rwan i dy grogi, o'm rhan i, 'r hen huddug o botas, chwadal Jac Martin yma." Gawn i weld," meddai Sian, ac aeth i'w ffordd a'i basgedi hefo hi. Disgynnai Huw Moris a Jac Martin wrth y stesion. Cymhellodd Huw Jac i fyned gydag ef i weled ynghylch ei gist ddillad a ddaethai y diwrnod cynt ac adeg y tren. Wedi deall fod ganddo yn agos i ddwy awr i aros, dywedodd Huw wrth Jac— Tyd hefo mi i gael rhyw lasiad bach, Jac." "Na, Huw," meddai Jac, "Nanno wouldn't like it, na'r blaenoriaid chwaith. Roeddwn i fel taswn i'n teim- lo fy hun yn dod yn hogyn da'r bora yma wrth weld Nanno'n crio ar dy ol di. Toedd hi'n glws? A chlywad blaenor- iad Methodus a Batis wedi'n yn rhoi cynghorion i ti, roeddwn i fel y parad odd yn clywad pan oedd y post yn cael i daro. Hen chaps iawn ydi'r blaenor- iad yma hefyd, os bydda nhw'n iawn." Taw, da chdi," meddai Huw, "ma Nanno a'r blaenoriad yn ddigon pell rwan rydw i'n mynd." Mi ddo i hefo chdi, ond fasa'n well gin i i ti beido mynd," meddai Jac. Yfodd Huw a Jac bob un ddau lasiad. Ni chymerai Jac ychwaneg ar un cyfrif, ac i gadarnhau ei benderfyniad ychwan- egodd,—" Ma arna i isio mhen i ofalu am y nhraed. Ma'r petha ydw i wedi 'u gweld a'u clywad nhw heiddyw wedi glynu fan yma, Huw, a ma nhw fel tasa nhw'n deud 'u bod nhw wedi dod i aros," a rhoddodd Jac ei law ar ei fyn- wes. Wedi i Huw Morus a Jac fyned allan, a chyfeirio i lawr i'r dref, daeth tri neu bedwar o fechgyn a adwaenai Huw i'w cyfarfod. Arosodd yntau i siarad a hwynt. Ffarweliodd Jac ag ef, ac aeth yn ei flaen. Pan yn myned yn ei ol y ffordd honno ymhen rhyw awr a han- ner, gwelai Jac, er syndod iddo, Huw a'r ,bechgyn ereill yn dyfod allan o'r un dafarn, ac yn rhedeg ar frys i'r stesion. Sylwodd hefyd fod Huw heb y got uchaf oedd ganddo'n dod i Fangor, ac ofnai ei fod, hwyrach, wedi ei anghofio yn y dafarn. Tybiodd eto y gallai fod wedi bod yn y stesion eilwaith ac wedi ei gadael yno. Wedi petruso am en- nyd, aeth i mewn i'r ystafell lie bu Huw ag yntau yn disychedu eu hunain. Yno cafodd got Huw ar gefn un o'r cadeir- iau. Dechreu drwg iawn," meddai ynddo ei hun; tydi Huw ddim yn chap i fynd o'r cartra." Cymerodd feddiant o'r got ac aeth allan. Gwydd- ai fod y tren eisoes wedi cychwyn ac mai ofer fyddai iddo fyned ar ol Huw. (I barhau.)
Advertising
TURKEY EGGS, Lord Rothschild Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, 43tratford, Essex.
Hanes Coelbren.
Hanes Coelbren. (Gwobrwywyd yn Eisteddfod Gadeir- iol y Coelbren, Awst sed, 1912). Mae enwogrwydd yn perthyn i ddegau o ardaloedd yng Nghymru, a threiddio i mewn i hynatiaeth y cyfryw sydd orchwyl diddorol ac adeiladol. Cyfrifa rhai o honynt eu bonedd o uchel waedoliaeth, eu pal- asau ysblennydd, eu gerddi paradwys- aidd, eu perllanau ffrwythlawn, eu dyffrynoedd gwyrddleision, eu tiroedd llydain, eu mynyddoedd cribog, eu ffynhonnau gwertlifawr, eu hafonydd grisialaidd, eu tyrrau a'u castellau cedyrn, eu cyfoeth anolrheiniadwy, eu beirdd awenyddol, eu llenorion coeth, eu hareithwyr doniol, a'u gweinidog- ion dysgedig; mewn gair, y mae i bob cymdogaeth ei hynodrwydd a'i hen- afiaeth. Er nas gallwn briodoli llawer o'r pethau a nodwyd i Colbren, eto y mae rhai pethau yn perthyn i'r lie sydd yn werth eu cofio. Pentref bychan prydferth ydyw ym Mhlwyf Ystrad- gynlais Uchaf, yn Sir Frycheiniog, yn amgylchynedig ar du'r Dwyrain gan Ystradfellte; ar du'r Gorllewin gan Abercraf; ar du'r De-orllewin gan Onllwyn; i gyfeiriad y De y mae'r Gorslwyn; ac i'r Gogledd y mae Nantyffin a Phencae. 0 barthed i ystyr yr enw Colbren (neu Coelbren), dywed traddodiad i fwrw coelbren fod yma ynglyn a thir i godi eglwys. Yr oedd un Mr. Gwyn am godi eglwys ar Benygraig, a Mr. Price am godi yr eglwys, neu gapel ddylaswn ddweyd, ar dir a adwaenir yn awr fel Colbren Farm. Syrthiodd y goelbren ar Mr. Price, a Cholbren y gelwir y He o'r dydd hwnnw hyd yn awr. Y beddfaen hynaf ym Mynwent y Coelbren ydyw eiddo Catherine Mor- gan, Henryd-Isaf, yr hon fu farw Ebrill iaf, 1835, yn 86 mlwydd oed. Dwylaw anghelfydd oedd yn trin meini yr adeg honno, ac y mae gwall pwysig i'w weled ar un o'r meini hyd y dydd hwn; ar faen coffa Ann Morgan y mae adnod, "Trefna dy dy, canys marw fyddi, ac ni byddi byw dylai ddarllen fel hyn, "Trefna dy dý." Gwelir wrth fyned i mewn i'r capel faen a'r ysgrifen ganlynol arno, "This chapel was rebuilt at the joint expense of the hamleteers and Walter Price Glynllech. Anno Domini, 1799." Gwelir wrth hyn fod ail-adeiladu wedi cymeryd lie yn y flwyddyn 1799. Oddifewn i'r capel y mae maen yn dyddio yn ol i'r flwyddyn 1001; y mae'r ysgrifen sydd arni braidd yn annealladwy; ond pe byddent yn dde- allwy, ni fuaswn yn alluog i'w darllen, oblegid yn y Lladin y mae. Y mae cyfnewidiadau wedi cymeryd lie yn ymddangosiad anianyddol ac ar- wynebol Colbren yn ystod y 40 mlyn- edd diweddaf, ac er mwyn ffurfio drychfeddwl cywir am dano, rhaid cymeryd golwg ar ei agwedd mewn dau gyfnod gwahanol. Gwnaf fy arosfa fyfyriol ar gopa Hirfynydd a dychmygaf fy mod yn syi- wi ar y lie oddeutu 40 mlynedd yn ol. Ni welaf yno ddim ond ychydig ffermdai, sef ffermdy Colbren, a'r Henryd i'r dwyrain. Tonyspyddaden a Bach y gwreiddyn, a Blaenllech i'r gogledd ddwyrain. Penygraig i'r Gorllewin; Rhydffosddu i'r De-orllcw- inol; Corslwyncoch i'r De, a Cors- lwyn Du i'r De-ddwyrain, ac ychydig tuallan ceir rhestr o dai a adnabyddir wrth yr enw Tai Price. Yn y cyfnod hwn cafodd un Thomas Grice sydd yn byw yn un o'r tai hyn hyd y dydd hwn gynnyg y rhe'str dai a'r tir amgylch- ynedig yn "freehold" am dri-ugain punt. Yr oedd sefyllfa fasnachol y cylch mor wael yr adeg honno nes peri iddo wrthod y cynnyg, ond hedd- yw y maent yn eiddo y Meistri Evans a Bevan, Castellnedd, ac yn werth rhai canoedd o bunnoedd. (I barhau.) I
[No title]
Brodor o Aberdar oedd Dan Rhys, Prif Glerc y Llys Sirol yng Nghaernar- fon. Bu farw ddydd Mercher diweddaf. Bu unwaith yn ysgrifennydd yr Eistedd- fod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Dywed yr Athro Bickerton, Llywydd Cymdeithas Seryddol Llundain, y dyfr- heir lleoedd sychion y blaned Mawrth gan eira'i mynyddoedd. Y mae cym- deithas yn berffeithiach yno nag yw yn y byd hwn. Bywyd heb bleidiau sydd yno. Un teulu mawr yw ei thrigolion a phopeth ganddynt yn gyffredin. Ym- drechant siarad a'r byd hwn, ac nid yw'r dydd ymhell ebe'r Athro pan fyddo cvfathrach rhyngddynt. Pwy wyr nad gwasanaeth llongau awyr yr adeg honno fydd galluogi preswylwyr y ddaear i ymfudo i'r blaned Mawrth.
Chwedloniaeth a Thraddodiad.
Chwedloniaeth a Thraddodiad. I'r anghynefin y mae croesi'r ffin o fyd gwirionedd noeth i fyd chwedlon- iaeth yn debyg i un yn gadael byd y sylweddau byw drwy ysbrydoliaeth cwsg, am fyd amryfal breuddwydion. Y peth cyntaf a gynhyrchir ynddo fydd teimlad o noethder y wlad; eto, gomeddir iddo gan ryw ddylanwad cyfrin droi yn ol, a chlyw lais o'i fewn yn sibrwd fod dyfodol gwell ymlaen. Y mae cyfaredd y wlad yn dechreu ei fedd- ianu eisioes, a chred nad yw'r wlad mor noeth ag y tyjbiasai unwaith. Cenfydd j ol traed beirdd goreu'r canrifoedd ar ei thywod aur, ac erbyn heddyw dena ein prif ddysgedigion yn athronwyr, gwyddonwyr a diwinyddion i edrych i fewn i ansawdd ei thiriogaethau, a dyg- ant yn ol rawnsypiau melys i gyfoeth- ogi llenyddiaeth y werin bobl. Gosodir oes aur chwedloniaeth a thra- ddodiadau pob cenedl yng nghyfnod cyntaf ei gwareiddiad. Cynrychiolant wanwyn ei bywyd a'i deffroad, pan y mae ei meddwl ieuanc yn ymagor fel blodeuyn, a'i hymwybyddiaeth yn deffro i sylweddoli pethau mawr byd a bywyd. Mae'r dyn yn athronydd wrth natur, ac athronydda yn reddfol cyn y sylwedd- ola hynny, fel y gweithreda'r wenynnen fach yn reddfol yn ol deddfau mesuron- iaeth. Ymgodyma a dyrysbynciau y cread, a cheisio gyfrif am ddechreuad y greadigaeth; disgrifia ei hymddangos- iadau, a ffrwyth hyn yw chwedlau afrifed wedi eu gweu o gylch yr haul, y lloer. y ser, v cymylau, y daran a'r mellt. Y walr yw ei Aurora, a llywodr- aeth Jupiter yw y ffurfafen; yr haul ydyw Apollo, swn morthwyl Thor yw'r daran, a llewyrch ei saethau ydyw'r 1 mellt. Adlewyrcha cenedl yn y deffroad hwn ar adgofion o bersonau a digwydd- iadau mawr eu bywyd. Daw ei harwyr yn ddelfrydau cenedlaethol, a rhai o honynt mor uchel yn ei syniad fel y rhestrir hwynt ymhlith ei duwiau, ac mewn oes ddiweddarach telir addoliad iddynt. Gesyd Max Muller gyfnod arbennig i ffurfiau chwedloniaeth yn y teulu Aryaidd. Geilw ef yn Mythopoetic Age, a lleolta, ef rhwng cyfnod ymran- iad y teulu Aryaidd a'r Cyfnod Cen- edlaethol," pan oedd y gwahanol ym- raniadau hyn wedi ymwasgar i India, Persia, Groeg, yr Eidal a'r Almaen, a phob llwyth wedi ffurfio yn genedl a chanddi ei hiaith a'i llenyddiaeth ei hun. Maentymia hefyd fod yn amhosibl deall gwir ystyr llawer o chwedlau y cenhedl- oedd hyn heb olrhain y geiriau arwydd- ocaol yn ol i'w hystyron gwreiddiol. Beth bynnag a fernir am gyfundrefn Max Muller, cytuna'r awduron fod chwedloniaeth yn perthyn i'r cyfnod cyn-hanesol. Pan fyddo cenedl wedi esgyn tros risiau gwareiddiad a datblyg- iad nes dyfod yn ddigon diwylliedig i ysgrifennu a chroniclo ei hanes, caiff fod ganddi doraeth o chwadlau a thra- ddodiadau yn ffynnu ar lafar gwlad, a rhai o'r cyfryw wedi eu gweu gan y beirdd yn eu caneuon i ddisgrifio rhamant yr oes arwrol hon. Enghraifft o hyn ydyw gweithiau prydyddol Homer, a gweithiau rhai o'r beirdd Cymreig mewn cyfnodau diweddarach a drosglwyddwyd i lawr ar lafar gan y werin, cyn iddynt gael eu hysgrifennu. Er i'r rhai hyn ddod i lawr i gyfnod hanes, perthynant yn naturiol i'r cyfnod cyn-hanesol, pan y gweithredai'r meddwl yn rhydd ar atgofion o ddig- wyddiadau a phersonau'r gorffennol nes gwneuthur gwaith cyfrodedd o ffaith a dychymyg. Ymhen amser ys- grifennwyd hwynt, a rhoddasant fod i ddosbarth o lenyddiaeth sydd mewn perygl parhaus o gael ei gam-gymeryd am hanes gwirioneddol. Er fod hanes yn fwy unol a ffeithiau, y mae chwedlon- iaeth yng ngeiriau Wil Bryan yn fwy True to Nature." Yn ei chwedlau a'i thraddodiadau y mae cenedl yn fwyaf gwreiddiol a naturiol. Yma portrea ei hun megis mewn drych, a chawn y type o gymeriad a edmyga yn llawer mwy delfrydol na'r un cymeriad yn ei hanes. Portreada chwedloniaeth y Groegwr fel edmygydd harddwch a phrydferthwch y Rhufeiniwr fel edmygydd trefn a'r Iddew fel edmygydd santeiddrwydd a duwioldeb. Nid yr arlunydd, y bardd, y cerddor, na'r rhyfelwr ydyw arwr yr Hebrewr, ond y gwr a ofna Dduw. Baich ei genadwri ydyw, Ofna Dduw a chilia oddiwrth ddrwg." (Allan o'r Greal," Rhif 21ain, gan Mr Richard Bell, o Benderyn.) D.C.
-ARGR AFFWAITH. -I
ARGR AFFWAITH. I Am bob math o Argraffwaitb ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" a'r Darian," 18 Cardiff Street, Aberdar.
Advertising
I I Cadewch imi slarad a chwi am I Ddiffyg Gwaed I Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd t coch a gwyn-y coch i corff, y gwyn i ymladd ag afiechyd. Mewn L Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cocbion yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni all y gwaed gynnal y corff yn briodol i KBgP ) a'i faethu. Mae'r Ilygaid yn farwaidd. Mk J wyneb yn wyn, a daw teimlad o ludded difrifol drwy yr holl gyfan- soddiad. Nid oes dim mor effeithiol W mewn achos o Ddiffyg Gwaed a F ti Wincarnis Oherwydd lleinw' Win- U S camis' y corff a gwaed cock, newydd, eyfoethog, a rydd ddisgleirdeb yn y yi llygaid, ddwg rosynnau i'r gruddiau, ac a rydd ynni newydd, bywiogrwydd newydd, a bywyd newydd i'r holl godF. Dechrenwch wella yn RIIAD Vj^l Anfanwch am brawf-fostrel rhad o whtoanla -Old rbyw flas mmd digon i wneud tics. Ankgauw tri stamp ocinioc (i dalu'r cladiad). ■■HHL MtKKm colbhan A CO.. LTD., ■ \y W. 181, Wincarnia Warka, Narwloh. "awls y >oymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygoa. J EORGES t t t -MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and ■ Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyu. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y ma.e y Feddyginiaeth werthfawr hoa i'w chaei mewn tri^ffurf. No. i. -George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3. — George's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvehau,11-, a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am "{George's eills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, ft1.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.