Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Advertising

Advertising

Y CYNNWYS.

GWLAD A SENEDD. |

ICOLOFN LLAFUR.

News
Cite
Share

I COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR. Dechreu y Milflwyddiant. Y mae y newydd fod y Parch. E. W. Lewis, gweinidog y King's Way House, Llundain, yn ymddiswyddo fel gweinid- og sefydlog. gan ymwrthod a'r E600 cyflog cysvlltiedig, wedi taflu y byd crefyddol i syndod mawr. Y mae y peth mor anarferol, a chymaint allan o gwrs arferol ymddygiad dynion yn gyffredin. Gymaint y mae y delfryd Cristionogol wedi dirywio ym meddwl y bobl, fel ag y mae gweithred, sydd yn eithaf naturiol a chydnaws ag anianawd Cristionogaeth gyntefig, yn y dyddiau hyn, yn taro yn chwithig ar amgyffred- iad crefyddwyr. Dyma ddyn yn ufudd- hau yn llythyrennol i orchymyn y Crist; ac yn ymwadu a breintiau moethwych bywyd, ac wrth wneyd hynny yn peri syndod mawr drwy yr holl fyd crefydd- ol. Anghysondeb. Ar hyd y blynyddoedd bu y byd Llafurol yn ymladd ac ymdrechu am delerau teilwng a chyflog addas i gadw bywyd yn gysurus a iach ac yn ystod yr holl amser hyn, y mae yr eglwys fel cyfangorff, wedi ymddwyn yn oeraidd a i drwgdybus tuag at yr Undebau Llafur, 1 yn yr ymdrechion hyn, ac yn edliw 1 iddynt eu bydolrwydd a'u diystyrwch o £ bethau ysprydol. Ond yn awr, y cri ] mawr o bob gwersyll crefyddol yw, am gyflog sicr ac amgylchiadau cyfaddas i bob gweinidog a gwasanaethwr cref- yddol i fyw yn ddibryder. Gwelir taw yr un achos sydd wrth wraidd cri y gweinidogion a chri y gweithwyr yn gyffredinol, hyny yw, sicrwydd am gyn- haliaeth gorfforol. Nid yw ysprydol- rwydd y gwaith yn lleihau angen corfforol pregethwyr, nac yn eu gwneud yn llai ymddibynnol ar bethau materol y byd na dynion ereill. Os yw y gwaith gweinidogaethol yn angenrheidiol mewn cymdeithas, y mae y gweithiwr gweinidogaethol yn deilwng o fywol- iaeth ddibryder a digonol. Yn awr, ynte, ein gosodiad yw, gan fod yr eg- Iwys wedi gorfod dod i gydnabod yr angenrheidrwydd am drefniant bydol er sicrhau cynhaliaeth gorfforol i'r gwein- idogion, ei dyledswydd yw cydnabod ymdrechion cymdeithasau ereill sydd yn amcanu at drefiapt gweithfaol a chym- deithasol a rydd sicrwydd o fywoliaeth weithwyr yn gyffredinol. Ameu Doethineb. Amheuwn ddoethineb y dyn da hwn yn rhoddi i fyny ei fywoliaeth fel hyn. Yr oedd yn gwneud gwaith da a defn- yddiol yn y cylch yr oedd ynddo, ac nis gallwn gredu y bydd ei waith mor effeithiol wrth ymneillduo oddiwrth gymdeithas gorfforedig yr eglwys. Yn ddelfrydol, y mae i'w gymeradwyo, ond yn ymarferol—wel, amser a ddengys. Cyfarfod Glowyr Aberdar. Nos Wener diweddaf, yn y Marchad- ty, cynhaliodd glowyr Aberdar gyfar- fod mawr, a anerchid gan Mr W. Brace, A.S., a Mr William John, o'r Rhondda. Siaradodd yr olaf yn Gymraeg, ac yr oedd ei anerchiad yn benigamp. Y mae y brawd hwn yn sicr o wneud enw iddo i hunan yn y cylch g-welthfpol a chymdeithasol heb fod yn hir. William Brace, A.S. Siaradodd Mr Brace, hefyd, mewn modd hyawdl a dylanwadol rhyfeddol. Dywedodd y bydd i'r flwyddyn nesaf weled pethau mawrion yn y byd llafur- ol. Yr oedd cytundebau Undebau Mawrion Llafur bron i gyd yn terfynu y pryd hyny. Cyn ail wneud cytun- debau yr oeddynt yn penderfynu gofyn am godiadau sylweddol yn y cyflogau. Fel glowyr yr oeddynt yn mynd i ofyn am safon enillion 50 y cant yn uwch na safon 1879. Nid oeddynt yn bwriadu cydnabod uchelfan yn y cyflogau o gwbl. Er perffeithied gweithrediadau y Bwrdd Cyflafareddol, yr oedd ein profiad yn dangos nad oedd y gweith- wyr yn gallu manteisio i'r un graddau a'r Meistri. Yr oedd y meistri yn cael digon o rybudd i ymJbaratoi, fel y gall- ent ofyn prisoedd digonol am y glo i'w galluogi i roddi gofynion y gweithwyr. i Y Cynghorwr Idwal Thomas, Llywydd y Dosbarth. Cymhellir ni i ddweyd gair am y dyn ieuanc galluog hwn. Efe oedd Cadeir- ydd y cyfarfod yn rhiinwedd ei swydd fel Llywydd y Dosbarth am y flwyddyn dymor bresennol. Y mae Aberdar yn ffortunus yn ei meddiant o ddyn ieuanc sydd mor llawn o'r priodoleddau hynny sydd yn hanfodol i arweinydd llafurol, cymdeithasol, a chrefyddol. Y mae yn siaradwr hyawdl .yn Gymraeg a Saes- neg, yn llawn brwdfrydedd a sel dros ddyheadau uchelaf a phuraf cymdeith | as. Y mae gennym y gobeithiau mwyaf calonogol am Ddosbarth Aberdar tra bydd Idwal yn arwain. | i Mr Lloyd George. Beth ddywed gweithwyr Cymru am ymddygiad Mr Lloyd George yn rhoddi ei fendith, a dymuno IIwyddiant yr Ym- geisydd Cyfalafol yn Etholiad North j East Derbyshire? Y mae yn anodd cysoni y weithred hon o'i eiddo, a'i broffesiadau difrifol o ddymuno am Iwyddiant y gweithwyr. A oes unrhyw ddyn cydwybodol ei farn vn barod i haeru y byddai llesiant cymdeithasol a gweithfaol gweithwyr y fwrdeisdref uchod, yr un mor sicr ac effeithiol yng nghadwraeth cyfalafwr a swyddog gwaith ag a fyddai yn nwylo gweithiwr ac un o ddosbarth y gweithwyr eu hun- ain 1 Y mae yn flin gennym am y gwyr- iad hwn o eiddo y Canghellor oddiar y ffordd uniawn. A blinach fyth gen- nym fod y bobl mor ddlall i'w llesiant eu hunain. Y mae'r amgylchiadau y wyl- odd y Crist o'u herwydd uwch Jeru- salem yn cael eu hail actio o hyd. Tra'n dangos i weithwyr ffordd iachawdwr iaeth, er hynny yn eu dallineli barnol ,Nv hodant hi. Er holl graffder a 3ei<j(dgarwch meddwl ein cydwiadwr ^alliiog, yn y peth hyn, sef hawliau lafur, ymddengys yn ddiffygiol.

Advertising

Eisteddfod y Rhiwfawr.