Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAD. I YSCOL Y CWYNFRYN AMMAN FORD Sefydlwyd 1880 PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M. A. Anfoner am y Telerau a'r Rhaglen a hanes y Llwyddiant at y Prif Athro.
Advertising
W.Williams sCo. JEWELLERS, &c.. 29 Castle St., Swansea. spooial",ties 18ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22ct. GOLD WEDDING RINGS.i8ct. GOLD KEEPERS, GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aar, Oriadaron ac awrleisiaa, Geman a cbadwynau claer: Yspectol gelfydd, bin-fynegydd, Gv»r6B-fesurydd, Cwmpawd mot Geir gan Williams, Heol y Oastell Trowch i mewn i wel'd ei stor.
Y CYNNWYS.
Y CYNNWYS. Gwlad a Senedd Tud. 1 Colofn Llafur 1 Y Stori 2 Hanes Coelbren 2 Chwedloniaeth a Thraddodiad. 2 TyfuMaip 3 Undeb y Cymdeithasau Cymraeg 3 Oddiar Lechweddau Caerfyrddin 3 Nodiadau D. Ff. Dafis 3 Y Ddrama gan y Golygydd 4 Tipyn o Bopeth o Bontardawy. 5 Colofn y Llyfrau 5 Nodion o Abertawe 5 Colofn y Plant 6 Cymru Heddyw 6 Undeb Ysgolion Sul (A.) G. Mor- gannwg 6 Sefydlu'r Parch. W. T. Francis yn Llanelli 6 Ehedydd Emlyn gyda darlun 7 Anrhegu'r Henadur Jordan 7 Ein Llywodraeth Leol 7 Adolygiad 7 Colofn y Beirdd 8 Hanesion Lleol 8
GWLAD A SENEDD. |
GWLAD A SENEDD. GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG. Onid yw yn anodd sylweddoli fod Datgysylltiad yn Ffaith I i bob diben ymarferol 1 Ddydd Llun a dydd Mawrth aeth y Mesur trwy ei gam olaf yn Nhy y Cyffredin. Pan bleid- leisiwyd ar yr adrannau anannol ddydd Llun, cafwyd mwyafrif o 94 ddwywaith yn olynol. Erbyn nos Fawrth yr oedd tua dwsin o Aelodau Llafur yn cynorthwyo yn yr etholiad yn Swydd Derby, ac oherwydd amgylch- iadau anorfod methodd tri neu bedwar o Tl^«ld?fy«i'wyr fod yn- efreseiiinol. IT1 canjyniad fu mwyafrif o 77 i'r trydydd ddarlleniad. Beth wna yr Arglwyddi tybed? Bellach, yr ydym yn cael gwersi ymarferol ar werth Deddf y Senedd. Ychydig o hwyl gafwyd ar Y Odadl Olaf yn Nhy y Cyffredin. I Clywsom ddarogan y byddai i'r wrth- blaid godi terfysg unwaith eto a cheisio rhwystro y trydydd ddarlleniad trwy daflu y Ty i ddyryswch. Yn lie hynny, fel arall yn hollol y bu: ych- ydig iawn oedd yn gwrando ar y siarad. Rhaid dweyd fod yr areithiau yn bur deilwng o ran eu defnydd a dwysder eu traddodiad. Fel y gellid disgwyl oddi- wrth fab Arglwydd Halifax, siaradodd Mr "E. Wood yn gryf yn erbyn y Mesur. Cafwyd hefyd aVeithiau teilwng i'r un cyfeiriad gan Mr Hume Williams Ar- glwydd Hugh Cecil, Mr Stuart Wortley, Mr F. E. Smith, a Mr Malcolm. Tor- rodd Mr Stuart Wortley dir newydd, yn gymaint ag iddo feirniadu yn lied lym rai o arferion Eglwys Loegr, er ei fod yn erbyn ei Datgysylltu. Condemn- iodd areithyddiaeth annaturiol y clerig- wyr, y ffordd o ddewis personiaid a nifer o bethau. Mynnai bron yr holl siaradwyr uchod, ac yn arbennig Mr F E. Smith, dadogi y Mesur presennol i falais enwadol a hynny yn unig. Y peth rhyfedd yw na siaradodd cynifer ag un o'r tri aelod Toriaidd o Gymru yn erbyn y mesur. Gwnaeth Y Gatrawd Gymreig I ei gwaith yn rhagorol y tro hwn fel arfer o blaid eu gwlad. Siaradodd Mri. William Jones, Ellis Davies, Ellis J. Cxriffith, Llewelyn Williams. John Hinds, Canghellor y Trysorlys, a Mr McKenna. Beth bynnag oedd dadleuon y gwrthwynebwyr cyfarfuwyd a hwy ar bob pwynt. "Yr ydych wrth ddat- gysylltu yr Eglwys yn datgysylltu cref- ydd hefyd," meddai un. Ebai Mr Lloyd George: "Yr ydym y dyddiau hyn yn cysylltu crefydd a gwladwnaeth yn fwy nag erioed. Gallem feddwl, wrth glywed aelodau yn siarad, mai prif waith crefydd yw talu cyflogau person- iaid. Beth yw ein gwaith ni yn g ) am y tlodion yn helpu yr oedrannus yn cefnogi addysg, ac yn ymladd yn er- byn heintiau marwol, ond gwaith cref- ydd 7" Gwaeddai un arall mai "Uadrad" yw y Mesur, ae, fel arfer, o enau y "Cecils" y daw y cyhuddiad hwn. Tystiai Arglwydd Hugh Cecil fod y mesur yn anfoesol ac y troiai y gwaddolwyr duwiol gynt yn eu beddau pe gwypent am yr hyn fwriedir wneu i yn awr a'u harian. Gofynodd Mr Lloyd George iddo os na fuasent yn fwy tebyg o droi yn eu beddau pe yn gwybod fod y cyfoeth adawyd ganddynt i fynaehod yn cael ei ddefnyddio gan wyr pnod r teuluoedd? Teg yw addef er hynny mai araith fawr yr ornest oedd .nolo Mr William Jones. Cododd y mater i dix uchel; dygodd ffeithiau lawer o feusydd hanes ac o safie gwahanol wled- ydd heddyw treiddiai yspryd Cymreig crefyddol, iach, nerthol trwy yr holl araith. Dangosodd i'r Saeson eu bod yn hollol analluog i ddeall Cymru. Tystiai fod holl anianawd y Celt yn groes i Eglwys Loegr, ac y myn gael crefydda fel y mynno efe. Yn yr Iwerddon, Pabydd yw yng Nghernyw, Wesleyad; yn yr Alban, Presbyteriad yng Nghymru, Anghydffurfiwr cryf a phybyr. Dangosddd mor werinol ei hysbryd yw Cymru, a'i bod yn ei holl fudiadau yn wahanol i Loegr. O'r bwthyn y geilw hi ei phrif bregethwyr, a'i harweinwyr ymhob cangen. Plant y bwthyn a'r Ysgol Sul yw y rhai fuont yn defnyddio y wasg Gymreig. Ym- ddirieda Anghydffurfwyr Cymru yn yr egwyddor wirfoddol. Gwendid yr Eg lwys Sefydledig yw mai Seisnig hollol yw ei hyspryd. Methodd afaelyd yng nghalon y genedl Gymreig. Am y gwaddoliadau, eiddo cenedl ac nid sect ydynt. Ymddiriedwyd hwynt dros dro i berson y plwyf, ond pan aeth hwnnw yn was enwad yn unig, ac y bu rhaid i gyfangorff y genedl godi cysegrfaoedd a threfnu gweinidogaeth iddi ei hun yna rhaid gwneud trefniadau newyddion gyda'r gwaddoladau. Tystiai Mr Wil- liam Jones mai mudiad crefyddol ac nid un gwleidyddol a ddygodd Ddatgysyllt- iad addiamgylch yng Nghymru. Teim- lwn yn ddiolchgar i'r Chwip ac i'r holl fintai Gymreig a frwydrasant mor ddewr ac mor gyson i sicrhau cydradd- oldeb crefyddol i'n gwlad. Y Tri Dirprwywr. I Pan ddaw Deddf y Datgysylltu i rym cyflwynir yr holl eiddo Eglwvsig i ddwylo tri o ddirprwywyr. Hwy fydd yr ymddiriedolwvr hyd nes bydd i Eg- lwyswyr Cymru drefnu mesurau ac I eth. ('.Q'f£ o-feobl j ddaLy meddianuMi.. Llawer fu y dyfalu a'r disgwyl pwy fyddent. Y. tri dewisedig ydynt: Syr Henry Primrose, Syr William Plender, a Syr J. Herbert Roberts, yr Aelod Seneddol dros Orllewin Sir Ddinbych. Derbynia Syr H. Primrose gyfiog o £1,500, tra y gwneir y gwaith am ddim gan y ddau foneddwr arall. Eglwyswyr yw y ddau Sais, tra'r Cymro yn Anghydffurfiwr. Disgwylir y daw eu gwaith i ben o fewn oddeutu tair blyn- edd os na, gellir estyn eu tymor. Bydd ganddynt waith mawr a phwysig i'w gyflawni, ond credwn y rhydd eu hen wau foddlonrwydd cyffredinol gan yr amgylchiadau. Y maent yn wyr o brofiad helaeth ac o gymeriadau rhagor- ol. Trefnu y Byddinoedd. I Yr ydym yn byw mewn amseroedd gwir ddiddorol ac yn symud. Y mae y byd yn ieuanc ac yn llawn asbri a beiddgarwch. Cyll y werin yr hen slafeidd-dra a fagwyd ynddi yn oesoedd teyrnasiad yr yswain a pherson y plwyf. Dygir ni ymlaen bron heb yn wybod inni ein hunain ar fynwes llifeiriant cryf a phell-gyrhaeddol. Heddyw trefna Llafur ei byddinoedd gyda phwyll a deall. Gwyr i raddau ei nerth; gwyr hefyd beth a geisia. Yn y maes hwnw un o arwyddion yr amser- au yw yr hyn a gymer le ymhlith gweithwyr y 'rheilffyrdd. Truenus o isel yw cyflogau y gwyr hyn, yn enwedig yn y rhengoedd isaf. Flwyddyn yn ol ceid 300,000 ohonynt v tuallan i reng- oedd yr Undebau. Heddyw nid oes ond 100,000 heb ymuno a'r fyddin un- debol. Y maent yn ffodus yn eu Cad- fridog. Dengys y Cymro ieuanc, Mr. J. H. Thomas, A.S., feiddgarwch yn ogystal a gallu a medr mawr. Ciwynejo- odd yn wrol fwy nag unwaith ar fintei- oedd a feiddiai actio yn ol eu mympwy eu hunain yn groes i farn a ehyfar- wyddyd y brif swyddfa. Cred Mr. Thomas mewn undeb a chydweithred iad.) Yn ol ei araith pwy ddydd gwelir mai nod uniongyrchol yr Undeb yw pum' swllt yr wythnos o godiad i bob gweithiwr wythnos o waith o 48 o orian, neu gyfartaledd o wyth awr yn y dydd, a chydnabyddiaeth lawn yr Undeb gan y meistradoedd. Lwc dda i'r rhaglen. Cafodd Mesur Ymreolaeth i'r Alban I ei ddadlu yn Nhy y Cyffredin yr wyth- nos ddiweddaf, ond ei "siarad allan" gafodd. Nid yw yr Ysgotiaid eto wedi deall eu gilydd ar y mater. Nid yn unig gwrthwynebwyd ef gan y Toriaid, ond yr oedd y cynhygydd a'r eilydd, Mri. Ian Macpherson a Willittm l' oung, dau Rhyddfrydwr cefnogol i Ymreol- aeth yn gwrthdaro yn enbyd ar ddar- pariaeth y Mesur i roddi pleidlais i ferched. Os yw y mudiad i lwyddo, bydd yn ofynnol i'w gefnogwyr o leiaf ddeall eu gilydd. Digon tebyg hefyd y I bydd yn ofynnol inni gael ychydig o brofiad o Ymreolaeth yn yr Iwerddon cyn y gwneir llawer i sicrhau y fath drefniant i rannau ereill y Deyrnas Gyfunol. Brwydr Brodvr. I Dyna mewn gwirionedd oedd yr ethol- iad yn Swydd Derby. Fel yr awgryni- ais yr wythnos ddiweddaf, felly y bu. Aeth y Tori i fewn wrth groen ei ddan- nedd rhwng yr Ymgeisydd Rhyddfrydol, ac Ymgeisydd Llafur. Wele y ffigyraU hyawdl a chondemniol:- Major Harland Bowden (Tori). 6,469 Mr J. P. Houfton (Rhyddfrydwr) 6,155 Mr J. Martin (Llafur) 3,669 Y mwyafrif Toriaidd. 314 Cydunai y ddau isaf yn hollol a'u gil- ydd ar bwnc yr Iwerddon; pwnc y tir, ac yn wir ar bob mater pwysig arall, eto i gyd dyma'r cyflwr gresynus yr ydym ynddo am fod brodyr yn rhedeg yng ngyddfu eu gilydd ac felly yn gwneuthur eu hunain yn destun sport i ferched y Philistiaid. Cofus gan bawb ohonom stori y cathod hyny aeth a'r darn caws at y mwnci i'w rannu yn gyfartal rhyngddynt. Terfynodd y cweryl trwy i'r mwnci fwyta y caws i gyd a gyrru y cathod adref ar eu cyth- Iwng. Testun chwerthin yn iawn i Doriaid y wlad yw gweled y bla-id wer- inol yn ymddinistrio trwy raniadau yn- fyd. Da fuasa i bawb ohonom astudio Llythyr Mr Lloyd George i'r etholiad uchod. Rhoddwn rydd- gyfieithad ohono fel y canlyn:— Gofidiaf oherwydd yr ymraniad yn y blaid flaenfynedol (Progressive) yng Ngogledd-ddwyrain Swydd Derby, Llesteirwyr llwyddjant, yn unig  -? laWefthatr ac elwa ar y\fath bùttt, ond nid wyf, mewn un wedd, yn synnu fod y Rhyddfrydwyr yn gwrthdystio yn er- byn eu galw i gefnogi ymgeisydd sydd wedi ei rwymo gan yr ardystiad daros- tygol i beidio byth ymddangos ar lwy- fan Rhyddfrydol. Buasai y Rhyddfrydwyr yn edrych ar yr ymgais at wneud y fath ymrwymiad fel ymyriad annheg a rhyddid eu cyn- rychiolydd ac fel trosedd ac anfri ar gorff anrhydeddus o ddynion, y teim- lant yn anrhydedd i weithio gyda hwynt yn Nhy y Cyffredin er hyrwyddo diwyg- iadau sydd a'.u hamcan i lesoli y bob!. Yr wyf bob amser wedi edrych ar y math hwn ar wrthodiadau i newid pul- i pudau, mewn crefydd neu mewn gwleid- yddiaeth fel un o'r ffurfiau gwaethaf o anoddefgarwch sectol." Unwaith eto y mae Hynt Mesur Ymreolaeth Iwerddon yn galw sylw. Fel Mesur Datgysyllt- iad, y mae yntau yn meddiannu llawr Ty y Cyffredin. Doniol o beth oedd gweled y Gwyddelod o bob enw, yn yinosod gyda'u gilydd ar Mr Lloyd George. Y trefniadau ariannol yn y Mesur oedd dan sylw, a dymunai y beirniaid gael hynny o arian a fedrent i'r Ynys Werdd. Ymladdant gyda'u gilydd fel cathod Kilkenny, Ond, gwae y sawl a geisia fyned rhyngddynt. Fel gwr a gwraig, adeg cwerylon bach yr aelwyd, cyd-droant ar yr ymyrrwr, a da fyddo iddo roddi ei draed yn y tir. Erbyn nos Fawrth, disgwylir y bydd y Trydydd Ddarlleniad trosodd a'r Mesur hir-ddisgwyliedig yn Ddeddf ar lyfrau y wlad. Gwyddis ynglyn ag Ymreolaeth, na cha gysgod o ffafr na chydymdeim- lad gan yr Arglwyddi. Ni fydd dim yn ei aros felly, ond ei droi dros y drws arglwyddol, ac yna, iddo godi a cherdd- ed, yn iach a chryf gydag holl awdur- dod gwlad tu ol iddo, i'r Palas Bren- hinol-,a cheisio enw ei Fawrhydi Sior V. yn derfyn bythol ar bob dadl. Y LJeddf a'r Lion. I Wynebau herfeiddiol, bygythiol a thrist welir ar lawr Ht. Stephan pan ymlrinir a'r materion uchod a'u cyffelyb. Rhaid yw cael ambell draws- gyweiriad weithiau oddiwrth lais dial ac ystorm, a gwyr ein Seneddwyr yn iawn sut i wneud hyn. Cafwyd dwy ddadl ddiddorol ddigon ond mor an- obeithiol ddibwynt ag oedd modd. Baich y ddwy oedd teitlau ein hurdd- asolion. Ynglyn a'r gyntaf, dygid mesur i mewn i atal gwerthu teitlau am arian. Ymddengys fod llawer o Ar- glwyddi a Barwniaid a Marchogion ein tir wedi prynu eu teitlau. Pan welwn yn y newyddiaduron fod hwn-a-hwn wedi ei wneud yn "Syr" a hwn-a-hwn yn "Arglwydd," arferwn gredu fod y Brenin George yn gosod anrhydedd ar y cyfryw am ryw wasanaeth cenedlaeth- ol neu gilydd. Ond, Fe ddaeth y gath o'r cwdyn nerth yr aur melyn yn unig wnaeth y gwaith. Rhaid addef fod llawer un teilwng yn cael ei au- fhydeddu. Y drwg yw fod cwmni mawr o liprynnod yn llusgo i ffafr yng nghys- jfod ffyddloniaid athrylithgar. Pwy fca y tal ? Gosodir y pres yng nghoffrau ;.yfeI y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr, ac it'r arian hyn ac ereill yr ymleddir brwydrau etholiadol. Y mae y ddwy- blaid cynddrwg a'u gilydd yn y cam- ,P,dd. Dygwyd mesur i fewn i'w gwneud yn drosedd i werthu teitlau, il-,nd ychydig glywir am dano ar ol hyn. Achlysurwyd yr ail ddadl gan Mr. A. A. Ponsonby, yr hwn ddygodd i fewn Pesur i I Roddi Terfyn ar Deitlau Etifeddol. Atal urddasolion newyddion oedd j -? aith y cyntaf; difodi yr hen oedd ) gwaith hwn. Dywedai Mr Ponsonby i j 368 o 'arglwyddiaethau' gael eu creu yn j ystod teyrnasiad Sior III., a 450 er y j, (hvyddyn 1832. Amlwg yw mai cwmni (i- wyr mawr" lied ddiweddar yw y lfwyr hyn. Dadleuid mai y teitlau a'r ¡ onrhydeddau gwneud yma sydd yn „ cadw ffronucheledd a snobyddiaeth, gweniaith a gwaseidd-dra mor fyw yn ..i wlad. Hefyd gan fod y wladwriaeth  wedi gwneud i ffwrdd i raddau helaeth ,?r egwyddor etifeddol, ac y bydd gen- i nym yn y man Senedd gyflawn hebddo, oystal rhoi terfyn parch us ffurfiol a buan iddo. Yn ol y mesur hwn, ca pob gwr teitlog gadw ei degan tra fyddo byw os ewyllysia. Er hynny, gall, os myn, gael gwared ohono a "bod fel dyn arall," ond gwarafunir i fab neu ferch wisgo teitl etifeddol wedi marw rhieni. Cafwyd cryn hwyl yn y ddwy ddadl. Pywedir mai doniol oedd gweJed y ddwy fainc flaenaf yn cael eu gwagu pan ddygwyd y mesur cyntaf i mewn, ac fod Chwip y ddwyblaid yn hynod ddistaw. f Y Diweddaraf. Wele sedd arall yn Ipswich wedi ei icholli I i'r Llywodraeth, a Thori yn eis- tedd yng nghadair y diweddar Sylvester Home. Gwyddys mai ychydig obaith oedd am ei dal ac fod holl allu y gelyn wedi bod ar waith i geisio ei hennill. Nid oedd y mwyafrif Rhyddfrydol yn yr etholiad cyffredinol ond 354. Yn awr saif y ffigyrrau fel y canlyn:— Mr F. J. C. Ganzoni (Tori). 6406 Mr C. F. G. Masterman (Rh.) 5874 Mr John Scurr (Sosialydd) 395 Mwyafrif Toriaidd. 532 Yn naturiol gwna y Toriaid yn fawr o'u buddugoliaeth. Nis gellir tadogi y fuddugoliaeth y tro hwn i'r ffaith mai brwydr dair-onglog ydoedd, er hyn oil diau fod gan y ffaith honno fwy o ddy- lanwad nag a ddanghosir gan y ffigyr- rau uchod. Dydd LIun aeth Mesur Ymreolaeth trwy ei drydydd darlleniad yn Nhy y Cyffredin gyda mwyafrif o 71; cyflwyn- wyd ef i Dy'r Arglwyddi, ac aeth trwy ei ddarlleniad cyntaf yno. Dyma Ddat- gysylltiad ac Ymreolaeth bellach cystal a bod yn ddeddfau, a iechyd i'r wlad fydd eu cael o'r ffordd. — — ——«?
ICOLOFN LLAFUR.
I COLOFN LLAFUR. GAN PEREDUR. Dechreu y Milflwyddiant. Y mae y newydd fod y Parch. E. W. Lewis, gweinidog y King's Way House, Llundain, yn ymddiswyddo fel gweinid- og sefydlog. gan ymwrthod a'r E600 cyflog cysvlltiedig, wedi taflu y byd crefyddol i syndod mawr. Y mae y peth mor anarferol, a chymaint allan o gwrs arferol ymddygiad dynion yn gyffredin. Gymaint y mae y delfryd Cristionogol wedi dirywio ym meddwl y bobl, fel ag y mae gweithred, sydd yn eithaf naturiol a chydnaws ag anianawd Cristionogaeth gyntefig, yn y dyddiau hyn, yn taro yn chwithig ar amgyffred- iad crefyddwyr. Dyma ddyn yn ufudd- hau yn llythyrennol i orchymyn y Crist; ac yn ymwadu a breintiau moethwych bywyd, ac wrth wneyd hynny yn peri syndod mawr drwy yr holl fyd crefydd- ol. Anghysondeb. Ar hyd y blynyddoedd bu y byd Llafurol yn ymladd ac ymdrechu am delerau teilwng a chyflog addas i gadw bywyd yn gysurus a iach ac yn ystod yr holl amser hyn, y mae yr eglwys fel cyfangorff, wedi ymddwyn yn oeraidd a i drwgdybus tuag at yr Undebau Llafur, 1 yn yr ymdrechion hyn, ac yn edliw 1 iddynt eu bydolrwydd a'u diystyrwch o £ bethau ysprydol. Ond yn awr, y cri ] mawr o bob gwersyll crefyddol yw, am gyflog sicr ac amgylchiadau cyfaddas i bob gweinidog a gwasanaethwr cref- yddol i fyw yn ddibryder. Gwelir taw yr un achos sydd wrth wraidd cri y gweinidogion a chri y gweithwyr yn gyffredinol, hyny yw, sicrwydd am gyn- haliaeth gorfforol. Nid yw ysprydol- rwydd y gwaith yn lleihau angen corfforol pregethwyr, nac yn eu gwneud yn llai ymddibynnol ar bethau materol y byd na dynion ereill. Os yw y gwaith gweinidogaethol yn angenrheidiol mewn cymdeithas, y mae y gweithiwr gweinidogaethol yn deilwng o fywol- iaeth ddibryder a digonol. Yn awr, ynte, ein gosodiad yw, gan fod yr eg- Iwys wedi gorfod dod i gydnabod yr angenrheidrwydd am drefniant bydol er sicrhau cynhaliaeth gorfforol i'r gwein- idogion, ei dyledswydd yw cydnabod ymdrechion cymdeithasau ereill sydd yn amcanu at drefiapt gweithfaol a chym- deithasol a rydd sicrwydd o fywoliaeth weithwyr yn gyffredinol. Ameu Doethineb. Amheuwn ddoethineb y dyn da hwn yn rhoddi i fyny ei fywoliaeth fel hyn. Yr oedd yn gwneud gwaith da a defn- yddiol yn y cylch yr oedd ynddo, ac nis gallwn gredu y bydd ei waith mor effeithiol wrth ymneillduo oddiwrth gymdeithas gorfforedig yr eglwys. Yn ddelfrydol, y mae i'w gymeradwyo, ond yn ymarferol—wel, amser a ddengys. Cyfarfod Glowyr Aberdar. Nos Wener diweddaf, yn y Marchad- ty, cynhaliodd glowyr Aberdar gyfar- fod mawr, a anerchid gan Mr W. Brace, A.S., a Mr William John, o'r Rhondda. Siaradodd yr olaf yn Gymraeg, ac yr oedd ei anerchiad yn benigamp. Y mae y brawd hwn yn sicr o wneud enw iddo i hunan yn y cylch g-welthfpol a chymdeithasol heb fod yn hir. William Brace, A.S. Siaradodd Mr Brace, hefyd, mewn modd hyawdl a dylanwadol rhyfeddol. Dywedodd y bydd i'r flwyddyn nesaf weled pethau mawrion yn y byd llafur- ol. Yr oedd cytundebau Undebau Mawrion Llafur bron i gyd yn terfynu y pryd hyny. Cyn ail wneud cytun- debau yr oeddynt yn penderfynu gofyn am godiadau sylweddol yn y cyflogau. Fel glowyr yr oeddynt yn mynd i ofyn am safon enillion 50 y cant yn uwch na safon 1879. Nid oeddynt yn bwriadu cydnabod uchelfan yn y cyflogau o gwbl. Er perffeithied gweithrediadau y Bwrdd Cyflafareddol, yr oedd ein profiad yn dangos nad oedd y gweith- wyr yn gallu manteisio i'r un graddau a'r Meistri. Yr oedd y meistri yn cael digon o rybudd i ymJbaratoi, fel y gall- ent ofyn prisoedd digonol am y glo i'w galluogi i roddi gofynion y gweithwyr. i Y Cynghorwr Idwal Thomas, Llywydd y Dosbarth. Cymhellir ni i ddweyd gair am y dyn ieuanc galluog hwn. Efe oedd Cadeir- ydd y cyfarfod yn rhiinwedd ei swydd fel Llywydd y Dosbarth am y flwyddyn dymor bresennol. Y mae Aberdar yn ffortunus yn ei meddiant o ddyn ieuanc sydd mor llawn o'r priodoleddau hynny sydd yn hanfodol i arweinydd llafurol, cymdeithasol, a chrefyddol. Y mae yn siaradwr hyawdl .yn Gymraeg a Saes- neg, yn llawn brwdfrydedd a sel dros ddyheadau uchelaf a phuraf cymdeith | as. Y mae gennym y gobeithiau mwyaf calonogol am Ddosbarth Aberdar tra bydd Idwal yn arwain. | i Mr Lloyd George. Beth ddywed gweithwyr Cymru am ymddygiad Mr Lloyd George yn rhoddi ei fendith, a dymuno IIwyddiant yr Ym- geisydd Cyfalafol yn Etholiad North j East Derbyshire? Y mae yn anodd cysoni y weithred hon o'i eiddo, a'i broffesiadau difrifol o ddymuno am Iwyddiant y gweithwyr. A oes unrhyw ddyn cydwybodol ei farn vn barod i haeru y byddai llesiant cymdeithasol a gweithfaol gweithwyr y fwrdeisdref uchod, yr un mor sicr ac effeithiol yng nghadwraeth cyfalafwr a swyddog gwaith ag a fyddai yn nwylo gweithiwr ac un o ddosbarth y gweithwyr eu hun- ain 1 Y mae yn flin gennym am y gwyr- iad hwn o eiddo y Canghellor oddiar y ffordd uniawn. A blinach fyth gen- nym fod y bobl mor ddlall i'w llesiant eu hunain. Y mae'r amgylchiadau y wyl- odd y Crist o'u herwydd uwch Jeru- salem yn cael eu hail actio o hyd. Tra'n dangos i weithwyr ffordd iachawdwr iaeth, er hynny yn eu dallineli barnol ,Nv hodant hi. Er holl graffder a 3ei<j(dgarwch meddwl ein cydwiadwr ^alliiog, yn y peth hyn, sef hawliau lafur, ymddengys yn ddiffygiol.
Advertising
CROEN. CNAWD. ASGWRN. RHAID COFALU AM Y RHAI MYN. Esgeulutdod 0 unrhyw niwad l rhait hyn drwy ddamwtii now glofvd offi atlioii Blood PoUoning a Marwolaoth. Meddyginiaeth E..itlli. Ef mwyn ysgol Piryil 11 ymarter mown pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIAMU1 A SICR A GOMER'S BALM. Mae Hwn yn awr yn cael oi gydnabtd gan filoedd fel y moddygli" MWYG# tier a diogel a ddarga«lyd<wy< erioed at ischou Clwylau, Archolllon, Tardd- lantau y Cnawd, Crach I Nid°d h yi Mhenau P I a n t Liosgiad. IU, Yagal. dlnau, S cur v L lugrad P I a n t Benywod a i I Babanod, Tarwden, Cout, P08nul, Mheumat- .M. P08n "Yrc?d. pen f_ Cefn, Piles tyn mewn et?t ec,o.. Hynod GweHhaodd C?'"? Balm efteithiol hi yn bur fuaa- at CL WYFAU ar COESAU. Miloertd yn tystio I'W Effeithiau hhyfeddol. RHODDWCH 8RAWF ARNQ Gwollhad sydd sior Ar werth gan bob Chemist a Store. a. 1/li. Gofyner am Comer's Balm. Ky_- wch weled enw isoob HMghM ? b<? blwch. Heb hVD Did yw 8?'? danfoner ei KWfrth (P 0 J'????.) at Jacob HughM. M'?''?'.CafdtW. 1st, M.P.S., L.D.S., P'?. *!?' CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. F. Welch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Railway Fare allowed tc Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Ttan prynwyr yma ac yn 01 on iddynt enwi Tarian y OWKITHIWR.
Eisteddfod y Rhiwfawr.
Eisteddfod y Rhiwfawr. Ysgrifenna Mr. Abraham ?' Low?rC?twrch?d?eyd  "J^ yn gwneud cam a'r r?iieddfod hon, ac vn addaw anfon iddo'r  ca ci gyfeiriad. Nid yd?, meddir, ?ngofynswUtgvda chyfansodd?d Nid ydym hyn yn ocd yn cad? P tocyn ar fuddugwr ?.scnn? vdym yn ceisio enW p jadol cystadleu- wr dan sel, fel v gellir cyhoeddi e?v ddydd yr Eistldfod os digwydd iddo fod yn absennol ac hcb gyn- rychiolydd. Gyrrir y gwobrau yn llawn y diwrnod canlynol. Yn sicr nia ocs dll11 allan o le yn y rheol hon, ac y mac ymddiheurad yn ddyledus r pwyilgor oddiwrth R.L.J.