Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.
COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) CYSTADLEUAETH MAI. Mae gennyf ddau lyfr i'w rhoi i ryw- rai. Y Pentre Gwyn yw enw un o honynt. Hanes bore bywyd rhywun yw,—hanes yr hen bentref a'i breswyl- wyr, yr hen ysgol a'r plant a'i mynych- ent, ac y mae wedi ei ysgrifennu mewn modd swynol a diddorol iawn. An- thropos," un o ysgrifenwyr goreu Cym- ru heddyw yw yr awdur. Cewch chwi a'ch tad a'ch mam hefyd bleser mawr o'i ddarllen. Y llyfr arall yw Straeon y Cyfnos," gan Mr. W. M. Roberts. Nifer o storiau sydd yn hwn, a darluniau hefyd. Sicr gennyf y byddwch yn ei hoffi. Dyma gyfle i chwi i'w gael. Pwy sydd yn mynd i ennill y naill neu'r llall ? Sylwch yn fanwl beth raid wneud cyn cael gwobr. 1. Dosbarth A.-rhai dan 16. Ysgrfennu llythyr i ffrynd yn Llun- dain yn disgrifio dydd Sul yn eich ardal ,chwi. Sylwch mai nid disgrifiad o'r modd y treulir ef gennych chwi yn ber- sonol yn unig ofynnir, ond gan bobl y lie yn gyffredin. Os ydych yn byw mewn lie poblog bydd gennych lawer iawn i'w i ddweyd, ac os mewn cwr tawel o'r wlad bydd darllen am eich Sul yn amheuthun i'r mab neu'r ferch o Lundain drystfawr. Cofiwch ddech- reu a diweddu eich llythyr yn briodol, ac nid yw un ffrind yn hoffi llythyr Jbyr iawn. Os rhoddwch eich cyfeiriad ar ei ddechreu byddis yn deall am ba ardal yr ysgrifennwch. 2. Dosbarth B.—rhai dan 12. Gan i chwi Iwyddo cystal gyda'r Diarhebion, dyma waith ychydig yn galetach i chwi y tro hwn, sef Rhoddi -enwau Oymraeg tair sir ar ddeg Cymru, ynghyd a disgrifiad byr o'r sir lle'r ydych yn byw. Amodau Cyffredinol: 1. Ysgrifennwch ar un tu i'r ddalen. 2. Rhoddwch eich enw, eich cyfeiriad. ,a' ch oed. 3. Gyrrwch eich gwaith i fewn erbyn Mai 22ain. 4. Gwnewch y gwaith eich hun. HOFFTER PEXNAF CYMRO. Hoffter pennaf Cymro yw Gwlad ei dadau; Dyna'r fan dymuna fyw Hyd ei angau; Chwarae ar ei bronnydd, •3 £ fed .¡-Q'j ffynhonnydd, A gwrando can yr adar mttn Delorant yn ei gelltydd. Clywed rhu ei nentydd gwylltion, Ac yfed iechyd o'i halawon, Yw prif ddymuniad penna'i galon Mae golwg ar ei dolydd gwiwlwys Yn adlewyrchiad o baradwys, Ac awyr iachus ei mynyddoedd Yw'r awyr iachaf dan y nefoedd. Mae 'ngwlad a fy nghalon fel wedi ymglymu, Yn uwch, yn uwch dyrchafer hen Gymru. —Mynyddog.
Dwyrain Morgannwg.
Dwyrain Morgannwg. Dydd Mawrth, Mai y 4ydd, cladd- wyd yr hyn oedd farwol o'n hen .gyfaill, John Thomas, amaethwr, Pantglas, Llanedarne. Bu yn di- hoeni yn hir, a chredwn fod y cyf- newidiad er gwell iddo. Bu yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Llysfaen am flynyddau, a chladdwyd ef yn ymyl y capel, lie mae gweddillion degau o'r tylwyth yn gorffwys. Gwasanaeth- wyd yn yr angladd gan y Parch. David Davies, o Lanishen. Gadaw- -odd weddw ac amryw o blant i hir- .aethu ar ei ol. Dydd Mercher, Mai y 6ed, cyn- haliodd Ysgol Sul y Bedyddwyr yn Llysfaen ei chylchwyl flynyddol, pan y cafodd y plant ac eraill wledd ar- <lderchog, wedi ei pharatoi gan yr athrawesau ac ereill. Cafwyd cyngerdd rhagorol yn yr hwyr, pan gadeiriwyd gan Mr. Turner, Ty Gwyn, Llysfaen. Cafwyd hwyl anghyffredin werth wrando ar y plant yn gwneud yr "action songs" o dan arweiniad Miss Olwen Williams. Yr oedd canu Miss Morgan, Llaneurwg, yn hynod dderbyniol. Cafwyd amser .difyrrus ac amrywiol yn y cwrdd. GOH.
Advertising
I ESTYN EIGH OES Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond -08 digwydd annoethineb, gellwch ym ddibynnu bob amser y bydd i PELENI LLYSIEUOL KERNICK ianhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r tierves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chymerant unrhyw I feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 1/1J a 2/9 gan yr holl Fferyll- 'wyr.
0 Wy i Dywi.
0 Wy i Dywi. Gwersi mewn Hanes Lleol gan Lewis Davies, Cymer. Y RHUFEINIWR DINESIG. Nid ydys i gredu mai dim ond at orchwylion rhyfel y defnyddid llafur y milwr Rhufeinig gynt. Erys digon o brofion a sieryd bethau gwell am dano. Os buoch yn teithio rywbryd gyda'r gerbydres o Gaerdydd i Gasnewydd chwi allasech weled ar y dde feusydd fcreision, gwastad, rhyngoch a'r mor. Ni fuasai y fath wedd ddymunol-ar y rhan hon o Went onibae am y gwrth- glawdd cadarn gododd y milwyr Rhu- feinig i gadw llifeiriant Hafren allan o honi. Yn ddiweddar darganfuwyd maen Lladin yn y Gold Cliff, ger Cas- newydd, a ddywed yn bendant (yr hyn a dybid cyn hynnv) mai i filwyr yr Ail Leng y mae clod yr anturiaeth yn deilwng. Awn eto i gwr arall o'n talaeth a chanfyddwn adfail camlas ddwfr Ru- feinig ger Cynwyl Caio gyda digon o brofion mai y bechgyn danfonid yn ol a blaen gan y canwriaid gynt biau clod yr orchest honno hefyd. Fe ddywed y doethion "nad oes dim newydd dan haul," a pho fwyaf y gwel- wn ac y chwiliwn i waith y cynoeswyr hawddaf i gyd y gallwn gredu y ffaith. Pwy fuasai yn breuddwydio am weithfa I ddwfr mor bell yn ol a'r Cyfnod Rhu- feinig onibae fod y dystiolaeth mor gadarn ? Credai y Rhufeiniwr lawer I mewn glanweithdra, ac fel canlyniad cyfrifid baddonau yn sefydliadau an- hepgorol yn ei fywyd cymdeithasol. Chwi glywsoch, mi wn, mai y genedl o lan Tiber sefydlodd y baddonau en- wog hynny yng Gwlad yr Haf a adwein- ir hyd heddyw fel Caer Baddon, neu Bath. Ni raid inni fyned mor bell. Darganfuwyd baddon Rhufeinig yng Nghaerwent yn 1855, ac oddiar hynny y mae amryw o honynt wedi eu dadleni yng ngwahanol randiroedd Siluria. Yr oedd i'r milwyr wersyllent yng Ngelli- gaer faddondy at eu gwasanaeth yn 87 troedfedd o hyd, ac yn sicr nid oedd Palasdy Rhufeinig yn unman heb iddo faddon at wasanaeth y teulu. 0 fadd- onau ar wahan i balasdai ceir engreifft- iau yn Llacharn (Sir Gaerfyrddin) a Ffrwdgrech (Brycheiniog), ac o'r rhai cysylltiedig ag aneddau gellir enwi Dolaucothi, Aberyscir (Brycheiniog), Elwy (ger Caerdydd), a Llanilltyd Fawr. Y mae yn eich cof imi gyfeirio at yr olaf o'r blaen fel yr unig Balasdy Rhufeinig y gwyddwn i am dano oedd ymhell o orsaf filwrol. Llechai y lleiI1 i gyd yn ymyl diogelwch y fyddin, ac y mae yn dra thebygol mai eiddo milwr- iaid y gorsafoedd cyfagos oeddent. I Dinas Rhufeinig yng Nghymru. Nid oes unman ddengys gynllun tre Rufeinig yn eglurach na Chaerwent. 0 fewn y muriau rhedai prif heol drwy ganol y lie i'r hon yr agorai pob croes- heol lai. Ym mhob ynysig o dir gylch- ynnid fel hynny gan y gwahanol heolydd gosodid y temlau a'r tai anedd yma a thraw yn union fel y gosodir capelau a thai ereill mewn llawer pentref Cym- reig gwledig heddyw. Pedair-onglog oedd y mwyafrif o'r adeiladau, ac oddi- wrthynt hwy y dysgodd yr hen Frytan- iaid i adael cynllun yr hen fythynnod crynion oedd mewn cymaint bri cyn hynny. Nid oedd yr elfen filwrol amlyced yng Nghaerwent ag oedd yng Nghaerllion a Gelligaer. Ac i'r graddau y ciliai bywyd y gwersyll felly yr acennid bywyd y Forum yn fwy. Man cyfarfod y dre a chalon y bywyd dinesig oedd y Forum lie y ceid y Farchnad, Neuadd y Dref, LIysoedd y Wladwr- iaeth ar Gyfnewidfa, oil yn ymyl eu gil- ydd. Sefydliad arall a geid ymhob tref o unrhyw bwys oedd y Chwareufa, lie y cynhelid ymladdfeydd o bob math i ddifyrru y gwyddfodolion celyd. Nid oes angen disgrifio natur y lleoedd hyn i unrhyw un wyr hanes St. Paul a ym- laddodd ag anifeiliaid yn Ephesus" nac ychwaith i'r sawl ganodd "Martyr of the Arena rywbryd. Anodd i ni er hynny yw sylweddoli fod i Gaerwent ei Chwareufa ac i Gaerllion hithau-un. Gelwir yr olaf heddyw yn Ford Gron Arthur (er nad oedd a fynno Arthur a hi o gwbl), a mesura 274 troedfedd o hyd wrth 226 troedfedd o led. Mesura yr Arena neu fan y chwareu rhyw 70 troed- fedd yn llai bob ffordd. Ystyr y gair arena yw tywod, a dyna ddefnydd y llawr ym mhob chwareufa Rufeinig fyth. Erys tywod Caerllion, lyncodd waed llawer Brython glan gynt, yno eto, fel y profodd ei gloddio yn ddiweddar. Gynifer yw yr olion Rhufeinig yng Nghaerllion fel y gwnaed amgueddfa fechan yno amser yn ol i'r unig amcan o gadw trysorau y lie gyda'u gilydd. Anobeithiol ydyw inni felty enwi degwm o'r ceinion Rhufeinig ddarganfuwyd yno a lleoedd ereill yn Siluria. Ond beth peth pe cynhygiem at enwi ychydig o honynt (os caniata y Golygydd inni ofod) er mwyn rhoddi amgyffrediad o'u natur a'u defnyddioldeb. Ceir arian bathedig, gwydr, a llestr pridd melyn- goch a elwir yn Samian ware, bron ym mhobman y pabellodd y milwyr ynddo, ond yn ychwanegol i'r gwrthrychau cyffredin hyn caed yng Nghaerwent gwpanau, jygau piwter, canwyrau (planes), eingion, bilwg, cyllell boced, canwyllarn, coetiau, stili (haearn at ys- grifennu), cloion, allweddau breichled (gysylltid a bach a llygad), brooches a phinnau o asgwrn ac o bres. Yng Nghaerllion, dysgl ddofn, gwell- aif o bres. lampau, ffon fesur, breich- ledan, modrwyau arian, a chylchoedd o asgwrn at ryw chwarae neu gilydd. Yng Ngelligaer, dysglau dyfnion a beision, offer i ddal lamp, clust-addurn- iadau, ac allwedd asgwrn. I Yng Nghyngadle (Sir Gaer) math o ogr bychan o bres. Yn Lydney (ychydig hwnt i'r Wy), bwyell, cyllyll, ffon bwyso (steel yard), ac esgyrn trionglog ddefnyddid i chwar- I ae a hwynt. Yng Nghastell Collen (Maesyfed), priddfeini Rhufeinig, a llestr du gydag "Attili" yn argraffedig arno. Yn Llanilltyd Fawr, coetiau a chloion. Yn Sully (ger Penarth), modrwy aur. Yn Abercar (Cwmtaf), ysten ddofn. Yn Llanelwedd (Buallt), teils gyda Leg II. (h.y., yr Ail Leng) yn argraff- edig arnynt.
"Eu Hiaith a Gadwant."I
"Eu Hiaith a Gadwant." I UNDEB Y CYMDEITHASAU I CYMRAEG. Ddydd Sadwrn nesaf ym Mhonty- pridd y cynhelir y Gynhadledd fwyaf a gynhaliwyd hyd yn hyn dan nawdd yr Undeb uchod. Y mae argoelion calonogol dros ben y bydd y Gynhadledd yn un ragorol. Trefnwyd rhaglen faith, a sicrhawyd gwasanaeth William Jones, Ysw., A. S., i draddodi anerchiad yng nghyfarfod yr hwyr. Cyfyngir y Gynhadledd i gynrychiolwyr y Cym- deithasau a ymunodd a'r Undeb, ond bydd cyfarfod yr hwyr yn agored i'r byd a'r bettws. Y mae yn yr Undeb eisoes 43 o Gv'mdeithasau. Erys rhai Cymdeith- asau heb ymuno, ac yn eu plith y mae Merthyr, Aberpennar, y Rhondda, Porth, Abercynon, a Threharris. Pa bryd y daw gair oddiwrth y Cym- deithasau cryfion hyn i'n hysbysu o'u bwriad i ymuno? Da fydd gennym glywed eu swn yn tynnu tuag atom. Ein hamcan mawr ydyw uno Cymru. Byddwn felly yn llu banerog ac yn gadarn ddigon i herio ami i wrth- wynebiad a gwyd o bryd i bryd yn erbyn hawliau iaith, gwlad, a chenedl. Nid y peth lleiaf ynglyn a'r Gyn- hadledd fydd yr orymdaith at fedd awdur "Hen Wlad fy Nhadau." Traddodir anerchiadau gan Emrys a Brynfab, a chenir can y Gymdeithas yn ogystal a'r gan arbennig a gyfan- soddwyd gan fardd yr Hendre ar gyfer yr amgylchiad hapus hwn. Da fydd gennym weled y werin a'r bobl. yn Iluoedd ar lan bedd Ieuan ab Iago. Hyderir y bydd yn ein mysg Mrs. Davies, a ganodd "Hen Wlad fy Nhadau am y waith gyntaf erioed yn y cyhoedd. Teg dywedyd am groeso calon Cymdeithas Cymrodorion Pontypridd, i'r cynrychiolwyr. Gwahoddir hwynt i fwynhau o'r wledd, a thra'n cyfran- ogi o honi nac anghofied neb am gyllid yr Undeb, canys ni Iwyddir yn £ undebol heb y trindod a ganlyn- ? s. d. Disgwylir cynhulliad brwdfrydig yn y Bont. Nid amhriodol mewn llawer ystyr arwyddair Pontypridd ar gyfer pob Cymdeithas, "Bid ben, bid bont." Os am lwyddiant, gweithier dros arall a chofier "Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl." ARTHEN, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Undeb.
Cwellhad Ryfeddol un oedd…
Cwellhad Ryfeddol un oedd wedi ei Barlysu. Methai Symud Llaw na ThrOed. I Yn awr yn gweithio, wedi ei wella gan DABLEDI DR. CASSELL. Dengys gwellhad Mr. Thomas Sedg- more, 19 Chapel St., Budleigh Salter- ton, South Devon, eto allu digymar Tabledi Dr. Cassell i adfer y giau i j weithrediad per- ffaith. Yr oeddwn wedi fy llwyr bar- lysu," meddai Mr. Sedgmore wrth un aethai i ymholi ag ef nis gallwn symud llaw na throed. Bum yn yr Ysbyty. Pan aeth- um yno, hercian yr oeddwn gyda chyn- orthwy ffyn o'r Mr. Sedgmore, (I South Devon. I stesion. Pan yn dod allan ar I stretcher yr oeddwn. Yr oeddwn mor ddiymadferth fel yr oedd yn rhaid fy mwydo a llwy yn fy ngorwedd. Yn y diwedd cefais Dabledi Dr. Cassell, ac er syndod i bawb mi wellais. Yr wyf 1 yn awr mewn gwaith, a hwnnw yn waith caled, ond yr wyf yn alluog 1'w I' wneuthur. j Y mae gwellhad ar ol gwellhad, hyd t yn oed yn yr achosion mwyaf eithafol, wedi profi mai Tabledi Dr. Cassell yw y feddyginiaeth sicraf a ddyfeisiwyd at Fethant y Nerves, Tlodi Gwaed, Gwen- did, Diffyg Cwsg, Poen Giau, Curiad y ) Galon, Afreoleiddiweh y Stumog a'r Arennau, Gwendid Plant, Parlysiad y Cefn a'r Giau, Dihysbyddiad Cyffredin- ol o Nerth y Corff, LIudded yr Ymen- ydd, a phob math ar fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd., 418 Chester Road, Manchester, am sampl rhad. Gwerthir y Tabledi gan yr holl Fferyllwyr am lol-d., Is. a 2s. 9c.—y maint olaf yw y rhataf yn y diwedd.
[No title]
Am bob math o Argraffwaith ymo- I fyne;1 vn Swyddfa'r Leader ff a'r I "Darian," 19, Cardiff Street, Aberdat.
ICilfynydd. 1
I Cilfynydd. 1 Y mae i'r lie hwn ei hanes a'i ddigwyddiadau, ond ychydig rywfodd welir yn ymddangos ar dudalenau y Darian." Amheuthun fyddai cael. o hyd i law fedrus a groniclai lawer o'r digwyddiadau. Y mae y lie yn gyfoeth- og o rai galluog, y drwg yw fod galwed- igaethau rhai o'r cyfryw yn ei gwneud yn anmhosibl iddynt i ymgymeryd a'r gorchwyl; tra mae eraill yn ameu eu gallu eu hunain ac yn ofni rhoi prawf arno. Yr ydym yn llatvenhau wrth wel'd Cymru yn deffro i'w dyled- swyddau Cenedlaethol. Y mae yn werth dyrnu mynyddoedd o anawsderau oddiar ein Ilwybrau i gadw yn fyw ein newyddiaduron Cymraeg. Ond ein bwriad, Mr. Gol., oedd cyfeirio at rai o'r digwyddiadau lleol. Yn Addoldy Moriah (A.), nos Iau, wythnos i'r diweddaf, bu Mri. Jones a Lewis, o'r Efail Isaf, yn diddori ac yn swyno cynulleidfa luosog, y cyntaf yn canu penillion a'r olaf yn canu'r delyn. Cadeiriwyd gyda'i fedrusrwydd arferol gan H. H. Evans, Ysw., M.E., Agent yr Albion Colliery, a chyda Haw y mae dy- fodiad y boneddwr hwn wedi bod yn gaffaeliad mawr i'r lie. Diolchodd y Cynghorwr T. B. Evans i'r ddau fu yn gwasanaethu, a'r Cynghorwr Philip Jones i'r cadeirydd. Noson a hir gofir ydoedd. Nos Fawrth, yn Addoldy Bethel, C.M., traddododd y Parch. Philip Jones, Llandilo, ei ddarlith boblogaidd ar y testyn, "0 F6r hyd For." Nid oes angen canmoliaeth, y mae enw Mr. Jones bellach yn ddigon adnabyddus fel pregethwr a darlithiwr sydd yn y rhestr flaenaf. "A Trip to the Golden West" yd- oedd testyn darlith Mr T. Glyndwr Richards, Mountain Ash, yn addoldy Rehoboth (B.), nos Lun diweddaf. Y mae enw Mr Richards yn ddigon adna- JJyddus yn y byd cerddorol, ac y mae wedi ennill iddo ei hun safle uchel fel arweinydd. Nid ydyw eto mor adna- byddus fel darlithiwr, ond yr ydym yn anturio proffwydo y daw, canys y mae yn feddiannol ar y cymhwysderau gofynnol, sef, y dynwaredwr, y darfean- fyddwr, a'r portreadwr. Yr oedd yn gallu bod yn farddonol yn yr iaith fain am mai Cymro ydyw. Llwyddodd i synnu a swyno cynulleidfa dda am yn agos dwy awr. Yr ydym yn cyflwyno y ddarlith a'r darlithiwr i sylw Cymru. Gofyner am ei wasanaeth. Llywydd- wyd yma eto gan H. H. Evans, I sw.
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin.,
Oddiar Lechweddau Caerfyrddin. Cydymdeimlir gan lawer un y ffordd ymd. a'r awenydd Cenech o lanau'r Aeron, a'i frawd, y Cynghorwr Rhys J. Davies, o Fanceinion, a'r teulu i gyd, ar farwolaeth eu tad gweithgar a char- edig.. Yr oedd llawer iawn o dalent yn perthyn i'w tad, yn enwedig garddwr- iaeth. Yr oedd yn arddwr ganedig. Rhoddwyd ef i orwedd ym Mynwent Salem, Llangennech, a'r Parch.. A. Morris, Salem, Llangennech, yn gwas- anaethu yn ei angladd. Ni rowd gon- estach gweithiwr mewn bedd erioed. Cafwyd Eisteddfod o'r iawn ryw yng Nghwm Mawr ddydd Sadwrn ddiwedd- af. Yr oedd Volander yno yn ei afiaith. Yr oedd yno gadair am brydd- est i'r "Porth a elwid Prydferth," a dyfarnwyd hi i "Moliant." Nid yw y bardd buddugol wedi ei pherchenogi hyd yn hyn. Cynhygid cadair dderi a gini am draethawd ar Gwm Gwendraeth gan Mr Ivor Rees, Drefach, a thorrodd y dyrfa fawr allan yn un fonllef o lawen- ydd pan welwyd y Parch. D. Rhydd- erch, B.A., Capel Seion, yn mynd i fyny i'r llwyfan i'w hawlio. Ychydig bach yn ol enillodd bum' gini am draethawd yn y Rhondda ar hanes Eglwys Bodringallt, ond y syndod yw na fuasai y gwir awenydd hwn wedi eis- tedd yng nghadair bardd ymhell cyn hyn, ond gwyddom mai ei wyleidd-dra ei hun a'i ceidw allan o honi. Apolos yw'n Nghapel Seion,—hudol DraeLhodwr yw'r Brython; Awenydd fydd yn union-o dan fri Enwog gewri, mewn cadair neu goron. Ie, Rhydderch a roddir 0 rin teg yn deyrn y tir. Y Sul a'r Llun sefydlwyd y Parch. W. T. Francis yn weinidog Calfaria, Llan- elli. Gwasanaethwyd gan y Parch. Morgan Jones, B.A., Whitland; Spen- cer Jones, B.A., Aberduar, a J. Grif fiths, Calfaria, Aberdar (cyn-weinidog yr eglwys), a gweinidogion y dref. Oes y byd i Francis bach-a oes gref Dros ei Grist byth bellach; Bri Llanelli yn holliach A ddelo eto i'w ach. Clywaf air o "Calfaria"—heno'n dweyd "Dyn Duw a ddaeth yma" Arhoed ef a'i eiriau da j Fel emyn o fawl yma. ) MYRDDIN MIN Y MOR.
Advertising
TURKEY EGGS, Lord Rothschild JL Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list f ree. GOODWIN, Stratford, Essex. GWAED! GWAED! GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN I DIBYNU AR WAED PUR CRYF, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynell effeithlol at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar holl Organau y Corff, drwy hyny yn laohau Dolur Pen, Diffyg Traul, B!)iousne«, Wf ^| Afu Odrwg, ?'?'? ? ,,t,- Tarddiantam ??i???MM ar y Cnawd, 1(6 AH Cornwydon, Sourvy, Piles 'Byl i yJI Fits, Nlrv- ousnesi, II i Cwynt, Cwynelon (neu Cyma" I wst), pun Cefn, Lum- bago, Corff- Neuralgia, j Anhwyldw- ^^1    ?*—' au yr Aren- ¡ au, Iselder I Yspry., I 6 u r n I y Surnl BENYWOD! I At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Mercb o bob oedraa mae II Hughes's Blood Pills" yn nodedig 0 effeithiol. Rhodder prawf I arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pills hya gofaler rhmg gael eich twyllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef Hun Calon fel hyJI- }, ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemist a Stores am 1/1 i, 2/t, VI. Neu dasfonwoh el Gwerth mewn Stamp. neu P.O. at y Perchenog— JACOB HUGHES. MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.8 I Penarth, Cardiff. Can, Lien a Cweril1 Gwaithy dlweddar Myfyr Wynn, sef BACHAN IFANC y DARIAN. ) I Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLCH, DARNAU BARDDCNOL A'R I {LLYTHYRA. NEWYDD. | Pris 1/. Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r Dabtan, reu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. LAD:FS LAb;FS PILLS Are unrivalled for a) Irregularities, &c.,p: I afford relief and neve .fall to alleviate all suffering. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Apple, &a. Glanchard's are the Best of alt Plllt for Women. Sold in boxes, 1/1, by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, from _BSLIB MARTYN Ltd., Chemists. 3 DALSTON LANE, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. -itamp I ———————————————————————————————— i  PAGE Book about Herbs and how to use Dfr them. Post free. 8et?d for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that you get Estab- ) lished 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine —Trimnell, The Herbalist, 144 Rich- mond-road, Cardiff. rnRIMNELL'S PILLS AND POWDERS ) have cured thousands. Why not you ? See that you get "Established 1879 on every label.-Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond Road, Cardiff. Agents wanted. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how aD Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only Bafe, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. Thousands of Testimonials. Established 1862. MR. PAUL BLANCHARD, Clsrmmont House, Dais ton T-ane, Tondoa. DRAMA CYMRAEC NEWYDD, "GRUFFYDD LLWYD Allan o'r Ffug-Chwedl Boblogaidd gan ROGER THOMAS, Ystalyfora. Telerau neillduol am ei pherfformio. Ymofyne.r a'r Cyhoeddwr-D. DAVIES, Ferndale. Y FORD. Yn cynnwys arlwy flaol anfflwyddwyn i blant o bob oed, sef:— 13 o Bregethau A 13 o Delynegion. Mae'r gyfrol wedi 'i hadolygu yn y modd mwvaf ffafriol giin y Wasg Gymrpig. megia Y Beirniad, Y Brython, Y Tyst, Cymru, Cymru'r Plant, Seren Cymru, Seren Gomer, Y Drysorfa, &c., ao y mae'r Awdwr wedi derbyo llu o lythyrau canmol oddiwrth bregetbwyr, llenorion, plant, Ac. Y gyfrol i'w obael ar dderbyniad Postal Order Bwllt gan yr Awdwr- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr Swansea. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU TU MHEIFySGOL CYMBU). Pnfathraw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D. Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadaa Prifysgol Oymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gyniry) y flwyddyn hon. Am lanylion pellacb, ymofyner J. H DAVIES, M.A., Oofrestrydd. Dywedwch wrth bawb: "Ymt10 DA VIES'S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswoh." ANWYD, PESWCH, INF.LUENZA. —Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio- ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaeth Davies's Cough Mixture" etto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/11 a 2/9 (postage, 3c.)— HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE Aberaman & lVIountain Ash Billposting and Advertising Go. Proprietors of the most prominent stations in Aberaman, Cwmaman, Cwmbach, Abercwmboi, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should bo addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman, AM BOB MATH 0 ARGRAFFWAITH YMOFYNBR YN Swyddfa'r Leader," A Swyddfa'r "Darian," 19 CARDIFF ST., ABERDAR. DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. CABTMT Works ? —? q Tl CJAQ 21 High ;O;KS <& Morris Lane, Swansea. The Largest and Cheapest Stearr) Cabinet 14anufactory South Wales. Illu8trated Catctloguts frM on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above in. ar noblivared Free in our own Vim.