Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
COLOFN Y PLANT.I
COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) Wele heddyw y ddau bapur ddaeth i fewn yn y gystadleuaeth i rai dan un-ar-bymtheg. Cofiwch eu darllen yn ofalus. Mae y ddau yn 4diddorol. Buasai yn dda geq.yf fod wedi der- byn dwsin, yn lie y ddau yma yn unig. Hynod hefyd mai dwy ferch a'u hysgrifennodd. Ai merched fydd llenorion pennaf y dyfodol? Gobeith- tiaf y dengys y bechgyn y tro nesaf y medrant hwythau hefyd wneud rhyw- beth yn Gymraeg. 0 dan ddeuddeg, mae'r bechgyn cystal a'r merched. Edrychwch yn y "Darian" nesaf am Gystadleuaeth Mai. Ar waelod y golofn gwelir rhestr arall o Ddiarhebion, a'r llythrennau cyntaf yn gwneud i fyny enw'r un a'u hysgrifennodd. GLYNRHEDYNGOG. (a) Saif y lie hwn ar )an y Rhondda Fach, ym mhhvyf Ystradyfodwg, yn Sir Forgannwg, tuag ugain milldir o'r mor. Awgryma y sill gyntaf ei fod rhwng dau fynydd, y Rhondda ar y Gorllewin, a Gwyncul ar y Dwyrain, a'r sillau olaf fod y lie yn hynod am ei redyn. Y mae Maerdy yn ei ffinio ar y Gogledd a Phendyrus ar y Dde. Yn absenoldeb cymdeith- as o Gymry, mae y Sacson haerllug, yn ol ei arfer, wedi diosg yr enw Cymraeg a'i wisgo i ateb ei dafod anystwyth ef. Un engraifft sydd gennym o enw Cymraeg yr ardal, a hwnow ar Synagog Satan. Rhaid i'r 'Cymry ymgrymu i'w fawrhydi Sacsonaidd, nid yn unig yn enw'r He, ond yn rhaniadau, ac adeiladau cy- hoeddus a chyffredin y lie, megis Heol yr Eglwys yn "Church Street," Heol y Gogledd yn "North Road," a Gorsaf Glynrhedynog yn "Ferndale Station," etc. (b) Preswylir yr ardal gan bobl o wahanol genhedloedd, yn Gymry, Saeson, Gwyddelod, Albanwyr, Eidalwyr, Indiaid, Americaniaid, etc. Ymddibyna yr ardal am ei mas- nach i gyd ar y gweithiau glo mawr- ion, y rhai a berchenogir gan F. L. Davies a'i Gwmni, yn un o ba rai y bu colledion mawrion ar fywydau yn 1867 a 1869. Y mae eu dull o fyw yn syml ac heddychlon. (c) Mae yma adeiladau mawrion a phwysig. Mae yma Ysgol Ganol- raddol hynotaf y dywysogaeth, am mai hi yn unig sydd a'i haddysg yn rhad ac am ddim, a deil ei llwyddiant i'w gymharu ag unrhyw ysgol arall. Mae yma un o'r Cymdeithasau Cyd- weithredol mwyaf llwyddiannus, a'i gwerth yn cynnwys tua thri ugain mil o bunnau, a'r elw, yr archwiliad diweddaf, yn dair mil ar ddeg, saith cant, saith deg, a dau o bunnau, gydag aelodaeth o dair mil. Mae yma Neuadd ardderchog gan y gweithwyr, gwerth tua phymtheg neu ddeunaw mil o bunnau, yn cynnwys darllenfa a gwahanol leoedd i'r ieuenctyd i chwareu, a Neuadd arall o'r enw Tudor. Mae yma naw o gapelau mawrion a heirdd, dwy Eglwys Loegr, ac un Babyddol, pedwar o glybiau cryfion, lie y gwerthir diodydd meddwol, a chwech o dafarndai mawrion; cae cyfleus i'r ieuenctyd i chwareu arno, a llyn i lithro arno pan fo rhew yn ei doi ag ia. Ac heblaw cledrffordd i'n cario i'r ac o'r ardal, mae cerbydau trydanol yn rhedeg ar hyd yr heol. Ond gresýn meddwl nad yw y ddegfed ran o'r trigolion yn ddigon o Gymry i wybod am Ysgol Ganolraddol Glyn- rhedynog, ond "Ferndale Secondary School Cymdeithas Gydweithredol Glynrhedynog, ond Ferndale Co- operative Society"; Neuadd y Gweithwyr, ond "Ferndale Work- men's Hall"; Llyn Elferch, ond "Darran Lake," na'r Cerbydau Try- ,danol ond Electric Cars." (d) Mae yma draddodiad am y llyn fod morwyn wedi boddi ynddo wrth gyrchu y gwartheg, a methwyd a chael gafael ynddi, am ei bod yn methu cael hyd i'r gwaelod, a gel- wir ef gan lawer yn "Llyn y For- 11 wyn. —Sarah Thomas, 127 (C.), North Road, Ferndale. Y GLAIS. Ar Ian yr afon Tawe Yng nghysgod Craig-y-Pal Mae pentre bach y Glais Wedi gwneud ei wal. Pentre bach tlws yw y Glais, yn Nyffryn Tawe, wrth droed bryn o'r enw Craig-y-Pal, yn Sir Forgannwg. Nid oes neb yn sicr beth yw ystyr yr enw Glais. Nid oes yno siopau mawr, ac y -mae y rhan fwyaf o'r bobl yn gweithio yn y gweithfeydd glo, ac ereill yn y gweithfeydd alcan sydd yn agos i'r lie. Lie Cymreig yw y Glais, ac y mae'r plant yn cael eu dwyn i fyny i i barchu eu hiaith a'u cenedl. Y mae yna lawer o leoedd diddorol yn ac o amgylch y Glais. Yn gyntaf, y cawn Craig-y-Pal. Y mae rhai yn dweyd fod yr Apostol Paul wedi bod ar ei phen, a dyna y rheswm y gel- wid hi yn "Craig-y-Pal." Ar gopa mynydd rhwng Craig-y-Pal a Chastellnedd y mae yna garreg fawr a elwir yn Garreg Bica, a charreg fach arall yn debyg i garreg bedd mewn hen glawdd a adeiladwyd yn yr hen amser gan y Rhufelniaid. Yng Nghastellnedd, tua chwe milltir o'r Glais, y mae yna hen Fynachlog a Chastell. Adeiladwyd y Castell gan y Saeson i gadw y Cymry mewn trefn ar ol iddynt gael eu gorchfygu ganddynt. Y mae Madam Patti yn! byw yng Nghraig-y-Nos mewn Castell o'r enw "Castell, Craig-y- Nos," tua phymtheg milltir o'r Glais. —Sophia Jones, Pant-y-Bugail, I. Glais, Abertawe. I DIARHEBION. M awrth a ladd, Ebrill a fling. A dar o'r unlliw a hedant i'r unlle. G auaf glas, mynwent fras. G well pwyll nag awr. I 'r pant y rhed y dwr. E dwyn hen gath lefrith. M am ddiofal a wna ferch ddiog. A llwedd tlodi, seguryd. R hoi'r car o flaen y ceffyl. j Y n mhob gwlad y megir glew. I M wyaf trwst, llestri gweigion. 0 ni heuir ni fedir. R haid cropian cyn cerdded. G well synwyr na chyfoeth. A dwaenir y dyn wrth ei waith. N i ddaw henaint ei hunan. —Nantywenynen, Ystradfellte, ) Aberdar. [Nodiad Carem alw sylw y ddwy ferch sydd wedi ysgrifennu mor dda yn y gystadleuaeth hon at un trosedd ar reolau Gramadeg Cymraeg a wneir gan y ddwy, sef defnyddio dau j arddodiad (preposition) yn y j brawddegau a ganlyn — Ysgrif- enna'r cyntaf: "heblaw cledrffordd i'n cario i'r ac o'r ardal," a'r ail fod yna "lawer o leoedd diddorol yn ac o amgylch y Glais." Priod-ddull Seisnig yw hon. Dylasai'r cyntaf ysgrifennu "i'r ardal ac oddiyno," a'r ail "yn y Glais ac o amgylch," neu yn y Glais a'r cylch." Byddai yn dda i ysgrifenwyr hynnach sylwi ar hyn ac osgoi'r ddau arddodiad o flaen yr un gwrthrych. -Gol.] I
Advertising
b::J ¡ fOA 1 ■ — j ¡  USL  M USEStFUKMTMMVETS. ? No need to Ptinch bolt?s drive Rivets, ind ben, I,?  monger-,ors 'n ?I   Fuvet Co.. Ll d
111■■■■=I ILlyfrau a Chyfnodolion.…
= I Llyfrau a Chyfnodolion. Geiriadur Cymraeg a Saesneg: Caer- I fyrddin, W. Spurrell a'i Fab. Pria 2s. 6c. (nett). Argraffiad newydd ydyw hwn o Eiriadur sydd yn hen ad- nabyddus, wedi ei olygu a'i ddiwygio I gan J. Bodvan Anwyl. Y mae yn llaw- lyfr hwylus, wedi ei argraffu yn dda. a'i olwg yn ddeniadol. Cyferfydd 3 Geiriadur hwn yn ei ddiwyg newydd ag angen a deimlid er's tro. Bydd yn hylaw iawn i rai geisiant ddilyn silleb- iaeth yr Orgraff Newydd, neu Orgraff Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Ni ddilynir honno yn hollol ychwaith Ii Gwahaniaethir, medd Syr Edward Anwyl yn ei Rag-air, mewn rhai peth- au dibwys, megis dyblu'r n mewn I geiriau fel annifyr ac annherfynol, lie mae yr acen ar an yn eilradd. Gyda I Haw, sut na roddwyd "annifyr" yn y Geiriadur? Methasom a'i gael yno. I Wrth droi'r dalennau gwelwn amryw I eiriau yn gwahaniaethu yn eu silleb- iaeth oddiwrth yr orgraff sydd yn dod yn boblogaidd y dyddiau hyn. Un yw dyddorol, a'r ffurf hon yn unig roddir, ond yn llyfr Tecwyn Evans diddorol geir. Wrth droi eto gwelwn pennill, illion, hillion; gwelir fod y Geiriadur yn gadael defnyddio'r h yn y lluosog at ddewisiad. Penillion yn unig rydd Tecwyn fel ffurf luosog. A chan ein bod gyda'r gair lluosog, hon yn unig yw'r ffurf geir yn y Geiriadur, tra mai lliosog geir gan Tecwyn. Ceir Ceir yma eto fluaws-Iliaws, tra nad yw Tecwyn yn cydnabod ond lliaws yn unig. Gall ysgrifenwyr mae'n debyg, gan fod dealltwriaeth rhwng Golygydd y Geiriadur a'r Athro J. Morris Jones, ddilyn y Geiridaur pan yn gwahani- aethu oddiwrth "Tecwyn," y "Y Beirniad," a'r "Welsh Ortho- graphy," heb fod yn agored i'w condemnio, hyd yn oed pan yn ys- grifennu Athraw, ofclegid y ffurf hon geir yn y Geiriadur. Gyda Haw nid ydym heb deimlo fod gormocl o ddyian- wad y Gogledd yn yr Orgraff newydd I, mewn rhai pethau, a da oedd gennym j weled "gresaw" yn y Geiriadur yr ogytsal a chroesaw." Y mae'n wir y dynodir y gair dagr (t) fel gair all fod ar lafar mewn rhai cylchoedd ond heb fod yn arferedig mewn llenyddiaeth. Ond tybed nad mantais i'r iaith fydd- ai arfer llawer gair sydd ar lafar. Tybed nad oes gan "resaw Dyfed a groesaw" Morgannwg gymaint hawl i'w lie mewn llenyddiaeth ag sydd gan y croeso geir yn y Gogledd, er cys- tal yw hwnnw. Gadewir allan o'r argraffid hwn nifer fawr o eiriau annilys, a rhoddir i fewn ynddo lawer o eiriau hen a newydd. Teimlwn bellach yn esmwythach ein meddwl wrth ddef- nyddio llawer o eiriau yr oeddem yn amheus o honynt o'r blaen; ymhlith y rhai hyn y mae tren, trenau, rheil- ffordd, reit, traen (drain), etc. Wedi gweled "tren a "reit," ofnwn weled "relwe" a "rong" yn troi i fyny, ond cadwesid hwy yn ol y tro hwn. Diddor- ol fyddai mynd ymlaen i chwilio a chymharu, ond y peth goreu fyddai i ddarllenwyr y Darian," ac yn ar- bennig ein gohebwyr wario hanner oron ar y llyfr hwn a'i ddilyn. Beirdd Gwerin Eifion a'u Gwaith, gan Cybi. Mae y llyfr hwn mewn tri rhwymiad: mewn amlen gref, pris ls-11 mewn llian, Is. 6c., eto gyda Ilythr- ennau aur, ls. 9c. Ceir ef oddiwrth yr awdur o Chwilog, S.O., Caernarfon. Hobi fuddiol iawn gan Cybi yw diogelu coffa beridd gwerin ei ardal. Y maent yn haeddu hefyd wneuthur o hono hyn iddynt. Yn ddiau y mae Cymru mewn mwy o ddyled i'w beirdd cartre nag y tybia. Anawdd yw gadael y llyfr hwn heb ei ddarllen trwodd. Yr unig gwyn sydd gennym yn ei erbyn yw fod ynddo cyn lleied am bob un o'r beirdd. Y mae'r tameidiau mor flasus fel y carem eu cael yn fwy, ond rhaid cofio ei fod wedi cymeryd i fewn gynifer o honynt, ac yn y diwedd wedi gorfod gadael llawer gyda'u henwi yn unig. Un peth rydd werth ar y gyfrol yw fod yr awdur yn hysbysu lie y gellir cael ychwaneg o hanes llawer o'r rhai yr ysgrifenna arnynt. Deallwn fod ym mryd Talnant i ddweyd ei farn am y gyfrol. The Welsh Outlook: The Welsh Out- look Press, Cardiff. Pris 3c. Rhifyn diddorol a deniadol yw yr un am fis Mai o'r cyhoeddiad hwn. Ceir ynddo ysgrifau da ar "Ragolwg Addysg yng Nghymru," Mistral a'i Wlad," "Bywyd Adar yng Nghymru," "Cerddorieeth Cymru a thueddiadau diweddar, "Creirfa Genedlaethol Cymru," a llu o bethau eraill. Y peth goreu sydd yn y rhifyn hwn, er hynny, yw can yn iaith lafar y Rhondda gan J. J. Williams. Y mae hon ei hun yn fwy na gwerth y tair ceiniog ofynnir am y rhifyn. "Dai" yw y testyn a dechreua fel hyn: "Bachan bidir yw Dai, tawn i byth o'r fan, Ma fa'n scolar lied dda, ac yn dar- Ilan shew; Un diwrnod da'th rh'w lyfir Sysnag i'w ran, A fe'i hoerws e i gyd ishta pishin o rew." Darlunir Dai yn gadael ei gapel ac yn treulio'r Sul i annerch ei "gyd- withwrs ac i son am "gyflog a thai." Ond os oedd ei "ben yn gam," roedd "i galon e'n reit." Nid yw ei gym- wynasgarweh a'i garedigrwydd yn ei adael, a daw yn ol; y mae'r desgrifiad o ddychweliad Dai i'r capel yn hynod o dyner a byw. Diwedda'r gan 'Ga i'n shomi, fel un, os na ddalith e'n dyn, Fe gwnnws i wilia'n y seiat nos Iai, Anghofiws 'i hun, fe ddechreuws fel hyn- Gydwithwrs i gyd —bachan bidir yw Dai."
Eisteddfod Fforestfach. I
Eisteddfod Fforestfach. I Mae rhagolygon llewyrchus iawn am Eisteddfod lwyddiannus yn Fforestfach Mawrthgwyn nesaf. Mae y Pwyllgor i'w canmol am y rhaglen ardderchog drefnasant ar gyfer pob math ar gystadleuwyr. Mae gan y Pwyllgor ddau amcan mewn golwg wrth gynnal Eisteddfod ar radd mor uchel, sef codi safon Cerddoriaeth, Llên, Celf, Mwngloddio, ac Am- bulance, ynghyda chreu cronfa adeil- adu, er cael Neuadd Gyhoeddus yn y lie, a mawr yw'r angen am hon ar hyn o bryd. Gan fod yr amcanion hyn yn hawlio sylw a chefnogaeth pob Cymro trwy Gymru, mawr hyderwn y gwna ddar- llenwyr y "Darian" eu rhan fel arfer er cynorthwyo y Pwyllgor i fynd rhagddo gyda'r gwaith da. Y beirni- aid ydynt: Cerddoriaeth, Cyril Jen- kins, Ysw., Llundain; Dr. Thomas R. Mayne, Llundain, a John Phillips, Ysw., Aberavon. Llenyddiaeth: Gwili. Celfyddydwaith, Miss D. G. Hirkman, Abertawe. Mwngloddio, Dyer Lewis, Ysw., H.M.I.; A. James, Ysw., a W. J. Evans, Ysw., Garngoch. Ambulance, Dr. R. W. Isaac, Pontardulais. Mae y rhaglen swyddogol yn barod, i'w chael am Iic., oddiwrth yr ysgrifennydd, yn cynnwys pob manylion ynglyn a'r cystadleuaethau. Trefnwch i ddod yma'n lluoedd.
Advertising
t"1 ESTYN EIGH OES Bwytewch ac yfwch yn gymbedrol, ond os digwydd annoethineb, gellwch ym- ddibynnu bob amser y bydd i PELENI LLYSIEUOL KERNICK lanhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r nerves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chyAerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau l/l £ a 2/9 gan yr holl Fferyll- wyr.
! Gadw'r Hen taith.
Gadw'r Hen taith. Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Cynhadledd Adran" Abertawe. Cynhaliwyd hon yn y Guild Hall, Abertawe, prynhawn Sadwrn, Mai'r ail. Cymerwyd y gadair gan Lywydd yr Adran, sef y Bonwr Abraham H. Thomas (Crumlyn), Llansamlet. Dar- llenwyd y cofnodion gan yr ysgrifen- ] nydd, Mr D. Morlais Samuel, a chadarn- hawyd hwynt. Cawd peth trafodaeth ar berthynas yr adrannau a'r pwyllgor gweithiol. Ymholai rhai pa un ai'r adrannau ai'r gynhadledd gyffredinol oedd i gadarnhau gwaith y pwyllgor gweithiol. Eglurwyd fod yr adrannau yn annibynnol mewn materion berthyn- ent i'r adrannau yn unig, ac mai trwy y pwyllgor gweithiol yr oedd cyflwyno i'r gynhadledd gyffredinol faterion yr oedd yn bwyisg cael dylanwad ac aw- durdod yr Undeb wrth eu cefn. Can y gynhadledd gyffredinol am y presennol yr oedd yr awdurdod derfynol yn y materion hyn. Awd ymlaen i ystyried rhaglen y gynhadledd sydd i fod ym Mhontypridd. Penderfynwyd fod yr Adran yn barod i wahodd y gynhadledd gyffredinol nesaf i Abertawe, ond y byddai y cyn- rychiolwyr at eu rhyddid i beidio gwas- gu'r cais am dani, ac i gefnogi unrhyw le arall y tybid ei fod yn fwy manteisiol. Penderfynwyd cymeradwyo awgrym i gael ynglyn a'r cynhadleddau cyffredin- ol gyfarfod arbennig i'r plant a chael rhywun o nod i'w hannerch, gyda'r am- can o feithrin ynddynt sel a brwdfryd- edd dros eu hiaith. Awgrymwyd i'r cymdeithasau y dylasent dalu treuliau eu cynrychiolwyr i gynadleddau, ac hefyd gyfrannu at dreuliau yr adran 2/6 a 4/- yn ol nifer yr aelodau ac yn ol fel y telir i'r Undeb. Diolchwyd yn wresog i'r "Darian" am ei gwasanaeth gwerthfawr i'r Cym- deithasau Cymraeg ac i'r Undeb yn ys- tod y tymor diweddaf. Dywedai am- ryw a fuasent ddarllenwyr cyson o honi gynt, eu bod wedi ail ymaflyd ynddi yn ddiweddar a chael ei bod o werth i'w darllen. i Yr oedd J.D.W., Gol. y "Cambria Daily Leader," yn bresennol, a diolch- wyd yn gynnes iddo yntau am ei was- anaeth i'r Gymraeg yn Abertawe. Cyd- nabyddid fod ei ddylanwad ef wedi ei gwneud yn hawddach i Gymro fyw yno, a rhoddasai help mawr yn y frwydr dros gael y Gymraeg i ysgolion y dref. Datganodd y Llywydd ei gydymdeim- lad dwys a Syr Marsiant Williams yn ei waeledd, a phenderfynodd y gynhad- ledd anfon eu cofion iddo ynghyda'u dy- muniad am ei adferiad buan a pharhad o'i wasanaeth i'w genedl. Cawd ar ddeall fod amryw gymdeith- asau newyddion wedi eu ffurfio yn yr adran, ac yn bwriadu ymuno a'r Undeb daethai dwy o honynt eisioes i fewn, sef Cymdeithas Blaenau Afan, a'r Llwcharian athrylithgar yn llywydd iddi, a Chymdeithas Cartrefi Cymru, Abertawe. Penderfynwyd trefnu cyfarfodydd cy- hoeddus mewn gwahanol leoedd yn yr adran er mwyn hwyluso'r gwaith a chael trysorfa at y treuliau. Cynhyg- iwyd gan Mr Lewis Davies, o Ysgol y Cymer, ac eiliwyd gan Mr. Thomas, ys- golfeistr arall o Gwmtwrch, ein fod yn llawenychu yn yr argoelion y fcydd y Gymraeg yn cael y lie dyladwy iddi yn Ysgolion Abertawe, a derbyniwyd y penderfyniad gyda brwdfrydedd. Mater arall a gymeradwywyd oedd trefnu cyfarfodydd i blant ynglyn a'r Cymdeithasau ynghydag Eisteddfodau hollol Gymraeg. Gyda hyn daeth gwaith cynhadledd frwd i ben. Llawenydd mawr i ni yw gweled cynifer o ysgolfeistriaid yn mynychu'r cyn- adleddau. Eu presenoldeb a'u brwd- frydedd hwy, o bosibl, yw yr arwydd sicraf er daioni ynglyn a'r symudiad. Yr oedd yno hefyd ysgolfeistres ac athrawes yn cynrychioli'r Garw. Ar 01 y gwaith cafwyd gwledd o de a dan- teithion yn Ystafell y Cyngor a ddar- paresid trwy haelfrydedd Cymrodorion Abertawe. Anfonasai'r Maer, sef yr Henadur Corker, i ddatgan ei ofid nas gallai fod yn bresennol. Diolchwyd iddo ef am ei garedigrwydd yn cania- tau gwasanaeth y Neuadd. J.T.J.
Colofn y Gohebiaethau.
Colofn y Gohebiaethau. MRS. HOPKINS, GADLYS. Mr. Gol. Y n hanes marwolaeth Mrs. Hopkins, Gadlys, yn y "Darian" yr wythnos ddiweddaf, gadawyd enw ei brawd, sef Mr. T. E. Davies, Trimsaran, allan. Byddwch mor gar- edig a rhoddi'r cywiriad hwn yn y "Oarian" nesaf. Y r eiddoch, A. M. AT OLYGYDD Y "DARIANf" Syr,—Rhwng gwyr Pentyrch a'i gilydd, a bodlon wyf. Eithr os gwaith y Pentyrchod ydyw ceisio puro iaith a chywiro orgraff, byddaf barod bob amser i'w cynnorthwyo. Y mae'n bur debig y gwyr darllen- wyr y "Darian" bellach fod y ffurf gwlaw yn anghywir glaw" a ddywedir gan bawb, ac ni ddaeth "gwlaw" i olau'r dydd hyd yn gym- harol ddiweddar yn hanes yr iaith. Gwir ystyr yr ymadrodd "gwarchod- wch adref ydyw gwarchodwch tua thre," os oes ystyr o gwbl i hynny. Gwyr pawb cyfarwydd a'i Feibl am y geiriau hynny a ddigwydd yn y burned adnod o'r ail bennod yn yr Epistol at Titus—"yn gwarchod gartref. Ceir llawer o fudd wrth ddarllen y Beibl. Dysgir inni, er enghraifft, yr ail orchymyn mawr—"Car dy gym- ydog fel ti dy hun." Yng nghysgod pethau felly cryfheir a phurir ein Cymraeg yn ogystal. Y r eiddoch yn rhwymau'r iaith, HENRY LEWIS. SENGHENYDD—GWERSI'R DANCHWA. Mr. Gol. ,-Cawsom yn ddiweddar adroddiad o'r ymchwiliad fu i'r aohos o'r Danchwa fu yn y lie uchod. Gwers fawr y trychineb alaethus yw dylem o'r uchaf hyd yr isaf o honom arfer mwy o ofal am ein bywyd a bywydau ein cyd-ddynion. Hyn fyddai oreu i feistr a gweithiwr, a byddai elw'r meistr ac enillion y gweithiwr yn fwy. Nid oes dim i'w ennill trwy fusgrellni ar ran meistr na gweithiwr. Ofnwn fod glowyr gofalus a deheuig yn prinhau. Mae'r alwedigaeth yn rhy agored i rai di- foes a didalent o bob lliw a llun. Y peth goreu fedr llawer wneud hedd- yw yw rhegu a rhwygo a thorri ar draws pob trefn ac arfer oni fydd llygad deddf ar eu hoi ymhob congl o hyd-fel y prawf y dirwyo parhaus sydd ar rai yn llysoedd ein gwlad. Credwn, er hynny, fod dylanwad addysg a chyfraith yn gwella pethau. Deuir i deimlo fod diogelwch yn bwysicach na glo, a bywyd yn fwy o werth nag aur er cymaint trachwant meistr a gweithiwr am y cyfryw. Teg yw sylwi fod Mr. Shaw, gor- uchwyliwr y lofa anffodus, yn cael gair da fel gwr craff a gonest gan yr ymchwilwyr a'r gweithwyr er yr an- ffawd a ddigwyddodd, a rhoddodd bob cymorth a hwylusdod posibl i'r ymchwil am y gwir. Y r eiddoch, etc., DEWI AUR. GWERTH ARIANNOL HEN FEIBL CYMRAEG. Barchus Syr,—Carwn wybod trwy gyfrwng y "Darian" werth ariannol hen Feibl Cymraeg. Mae ei ystad o ran ei argraffwaith, etc., yn dda. Cyhoeddwyd ef gan Peter Williams, ac argraffwyd ef yn y "Porth Tyw- yll," Caerfyrddin, yn y flwyddyn i 1770. Ceir ynddo lythyr maith yn ymdrin a chrefydd hen hen Gymry, etc. Hefyd yr hyn a ganlyn :— Gweddi dros holl ystad Eglwys Crist; Swm yr holl Ysgrythyrrau; Erthyglau Crefydd a gytunwyd ar- nynt gan Archesgobion, etc* Declarasiwn y Brenin; Tabl y Namyn Un Deugain Erthyglau; Holiadau ac Atebion mewn perthynas i'r Athraw- iaeth o Ragluniaethad; Hysbysiad o gynhwysiad y Bibl, a threfn yr Amser y digwyddodd y pethau a glywn yn Hanesion yr Iuddewon, 'etc.; Llithiau Neillduol neu Briodol i'w darllen ar foreol a phrydnawnol weddi, gwyliau, etc.; y Calendar, gyda'r gwahanol Dablau; Nodau a Sylwadau ar bob pennod o Genesis i Datguddiad; y Tablau canlynol:- Swyddau a Graddau Dynion; Arian a Phwysau Iuddewig; Gwlyb Fesurau a Sych Fesurau Iuddewig; Hyd Fesurau luddewig; Ymdaith Fesurau Iuddewig; Arian a Phwysau Rhufain; Arian a Phwysau Athen, etc., a llu o Dablau creill. Hefyd ceir y Salmau wedi eu cyfieithu a'u cyfansoddi ar Fesur Cerdd yn Gymraeg. Hefyd lythyr arbennig at y Darllennydd Ys- tyriol gan Edmund Prvs. A fydd rhyw ddarllenydd garediced a rhoi pris neu werth ariannol y llyfr hwn. Adwaen y Cymro sydd dan orfod i'w werthu.—Yr eiddoch, yn gywir. D.P. ) PWNC YR ORGRAFF. I Mishtir Gol., Scyswch fi am weyd gair yn ffordd y'm hunan ar y pwnc "holl bwysig" hyn. Ma'n hen bryd i ddynon cyffretin fel fi i ddad- la'n hawl' i'r ticyn Cymrag a glywsom gyda'n tada. Rwv'n dyall iaith Berdar, Herwan, a Phenderyn, ond wn i beth sydd i weyd am Dutch y sgleigon diweddar. Dos dim dowt nag i nhw'n lladd y Gymrag wrth 'i doctora. Mae un yn gneyd oporashon ar ei chalon; un arall yn tynu'i dan- add, ac yn cretu fod danadd doti'n well; un arall a'i blastar cwt ar 'i thalcan, nes mae'n etrych fel gwr byneddig wedi syrthio 'mhlith llatron. Pwy sens yw mynd nol at orgraff odd yn y byd ma tuag amsar y diluw? peth fel hyn yn ddicon i neyd i ddyn ddymuno am ddiluw arall i foddi sgleigion sydd heb arch ar 'u cvfar. Mae Morris Jones-Cymro sy'r un spit ag- Italian-wedi coecdi Gram- adeg ncwydd, ond dyw a dda i ddim i fi, ac y mae mwy o'm short i yn y byd ma, o bcth dychrynllyd nag sydd o short Morris Jones. Ma isha dysgu y rhai sy tu fas i Goleg, fel y rhai sy tu fiwn. Ma nhw'n gweud fod am- ball bregethwr yn scithu dros ben y dynon sydd o'i flan. Dos dim dowt naw yw Morris Jones yn 'i lifir yn gneud yr un fath. Dyw a ddim yn debyg o daro neb ond y rhai sy wedi 'u cwnu i ben catar. Fe deimlodd hen ffrynd i fi, sy'n ddyn cyffretin fel mhunan, y cara fa gal y llilir, ac fe safiodd whech swllt, ond erbyn etrych, rodd isha saith a whech arall; rhag iddo dori 'i galon, a m; nd ar y clwb, fe ffeindodd y wraig y saith a whech odd yn brin. Fe ddath y llifir, ac rodd f'hen ffrynd yn meddwl cal gwledd. Fe gynws 'i bib, ac un gos dros y llall. Ond wedi acor y llifir ac etrych fel dyn bron mynd i ffit, yr unig beth wetws odd, Wel Wei! Wel!" Fe gauwa y llifir, ac fe gwplws y wledd Rwy wedi stydio'r Orgraff newydd mor fanol ag sy'n bosib, ond yn ddwi- ach nawr nag o'r blan. Ma nhw'n dyblu llythrena weitha, a ddim yn dyblu pryd arall, fel nad os dim shwd beth a gwpod beth i neud. Rhaid rhoi dwy n yn "dyfynnu" a dim ond un yn "terfynu.' Pwy all ddyall rhyw gabildi fel hyn? Rhaid rhoi dwy n yn y gair "annwyl," ond rw i yn ffeilu gweld fod y gair yn fwy anwl, pe roid whech n yndo. Gair bach pert slawar dydd odd "cryd," ond os bydd dicwdd i neb iwso'r gair nawr rhaid 'i groci, am fod y gair "crud" yn bertach. Beth sy'n bert miwn peth mor hyll a hyn, gwetwch chi. Ma'n depyg taw arwdd o ddwli yw gweud gwlaw, am mai "glaw" fyddwn ni'n weud wrth whilia, "bwrw glaw." Os yw hyn yn reit, ma bora yn fwy iawn na "bore," oblecid bora da, bora garw, bora glyb wetwn ni. Rodd amball "rian" yn y wlad pan o'n i'n grotyn, ond ma nhw wedi 'u lladd bob un erbyn hyn, a rhyw "riain a "rhian- edd fel canaris o Ynvsodd Mor y De wedi dod yn 'u lie nhw. Fe fu a den, edyn, ac adenydd, gan adar bach, ond ma nhw wedi 'u cropo bob un, ac wedi sowdro "adain" ac adanedd yn 'u lie nhw. Glywsoch chi arioed shwd beth? Ma'n debyg fod rhaid newid "iddynt" yn "uddunt," am mai felni r'odd y gair yn cal i spelian yn amsar Twr Babel. Dir dishefoni! Ble ma'r byd yn mynd? Rwy'n onfi fod Pla'r Gwartheg ar Gymrag rai o scleigon Rhyd Ychen. Do's dim dowt nag yw Henry Lewis yn gwpod am y clefyd. Mae'n galw Luc yn "Lug," ac, wrth gwrs, rhaid galw Matthew yn "Matho. Pert digynig fyddai, "Yr Efengyl yn ol Matho." Beth ma'r gair "cymeryd wedi neud fod yn rhaid 'i fwrdro yn "cymryd"? Ma'r hen air yn smart, ac yn ifanc, ond ma'r newydd yn dishgwl fel hen ddyn wedi 'i griplo gan y gwyn- econ, neu glwm ar 'i berfedd fel cloc Will Bryan. Llawn cystal gen i fysa troi dyferyn yn "ddyfryn," boneddig yn fonddig," Seneddwr yn "Senddwr." Gair da fydda'r ola, os na o's coll "rhy debyg yndo. Dyna'r gair "awdwr wedyn. Pwy yn 'i sensis fysa'n meddwl am goleri hwn dros y drws? Un o'r geira mwya cyffretin i dafod a chalon pob Cymro. Do's un rheswm dros drans- porto hwn, ond fod yn well gan ryw- un y gair "awdur." D\v i'n ama dim nad "awdur" neu awdr odd y gair yn 'i gyflwr natur, ond wedi cal gras fe ddath yn "awdwr," a phwy isha i neb ddanod 'i dylwth iddo. Pa ots o ble y dath, os yw'r wlad ac ynta'n dyall 'u giddyll. Ffwlbri yw gneud i air ffraeo a'i wreiddyn, a'i frig wedi cyfro'r wlad am ganrifoedd, a mel ar 'i ddail. Fysa neb ond Athraw (becan pardwn), Athro ddylswn i weud. Na fysa neb ond Athro miwn coleg yn meddwl am dori pren fala i lawr, am taw gwraidd pren gropwns sydd iddo. Rwy'n cofio pan yn grotyn i nhad ddyscu atnod i fi ag "Awdwr Iachawdwriaeth yndi. Nid yn Lug na Matho mae hono, ond yn un o lythyra Pawl, a elwid cyn ei dro yn Sawl. Alia i ddim gweud "Awdur Iachawdwriaeth" rhag i fi gal y locjo. Ma "awdwr ac "awd- wyr" yn llawn cystal Cymrag a bradwr a bradwyr, a'r pliwral yn fwy twt nag "awduron." A yw'n wir fod Brynfab wedi mynd i Oxford i ddyscu ffarmo'r Gymrag? Mawr lwc iddo weta i. Fe welas am- sar y bysa fa'n catw row disprad yn 'i gatar wellt ar fatar yr orgraff, ond ma'n depyg fod y Gramadeg newydd wedi ei swrddanu. Dyma lawr-dyrnu da iddo, os nag yw wedi gwerthu'r ff ust. Ma hwn yn fatar llawn mor bwysig a distyrbo esgyrn Clic y Bont. Chi welwch, Mishtir Gol., nag nag yw f'orgraff i yr un a'ch un chi. Pun yw'r gore, barned y werin, ys gwetodd y beirdd wedi colli. DAFYDD JONES.
Advertising
SARZINE 11 BLOOD MIXTURE CROEN IACH A GWAED PUR.— Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mix- ture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines, ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan Scurvy, doluriau, pen dynod, etc., yn tarddu o waed drwg ac anmhur, mynwch botelaid o 'Sarzine Blood Mix- ture' gan y Druggist nesaf atoch, 1/1! a 2/6 y botel, neu gyda 3c. at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. TURKEY EGGS, Lord Rothschild A. Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list f roe. GOODWIN, Stratford, Essex. ARGRAFFWAITH. Am bob math o Argraffwaith ymofyner yn Swyddfa'r "Leader" &'r Darian, 19 Cardiff Street, Aberdar.