Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

GWLAD A SENNEDD. I

News
Cite
Share

GWLAD A SENNEDD. I (GAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG) I Byddin Arfog Ulster. I Cyffrowyd wlad ddechreu yr wythnos gyda'r newydd fod llongaid o arfau rhyfel wedi eu dadlwytho yn yr Iwerddon nos Wener a bore dydd Sadwrn. Llwythwyd y llong yn un o borthladdoedd y Cyfandir. Moriodd i dueddau Gogledd Iwerddon, lie y cyfar- fyddwyd a hi gan long arall, yr hon a gymerodd ei llwyth gan ei gyfleu i borthladd Larne, nid nepell o Belfast. Yno ceid nifer fawr o Wirfoddolwyr Ulster yn barod i gymeryd meddiant o'r llwyth a'i gludo ymaith gyda chyflymder. Nid oedd amser i'w golli, oblegid pe deuai y peth i glustiau y Llywodraeth ni fuasai dim am dani, ond galw allan y milwyr a rhoddi atalfa ar yr anfadwaith. Ond yr oedd pob gofal wedi ei gymeryd a phob trefn- iadau wedi eu gwneud. Gwnawd yr heddgeidwaid a gwarcheidwaid y glan- nau (coastguardsmen) yn garcharorion i bob diben atafaelwyd ar wifrau y pellebr a'r pellseinydd, a chauwyd i fyny y prif-ffyrdd trwy y gymdogaeth, nes gorffen yr holl waith ac i'r modur olaf chwyrnellu ymaith gyda'i Iwyth enbyd. Dywedir fod yr hyn a laniwyd yn cynnwys 35,000 o ynau a 3,500,000 o ergydion, neu gan' ergyd i bob gwn. Meddylier am foment beth olyga hyn: Tair miliwn a hanner o fwledi yn Iwerddon ar gyfer mynwesau milwyr y Brenin Sior V.! A chofier nid pabydd- ion Iwerddon wna hyn, ond Protestan- iaid Ulster! Beth wna y Llywodraeth yn wyneb hyn? Edmygwn bwyll Mr. Asquith a theimlwn yn ddiolchgar mai efe sydd wrth y llyw yn Swyddfa Rhyfel heddyw. Er hyn oil, rhaid cydnabod fod elfennau peryglus yn y wlad, ac mai ychydig all fod rhyngom a difrod a thywallt gwaed. Y Bleidlais o Gondemniad. Addawodd Mr. Bonar Law wythnos yn ol y byddai y Blaid Doriaidd yn Nhy y Cyffredin yn cynnyg pleidlais o gon- demniad ar y Llywodraeth. Cyhuddid Mr. Asquith a'i gyd-weinidogion o ddau drosedd isel iawn: Yn gyntaf, o fod wedi cynllwyn i gael gan bobl Ulster i daro yr ergyd gyntaf yn erbyn y Lly- wodraeth, fel y gallent hwythau wedyn dywallt yno holl nerth byddin Lloegr, ac felly ladd pob gwrthwynebiad arfog i ymreolaeth Iwerddon. Yn ail, cy- huddid Mr Asquith o ddweyd celwydd- au noethion er mwyn camarwain y wlad a thaflu mantell dros yr ystryw mellti- gedig a nodwyd. Nis gallai undyn wadu na chynhygid ini ddognau cryfion, a. dweud y lleiaf, yn nghynhygiad y Toriaid ond cymylwyd yr holl ddadl yn Nhy y Cyffredin gan helynt yr arfau rhyfel a nodwyd. Llenwid y Ty gan dyrfa fawr, a theimlid mai dwy noson i frwydr y cewri oedd nos Fawrth a nos Fercher. Ychydig o le roddid i'r aelod cyffredin. Rhedai teimlad yn uchel iawn, eto i gyd ni cheid cymaint o dwrw ag arfer. Cafodd y prif siaradwyr wrandawiad astud. Amlwg hefyd eu bod hwythau wedi parotoi yn helaeth a manwl ar gyfer yr Armaggedon fawr. Teimlid fod y wlad mewn cyfwng caled a pheryglus, ac'fod yn ofynnol pwyso a mesur pob gair. Agorwyd y ddadl gan Mr. Austen Chamberlain. I Er gwaethaf ei gorff cawraidd arferid edrych ar y cyfaill hwn fel bachgen ei dad. Trwy safle ei dad y daeth i'r amlwg a thrwy ddylanwad Joseph y gwnawd Austen gynt yn Ganghellor y Trysorlys. Ond wedi darostyngiad iechyd ac ymneillduad gorfodol y tad, ymroddodd y mab i waith caled ac enill- odd safle iddo ei hun. Boneddwr parchus ydyw wrth natur, heb ddim o nerth llidiog, ysgubol, ei riant. Nid yw yn arfer dweud pethau cas ac isel. Efe osodwyd i fyny gan yr wrthblaid i gynnyg y Jbleidlais o gondemniad. Y mae yn amlwg nad oedd ei galon yn y gwaith, ond gwnaeth ei oreu. Aetli gyda manylwch rhyfedd trwy holl helynt mis Mawrth diweddaf Y gohebu rhwng Swyddfa Rhyfel ag Iwerddon; ymweliadau y cadfridogion a Llundain symudiadau y llynges; symudiadau y catrodau milwrol yn yr Ynys Werdd atebion Mri. Seely ac Asquith yn Nhy y Cyffredin, a llu o bethau ereill, nes y teimlem ei fod wedi ymfoddi mewn manylion. Collid golwg ar brif bwynt yr ymdrech, a methodd Mr. Chamber- lain ymgodi i wastadedd gofynion y foment. Dilynwyd ef gan Mr. Winston Churchill. I Gyda hyn codwyd y ddadl i dir uwch. Cymerodd Mr. Churchill safle y gwlad- weinydd. Nid ymdrafferthodd gyda'r manion dibwys a ffurfient faich araith ei flaenorydd. Yn lie ymostwng i am- ddiffyn y Llywodraeth yn wyneb cy- huddiadau disail eu enllibwyr, dygodd y rhyfel gydag arddeliad i dir y gelyn a chyhuddodd hwy o dynnu o dan seiliau cadernid y deyrnas. Cyhuddodd hwy o osod esiampl beryglus a dinystriol o flaen miliynau India a'r Aifft, y rhai sydd heddyw o dan Goron Pryden. Beth os hawlient hwy ryddid i arfer yr hyn a hawlia Mr Bonar Law i Bro- testaniaid Ulster, sef mai cyfiawn mewn amgylchiadau neillduol yw gwrthryfela yn erbyn Brenin Pryden? Cyhuddodd hwy o bregethu ufudd-dod i'r werin, ond o hawlio rhyddid i foneddigion i dorri y gyfraith pryd y mynnent. Dan- ghosodd fod yna bum mater mawr y dymunai y Rhyddfrydwyr ddeddfu ar- nynt pan ddaethant i awdurdod yn 1906, sef Addysg, Dirwest, Datgysylltiad. Ymreolaeth, a'r Bleidlais, ac nad oedd cynifer ag un o honynt wedi pasio hyd yn hyn. Bellach, meddai, pan yr ydym ar gael rhai ohonynt trwodd, rhaid Ilygru y fyddin er mwyn eu rhwystro. Tystiai mai nid Ulster oedd yn pwyso ar galonnau y bobl hyn, ond yn unig eu bod yn defnyddio y dyryswch Gwydd- elig i geisio difetha Deddf y Senedd ac i ailgodi Ty yr Arglwyddi i'w hen safle. Dirmygai y syniad fod eisleu i'r Llyw- odraeth ofyn caniatad gwrthryfelwyr Ulster pan farnont yn ddoeth symud adrannau o'r fyddin o fan i fan. Cyffelybai y bleidlais gondemniol Dori- aidd i waith lladron yn condemnio yr heddgeidwaid am eu gwylio. Tua di- wedd ei araith trodd Mr Churchill i gyfeiriad arall, ac apeliodd gyda dwys- der at Syr Edward Carson a'r wrth- blaid ar iddynt ystyried i ba le yr oedd pethau yn llithro ac ar iddynt fynegu y gwelliannau a garent gael i ddiogelu urddas a buddiannau Ulster. Dywedai fod yr allwedd heddyw yn eu dwylo, ac y gallent, os yn ewyllysio, ddwyn y wlad allan o'r dyryswch enbyd y mae ynddo. Yr araith fawr nesaf oedd eiddo Mr. A. J. Balfour. Yn ddiddadl, saif y gwr hwn o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na phawb a berthynant Fr blaid Doriaidd yn Nhy y Cyffredin. Ato ef hefyd yr edrychir pan fydd y frwydr yn boeth a 'gwyr meirch' y Llywodraeth yn gyrru yn eu nerth. Gwelwyd yn fuan ei fod wedi ei gynhyrfu ac hefyd ei fod yn dynesu i'r frwydr gyda mwy o ddwysder nag arfer. Heb golli amser ymosododd yn ffyrnig ar Mr Winston Churhill. Yn wir, yn hyn o orchwyl yr oedd yn faleis- us lidiog. Er's rhai blynyddau y mae wedi dangos dygasedd rhyfedd at fab ei hen gyfaill, Arglwydd Randolph Churchill. Ni thrafferthodd fawr gyda chyhuddiadau isel Mr Bonar Law. Yr oedd yn amlwg uwehlaw iddynt. Yr hyn dynnai fwyaf o sylw yn araith Mr. Balfour oedd ei ddatganiad hynod a theimladlawn eu bod fel Toriaid wedi colli y frwydr ar bwnc Ymreolaeth Iwerddon. Yr oedd swn gofid yn ei lais pan gyfeiriodd at y ffaith ei fod ef a Mr Chaplin ymhlith aelodau hynaf y Ty, a'u bod ill dau wedi ymdrechu trwy eu hoes i wrth-sefyll y mudiad "Ymreol- aidd." Bellach gwelai y gosodid Sen- edd i fyny yn Dublin. Credai yn ddi- ysgog o hyd mai anffawd i'r Iwerddon ac i Bryden Fawr fyddai hyn. Bellach, er hynny, y cwestiwn oedd, sut i ddwyn y peth oddiamgylch heb dywallt gwaed. Dadleuai y dylid gadael Ulster allan yn hollol. Creodd ei gyffes o fethiant ar- graff ddofn ar y Ty. Disgwylid ar ol hyn am Syr Edward Carson. Yr oedd yntau o dan deimlad dwys. Cydrhwng y symudiadau yn Ulster a diysgogrwydd y Llywodraeth, gwelai fod y peryglon pennaf yn llygadrythu ar y wlad. Cymerai bob cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau ei hun am y gweithred- oedd anghyfreithlon a'r dwyn arfau i Ulster, er, fel y dywedai, nad oedd a fynnai efe a'r peth. Gwnaeth Syr Ed- ward rai gosodiadau pwysig, ac yr oedd yn glir ei fod yntau yn barod i ymadael a'r hen safle herfeiddiol y safasai ami cyhyd. Parod oedd i dderjbyn unrhyw drefniant i arbed tywallt gwaed. Dat- ganodd mai ei obaith, ie, ei weddi, oedd y byddai y Senedd yn Dublin yn llwydd- iant mor fawr fel y byddai er budd i Ulster geisio am Ie ynddi; mai trwy ewyllys da ac nid trwy rym anianol y gellid dwyn hyn oddiamgylch; y gellid felly chwyddo cysur a dylanwad a nerth Pryden Fawr. Er hynny rhaid oedd iddo ef fod yn ffyddlon i'r bobl a ym- ddiriedasant eu hiawnderau i'w ddwylo. Nis gallai gydsynio a dim a beryglai urddas a rhyddid crefyddol Ulster. Canfyddir oddiwrth hyn fod ton pethau wedi newid yn fawt, ac fod apel Mr. Winston Churchill wedi cael sylw. Oherwydd ei safle fel arweinydd Tori- aid Ty y Cyffredin, ac fel arch-gyhudd- wr y Prif-weinidog, gofynol oedd cael gair gan Mr. Bonar Law. Druan ohono. Mae yn debyg mai un llednais a hynaws ddigon yw y bon- eddwr hwn mewn cylehoedd teuluol a chymdeithasol. Yn anffodus iddo, cod- wyd ef o'r rhengoedd gyda sydynrwydd hynod i fod yn arweinydd cyfoethogion ffroenuchel Lloegr. Anghydffurfiwr i arwain Eglwyswyr, ac un o'r werin i arwain ysweiniaid a man-arglwyddi y tir! Yn ychwanegol at hyn gorfodir ef yn barhaus i gyfarfod mewn brwydr a blaenoriaid y Blaid Rhyddfrydig. Ni I fu erioed mewn swydd o bwys nac yn aelod o'r cyfrin-gyngor. Y canlyniad yw ei fod fel olynydd Mr. Balfour a phrif wrthwynebydd swyddogol Mr. Asquith yn gorfod gwneud llwch o hono ei hun yn fynych. Camsynia eiriau cas am resymau a chwerwedd yspryd am gryfder. Felly y bu yn y ddadl hon. Methodd brofi yr un o'i gyhuddiadau yn erbyn y Llywodraeth. Teimlai pawb a'i gwrandawai mai methiant truenus fu ei gyfraniad yn yr ymdrechfa. Dir- wynwyd siarad y ddeuddydd i ben nos Fercher gan y Prif-Weinidog ei hun. Yn ol ei arfer, cydiai Mr. Asquith yng nghryfder ei elyn. Cyfeiriodd at y cyhuddiadau a draethwyd gan yr wrth- blaid. Profodd eu geudeb amlwg a dangosodd nad oedd iddynt gysgod o sail yn unlle. Nid yn fynych y ceid y Prif-Weinidog wedi poethi cymaint. Galwodd rhai ar Mr Bonar Law i dynnu ei gyhuddiadau yn ol, ond tystiai Mr. Asquith nad oedd o'r pwys lleiaf gan- ddo ef pa un a wnelid hynny ai peidio y medrai fforddio gadael y fath bethau gwagsaw a dirmygedig o'r neilldu gyda'r diystyrwch mwyaf. Danghosai fel yr oedd er's dyddiau wedi bod yn ateb tua chant o gwestiynnau yn y Senedd bob dydd ar bwnc Iwerddon, ond y byddai o hynny allan yn gwrthod j yn derfynol ateb unrhyw ofyniadau am symudiadau y fyddin. Cyfeiriodd gyda pharch at araith Mr. Balfour fel un oedd yn creu cyfnod. Cydnabyddai mai nid peth bychan oedd eydnabydd- I iaeth yr olaf fod Ymreolaeth bellach yn i un o'r pethau nas gellir eu rhwystro. Ni fu y Prif-Weinidog erioed yn uwch yn syniadau y wlad nag ydoedd nos Fercher. Datganodd cyn terfynu ei baro-drwydd i ystyried unrhyw ffordd i I benderfynu yr annealldwriaeth oedd rhyngddynt, ar dir anrhydeddus. Deil at ei ddatganiadau blaenorol: nad oes dim i atal cwrs Ymreolaeth Jbellach, ac j fod yn rhaid cael cydsyniad llawn y j Gwyddelod, o bob tu, yn ogystal a'r blaid Doriaidd cyn y gellir dyfod i gy- j tundeb terfynol. i Y Terfyn. I I bob diben ymarferol collwyd golwg I ar y bleidlais gondemniol yn swn y gynnau newyddion gafwyd i Ulster, ac I' o dan gyfaredd geiriau heddychlon y rhyfelwr Winston Churchill. Ffrwyth y ddadl, yn ol pob tebyg, yw yr ystwyth- der yspryd a nodwedda rai penboeth- iaid ac y ceir ar fyr ffordd anrhydeddus i heddwch. Ond rhaid oedd pleidleisio. Cafwyd 344 dros y Llywodraeth a 264 yn ei herbyn mwyafrif iach o bedwar ugain. Diddorol yw cofio mai 80 oedd y mwyafrif ymhlaid ail-ddarlleniad di- weddar Mesur Ymreolaeth; 77 dros ail- ddarlleniad y Mesur i wneud i ffwrdd a'r aml-bleidleisiau i'r un rhai; ond 84 dros ail-ddarlleniad Mesur Datgysyllt- iad yr Eglwys Sefydledig yng Nghynmi. I Cyllideb Mr. Lloyd George. "Addawyd hon \wy nag wythnos yn ol, ac y mae wedi ei gohirio ddwywaith bellach. Paham, tybed? Cystudd y Canghellor, meddai rhai; miri Ulster medd ereill. Dywed ereill mai galw yr oedd am ystyriaeth fanylach nag arfer oddiwrth y cyfrin-gyngor, ac mai dyna sydd yn cymeryd i fyny yr aml-eistedd- iadau a gafwyd yn ddiweddar. Ond beth fydd yn y Budget nesaf wys ? mae y prophwydi wrthi a'u holl egni ac a'u holl ddoethineb. Gwerir arian mawr ar yswiriaeth yn y rhagolwg am y cyfnewidiadau a ddygir i fewn gan y Canghellor. Cedwir cyfrinach y Try- sorlys er hynny fel eiddo y bedel. A wneir rhyw gyfnewidiadau yn nhrethi y fasnach feddwol? A ddileir treth y siwgr 1 Beth wneir a threth yr incwm 1 Faint fydd y swm drosglwyddir i leihau ein trethu lleo11 A wneir cychwyniad ar drethu y tiroedd gwerthfawr a ged- wir yn segur o gylch ein trefydd a'n dinasoedd mawrion ? Dyna rai o'r llu gofyniadau a glywir y dyddiau hyn. Sut bynnag yr atebir hwy, teimlir yn bur sicr y bydd Cyllideb 1914 y bwysicaf o'r oil er 1909. Peth arall y gallwn yn rhwydd hyderu ynddo: nid yw yn debygol y ceir unrhyw drefniant a wna gam a'r gweithiwr tra fyddo Mr Lloyd George yn ben-publican. Cyduna Cymru i ddymuno iechyd i galon a chryfder i fwa mawr Canghellor y Try- sorlys.

I ! Nodion o Aberafan a'r…

0 Bant i Bentan.

Dod i Mountain Ash. I

[No title]

Advertising