Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

[No title]

Nodiadau'r Golygydd.I

Ar Lannau Tawe.-I

Llyfroniaeth y "Darian."

News
Cite
Share

Llyfroniaeth y "Darian." Ni chlybuwyd erioed gymaint o gan- mol ar Ddewi, Nawddsant Cymru, ag a glywid eleni. Aeth gwleidyddiaeth am dro dan gwmwl, aeth athrylith yn ddi- werth, addysg o'r golwg, a llyfroniaeth islaw sylw. Ond y mae Dewi wedi mynd, a'r Groglith hefyd yn awr wedi mynd, a'n lluaws cyfarfodydd y mae'n anhepgor cyhoeddi eu hanes i ddarllen- wyr y "Darian" -y maent wedi mynd i fedd am flwyddyn arall, fel y mae'r ffordd yn awr yn glir i ninau ail ym- afly(Tym mhwnc ein testyn eto. Mae yma wmbredd o gwestiynnau yn aros eu tro i weled goleu dydd. Cant ymddangos gynted y bydd cyfle. Cyrnhellwn eraill eto i ysgrifennu, gan fod y Gol. yn awyddus i'r golofn hwn fod yn un mwyaf cynorthwyol i lyfr- garwyr Cymru o bob oedran. 1. Ysgrifenna Edmygydd "Hoff- wn gael gwybod drwy y golofn uchod (Llyfroniaeth y Darian) pwy sydd yn gwerthu llyfrau Eluned a elwir "Gwym- on y Mor." a "Dringo'r Andes," yng nghyda'u pris, fel y gallwyf anfon yr archeb yn foddhaol." 2. Enfyn J. G. i ofyn eto a ydyw cylch eangach presennol y "Darian" yn cyn- nwys yn awr un sydd yn foddlon gwerthu ei gopi o Ardd Aberdar." Yr wyf wedi sylwi," meddai, "fod yr un cwestiwn wedi ymddangos tua thri mis yn ol; ond hyd y gwn i, yn aflwyddiannus. Ond gan fod cylchred- iad y Darian oddiar hynny- wedi cyn- hyddu cymaint. a'r son am dano yn fwy ar led, a'r darlleniad o hono mewn canlyniad gymaint yn fwy, mae yn eithaf posibl y gellir cael allan werthwr yn awr. 3. Mae J.J. yn awyddus am gael y restr ganlynol-Balad y Mochyn Du, Y Ferch o Blwyf Penderyn, a Drws y Seler; Caneuon Die Dywyll, Gwilym Gellideg, Gwaith Gwilym Harri, Garw Dyle, Penderyn; Gardd Aberdar (1854); Y Gog Y Fwyalchen; Llinos Llais Awen (Brychan Bach). Os oes unrhyw ddarllenydd sy'n meddu un o'r uchod ar werth, bydd yn dda gennym glywed oddiwrtho, a'r pris. 4. Llysiaulyfr Price, Cwmllynfell. D.O.D. a ofyn yn mha le y gellir cael copi o'r llyfr hwn, ac hefyd yn gofyn pa un ai cyfansoddiad Price ei hunan ydyw, ynte cyfieithiad o weithiau awduron eraill. Pwy a etyb? 5. Mae D.J.E. yn anfon am wybod pa gwrs sydd oreu iddo ef, yn byw mewn cymdogaeth heb gyfleusderau ysgol nos lie y dysgir "Electricity," i ddod i wybod rhyw gymaint am y wyddor, fel ag i'w gymhwyso i lanw swyddi uwch ynglyn a hi. Os oes unrhyw ddarllen- ydd o'r Darian wedi bod mewn cyffelyb amgylchiadau, bydd yn dda gennym, er mwyn D.J.E.—ac eraill. feallai-pe rhoddai ychydig gynghorion iddo.

Cymanfa Ganu Bedyddwyr Aberdar.