Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Beirdd y Bont. I

News
Cite
Share

Beirdd y Bont. I (Parhad.) I GAN "BRYNFAB. I I DEWI HARRAN. I Un o feirdd mwyaf adnabyddus y I Bont oedd Dewi Harran. Brodor o Lanharran ydoedd, ac wedi ei fagu ;agos ar yr un ysmotyn a Llawdden. Bu y ddau yn gyfeillion mynwesol hyd brynhawn eu dyddiau. Bu Dewi yn ris dyrqhafol i lawer offeiriad ieuanc pan oedd Llawdden yn anterth .ei ddydd a'i ddylanwad yn Esgobaeth Llandaf. Mae yn debyg taw llanc lied wyllt ac anodd ei ddofi oedd Llawdden, ac yn hynny nid oedd yn wahanol i lawer o honom. Yr wyf yn cofio clywed Dewi Harran yn adrodd am ran a gymerodd i hwylusu y ffordd i ddyn ieuanc adnabyddus fyn'd trwy borth yr offeiriadaeth. Nid oedd am- heuaeth am athrylith y dyn ieuanc, 1 ond yr oedd wedi taraw ei droed yn erbyn rhyw garreg rwystr sydd wedi peri i lawer dyn ieuanc fyn'd yn oendramwnwgl. Aeth Dewi at Llaw- dden i geisio ei gynnorthwy i gael y <Iyn ieuanc ar ei draed drachefn. Wedi holi, a holi, gofynnodd Llaw- dden os oedd yn credu fod y dyn ieuanc yn werth rhoi "crys gwyn" am dano, ac ateb Dewi oedd Os buot ti yn werth rhoi crys gwyn am danat, mae y gwr hwn yn sicr o fod." Y canlyniad fu i'r dyn ieuanc hwnnw gael derbyniad llawen i'r cylch offeiriadol, a chafodd Dewi a Llawdden y boddhad mawr o'i welcd yn un o addurniadau disgleiriaf yr Eglwys, ac yn un o ddynion enwocaf y Genedl. Dyna brawf fod calon y bardd yn ei lie, ac fod athrylith yn nwydd prisfawr yn ei olwg. Yr oedd Dewi Harran yn ei fri cyn i mi ei nabod yn bersonol. Ar- werthwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, am gyfnod hir yn niwedd ei oes. Bu hefyd wrth yr un adwedigaeth a mi, ac hefyd am gryn dymor yn dilyn galwedigaeth Trebor Mai. Ei brif ymffrost oedd-na fu arno ofn bod yn ail i neb am hau cae o wenith a "thorri cot." Ond fel arwerthwr yr oedd pawb yn ei nabod y tuallan i'r cylch barddol. Yr oedd yn ddoniol gyda'i forthwyl wrth fwrdd yr ar- werthiad. Yr oedd yn nabod pawb trwy yr ardaloedd, a gwyddai i bwy yr oedd "taro i lawr," gyda sicr- wydd am y pris. Nid oedd morthwyl Dewi yn disgyn gyda chynnyg cwsmer amheus. Gofalai nad oedd nwyddau ei gyflogydd yn cael llithro "rhwng y cigfrain a'r cwn," fel y digwydd yn ami -tar arwerthwyr nad ydynt yn nabod eu hadar. Paladr o ddyn, leted a phalmant heol oedd Dewi, a chlywid swn ei droed a swn pig ei ffon, cyn ei fod yn dod i'r golwg am y gongl. Yr ,oedd golwg urddasol arno yn y drol ar fuarth amaethdy pan yn cynnyg nwyddau i gylch o bwrcaswyr. Yr ,oedd ei arabedd yn llifo ar achlysur felly, a gwyddai yn dda pa stori oedd i'w hadrodd i dynnu y "cynhyg- ion o gyfeiriadau neilltuol. Pan welai ddyn cynil ar ei bres yn "cynnyg," gwaeddai dros y lie y I gallasai pawb "gynnyg" a "chynnyg" drachefn—mai hwn a hwn oedd y cynhygydd diweddaf. Pan yn gwerthu mae ambell ar- werthydd dibrofiad a didalent yn dweyd y gwna y fuwch "fwrw llo" pryd y mynno y "prynwr." Am Dewi, dywedai ef y byddai i'r fuwch "fwrw llo" pryd y mynnai hi. Yr oedd Carnelian wedi cyfan- soddi englyn i'r arwerthydd, a byddai Dewi yn ei adrodd yn ami pan yn pregethu, ys dywedai ef- "Wrth ei fwrdd fe werthai fyd,—a'i forthwyl, Mae ef wrthi'n ddiwyd; I Myn'd i'w hwyl, 'myn'd,' 'myn'd' o hyd, A bargen ym mhob ergyd." Noson yr arwerthiad wedi gorffen gwaith y dydd, yr oedd yn ddigon o I grwth a thelyn i glywed ei arab- < edd yn llifo, ac, fel rheol, os byddai yr arwerthiad wedi bod /yn llwydd- lannus canai y "Gipsy's Tent" i gloi I y cyfarfod. Dyma y pennill cyntaf o'r gan :— "With the fire on the turf, And the tent 'neath a tree, I Carousing by moonlight How merry are we: Let the Lord boast his castle, And the Baron his hall, I Fhe home of the gipsy 1 Is the widest of all." {r oedd ei swyddfa yn Heol Taf I babell y cyfarfod" i bob dos- rth o ddynion-o brynwyr a I .g werth wyr gwartheg i feirdd cad- --e. iriol. Nid oedd un bardd yn cyni- weirio heibio ei swyddfa heb alw i fewn i gael scwrs am helynt y byd > barddol. Nid yn unig yr oedd ei swyddfa yn gynhullfan i feirdd y i Bont, ond yr oedd beirdd yr ardal- oedd cylchynol yn galw gydag ef ar ) ddiwrnod marchnad. Nid cynt nag I y byddai bardd a'i big 'trwy y drwsi, j nag y byddai Dewi yn taflu ei ysgrifell ) a'r papyrau o'r neilltu, ac yn estyn I cadair a phibell iddo. Wrth gwrs, ¡ mae agos pob bardd yn ysmygu. I Yno y gwelais Llew Llwyfo gyda'i j flwch a'i snisyn yn gwneud cam a'i .drwyn urddasol, ac yno hefyd y bum yn cyd-ysmygu ag Islwyn, nes oedd y lie fel anadl coelcerth. Ni fu y fath Sanhedrim farddol mewn man o fyd 1 a swyddfa Dewi Harran, ag eithrio, feallai, Siop Dewi Alaw yn yr un heol. Pan ddeuai cyfeillion i edrych am feirdd y Bont ar ddydd Mercher, neu nos Sadwrn, yn y ddau le hynny yr oedd dod o hyd iddynt. Perthynai Dewi Harran i'r "hen ysgol o feirdd-yr ysgol honno nad ystyrient fod cynghanedd gywrain yn farddoniaeth. Mae yn wir fod y cynganeddwyr cywrain yn awr yn cael eu galw yn "hen ysgol ond i ysgol hynach na hon y perthynai y bardd-arwerthydd. Yn y mesurau rhyddion y canai, fynychaf, er ei fod yn medru plethu y mesurau caethion yn ddigon hwylus. Ennillodd lawer o wobrwyon yn Eisteddfodau Mor- gannwg. Pan fyddai cystadleuaeth ar destyn lleol—can o glod, neu farwnad, yr oedd yn rhaid torchi llewis yr awen cyn y gallesid ei guro. Cyhoeddodd lawer darn o'i fardd- oniaeth yn y gwahanol newyddiadur- on, ac ym mhrynhawn ei oes cyhoedd- odd lyfr swllt dan yr enw, "Telyn Harran." Cafodd y gyfrol gylchred- iad helaeth ar y pryd, ac mae yn ddiddorol i mi ambell orig i edrych dros ei thannau ac ail fyw gyda'r awdur yn helyntion rhai o'r caneuon. I ddangos ansawdd awen Dewi dyma ddwy gân-dwy o nodwedd wahanol: Y GRWGNACHWR EISTEDD- I FODOL. Grwgnachwr Eisteddfodol, Dywed pam, Yr ydwyt yn wastadol Yn cael cam ? Wyt ddyn o ddawn a deall, 'Does neb, mi wn, mor gibddaIl Na wêl yn ddigon diwall, It gael cam: Ac os na chred neb arall, Crgd dy fam. 'Rwy'n cofio 4 ti ddwedyd Rhyw dro'n ol, A dweyd y gwir oet hefyd Rhyw dro'n ol, Dy fod yn colli'n fynych, Oherwydd beirniaid anwych, Na fedrent ddal ac edrych, Rhyw dro'n ol, Na theimlo nerth meddylddrych Rhyw dro'n ol. Mae'r cyfryw foes yn ddigon, Ydyw'n wir, I wneud it dorri'th galon, Ydyw'n wir; Neu wneud it beidio canu Ar destyn byth ond hynny, Ac felly'n hamddifadu 0 ffrwyth prif awen Cymru, .Ydyw'n w ir. Darllennaist I dy farddoniaeth Fel y mêI, Cyn myn'd i'r gystadleuaeth, Fel y mel: A bernaist hi yn orau, Fel gwnaeth dy fam a minnau, Dylasai'r beirniad yntau Wel'd awen wir Wfft byth i feirniad dimai, Ie'n wir. Dyma eto fel y canodd y bardd ei farwnad ei hun:- Yn unig mewn pant yn y gladdfa, Y gorwedd y bardd yn ei fedd, 'Rol brwydro a gwrthwynebiadau, Heb unwaith ymaflyd mewn cledd; Y corwynt a rua, yr awel ochrieidia, Hoff adar y bannau a ganant ei gerdd, A'r gwlithyn a geidw'i dywarchen yn werdd. Fe dreuliodd oes hir a llafurus, A'i laeswallt mor wynned a'r gwl&n; Yr unig dreftadaeth a feddai Oedd rhinwedd a theimlad ei --in: Fe genir ei odlau ar ben esgynloriau, Fe dreigla y dagrau dros ruddiau sydd hardd, Drwy oesau'r ol oesau yn fyw bydd y bardd. Ffraethineb sydd fud ar y wefus, Lefarodd nes clywodd y byd, Ei bregeth ar dd& ac ar ddefaid, Gan wella i gwsmeriaid o hyd; Fe geidw ei enw ar lenni yn loew, A'i fab y pryd hwnnw a leinw ei le, A'r byd ddwed mai cangen o'r bardd yw efe. Digwyddodd i ambell gamsyniad Drwy ystod ei fywyd i'w fedd, Camsyniad oedd hynny, nid bwriad, Gan hynny maddeuer mewn hedd; Os na wnewch chwi hynny, gadewch iddo gysgu, Nes byddo'r dadebru heb grynu o'i gryd, Maddeuir y cwbl gan Grewr y byd. Gadewch iddo orwedd yn unig Heb fawredd na rhwysg yn ei gell; Heb fynor na blodau amryliw; Mae dagrau cyfeillion yn well, Oddieithr rhoi carreg fach arw yn anrheg, I nodi yr adeg gadawodd ei ffon, A chwech o lyth'rennau—D. Harran ar hon.

Advertising

I 0 Deifi i'r Mor.

I ——————————— I : Oddiar Lechwedd…

: Llansamlet. I . I

Advertising