Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
HEVAN^ ^k I M' for ^HEDS and CARDIFF (2) NEWPORT PONTYPOOL PONTYPRIDD SWANSEA LLANELLY B Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan &Co. ,L d,Wales' argestfur ni" shers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered 1 11 immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c.
Y Stori.
Y Stori. NANNO. Cydfuddugol yn Eisteddfod Mon. GAN J. TYWI JONES. PENNOD I.—YR YMADAWIAD. Allan o dy, a'i adeiladwaith yn rhagorach na'r cyffredin o dai Llan- dderwydd, un bore, cychwynai dyn ieuanc tua thair ar hugain oed. Ffarweliai ei rieni ag ef wrth y drws; Elin a Morus Morus oeddent hwy, a Huw oedd enw'r bachgen. Prin y tybiasid wrth ei osgo fod y mab yn gadael yr aelwyd am y tro cyntaf, ac yn gwynebu ar Ddeheudir Cymru, nac wrth osgo y rhieni ychwaith, fod mab iddynt yn myned allan o gylch eu dylanwad a'u gofal. "Cym ofol 'honot dy hun, Huw," meddai'r tad. "Mt 'ffeia i Huw am hynny," meddai'r fam. "Mi 'ffeia ina fo hefyd, meddai Huw drosto ei hun. "Ddoi adra yn yr ha', deceni?" gofynai'r tad. "Felly 'rydw i'n meddwl 'rwan," atebai'r mab. "Yn gynt, hwyrach, tasa'r hen lane yna yn digwydd i heglu hi ?" aw- grymai'r tad. "Hwyrach," meddai Huw, "fasa'n fendith iddo fo a'r rhai fydd ar ol tasa fo'n cicio'r bwcad am unwaith. Mae o'r un fath yn union a mochyn; fydd o fawr gwerth i neb nes bydd o'n farw. A ma gin i ofn y bydd raid i saethu fo, cyn cawn ni 'madal a. fo." "Dos o'na, da chdi," meddai'r fam, a chwarddasant ha ha gyda'u gilydd, yn union fel pe dywedasai Huw ryw- berth o werth i'w glywed. Botymodd Huw ei got uchaf a cherddodd yn gefnsyth a mawreddog i gyfeiriad pen ucha'r pentref. Fel rheol i'r cyfeiriad arall, i Benmorfa, yr elai y pentrefwyr i gyfarfod y car, ond yr oedd gan Huw reswm heddyw dros gychwyn yn foreuach a chymer- yd ffordd wahanol. Yr oedd ganddo gariad, a disgwyliai hi i'w gyfarfod. Ni fu swyn erioed i Huw Morus ym mro ei dadau. Ni chymylai cysgod o hiraeth am ddim ar ei feddwl y bore hwn. Nid oedd gan na phant na chlogwyn, na grug nac eithin, na dim ar a welai air i'w ddyweyd wrtho, na chand do yntau wrthynt hwythau ychwaith. Gadael "hen Ie annifyr wnai ef, am le y cai ynddo fwy o ryddid i ddilyn ei dueddiadau, heb ddiaconiaid a gweinidogion i'w rybuddio a'i gynghori yn barhaus, a'i geryddu am bob dim a wnai allan o le. ,ntref ar ol, trodd Pan yn gadael y pentref ar ol, trodd ei olwg i fyny i gyfeiriad Poncybwth, a gwelodd Jac Martin wrth y ty fel pe'n parotoi i fynd i rywle. "Faswn i," meddai Huw ynddo'i hun,. yn mynd i'r Sowth yn fwy dedwydd, taswn i'n cael cyfla i roi tro yng nghorn dy wddw di, was, cyn mynd." Aeth Huw yn ei flaen ychydig, a chymerodd y ffordd droai i'r aswy. Ar groeslon Rhoseithin y bwriadai gyfarfod car clai i Fangor. Mewn ffermdy heb fod yn mhell o'r groes- lon, ac o'r un enw y gweinai y ferch a ddisgwyliai. Nid aeth ymhell nas gwelai hi yn dod i'w gyfarfod. Adwaenai y ddau eu gilydd er pan yn blant; er's rhai blynyddoedd gwnaethent broffes o ffyddlondeb y naill i'r Hall. Rhianon Meurig oedd y ferch; ond "Nanno," y ffurf rodd- asai'r plant i'w henw, lynai wrthi o hyd. Pan welodd Huw hi o bell, cofiodd eto gyda gradd o chwerwder am yr "hen lane." l$>vythr cyfoethog i Nanno oedd hwn, ac o'i eiddo ef y disgwyliai Huw ffortiwn iddo'i hun. Ni charem ddyweyd nad oedd gan Huw gryn feddwl o Nanno, ond y mae braidd yn sicr na syrthiasai mewn cariad a hi, pe na buasai rhag- olygon am gyfoeth iddi. Mewn un ystyr nid oedd tlotach Nanno yn yr ardal; ac er nad oedd ei harddach ychwaith, diau y cyfrifasid hi yn gaffaeliad rhy wael i Huw Morus onibae am y sicrwydd y deuai cyfoeth yr hen lane iddi. 0 dan yr am- gylchiadau cyfrifid Huw yn fachgen a llygad 'yn ei ben. Arafodd Nanno pan welodd Huw. Ychydig o orchest fyddai desgrifio ei hymddangosiad hi y boreu hwn. Tra yr elai ereill i draul fawr i wneyd eu hunain yn hardd, gyrrai symlrwydd diymdrech Nanno hwynt oil i'r cysgod. Yr oedd o faintioli cyffredin a'i chorph yn lluniaidd a chydbwys. Mynych yr eiddigeddwyd at y cnwd hardd o wallt gwineu tywyll a osodai yn droellau tlysion o'r tu ol i'w phen. Byddai son am ffasiwn mewn cysyllti- ad & Nanno mor chwithig a phe son- iasid am ffasiwn y rhosyn neu y lili. Gwyneb Nanno dynai sylw pawb. Yr oedd gwrid naturiol yn ei gruddiau llawnion; ei thalcen yn Uydan a I lluniaidd; ei haeliau yn fwaau pryd- J ferth yn cysgodi llygaid duon byw, a phurdeb a thynerwch yn disgleirio ynddynt; ei thrwyn yn lluniaidd; ei gwefusau yn gochion fel ceirios addfed; ei gen yn dlos ac o osodiad cadarn. Yr oedd tlvsni rhinwedd ei chymeriad hefyd fel pe'n ymwthio i'r golwg yn ei hwyneb, a gwyleidd-dra pur yn coroni'r oil. Er hyn i gyd, mynych y sylwai, llawer ei fod yn rhyfedd i "hogen weini" dlawd sicrhau y bachgen "clyfra" yn y pentre', mab i adeil- adydd a ystyrrid yn gefnog ac yn grefftwr da ei hun. Gallai Huw, pe'r ewyllysiai, meddai y rhai hyn, gael y ferch "noblia" yn Llandderwydd a'r cylch. Cyfoeth hen lane nas gallai fyw yn hir a esboniai'r peth; ar wahan i hyn byddai priodas rhwng y ddau yn wrthuni i'r eithaf yng ngolwg llawer. Nid oedd rhai o ferched ieuainc yr ardal heb deimlo'n flin fod unrhyw hen lane yn medru gwneyd y rhag- olygon mor oleu i "hogen weini." "Bore da, Nanno," meddai Huw. "Bore da i chitha, Huw," meddai N anno. Braidd yn siomedig y teimlai Nanno wrth weled Huw mor ysgafn ei ys- bryd ar ei ymadawiad a'r hen fro. "Fydd arnoch chi ddim hiraeth ar ol yr hen ardal, Huw?" gofynai. I "Na fydd, 'n taid," meddai Huw. "Wei, 'rydach chi'n hogyn rhyfadd, a chitha wedich magu yma er pan oeddach chi'n fychan," meddai Nanno. "Hen le annifyr ydi o, tha gin i 'mono fo. 'Does yma ddim i wel'd na'i glywad byth," meddai Huw. "Be' haru chi, Huw, o ddifri' 'rwan! Fydda inna'n meddwl bob amser y basa'n anodd cael lie tlysach a difyrrach na fo," meddai Nanno. "Wn i ddim be'dach chi'n wel'd ynno fo," meddai Huw. 'Sbiwch Huw ar y poncia yma, a'r creigiau a'r mor, a mynyddoedd Arfon. 'Toes yma lon'd y'ch llygaid chi o dlysni yn mhob man. 'Sbiwch ar yr eithin yn dechra blodeuo, fydd rheina fel llwyni yn Uosgi heb 'u difa'n fuan iawn," meddai Nanno. "Ie, ond be' dal rheina? Fedrwch chi mo 'u bwyta nhw," meddai Huw. "Na, on' fyddwch chitha'n cael digon o fwyd da a dillad hefyd," meddai N anno. 'Does yma ddim cwmpeini o un gwerth," meddai Huw. Daeth cwmwl dros wyneb Nanno, a bu ddistaw am ennyd. "O," meddai, gyda theimlad yn y man, "fella bydd yn dda gynnoch chi gofio am yr hen Landderwydd dlawd rywbryd, Huw." Wedi iddynt gyrraedd croes Rhos- eithin, taflodd Huw ei olwg i'r cyf- eiriad y disgwylient y car ohono, a gwelai nas gallai gyrraedd am ddeng mynud o leiaf. Yna aeth ef a Nanno yn ol gam i'r ffordd y daethent ohoni. 'Roeddent yno mewn cysgod rhag y gwynt a chwythai'n oer o'r gogledd, ac yn wyneb haul gwan y gwan- wyn cynnar. Golygfa swynol i'r meddwl oedd deuddyn ieuanc, yn edrych yn myw llygaid eu gilydd ac yn mynegu teiml- ad eu calor.nau y naill i'r llall, a deigryn a gwen, heulwen a chwmwl yn goleuo ac yn tywyllu yr olygfa yn eu tro. Pwysai ei. ymadawiad & Nanno yn drymach ar feddwl Huw fel y dynesai yr amser. Pe syllid yn fanylach arni, ceid allan fod cymylau hacrach o bell yn taflu eu cysgod ar yr olygfa. Pwysai rhywbeth trymach na'r ymadawiad, ynddo'i hun, ar feddwl Nanno. Nid oedd ganddi ffydd yn yr hwn a garai. Cofiai iddi gael achlysur droion i brotestio yn erbyn amhriodoldeb ei ymddygiadau, os nad i ameu didwylledd ei amcanion. Ni oerasai hyn ei serch tuag ato; parodd iddi yn hytrach deimlo mor angherdd- ol y carai ef, yn awr yn arbennig pan welai ef yn myned allan o gylch ei dylanwad. Deuai arwyddion o bryd- er i'w hwyneb hardd pan nas gallai ond darllen dyfodol, oedd yn dywyll iddi ar y gore, yn ei wyneb ef. Nid gwyneb pn na throai ar y dde nac ar yr aswy ydoedd. Yr oedd gwamal- rwydd a rhywbeth gwaeth yn amlwg yn ei lygaid. Yr oedd llygaid Nanno heddyw, hefyd, yn graffach nag ar- fer. Mawreddog a hunan-hyderus oedd Huw, pan dybiai Nanno druan y dylasai fod yn drist. Parai y pethau hyn boen iddi. Ni sylwasai arnynt o'r blaen, er eu bod yn ddigon hysbys ji creill, a llawer o siarad am danynt. Cofiai hithau yn awr, ym mwlch yr ymadawiad, yr hen ddihareb am ddellni cariad. Caru yn angherddol oedd ei phrofiad, heb allu ond go- beithio'r goreu am y dyfodol, ac yng ngwaelod ei chalon, nid oedd heb ofni'r gwaethaf. (I barhau.)
0 Wy i Dywi. I -I
0 Wy i Dywi. I GORSAFOEDD RHUFEINIG. I Danghoswyd yn ein gwers ddiwedd- af y dull effeithiol gymerodd Julius Frontinus, drwy ei gyfundrefn ar- dderchog o heolydd, i ddal gafael gadarn yn Siluria. Ni chyrhaeddai I hynny yr amcan yn llwyr heb nifer o orsafoedd hwnt ac yma hyd lwybrau y sarnau y gallai'r milwyr ynddynt fwynhau gradd o ddiogelwch, ac o honynt ruthro i ostegu pob cythrwfl allasai godi o du y brodorion. Wedi i chwi ddeall daearyddiaeth y sarnau hawdd hefyd fydd i chwi ddeall safleoedd y gorsafoedd, am mai an- ami y byddent bell o ryw sarn neu gilydd. Amrywiai y gorsafoedd hyn yn eu maintioli a'u pwys fel yr am- rywiai yr ardaloedd reolid ganddynt yn eu gwerth a'u cryfder. Gwahan- ieithent hefyd ym mharhad y defnydd wneid o honynt, canys trigiannid rhai o honynt mor gwbl gyson a pharhaus nes y daethont o dipyn i beth yn ddinasoedd sefydlog. Ereill ar y llaw arall a ddefnyddid, ond ar yr achlysuron a alwent am hynny, ac ni fuasid yn gwybod dim am fodol- aeth llawer o honynt heddyw onibae am y profion sicr sydd yn yr ad- feilion eu hunain am eu pwrpas gynt, Amlwg yw felly mai yn y dosbarth cyntaf y mae inni ddisgwyl am y mwyafrif o wrthrychau ac olion Rhufeinig, yn union am yr un rheswm ag y gellir disgwyl mwy o greiriau teuluol mewn murddyn ty o drigianiad hen nag yn adfeilion ty newydd. Ond er y gwahaniaeth rhwng gorsaf a gorsaf mewn rhai pethau yr oedd un peth yn yr hwn nid oedd nemawr gwahaniaeth o gwbl, sef ffurf y gwer- syll. Pedair onglog ydoedd yn ddieithriad. Yr ydys wedi sylwi o'r blaen mai lled-grwn (oval) oedd amddiffynfeydd yr hen Frytaniaid, ac mai yr un peth oedd eiddo y Daniaid hwythau hefyd. Hawdd pencferfynu felly pa un ai Rhufeinig ai arall ydyw un- rhyw wersyll milwrol ddarganfyddir yn ein talaith. Ac y mae yn syn gynifer ydynt rhwng Wy a Thywi. Gan mai ennyn eich diddordeb yn "yr hyn a fu ac i ddangos ichwi yr "hanes wrth eich ymyl" yw diben hyn o wersi beth pe baem yn awr yn dechreu nodi. Ond cyn gwneud hyny rhaid crybwyll un ffaith fach arall, sef bod y Rhufeiniaid ar brydiau yn defnyddio rhai o hen wersylloedd y Brytaniaid i'w pwrpas eu hun. Den- gys y Bwlwarcau (Llangynnwyd) hynny yn eglur lie y gellir olrain heb unrhyw drafferth yr ysgwar Rufeinig tua chanol yr hen gylch mawr Prydeinig. Dywedir i mi fod yr un peth i'w weled yn amddiffynfa Bellin- stocke yng ngwlad Gwent. GORSAFOEDD RHUFEINIG YN SILURIA. Yn awr ynte at y rhestr Cymerwn yn gyntaf y Via Julia Maritima o Gaerllion i Gaerfyrddin gyda glan y mor, ac yn ei hymyl ni gawn Gorsaf Gaerllion ei hun, un o'r pwysicaf ym Mhrydain am mai yma y trigodd yr Ail Leng am dros ddwy ganrif. Gorsaf Kemeys, yng Nghoed Gwent. Gorsaf Cae Castell, ger St. Mellon's Gorsaf Caerdydd (Caerdidi), yn y man y saif y Castell Normanaidd presennol ynghanol y ddinas. Gorsaf Pentyrch. Gorsaf Caer Elwy. Yn ymyl mae Rhyd-y-Sarn, lie croesai y Via Julia yr afon Elwy. Gorsaf y Caerau. Saif Eglwys y Caerau ynghanol y gwersyll. Gorsafoedd St. Nicholas, Bonvil- stone, y Bontfaen, Brocastle, Myn- ydd y Gaer (Melin Ifan Ddu), a Chyn- ffig. Gorsaf Nidum (Castellnedd). Nid oes sicrwydd am leoliad pendant hon. Credir gan rai, ond ar ba sail ni awgrymir, mai mynwent yr hen eglwys yw y man. Gorsaf Mynydd y Gwair (llygriad am Gaer yn ddiau) i'r gogledd o Ben- llergaer. Gorsaf Casllwchwr (Carn Goch). Ar y Via Julia Montana, drwy Gymoedd Wysc a Thywi- Gorsaf Penrhos, ychydig i'r gogledd o Gaerllion. Gorsaf y Gaer (Cwmdu) a chwili- i wyd gan Garnhunanawc, ein hyn- afieithydd ac hanesydd enwog. Gorsaf y Gaer (Aberhonddu), lle'r vmarlhvys Yscir i Wysc, un o'r gwersylloedd pwysicaf ym Mrych- einiog. Gorsaf Llanfair-ar-y-Bryn (Llanym- ddyfri). Ar y Sarn Hir o Gaerdydd i Aber- honddu- Gorsaf Gelligaer, ddadorchuddiwyd mor fanwl yn ddiweddar. Gorsaf Penydarren (Merthyr). Yn ei hymyl mae Pontsarn, lie croesai yr hen heol y Daf Fechan. Ar y Sarn Helen o Gastellnedd i Aberhonddu- Gorsaf y Banwen, ger y Colbren. Ar Heol y Moch, Mynydd Margam: Gorsaf Blaen Cynffig. j Gorsaf Bwlwarcau.  Heblaw y gorsafoedd hyn gellir j enwi Sudbrook, ger Casgwent (un o'r rhai henaf, lie y tiriodd Julius Frontinus gyntaf); Castell Collen (Llandrindod), a Chaergaio (Dolau- cothi), yr oil yn gysylltiedig a'r prif sarnau drwy groesffyrdd lleol. =====
————————I Gwraig o Aberdar…
———————— I Gwraig o Aberdar yn rhoi Tystiolaeth. I Y mae gwerth tystiolaeth leol yn beth diamheuol. Dyna y fath dystiol- aeth a dderbyniwn fel gwirionedd, j am y gwyddwn y gallwn ei brofi dros- I om ein hunain. Y mae cyflawnder o dystiolaethau o'r fath wedi bod yn j mhapyrau Aberdar yn ddiweddar, ac i y mae y dystiolaeth uniawn hon wedi | sefydlu ymddiriedaeth yn meddyliau J pobl Aberdar nad ysgydwir yn fuan. Mrs. M. Copner, 8 Harriet Street, yn agos i'r Llyfrgell Rydd a'r Neu- j add Gyhoeddus, Trecynon, Aberdar, I a ddywed Er fy mod. yn agos i un-ar-bymtheg-a-thri ugain mlwydd j oed da gennyf allu dweyd fy mod yn mwynhau iechyd da o hyd. Modd bynnag yr wyf wedi cael ymosodiad- au achlysurol o anhwylder yr arenau yn nghyd ag ambell gyffyrddiad o'r gwynegon. Yr oedd y poenau yn fy nghefn mor llym fel ar adegau yr oeddwn bron yn analluog i droi yn fy ngwely. "Arferwn deimlo yn flinedig iawn yn y boreuau, ac fel pe heb gael dim gorphwysdra. Yr oedd fy mhen yn boenus, a chaff wn ysbeidiau o ben- ysgafndra hefyd. Rhoddai cyfun- drefn y dwfr gryn ofid i mi ar am- serau. "Ond yr wyf wedi cael bob amser belenau poen cefn Doan at yr arenau vn rhagorol ar gyfer yr anhwylder. Yr wyf wedi eu cymeryd yn awr ac yn y man am flynyddau, ac y maent yn wastad wedi gwneyd mawr dda i mi drwy symud y poen, fy sirioli, a chywiro anrhefn y dwfr. Bydd i mi yn wastad roddi gair da i belenau Doan, oblegid teilyngant yr holl glod a ellir roddi iddynt. (Ar- wyddwyd) (Mrs.) M. Copner." Pris 2s. 9C. y blwch, chwech o flychau am 13s. gc., oddiwrth yr holl werth wyr, neu oddiwrth Foster McClellan Co., 8 Wells Street, Ox- ford Street, London, W. Peidiwch gofyn am belenau poen cefn a'r arenau-gofynwch yn glir am belenau poen cefn Doan at yr arenau, y fath ag a gafodd Mrs. Copner.
Cymanfa Ganu Bedyddwyr Cylch…
Cymanfa Ganu Bedyddwyr Cylch Caerffili. Credaf fod y Gymanfa hon a gynhal- iwyd Llun y Pasg yn haeddu sylw helaethach nag a gafodd yn y "Darian" ar gyfrif yr ymdrech awned i dynnu allan y talentau sydd yn blaguro yn ein mysg. Un o'r lie oedd yr arweinydd, sef Mr Tom Thomas, arweinydd y gan yn Salem, Senghenydd. Yr oedd ei fedr yn agoriad llygaid i lawer. Efe hefyd gyfansoddasai yr anthem i rai mewn oed ar y geiriau, Nid i ni, ond i'th enw dy hun dod ogoniant." Caf- wyd hwyl hefyd wrth ganu tonau o waith eraill o'r lie, sef Hephzibah," gan Mr J. Byron Jones, L. T.S.C., ar- weinydd Bedwas, ar eiriau o eiddo'r Parch. Llwchwr Jones; "Tonyfelin," eto, gan Mr Fred Watts, Caerffili, dyn ieuanc a rhagolygon disglaer iddo; Cynog," ton o waith Mr T. Rowland Davies, A. C., Caerffili, bydd hon yn debyg o ddod yn boblogaidd. Cafwyd dwy don goffa am aelodau o Salem, Senghenydd, a Beula, Abertridwr, a gollwyd yn y Danchwa. Un oedd "Bod yn barod," gan Mr T. Thomas, yr ar- weinydd, a'r llall oedd "Hiraeth," gan Mr Morris Lewis, arweinydd Beula. Dan deimlad dwys y cenid y rhai hyn. Yn y boreu yr oedd cyfarfod y plant, a chawd canu peraidd. Yn hwn cawd yr anthem, Filwyr Iesu" (J. Hughes, A.C., Llanilltyd Fardref). Cyfeiliwyd gan Miss C. Harris, Bedwas, a Miss Markham, Abertridwr. Ar y diwedd gwnaed cyfeiriadau at Danchwa Seng- henydd a'r golled gawsai Salem, Seng- henydd, a Beula, Abertridwr, a chod- odd y dorf mewn distawrwydd i ddan- gos eu cydymdeimlad. GOH.
Advertising
M *41 a c?  < ?    ? ?? O?d?woh Iml slarad a ehwi am I ?????'. DdiHyg Gwaed I ^Cyfansoddir ein gwaed gan gelloedd m ?—? ?? ?T???f coch a gwyn-y coch i faethu'r codf, f y gwyn i ymladd ag afiechyd. Mewn L Diffyg Gwaed, mae'r celloedd cochion yn ddiffygiol, fwy neu lai. Felly ni all y gwaed gynnal y corff yn briodol Kg) a'i faethu. Mae'r Ilygaid yn farwaidd, J wyneb yn wyn, a daw teimlad o ludded difrifol drwy yr holl gyfan- ■ ?!N soddiad. N id oes dim mor effeithiol W I N mewn achos o Ddiffyg Gwaed a ? ? ?? '?t 'Wmcarnis'Oherwyddllemw'Wm- L f ? ] ? camis' y codf a ?aw? cock, fMcy?, eyfoethog, a rydd ddisgleirdeb yn y |HmV/ ? \??t Uygaid, ddwg rosynnau i'r gruddiau, OHV/ VVy  M ac a rydd ynni fMtt?M, bywiogrwydd j????? ? X <$w?M, a bywyd ?ay? i'r hoU gor?. ■■■ .? Dechrenwch weft yn |N \?f RHAD \J?N .n.nwcb am bn<w<-<MtM! rhad 0 WIWRmig -Iud rbyw B« end digon i wn?Md U<s. Am?mMtt NB?ENN? ''???M ttisttunpotintog (i dtdu'fctudi?d) ■H GSHMHIHL ?NN? COLBMAN A CO.. LTD.. H ?/ W. <M. WiacMa? W?tz. NorwWb.  "QwIa y x^ymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J 1 ll"ORGE'S"f' mE?ER?L? JJ? ? PILLS   ??? Or: )tt MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddygioiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. i. -George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.-3eorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd.glodus hyn yn mhob man, mewn Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochetwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am "jGeorge'a Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.R.P.Ses HIRWAIN, ABERDARE.