Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
I 0 Bant i Bentan. I
I 0 Bant i Bentan. I Bu rhywrai yn twrio yng nghastell Hwlffordd yn ystod yr wythnos ddi- weddaf, a danganfuwyd dwy ystafell na welwyd mohonynt o'r blaen. Bernir fod ffyrdd tanddaearol yn ar- wain o un o honynt i wahanol rannau'r dref. Daethpwyd o hyd i esgyrn yno, a bernir mai esgyrn dynol ydynt. Agorwyd ystafell arall yn un o'r tyrrau yn bedair troedfedd sgwar. Adeiladwyd y Castell pan deyrnasai Stephen gan Gilbert de Clare ar ffurf hanner crwn er diogelu'r estroniaid a ddaeth i'r wlad i'w Iladrata oddiar y Cymry. Ei ddiben felly oedd gwas- anaethu fel ogof lladron. Yn amser Stephen teflid dynion gan yr an- rheithwyr i ystafelloedd o'r fath, a phwy wyr nad esgyrn rhai o'r tru- einiaid hynny a ddygir i'r amlwg hedd- yw. Teflir gole ar Dwr Babel gan ym- chwiliadau diweddar. Yn adroddtad swyddogion Cymdeithas Ddwyreiniol yr Almaen sydd yn bresennol ym Mabilon, hysbysir ddyfod ohonynt o hyd i sylfaen y Twr enwog hwnnw oedd yn un o ryfeddodau yr hen fyd. Dywedir ei fod yn bedair ongl ac yn gan Hath o bob tu ar y gwaelod. Ar yr ochr dde darganfuwyd grisiau allanol a arweiniai i'r llofft gyntaf. Y mae un ar bumtheg o'r grisiau wedi eu diogelu, ac ym mesur chwe troedfedd ar hugain o led. Bu farw yn ddiweddar un o am- ddiffynwyr mwyaf pybr y ddamcan- iaeth mai Bacon oedd awdur gweithiau Shakspeare, sef Syr E. Darming- Lawrence. Dywedir mai ofer dadl ar y mater hwn bellach, ond manteisiai'r gwr uchod ar bob cyfle i'w hamddiff- yn. Credir y dylid gadael i Shakspeare barhau yn anfarwol am ddau reswm, sef tystiolaeth cyd-oeswr ei fod yn athrylithgar yn ei ymddiddanion, a'r gweddillion barddonol a adawodd Bacon ar ol sydd ymhell o brofi ei allu i gyfansoddi barddoniaeth uchelryw o nodwedd eiddo'r prifardd Saesneg. Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol 1915 yn Aberystwyth. Sibrydir mai cadair arian fechan a gynhygir am yr awdl yn lie cadair dderw fel arfer. Gwell fyddai i'r pwyllgor ymgynghori a'r beirdd cyn mentro ar newyddbeth felly rhag eu tynnu am ei ben. Bydd yn chwith gweled yr Eisteddfod heb hwyl fawr y cadeirio. Y mae Cymdeithas Genhadol Llun- dain eleni yn 129 mlwydd oed. Cych- wynwyd hi yn anenwadol, ond erbyn heddyw yr Annibynwyr sydd fwyaf blaenllaw yn ei chefnogi. Llesteirir hi ers rhai blynyddoedd gan faich o ddyled sydd wedi cyrraedd ^70,000 yn bresennol. Penderfynodd y Cyfar- ,ioo,ooo er dileu y er dileu y ddyled a gosod y gymdcithas ar syl- faeni cryfach nag crioed mewn ystyr ariannol. Addawyd ^78,000 yn barod, ac y mae argoel dda y llwyddir yn yr amcan mewn golwg. Gwneir ym- drech i godi'r casgliad blynyddol yn ,C30,000 yn fwy nag arferol. Yn eu sel wleidyddol anturiodd dau o lywodraethwyr Prifysgol Bangor, sef Arglwyddi Kenyon a Phenrhyn, fanteisio ar eu safleoedd i godi an- awsterau ar ffordd Mesur Dadwadd- oli'r Eglwys. Danfonwyd pamffledyn i'r llywodraethwyr ereill yn bygwth galanas os pesid y Mesur. Dywedai un siaradwr yn hytrach na gadael i Arglwyddi Toriaidd rwystro ymdaith symudiadau gwerinol, y codai'r wlad j'r adwy ac y gofalai na chai'r coleg weled eisieu er colli cefnogaeth y cyfoethogion Toriaidd. Cantores a wnaeth enw iddi ei hun yng Nghyngerdd Covent Gardens nos Fawrth, Ebrill 22, yw Miss Bessie Jones, y soprano, o Donypandy. Gwnaeth Miss Dilys Jones, Cymraes arall, waith da yn yr un cyngherddau. Dywenydd gan bob Cymro yw gweled y bonesau hyn yn codi eu cenedl ym fyd y gan. Bendith arnynt.
Gadlys. I
Gadlys. I MARWOLAETH MRS. HOPKINS. I Blin gennym orfod cofnodi hanes marw a chladdu Mrs. E. Hopkins, priod Mr. Daniel Hopkins (overman), a mam Mr. E. J. Hopkins, organydd y Gadlys. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Evan Davies, Oxford Street, diacon a chyhoeddwr cyntaf eglwys y Bed- yddwyr yn y Gadlys sydd er's blynydd- oedd wedi myned at ei wobr, ond y mae ei mam yn aros ac mewn gwth o oedran. Bu'r chwaer ragorol hon tarw, a hi yn 51 mlwydd oed. Dech- reuodd grefydda yn ieuanc. Bedyddi- wyd hi yn 14 oed gan y diweddar Barch. B. Evans, Telynfab; addurnai ei phroffes, a chai bleser mawr mewn myfyrio llyfrau da, a'r Beibl yn bennaf. Yr oedd yn gadarn yn yr Ysgrythyrrau, ac yn barod i roi ateb bob amser am y gobaith oedd ynddi. CJafodd gystudd maith a blin, ond yr oedd ei diddordeb yn yr achos yn parhau wedi methu ohoni fynychu'r cyfarfodydd. Saith mlynedd yn ol cafodd ergyd o'r parlys, ond dioddefai dan y ddyrnod yn siriol a thawel. Byddai ei hymddiddani'on yn grefydd- ol, a nodweddid ei chymdeithas gan ryw naws ysprydol fyddai yn foddion o ras gwirioneddol. Priodol iawn oedd ei geiriau olaf, "Byw i mi yw Crist, a marw sydd elw," am eu bod yn fynegiad o'i phrofiad ei hunan mewn byw ac angeu. Bu farw prynhawn dydd Mercher, Ebrill i5fed, a rhoed ei rhan ddaearol i orffwys yn y gweryd y Llun canlynol yn y Gladdfa Gyhoeddus. Daeth torf ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Gwasanaethwyd gan ei gweinidog, y Parch. D. Bassett, a gwnaeth sylwad- au pwrpasol ar ei geiriau olaf ar lan ei bedd. Cynorthwyid ef gan y Parchn. J. Sulgwyn Davies, Siloh, a D. Hop- kin, B.A., Noddfa. Derbyniwyd llyth- yrrau cydymdeimlad oddiwrth y Parchn. Myles Griffiths, Lerpwl; R. Gwenffrwd Hughes, Pontlottyn, a Mr. T. G. Davies, Llanelli. Ymhlith y lli- aws gwelwyd y Cynghorwr W. M. Llewelyn, M.E.; a Mri. W. Eynon, M. E., T. Davies, organnydd, Cal- faria, etc. Y prif alarwyr oeddynt D. Hop- kins, priod; E. J. Hopkins, mab; Mrs. a Miss Davies, mam a chwaer; Mr. a Mrs. W. E. Davies; Mr. a Mrs. J. E. Davies; Annie Mary a Maggie Davies, nithod; Ivor Davies, nai, a llu o berth- ynasau. Heddwch i'w llwch hyd fore'r codi. Ei henw'n perarogli sydd A'i hun mor dawel yw.
f i |Methiant Gieuol.
f i Methiant Gieuol. Poen Giau, Gwendid Giau, Pengur Gieuol, ac Anhunedd. Yr oil wedi eu hiachau yn llwyr gan OABLEDI DR. CASSELL. Y mae gallu rhyfeddol Tabledi Dr. Cassell i'w weld yn amlwg yn hanes Mrs. R. Eltham, 11 Fifth avenue, Manor Park, London, E. hi:— Dioddefaswn mor hir oddiwrth feth- iant gieuol, nes yr aethwn yn drwyadl wael fy iechyd, ac mor wan fel yr oedd popeth a geisiwn wneud yn orchest. Cawn gur cas yn fy mhen bron yn ddyddiol, ac. ymos- odiadau creulon o Mrs. Eltham, London. boen giau. Yna daeth gwendid giau i'm coes. v Yr oedd yn union fel pe gwenid pinnau a nodwyddau i.mewn i mi. I ychwanegu at fy ngofidiau nis gallwn gysgu. Yn ofer y rhoddais brawf ar y naill beth ar ol y Hall. Beth bynnag, pan gefais Dabledi Dr. Cassell, cefais leshad buan. Rhoddasant fywyd newydd ynnof, ac nid anghofiaf eu cy- meradwyo. Y mae gwellhad ar ol gwellhad, hyd yn oed yn yr achosion mwyaf eithafol, wedi profi mai Tabledi Dr. Cassell yw y feddyginiaeth sicraf a ddyfeisiwyd at Fethant y Nerves, Tlodi Gwaed, Gwen- did, Diffyg Cwsg, Poen Giau, Curiad y Galon, Afreoleiddiwch y Stumog a'r Arennau, Gwendid Plant, Parlysiad y Cefn a'r Giau, Dihysbyddiad Cyffredin- ol o Nerth y Corff, Lludded yr Ymen- ydd, a phob math ar fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd., 418 Chester Road, Manchester, am sampl rhad. Gwerthir y Tabledi gan yr holl Fferyllwyr am loid., lB. llc., a 2s. 9c.—y maint olaf yw y rhataf yn y diwedd. I
Ar Lannau Tawe. I
Ar Lannau Tawe. Rhoddodd Cwmni Dramodol y Rhos, dan arweiniad Mr. David L. Jenkins, berfformiad rhagorol o'r ddrama, Beddau'r Proffwydi" (W. J. Gruffydd) yn Neuadd Gyhoeddus, Clydach, nos Sadwrn diweddaf. Danghosodd y chwareuwyr gryn lawer o fedr a haeddant y gymeradwy- aeth uchaf. Daeth cynhulliad da ynghyd i weled y ddrama, ond gallas- ai'r lie fod yn llawnach. Bu'r Cwmni'n braidd yn ddiweddar. yn ymweled a ni y tro hwn. Clywaf fod Cangen Clydach-ar- Dawe o'r N.S.P.C.C. wedi anfon cyfran o ^33 i'r "Central Fund am y flwyddyn bresennol. Da iawn. I Claddwyd yr hen wraig, Mrs. Ann Hearne, priod Mr. James Hearne, o Ynystawe, ym Mynwent St. loan, Clydach, prynhawn Sadwrn diweddaf. Un o'r aelodau mwyaf ffyddlon yn Eglwys St. Mari oedd yr hen chwaer, a chafodd angladd lluosog a pharchus iawn. Cynhaliodd Cymdeithas Ddirwestol y Merched wledd a chyfarfod cy- hoeddus yng Nghapel Wesley, Clydach, dydd lau diweddaf. Liywydd- odd Mrs. Grey-Jones, a rhoddqdd Mrs. Watkin Williams, o Abertawe, araith ddiddorol yn ystod y cyfarfod. Pen- derfynwyd ffurfio cangen "ieuainc" o'r Gymdeithas, ac etholwyd swyddogion a phwyllgor. Cymerodd siop waith Mr. Robert J. Jones, contractor, Nantlowrog, Clyd- ach, dan boreu dydd Iau diweddaf, a llosgodd yn llwyr i'r llawr. Credir fod y t&n wedi dechreu mewn rhyw ychydig o wellt a sarn oedd dan yr adeilad, a thybir taw rhyw dramp ar daith a wnaethai'r drwg. Bernir fod y golled yn agos i £ 500. Dymunaf ddatgan fy nghydymdeimlad a'm cyfaill ar ei golled ddifrifol. Mwynhaodd cynulleidfa luosog nos- on ddedwydd yn Neuadd Mond, Clyd- ach, dydd Mercher diweddaf, pan roddwyd cyngerdd ddiddorol gan y Mond Orchestra, dan arweiniad Dr. Senn. Talodd Adjutant Arthur W. Robin- son, swyddog dosbarth dros Gymru o Fyddin yr Iachawdwriaeth, ymweliad a Chlydach nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, a darlithiodd i gynhulliad lluosog yn y Neuadd Gyhoeddus ar Broken Earthenware Re-made. Llywyddodd y boneddwr Mr. W. J. Percy Player. Cafodd Mrs. John, priod Mr. David John, Heol Fardre, Clydach, ei bwrw i lawr yn ddamweiniol gan fodur ar Bont Nantlowrog yr wythnos ddi- weddaf. Ond safiodd vn dda rhaer niwed. LLEW.
Colofn y Gohebiaethau. I
Colofn y Gohebiaethau. HENRY LEWIS A'R ADOLYG- IAD." Syr,—Atebaf, ar y mater hwn, y neb y mae a wnelof ag ef. Ni atebaf ysgrifenwyr cynorthwyol. Wrth Henry ei hun, mi ddwedwn, "Gwarchodwch adref, 'Henry' bach, gresyn fyddai i chwi gael eich dal gan y gwlaw all fod ar ddisgyn, a'ch gwisg mor deneu" A glywsoch chwi'r hen air, Bid ryddoch chwi, wyr Pentyrch a'ch gilydd?" COH. j ADOLYGYDD YR "ADOLYGIAD" Mr. Gol.Mawr boen gymercdd eich "Gohebydd Arall" i geisio gwybod pwy wyf fi, feiddiodd ddweyd fy main am Gofiant y Parch. R. Thomas, Glandwr. I Tybia fod rhyw ddigwyddiad wedi fy "hunaniaethu," chwedl yntau. Pwy bynnag wyf fi, mae efe wedi "hunan- iaethu" (! !) ei hun i'r neb sydd gyf- r arwydd a'i Gymraeg (1) mewn cylch- oedd eraill. Mae efe yn rhy onest i i guddio ei hun nis gall mo'r help mae rhai pobl dda felly!! Ar fedr dweyd yr oeddwn, y gall efe fod yn sicr mai nid hen ysgolfeistr wyf, pwy bynnag wyf. Tro gwael wnaethoch chwithau, Mr. I Gol., wrth ddweyd mai nid myfi oedd I gyfrifol am yr hyn sydd ar ffurf brawddeg o flaen y gair 'dash' Mae yr "uchelderau digyniwair" felly wedi dod i fyd eich "Gohebydd Arall." Tybiais mai ei neges fawr ef oedd adol- ygu "ysbryd" yr adolygiad, ac "nid ti ramadeg na'i orgraff!" Pe medrai wneud hyn, diau y gwnae gydag hyfryd- wch mawr; ond haws oedd ceisio barnu'r "ysbryd" Mae rhai mathau ar ddynion, medd hen ddywediad clasurol, a anturiant i gylchoedd yr ym- arswyda angelion rhagddynt. Iddynt hwy, druain, nid oes gylch gwahardd- edig! Mawr anlwc fu i'r "Gohebydd Arall" wrth geisio barnu fy "ysbryd" i ddangos ei ysbryd ei hun! Mae gan eraill ddawn i "broi'r ysbrydion," ac f nid ychydig yw eu gwybodaeth ynghylch rhai mathau o honynt. 0 bydd galw, mae'r cyfan wrth law. Amlwg yw mai ymgais i greu rhagfarn at yr "Adolygiad" yw son am "gen- figen" a drwg ysbryd. Gadawer i bethau sefyll neu syrthio yn ol eu haeddiant neu eu diffyg haeddiant eu hun. Danghosais rai o ddiffygion y Cofiant, ac nid oes na wel eu hamledd a'u hylldra. Pan ddeuir i ddadl eto ar gwestiwn yr ysbrydoedd, nid ofnaf y canlynaidau, a bydd barnwr cydwybod- ol ar y faine. a rheithwyr goleuedig wrth eu gwaith. Addawaf na chant fod yn y tywyllwch ar bethau. GOH. ETHOLIAD CYNGOR DOSBARTH I CAERFFILI. Mr. Got.Caniatewch i mi fel un o ddarllenwyr cyson y Darian," ac un o weithwyr Abertridwr, ychydig ofod i ddweyd fy marn onest am lith ryfedd "Dewi Aur," o dan y pennawd uchod yn "Nharian yr wythnos cyn y diweddaf. Parodd y llith hon nid yn unig syndod ond poen meddwl a chalon, yn neillduol i'r rhai hynny o honom ag sydd yn cymeryd rhan flaenllaw yn nygiad ymlaen weithred- iadau Cyfrinfa Undeb y Glowyr a symudiadau Llafur yn y lie. Nid y ddoethineb sydd oddi uchod a amlygir yn yr honiadau disail, a gwen- wynllyd sydd yn nodweddu y rhan fwyaf lythyr Dewi Aur. Dechreua trwy ddweyd fod Mr. Harry Jenkins wedi ei wrthwynebu yn annheg gan blaid Sosialaidd y Cwm am iddo ab- senoli ei hun o gyfarfodydd y Cyngor. Anghywir bob gair! 'Does dim plaid Sosialaidd mewn bod yn y Cwm. Nid oes a fynno absenoldeb Mr. Jenkins o gwbl a'r penderfyniad i redeg ymgeisydd Llafur. Dyma'r gwir. Penderfynodd Cyfrinfa'r Lofa, mewn cyfarfod cyffredinol, wneud ym- gais i sicrhau'r sedd wag i Blaid Llafur, a dewiswyd Mr. William Morgan (atalbwyswr) yn ymgeisydd. Y mae Mr. Morgan yn Gymro glan, gloew, ac yn un sydd yn cymeryd dyddordeb ymarferol yng ngweithred- iadau Cymdeithas Cymry Cymraeg Abertridwr. Ni soniwyd gair am Sosialiaeth yn ystod y cyfarfod, nac yn wir yn un o'r cyfarfodydd yn ystod yr ymdrech. Hawliau Llafur oedd y pethau amlwg. Y mae Sosialwyr ymhlith y gweithwyr fel ymhlith pleidiau eraill ac ymhlith prif feddyl- wyr y dydd trwy'r deyrnas. Hawlia y gweithwyr chware teg i Sosialaeth, ac y maent yn barod i roi rhesymau am y ffydd sydd ynddynt. Cyfeirio'n wat- warllyd wna Dewi Aur at Sosialiaeth. Cofier y cyfeiria rhai felly hyd yn oed at yr Efengyl. Rhagfarn anwybod- aeth sydd yn cyfrif am hynny yn y naill a'r Hall. Gwrthwynebu yn annheg, "Gaton Pawb Ai etifeddi- aeth swyddog y lofa ydyw'r sedd ar y Cyngor? Ydi Dewi Aur yn tybio y dylasai arweinwyr y gweithwyr ymgynghori a'r swyddog pa un ai teg ai peidio oedd iddynt ddewis ym- geisydd o'u plith eu hunain? Yn nesaf, sut gymeriadau yw ar- weinwyr y gweithwyr yn Abertridwr? Dyma ddisgrifiad Dewi o honynt. Dynion eiddigeddus a mympwyol; 1Bif)31, dynion gwancus, hunangeisiol; "gwartheg teneuon Pharaoh"; dynion a dychryn gwaith yn eu calonau, ond yn caru y "minimum wage," a blasus- fwyd iddynt o dal y "sick fund"; bechgyn a'u trwynau ar ryw faen neu gilydd o hyd; dynion yn dwyn gofid a thlodi i'w cydweithwyr; dynion di- farn ac annoeth; dynion o nodwedd y blaid; nid wyn ond asynod; dynion byrbwyll ac anonest ynglyn ag arian y Federation. Dyma yn fyr, yn ol Dewi Aur, yw cymeriadau arwein- wyr gweithwyr Glofa Abertridwr, Mr Gol. Os gwir yw y gair, onid yw yn rhyfedd fod y gweithwyr mor ddall i'w buddiannau eu hunain, a goddef eu harwain gan gymeriadau mor anheilwng. Onid yw'n syndod fod yr eglwysi y mae amryw o'r arwein- wyr yn aelodau ynddynt mor ddifater o'u dyledswydd tuag at gymeriadau o'r fath. Ond, Mr. Gol., nid gwir mo hono, ond ffrwyth ysbryd wedi ei wenwyno. Ymgais un yn ceisio ffafr ei uwch swyddog a'r draul difrio, a phardduo cymeriadau ei gymdogion a'i gyd- ddynion. Priodol yw gofyn, Pa fodd y tywyllodd yr aur ? Y mae gennyf air ym mhellach ar gynhwysiad Epistol Dewi mewn perthynas ar llif Seisnigaidd, y Cym- ry, a'r iaith Gymraeg, os byddwch mor garedig, Mr. Gol., a chaniatau imi wasanaeth "Tarian y Gweithiwr" yr wythnos nesaf.—Ydwyf, EDWIN LEWIS (Cadeirydd Cyfrinfa, Abertridwr).
-.....- ....-Undeb Ysgolion…
Undeb Ysgolion Sul Annibynwyr Gogledd Morgannwg. Arholiad Llafaredig y Plant dan 13 oed, nos Fawrth, Ebrill 7fed, 1914, yn y Cwahanol Safonau. Darparwyd y Gofyniadau gan Miss 1 Emma Stubbins,. Ysgol Robertstowo, Aberdar. j Hodiad--Pi-ofid pob plentyn mewn tair gradd, sef Gradd l-clarllen; Gradd 2- adrodd; Gradd 3-ateb gofyniadau yn hanes Iesu Grist, a Chymeriadau yr Hen De&tament. Yn canlyn wele restr o enwau y plant, yn dangos y Safon yr arholid hwy ynddi ynghyda'r graddau y darfu iddynt lwyddo j basilo yn y safon honno. j Nebo, Hirwaun. Safon Mebyd, Gradd 1, 2, 3: Nancy Powell, Evan Jones, Teifi Williams, Blanche Thomas, Iris Davies, Mary Thomas, Bessie Davies, Edith Mary Davies. Safon I., Gradd 1, 2, 3: Willie Johni Morgan, Hannah Smale, Gwladys Thomas, Rachel Hannah Davies, Morgan Venn Thomas, Wm. David Powell, Maggie Olwen Jones, Joseph H. Sweet, Robert Brinley Powell, Edna James, David John Jones, Edith Marv Davies. Safon III., Gradd 1, 2, 3: Evelyn Mary Renowden, Lizzie Mary Smale. Safon IV., Gradd 1, 2, 3: John Rees Jones, Austin Jones, Haelfryn Cynon Wil- Jones, David Austin Sweet, Lizzie Davies', Annie Bronwen Sweet. Safon V., Gradd 1, 2, 3: Jeffrey David Nifer, 29. Arhohvvd gan Mr H. H. I Morris, Tabernacl. I Tabernacl, Hirwaun. I Safon Mebyd, Gradd 1, 2, 3: Annie May Williams, Maud Bevan, Annie Pritchard, Maggie Jones, Daniel James. Safon I., Gradd 1, 2, 3: Gwennie Jones Annie May Bevan, Merlin Williams. Safon II., Gradd 1, 2, 3: John BrinTey Bevan, John Pritchard, Teggie Lewis, I Morfudd Williams, May Evans, Muriel Jones. Sa fon IV., Gradd 1, 2, 3: Ceinwen Jones, I Maggie Evans, Hughie Williams. Nifer, 17. Arholwyd gan Mr David Jones, Bethel. Siloh, Aberdar. I Safon Mebyd, Gradd 1, 2, 3: Mary Davis, Ethel Stephens, Vera Beynon, Edith Wyatt, Edith Llewelyn, Agnes Mathias, Iris Beynon, Thomas John Davies. Safon II., Gradd 1, 2, 3: Blodwen Llewelyn, Ann Ceinwen Jones, Elizabeth Elvira Jones, Sarah Ellen Davies, Mag- gie M. Llewelyn, David Tom Morgan, Ben Wyatt, Oswald Stephens, John Henrv Morgan, Corris Jones. Nifer, lR. Arholwyd gan Miss B. Stubbins, Bethel. Salem, Aberdar. Safon I., Gradd 1, 2, 3: Kenny James, Olwen Edwards, Elsie Howells, Jennet Jones, Nancy Thomas, Charlotte Davies, Lizzie Ann EvanH, James Medlicott. Safon II., Gradd 1, 2, 3: Mellicent Rich- ards, May Llewelyn, Florrie Edwards Maggie Jane Jones? Martha Jane HoweHs? David John Medlicot, Maud May Evans Johnny Howells. Safon III., Gradd 1, 2, 3: Victor Wil- liams, Thomas Thomas, David John Jones, Gwenllian J ones. Nifer, 20. Arholwyd gan Miss Rachel Evans, Bethel. Ebenezer, Trecynon. Safon Mebyd, Gradd 1, 2, 3: Annie James, Gwladys Evans, Katie James, 01- wen Davies, Winnie Jones, Bessie Jones, Willie S. Jones, David L. Edmunds, David Rees Evans, Emlyn Davies, Bengy Pro- theroe, Willie Davies, Harold Thomas, Is- lwyn Jones, David Howells, David Thomas Jones, Emlyn Davies, David W. Ij Jones. t Safon T., Gradd 1, 2,* 3: Thos. G. Owen, Brinley Howells, Peter Watkins, Sally Edmunds, Elizabeth Davies, Esther Wat- kins, Olwen Thomas, Edith Annie Jones, Gwennie Griffiths, Minnie Garrett. Safon II., Gradd 1, 2, 3: David James, Trevor Jones, Blodwen Wilcox. Safon III., Gradd 1, 2, 3: Leslie Thomas, Douglas Thomas, Emlyn Jones, David J. Jones, David J. Kent, Tudor Watkins, Emlvn Evans, Thomas IR. Jones. Safon IV., Gradd 1, 2, 3: Waldo R. Thomas. Daniel Griffiths, Daniel Thomas Davies, WiUie Protheroe, Bengy Watkins, Richard Kent, Lewis Howells, Sally Teague, Edith Griffiths, Maggie J. Owens, Mabel Griffiths, Maggie Jones. Nifer, 51. Arholwyd gan Miss Madge Williams, Siloh; Mr J. B. James, Horeb; Mr E. Williams, Horeb. Saron, Aberaman. Safon I., Gradd 1, 2, 3: Nancy Griffiths, Dwynvven Evans. Safon II., Gradd 1, 2, 3: Heulwen Thomas, Idris Williams, Thomas ( John Williams, John Daniel Evans. Safon III., Gradd 1, 2, 3: Rose Annie Roberts, Claudia Griffiths, Edna May Eres. Safon IV., Gradd 1, 2, 3: Elizabeth Griffiths, Margaret Ann Williams, William Isaac Griffiths, Talfryn Williams, Nellie Evans, Margaret Ann Thomas, Thomas Aeron Edwards, David Thomas Ireland. Nifer, 17. Arholwyd gan Mr John Lloyd a Miss Katie Evans, Bryn Seion, Cwmbach. O.Y.—Daw ychwaneg o Lannau'r Cynon y tro nesaf. J. SULGWYN DAVIES, Ysg. Siloh, Aberdar.
Pontycymmer.
Pontycymmer. Cynhaliwyd cyfarfod olaf y tymlior Cymroaidd nos Wener diweddaf yn y lie arferol, dan lywyddiaeth Mr T. 0. Mor- gan, pan gafwyd araeth gan Petrol y Garw," sef Mr Jonathan Maddocks, ar Hanes Cwm Garw," un o'r dynion cyntaf ddaeth i'r Cwm fel dieithr ddyn. Bu yn y Cwm pan yn grwt gyda'i dad yn ymofyn dwy ddafad a dau oen o Fferin Blaengarw, pan oedd y Cwm yn un goedwig werdd. Cafwyd amser melus; yr oeddym oil yn ddynion Dwad." Cafwyd hwyl ar siarad gan y Parch. W. Mardy Davies, P. D. P. Davies, Dl. Davies, John Noyle, James Garfield, Jonathan Jones, ae yr oedd gan bob un rywbeth newydd i'w ddyweyd am yr hen gwm anwyl. Profiad pawh ar gychwyn ei bywyd yn y lie oedd, Dim mwy na thri mis i fod yn y Garw." Pan ddechreuwyd gweithio glo daeth y Cwm prydferth yn lloches i hob aderyn atian; erbyn hyn mae moes a rhinwedd a chrefvdd ya ddvlanwad. Siaradwyd yn dyner am ddiweddar wein- idog y Noddfa, y Parch. Thomas Davies, sydd a'i enw hyd heddyw yn berarogl i hawh. Daethai ef i'r Garw pan oedd vn "Arw." Darllenodd Mr Morgan, yr ysgrifennydd, ddarn o ysgrif olaf "Talnant" yn y "Dar- ian" am yr enwog Barch. Richard Price, D.D., F.R.S., etc., Tynton, Llangeinor. Mae ffermdy Tynton fel yr oedd, a hawdd yw canfod yn yr hen dy ei fod wedi bod yn goleg. Syndod yw na ddeuai Cymrodor- ion ar wibdeitRiau i'r parth hwn. 0 fewn milltir mae Pandy'r Bettws, lie bu Iolo Morgannwg droion gyda Sion Bradford, Beirdd Tir Iarll—dyna'r Bettws, allan o'r byd. Yn ,vmyl Tynton mae hen Eglwys Llangeinor ar y bryn a gwelir y culfor a'r wlad tudraw, a goleu-dy gwyn Lynton gyda llygaid noeth. Gwelir llongau hefvd yn eglur. Dan y bryn mae Melyn Ifan Ddu yn aros yn ei ogoniant cynhenid. Felly mae Llangeinor a'r Pandy fel darnau o Baradwys y Fro. Gwelir oddiar y Bryn yr holl Fro bron, o'r Bontfaen i Merthyr Mawr, yn cymeryd i fewn Bencoed, Wig, Ewenny, Brocwr, etc. Unwaith gwelir y lie nis anghofir. Byddai yn bleser gan y Parch. T. B. Phillips, Esgob LIangeinor, fod yn arweinydd i fintau. Mae y Gym- deithas yn hovw ,a £ 13 mewn llaw ar gyfer y tymor nesaf. Etholwyd swyddog- ion a phwyllgor newydd, a chynrychiolwyr i Abertawe a Phontypridd. BERDAR BACH.
Senghenydd.
Senghenydd. Tabernacl (M.C.). Prynhawn dydd Mercher cafodd Go- beithlu yr eglwys wyl de. Daeth 72 o blant i fwynhau eu hunain. Gwasanaethwyd ar angenrheidiau y plant gan y boneddigesau. Cynhaliwyd cyngerdd olaf y tymhor gan y Gobeithlu nos Fercher, Ebrill 15ted, 1914, dan. lywyddiaeth y Parch. E. Thomas, y gweinidog. Wele y rhaglen: Telyn Seion," gan y plant. Adroddiad, Y Sgoler," gan David R. Jones. Can gan Mr W. D. Jones, o Sir Aberteifi. Adroddiad gan Master Goronwy Owen. Can gan Mancie Thomas, Jennie Davies, Bessie Humphreys, a Sallie Burrell ac Eunice Thomas. Can gan Mr Nathaniel P. Edwards. Adroddiad gan Master Em- rys Williams. Can a chydgan gan Master J. D. Evans. Canu gyda'r tannau gan Madge Jones, o Trawsfynydd. Action song gan Master Evan R. Parry, a saith o famau bychani, sef H. E. Jones, G. Grif- fiths, Cissie Jones, Jennie Jones, Annie Williams, Maggie B. Roberts, Nancy Thomas. Action song gan Maggie B. Roberts. Adroddiad gan Emrys Williams. Gwpbrjvyo y plant a fu yn ffyddlon yn ddi- fwlch, a'r rhai a gollasant un tro yn ystod y tymhor: 1, Richie J. Williams; 2, James Mel wyn Griffiths; 3, Emrys Williams; 4, Owen Price Griffiths; 5, Eunice May Grif- fiths; 6, Maggie B. Roberts. Dosbarth yr II.: 1, E. J. Humphreys; 2, Willie Wil- liams; 3, David R. Jones; 4, Bessie Humphreys; 5, Annie Williams; 6, Jennie Davies; 7, Bessie Davies; 8, Sallie Bur- rell; 9, Gwendolen Griffiths; 10, Blodwen Jones. Perffornlio operetta gan Owen Price Griffiths, Blodwen Jones, Maggie Williams, yn nghyd a 30 o blant. Canwyd i ddiweddu "Hen wlad fy nhadau" gan y plant, a'r gynulleidfa yn uno yn y gyd- gan. Cyfeiliwyd yn ystod y gyngerdd gan Mri. E. J. Rowlands, ac M. J. Davies. Diolchwyd i'r plant a'r rhai mewn oed oedd yn cynorthwyo gan Mr T. Williams a Mr John Davies, D.C. Yr ydym yn rhwym o ddweyd gair ymhellach am dri wyr sy"n ffyddlon bob amser gyda'r plant, sef Parch. E. Thomas, y gweinidog; Mr Evan John Rowlands, yr arweinydd medrus sydd yn gallu tynnu' r goreu allan o'r plant mewn cerddoriaeth; a Mr Evan Parry fel ysgrifenydd y Goheitblu. AELOD.
Y Gelain a'r Eryrod.
Y Gelain a'r Eryrod. Cronfa ariannol gweddwon ac amddifaid Senghenydd—pwy sydd i'w gweinydduP a heth am y weithred yrnddiriedolh oedd pwnc aniserol cyfarfod cyhoeddus nos Fercher diweddaf yn Ebenezer, Senghen- ydd. Y cadeirydd oedd y Cynghorwr .John Davies, Senghenydd. Agorodd y cytarfod yn Gymraeg, a gofidiai na ellid dwyn cyfarfod a'i fwyafrif o lawer iawn yn Gymry trwyadl waedgoch, ymlaen yn Gymraeg. Da oedd cael ychydig Gymraeg i doi-i-i Ir garw, fel dywedir. Hyderir y megir digon o nerth hob yn dipyn i anwv- byddu y balchder Seisnig, a'i- Sais-a(i(lol- iaeth sydd wedi pin meddiannu fel Cymry. Dvwedodd y cadeirydd y teinilent yn ddy- ledswydd arnynt, fel pwyllgor lIeol, wedi chwe mis o vfeinyddu'r gronfa at angen y dicwldefvvyr, i roddi cyfrif o'u gorliellivyl- iaeth. Cydnabyddai eu hod yn dyledus i Arglwydd 'Merthyr am ei gydymdeimlad a'i gynhorthwy sylweddol. Rhoddodd yr ysgrifennydd, sef y Parch. D. B. Evans, Abertridwr, fras linelliad o waith y chwe mis. Mae Mr Evans yn wr hylaw gyda gwaith o'r fath, ac wedi cymeryd rhan amhvg lawer tro yn flaenorol mewn ar- gyfyngau anodd. Maf"n gysur Vryf fod cynifer o ddynion da wedi cyfrannu £ 2/538 mewn arian sychion i'r pwyllgor lleol at „vmgeleddi'r dioddefwyr. Talasid £ 2,245 allan eisioes-i weithwyr a daflwvd allan o waith drwy y danchwa £ 814, a £ 543 i'r gweddon a'r amddifaid. Eglurodd Mr. Evans, yr ysgrifennydd, yn fanw] sefvllfa y pwyllgor lleol a'r gwaith mawr a dni- otiiis oeddynt wedi eu wneud yn hollol ddi- claI mewn arain. Ond yr oedd eu gwedd yn dweud eu bod yn derbyn tal rhagoraeh -y tal mewnol hwnw a ga poh gweithiwr gonest ynddo ei hun. Cafodd y pender- fyniad ei gadarnhau yn y cyfarfod gyda mwyafrif trylwyr, fod y pwyllgor lleol yn cael rhan yng ngweinvddiad y 'trust deed' gyda phwyllgor Caerdydd er mwyn hwytus- dod ac er mwyn cyfiawnder a'r dioddef- wyr sydd a hawl ganddynt i'r arian. DEWI AUR.
I Thomas Hughes, Treforis.…
I Thomas Hughes, Treforis. I Thomas HUes. Treforis. Yn angeu'r gwr uchod collodd Tre- foris un o'i dynion mwyaf adnabyddus a pharchusaf. Yr oedd yn 82 oed, ond o fewn pythefnos i'r diwedd yr oedd yn iach a heinyf fel arferol. Ganwyd ef yng Nglapdwr yn y flwyddyn 1832, a magwyd ef yn eglwys Siloh. Cyfeillachai lawer a Dr. Griffith John ym mlynyddoedd ei ieuenctyd, ac etifeddodd sel genhadol y gwr hwnnw yn dra helaeth. Cyf- rannodd yn haelionus at achosion cre- fyddol a dyngarol, ac un o'r pethau di- weddaf o'i eiddo oedd cyfrannu at yr achos cenhadol. Daeth i Dreforis tua thrigain mlyn- edd yn ol fel llyfrwerthwr. Efe oedd swyddog y Feibl Gymdeithas yn y lie. Bu'n noddwr llenyddiaeth Gymraeg, a gwnaeth wasanaeth mewn tynnu sylw at gynyrch gwasg y genedl. Ymaelododd yn eglwys Libanus pan ymsefydlodd yn y lie, ac ymhen ychydig flynyddoedd etholwyd ef yn ddiacon. Gwasanaethodd y swydd hyd y diwedd gan ennill iddo ei hun radd dda. Bu'n ymdrechol gyda'r achos yn Libanus, a pharhaodd felly wedi adeiladu y Tabernacl. Am dros hanner can mlynedd gweithiodd a'i holl egni gyda'r Ysgol Sul, ac ymhen y tymor hwnnw anrhegwyd ef a "medal aur am ei wasanaeth fel athro. Yn ystod y tymor hwnnw etholwyd ef droion i'r swydd o arol- ygydd, a llanwai hi bob amser i fodd- lonrwydd pawb. Mr. Hughes oedd y diweddaf o'r rhai a arvvyddasai'r alwad i Dr. Her- ber Evans i Libanus. Yr oedd ymysg y rhai a arwyddodd yr alwad i'r Parch. W. Emlyn Jones, y gweinidog pres- ennol. Pan awgrymodd Mr. Jones godi adeilad godidog y Tabernacl cafodd yn y gwr hwn gefnogydd gwresog, ac ni laesodd dwylo ar hyd y blynyddoedd yn y gwaith o wneud yr eglwys a addolai yno yn anrhydedd i Ymneillduaeth. Cymerai ddiddordeb mawr mewn dynion ieuainc. Ni fu neb parotach i gynorthwyo bechgyn addawol, na neb yn llawenhau yn fwy nag ef yn eu llwyddiant. 13u'n flaenllaw mewn achosion dyngarol, a llanwodd swyddi pwysig mewn cymdeithasau dyngarol. Gedy un mab a phum merch ar ei ol. Claddwyd ef yn LlgJigyfelach, a gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parchn. D. Picton Evans, M.A., W. Salmon, a D. Williams, Ficer, Treforis. Gwelwyd yno ddiaconiaid y Tabernacl, a chynrychiolwyr Cym- deithas yr Oddfellows, ac amryw o weinidogion y gwahanol enwadau yn y cylch. Y prif alarwyr oeddynt:—Mr. L. W. Hughes, ei fab; Miss Mary Hughes, Miss Margaret Hughes, Miss Annie Hughes, ei ferched; Mr. and Mrs. W. Davies, ysgolfeistr, mab- yng-nghyfraith a merch iddo; Mr. a Mrs. S. A. Williams, merch iddo; Mr. Stanley a Miss A. A. Hughes, wyrion; Mri. Trevor a Raymond Wil- liams, a Misses Nancy, Getta, a Gwyneth Williams, wyrion; Mr. T. L. Watkins, nai; Mr. a Mrs. Thomas Hughes, Glandwr, nai a nith; Mr. a Mrs. T. Caradog Jones, nai a nith; Mr. a Mrs. D. Emmanuel, Pont ar Dawe, nai a nith; Mr. a Mrs. Tom Morgan, Glandwr, nai a nith; Mrs. Janes, Llanelli, nith; Mrs. Williams, Pare, nith. Blin fydd gennym golli wyneb rhad- lon Mr. Hughes o Dreforis. Yr oedd yn werthwr ffyddlon o'r "Darian," a hyderwn y dilynir ei vesiampl mewn ffyddlondeb i bethau Cymraeg. )
[No title]
Mynd ymlaen yn eu gwallgofrwydd y mae yr Ulsteriaid. Llwyddodd y gwrthryfelwyr yno nos Wener diweddaf i redeg swm enfawr o arfau rhyfel i Belfast. Y mae'r Wasg Doriaidd yn ddigon digywilydd i ymfalchio yn hyn fel rhywbeth fydd yn debyg o beri blin- der i'r Llywodraeth. Dywedodd Mr. Asquith mewn ateb 1 gwestiwn dydd Llun y cyinerid mesurau priodol heb oedi i ddelio a'r sefyllfa. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street, Aberdare, in the County of Glamorgan