Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
COLOFN Y PLANT. I
COLOFN Y PLANT. I (DAN OLYGIAETH MOELONA.) I BEIRNIADAETH AR GYSTAD- I LEUAETH EBRILL. A.—Dyma walth beirniadu! Pym- theg o bapurau yn cynnwys rhestri o Ddiarhebion Cymraeg, a'r rhai hynny oil yn dda os nad yn deilwng o'r wobr Sylwch o ba Ie y daethant:- Pedwar o Drecynon; un o Dreforis; un o Bontardulais; dau o Barry Dock; un o Lanelli; un o Ferndale; dau o'r Crwbin, un o Ystrad Fellte; un o Ystrad Rhondda, ac un o Rydcymer- au. Diolch i'r plant bach dan ddeu- ddeg fu mor brysur yn holi a meddwl ac ysgrifennu gwahanol restri. N d oes dwy o honynt yr un fath, a cheir llawer dihareb bur anghyffredin ond hollol Gymreig. Cyhoeddir yr oil am a \vn i. Cadwaf y papurau, a rhoddir rhestr i fewn yn awr ac yn y man, gydag enw a chyfeiriad y sawl a'i casglodd. Edrychwch bob wythnos am eich rhestr. Bum dra gofalus wrth roi'r gystad- leuaeth i nodi nifer o reolau, ac mewn cystadleuaeth mor dyn a hon mae anghofio un o'r rheolau yn ddigon i golli'r wobr. Mae rhai wedi casglu dros ddeg ar hugain o ddiarhebion. Goreu oli po fwyaf, wrth gwrs, ond eu hysgrifennu yn lan a chywir. Y goreuon yw y rhai canlynol i. Ystrad Rhondda. Anghofiodd nodi pa lyfr garai. 2. Barry Dock (Basset Street).— Ysgrifennodd ar y ddau tu i'r ddalen. 3. Ferndale. Anghofiodd roi ei oed. 4. Ystradfellte. Rhestr ddiddorol a glan ar ffurf "acrostic." Anghofiodd nodi pa lyfr garai. 5. Trecynon (Bell Street).—Hwn yw y mwyaf destlus, ac heb ond un gwall mewn sillebu ("golid yn lie "golud"). Deg diarheb gasglodd. 6. Rhydcymerau.—Nid yw'r gwaith lawn mor ddestlus a'r olaf nodwyd, ond mae gan hon dair-ar-ddeg-ar- bugain o ddiarhebion, a'r ysgrifen a'r sillebu yn dda. Cofiodd hithau gadw'r rheolau i gyd. Hi felly yw y goreu. Danfonir iddi lyfr O. M. Ed- wards' "Cartrefi Cymru." Ei henw yw- Nellie P. Jones (11 oed), Troedyrhiw, Rhydcymerau, Llansawel, Llandeilo. Wele ei gwaith:- Diarhebion Cymraeg. i. Goreu cyfaill, cydwybod lan. 2. Nid wrth ei big y mae nabod cyffylog. 3. Cas gwr na charo'r wlad a'i maco. 4. Ci sydd yn cerdded gaiff asgwrn. 5. Ni heuir, ni fedir. 6. Esmwyth gysg cawl dwr. 7. Deuparth gwaith yw ei ddechreu. 8. Gwell hwyr na hwyrach. 9. Y gwir yn erbyn y byd. 10. Bydd di gynnil ar dy geiniog. 11. Pwyth yn ei bryd arbed naw. 12. Goreu tarian, tarian cyfiawnder. 13. Dim iaith-dim cenedl. 14. A ddarlleno, ystyried; a ystyrio, gwnaed, a wnelo, parhaed. 15. Yng ngenau'r sach y mae cyp- hilo blawd. 16. Gwell synwyr na chyfoeth. 17. Gwynfyd herwr yw'r hirnos. 18. Tafl a'th unllaw, casgl a'th <idwylaw. 19. Ni cheir afal per ar bren sur. 20. Oni byddai gryf, bydd gyfrwys. 21. Ni bydd doeth yn hir mewn Hid. 22. Cer i gysgu 'run pryd a'r hed- ydd, a chwyd gydag ef. 23. Tri brodyr gwybodaeth—cof, trefn, ac ystyriaeth. 24. Brawd yw celwyddog i leidr. 25. A hauo dyn hyd einioes, a feda ef wedi oes. 26. Trech gwlad nag arglwydd. 27. Un deryn mewn Haw sydd well na dau mewn llwyn. 28. Cadwch eich afraid erbyn lhaid. 29. Carreg yr un fan sy'n magu mwswm. 30. Gwyn y gwel y fran ei chywion. 31. Gwell cymydog yn agos na brawd yn mhell. 32. Calon lawen a wna wvneh siriol. 33. Mae'r boreu yn fwy na'r oes i gyd. B.—Dim ond dau bapyr ddaeth i fewn ar y gystadleuaeth hon. Dis- gwyliwn lawer mwy. Byddai dis- grifiad o wahanol leoedd gan blant yn bethau diddorol i'w darllen. Mae'r ddau ddaeth i fewn yn ddiddorol iawn -un o Glynrhedynog a'r llall o'r Glais. Ysgrifenna'r ddwy eneth yn gywir a llithrig, ond mae y cyntaf wedi bod dipyn yn fwy manwl na'r ail, ac wedi rhoi i ni well syniad am ei hardal. Hi felly ga'r wobr, sef- Sarah Thomas, 127 (C) North Road, Ferndale. Danfonir iddi "Ystoriwr y Plant" (H. Brython Hughes). Cyhoeddir gwaith y ddwy yn y Darian nesaf.
Advertising
TURKEY EGGS, Lord Rothschild J. Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 1 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex.
Taithi Lydaw.I
Taithi Lydaw. I GAN "GLANLLYW. I PENNOD VII.—REDON A'R DE. I Rhaid cydnabod fod swyn ryfeddol j i mi yn y De bob amser. Yn y De y'm ganwyd ac y'm magwyd. Cas gwr j na charo'r wlad a'i maco. Diau fod swyn cyfartal i'r Gogleddwr yn y j Gogledd-dir. Deheuwr ydwyf i ac am y Deheu mae'm can. Dywedai gwein- ) idog a symudai o'r Gogledd i'r De ar ) ol gweinidogaeth o lai na blwyddyn j fod ganddo ddau reswm dros symud. Un rheswm ydoedd fod swyn y De i yn ei galon, a'r rheswm arall ydoedd fod ganddo adnod dros wneud, Dos tua'r dehau." Gwlad newydd ydoedd deheu Llydaw i mi, ond tynai'm bryd gyda'i swyn aiddgar ddieithr, nes I iddi'n tynu fel Abraham gynt heb I' wybod i ba le'r oeddwn yn myned. Aethpwyd o Rennes dros wlad wastad, goediog, lefn am beth am- ser, ond buan y canfyddwn arwyddion o gyfnewidiad. Yr oedd y wlad yn I fwy bryniog fel y nesem at Redon, ond I nid mor fynyddig a Chymru. Bywiogai dylifiad yr afon y tramwyem ar ei glannau. Ymlonnem yn yr awelon a f gynhyrchid gan y bryniau. Perorai'r adar eu ceinciau cain gan ddymun- oled yr olygfa. Nid oedd y ddaear cyn frased a chyfoethoced a'r ardaloedd y daethom drwyddynt y dyddiau o'r blaen. Nis gellir popeth gyda'i gil- ydd. Rhaid boddloni rhoi heibio rhai pethau gan hudoled yr amrywiaeth ddisgynai'n ysgafn arnom. Ni fum yn fwy cartrefol oddiar fy ymadawiad a Chymru a'r diwrnod hwn gan debyc- ed y golygfeydd i'n gwlad ni. Yn y teimlad cartrefol hwn daethom yn ddiymdroi i Redon. Nid ydyw yn lie mawr. Y ffyrdd haearn a'i gwna gymaint ag ydyw. Mae'n ganolfan pwysig i amryw o'r ffyrdd hynny. Y tri pheth arbennig dynnodd fy sylw ynddo ydoedd yr eglwys odidog, y gamlas glyd, a'r twr rhufonig hen. Gwlad yr eglwysi hen a chadarn ydyw Llydaw. Mae Eglwys Sant Sauveur, Redon, yn un o'r hynaf a'r cadarnaf. Yno y gwelais y gyfres gyflawnaf o ddarluniau yn portreadu amgylchiadau'r croeshoeliad a wel- ais erioed. Help ydyw darlun i ddirnad y sylwedd, ond os yr eir i ddibynu ar ddarluniau, eiddil a dirym fydd cre- fydd. Gwas iawn ond meistr creulawn ydyw darlun. Dibyna'r Pabyddion ormod ar grefydd y llygad ar draul nychu'r deall. Darparant wleddoedd i'r synhwyrau, ond newynant yr enaid. Yn ymyl yr eglwys saif twr hynafol nad oes ei gyffelyb yn boll Lydaw, meddir. Mae o saerniaeth rufonig, yr arddull mewn adeiladaeth ddisodlodd yr arddull Rufeiniaidd rywle o'r burned ganrif ymlaen. Dywedir gan hynafiaethwyr a chym- reinwyr ei bod yn werth talu ymwel- iad a Redon er gweled y twr hwn. Y camlas gysyllta Brest a Nantes & drwy'r lie a'm boddlonodd i fwyaf. Mae'n gamlas hir, gweddol lydan. Ceir badau mawrion yn ei fordwyo'n hamddenol. Gwyr pob cyfarwydd ei bod yn llawer rhatach cario nwyddau dros ddwfr na thros ffordd haearn. Nid hynny dynnodd fy sylw arbennig i yn Redon. Diau y tynnai hynny sylw'r masnachwr ar unwaith. Ni pherthynaf i'r teulu hwnnw. Felly 'roeddwn yn rhydd i feddwl am y dyfroedd a lifai'n llonydd a'r coed cysgod-lawn ar y glannau'n cadw gwyliadwriaeth ofalus dros y fangre dawel. Yr unig swn dorrai ar y distawrwydd mud ydoedd can aderyn yn y coed uwchben a chwibaniad y badwr yn ei dy symudol wrth symud yn araf ymlaen. Ychwanegent at lonyddwch hyawdl y He. Er hyfryted y lie ni lwyddodd i'n temtio i aros. ynddo. Symudwyd draw i Pont Chateau, pentref prydferth ar ucheldir esmwyth. Ffynna'r win- wydden ac eddfyd ei grawn yn yr awyr agored yno. Gwlad lawn o win- llanoedd ydyw. Prawf hynny fwyn- eidded yr hin. Gwelais yn y fynwent gerllaw rai profion o ofergoeledd y Babaeth. Yr oedd yno fedd ac ystafell gauedig iddo gyda ffenestr fechan. Edrychwn drwyddi a gwelwn gadair w&g a lamp yn goleuo yn ei hymyl. Dywedwyd wrthyf mai amcan y gad- air oedd help i'r ymadawedig orffwys ac arwyddoc&d y lamp yn llosgi yd- oedd rhoddi pob cysur iddo. 0 ofer- goeledd dall! Ceidw'r Babaeth y bobl yng nghrafangau materoliaeth. Wedi troi o gwmpas y lie bach prydferth hwn gyda'i winllanoedd per, ei gilfachau clyd a'i raeadr bert canwyd yn iach iddo am Savenay, pen- tref gweddol ei faint yngolwg y Loire. Teimlwn fod balm ar fin yr awel yn y lie hwn. Chwythai'r deheu- wynt yn esmwyth a thyner nes gwas- garu'u peraroglau dros v fro. Cawd llety mewn gwesty gerllaw'r orsaf, ac er fy syndod a'm llawenydd siaradai'r gwesteiwr ychydig Saesneg. Amheuthyn ydoedd hynny gan na chwrddais a neb fedrai ymddiddan ond yn y Ffrangeg a'r Llydaweg. Ymgomiasom ar amryw faterion, am iaith a ch&n, am lywodraeth leol, ac am addysg. Cefais fy argyhoeddi ei fod yn ddyn eithriadol ddeallgar, ac yn meddu ar fesur helaeth o ddigrif- wch yn ei natur. Chwarddasom lawer wrth gymharu Ffrainc a Lloegr. Cyfaddefodd o'r diwedd mai hen for- wr ydoedd, ac iddo fod yn Abertawe lawer gwaith, a chan mai'r lie hwnnw ydoedd y dref gyntaf, ac am flynydd- oedd yr unig dref y gwyddwn fawr am dani, yr oedd ei sylwadau o ddyddor- deb mwy. Siglwyd Haw yn gynnes cyn myned i orffwys y noson honno.
Y Parch. J. Caerau Rees, D.D.,…
Y Parch. J. Caerau Rees, D.D., Treherbert. Bydd llu o adnabyddion y Parch. J. Caerau Rees yn llawen i glywed ei fod wedi ennill y radd o Ddoethawr mewn Diwinyddiaeth o Brif-ysgol j Washington, U.D.A. Ei hennill ac nid ei phrynu wnaeth, oblegid safodd arholiad; atebodd gwestiynau ynglyn a gwahanol ganghennau Diwinydd- iaeth; cyflwynodd draethawd galluog i sylw'r awdurdodau, a daeth drwy'r oruchwyliaeth yn "fwy na chon- cwerwr." Brodyr iddo ef yw'r Parch. T. Mardy Itees, o Gastellnedd, a'r Parch. Gwilym Rees, B.A., o Fer- thyr Tydfil. Mae llwyddiant Dr. Rees yn rhyfeddol ar gyfrif yr an- fanteision a'i gwrthwynebai ar ddechreu ei yrfa. Ganwyd ef yn Skewen, ger Castell- nedd, un flynedd a deugain yn ol i'r Sabboth diweddaf. Pan yn 11 mlwydd oed ceir ef yn gweithio mewn pwll glo yn Resolven. Oddiyno symudodd gyda'i rieni i'r Maerdy, ac aeth drwy fedydd t&n y danchwa ofnadwy a gymerodd le yno yn Rhagfyr, 1885. Efe oedd yr hogyn diweddaf a ddygwyd i fyny o fysg y meirwon am ddeg o'r gloch yn hwyr dydd y trychineb ofnadwy hwnnw. Eto ni ddigalonodd eithr parhaodd i -xeithio "dan y ddaear" hyd nes yr oedd yn un-ar-hugain oed. Ond yn yr amser hwn nid esgeulusodd yr ychydig gyfleusterau o fewn ei gyrraedd i ddiwyllio ei feddwl. Ennillodd dystys- grif (yr ail ddosbarth) goruchwyliwr glofaol, a bu am amser byr yn llanw'r swydd yn Gowerton. Wedi symqd o honno i'r Caerau bu'r eglwys Anni- bynnol yno mor garedig a'i orfodi i fyned i bregethu. Mynn rhai wthio eu hunain i'r swydd, ond "anghenraid a osodwyd" ar ein gwrthych. Ond cyplyswyd yr orfodaeth a. rhodd ariannol o £ 200 er mwyn ei alluogi i ymbaratoi ar gyfer yr areithfa. Aeth yntau yn ebrwydd i Ysgol Ramadegol Pencader, ac er clod i Mr. J. D. Rees, y Prifathraw hyfwyn, ni chodwyd dimai o d&l am addysg Mr. Rees. Derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu, lie y bu am ddwy flynedd wrth draed yr athrawon galluog yno. Ym- sefydlodd fel gweinidog ar eglwys Soar, Clydach Vale, a bu yn llwydd- iannus iawn yno am dros dair blyn- edd. Teimlodd awydd am ryddh&d oddiwrth ofalon bugeiliol er mwyn ymdaflu yn fwy i fyd gwybodaeth. Oddiar hynny hyd yn awr mae wedi bod yn astudio Athroniaeth a Diwin- yddiaeth yn eu gwahanol agweddau, ac y mae'r ddau diploma a dder- byniodd o Gaerefrog Newydd, y teitl o Ph.D. o Brif-ysgol Chicago, a'r radd o D.D. o Washington yn brawf o'i ymroddiad, a'i allu, ac yn esiampl i lawer o fechgyn ieuainc yr oes hon. Derbynied Dr. Rees ein llongyfarch- iadau mwyaf calonnog. D.J.
Pwy gyfyd Dai i'r Bobl ynI…
Pwy gyfyd Dai i'r Bobl yn I Nhrecynon ? GAN OHEBYDD ARBENNIG Y "DARIAN." Nos Iaii diweddaf, wedi clywed am werthu tai yn Nhrecynon, euthum o gam i gam yno er gweled a oedd sail i'r gwyn am brinder tai yn y He. Deallais yn fuan mai felly yr oedd pethau, ac y disgwylid prisoedd uchel. Yr oedd y tenantiaid yn barod i gynnyg prisoedd rhesymol er cadw eu cartrefi am nad oedd ganddynt obaith am fath ar dy yn yr ardal i fyned iddo. Er methu felly, yr oedd- ynt yn barod i godi yn bur uchel yn yr arwerthiant yn hytrach na myned i'r heol. Druan ohonynt, yr oedd yno dorf yn sychedu am brynu'r tai oddi- ar eu pennau ac yn benderfynol i'w gwneud yn anodd iddynt i gystadlu a hwynt. Yr oedd yno rai dan rybudd eu hunain i chwilio am dai, ac wedi laru ar y gwaith yn awyddus i'w prynu am unrhyw bris er cael lie i fynd; ac ereill ym manteisio ar yr amser da presennol na falient ddim faint o anhwylusdod a achosent i'w cymydogion wrth chwennych eu heiddo oedd yn awyddus am le i roi arian a gwneud ychwaneg. Arian oedd eu cancr hwy yn sugno'r tipyn dynoliaeth a fuont unwaith yn ei feddu. 'Y mae'r tai brinned yn y cylch fel y gwelir dau deulu yn byw o dan yr un gronglwyd a honno'n yn rhy fychan i un teulu i wneud cyfiawn- der ag ef ei hun. Dyma ffaith a grybwyllwyd am dy o fewn ychydig lathenni i'r fan y safem arno ar y pryd; dau deulu yn byw mewn ty a dwy ystafell ar y llawr, a dwy i fyny, a heb ddrws cefn iddo. Y mae peth felly ar gynydd cyflym yn y lie. Y mae tai ereill yn y He, a theuluoedd mawrion yn byw ynddynt; nid yn unig yn rhy fychan, ond yn afiach ac yn amharu iechyd y rhai sydd yn byw ynddynt. Y pwnc yma yw cael ty heddyw o unrhyw fath am bris y gall dyn yn byw ar ei ddiwrnod gwaith dalu am dano. Pa ddiben son am ysgoldai helaeth ac iach, a thalu cyflogau uchel i feddygon am ym- weled a'r ysgolion tra'r plant yn byw mewn tai llaith a diawyr? Awgrymodd un gohebydd yn y "Darian yr wythnos ddiweddaf fod v "Guardians yn gwario ^10,000 ar dloty yn Nhrecynon yn bresennol. Gwelais hwnnw ar waith yn y man gore yn y lie. Y mae yn bias gorwych mewn maes eang, a chymaint o dir yn cael ei wastraffu o'i amgylch ag sydd yn brin i'r trigolion fyw arno. Dywedir mai eiddo Bwrdd yw y fferam sydd yn ei ymyl yn cael ei phori gan anifeiliaid, tra dynion yr ardal heb le i godi tai i fyw ynddynt. Gyferbyn a'r plas hwn a'r adeiladau anferth sydd o'i amgylch y mae'r hyn a elwir yn Ysbyty i'r Cartrefi, a thuol i hwnnw y mae adeiladau gwychion ereill a elwir yn gartrefi. Heb fod yn nepell oddiyno ar fryn Llwydcoed gwelir plasau heirdd, rhai wedi eu gorffen, ac ereill yn anorffen, yn llawn o swyddogion yn byw'n fras. Cartrefi yw y rhai hynny i blant estron, Saeson a Gwyddyl, a phob cenedl, ond heb nemor o Gymry. Yng Nhwmbach, Abercwmboi, a Hir- waun ceir adeiladau drudfawr cyffelyb. A yw trigolion y lie yn eu hardal eu hunain am oddef yn hwy codi tai fel hyn, tra hwy eu hunain heb gartrefi i fyw ynddynt a magu eu teuluoedd fel yr ewyllysiant? Y mae ganddynt gwyn difrifol yn erbyn eu "Guardians" am yr annibendod presennol a'r diofalwch am eu budd hwy a'u gosododd ar y Bwrdd. Y mae'r Cyngor lleol yntau'n fwy yn y camwedd gan nad yw'n effro i wir anghenion y lie. Nid angen tai yn unig sydd yma, ond tir i adeiladu arno. Rhaid i'r Cyngor symud yn ddiymdroi i wneud heolydd newydd- ion ac agor y lie i godi tai arno i'r bobl. Yn ystod y blynyddoedd hyn oherwydd prinder tir cyfleus, adeiledir tai newyddion yng nghefnau eu gil- ydd, tra'r bobl eu hunain yn enw'r Bwrdd y "Guardians yn berchenog- ion ar erwau lawer yn ymyl a gedwir i estroniaid ac a wastreffir ar blasau. Hyd nes y cymerir y mater i fyny o ddifrif, byddwn yn dal ati i godi'r cri nes y cwyd y lie dros ei hawliau.
Advertising
I ESTYN EICH DES Bwytewch ac yfwch yn gymhedrol, ond os digwydd annoethineb, gellwch ym- ddibynnu bob amser y bydd i PELENI LLYSIEUOL KERNICK lanhau'r cyfansoddiad, cryfhau'r nerves, iachau diffyg traul a rhwymedd, a gwneud y croen yn glir a glan. Y mae miloedd na chymerant unrhyw feddyginiaeth arall. Gwerthir mewn blychau 1/1? a 2/9 gan yr holl Fferyll- wyr. I A DDARFU I CHWI AMEU EICH I ARENAU ? ? ? f?!? JL ?f 0 -= darlun ^|||jA q f a ddywed  ?'?? ? I I hanes. I :?. 1(1,f < i II '-If A ydych yn bruddglwyfus, yn gyffrous, neu yn blino yn fuan ? A ydych wedi rhedeg i lawr, neu yn gymalystog (rheumatic)? Effeithia Blinder Arenol ar yr holl gorph. Llawer sydd yn dioddef oddiwrth yr an- hwylder hwn nad amheuasanterioed eu harenau (kidney.■>), ae eto vr arennu ydyw yr organau mwyaf tebys'ol i waeln. oblegid ganddynt hwy y mae y gwaith mwyaf i'w wneyd. Itydd a nos, o'n genedigaeth hyd ddiwedd ein bywydau, niaerit ar waith yn. gwahanu y lleisw Iurinej oddiwrth y gwaed, ae yn hidlo allan y gwenwynau sydd yn achosi y fath aiihwvlderau a'r rhai hyn :— Poën yn y cefn, poenau yn yr vstlysau a'r Hwynau, i)rydiau pensyfroanol, afreoleidd-dra trocthol (urinary irregularities), Anhwyldek PlkokknoIj {biaddur disease), grafel, careg, fliihunedd (yhrpicfsnes^). eryd cynimatau, llwyinvsit (In mba </<>), chwyddiadau dyfrol, (iyfnclwvf (<lrop*y). t'alon afreolaidd, annhrefn- iiu 1, a It rig Ms disease. .Aiae blimler aronol yn effeithio vn wahanol ar bub!, ond os ydych yn dioddef oddiwrth un o'r argoelion uchod, geilwcJi sicrhan fod genych alieehyd yu yr arenau. Maent yn syrthio yn ol gsda'u gwaith, ac yn analluog i gadw o'ch oorph v surni dyfrol a'r gwenwynau arenol sydd yn dechreu eymaiut o afieehydon. MH,e gwaith yr arenau mor fawr ac mor ddiorphwys fel, pan unwaith y gwaelant, nis gallant byth wellhau heb gynorthwv. Cynor'hwv neillduol vr arenau ydyw Phlkni Akknat: Ckkmsokv bOAN (Doan s Backache Kidney J'ifl,,) gwnelir hwynt o wreiddiau pur a Ilysiau a inchaut ac a adfywiant yr arenau mewn ftordd naturiol. Gwellhant bob math o anhwylder yn yr arenlill ac yn y bledren: ervflii nt v cefn, a iachant boenau yn yr vftlysau a'r llwynau, cvwirant annhrefnau troethol (u. in<tr>/ disorders), a'r grafel; hwy a'ch ani.tdifi'vinnit rhag balliant gwaed, rhag tllanieg \i-Jlummaiiou) yn y bledren,lIrœmia. dyj rgjwyf, trwythlif (rlia- betes), a Blight s disrast. Nsd oes j.nddvni. tinrhvw weitlirthli:.d iir v coludilicn. C:, adug tybid mae annhrefnai: troethol yu Hnin a ellid eu priotloli i'r arenau, ond mae. uwyddoniaeth ddiweddar yn proti fod y rhan fwyaf o atieeh- ydon yn cael eu deehreuad yn yr oi^anaii pwysitr llyn. Felly, (;I! ydych yn wapi, IIi waetli beth a feddvliwch "W y mater, dech- reuwch ar unwai.h gyda I'mi Ai:i:nai; Ci knisok.v Doan Bad, .chc Kidmy Pill*), a chei^iwrh gael cicli arenau yn iielt, yna hwvtliau a ddvgant yn ol i iechyd" vr holl organau ereill. \id drwy yr un fi'ordd arall y'ch hadferir. 1 ??  Backache ? < %?)'bYy?'\?\? \?-????*'?'????°??????l?.   3 3  ?  YR UNIG FLWCH DIDWYLL. (iau holl fferyllwyr ac yn y S.rl'. am ¡I v blwch f; blwch 1J1) neu yn rhvdd drw y y jm* \11 syth oddiwrth v Fostki: MI CI.KI.I.AN Co., 8, Wells Street. I )xf..rd Strict. London. AV.
I Pontypridd a'r Cylch. -…
I Pontypridd a'r Cylch. Yn Noddfa, Ynysybwl, y dydd o'r blaen, cynhaliodd Bedyddwyr Cylch Pontypridd eu cwrdd chwarter. Llyw- yddwyd gan y Parch. E. D. Davies, Libanus. Pregethwyd yn yr hwyr gan y Parch. J. Evans, Tabor, Llantrisant. Cawsom anerchiad grymus ac amserol gan y Parch. 0. Jones, Trefforest, ar "Farweidd-dra'r Achos." Byddin yr lachawdwriaeth. Mae hon ar ei thraed, ac yn ffyddlon a gweithgar yn myn'd o gwmpas y lie i gymell pawb i'r 'Noddfa.' Mae ganddi fechgyn galluog a thalentog, ac nid oes ond Duw a wyr y daioni a wneir trwy- ddi. Clywais fod yna ddosbarth ym Mhontypridd yn myned o gwmpas y Lodging Houses yn y dre bob nos Sul i gynnal cyrddau a siarad a'r bobl, a'u bod yn cael cyrddau bendigedig. Credwn mai Terfnwyr y Dosbarth yma yw W. Jones, J.P., a Llew Richards ac praill. Y dydd o'r blaen claddwyd rhan farwol Mr John Williams, draper, Penrhiwceibr, yn Abercynon. Brawd o ardal Llanybydder oedd, ac wedi ei fedyddio yn ieuanc—tua'r flwyddyn 1873, a bu yn ddiwyd a ffyddlon hyd y diwedd yng ngwinllan ei Arglwydd ym Mhenrhiwceibr a'r Ynysboeth. Yr oedd yn drefnydd o'r fath oreu, yn arolygydd yr Ysgol Sul, yn ddiacon ffyddlon a llawn bywyd gyda phob rhan -y gwir yw, efe oedd bywyd y cyfan. Cododd gapel, a phe celsai fyw ychydig byddai wedi talu am dano. Gwag iawn fydd Tabernacl heb y gwresog John ? Williams gwag y teulu heb y siriol briod; a gwag y gymydogaeth ar ol un oedd mor ofalus am y tlawd a'r am- ddifaid. Dydd Mercher, yr 22ain, claddwyd Mr W. Perkins, Trallwn, Pontypridd, yng Nglyntaf, ac efe yn 69 mlwydd oed. Treuliasai ei flynyddoedd yn y Bont a Threfforest. Dan Gwmni y Gamlas y I gweithiai, yn y storehouse, fel gwr o ymddiried ac iddo barch mawr gan j bawb yn yr holl gylch, a mawr yw y ) eydymdeimlad a'r teulu. Gweinydd- I wyd yn yr angladd gan ei weinidog, y Parch. W. A. Williams, Tabernacl, ac I ar lan y bedd gan y Cyfaill John. Y dydd o'r blaen ychwanegwyd nifer trwy fedydd at y frawdoliaeth yn y Demi, y Graig, a gweinyddwyd gan y Parch. E. Lewis, Calvary, oherwydd methiarit y gweinidog. L Anrhegu y Teilwng. I Mae Iforiaid y cylch wedi pender- fynu anrhegu yr hen Gymro glan o Fon a'r Ifor ffyddlon, Gwyngyll Hughes. 'Arwydd-Len' a ffon a phethau eraill fydd y rhoddion i'r bardd, a noson lawen geir yn y Gyfrinfa yn Nhrehafod pan wneir y cyflwyniad. Called flyn- yddoedd lawer i fwynhau yr anrhegion. Dydd Sul a Llun, Ebrill 19 a'r 20, ( cynhaliodd y frawdoliaeth yn y Taber- nad eu gwyl bregethu, a'r cenhadon fu yn gweini oedd Hughes Blaen-y-Waun, ac Owens, Cefn Mawr. Codir llawer o dai newyddion yn Nantgarw. Credir y bydd yna rai mil- oedd yn gweithio yn fuan. Dymunol iawn oedd cwrdd a Creuddyn, y gohebydd ffyddlon o Heol- ycyw. Hen frawd ffein ydyw, ac yn hoff o'r "Darian," a'i llwyddiant yn agos at ei galon. Da yn wir oedd cwrdd a'r saint o Heolycyw ac Esgob Paran a'r teulu ar ben 25 mlwydd ei weinidogaeth ym Mharan, ac Esgob y Tondu, a Bowen o'r Cemaes a'i hyfryd genadwri. CYFAILL JOHN.
! Penydarren. -
Penydarren. Nos Fawrth, Ebrill y 21ain, cynhal- iwyd Cyngerdd Gerddorfaol yn y lie uchod. Arweiniwyd y Gerddorfa gau y cerddor galluog Mr W. J. Edmunds, F.T.S.C., a chynorthwywyd ef gan Eos Dar; Mr Tom Davies, Aberdar, fel telynwr, ac Mr Abel Lewis, Dowlais, fel I unawdydd. Cadeiriwyd gan y Cyng- horwr William Lewis, a thystiolaeth pawb oedd mai dyma un o'r cyng- herddau goreu a gynhaliwyd yn y cylch. Wele y rhaglen :— Part 1. "Florentiner March" (Fuick), y Gerddorfa. Cnawd. "My Dreams" (Tosti), Mr. Abel Lewis. Intermezzo, "Hearts and Flowers" (Czibulka), y Gerddorfa. Unawd ar y Delyn, Minstrel's Fare- well," Mr Tom Davies. Selection from Yeomen of the Guard" (Sullivan), y Gerddorfa. Canu Penillion, dull y Gogledd, Eos Dar. Selection from "Bohemian Girl" (Balfe), y Gerddorfa. Part II. Selection from "Faust (Gounod), y Gerddorfa. Unawd tenor, "Songs of Araby" (Clay), Mr Abel Lewis. Unawd clarinet, Lucia di hammer- moor," Mr G. Watson. Unawd delyn, Merch Megan," Mr. Tom Davies. Intermezzo, Petals (Raymond), y Gerddorfa. Canu penillion, dull y De, Eos Dar. March, Tannhauser (Wagner), y Gerddorfa. Cyfeiliwyd gan Mrs. Edmunds, priod yr arweinydd. Melus, moes etto.