Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

COLOFN Y BOBL IEUAINC.

News
Cite
Share

COLOFN Y BOBL IEUAINC. DAN OLYGIAETH DYFNALLT. DEWI SANT-Y GWLADWEIN- YDD YSPRYDOL. Bu Dewi yn foddion i ffurfio degau o eglwysi, yr hyn a brawf ei fod yn weithiwr egniol ac yn deithiwr diflino. "Hauodd oleuni i'r rhai oedd yn gorwedd mewn tywyiH^ch mawr, yng nglyn a chysgod angeu"; "efe oedd gannwyll yn llosgi ac yn goleuo," a bu'r genedl am oesau yn gorfoleddu yn ei oleuni. Gorchestwaith y sant ar ol sefydlu yr eglwysi oedd ffurfio esgobaeth o honynt, a Thyddewi yn ben ar yr oil. Gwelwn Dewi yn disgleirio nid yn unig fel mynach sanctaidd ac efengyl- ydd llwyddiannus, ond hefyd fel gwladweinydd eglwysig a chrefyddol. Danghosodd Dewi athrylith arbennig yn y cyfeiriad yma sydd wedi rhoi enw anfarwol iddo ar gof gwlad yn y gymanfa fawr honno yn Llanddewi- brefi; cymanfa fel y gellir tybio fu yn angeu i baganiaeth, derwyddiaeth, a Phelagiaeth, ac a sicrhaodd i Dewi safle ac enw goruwch pob sant arall yng Nghymru. Ffolineb ynnom fyddai aros gyda'r chwedlau dyfodd o gylch ei enw ynglyn a'r gymanfa honno; codi mab y weddw yn fyw ar ei ffordd yno; y bryn yn codi o dan ei draed pan yn pregethu; y golomen yn disgyn ar ei ysgwydd, a'i lais yn treiddio ar draws y miloedd. Nid yw hyn oil ond dychymygion y mynachod i gyfrif am fawredd Dewi. Yr hen syniad am ach- lysur synod Llanddewi-brefi oedd fod Pelagiaeth wedi adfywio'n fawr yn y wlad ar ol ymadawiad yr efengylwyr Garmon a Bleiddian, a bod yr heretic- iaid yn myned yn fwy hyf o flwyddyn i flwyddyn, nes i Dyfrig, Archesgob Caerlleon, deimlo fod yn rhaid gwneud gwrthsafiad cenhedlaethol yn erbyn y llifeiriant. A thybiwyd mai'r cynllun a gymerodd oedd- galw ynghyd seint- iau a Christionogion Cymru i ddadleu a phregethu yn erbyn yr heresi. Pan welwyd nad oedd y Gymanfa yn llwyddo i dawelu'r hereticiaid anfon- wyd am Dewi o'i neillduedd yng Nglyn Rhosyn, a chymaint oedd ei hyawdledd a'i allu nes y tawodd y Pelagiaid am byth ac y ffoisant o faes y Gymanfa yn encilwyr diobaith. Ond erbyn heddyw y mae goleuni newydd wedi tywynu ar fater Cyman- fa Llanddewi-brefi. Darganfyddwyd yn lied ddiweddar yn Ffrainc hanes y cynghorau yn Llanddewi-brefi o dan yr enwau "Sinodus Aquilonalis Brittain- ae" ac Altera Sinodus Luci Vic- toriae." Cawn ar ddeall yn wyneb y ffeithiau hyn mai amcan mawr Cymanfaoedd Llanddewi-brefi oedd nid gwrthwynebu Pelagiaeth yn gym- aint a ffurfio rheolau disgyblaeth a llywodraeth eglwysig. Dywed Rhy- gyfarch fod yn ei feddiant pan yn ys- grifennu Buchedd Dewi Sant law- ysgrif yn llaw y sant ei hun o "Actau Senedd Dewi." Galwyd yr olaf o'r synodau hynny wrth yr enw "Y Cyngor Buddugol." Sicrhawyd tri pheth drwy y Cynghorau yn Llan- ddewi-brefi (1) Uwchafiaeth Dewi mewn daioni a doethineb. Daeth yn bregethwr ac yn wladweinydd eglwysig mwyaf ei oes. (2) Sicrhawyd drwyddo fuddugol- iaeth ar heresi'r oes. (3) Sefydlodd gyfreithiau eglwysig a fu mewn grym am oesau yn yr eg- Jwys ar ol hynny. Nid yw'r Bucheddau ysgrifennwyd am y Sant yn rhoi llawer o wybodaeth ychwanegol am ,dano ar ol y "Cyngor Buddugol." Diau iddo ymsefydlu yn Nhyddewi i 'berffeithio ei gyfundrefn eglwysig. Pa un a drosglwyddodd Dyfrig, Arch- esgob Caerllepn, yr archesgobaeth iddo, ac iddo yntau ei thrawsffurfio o Fynwy i Dyddewi sydd ansicr, sut bynnag, gallwn synied iddo ym- gyflwyno weddill ei ddyddiau i ledaenu Cristionogaeth yn ei esgobaeth; i -osod mewn grym y rheolau a dynnwyd allan ganddo ef ei hun, a chefnogi pregethu'r Efengyl yn ei phurdeb ,cyntefig. Dyry Rhygyfarch ddarlun anwyl 'iawn o hono yn ei fuchedd feunyddiol yn Nhyddewi:- "Treuliai y dydd i gyd gyda'i ddefos- iwn, gydag addysg yr ieuenctyd a chyda gofalon y brodyr; daliai hefyd yn ddiysgog a diflino i borthi gwedd- won ac-amddifaid, cleifion a chloffion, ,crwydriaid ac alltudion dirifedi." Nid yw'n syndod pan y daeth yr awr iddo farw y clywid "galar torfeydd, cwyn- fan y tlawd, dolefain y claf; ac oer- nadau y brodyr." Aeth Dewi i lawr i'r glyn ynghanol galar cenedl, ac nid yw ysplander ei fachludiad wedi colli dim o'i ogoniant hyd yr awr hon. Mae ar gael gorff o dystiolaethau anuniongyrchol sydd yn cadarnhau ein ffydd ym modolaeth a bywyd Dewi Sant. Gadawer i ni gasglu y rhai hyn yn drefnus at eu gilydd. Cymerwn y profion ychwanegol am dano o ffynon- hellau ereill mor agos ag y gellir yn eu trefn amseryddol. Anodd gwybod i sicrwydd pa amseriad i'w roi i'r Tri- oedd Cymreig. Gwyddom fod rhai o honynt' yn perthyn i'r I3eg. Dyma a ddywedir yn y Trioedd-H Tri Gwesteion Gwynfydedig Ynys Pryd- ain, Dewi, Padarn, a Theilaw, sef eu gelwid felly am ydd elynt yn Westeion i dai bonedd, a gwreng, a brodor, ac aillt, heb gymeryd na rhodd na gobr, na bwyd na llyn, eithr dysgu'r ffydd yng Nghrist a wnaent i bawb heb na ,thgl na diolch, eithr i dlawd ac anghenus y rhoddent roddion o'u haur a'u harian, a'u gwisgoedd a'u bwydydd. "The three Guests of Benign Pres- ence of the Isle of Britain, Dewi, Padarn, and Teilaw. They were so called because they went as guests into the houses of the noble, the yeo- man, the native, and the stranger, without accepting either gift, or re- ward, or victuals, or drink, but what they did was the teaching of the faith in Christ to every one, without pay or I thanks besides to the poor and the needy they gave gifts of their gold and their silver, their raiment and their provisions." Diau fod y Trioedd yma yn cyfeirio at deithiau ac ymweliadau Dewi ar hyd y wlad pan yn pregethu'r Efengyl ac yn sefydlu eglwysi, a chawn gip- olwg hefyd ar yr elfen werinol yn ei fywyd. Gwerinwr oedd Dewi er ei fod o waedoliaeth frenhinol, ei ddy- head mawr oedd achub eneidiau ei gyd-wladwyr, ac ymarfer elusengar- wch tuag at y tlawd a'r anghenus. Son am Gymdeithaswr, dyma sant yn cario allan i'r lythyren ei gredo a'i ddysgeidiaeth.

! I Beirdd y Bont.

II I Colofn y Beirdd.

[No title]

Gohebiaeth. I

Advertising