Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
Eursm ■EST for K ■EDS an d Bedsteads CARDIFF (2) NEWPORT ■HA PONTYPOOL ■■ PONTYPRIDD ■H SWANSEA Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at £5 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan & Co., L d,,Wales' Largest Furnishers are now offering one hundred and twenty excellent Suites at above astonishingly low price! Each Suite comprises a substantial Ward- robe with Plate Glass Door and Leaded-light Side Panels, a capital Dressing Chest with large Mirror and Towel Rail attached, a handsome Washstand with Marble Top and Tile Back, and Two strong Cane-seated Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offered Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c..
Y Stori.
Y Stori. LLWYBRAU'R SARFF. Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H. CHARLES. VII. I (Parhad.) I Cafodd Ann Williams Iwyr argy-: hoeddiad, a gwir droedigaeth. Glyn- odd y geiriau tyner hynny a gyffyrdd- odd a'i chalon yng rtghyfarfod y merched dirwestol" wrthi am ddyddiau lawer, a gweddiodd am; nerth i wrthsefyll ei phrofedigaethau, ac arwain bywyd gwell er dod i gymod a'i rhieni. Ond amlwg oedd i bawb fod bywyd Ann Williams yn cyflym ddirwyn i ben. Ni bu erioed yn gadarn iawn o gorff, ond pan ym- j werthodd i'w blys, dinystriodd ei i hiechyd. Gafaelodd y darfodedigaeth ynddi, ac un dydd pan alwodd Mary Walters i'w gweled, daeth John Williams ei phriod i'r drws, a dywed- odd yn ddistaw wrthi: "Bu'r meddyg yma yn awr, a' dywedodd wrthyf nas gallai Mrs. Wil- liams fyw rhyw lawer yn hwy, fod ei hysgyfaint yn eithaf gwael, a'i bod yn araf dynnu i ben. Caraswn ei gweled yn cymodi a'i rhieni, ond fe allai na wrandawent arnaf fi, er fy mod wedi gwneud yr oil a allaswn er ei chadw a'i diogelu. Byddaf yn ddiolchgar i chwi os dywedwch ryw- beth wrthi i'r cyfeiriad yna, gan ei bod wedi adrodd cyfrinachau ei bywyd i chwi." Aeth Mary Walters fyny i'w hystafell, a gwelodd hithau gyf- newidiad rhyfeddol ynddi. O! mae'n dda gennyf eich bod wedi dod yma heddvw, Miss Wal- ters," meddai. 'Rwy'n teimlo'n wan jawn, ac oni bai hynny fe deithiwn j bob cam i Bantybrenin cyn bore fory, ond 'rwy'n gwybod na cha'i byth fynd yno mwy. Mae fy nhaith i ar. ben. O diolch, diolch, am i'ch llais chwi fy nghyrhaeddyd y noson honno. Ches i byth esmwythdra hyd nes y teflais fy hunan yn llwyr ar Ei addewid Ef. Garech chi i mi anfon gair dros- och at eich rhieni?" "Carwn, yn wir, ond nis gwn ddim o'u hanes. Beth pe baech yn .anfon gair i ofyn eu hynt at y Parch. Caleb Jones. Gwnaeth fy nhad gam mawr ag ef, ond gwr Duw yw efe, a gallwn ymddibynu ar ei eiriau." Wedi cael y manylion aeth Mary Walters i ysgrifennu at Caleb Jones. I Dywedodd wrtho yr holl amgylchiad- au. Awgrymodd y priodoldeb i'w rhieni ddyfod ar unwaith i'w gweled os oeddynt am gael golwg arni yn j fyw. Mynegodd hefyd ei bod wedi cael gwaredigaeth lwyr o'i phechod, ac wedi cael lie diogel "yn Ei glwyfau dyfnion Ef." Tarawyd Caleb Jones a. syndod pan i ddarllennodd y llith. Gwnaeth lawer o ymholion yn ei chylch o bryd i bryd ar gais Elen Powell, ond methodd gael nemor i ddim o'i hanes. Cynhwysai'r llith hon bron holl hanes ei bywyd, er mwyn i Caleb Jones ddeall yr am- gylchiadau, a chyflwyno'r cyfryw yn y modd gore fedrai i'w rhieni. Wedi ystyried y mater yn iawn, a gofyn am help Un cryfach nag ef at y gwaith, cyfeiriodd ei gamrau tua Phantybrenin, gan geisio anghofio; pob tro gwael a ffol o eiddo Evan Powell. Pan yn nesu at y ty gwelodd Evan Powell yn myned i gyfeiriad arall. Gwnaeth amnaid arno i aros, ond ni wnaeth yr un sylw. Cerddodd yn gyflymach, a galwodd arno i aros. Safodd Evan Powell a golwg sarug ar ei wyneb. 'Rwyf am siarad gair a chwi, Mr. Powell, os caniatewch i mi?" "Beth sydd gennych i ddweyd?" meddai yntau mewn llais digofus. "A wnewch chi roi eich Haw i mi, frawd?" meddai Caleb Jones yn dyner. Edrychodd Evan Powell mewn syn- dod, ac estynnodd ei law yn araf iddo. "Mae'n dda gennyf gael ysgwyd Haw a chwi, Evan Powell, ac os gwrandewch, mae gennyf rywbeth i'w ddweyd wrthych am eich hunig blentyn. Cododd Evan Powell ei ben, a new- idiodd ei wedd. Wyddoch chi ryw- beth am Ann, ynte?" meddai yn gyffrous. 'Rwy'n gwybod yr oil am dani, ac os y'ch chwithau. am wybod, dywedaf ei hanes wrthych yn union." Ar hyn, ffrydiodd y dagrau o'i lygaid, a dywedodd "Gwyddoch chi, Mr. Jones, nid wyf wedi cysgu'n iawn un noswaith oddiar pan y gyrrais hi oddiyma, ac 'rwyf wedi maddeu'r cwbl iddi ers blynyddoedd. Ble mae hi ? O fel y carwn ei gweld." Dywedoqd Caleb Jones yr oil yn y ffordd ore, heb guddio dim. Adrodd- odd hanes ei chwymp, ei hadferiad, a'i gwaredigaeth. Crynai gwefusau Evan Powell, a methodd ddweyd gair, ond estynnodd ei law i Caleb Jones, a dywedodd- "Wnewch chi faddeu i mi, Mr. Jones? Gwnes droion gwael a chwi ganwaith. "Ceisiaf anghofio popeth anymunol, Evan Powell, ac os carech i mi wneud rhyw gynhorthwy i chwi yn yr argyfwng hwn 'rwyf at eich gwasan- aeth. "A ddeuwch chi gyda ni bore fory, ynte, Mr. Jones ? Mae'r cymoedd poblog yna yn ddieithr iawn i mi, ac nid yw Elen yn gyfarwydd iawn a theithio." "Gwnaf unrhyw beth, Evan Powell, i'ch cynorthwyo." Hysbyswyd Elen yn y modd doethaf, a derbyniodd hithau'r newydd yn dawel fel un yn ofni Duw. Daeth yr adnod honno, "Ni frysia yr hwn a gredo," yn gryf iawn i feddwl Caleb Jones wrth sylwi ar Mrs. Powell yn derbyn y newydd. Tua phedwar o'r gloch yr ail ddiwrnod cyrhaeddasant dy Ann, ac yn fuan arweiniwyd hwynt i'w phresenoldeb. Disgwyliai yn daer am danynt. Aeth ei thad a'i mam ymlaen ati yn dawel, ond ni allai gair ddod dros wefusau yr un o fionynt. Munudau llethol oedd y rhai hynny, pan oedd dagrau ac ocheneidiau yn siarad cyfrolau. Ni fedr yr un iaith byth roi mynegiad cywir i ing dyfnaf enaid. Distawrwydd neu waedd bob amser yw'r cyfryngau gore. Daliai Ann law ei thad yn dynn, ac edrychai ym myw ei lygaid, gan ofyn, Odi chi'n maddeu i mi, nhad?" "Yr wyf wedi gwneud hynny er ys blynyddau, fy merch anwyl i." I "O! mam anwyl," meddai, "O! na fuaswn wedi gwrando ar eich cynghor- ion. Oni bai'r ddiod ni buaswn y fan hyn heddyw. Yr wyf yn rhy wan i ddweyd wrthych, ond mae'r ddiod wedi fy lladd. 'Rwy'n gorfod marw, a gadael fy mhlant bach heb eu codi o achos y ddiod. Y "Sarff" yw hi, nhad, gwn hynny yn awr. Byddwch yn garedig i fy mhriod. Gwnaeth aberth mawr er fy mwyn, poenais ef yn fawr iawn. Ac O ymgeleddwch fy mhlant bach amddifad, a chadwch hwynt draw o Iwybrau dinystriol y 'Sarff,' wnewch chi?" Methai ddweyd gair arall. Amneidiodd Evan Powell ar Caleb Jones i ddod ymlaen. Cydiodd Ann yn ei law, "Y chi oedd yn iawn, Mr. Jones. Daeth John Williams i fewn, a gwel- odd ar unwaith fod y cyfarfyddiad yn ormod i Ann yn ei gwendid mawr. Amneidiodd arnynt i fod yn dawel iawn. Yr unig frawddeg a ddiferodd dros ei gwefusau ar ol hynny oedd "Cefais fadduant o'r nef ac o'r ddaear. O! diolch." Aeth y cyfan yn dawel, daeth gwen dangnefeddus dros wyneb Ann Wil- liams. Symudodd ei rhieni a Chaleb Jones i lawr y grisiau, er iddi gael tawelwch am ychydig, feddylient; ond yr oedd Ann wedi cau ei llygaid am y tro olaf, a'i hysbryd wedi cym- eryd ei edyn i fyd yr ysbrydoedd. Deallwyd hynny yn fuan, ac yn ymyl corff marw ei unig a'i anwyl ferch y plygodd Evan Powell ar ei liniau i ofyn am faddeuant Duw. Yno hefyd yr ymdynghedodd na chadwai ac na chodai ddafn o'r ddiod byth mwy at ei wefusau, ac y cawsai Pantybrenin o hynny allan fod yn berffaith lan oddiwrth y Sarff" wenwynig. Cad- wodd yr adduned honno hyd ei fedd. Claddwyd Ann yn dawel yn hen fyn- went gysegredig Troedyrarth, ac erys ei gorweddfan yn adgof prudd o "Al- anas y Sarff." Brwydrodd Elen Powell yn galed yn erbyn y ddiod a'i dylan- wadau dinystriol, a gwelodd o lafur ei henaid. Gwelodd alltudio'r ddiod o Bantybrenin. Yr oedd baner buddu- goliaeth yn ei llaw, ond yn gymhleth- edig a'r lliwiau tyner yr oedd enw ei hanwyl blentyn Ann, yr hon a gwympodd yn ysglyfaeth i'r "Sarff." Aeth John Williams a'i ddau blen- tyn bach i fyw mwyach i Banty- brenin, a buont yn halen i'r lie, ac yn gadernid i'r achos. Ymhen amser, daeth Mary Walters—y ferch ddirwes- tol, a fu yn gyfrwng yn llaw Duw i achub Ann Williams, yn wraig i'r Parch. Caleb Jones, a bu yn foddion i sefydlu cymdeithasau merched dir- westol drwy'r ardaloedd. Dyna gipdrem ar lwybrau'r Sarff" yn Nhroedyrarth, a phriodol yw pwys- leisio unwaith eto destyn Caleb Jones "Gwae yr a roddo ddiod i'w gymydog, yn y diwedd efe a frath fel sarff ac a biga fel neidr." (Diwedd.)
Eisteddfod Flynyddol Peny-I…
Eisteddfod Flynyddol Peny- I bont-ar-Ogwy. MAWRTH PASG, EBRILL 14, 1914. Beirniadaeth y Traethodau. Derbyniais dri traethawd ar I Ddyfodol yr Iaith Gymreig —dau yn Saesneg ac un yng Nghymraeg, yn dwyn yr enwau "Shon o'r Wlad," "Amicus," a "Pro Patria." (I) Braidd yn wasgaredig yw "Shon o'r Wlad." Ychydig o drefn sydd yn ei draethawd. Mae ei ramadeg yn wallus iawn, a silleba ambell air yn anghywir. Mae gan yr ymgeisydd hwn feddwl uchel o'r hen iaith, ac ym- osoda'n hyf ar y rhai sy'n darogan ei thranc. Yn ei farn ef mae dyfodol disglaer i'r iaith, a gwel mewn am- ryw gyfeiriadau arwyddion o adfyw- iad. Casglaf oddiwrth ei gyfansodd- iad mai ymgeisydd ieuanc yw hwn, ac os felly nid oes raid iddo ddigaloni. Eled rhagddo a gwna yn well y tro nesaf. (2) Mae traethawd "Amicus" yn dangos fod yr awdwr wedi darllen yn helaeth ar y cwestiwn, yn gwybod yn dda beth yw barn estroniaid enwog am ein hiaith, ac yn gyfarwydd hefyd a'r symudiadau hen a diweddar er dwyn y Gymraeg i fri ac i arferiad mwy cyffredinol. Mae ganddo rhai awgrymiadau buddiol er cadw yr hen iaith yn fyw y byddai yn werth eu mabwysiadau, ac y mae'r traethawd drwyddo yn dangos medr lenyddol o radd uchel. Amlwg yw, er hynny, oddiwrth un dyfyniad Cymreig yn ei lith, nad yw yr awdwr ei hun yn hyddysg iawn yn yr iaith a ganmolir ganddo, a'r casgliad naturiol y deuaf iddo oddiwrth hyn ac oddiwrth y traethawd fel cyfan-gorff yw ei fod wedi benthyca i raddau, beth bynnag, o fannau eraill, ac nad yw ei gyfa^r soddiad drwyddo yn ffrwyth myfyrdod a sylwadaeth bersonol. Rhydd or- mod o le efallai i orffennol yr iaith a'i gwerth cynhenid o'i chymharu a ieithoedd eraill, a rhy ychydig i ddyfodol yr iaith a'r modd i'w diogelu. Modd bynnag, traethawd da yw hwn. (3) Yn olaf deuwn at eiddo "Pro Patria." Ysgrifennodd hwn yn Gym- raeg, a da gennyf allu dwyn tystiol- aeth fod ganddo Gymraeg bur, nat- uriol, a chyfoethog iawn. Mae rhai gwallau yma a thraw, mae'n wir, ond nid ydynt ond megis brychau ar yr haul. Tra bo yn ein plith rai sy'n gallu ysgrifennu Cymraeg mor loew a hyn nid oes raid i ni bryderu cym- aint am ei dyfodol. Gresyn na fuasai y gystadleuaeth hon wedi bod yn foddion i gynhyrchu mwy o draethodau tebyg. Byddai yn .werth i bob Cymro, ac yn enwedig i dadau a mamau Cymru i ddarllen y traeth- awd hwn yn ofalus er deffro ynom fwy o sel a brwdfrydedd dros ein hiaith a'n cenedl. Aeth yr ymgeisydd hwn dros y maes yn lied drwyadl. Gwyr yn dda beth yw yr anawsderau sy'n peryglu bywyd yr iaith, a noda rai o'i moddion pwysicaf i'w ddiogelu, megis (I) Noddi lien a gwasg Gym- reig; (2) cqfnogi gwyliau a sefydliad- au Cymreig; (3) cael Cymraeg ar yr aelwyd. Ysgrifenna mewn ysbryd ardderchog, ac y mae ei apel am fwy o sylw i'r Gymraeg yn gryf iawn. Nid oes betrusder yn fy meddwl parthed y goreu o'r tri traethawd an- fonwyd i mewn i'r gystadleuaeth. Mae eiddo "Pro Patria" ddigon ar y blaen i'r ddau arall, a llawn deilynga y wobr a gynhygir. Ar air a chyd- wybod. H. E. ROGERS. Cyfieithu Unrhyw Delyneg o Dros y I Nyth." Alltud.-Bai mawr Alltud yw gwella ar y gwreiddiol. Mae yn ormod o fardd i fod yn gyfieithwr da. Mae ei benhillion yn darllen yn naturiol. Alastor.-Anibell wall mewn gram- adeg. Nid da "vales delight" am "broydd hud." Ar y cyfan yn llwydd- iannus iawn. Cymro.—Wedi dewis telyneg go anodd i'w throi i'r Saesneg. Nid yw yn gwella y pennill olaf drwy newid trefn y syniadau. Nid oes llawer o frychau ar e iwaith. Dafydd ap Gwilym.—T Cryd Gwag.' Yn llwyddiannus iawn. Ambell linell anodd i'w deall. Gwenith Gwyn a "The Blind Friend." Dau gyfleithiad rhagorol. Ambell wall yma ac acw yn difwyno'r gwaith. I al.-N-id yw "spun" yn dod yn natur- iol ar ol "needles." Gwell fuasai "thatched" na "straw-roofed." Y goreu yw Dafydd ay Gwilym. Penybont. I W. EVANS.
Eisteddfod y Caerau, Ebrill…
Eisteddfod y Caerau, Ebrill 15, 1914. i r PRYDDEST Y GADAIR. Testun: "Dyfodol Gwerin Cymru. [ Ymgeiswyr, 13. Acen Lon.—Pryddest lgn a gorffen- edig. Nid da son am Ap Gwilym fel bardd y werin. Nid ydym yn hoffi Cynhaeaf Adref fel cyfieithad o Harvest Home." I Blaen y Wawr.—Yn dechreu drwy holi a oes i'r werin ddyfodol. Prydd- estwr cyfarwydd iawn. Y mae ganddo linellau gwych: Ac wrth ddryllio eu hualau Yn eu troi yn glychau Rhyddid." Mae yn ardderchog wrth son am y dylifiad Seisnig fel mor yn torri i fewn I i fywyd Cymru, a'r hen elfennau Cym- reig yn dad i lifo'n ffrydiau o'r mynydd- oedd. I Bias y mor sydd ar y ffrydiau Gerddant drwy ein cymoedd weithion, Ac mae'r ffrydiau man yn sibrwd Salmau'r mynydd wrth yr eigion." Trueni fod yr ymgeisydd yma yn ys- grifennu pedair llinell fel yr uchod yn ddwy linell. Nid ydym yn teimlo ei fod yn hollol deg i'r ymgeiswyr eraill. Brig y Wawr.—Da eto. Ca Llafur weld ei hawliau Yn llonni'r bwthyn llwyd, Heb ochain plant a dagrau mam I chwerwi'r tamaid Jbwyd." Ni welais y ffurf "hef" erioed. Anodd canu llinell fel hon: Ar fendith ansicr Ffawd." Braidd yn rhyddieithol yw son am Egwyddor Cydraddoldeb." Prydd- est i'w chanmol yn fawr. Calon wrth Galon.-Mae ei bryddest yntau yn rhy hir o bedair llinell. Can yn felys iawn ar y cyfan. Ambell fraw- ddeg yn tynu'n ol, e.g., 'Rhad fydd nwyddau ym myd masnach.' Cymro.—Rhai darnau ardderchog. Gwall yma ac acw. Fe'th welais," etc., am Mi'th welais," rhuddio am "rhuddo." Mae yn wir farddonol "Yng nghenllif dy gan wrth noswylio Yn boddi'r gofalon i gyd." Llatai y Cariad Tragwyddol!" Nid oes gwell bardd yn y gystadleuaeth. Gwenol.-Nid llawn mor farddonol a "Cymro," ond gryf iawn. Helygen U nig.(1) Dydd y Deffro; (2) Cyfle'r Wawr; (3) Unoliaeth a Choncwest. Diofal mewn ambell fan. Yn canu yn rhwydd iawn, a gwaith melys yw gwrando arno. Huw Llwyd.-Yntau yn rhannu yn debyg iawn. Mae llawer ymgeisiwr heblaw H. Llwyd heb ddysgu'r ffordd i acennu'r gair "traha." Yn anffortunus ambell dro yn ei ffigwr, e.g., Caed cenedl fud yn gorwedd Yn llonydd ar ei chledd a gloewach nen wrth y drws." Brychau yn anharddu llawer o dlysni. Mellte Mwyn.—Yn treulio gormod o amser gyda gorffennol y werin. Buasai "Derfel" yn edrych yn well nag "R. J. Derfel." Mae Mellte Mwyn yn werin- wr cryf, ac yn gryn fardd. Mira Mon.—" Gorthrwm yn rhamantu ei frad." Pryddest go anwastad. Y da a'r llai da yn agos iawn i'w gilydd. Peredur Wyn. Nid oes arno ofn dweyd ei tarn. rhu a rhonc Arglwyddi ami reg." Rhaid dadgysylltu'r eglwys Er mwyn unoli'r saint," etc. Mae nerth ei argyhoeddiad ambell dro yn troi'n wendid. Pryddest gref iawn ar y cyfan. Pro Patria.—An English Ode. Blank verse. A very rich vocabulary. Pro Patria is rather careless about his metre. On the whole a really splendid Ode. Un o'r Gorlan.—" Os distaw heddyw yw dy gledd." Mae yma frychau ond y mae yma hefyd farddoniaeth. Yn y gystadleuaeth mae amryw yn agos iawn i'w gilydd. Ofnaf y bydd rhaid cau Blaen y Wawr allan o'r gystadleuaeth. Bai y mwyafrif yw treulio gormod o'u hamser prin gyda'r gorffennol a'r nresennol. Wedi hir bryder credaf mai y bryddest oreu ar y < testun yw eiddo Brig y Wawr," ac I iddo ef y dyfernir y Vvobr. I Penybont. W. EVANS. J
Advertising
t V j  Cadewch iml siarad a chwi am I ? ?????? ??? Anhwylderau Nerfol I ???'??  ??????ME?i Mae ein giau fel gwe blethedig 0 m "???? 3 ?? \? ????? wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir J I Q S hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir fel y canolfan gieuol. Dibynna 'gE^ cyflwr y canolfannaugi- uol ar gyflwr t yr iechyd corfforol. ,an amherir yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r BEJb 1?? ? ?t nerfau. Yr adeg hynny y pcenir ni ?p?\ ??' ??t gyda nerfau "-cur pen, niwralgia, B?'?? y?? gwendid gieuol. Mewn achosion W, »   ? ,?? W ??y 'does dim tebyg i 4 Wincarnis/ f ? ????? '? ? Gwin y Bywyd.' Mae Wincarnis' [ P ?-, ? ? yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- reju'n union gyrchol ar y canol- t fannau nerfol ac a rydd iddynt ??? fywyd newydd a bywiogrwydd M?y?. ??tB??M? ? ??? Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. ■KM ? Dechreuweh wella'n H| RHAD Anfonwcb am brawf-gostrel rhad o Wincarnis' N))BN? ?\?1??N t —?"? ei flas ?° unig. ond digon i wneud Uez. ?))????M??? '?!??M AmgtUettr:st&mpcetniog(tdatu'rcludiad). COLEMAN & CO.. LTD.. W. 169, Wincarnis Works. Norwich. 66 GwID Y Bywyd" I Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. J E R G E's I L E GRAVEL j!j MIRACULOUS EFFECTSI I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werbhfawrhon i'w chael mewn tri ffurf. No. George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.—George's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvchau a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Gochelwch Dwyllwyn !—Gofynwch yn eglur am "[George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. x PERCHENOG- J. E. GEORCE, M.R.P.S., HIRWAIN, ABERDARE.