Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. !

News
Cite
Share

COLOFN Y PLANT. (DAN OLYGIAETH MOELONA.) I GWOBR NED PUW. I (Parhad.) Pe le y buoch chwi cyhyd? Yr ydych ddwy awr ar 01 yr amscr," gwaeddai un. "Y r oeddem ni yn meddwl eich bod wedi mynd ar goll yn yr eira," meddai un arall. "Beth a'ch cadwodd chwi mor hir?" gofynnai un o'r merched. "0, na 'hidiwdh/' meddai; Xed, gan dwymo ei ddwylaw wrth y tan mawr. "Dyma fi wedi dod o'r diwedd. Ond, dywedwch, pwy enillodd y wobr am redeg?" "Fe ddaeth yr eira, ac felly gohir- iwyd y rhedegfa," ebe ei ewythr. "Ond y mae'r haul yn disgleirio erbyn hyn. Awn ati ar ol cinio." "Yna nid wyf yn rhy ddiweddar," meddai Ned wrtho ei hun. "Da i mi wedi'r cyfan i'r storom eira ddod." Amser braf gafodd Ned y dydd hwnnw yn nhy ei ewythr. Tuag awr wedi cinio aed at y chwareuon. Rhed- odd Ned mor chwim, nes y daeth yn rhwym i fewn yn gyntaf, a chafodd y medal arian. Yn gynnar yn y prynhawn, march- ogodd ei ferlyn eilwaith er mwyn teithio tuag adref. Daeth ei ewythyr a'i fodryb a'r plant i gyd i ben y ffordd i'w weld yn cychwyn. Teimlai Ned yn llawen iawn, a'r medal ar ei frest. Ar ei ffordd galwodd yn y bwthyn i ofyn sut oedd yr hen wr.. Buasai'r meddyg yno, ac yr oedd Bob Mor- gan lawer yn well. "I chwi a'ch calon garedig mae diolch," ebe'r wraig wrth Ned. Da oedd gan Ned iddo fedru gwneud rhyw ddaioni, ac aeth yn ei flaen yn lion. Wedi cyrraedd ei gartref, daeth un o'r gweision i arwain y merlyn bach ymaith. "Ffarwel, Sambo," ebe Ned. "Gwyn fyd na baet yn mynd i'n hystabl ni. Hoffwn dy gael yn eiddo i mi fy hun." Ni ddywedodd air am ei daith hir, am ei fod wedi dysgu gwneud yr hyn sydd iawn bob amser heb son dim am hynny. Ychydig wyddai fod ei dad wedi clywed yr holl hanes gan y meddyg. Ychydig ddyddiau ar ol hyn yr oedd dydd pen blwydd Ned. Wrth edrych o'i ystafell wely, gwelai Sambo yn y buarth islaw. "0," ebai, "mae nhad yn gadael i mi fynd am wib ar gefn Sambo, am mai dydd pen fy mlwydd yw. Mor falch wyf." Aeth i lawr ar frys i ddiolch i'w dad. "Ni ellir llogi Sambo mwy," ebe Mr Puw, "mae rhyw ddyn wedi ei brynu." Tristaodd Ned wrth feddwl mai hwn fyddai'r tro olaf y cai fyned ar gefn Sambo, ond yr oedd llygaid ei dad yn lion iawn am rywbeth. "Nid wyt yn gofyn enw meistr newydd. Sambo," ebai. "Ai ni hoffet ei wybod?" "Rwy'n gobeithio ei fod yn rhywun caredig, un fydd yn dda i'r hen ferlyn annwyl," ebe Ned. 0, mae Sambo yn sicr o gael lie da," ebe Mr Puw. "Mae'r bachgen anghofiodd ei bleser ei hun er mwyn helpu hen wr oedd yn wael, ac yna heb ddweyd dim am hynny, yn sicr o wneud meistr da." Mor llawen oedd Ned. Prin y medrai ar y cyntaf gredu mor ffodus oedd. Wedi diolch i'w dad, rhedodd i'r buarth, a thaflodd ei freichiau am wddf y merlyn. "Sambo annwyl," meddai, "mor hapus wyf mai fy merlyn bach i wyt. Y fath amser gwych gawn gyda'n gilydd. COLLI'R CYFLE. I Gollaist ti gyfle I fod yn garedig? Cymer dy bennyd Yn ostyngedig. Arall sy'n cofio, Mae'r gwan archollaist Acw yn derbyn, Tithau a gollaist. Droaist ti ymaith Rhag gwaredu Gwan oedd yn gruddfan Mewn caledi ? Dywed dy weddi Yn dy ystafell, Hwyrach na ddisgyn Barn ar dy dafell. Welaist ti henwr A'i fraich yn ei lethu? Sefaist ti'n llonydd I'w weled yn methu? Dywed dy gyffes Wrth Un y mae'r oesau Ganddo'n cael cymorth I gario eu croesau. PENAR. -t-

"SARZiNE" BLOOD MIXTURE I

Oddiar Lechweddau I Caerfyrddin.…

Nodion o Glynnedd. I

Nodion o Rymni. I

"Jac Martin" yn Nhreforis.…

I - - .b. Nodion Heolycyw.

Advertising