Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

Yr Ethollad Nesaf. j

News
Cite
Share

Yr Ethollad Nesaf. j Y Mri. Edgar Jones, A.S., ac Artemus I Jones yn y Cadlys, Aberdar. t Cawsom y pleser o wrando y ddau foneddwr hyn yn annerch cyfarfod o î etholwyr yng Ngharmel, y Gadlys, j nos Wener, Ebrill ijeg. Cynrychiola I: Mr. Edgar Jones Ferthyr ac Aberdar fel Rhyddfrydwr yn bresennol, a daw Mr. Artemus Jones i'r maes gyda'r j bwriad o gydredeg ag ef yn yr Ethol- iad nesaf. Daethai Mr. Edgar Jones j i'r Gadlys i roddi cyfrif o'i oruchwyl- iaeth yn y Sennedd, a Mr. Artemus Jones i ddweyd wrth yr etholwyr beth a fwriadai wneud, neu geisio ei 1 wneud, os ca ymddiriedaeth yr ethol- wyr. Ac fel y gellid disgwyl yr oedd I y ddau yn dweyd ar eu goreu, a siaradwyr da ydynt hefyd. Llywydd- wyd y cyfarfod gan Mr. D. Evans, Tresalcm. Eglurodd ef mai cyfarfod i ymdrin a mater pwysig mewn lie arall gyfrifai am fychander y cynhulliad yng Ngharmel. Nid oedd y cynhulliad mor fychan ychwaith ag ystyried fod cyfarfodydd politicaidd yn bethau mor ) gvffredin. Ymfalchiai'r Cadeirydd ei fod vn Gvmro ac yn Rhyddfrydwr, | pan feddyliai am waith bechgyn Cymru yn y Senedd, ac yn arbennig gyflawniadau ein cyd ivladwr, Mr. Lloyd George. Mr. Edgar Jones alwyd i annerch y cyfarfod gyntaf. Dywedai ef fod storm wedi torn dros v Sennedd yn ddiweddar, ac o ran hynny mai mewn stormydd yr oeddent bron yn barhaus er cyflwyniad Cyllideb gyntaf Mr. Lloyd George i Dy'r Cyffredin. Yn I ystod yr wythnosau diweddaf cawsent eu hunain mewn rhuthrwynt ofnadwy ynglyn a helyntion y fyddin. Er hynny, o'r tu ol i'r cynnwrf i gyd gwnaed llawer o waith oedd o fudd mawr i'r wlad. Ni cheid, fel rheol, yn y papurau syniad cywir am lafur a dvfalwch Senneddwyr. Yr oeddent wedi bod wrthi yn llunio Mesurau gwerthfawr, rhai o honynt wedi dod yn cideddfau ac eraill i ddod. Cyfeir- 'iodd at y Mesur i ddelio a phlant o synhwyrau gweiniaid; y Mesur a gyflwynwvd yn ddiweddar gyda'r am- can o achub dynion ieuainc rhag carchar, ynghyd a'r Mesur sydd yn delio a chvflogiad plant ieuainc i fas- I nachu ar yr heolydd. Credai Mr. Jones y dylai'r Llywodraeth wneud yn hvsbys i'r cyhoedd yr amser dreuliai j aelodau ar bwyUgorau i wneud gwaith mor werthfawr. NIfei fechan fynych- ent y pwllgorau hyn yn ffyddlon. Ceid crvn drafferth weithiau i ffurfio « quorum" am fod llawer o'r rhai ) ddylasai fod ynddynt wrthi'n gwneud j arian. Nid oedd ef yno i wneud arian. Pethau yn perthyn i fuddiant ei ethol- aeth gai ei sylw blaenaf ef bob amser. Er garwed y dymestl deuai'r Hong i'r porthladd yn y man, a'r llwyth goreu a ddygasid i borthladd erioed Tiyd yn hyn. Llawenychai yntau am mai Cymro wnaethai'n bosibl y diwygiadau a gawsant eisioes ynghyd a'r diwygiadau mwy oedd wrth y drws. Er y flwyddyn 1906 ychwaneg- asid deng miliwn ar hugain at dreul- iau'r wladwriaeth, ac yr oedd yr ych- wanegiad hwn yn fwy na'r draul i gyd yn nyddiau Gladstone. I ba le'r oedd yr arian yn myned. Gwerid ar y Llynges ^14,000,000 yn fwy nag a wariesid erioed o'r blaen. Elai'r gweddill o'r ychwanegiad at bethau oeddent o fudd mawr i'r cyhoedd, megis Tal Henoed, Yswiriant, Cyf- newidfeydd Llafur, Addysg, ac i ddibenion Mesur Dad-blygiad. Y dos- barthiadau mwyaf anghennus o'r gweithwyr gaent yr holl fudd oddi- wrth y trethi newydd a godasid. Gorfodasai Mr. Lloyd George y wlad i dalu i'r gwan yn unig bron cymaint ag a gostiai i Mr. Gladstone i gadw'r ty i gyd. Y flwyddyn ddiweddaf cawsai 171,000 dal henoed. Ysgafn- liasai hyn lawer ar dreth y tlawd, ond nid y rhai a gynorthwyasid gan dreth honno a gawsent y budd mwyaf oddi- wrth d&l henoed, ond y tlodion hynny oeddent oddiar deimlad o hunanbarch heb fanteisio ar ddeddf y byddai ei cynhorthwy yn eu hamddifadu o'i hawliau fel dineswyr. Cawsai 1,500,000 o ddynion waith drwy gyfrwng y Cyfnewidfeydd Llafur. Talesid tren llawer o'r rhai hyn fel y gallent fynd at y gwaith, ac yr oedd yn dda ganddo allu dweyd fod y gweithwyr hyn gydag ychydig eithriadau wedi bod yn ddigon gonest i ddychwelyd eu treuliau teithio. Rhoddodd Mr Jones enghreifftiau I o'r budd a ddeilliasai i lawer o'r Ddeddf Yswiriol. Gwyddai mai anawdd oedd gwneud peiriant fel hwn yn berffaith ar y cychwyn. Rhoddi cychwyniad iddo oedd yn bwysig, ac yr oedd hynny wedi ei wneud. 0 ba le y cawsid yr arian at hyn oil? Codasid yr holl drethi newvddion ar gyfoeth a meddiannau heb ofyn ceiniog ar angenrheidiau byw'r gweithiwr. Hefyd yr oedd cyllidaeth Mr. Lloyd George yn iach ac ar lin- ellau diogel. Nid oedd fel y proffwyd- .asai Mr. Chamberlain yn 1912 wedi rhwystro cynnydd masnach y wlad. Profasid egwyddorion Masnach Rydd yn rhai diogel. Proffwydai y byddem yn ystod y pythefnos nesaf yn debyg o gael gan Ganghellor y Trysorlys gyllideb mor rhyfedd a'i gyllideb gyn- taf. Arwyddocaol iawn oedd fod treuliau ychwanegol enfawr wedi eu cael heb ychwanegu dim at ddyled y wlad, eithr yn hytrach ei lleihau. Tal- esid mwy o ddyled yn ystod y goruch- wyliaeth Mr. Lloyd George nag erieed o'r blaen. Ac nid yn unig ni chodasid ceiniog yn ychwanegol ar ymborth y gweithiwr, eithr yn hytrach ysgafnhasid y dreth ar fwyd o tua 41 o filiynnau. Y cwestiwn mawr i'w benderfynu yn fuan oedd Pwy sydd i lywodraethu—y bobl ai'r Arglwyddi? Y Ddeddf Seneddol benderfynai'r mater. Ofnai'r mawrion y Ddeddf hon yn fwy na dim, ac yr oedd yn bwysig iddi weithredu un waith. Yr oedd hyn yn bwysig i bawb o bob plaid a gredai mewn diwygiadau. Gyda golwg ar Ddatgysylltiad yr oedd y llyfr wedi ei gau a dim cyfaddodi yn bosibl. Byddai raid i'r Toriaid lyncu'r llyfr i gyd bellach. Gwawdiai Mr. Jones gais y Toriaid am referen- dum ar wahanol gwestiynau. Nid oedd ond cais i orchfygu y Ddeddf Seneddol. O'r ystormydd i gyd deuai'r llong i'r hafan yn y man, ac yn rhan o'i llwyth byddai rhyddid crefyddol i Gymru, rhyddid gwladol i'r Iwerddon, byddin yn ddarostyngedig i gynrych- iolwyr y bobl yn Nhy'r Cyffredin yn hytrach nag i'r Pendefigion, a gallu newydd trwy'r Ddeddf Seneddol i ryddhau tir y wlad, ac i wneud i ffwrdd a'r crocbris gwaradwyddus a godid am diroedd i adeiladu arnynt yn y lleoedd poblog. Cododd Mr. Artemus Jones, a dyw- edodd mai un o feibion gwerin Cymru oedd yntau. Adroddodd hanesyn don- iol am gyfarfod y bu ynddo yn Rhuthin a Lloyd George yn siarad. Gwnai rhyw giwrad dipyn o dwrw yno. Teflwch ef allan, gwaeddai rhai; na, meddai Lloyd George, clowch y drws. Credai Mr Jones ei fod mor gymwys a neb i gynrychioli gweithwyr Cymru, ac yn gymhwysach na rhai a honnent siarad vn eu henw. Gweithiwr oedd ei dad—saer maen wrth ei alwedig- aeth a gweithiwr oedd ei dadcu. Pwvsleisiai nad oedd ei gais am eu iddynt ei ddewis yn Aelod Seneddol dros yr etholaeth hon yn ymosodiad ar Lafur. Atebiad y Rhyddfrydwyr oedd ei ymgeisiaeth ef i ymffrost Mr. Keir Hardie ar ol etholiadau fod ei fuddugoliaeth yn fuddugoliaeth i Sosialaeth. Cymysgai Mr. Keir Hardie Sosialaeth a Llafur, ond gofalai ef na chai arfer ystrywiau felly yn yr eth- oliad nesaf. Gobeithiai y cyflawnid bygythion Mr. Keir Hardie ac y dygid Sosialydd arall i'r maes. Yr oedd y frwydr rhwng Radicalaeth bwyllog, synhwyrol a diogel ar un llaw, a Sos- j ialaeth wyllt anghyfrifol ar y llaw arall. Yr oedd yn llawn bryd dadlennu a dinoethi yr ysbryd a droisai allan o blaid, a honnai gynrychioli Llafur ddynion fel Mr. William Johnson, A.S. (Nuneaton) am nas gallai gyd- synio yn ddiamodol a chyfansoddiad plaid Llafur. Yr argraff adewsid arno fel mab i weithiwr a fynychai Dy'r Cyffredin fel cynrychiolydd y wasg oedd fod y Ty yn wahanol iawn yn awr i'r hyn oedd flynyddoedd yn ol. Nid oedd yno ddirywiad fel yr honnai rhai, eithr yn hytrach welliant mewn llawer ystyr. Bu adeg pan elai dau i'r Ty ac un yn gofyn i'r Hall—a weli di'r Llefarydd ? Gweld y Llefarydd ebai hwnnw, rydw i'n gweld dau Lefarydd, pan mewn gwirionedd gweld un Llef- arydd yn ddau yr oedd. Credai Mr. Artemus Jones y dylasai llais y werin lywodraethu mewn materion tramor, yn ogystal ag mewn materion car- trefol. Un o'r peryglon mwyaf i hedd- wch y byd oedd fod materion pwysig rhwng gwlad a gwlad wedi eu gadael i'r pendefigion yn unig, a heddweh cyfandiroedd mewn perygl yn ami o j herwydd cwerylon rhyw nifer fechan, o bosibl, o'r dosbarth hwn. Yr oedd y gwasanaeth llysgenhadol a swyddi o awdurdod yn y gwasanaeth milwrol yn gaeedig i'r werin. Byddai ei  ddylanwad ef bob amser o blaid cael y ffordd yn rhydd i blant y werin i'r safle- oedd uchaf yn y cylchoedd hyn. Credai y gwnai hynny lawer at ddi- 1 ogelu heddwch rhwng y gwledydd. Yn ei gyfeiriadau at Dy'r Arglwyddi dywed ei fod yn credu mewn ail Dy, ond iddo yn anuniongyrchol gynrych- ioli'r bobl. Ei reswm dros hyn oedd fod dylanwad y wasg Jingoaidd yn ami yn beryglus, a pherygl i'r cleddyf wneud y tugel yn aneffeithiol yn llywodraeth y wlad ar adegau. Gyda 1 golwg ar drethiant, nid oedd dosbarth yn y wlad a drethid yn drymach na'r gweithwyr. Credai nad oedd Radical j yn y wlad yn fwy awyddus i wneud brecwast y gweithiwr yn rhydd oddi- j wrth dreth na Mr Lloyd George. Nid oedd eto wedi llwyddo i allu symud yr holl drethi a'r fwyd, ond gwnai hynny yn y man. Ni chredai Mr. i Artemus Jones mewn rhyddhau'r [ gweithwyr yn hollol o drethi tuag at gynhaliaeth y wlad, ond protestiai yn I erbyn eu trethu yn anheg fel y gwneid Ij yn bresennol. Dyn wedi arfer gwneud j pethau oedd Mr. Lloyd George. Nid oedd arno ef ofn y swyddogion arosol oedd yn swyddfeydd y Llywodraeth ) fel oedd ar rai. Yr oedd y swyddogion hyn yn erbyn cyfnewidiadau ac yn rhwystr pan fyddai dynion gweiniaid wrth y llyw, ond nid oedd ei hwyr- j frydigrwydd hwy yn cael sefyll ar I ffordd Mr. Lloyd George. Cawsom fwynhad mawr yn y cyf- I arfod hwn, a chan nad beth fydd y canlyniadau, y mae'r Rhyddfrydwyr wedi bod yn ddigon dewr i dderbyn her Mr. Keir Hardie 6 leiaf.

Pontneddfecban. :

[No title]

Angladd y Parch Ll. S. Davies,…

Treherbert. I

Godre Ceredigion.

Advertising