Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Ynyslwyd, Aberdar. I
Ynyslwyd, Aberdar. I Dydd Gwener y Groglith cyflwyn- wyd anrhegion gan eglwys Ynyslwyd i Mr. Abraham Watkins, L.T.S.C., yr organnydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y brawd William Davies, y diacon hynaf, ac efe 'gyftwynodd i Mr Watkins oriawr aur hardd a'r ysgrif ganlvnol arni Cyflwynedig gan Eglwys Bedyddwyr Ynyslwyd i Mr. A. Watkins, L. T. S. C., fel arwydd o werthfawrogiad o'i wasanacth fel organnydd. Ebrill iofed, 1914." Gobeithiau William Davies y cai'r eglwys ei wasanaeth am flynyddoedd lawer. Cydnabu Mr. Watkins y rhodd mewn geiriau pwrpasol. Anrhegwyd hefyd y brodyr, James Lewis a W. J. Harries am chwythu'r organ gan y brodyr William Evans a John Wil- liams. Cloc marmor a "bronzes" gvflwynwyd iddynt hwy. Cawd anerchiadau gan lu o feirdd. Ys- grifenasai'r Parch. E. Wern Wil- liams i ddatgan ei ofid nas gallai fod yno, a thalai deyrnged uchel i allu cerddorol a llenorol Mr Watkins. Siaradodd y Parch. E. Cefni Jones, a dygodd yntau dystiolaeth uchel i Mr. Watkins. Cafwyd caneuon gan Mr. Daniel Edwards, Gadlys; Miss Cein- wen Evans; Mr R. Williams, a deu- awd gan yr olaf a'i frawd, Mr Emlyn Williams.
Nodion o Aberafon a'r Cylch.…
Nodion o Aberafon a'r Cylch. Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Bedyddwyr Dyffryn Afan ym Mhenuel, Cwmafon, dydd LInn y Pasg, o dan arweiniad Dr. T. D. Edwards, Treharris. Llywyddion y gwahanol gyfarfodydd oedd y Parchn. D. Morgan, Port Talbot; W. 11. Jones, Tai- hach, ac R. S. Morris, Cwmafon, yr olaf enwyd yn llanw lie v Parch. J. J. Rich- ards, Aberafon, yr hwn sydd ar daith yn y Gogledd. Cafwyd areithiau 'gan Mr Jones, Cwmafon; Dr. Williams, a Mr J. Rosser, Pontrhydyfen. Cawsom gann ardderchog, ae arwyddion amlwg o bresen- oldeh v Goruchaf. Mae yn werth i Fedyddwyr Cymrn Sicilian gwasanaeth Dr. Edwards, gwr sydd am rhoddi y mawl puraf posibl i'r hwn sydd yn deil- wng o bono. Cododd y dorf fawr ar on I traed i arddangos en c.ydvmdeimlad a pherthynasau y diweddar enwog John Henry, R.A.M., Lerpwl, yr hwn oedd yr arweinydd apwvntiedig am y flwyddyn hon. Cyfeiliwyd trwy yr hon gyfarfodvdd gan Miss Catherine Jones, A.Mus.L.C.M., Cwmafon. Cafwyd cvnianfa ardderehog. ac awyddfryd i sicrhau gwasanaeth Dr. Edwards y flwyddyn nesaf eto. Cafwyd Cymanfa Ganu Cndehol o Eg- lwysi'r cylch yn y Bryn dydd Mawrth y Pasg, a chafwyd gwledd ragorol yno, a Chymanfa Ganu Gwener y Groglith gyda'r Methodistiaid yng nghapel eang y Dyffryn, Taihach. Felly gwelir mai "Canu o hyd a chanu o hyd" ydoedd yma adeg y gwyl- iau. Y mae brodyr parch 11s y Methodistiaid yn hoff o rywheth gyda chanu, sef Ysgol Bwnc. Cynhaliwyd hon ganddynt yn y Tabernacl, Cwmafon, Ijlnn y Pasg. Felly gwelir fod y corff parchns yma yn ym- drechol iawn i ddysgu yr oes sydd yn codi ym mhothau mawrion y Drefn. Rhvw- beth felly sydd yn eisiau ar yr oes ar- wynebol hon. Yr Ysgol Bwngc, a gwybod- aeth Feiblaidd gododd gewri y gorffennol, a bydd raid cael yr offerynnau hyn i'w codi eto yn y dyfodol. Blin gennym gofnodi marwolaeth Mrs. Williams, Pentyla, Aberafon, anwyl briod yr Henadur David Williams, cyn-Faer Aberafon. Claddwyd hi dydd Sadwrn di- weddaf ym Mynwent Eglwys Sant Mair. Yr oedd yr ymadawedig yn chwaer-yn- ngyfraith i'r diweddar Barch. D. Griffiths, Aberafon. Bu yn ysgolfeistres yn y lie am flynyddau maith, a pherchir ei choffa gan ugeiniau. Cefnder i'r Parch. H. Evans, Penrhyneoch, yw yr Henadur Williams. Cydymdeimlwn ag ef yn ei dralold blin. Y mae golwg lewyrchus ar yr achos yn Ebenezer, Aberafoa. Pvthefnos yn ol bedyddiwyd pedwar gan y Parch. J. J. Richards. MAB Y MYNYDD.
Ystalyfera.I
Ystalyfera. Dydd Llun y Pasg cynhaliodd Bedydd- wyr y cylch yma eu Cymanfa Ganu. Yr oedd Capel Beulah, Cwmtwrch, yn orlawn drwy y dydd. Yr arweinydd y flwyddyn hon oedd Mr Daniel Griffiths, Calfaria, Aberdar. Cyfarfod y Plant gaed y boreu am 10 o'r gloch. Holwyd y henod gan y llyw- ydd, y Parch. E. D. Lewis, Caersalem. Cyfarfod dau o'r gloch Y llywydd oedd y Parch. W. Jones, Soar. Y r oedd y cwrdd yma eto yn dda. Cafwyd araith fer gan Mr W. George yn ystod v cvfar- fer gaii ,N li- W. C' eorge yn ystoa eyf a r- fod. Cyfarfod 6 o'r gloch Llywydd, y Pa reh. W. T. Hughes, Beulah. Canwyd amryw o donau'r plant eto yn y cwrdd hwn. Canwyd y don Ynys Owen," dan H- i weiniad yr awdur, ac fe'i canwyd yn hwyllls iawn. Yr oedd Mr Griffiths yn camol y don, ac ar ei gais ef v daeth yr awdur i fyny i'w harwain. Cafwyd araith dda gan Mr T. C. Williams ("Cerddor y Dyffryn"). Yr offerynwyr oeddvnt: Mr Richard Davies a Mr Jonah Powell, Beulah, Cwmtwrch. ac yr oeddynt ar eu goreu drwy y Cymanfa. YSGRIFENYDD.
Y Tridwr. I
Y Tridwr. I Ar y 9fed o Ebrill cyngerdd lwyddian- nus ydoedd eiddo plant yr Ysgol Ddydd- iol, Abertridwr, o dan arweimad y Fon- esig Margam, ysgolfeistres ymroddgar CwIn Aber, yn cael ei chynorthwyo gau nifer o'i chyd-athrawesau. Cymerodd tua phedwar cant o blant ran yn y gyng- erdd, a chyrhaeddwyd y nod ar un ergyd, sef cael offeryn i ysgol ddyddiol y plant. Noddfa, Capel Annibynwyr Senghenydd. Cyrddau pregethu Ebrill y 12fed a'r liieg. En dewis-ddynion eleni oedd y Parchn. D. Lloyd, D.D., Pontarddulais, a Fred Jones, B.A., Rhymni. Mae Mr Lloyd yn licii ai-AA-r y cyrddati inawi-, a Fred yn cyflym ddringo rhy poblog- rwydd fel yntau, a'r ddau yn llefarwyr diofn dros y Meistr. Ffydd a gweithred- oedd, gweddi a gwaith ydoedd ergydion amserol yr wyl. > Cymanfa Ganu Undebol Bedyddwyr lledwas, Caerffili, Llanbradach, Aber- tridwr, a Senghenydd Llun y Pasg yng ngliapel Tonyfelin, Caerffili. Yr arwein- ydd oedd JI r Tom Thomas, Abertridwr, un o ffyddloniaid Salem, Senghenydd. Caffaeliad i eglwys vw gwr ieinrnc o nod- Mr Thomas. Y mae vn cyfansodd- wr liylaw hctyd, a'i waith yn amlwg yn y Rhaglen eleni. Clywsom ganmoliaeth uchel i don "Hiraeth" Mr Morris Lewis, Bryn Gelli, Abertridwr, ar ol ei gyfaill ymadawedig Jos. Williams, ei gyd-lafurwr ffyddlon a blaenllaw iawn yng nghapel Beulah (B.), Abertridwr. Cymanfa Ysgolioii M.C. Dosbarth Dwyrain Pontypridd. Cynhaliwyd hon Llun y Pasg vngliapel Bethel (A.), Caer- ffili, am ei fob yn eangach na eiddo'r Hen Gorph yn yr un lie. Gwnaed gwaith nieWn egwyddori, canu ac adrodd Gair Duw, a'r Hyfforddwr a'r Rhodd Mam. Holwyd gan MrTom Lloyd, Yr Ystradach, a'r Pai-eli. J. P. Thomas, Llanbradach. Arweiniwyd y canu gan Mr J. Jenkins, Trefforest. Llywyddion v dydd oedd Mr Abram Morgan, Caerffili, a Mr T. E. Evans, Abertridwr. Swyddogion Cyfar- fod Dau Fisol Ysgol SuI yr M.C. y cylch yw Mr Robert Morris. Abertridwr. Try- sorydd, Mr William Parry, Ystradmyn- ach; ysgrifenydd. Mr T. Tdris Davies, Abertridwr. DEWI AIm. I
Cymanfa Ganu. II
Cymanfa Ganu. I Dydd Mawrth y Pasg cynhaliwyd Cy- manfa Ganu flynyddol Annibynwyr Tre- cynon a'r cylch, yn cynnwys yr eglwysi a ganlyn Ebenezer, Siloh, Salem, Horeb, a Chana. Yn y bore yn Salem eafwyd cyf- arfod y plant, pan yr arweiniwyd y cor, yn rhifo dros 300, gan Mrs. W. P. Davies, Horeb, yr hon a aeth drwy ei gwaith gyda medr a thact rhvfeddol. Yn y prynhawn a'r hwyr cyfarfu y rhai mewn oed yn Ebenezer, yn rhifo tua 500 o leisiau, dan arweiniad y hrawd ieuanc addawol Mr W. T Williams, Salem. Cadeiriwyd yn y gwahanol gvrddau gan Mr John B. James, Horeb, ac yn absenoldeb Mr John Teague gan y Parch. J. Grawys Jones, a chan y Parch. J. D. Hees. Aethpwyd drwy y rhannau defosivnol gan Mr Rich- ard Evans, Elim, y Parchn. J. Grawys Jones a J. Sulgwyn Davies. Adroddwyd Salm gan Miss Lizzie H. Griffiths, a I chanwyd unawd swvnol gan Miss Edith Lewis, Llwynypia. Caed anerchiadau gan Mi- Gwvnn Davies a'r Parch. W. S. Davies, Llwydcoed. Yr oedd pawb yn falch i weled yr olaf wedi cael adferiad o'i anhwylde)' diweddar, a chael gwrando ei anerchiad i'r plant yng nghwrdd y bore. Y cyfeilwyr oeddent Miss Amv Davies, Horeb, a Mr W. B. James, Horeb. Hefyd caed cynorthwv gwerthfawr Orchestra Ebenezer, dan arweiniad Mr William Thomas. Canwyd amrvw o domui Dr. Joseph Parry, yilogysial a'r anthemau, "Trwy ddirgel ffyrdd (D. Jenkins) er cof am D. Emlyn Evans; PebylJ yr Ar- gJwydd (Josepli Parry) a "Rhyfetgan y Plant" (G. James, A.C.), ac fe brofodd v don "^ardis," cyfansoddedig gan y Parch. J. D. R ees. Tresalem, yn wir j gymeradwv. Yr oedd y tywydd yn ffafriol, y cynulliadau yn dra lluosog, a'r canu o nodwedd uwchraddol, ie, ac addol- iatlol. I GOH.
Nodion o Abertawe. I
Nodion o Abertawe. I Y Ddrama yng Nghwmbwrla. I Cafwyd chwareu campus ar Ddrama I Beddau'r Prophwydi yn Y sgoldy Cwmbwrla nos Sadwrn, Ebrill 4ydd, a nos ■ Iau, y 9fed, gan Gymdeithas Ddiwvlliadol Cwmbwrla. Dyma'r tro cyntaf i'r Gym- deithas hon gynnyg ar chwareu drama, ac y mae eisoes wedi gwneiul enw iddi ei hun fel cwmni nv drus a phoblogaidd yn Aber- tawe a'r cylch. Yr oedd y chwareuwyr wedi meistroli y eymeriadau yn dda mewn gwisg ac arddull, ac anodd iawn fyddai curo ambell un o honynt. Gall y Gym- deithas ymfalchio yn eu gwaith. Yr ydym o galon yn llongyfarch y Parch. E. J. Edwards, oblegvd dan ei arweiniad ef y maf\'r cwmni. Yr oedd yr Ysgoldv yn orlawn y ddwy noson, ac nid oes amheu- aeth am ddyfodol llwyddianus y Ddrama Gymraeg tra fyddo chwareuwyr medrus fel y rhai hyn yn ei meithrin. Llywyddwyd nos Sadwrn gan John Meredith, Ysw. (Cadeirydd Cymrodorion Abertawe), a nos lau gan J. Lovat Owen, .Ysw., Y.H. (cvn- Gadeirydd y Cymrodorion). Cymerwyd rhan yn y Ddrama gan y canlynol: Robert William, John Thomas; Emrys, T. Clement; Mali Owen, M. O. Francis; Elin J AVilliam, Kate Fisher; Ann, Mrs. T. G. Davies; Parch. Azariah Evans, T. J. Wil- iams-Hughes; Bugh Bennet, T. Phillips; Dafvdd Dafis, Emlyn Rees; W. Pritchard, M. S. George; Mr Humphreys, W. E. Francis; John Vaughan, T. G. Davies; Agnes Vaughan, Gwladys George; Plis- man, D. J. Howells; Ystiward, \V. H. Francis; Cipar, T. G. Davies; Meistr y Tloty, Emlyn Rees; Morwyn y Tloty, Rachel James; Twm Huws, T. J. Williams-Hughes; ln arall o'r Tlodion, W. R. Francis; Porthor, Gabriel Wil- liams; Cyfeiles, Fonesig S. E. Evans. Prif ddigwyddiad yr wythnos oedd gwaith Cyngor Bwrdeisdref Abertawe yn anrhydeddu pedwar boneddwr haelionus a breinteh Rhydd-ddineswyr, sef Syr John T. D. Llewelyn, M.A., Penllergaer; Roger Beck, Ysw., Y.H. Johyn Dyer, Ysw.. Y.H., a David Davies, Ysw., A.S., Liari- dinam. Cymerodd y cyflwyniad Ie dydd lau, Ebrill 16eg, yn Neuadd eang Albert. Yr oedd prif arweinwyr y dref a'r cylch yno, a'r neuadd yn orlawn. Addurnesid y llwyfan gan flodau a phalmwydd. Llywyddwyd gan y Maer, yr Henadur T. T. Corker, yn ei holl arfogaeth swydd- ogol, gwisg a gweision, ac yn cael ei gyn- orthwyo gan Henadnrion a Chyngorwyr y Fwrdeisdref. Rhoddodd y Maer a'r Faeres groesawiad swyddogol i'r gwahodd- edigion yn yr is-neuadd cyn i'r eyflwyniad gymeryd lie, a chafwyd detholion dewisol gan Gerddorfa dan arweiniad W. F. Hulley, Ysw., yno, ac yn ystod y cyflwyn- iad. Pan esgynnodd y Maer i'r llwyfan yn cael ei ganlyn gan arwyr yr amgylch- iad, cododd y dorf ar ei thraed a rhodd- odd grawsaw byddarol iddynt fel dang- hoseg o'i hedmygedd a'i chymeradwyaeth o'r hyn oedd i gymeryd lie. Dywedodd y Maer yn ei araith agor- iadol fod y cyflwyniad yn cael ei wneud yn y Neuadd honno er mwyn i'r dineswyr gael y cyfleusdra i gadarnhau penderfyn- iad a gwaith y Cyngor drwy eu presen- noldeb. Yr oedd yn hyfrydwch ganddo weled yno y fath dorf yn datgan cymer- adwyaeth o waith eu swyddogion dewis- edig. Credai eu hod wedi gwneud y peth iawn wrth benderfynu gwneud Rhydd- ddineswyr o'r boneddigion oedd ar y llwyfan, a'i fod yn anrhydedd i Ahertawe en bod hwythau wedi derbyn yr anrhyd- edd fwyaf allai y Fwrdeisdref henafol gyflwyno iddynt. Dilynwyd ef gan Gofiadur y Dref, W. Llewelyn Williams, Ysw., K.C., A.S., yn darllen yr ysgrif-lenni, yn cynnwys cyfeir- iadau at weithrediadau haelionus a dyn- garol y boneddwyr oeddynt yn anrhyd- eddus. Yna cyflwynodd y Maer iddynt bob yn un ac un ei rol a'i chist gelfvdd, mewn geiriau cymwys a charedig. Edrychai yn urddasol yn ei wisg swyddogol, a gosod- odd urddas ar y gweithrediadau. Cafwyd yn dilyn ddwy araith edmygol o'r bonedd- I wyr gan yr Henadur David Davies, Gol. y "South Wales Daily Post," ac is-Faer y Dref, a'r Cyng. David Williams, Cyn Faer, ac yna diolchodd y boneddwyr mewn areithiau diddorol a theimladwy, a ther- fynwyd gan y Gerddorfa yn chwareu yr Anthem Genedlaethol. Ebrill 19eg, 1791, bu farw yr enwog Barch Richard Price, D.D., F.R.S., etc. Adnabyddir yn fwyaf cyffredin fel Dr. Richard Price, Tynton. Efe oedd Cymro mwyaf ei ddydd, ac un o gymeriadau galluocaf a mwyaf dylanwadol ei gyfnod yn y cyd-fvd. Nid vdyw Cymru hyd eto wedi Ilawn sylweddoli mawredd meddwl a chymeriad y gwr ardderehog hwn, gymaint y tslid gan Llywodraethau Fframc a'r Unol Daleithan warogaeth i'w afluoedd di-ail, a chan oreugwyr gwleidyddol Prydain Fawr yn ogystal. Heddyw, pan mae y deyrnas fel pc ar flaenau ei thraed yn disgwyl araitli ac adroddiad Cymro en- wog arall, Yr Anrh. D. Lloyd George, Canghellor y Trysorlys, ar y Gyllideb, mae awgrymiadau y Cymro o Dy'nton yn cael eu mabwysiadu ganddo, fel gan ei flaen- oriaid yn y swydd i leihau y Ddyled Gen- enedlaethol. Oblegyd Dr. Price ydyw awdur dyfais y "Sinking Fund" er lleihavi y ddyled gryhwyIledig. Mae darllen hanes ei fvwyd yn fwy diddorol na miloedd o'r rhamantau ffug- iol dynnant sylw y dyddiau hyn, a thru- eni dyhryd na fuasai cof-golofn iddo wedi ei chodi yn ardal ei enedigaeth, kef, Llan- geinor, Cwmgarw, Morgannwg. Bu ei ddylanwad yn fawr yn ffurfiad Cyfansodd- iad Gwerin-lywodraeth Ffrainc, ac hefyd ruol Daleithiau America a gwahoddwyd ef gan y Llywodraeth honno i sefydlu yn eu plith er gofalu a threfnu ei chyllid gan sicrhau iddo ef a'i deulu pob croeso a chefnogaeth arianol a chymdeithasol. Daeth Rhaglen "Eisteddfod Gadeiriol" Eglwys Llanyrnewydd, Penclawdd, i law, a'r "cyswyn-eiriau" yn argraffedig arni fel hyn-" Môr o Gan yw Cymru i Gyd," a Cas Gwr ni Charo'i Wlad a Macco." M ae hyn bron cystal a'r gwr a ddywedodd mor hunan-feddianol, "Yn mhob gwlad y megir blew," ac yntau a ddywedodd, There is many a sip between the cup and the lip," er fod ynddynt hwy lawer o wirionedd yn eu diwyg newvdd. TALNAiNT. I
Noddfa (A.), Senghenydd.I
Noddfa (A.), Senghenydd. I Cynhaliodd yr eglwys Annibynol hon I ei chyfarfodydd blynyddol Sul a Llun y Pasc, Ebrill i2fed a'r i3eg. Gwas- anaethwyd gan y Parchn. D. Lloyd Morgan, D. D., Pontardulais, a Fred Jones, B.A., B.D., Moriah, Rhymni. Cafwyd cyfarfodydd ardderchog, a'r Arglwydd yn nerthu Ei weision i draethu gyda grym ac arddeliad. Da oedd gennym weled rhai yn rhoi eu hunain iddo Ef ar ddiwedd y cyfar- fodydd. Hyderwn y gwelwn ffrwyth ychwanegol ar ymdrechion Ei weision, ac hefyd ar ymdrechion egniol gwein- idog parchus yr eglwys, y Parch. T. Morris.
Ar Lannau Tawe.I
Ar Lannau Tawe. I Cafwyd noson o wledd a chan dan nawdd CynideithaK Gydweithiol Abertawe yn Neuadd Gyhoeddus Clydach y Sadwrn di- weddaf, er dathki agoriad eu siop newvdd yn y gymdogaeth hon. Rhoddodd y Cvnghorwr David Williams, hen Fair Abertawe, araith werthfawr ar gydweith- rediad, a chanodd y honwyr Willie AVal- ters a Ben James a Glydach. Cynhaliwyd cynhadledd o weithwyr Go- beithluoedd AlwrtaiN-o a'r cylch yn Ys- goldy Carmel, Clydach, y Sadwrn diwedd- af. Llvwyddodd y bonwr David John (Brynderw), Llywydd Undeb Clydach a'r Cylcli, a darllenodd y bonwr R. H. ToJlick, Abertawe, bapur dysgedig ar y testun, "Model Band of Hopes." Datganodd y llywydd a'r Parch. D. Eiddig Jones, Hebron, a'r bonwyr A. Arnold, Wesley; D. Davies, Carmel, a Stratton, Abertawe, eu. gwerthfawrogiad o'r papur. Terfyn- odd y Parch. J. Vinc-ent Thomas, Salem, y cyfarfod trw." weddi. Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol Cyngor PiNi, yf Rhyndwyclydach yn Ysuo]dv Twvn- bedw, Clydach, nos lau diweddaf. Llvw- yddodd y Cynghorwr Richard Thomas. Etholvyd y Cynghorwr Daniel Jones, Heol-ddu, yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol, a'r Cynghorwr Joseph Davies yn isjywydd. Ail-etholwyd Cynghorwyr Evan Lloyd, Joseph Davies, AVilliam Jen- kins a AVilliam Boiven yn arolygwyr y plwyf. Ar ol etholiad y Pwyllgorau ar- ferol, ymdrechodd y Cynghorwyr Evan Lloyd gael y Cyngor i atal plant dan 14 oed i fynychu'r Cinemas yn yr hwyr, ond ni eiliwyd mo'i gynnyg. Cafwyd noson o wledd a chan dan nawdd Cangen Llysieuaeth v Clydach Technical Classes yn Neuadd Gyhoeddus Clydach nos lau diweddaf. Llywyddodd y boneddwr H. N. Miers. Roedd yno gyn- hulliad da o fyfyrwyr, a rhoddodd y cyfaill W. G. Llewelyn, athraw y gangen, ddarlith rhagorol ar "Lvsieuaeth." Terfynodd y Gymdeithas Ddiwylliadol ei thymor gyda noson o wledd a chan yn yg o) (I v Carmel, Clydach, nos lau di- weddaf. At- ran y Gymdeithas rhoddodd y bonwr David John, Brynderw, anrheg o inkstand hardd i'r Parch. J. M. Wil- liams, y gweinidog, a llywydd y Gym- deithas, am ei wasanaeth drwy'r tymor. Darlithiodd fy nghyfaill W. D. Hill, B.A., Fardre House, Clydach, yn hyawdl B. Ay.n ddiddorol iawn yn Saesneg ar "Canada" yn Salem, Clydach, nos lau di- weddaf. Llywyddodd v Parch. J. Vin- cent Thomas, gweinidog. Darlithiodd Gwili, Golygvdd y "Seren," yng Nghalfaria, Clydach, nos Lun y Pasg, ar "Fvwyd Penhillion Telyn." Canwyd penhillion gan Mr Richard Morgans, Bettws, a'r delyn gan Mr George Evans, Glanaman. Llywyddodd Dr. J. Havard Jones. Cynhaliwyd Cwrdd Festri blynyddol yn Eglwys St. Mair, Clydach, nos Lun y Pasg, dan lywyddiaeth y Parch. T. Morris. Rhoddodd Mr. James Hearne adroddiad o'r sefyllfa ariannol am y flwyddyn ddiweddaf, a danghosodd fod y derbyniadau yn tl73 7s. 5d., a'r taliadau yn £ 172 19s. 4d., ac fod 8s. Id. mewn 11a w. Penodwyd Mr H. R. Jones yn warden i'r bobl, a Mr James Hearne yn warden i'r ffeirad am y flwyddyn. Pas- iwyd penderfyniad o wrthwynebiad i Fesur Datgysylltiad. Cyhoeddodd v Ffeirad yn vstod y cwrdd fod dros 500 o Yinneillduwyr Clydach a'r Cylch wedi llawnodi v ddeiseb leol yn erbyn y Mesur. Mae Uawer math arnom, ebai hen wraig pan welodd y mwnci gyntaf, ond pa fath ar Yinneillduwvr yw y rhai hyn? Yng Nghwrdd Festri Eglwys St. loan, Clydach, nos Lun y Pasg. llywyddodd y Parch. T. Morris, a chafwyd gan Mr Morgan Morgans fynegiad fod y cyfran- iadan am y flwyddyn ddiweddaf yn £ 80 8s. 9d., a'r taliadau yn £ 79 9s. 6d., felly mae ganddynt 19s. 3c. mewn llaw. Penodwyd Mr Morgan Morgans yn warden y bobl, a Mr David Thomas yn warden y Ffeirad. Cafwyd yr un hen gan yma eto am Ddatgysylltiad. Pregethodd Mr John Williams, A.S., yng Nghalfaria, Clydach, nos Sul y Pasg, a mwynhawyd ei weinidogaeth yn fawr. CvnlwJiwvd cyrddau amrywiaethol di- ddorol yn Hebron, Clydach, Sul y Pasg. Llywyddodd y Parch. D. Eiddig Jones, gweinidog. Paratoisai y Fonesig Emily Morgan, arolygyddes y plant, a'r Bonwr Evan Thomas, arolygydd y bobl mewn oed, rhaglen ragorol. Arweiniwyd y gan gan -All- Edwin Davies, a Mr Gwilym Grove yn gwasanaethu fel organydd.
Nodion o Frynaman. -1
Nodion o Frynaman. -1 GAN WALCH HYDREF. f Bothania.-Nos lau, Ebrill 2, yn yr eglwys uchod, traddodwyd darlith ar Robert Owen, ei waith a'i alwedig- aeth, gan Mr Johnny James, Cwm- gors, is-oruwchwyliwr dosbarth Glo Carreg. Cafwyd darlith odidog gan ddiwygiwr cymdeithasol ei hun, ac y mae yn gallu darlithio hefyd ar y tes- tyn uchod. Cadeiriwyd gan Mr Willie Owen, atalbwyswr, Blaenywaun, a chadeirydd Dosbarth y Glo Carreg. Yr oedd yr elw i gynorthwyo y brawd John Jones, Rhosaman, yn ei hir afiechyd. Cerddorfa.—N os Sadwrn, Ebrill 4, yn Neuadd Gyhoeddus Gwaun-cae-Gur- wen. perfformiwyd St. Paul gan Gor o'r lie. Cynnorthwywyd gan gerddorfa linynol Brynaman, o dan arweiniad Mr Evan Williams. Glytt Road. Mae galwadau rnynych am wasanaeth y gerddorfa uchod. Neuadd Gyhoeddus. Xosweithiau lau a Gwener y Croglith, Ebrill 9, 10, perfformiwyd cantata enwog, "Madam Muddle's Dream," yn y lie uchod, gan y Brynaman Juvenile Choir, o dan ar- weiniad Mr John Clun Williams, Glyn Road. Yr oedd y Neuadd yn orlawn y ddwy noson uchod, a phawb ym mwyn- hau eu hunain wrth wrando ar y plant yn canu mor swynol. Maent yn paratoi gogyfer ag Eisteddfod Genedlaethol y Plant a gynhelir yng Nglanaman mis nesaf. Llwyddiant fyddo i'w hym- drechion. Priodasau.-Ddydd Gwener y Grog- lith, yn Gibea, unwyd mewn glan briodas Mr Joseph Jones, mab Mr a Mrs Wm. Jones, Waunleyshon, a Miss Margaret Jane Rees, merch Mr David Rees, Lluest. Gweinyddwyd ar yr ach- lysur gan y Parch. W. D. Thomas, Gibea, ynghyda'r cofrestrydd. Eto ddydd Sadwrn, Ebrill 11, ym Mhontar- dawe, unwyd Mr Rees Ivor Evans, mab Mr a Mrs David Thomas Evans, Park Street, a Miss Sarah Edwards, merch Mr a Mrs T. Edwards, School Road. Yr un dydd ac yn yr un lie, unwyd Mr Willie Hume, a Miss S. Griffiths, merch Mr a Mrs Tom Griffiths, Glyn Road. Eiddunwn briodas ddedwydd i bob un. Siloam.Bore Sul. Ebrill 5, cafodd y I frawdoliaeth yn y lie uchod y fraint o glywed un o ddeiliaid yr Ysgol Sul, sef Mr Daniel Hopkin Morgan, mab Mr a Mrs David Morgan. Dryslwyn, Llandilo Road, yn traddodi ei bregeth gyntaf. Mae yn ysgclor gwych, ac wedi ennill tystysgrifau uchel yn Ysgol Llandilo. Eiddunwn iddo bob llwyddiant yng ngwaith ei fywyd. Penderfynodd yr eglwys yn unfrydol i gynorthwyo y brawd yn ei flaen. Bwriada gychwyn yn Ysgol y Gwynfryn. o dan yr athro medrus Gwili. Dyma'r trydydd i eglwys Siloam godi i'r weinidogaeth. Mae Mr Tom Owen Jones eisoes yn America yn paratoi ar gyfer y meysydd tramor, a Mr David Jones yntau yn as- tudio yng ngholeg Caerdydd. Liongyfarchwn. Dymunwn Iongyf- arch y bardd-bregethwr a'r athro medus o Ysgol Gwynfryn, Rhydaman, sef Gwili, M.A.. ar ei ddyrchafiad yn olyg- ydd Seren Cymru." Prynhawn Sadwrn, Ebrill 11, bu farw Miss Maggie Jones, Bridgend Shop, yn 42 mlwydd oed, wedi dioddef am flynyddau oddi wrth yr asthma. Yr oedd yr ym- ada wedig yn un addfwyn a charedig bob amser. Bu am flynyddoedd yn athrawes yr ysgol ddyddiol yn rhanbarth uchaf yr ardal, a chawn fwynhad eithriadol yn ei dosbarth bob amser. Ni cheryddai a gwialen, ond frvfforddai bob plentyn ymhen ei ff ordd. Yr oedd hefyd yn aelod dichlynaidd o Gor Rrynaman. Ei ei gych- wvniad bu ffyddlon hyd y diwedd. Dydd lau canlynol claddwyd hi yn hen Fynwent Gibea, a thorf luosog yn talu'r gymwynas olaf iddi hi. Gwasanaethwyd gan y Parchn. W. D. Thomas, Gibea; H. O. Jones, Ebenezer; L. Rhystyd Davies, Moriah, ac ereill. Gadawodd fam oed- rannus ynghyd a brodyr a chwiorydd i alaru ar ei hoi. Gyda Haw, bore Llun y Pasg daeth y newydd pruddaidd i'r ardal o Ddeheudir Affrica am farwolaeth sydyn un o blant yr ardal, sef Mr Fred Jones, Crown Hotel. Rhyw chwe mis sydd er pan ymadawodd a'r wlad hon. Yr ydym wedi cael ar- ddeall trwy'r llythyrau, iddo enwogi ei hun eisoes ymlilith poh cenedl yno, a dvrchafu ei hun yn uchel mewn cvmdeith- asau o'r radd flaenaf mewn cerddoriaeth, etc. Gwyddom am ei alluoedd fel canwr cornet, ac ennill ohono dystysgrifau uchel ynglyn a mwnyddiaeth yn y wlad hon; ond dywedir nad yw hyn ond bychan o'i gym- haru a'r hyn a enillodd yng ngwlad y Boeriaid. Nawdd y nef fyddo dros y teuluoedd hyn yn eu dyddiau blin. Cynhaliodd eglwys Siloam ei gwyl de a chwrdd amrywiaethol prynhawn dydd Llun y Pasg. Cafodd deiliaid yr Ysgot Sul ynghyda ffvddloniaid y Band of Hope ddiwrnod eleni fel arfer i fwynhau eu hun- I a in yn wobr am eu ffyddlondeh yn ystod tymor y gaeaf. Wedi clirio y byrddau caed cyfarfod tystebu un o ffyddloniaid yr Ysgol Sul ar ei fynediad i Goleg Caerdydd i barotoi ei hun gogyfer a'r weinidogaeth. Cadeiriwyd gan y Parch. J. Lee Davies, gweinidog vr eglwys. Ar 01 i amryw adrodd a chanu deuwyd at brif waith y cyf- arfod, sef cyflwyno anrhegion i'r brawd David Jones, Brynaman Road. Cyflwyn- wyd yr anrhegion gan y Parch. J. Lee Davies, sef Beibl hardd gan yr Ysgol Sui, a phyrsaid o aur gan yr eglwys. Diolch- odd Mr David Jones yn deimladwy. Ddydd Gwener y Groglith cynhaliodd Gobeithlu Hermon wyl de flynyddol. Wedi digoni pawb a'r bara brith caed cyfarfod amrywiaethol. Cadeiriwyd gan Madam Kate M. Williams, Amanfryn. Cyflwyn- odd Mrs. W. J. Williams, Amanfryn, an- rhegion i aelodau y Gobeithlu am eu ffydd- londeb. Cyflwvnwyd i Miss M. J. Grif- ffiths, Hermon House, am ei gwasanaeth gyfrolau o Shakespeare. Cafwyd anerch- iad gan Mr Rees Howells, cenadwr. Cyf- eiliwyd gan Miss A lite Davies, Bradford House. Ysgrifennydd y mudiad ydoedd Mr Daniel Thomas, Goleufryn. Dydd lau, Ebrill 16, yn Ebenezer, cyn- haliwyd cwrdd cystadleuol. Cadeiriwyd gan Mr John James, Banwen, ac arwein- iwyd gan y Parch. Evan Davies, B.A., Cwmgors. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan Mr John Morgan, A.L.C.M., Gar- nant, a'r amrywiaeth gan yr arweinydd. Y gwobrgydau gan Mrs. Morgans, ysgol- feistres. Wele enwau y rhai buddugol:— Adroddiad i blant dan 12 oed: 1, Bessie Roderick, Neuadd Road; 2, Janet George. Unawd i blant dan 12 oed Rhannwyd y wobr flaenaf rhwng Dan Lloyd, Cwmgors, a May Thomas, School Road; a'r ail 1 El- vira AVilliams, Garnant. Adroddiad i blant dan 16 oed 1, Sarah Ann Jones, Pontardawe; 2, Bessie Roderick. Un- awd i blant dan 16: 1, Blodwen Thomas, School Road; 2, Jane Williams, Pia. Am y bag gore, dyfarnwyd y wobr i Miss Cein- wen AVilliams, Banwen House. Canu penillion i blant o dan 16 oed, y gore, Haydn Williams, Banwen House. Deu- awd i blant dan 16. Kate Evans a Lucy Watson, Brynaman Road. Unawd tenor, gore, Garfield Roberts, Llandilo Road. Penhillion i'r Ysgol Sul, gore Mr Daniel Thomas, Gate Street, Gwaun-cae-Gurwen. I Unawd soprano, Miss Esther Ann Davies, Llandilo Road. Am y wn ore, Mr D. Brynfab Thomas. Unawd bass, Mr Owen Morgan, Glanaman. Cyfansoddi pennill ar destyn a roddid ar y pryd, rhanwyd y wobr rhwng Meistri Dan Jones, Cwmgors, a Dd. B. Thomas. Ysgrif, "Buddiotdeh Cyfarfodydd Llenyddol/' rhannwyd y wobr rhwng Richard Morgan a Sidney Lewis. Her unawd, Mr Wm. Price Rees, Gwaun-cae-gurwen. Her adroddiad, cadair hardd, roddedig gan Mrs. Evans a'i mab: Y gore o amryw ydoedd Miss M. A. Thomas, Cwmllynfell. Cyfeiliwyd yn ystod y cyfarfod gan Mr. Gwilym M. Jones. Park Street.
BWRDD Y COLYCYDD.
BWRDD Y COLYCYDD. Etholiad Cyngor Dosbarth Caerffili.- Atebiad Air Edwin Lewis i lythyr Dewi Aur mewn llaw ac i ymddangos yr wyth- nos nesaf. F.H.—Hyd yn oed pe byddai digon o Fethodistiad yn barod 1 ateb, ni fyddai hynnv yn rheswm dros gyhoeddi ffwlbri yn v ai-ian." Mewn Liaw.-Adoly g'v dd yr Adolygiad, Eisteddfod y Caerau, Cyngherddau'r Portli, Cymru Heddyw, Colofn y Beirdd, etc.
Advertising
CYMERWCH HYN YN DDIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parotf .d, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau lachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieithr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelvvch i'ch harwain? Y pwNc (V JECHYD Y mae hyn yn fatcr sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymosodiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau. Mae r QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreu er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurfiau, gan ei bod yn Barotoad sydd wedi ei barotoi yn fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed. burol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf. haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yo dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddilfyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o wendid a lludded ar y corff. pEIDWCH 0EDL YSTYRIWCH YN AWR" Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos. af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWEKTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN I Mewn Potelau, 2s. 9c. a 4s. 6ch. yr un Unig Berchenogion:- QUININE Bl ITERS MANUFACTURINO COMPANY, LIMITED, LLANELLY. South Wales.