Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Nodiadau'r Golygydd.I

Angladd.

News
Cite
Share

Angladd. MR. LLEWELYN LEWIS, PEN- TWYN, DINAS, RHONDDA. Dydd Iau diweddaf, Ebrill 16, 1914, hebryngwyd rhan farwol Mr. LI. Lewis i Gladdfa Gyhoeddus Lledrddu, Trealaw. Yr oedd bras olwg ar y dyrfa yn dangos ar unwaith fod yna rywun allan o'r cyffredin yn cael ei gladdu. Yr oedd yr angladd yn gynrychiolaeth deg o bob dosbarth a gradd yn y cwm. A phe bai y teulu wedi gallu cydsynio a chais y werin a chladdu ddiwrnod ynghynt, sef Mercher, diau y buasai yn un o'r angladdau mwyaf gymerodd le yn y Rhondda. Yr oedd parch ac anwyldeb y werin tuag ato yn gyfryw fel y blvsent am dalu y warogaeth olaf o barch iddo. Yr oedd yn un o hen frodorion y wlad-un o "original crop" y Rhondda. Ciuinwyd ef yn Waun Adda Each, o fewn ychydig latheni i Pentwyn, He y treuliodd 74 o flynyddoedd, ac oddiyno y claddwyd ef. Machludodd ei haul ar y llecyn y tywynodd arno gyntaf. Yr oedd wedi eni pan ocdd Cwm y Rhondda yn dechreu cael ei aflonyddu gan ferw a dadwrdd masnach. O'r Waun Adda i Flaenycwm nid oedd na level, na drift, na pnwll glo, na rheilffordd, na pheirianau fychain na mawrion; yr unig beth aflonyddai ar ei heddwch ef y cyfnod boreu hwnnw oedd chwi- baniad y bugail, cyfarthiad y ci. gweryriad y march, ffroeniad yr ych, a brefiadau y defaid a'r wyn. Tenau ac anaml oedd yr amaethdai a'r pres- wylwyr yr adeg foreu honno. Ar hen Gwm sydd yn ol Telynog yn gul- ach na cham ceiliog yn un fforest- coedwig o Bontypridd i Flaenrhondda, ac un o ornestoedd y cyfnod oedd bod yn dyst o'r wiwer yn rhedeg heb ddisgyn o un cwr i'r uaH o'r Rhondda. Yr oedd ef ag anturiaethau glofaol i fesur yn cyd-dyfu, a difyr oedd ei glywed min nos ar ei aelwyd yn troi dail hanes yr hen amseroedd. Tystiai fod y Dinas yr adeg honno yn degwch ;bro, ac yn llawenydd yr holl gwm. Dol fras a phrydferth a welid o'r Ynys i waelod Troedyrhiw. Ac oni- bai mai yn y cymeriad o weledydd ac nid bardd yr adroddai yr hanes, anawdd iawn i ni fuasai meddwl fod yr anialwch anhygyrch prescnnol wedi bod unwaith fel gardd paradwys. Gu-elodd lawer tro yn hanes masnach- 01 y lie er dydd Walter Coffin ac un oruchwvliaeth ar ol y llall yn cael eu plygu a ,Li newid, ond yn rhyfedd iawn yr ocdd Llewelyn Lewis, fel Daniel yn Babylon, yn dringo i'r brig o dan bawb fu yno. A gwyr pawb nad oedd "push" ynddo-dyn gwylaidd, "shy" ydoedd. Yr oedd rhywbeth yn y dyn oddi allan. Nid ceiliog rhedyn yd- oedd, ond parai i ni feddwl am hiliogaeth y cewri chwe troedfedd o daldra, a'i olwg yn dyner a boneddi- gaidd, a'i eiriau yn wastad ac yn gymhcdrol, ac felly yn gadael argraff ffafriol ac arhosol ar bawb. Yr oedd yn ddyn teg, hynaws, yn gymeriad dyddorol a gwreiddiol. Yr oedd gan- ddo ei ffordd ei hun o feddwl, siarad, a gwneud. Rhoddai ei ddelw ei hun ar bobpeth. Yr oedd yn gyflawn o natur dda, yn adnabyddus i agos a phell. Cerid ef gan bawb, a pherchid ef fel dyn a dinesydd. Hauai garedigrwydd a chymwynasau wrth y miloedd, a dyna oedd testynau siarad pawb yn yr angladd, a 'doedd hynny yn ddim ond canlyniad naturiol yr had yn gwynu yn gynhaeaf arhosol ar ei ol, ac yntau er marw i fyw yn hir, ac yn llefaru yn yr hyn a hanwyd ganddo yn y corff. Bu ei gartref yn agored i bawb, yn llety fforddolion, a phob un yn teimlo fod ganddo hawl gyfartal i un o'r teulu yno. Mae caredigrwydd y teulu wedi bod yn ddifesur tuag at yr achos yn Ebenezer (NI.C.) oddiar ei sefydliad hyd y presennol. Y teulu hwn a'r Waun Adda y Williamsiaid oedd sylfaenwyr yr achos ar y Pumer. Bu John Elias o Fon a Christmas Evans yn efengylu yn ogystal a thadau Morgannwg i gyd, a deallaf fod ymryd y teulu i ddiogelu yr hen garreg aelwyd y sylfaenwyd yr achos arni fel dolen i, uno y presennol a'r gorffennol. Hedd- %ch i'xx- lwch, tra y mae ef ymysg tyrfa yr aur delynnau. Nawdd y nef orffwyso ar y teulu oil, a Mr R. Her- bert Lewis (y pregethwr) yn Australia. Gwasanaethwyd gan y Parch. J. Mor- gan, Aberdar (ei gyn-weinidog), yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchn. T. P. Thomas, Llanbradach; Evans, Tabor (A.), J. Simons, Ficer, Penv- graig. Gwelwyd y gweinidogion can- IvnoI yn yr angladd Parchn. J. Ivor fenkins, Trewilliam; J. Gwrhyd Lewis, Tonvrefail; J. Jenkins, Fochriw; Thos. Davies, Porth. Prif alarwyr oeddent Mr. a Mrs. Llewelyn Lewis (mab a merch-ynghyfraith); Parch, a Mrs. D. Overton, Dinas; Wyrion. Miss Bronwen Morgan, Heulwen, ac Eirlys Overton; Mri. Bertie Lewis a Tom Morgan, a lluaws ereill o berthynasau.

ARGRAFFWAITH.