Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
"Difyrrwch y Beirdd." I
"Difyrrwch y Beirdd." I TWM O'R NANT A JONATHAN HUGHES, AWDWR Y "BARDD A'R BYRDDAU." (Parhad.) Aeth Twm unwaith i Langollen, ac I' yno yr oedd Jonathan yn byw. Yr oedd Jonathan ar y pryd y daeth Twm I yno yn lladd gwair mewn cae cyfagos. Pan ddeallodd rhywun pwy oedd Twm, meddyliodd y buasai dda gan y brawd Jonathan gael tipyn o'i gyfeill- ach, a ffwrdd ag ef a'i wynt yn ei ddwrn i hysbysu Jonathan, ac idd ei berswadio i ddyfod i'r Llan gael iddynt gael tipyn o ddigrifwch. Ond .derbyniad oeraidd iawn roes Jonathan i'r rhedegwr hysbysol, ac ymaith a hwnnw yn bur glust lipa wedi ei siomi yn fawr. Wedi iddo fyned rhoes y chwilen farddol dro yng nghlopa yr hen Jonathan; taflodd y bladur o'r neilltu, ac ymaith ag ef tua'r Llan i chwilio am Twm. Nid oedd yn ei adnabod, ac nis gwyddai pa le yr oedd. Felly dechreuodd gerdded y tafarnau o un i un, ac oS gwelai ryw un dieithr yno cyfarchai ef mewn llinell o gyw- ydd neu fraich englyn, ac yna os bydd- ai Twm yno yr oedd yn credu y cai atebiad a'i galluogai i benderfynu mai Twm fyddai. Fel bu gwaethaf yr har) dechreuodd Jonathan gerdded y tafarnau yn y pen chwith, ac yr oedd wedi dyfod i'r diweddaf cyn cael gafael ar Twm. Galwodd am hanner peint, ond bu yn hir ddysgwyl cyn ei gael, ac meddai Jonathan— "A ddygir bir i'r bwrdd hir hwn?" Atebai Twm O dygir neu mi dagwn." Dyna nhw wedi taro ar eu gilydd o'r diwedd, ond pwy fedr ddychmygu pa faint o "wits" ac englynion a chyw- yddau a draddodwyd cyn iddynt ymadael. Twm yn Codi Cythreuliaid. I Byddai Twm yn arfer lletya weithiau I yn y Ty Coch Clocaenog, ac yr oedd hen wr yn y Ty Coch yn gyfaill mawr iddo; byddai yn chwareu gydag ef yn ei "interludes." Adroddodd Twm y chwedl ganlynol ryw noswaith pan yn ei wely gydag ef yn y Ty Coch. Yr oedd rhyw foneddwr yn y Deheubarth wedi colli ei lestri arian, ac nis gwyddai amcan man i droi ei wyneb i chwilio am danynt. Clywodd fod rhyw ddewin i fyny yn y North a fedrai ei hysbysu pa le yr oeddynt, ac efallai eu dwyn iddo yn ol heb gymaint a gweled y lleidr neu'r lladron na'r llestri eilwaith. Anfonodd y boneddwr hwn un o'i weision at Twm i ofyn iddo a wnai ef adfeddiannu ei lestri arian, os gwnai y rhoddid iddo hanner cant o bunnau. Wel, ni wydd- ai Twm ar facs medion y ddaear beth i wneyd. Yr oedd yr hanner can punt yn swm go fawr i'w golli, ac yr oedd yn anawdd iawn efallai gael hyd i'r llestri. Ond fodd bynnag ymaith a Twm i'r South gyda'r gwas, ac yr oedd yn bur ystumddrwg i gael allan holl gyfrinion mynwes y gwas ar hyd y ffordd. Cyrhaeddwyd y palas; croesawyd y dewin; danghoswyd iddo ystafell at ei wasanaeth ei hun. Gofynodd Twm am yr allwedd; cafodd hi. Bellach ni chai na Christion na phagan fynedfa i'r ystafell honno, ond yn ol ewyllys y dewin. Dyma lie bu Twm, weithiau i mewn ac weithiau allan, yn clustfeinio ac yn sylwi ar bawb a phopeth. Un diwrnod aeth ,allan i roi tro drwy'r ardal ac un o'r gweision yn ei ganlyn. Ar eu hynt daethant at ryw hen eglwys, ac aeth- ant i'r fynwent, lie yr oedd rhyw dwll mawr a hanner ei lonaid o esgyrn. Gwelodd Twm asgwrn pen lied ddi- Jwgr yno. Cododd ef a thynnodd y dannedd o honno bob un, a chadwodd hwy yn ofalus mewn papur yn ei boced. Yr oedd y gwas yn sylwi ar hyn gyda syndod of nus. Daethant adref. Aeth Twm i'w ystafell, a'r gwas at y lleill o'r gwasanaethyddion, a dyna lle'r oedd yn traethu ei lith am ymddygiad rhyfeddol y dewin tua'r fynwent. Yr oedd Twm a'i glust wrth y ddor yn gwrandaw y cyfan. Wel, yr oedd yn sobrwydd mudanol ar bawb erbyn hyn. Daeth Twm atynt, a dywedodd wrthynt, "Wel, noswaith ofnadwy fydd hi yma heno! Yr wyf yn eich hysbysu yn mlaen llaw. A ydych chwi yma i gyd?" "Ydym." "O'r goreu. Bydd yma olwg echrydus ar bob peth cyn y "boreu. Ond fe roddaf i chwi—i bob un ,0 honoch beth a'ch diogela rhag niwed. Hwdiwch," meddai, gan roddi i bob un bapuryn bychan, yn mha un yr oedd un o'r dannedd. Yr oedd rhai o honynt bron a llewygu. Yr oeddynt wedi dychrynu yn enbyd. Yr oeddynt yn crynu, ac yn ymwelwi yn ddychrynllyd. "0 ran hynny," ebai Twm, "waeth heb, dowch chwi a'r llestri i mi, a mi a rwystraf bob peth, ac ni ynganaf air wrth neb byth hyd dra gyfyth y byd didranc. Cewch chwarter awr i benderfynnu a'ch gil- ydd," ac ymaith ag ef i'w ystafell. Cyn pen y pum munud yr oedd curo wrth ddrws Twm. Agorodd a daeth allan. Gofynwyd a ellid cael dwy awr i'w cyrchu. "Gellid," meddai Twm. Daeth y llestri yn ol. Cymerodd Twm hwynt a chloes hwynt yn ei ystafell. Cyfododd yn bur boreu; archodd alw am y boneddwr. Daeth hwnnw yn gynt na'i arfer. Cyflwynodd Twm iddo I y llestri yn gyflawn gyfrif. Derbyniodd yr hanner can punt, ac ymaith ag ef. Dyna fel y byddai Twm yn trin y brodyr duon-go hwylus, onid e.- O'r "Brython," 1860. Caerdydd. JOSIAH JENKINS. I Caerdydd.
Tipyn o Bopeth o fiontardawy.
Tipyn o Bopeth o fiontardawy. Dipyn yn ofnus yr anturiaf anfon ychydig o nodiadau i golofnau y "Darian." Bythefnos yn ol tynnodd rhai nodiadau o eiddo y Golygydd yn ei lith olygyddol ar Enwadaeth fy sylw, a glynasant yn fy meddwl. Nid wyf yn gredwr mawr mewn enwad, ond yr wyf yn gredwr cryf mewn rhyddid barn a llafar, ac un eglwys a honno'n rhydd. Mae yn dda gennyf fod y mater yn cael sylw, a gobeithiaf y gwneir rhywbeth. Mae tir lawer i'w feddiannu a llawer o rwystrau ar y ffordd. "Cofiant y Parch. R. Thomas, Lan- dwr.—Pregethir yn barhaus am i'r Cymry siarad ac ysgrifennu Cymraeg, er mwyn ei chadw, nid yn unig yn fyw, ond yn iach a hoew. Fel un sydd heb dderbyn llawer o fanteision addysg, mae yn anawdd gennyf wybod pa orgraff sydd i'w chymeryd yn safon. Mae ysgrifennwyr y Cofiant uchod yn amrywio yn eu horgraff, a'r adolygydd llawdrwm yn gwahaniaethu oddi- wrthynt hwythau. Ac y mae pob swyddfa a'i horgraff ei hun. Gwelaf fod cyfnewidiad yn orgraff y "Darian" y flwyddyn hon. A fedrwch chwi, Mr. Gol., ateb i un o Garwyr y Gymraeg pwy yw y diogelaf i ni i'w ganlyn? Credaf hefyd po symlaf fu'r iaith mai hawddaf i gyd fydd cadw'r werin, a hithau ar delerau da. Os eir ymlaen lawer yn hwy, fel y gwneir heddyw, ofnaf mai y Cymreigwyr blaenaf a rydd fedd i'n hen iaith. Mae pwyllgor Cymdeithas Gym- reig Pontardawy a'r cylch wedi bod yn trefnu ei byrddau ar gyfer y gaeaf dyfodol. Mae rhai o brif dalentau y wlad a nifer luosog o dalentau disgleiriaf y cylch i siarad ynddynt, a disgwyliwn am gyfarfod- ydd rhagorach na'r rhai a gafwyd y gaeaf diweddaf, er cystal oedd y rhai hynny. Hyderaf y bydd y Gymdeithas hon fyw yn hir, ac y gwna waith mawr dros Gymry a Chymraeg, ac nid rhoddi areithiau hir wyntog yn flynyddol heb un amcan, ond gwneyd arddanghosfa "cwyddylus," a ffusto dwylo nes bo'r lie yn dan a "llyched." Dydd Llun y Pasg.—Cynhaliwyd Cymanfa Ganu gan Fethodistiaid Llangiwc yn Soar, Addoldy y Metho- distiaid Calfinaidd, Pontardawy. Yr arweinydd oedd Mr. J. T. Rees, Mus. Bac., Aberystwyth. Cafwyd Cymanfa dda, a llawer o eneiniad, ond heb yr hwyl fawr gawsom ar rai adegau. Ton gafodd afael ac a adaw- odd argraff ddofn ar y gynulleidfa oedd "Transvaal," gwaith Mr Rees, a'r eiriau o eiddo Dyfed. Yn ystod cyfarfod yr hwyr gofynnodd y llyw- ydd, sef y Parch. D. G. Jones, i'r pwyllgor, beth oedd "Swn y Jiwbili" wedi ei wneyd, gan eu bod yn can y drws yn ei erbyn, a dywedodd ei bod yn hen bryd iddo gael sylw y cyhoedd unwaith eto, gan fod to o bobl yn codi na wyddant ond y peth nesaf i ddim am dano. Dywedai hefyd y buasai ef yn canu yr oil ag oedd ynddo iddynt y pryd hwnnw pe buasai amser yn caniatau, ond ni chawsom gymaint ag un ganddo. Camolodd Ieuan Gwyllt, a dywedai fod yr hen bobl yn gen- figennus wrtho am iddo ddyfod a thonau allan heb "slurs." Credai yr hen bobol mewn "slurs," a thybient fod angylion yn disgyn arnynt i ysbrydoli a nefoleiddio'r gan. Dichon eu bod yn iawn. Tabernacl (A.). — Dydd Gwener y Groglith cynhaliodd yr eglwys hon ei chyngerdd blynyddol yn y Neuadd Gyhoeddus. Cafwyd cynhulliad da a chyngerdd ragorol. Cymerwyd rhan mewn perfformio llyfr gan amryw ganwyr o fri, yn cael eu cynorthwyo gan gerddorfa. Arweinydd y canu oedd Mr G. T. Jenkins. David Rees.-Mae genym y gorch- wyl annymunol o gofnodi marw a chladdu y brawd ieuanc tawel a di- ymhongar, David Rees, mab Mr. Richard Rees, Banwen, Alltwen, a brawd i Mr. Morgan Richard Rees, L. T. S. C., Castellnedd, un o swyddog- ion Undeb y Toddwyr. Gweithiai y brawd y misoedd diweddaf yn Lerpwl. Clywodd fod ei dad yn wael lawn ei iechyd, a bod ei fywyd mewn perygl, a daeth adref ar ei union i'w weled, a thra adref tarawyd ef i lawr gan y pleurisy a'r pneumonia. Cafodd gys- tudd caled ofnadwy, ond boreu Sul, Ebrill y 12fed, cafodd ryddhad o'i boenau, ac ehedodd ei ysbryd ymaith at yr hwn a'i roes. Er cysur i'r teulu yn yr amgylchiadau blinion sydd wedi ei oddiweddydd ac i'r boddhad mawr i'r ardalwyr yn gyffredinol, mae ar- wyddion gwellhad yn y tad. Mae wedi cael adferiad gwyrthiol megys o'i ddolur, a bydd yn llawen gan ei hen gyfeillion a'i gydnabod ei weled eto yn rhodio o gwmpas yn iach. Prynhawn dydd lau, Ebrill yr i6fed, claddwyd y brawd ieuanc hwn yn mynwent yr Alltwen, a gwasanaeth- wyd gan y Parch. D. Jenkins, Eben- ezer, Rhos Cilybebyll. I BRUTUS.
Beirdd y Bont.
Beirdd y Bont. GAN "BRYNFAB." (Parhad.) Mathonwy. Un o ddisgyblion Myfyr Morgannwg oedd Mathonwy, ac nid oedd un mwy selog yn oedfaon y Maen Chwyf. Efe oedd datganwr yr Orsedd, fel rheol, a chanai waith ei hun bob amser. Yr oedd yn meddu graddau helaeth o ddawn barddoni, a medrai wneud englyn yn ddigon rhwydd a naturiol. Nid oedd yn credu llawer mewn cys- tadlu. Canu i foddio ei hun y byddai fynychaf. Nid oedd yn medru cyd- dynnu ag opiniynau y teulu barddol yn y Bont, a thrwy hynny nid yn ami y byddai yn ymrwbio ynddynt. Yr oedd ynddo ar y mwyaf o'r elfen ffwydrol, i gymdeithasu gyda'r beirdd oedd yn methu gweled pethau o'i safbwynt ef. Efe oedd y cymeriad mwyaf annibynol o j holl feirdd y Bont; a buasai yr un peth ceisio symud Craig yr Hesg gyda thros- 1 ol a cheisio cael gan Mathonwy roi i fewn ar ryw bwnc yr oedd ef wedi ei benderfynu yn ei feddwl ei hun. Yr oedd yn hoff iawn o ddwyn ei ysgrafell gydag ef i bob man, a thynnai hi yn drwsgl dros bob un a amheuai ei athrawiaeth. Efe oedd Haw ddehau Myfyr ar y Maen Chwyf. Ond pan aeth yr Archdderwydd yn rhy fusgrell i ddringo i'r bryn, lleddfodd anian Mathonwy, ac ni chlywyd ei floedd ar y Maen mwyach. Ieuan Wyn. I Un o ddisgyblion Myfyr Morgannwg oedd leuan Wyn hefyd, ond nid oedd agos mor selog a thrystfawr a Mathon- wy. Nid oedd yn anfoddlon i arall farnu yn wahanol iddo ef. Dyn hynaws a charedig oedd Ieuan. Yr oedd yn meddu ar wybodaeth helaeth. Teith- iodd lawer dros y Jbyd, ac ni wnaeth hynny gyda mwgwd dros ei lygaid. Tarawyd ef gan glefyd yr aur, pan ruthrai miloedd tua Cholumbia Bry- deinig dros hanner canrif yn ol. Doniol oedd ei ddesgrifiad o helyntion ac hel- bulon y wlad bellenig honno, yn en- wedig pan adroddai fel y coginiai y cloddwyr aur, a'r modd trwsiadus y cyweirient dyllau yn eu dillad. Mewn llythyr oddiyno at gyfaill dywedai: Synech, pe gwelech sanau-Ieuan Wyn, A'u hanner yn dyllau; Ceisiwn wneud traed o'r coesau, Hyd nes trig ond y brig brau. Wedi i Ieuan ddychwelyd o wlad yr aur, daeth yn fwy agos i'r dduwies awenol, a chyfansoddai englynion yn hwylus a blasus. Cystadleuodd lawer yn Eisteddfodau cylchoedd y Bont, ac enillodd lawer gwobr. Yn Eisteddfod y Rhos, Mountain Ash, yn 1868, enill- odd ar yr englyn i Ffon y Gaffer" Prawf mesur llafur i'n llyw.—yw gwiw ffon Y Gaffer i'r cyfryw; Adwedd cymhwysder ydyw, A hod o awdurdod yw. Bu yr englyn fel diareb ym mhlith y beirdd am flynyddoedd. Un difyr mewn cyfeillach oedd leuan, ac nid oedd ball ar ei ystraeon. Teim- Iwyd fod bwlch nid bychan yng nghylch Beidd y Bont pan gollwyd ef. Efe oedd yr olaf o ddisgyblion y Maen Chwyf i gael ei gasglu at ei dadau, a chydag ef, diffoddodd y ganwyll olaf yn nheml Dderwyddol y Bont. (I barhau.)
IGalw i'r Gad.
I Galw i'r Gad. I Undeb y Cymdeithasau Cymraeg." Mr. Golygydd,— Caniatewch ofod i hysbysu Cym- deithasau Cymraeg Adran Gor- llewin Morgannwg, y cynhelir cyfarfod yr Adran prynhawn Sadwrn, Mai yr 2il, yn Neuadd y Dref, Abertawe, drwy ganiatad caredig y Maer, Henadur T. T. Corker, am 2.30 o'r gloch. Dymunir ar ysgrifenyddion pob un o'r Cymdeithasau i anfon enwau y cynrychiolwyr i mi, ynghyda'r tanysgrifiadau dyledus-os heb dalu eisoes-erbyn y 27ain o Ebrill fan bell- af. Mae hyn yn bwysig, cofier, am na chaniateir cynrychiolaeth i neb ond i'r Cymdeithasau hynny fyddo wedi talu eu tanysgrifiadau i'r Adran. Bydd hawl gan bob Cymdeithas anfon dau gynrychiolydd i holl Gynhadleddau'r linden drwy dalu 2s. 6c. (dim llai) os o dan gant o nifei) a 4s. (dim llai) i rai dros gant o nifer. Disgwylir cynrych- iolaeth gref yn y cyfarfod Mai 2il, am y bydd hwnnw bythefnos cyn Cynhadledd Fawr Pontypridd. Anfoner enwau y gwahanol gynrychiolwyr i mi ar un- waith er mwyn paratoi lluniaeth mdynt ar ol y cyfarfod. Pleser mawr i mi yw gweled cymaint o awydd gan blant y dref hon a'r cylch i ddysgu'r Gymraeg, a dylent godi gwrid i wyneb y rhieni hynny a fu mor esgeulus o siarad yr hen iaith ar eu haelwydydd gartref. Yn awr, Gymry Gorllewin Morgannwg, ewch ati o ddifrif a mynnweh wneud pob peth posibl er dyrchafiad ein gwlad a'n cen- edl, ac er mynnu ei Ve priodol i'n hiaith a gafodd gymaint o gam ar ein dwylo. Gall pob eglwys Gymraeg ffurfio Cymdeithas ei hunan, a charem i'r eglwysi feddwl am hynny.—Yr eidd- och yn wladgar, D. MORLAIS SAMUEL, Ysg. Gorllewin Morgannwg. 1 10 The Promenade, Abertawe.
i 0 Wy i Dywi. I
0 Wy i Dywi. I BYW YD RHUFEIN1G S1LURIA. | BY\VYD RHUFEINIG SILURIA.: _u_ Er i Ddeheudir Cymru fod yng ngafael y Rhufeiniaid am dair canrif a hanner, dim ond am y deugain mlynedd cyntaf o honynt y ceir myncg- i iad cryno a chyflawn am weithrediadau gwladol y dalaeth. Achlysurol a dam- weiniol yw y cronicliad am y gweddill. Ond daw caib a rhaw yr hynafieithydd i lanw'r bwlch a dysgir mwy oddiwrth ddarganfyddiadau hynafieithol di- weddar nag oddiwrth yr ysgrifau hen gyda'u gilydd. Chwi welsoch ond odid gyfeiriadau yn y newyddiaduron o dro i dro am j Gaerwent, Gelligaer, a Chaerllion-ar- Wysc, ac am y pethau hen a gloddiwyd ynddynt o bryd i'w gilydd. Dyma yn sicr y cyfrolau dilysaf am Gymru Rhufeinig am mai y penodau a'r ad- nodau yw y gwrthrychau eu hunain. Dysgir un peth yn amlwg iawn gan yr holl olion Rhufeinig, sef mai tal- aeth o dan reolaeth filwrol gaeth oedd Siluria. Amddiffynfeydd yn noddfa i'r milwyr, heolydd yn hwylusdod i'r mil. wyr, ac arfau yn allu i'r milwyr, dyna'r nodweddion amlycaf sydd wedi eu dadleni. Mae'n wir fod olion bywyd dinesig hefyd wedi dyfod i'r golwg yn 'rhai o'r trefydd, yn enwedig Caer- went, ond milwriaeth, a phethau cysylltiedig a hi, leinw'r darlun fwyaf o lawer hyd yn hyn. Wyddoch chwi am leoliad Caer- went? Chwi glywsoch, mi wn, am Dwnel Hafren. Wel, saif Caerwent ryw bedair milltir i'r gogledd o enau ei fynedfa, ynghanol tlysni Gwent. Dyma dref henaf ein talaeth yn ddi-os. Safai cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, a < hyhi, yn ol pob tebyg, oedd prif ddinas [ y Siluriaid cyn i'w gorchfygwyr groesi Hafren. Venta Silurum y gelwid hi gan y Lladinwyr, ac amlwg yw y cyfrifent hi yn orsaf bwysig i'w meddiannu. Yr ydys wedi sylwi eisoes mai Caerllion-ar-VVysc oedd prif orsaf yr Ail Leng. I A oedd dinasoedd ereill, tybed, yn Siluria yn ystod y cyfnod pell hwnnw? Diddorol o beth fyddai gwybod am danynt-y llennyrch lie efelychid bywyd Rhufain af r&dd fechan gan eu trigolion, a'r lleoedd y siaredid Lladin fel y chwedleuir yn Saesneg yn awr. Fel mae'n ffodus gellir enwi rhestr fechan o honynt i foddhau ein cywreinrwydd hanesyddol, oblegid tua diwedd yr ail ganrif gwnawd math o fyneglyfr (guide) yn Lladin, wrth gwrs, am rai o brif orsafoedd Prydain y pryd hwnw. Gel- wir y llyfr gwerthfawr hwn wrth yr enw "Itinerarium," a chyflwynwyd ef i'r un o'r Ymherawdwyr o'r enw Antoninus. Ymysg lleoedd ereill cry- bwylla am rai o orsafoedd Siluria a'r cyflfiniau. Wn i yn y byd a adwaenwch chwi hwynt wrth eu henwau Lladin. Rhag ofn na wnewch, beth pe baem yn rhoddi y Gymraeg a'r Saesneg am danynt hefyd. Dyma nhw :— Clevum; Caer Loew; Gloucester. Gobannium; Y Fenni; Aber- gavenny. Burrum; Bryn Biga; Usk. Bovium; Y Bontfaen; Cowbridge. Nidum; Castellnedd; Neath. Lencarum; Casllwchwr; Loughor. Maridunum; Caerfyrddin; Carmar- then. Nid ydys i feddwl mai dyna yr oil o drefydd Rhufeinig ein bro, ond yn unig mai hwy enwir yn yr Itinerarium. i Gwyddys yn dda fod Gelligaer yn lie o bwys, a bod Tibia Amnis rywle yn ardal Caerdydd, heb son am Gaerdidi ei hun a'r Gaer ger Aberhonddu, a lleoedd ereill ellid eu henwi. Clevum neu Gaerloew oedd brif ) ddinas y Gorllewin-barth, ac iddi hi yr oedd rhagorfreintiau arbennig fel i I Rufain ei hun, a'i dyrchafai oddiwrth y gorsafoedd llai bron yn union fel y dyrchafai ein bwrdeisdrefi sirol pres- ennol-Caerdydd, Abertawe, Cas- newydd, a Merthyr Tydfil-rhagor y trefydd neu dinasoedd ereill. Gydag eithrio Caerwent, garrison towns oedd yr oil o drefydd Rhu- feinig Siluria, ac ychydig o fywyd cymdeithasol Rhufeinig geid tu allan i'r muriau-yn hyn o beth gwahanol oedd ein talaeth i'r hon elwir heddyw yn Llocgr. Yna ceir olion palasdai a ffermdai y gorchfygwyr ymhell o'r gorsafoedd agosaf, a gellid mentro hynny yn rhwydd, oblegid wedi y rhyfelgyrch cyntaf, ymdawelodd y wlad honno i heddwch parhaol. Ond gyda ni rhyfel parhaol oedd y rheol. Yr unig balasdy Rhufeinig wn i am dano yr ochr hon i'r Wysc ydyw hwnnw yng Nghaer Fid, Llanilltyd Fawr, a gwell fuasai iddo yntau fod o fewn y caerau hefyd, oblegid pan ddarganfyddwyd ef yn 1888 cafwyd ai ei barth amledd o ysgerbydau dynol yn dwyn olion amlwg mai angau di- syfyd fu rhan pob un o honynt. Dysgodd y Cymry lawer yn ddiau mewn iaith, gwisgoedd, a bwydydd oddiwrth eu meistriaid. Dywed Taci- tus hynny yn bendant parthed yr iaith a'r wisg, a dywed ymhellach mai o barch i Julius Agricola y gwnaed hynny. Ond iaith y dref wedi'r cwbl oedd y Lladin, a phan ymadawodd y Rhufeiniaid yn 410 O.C. daeth y Gymraeg yn ol fel diluw drachefn i fucheddu am bymtheg canrif yn ych- waneg. Pwy yn wyneb hyn feiddia ddweyd mai proffwyd gau oedd Tal- iesin pan gyhoeddodd—"Eu hiaith a gadwant
Advertising
TURKEY EGGS, Lord Rothschild JL Strain, 7/6 setting, from 401b. stock Is. each, 10/6 setting. CHICKENS, laying 3s., week old 6s., 2 months 10s., 3 months old 15s. dozen, list free. GOODWIN, Stratford, Essex. GWAED! GWAED! GW AEDl MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYF, IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hyno, effeithiol at Creu Cwaed Newydd, Put a Chryf, felly yn dylanwadu ar hot* Organau y Corff, drwy hyny yn i achat* Dolur Pen, Diffyg Traul, Biliousness, -•» Afu Ddrwg, C Taiddlantau a; y Cnawd, jgf Iffijw Hj iIn,ni Cornwydon, fjUtff TifJ \lj f Scurvy, Plies A 1M Fits, Nerv- ^ki/\ 1^ \V? I! II ousness, Jl jl C w y n t ywlLlL Cwynegon (neu Cymal- wst), Poen Cefn, Lum- W bago, Corff- rwymedd, 1 Neuralgia, Anhwyldsr- au yr Aron- ..■» au, Iseldsr 8 u r n I y Cylla. BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bofc Gwraig, Mam a Merch o bob oedrsui mae Hughes's Blood Pills" yn nodedig 0 effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pilli hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwoh weled y Trade Mark, ief llun Calon fel hyn— ar??e'?    S S wrW ar bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemitt a Storei am in, 2/t, 4 6. Neu danfonwoh el I Gwerth mewn Stamp. neu P.O. at 7 Perchenog- JACOB HUGHES. MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S ^Penarth, Cardiff. Can, Lien aGwer in Gwaithy dlweddar Myftr Wynn, sef BACHAN IFANC Y DARIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLCH, DAKNAU BARDDCNOIi A'R LLYTHYRA NEWYDD. Pris 1/. Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, neu oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman Athrofa Aberystwyth (UN O'B COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathraw-T. F. ROBERTS; M.A., LL.D Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. I' Cynhjgir amryw o ysgoloriaethau (rhai o honynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. I Am fanylion pellaoh, ymofyner a— J. H. DA VIES, M.A., Cofreatrydd. j  PAGE Book about Herbs and how to use ?)? them. Post free. 8end for one. Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond-road Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. To prevent fraud see that you get" Estab. JL iiehed 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which non: pper genuine -Trimnell, The Herbalist, 114 Rich- mond-road, Cardiff. TRIMNELL18 PILLS AND POWDERS JL have cured thousands. Why not you ? See that you get EstabJished 1879 on every label.-Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond Road, Cardiff. Agents wanted. DRAMA CYMRAEC NEWYDD, "GRUFFYDD L LW Y D Allan o'r Ffug-Chwedl Boblogaidd gan ROGER THOMAS, Ystalyfera. Telerau neillduol am ei pherfformio. Ymofyne-r a'r Cyhosddwr D. DAVIES, Ferndale. Y FORD. Yn^cynnwys arlwy fisol am'flwyddwyn i blant o bob oed, sef 13 0 Bregethau A 13 a Delynegion. Mae'r gyroJ wedi 'i hadolygu yn y modd mwvaf ffafriol gan y Wasg Gymreig, megis Y Beirniad, Y Brython, Y Tyst, Cymru, Cymru'r Plant, Seren Cynru, Seren Gomer, Y Drysorfa, &c., ac y mae'r Awdwr wedi derbyn lla 0 lythyrau canmol oddiwrth bregetbwyr, llenorion, plant, &c. Y g) frol i'w chael ar dderbyniad Postal Order Swllt gan yr Awdwr- T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr. Swansea. Dywedwch wrth bawb: "Y ma. DA VIES,S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswoh." ANWYD, PESWCH, INF.LUENZA. —Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio- ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaeth II Davies's Cough Mixture » etto ar y blaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/li a 2/9 (postage, 3c.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE Aberaman & Mountain Ash Billposting and Advertising Go. Proprietors of the most prominent station, in Aberaman, Cwmaman, Cwmbach, Abercwmbol. Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTING. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should be addressed to the MANAGER, Public Hall & Institute, Aberaman Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman, LAD;FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for a] irre$ularities,   a,fford relief and neve rfail t  all suffering. The, mperstde p,„»yroy«l.Apple.«0. » bUnohard's •>• tl»  .<   In W* omen. Sold .n-??<.<! 1/H.by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free, same price, fr% m -ESLIE MARTYN Ltd., Chemists, _BSHE MAKi? 3 DALSTON LANB, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free Id. stamp AM BOB MATH o ARGRAFFWAITH YMOFYNER YN Swyddfa'r 11 Leader*" A Swyddfa'r* u Oarian," 19 CARDIFF HT., jABEBDAB. EVERY WOMAN Should send two stamps for o r 32 page 18 us rNtId Book, containing Valuable Information how ail Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- mended by eminent Physicians, as the only Safe, Sure and Genuine Remedy. Never Falls. thousands of Testimonials Estabhshed 186Z MR. PAUL BLANCHARD, C1J.1'jlllBont Bouse, Dalston T.ane, T:DdOD- DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture, Bedsteads, Bedding, Carpets, And every Description of HOOSE FURNITURE. CABINET WORKS:- O nse 21 High St. 0 Morris Lane, OVVailON CAdNj. The Largest and Cheapest Stean\ Cabinet Manufactory il) South Wales. Illustrated Catalogues free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above itle, or Delivered Free in our own V-U.