Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Nodion o Abertawe. I
Nodion o Abertawe. I Dan nawdd Temlwyr Da Phila- delphia .(B.), Hafod, Abertawe, nos Fercher, Ebrill iaf, traddododd y Bonwr Arthur E. Jenkins, Manselton, athraw yn Ysgol y Bechgyn, Hafod, ei ddarlith boblogaidd ar "Ganeuon Gwerin y Cymry." Daeth tyrfa luosog ynghyd, a chadeiriwyd gan y Bonwr Thomas, dilledydd gyda Chappell a'i Gwmni, Abertawe. Yr oedd yn amlwg i'r gynnulleidfa fod y dar- lithydd wedi astudio ei bwnc yn drwyadl, a chanddo ddawn arbennig i gyflwyno ei fater mewn modd attyniadol. Dosrannodd ei bwnc fel y canlyn, a roddodd enghreifftiau o honynt drwy gyfrwng cwmni o fech- gyn oedd wedi eu hyfforddi ganddo i'r diben:-( i) Alawon Telyn, Merch Megan; (2) Alawon Serch, Tra Bo Dai; (3) Alawon Gwladgarol, Y Fwyalchen Ddu Bigfelyn; (4) Alawon Arferion, Hela'r Dryw; (5) Alawon Galwedigaethau, Cneifio'r Defaid: (6) Alawon Suo-ganu, Y Saith Rhy- feddod; (7) Alawon Milwrol, Rhyfel- gyrch Cadben Morgan a Difyrrwch Gwyr Harlech. Ac yna cafwyd cvfres o hen benhillion a'r "Ben Rhaw," er mawr fwynhad i'r gwrandawyr, a chafodd y darlithydd a'i barti o fechgyn gymeradwyaeth galonnog ganddynt. Eisteddfod Dosbarth Cymraeg Cym- rodorion Abertawe.-Mae gan Gym- rodorion Abertawe lawer o feirniaid llym fel sydd gan Gymdeithasau cyffelyb, hwyrach, ar hyd a lied ein gwlad. Hola y cyfryw, pan y gofynnir iddynt ymuno a'r Gymdeith- as, pa les sydd yn deilliaw o hynny, pa ddaioni mae y Gymdeithas wedi neu yn wneud ? Onid nifer o bobl ydynt yn cyfarfod i wrando ar ddar- lithiau am enwogion-beirdd ac hynafieithwyr a chyffelyb bethau, a churo d wy la w a gwaeddi "Clywch, Clywch?" Nid yw y Cymrodorion wedi gwneud y peth hyn, a'r peth arall. Paham nad yw'r Gymraeg yn cael ei dysgu yn yr Ysgolion Ddyddiol? Paham mae ein gweinidogion yn traddodi pregethau hanner Saesneg yn ein pwlpudau ? Paham mae y prif swyddi yn cael eu rhoi i Saeson yn ein gwlad ? A chant a mwy o bahamau o'r fath, na, ni ymunant hwy a'r Cymrodorion nes y gwelont eu bod yn gwneud rhywbeth. Wel, ynte, er mwyn son am rywbeth sydd wedi cael ei wneud gan Gymrodorion Aber- tawe y rhagymadroddir fel yna. Sonia y penawd am Eisteddfod, ac Eisteddfod gan Ddosbarth Cymraeg. Boed hysbys i ddarllenwyr y Darian" i'r Cymrodorion tua phedair mlynedd yn ol gychwyn mudiad i sefydlu Dosbarthiadau Cymraeg yn y dref a'r cylch i'w cynnal yn yr hwyr, ac er mwyn sicrhau liwyddiant y mudiad gwahoddwyd yr holl Eglwysi Cymraeg i ddanfon cynrychiolwyr i gyfarfod y Cymrodorion i dynnu allan drefnlen fyddai yn cyfarfod a gofyn- ion y Bwrdd Addysg, er sicrhau y breintiau estynnai i ddosbarthiadau cyffelyb. Derbyniwyd yr awgrym gyda brwdfrydedd ar y pryd, a sefydlwyd tua ugain o ddosbarthiadau yn y gwahanol eglwysi, ac aeth pethau yn mlaen yn ddymunol am dymor neu ddau, ond yn raddol llaeswyd dwy- law, ac er anghlod i'r Eglwysi nid oes braidd yr un yn fyw heddyw. Dan nawdd y Cymrodorion sefydlwyd dosbarth arbennig i Saeson, ac hys- hyswyd hyn drwy gyfrwng y newydd- iaduron Ileol a chylchlythyrau, a chaf- wyd rhywfaint dros ugain o ddis- gyblion y tymor cyntaf. Penodwyd yn athraw, y Bonwr J. Celfyn Williams, a bu ei lwyddiant gymaint fel y cafodd uchel gymeradwyaeth Mr. O. M. Edwards, Prif Oruchwyliwr y Bwrdd Addysg. Cynhyddodd y disgyblion o dymor i dymor, fel y gorfodwyd cael athraw ychwanegol, a phenodwyd y Bonwr D. Spurrell Davies yn is- athraw. Eleni mae rhif y dosbarth dros driugain, a'u sel a'u diddordeb gymaint fel y penderfynnwyd diweddu y tymor ag Eisteddfod. Ymhlith y disgyblion ceir cyfreithwyr, ysgrif- weision, athrawon, athrawesau, etc., yn Saeson a thramorwyr. Ceir yma wr a gwraig sydd wedi bod yn y wlad braidd un mis ar ddeg yn cyfieithu o'r Saesoneg i'r Gymraeg, ac o'r Gym- raeg i'r Saesoneg. Dywed un Awstrian, "I can do very veil with the Velsh, for you pronounce the words as they are spelt, like in my own language, but as for the English a chryma ei ysgwyddau yn ffordd awgrymiadol ei bobl." Cyn- haliwyd yr Eisteddfod nos Fawrth, Ebrill 7ed, yn Ngwesty Cameron, a daeth nifer luosog ynghyd o'r dis- gyblion a chyfeillion y mudiad. Gwel- wyd yn bresennol y Bonwyr John Meredith, llywydd y Cymrodorion; J. Lovat Owen, Y.H., D. Rhys Phillips, F.L.A., Llyfrgell Cymraeg; D Hicks Morgan, B. A., ysgrifennydd Cymro- dorion; D. Morlais Samuel, is-lywydd; T. J. Williams Hughes, ysgrifennydd, Arianol Cymrodorion; T. J. Rees, B. A., Cyfarwyddwr Addysg; D. R. D. Prytherch, M.A., Prif-athraw, Ys- gol Sir Penygroes, Caernarfon; J. Evan Rowlands, cyfreithiwr; Harry A. Thomas, Mr a Mrs Joseph Davies, Mrs T. H. Tomlison, Mrs John Meredith, Mrs D. Rhys Phillips, Mrs David Harris, Mrs D. Spurrell Davies, Dr a Mrs Vaughan Thomas, y Mcistresi Gibbon, a Mr J. D. Wil- liams, Golygydd y "Cambrian Daily Leader. Llywyddwyd yr Eisteddfod gan Mr C. H. Tomlison, cyfreithiwr, ac ysgrifennydd y Dosbarth a'r Eis- teddfod. Y beirniaid oeddvnt: — Cerddoriaeth, Dr. Vaughan Thomas, M.A., Mus.Doc.; Cymraeg, Mri. John Meredith, Llywydd y Cymro- dorion; D Rhys Phillips, F.L.A., Llyfrgellvdd Cymraeg; Arlunio, Taro Hoelion, Mr H. C. Hall, Abertawe; Gwaith Nodwvdd, Mrs Vaughan Thomas, Mrs Spurrell Davies; Traethodau, Mr J. D. Williams, Golygydd, "Cambrian Daily Leader." Cyfeilvdd, Dr. Vaughan Thomas, B A. Ysgrifennydd, Mr C. H. Tom- lison; Trysorvdd, Mr J. W. Thorpe. Y buddugol yn y gwahanol gystad- laethau oeddynt a ganlyn Traethawd, "Y Dosbarth Cym- raeg," awgrymiadol a beirniadol, y gwobrau'n rhoddedig gan y Maer i, Bonwr Henry Purser; 2, Bonwr J. Hubert Roberts; 3, Bonwr C. H. I Tomlison. Unawd ar y Berdoneg, rhanvvyd rhwng y Fonesig Winifred Lewis, Mumbles, a'r Bonwr J. W. Thorpe. Adroddiad Cymraeg, i, Y Fonesig Blodwen Phillips; 2, Mrs C. T. Rhys. j Gwaith Nodwvdd, i, Y Fonesig Callard, Prif-athrawes Ammanford; 2, Y Fonesig C. Padden; 3, Y Fones- ig Edith Lewis. Arlunio'n ddifyfvr, i, Y Fonesig Leyshon (Megan); 2, Y Fonesig Blod- wen Phillips. Darllen Cymraeg ar y pryd, i, Y Fonesig Blodwen Phillips; 2, Y Fon- esig James, "A.B. 3, Bonwr R. J. Williams. Curo'r Hoelion gan y Rhyw Deg, i, Blodwen; 2, Y Fonesig Winifred Lewis. Cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, i, Y Bonwr R. J. Williams; 2, Blod- wen; 3, Mrs Purser. Darn Corawl, "Gwnewch Bopeth yn Gymraeg," Parti Dosbarth y Bon- wr Spurrell Davies, dan arweiniad y Bonwr J. W. Thorpe. Cyflwynwyd y gwobrwyon gan Mrs J. Evan Rowlands. Cafwyd unawdau rhwng y cystadlu gan Dr. Vaughan Thomas, Mr L. J. Seymour, a Mrs Thorpe, ac ar y crwth gan y Bonwr Willie Roberts, yr offeryn o wneuth- uriad ei frawd. Ar hanner y gweithrediadau cafwyd sciblant i fwynhau lluniaeth flasus a ddarparwyd gan bobl y gwesty, ac i ymgomio'n ddifyr gyfaill a chyfaill. Nodweddwyd y gweithrediadau hefyd gan feirniadaethau y Doctor athrylith- gar. Dadlennodd deithi newydd yn ei bersonnoliaeth, llawn o'r digrif a'r cragwrus, ac hir gofir ei feirniad- aeth ar y darn corawl. Dau gor oedd i gystadlu, ond cynllwynodd nifer i fynnu gwneud trydydd, ac aethant ati yn ddirybudd er mawr ddifyrrwch i bawb a chanwyd gyda hwyl pob un, yn ol a debygwn, yn arweinydd iddo'i hun, a chafodd y Doctor ei gyfle, a gwnaeth y goreu o honi. Diweddwyd j noson ddedwydd trwy ganu "Hen WTad fy Nhadau a Duw gadwo'r Brenin." Haedda'r athrawon ym- roddedig a'u disgyblion ffyddon a Chymdeithas y Cymrodorion bob cymeradwyaeth am sefydu y dosbarth a'i wneud mor llwyddianus, a phob crach-feirniad penwag ei Iuchio i-- bwll hwyaid lleidiog. Mae gwrthwynebiad goreuwyr Abertawe i'r bwriad o agor yr Orielau Celf ar y Sabath wedi profi yn rhy gryf i'r Cyngor ei anwybyddu. Pen- derfynwyd felly ei ddileu oddiar y cofnodion yn y cyfarfod gynhaliwyd dydd Llun, Ebrill 6ed. Dengys hyn, pan y deffroir cydwybod y cyhoedd, fod ganddynt ddylanwad ysgubol, ac na feiddia awdurdodau penrydd eu diystyru. Ond y gamp y dyddiau hyn ydyw dihuno'r gydwybod grybwyll- edig. I TALNANT.
Y Feddyginiaeth i Ddiffyg…
Y Feddyginiaeth i Ddiffyg Traul. I Hanes dyn ieuanc mewn busnes a wnaed I yn iach, yn gryf, ac yn gymwys gan DABLEDI DR. CASSELL. I Y mae'r sicrwydd y gwellha Tabledi Dr. Cassell Ddiffyg Traul ac adfer cryfder yn eglur yn achos Mr L. Webb, dyn ieuanc mown busnes, o Grosvenor Villas, Lawns- wood Road, WordeseJy, Stourbridge. Dy- wed Ni threuliai fy mwyd yn briodol Mr L. Webb, Stourbridge. a dioddefwn lawer oddi- wrth wyntogrwydd a phoen pen. Peth arail a'r blinai yn fawr oedd gwlybwr sur a godai yn fy ngwddf yn boeth ac yn gas. Rhoddais brawf ar bob math o bethau a gymeradwyid i mi, ond heb gael es- mwythad o gwbl hyd nes i mi gael Tabledi Dr. Cassell. Gwnaeth- ant hwy fi'n iawn mewn amser byr rhyfeddol, at yr wyf yn awr mor iach a chryf ag y dy- munnai unrhyw un fod." Y mae gwellhad ar ol gwellhad, hyd yn oed yn yr achosion mwyaf eithafol, wedi profi mai Tabledi Dr. Cassell yw y feddygin- iaeth sicraf a ddyfeisiwyd at Fethiant y Nerves, Tlodi Gwaed, Gwendid, Diffvg Cwsg, Poen Giau, Curiad y Galon, Afreol- eiddiwch y Stumog a'r Arennau, Gwendid Plant, Parlysiad y Cefn a'r Giau, Dihys. byddiad Cyffredinol o Nerth y Corff, LIudd- ed yr Ymenydd, a phob math ar fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd., 418 Chester Road, Man- chester, am sampl rhad. Gwerthir y Tab- ledi gan yr holl Fferyllwyr am lOld., Is. He., a 2s. 9c.—y maint olaf yw y rhataf yn y diwedd.
[No title]
Llongyfarchwn Mr W. J. Roderick, Clydach, ar ei lwyddiant yn Eistedd- fod Llanddewi-brefi Gwener y Grog- lith. Efe gipiodd y gadair. Mab ydyw i Mr David Roderick, y Cam- lesydd. Diau na fydd y gadair hon ond blaenffrwyth cadeiriau lawer. Y mae'r awen yn gryf yn y teulu.
Etholiad Cyngor Dosbarth Caerffili.…
Etholiad Cyngor Dosbarth Caerffili. Adran Abertridwr. Buddugoliaethodd y cyn-aelod, Mr. Henry Jenkins, a gafodd ei wrthwynebu yn annheg iawn gan Blaid Sosialaidd y Cwm am iddo absenoli ei hun o'r Cyngor. Achoswyd hynny gan dan- chwa anffodus Senghenydd, a fu gy- maint aberth iddo er mwyn ei gyd-ddyn, gan iddo beryglu ei iechyd yn y gwaith. Mae'n syn i mi fod y gweithwyr yn goddef eu harwain i'r ffos mor fynych gan wario arian y Federation i foddio eiddigedd a mympwy dynion o nodwedd gwartheg teneuon Pharo o ran eu meddyliau sydd am lyncu pawb a pho- peth ond gwaith. Peidiwch dangos hwnnw iddynt neu llewygant yn y fan, a bydd rhaid iddynt gael y minimum wage neu y sick fund yn union. Bech- gyn a'u trwynau ar ryw faen neu gilydd o hyd ydynt, yn dwyn llawev o ofid a thlodi dianghenrhaid i'w cydweithwyr. Oherwydd diffyg barn a doethineb i 11 drin eu materion yn deg a boneddig- aidd, dynion o nodwedd y Blaid ydynt, ac nid yr oen ennillgar, a'r asyn ac nid rhesymwr gwrol a rhinweddol. Pa ryfedd eu bod yn colli ymddiriedaeth eu cydweithwyr a'r cyhoedd pan mae cyn- nhifer o enghreifftiau o'u byrbwylldra a'u hanonestrwydd ynglyn ag arian y I Federation. Mr. Gol., dyma enghraifft eto o'r llif I 'o 0 r 11 Seisnig ym Morgannwg sydd yn felldith iddi, ac a roddodd i'r sir yr enw Mor- gannwg Ddu. Mae dynion gore y gweithfeydd, a'r ardaloedd, yn cadw draw o gyfarfodydd y gweithwyr er's tymor am fod y Saeson mor haerllug ac anfoesol eu hymddygiadau ynglyn a threfniadau y gweithfeydd. Y bel droed, y Cinemas, y rhedegfeydd, a chyffelyb bethau sydd yn eu diddori, a gwarthruddant Gymru a Chymraeg drwy eu rhyfyg yn rhegu Duw a leso Grist nes ydym yn arswydo yn eu hymyl. O! na chodai ieuenctyd Cymru—plant yr Eisteddfod, Ysgol Sul, Cymanfa- oedd Canu, a'r pregethu, wnaeth Gymru'n Wlad y Gan a'r Menyg Gwyn- ion-yn eu herbyn. Mae Mr Henry Jenkins yn Gymro trwyadl mewn iaith, calon ac ysbryd, ac yn gymeradwy yn y cwm, fel y prawf yr etholiad diweddaf. Cafodd 416 o bleidleisiau, a'i wrthwyn- ebydd Sosialaidd 220, sef yn agos i gymaint arall. Cainc y Frwydr. Mae Harri Jenkins ar fy ngair Yn llanw'i air ymhobman j Ain wneud daioni pwy mor fraf ? A'n dewraf fab y daran. Mae yn y cwrn er pan yn llanc, Ac yn wr ieuanc hoew Ni chodwyd yng Nghaerffili'r un Myg lewaidd ddyn mwy gloew. Bob amser yn blaenori'r llu, Mae Harri 'rioed yn arwr; A dyna'r hanes geir i'n brawd A'i rawd yn Abertridwr. Os a y bwyd neu'r dwr yn brin, Gwna wyrth ei hun fan honno; Os digwydd damwain gwaith, i'w glod Nid dinod hefyd yno. Mae Harri'n fwy nag unrhyw blaid, Bu rhaid ei anrhydeddu; Mae'n Gymro a Chynghorwr iawn, Y gore wnawn ei garu. Ennillodd bleidlais glir i'w glod, Mae'i waelod yn Sosialwr Rhydd Harri Jenkins ar y sedd Anrhydedd wyna'r Tridwr. Ebrill y 5ed a 6ed, cynhaliodd yr Anni- bynwyr eu cyrddau pregethu, y prifardd Ben Davies, Panteg, Cwmtawe, a Derfel Roberts, Hirwaun, oedd y cenhadon dewisedig eleni-"hoelion wyth" hen bulpud ein gwlad. Yr ydym wedi eu clywed yn fwy hwyliog lawer tro, ond nid yn fwy ymdrechgar a meddylgar na'r tro hwn. Ni welsom gynulliadau deneued o'r blaen yng nghyrddau'r An- nibynwyr. Rhwng y byd a'r Cinemas mae'r eglwys yn myn'd i edrych yn wrthodedig iawn y dyddiau hyn. Y cysur yw fod Crist tuallan i'r eglwys yn lefeinio llawer ar gymdeithas, a bod adeg yr eglwys eto i ddod pryd y gwelir hi yn gwisgo gwisg ei gogoniant. O. vsbrvd, tyred! J DEWI AUR. I
Treherbert.I
Treherbert. Cynhaliwyd cyngerdd longyfarch- iadol nos Sadwrn, Ebrill 4ydd, yng Nghapel Ebenezer, Tynewydd, i Mr W. H. Cassam, yr hwn sydd ar fyned i fugeilio Eglwys Soar, Newbwrch, Sir Fon. Y rhai a gymerodd ran oedd: Miss Maria Adams, Treher- bert, soprano; Miss Mary Jones, Blaenrhondda, contralto; Mri. W. Todd Jones a Ben Thomas, Treher- bert, tenors; adroddwyr, Mri James Thomas, Blaenrhondda; L. Perkins, Treherbert. Canodd Mr John Date, Blaenrhondda, ar y "banjo," a Mr Oliver Jenkins, L.C.V., Treherbert, ar y crwth. Cyfeiliwyd gan Mr Lem. Kinsey, L.V.C.M., Treherbert. Dar- llenwyd penhillion i Mr Cassam gan yr ysgrifennydd. Siaradwyd yn uchel am gymeriad Mr Cassam a dymunwyd y goreu iddo yn ei le newydd gan y Parchn. J. Mathews, Blaenycwm; a J. Williams, Bute Square, Treherbert. Llywyddwyd yn hynod fedrus gan y boneddwr haelionus, Mr J. Gower, Pengelli, Treherbert. Trodd y cyfan allan yn llwyddiant perffaith yn mhob ystyr. J. DUNCAN.
Ferndale. I
Ferndale. I GAN IOAN." I Ebrill 4, 5, a'r 6 cynhaliodd Eglwys Trerhondda ei gwyl bregethu flynydd- ol. Pregethwyd yn feddylgar a hyawdl gan y Parchn. Gwilym Rees, B. A., Merthyr Tydfil, a J. Cradoc Owen, A.T. S., Pencae, Mynwy. Daeth cynulliadau lluosog ynghyd. Ebrill yr 8ed yng nghapel y Taber- nacl cynhaliodd aelodau y Gymdeith- as Gydweithredol eu cyfarfod chwar- ter. Llywyddodd Mr Tom Morgan, llywydd y pwyllgor llywodraethol. Cafwyd ychydig eiriau agoriadol gan y llywydd, a galwodd ar Mr Robath- an, archwili wr Caerdydd, i roddi adroddiad o gyfrifon arianol a sefyllfa y gymdeithas am y chwarter ddiwedd- ai Mawrth 3ydd, 1914. Yr oedd y gwerthiadau yn ^56,364 145 4^c; yr elw oddiwrth y cyfryw yn ^11,285 7s, yn cael ei rhannu rhwng yr aelodau yn ol y cyfartaledd a ganlyn 4s. yn y bunt yn y bwyd a'r dillad, a 2s. loc. y bunt yn y cig. Cyfanrif yr aelodau, 2,996. Cadarnhawyd yr adroddiad yn unfrydol. Darllenodd Mr Henry Davies, y prif oruchwyliwr, gofnodion y cyfarfod chwarterol blaenorol, a chadarnhawyd hwynt fel rhai cywir. Penderfynnwyd cyfrannu ^.5 5s tuag at dreuliau y Ferndale Fire Brigade. Etholwyd ar y pwyllgor Mri Griffith Jones, Pontygwaith; Thomas Jones, Mardy; William Jenkins a Howell Jones, Ferndale. Penderfynnwyd peidio cyfnewid dim ar rheol 31. Darllenodd Mr Thomas J. Davies, Tylorstown, daflen newydd cvflogau gwasanaethyddion y Gymdeithas, yr hon oedd mewn cydgord a dymuniad- au Undeb y Siopau, a chadarnhawyd hi. Penderfynnwyd fod aelodau Pwyllgor y Stablau i gael eu treuliau wedi eu talu o hyn allan. Darllenodd Mr Henry Davies "cablegram oddi wrth Mr G. J. Jenkins, prif ys- grifennydd y Gymdeithas, sydd yn awr yn Awstralia yn ceisio adferiad iechyd. Dywedai na fwriadai ddych- welvd, ond yn hytrach wneud cyngor ei feddyg, ac aros yno. Datganodd y llywydd ac amryw o'r aelodau eu gofid .,a'r blinder am nad oedd am- gylchiadau yn caniatau i Mr Jenkins ddychwelyd atynt. Siaradwyd yn barchus am dano, a theimlid fod bwlch mawr wedi ei wneyd yn y Gym- deithas a wasanaethasai mor ffyddlon am dros 20 mlynedd. Yr oedd yn un hawdd i gydweithio ag ef. Pender- fynwyd derbyn ei ymddiswyddiad gyda gofid, a chan ddymuno iddo ad- feriad buan a llwyr. Penderfynwyd hysbysebu am ysgrifennydd yn olyn- ydd i Mr Jenkins, y ceisiadau i'w cyfyngu i'r Gymdeithas, a'r pwyllgor i brofi yr ymgeiswyr a'u tynnu i lawr i nifer rhesymol a galw cyfarfod neill- duol i bleidleisio ac i ymdrin a'r mater mawr a phwysig hwn ynglyn a dyfodol y Gymdeithas. Cafwyd ad- roddiad gan Mr Henry Davies o'r swm a gasglwyd fel danghosiad o barch i Mr Jenkins ar ei ymadawiad: ^50 o'r "reserve fund"; ^84 17S wedi eu casglu gan wahanol gwmniau y masnachai'r Gymdeithas a hwynt a chyfeillion eraill, y cyfanswm yn ..6" I 34 17s. Talwyd allan o'r swm hwn ^,60, cyflog Mr Jenkins, a chyflwvnwyd i Mrs Jenkins y gweddill o ^74 17s. Trefnwyd fod y tal i'r clercod a was- anaethasant yn absenoldeb Mr Jen- kins, y prif ysgrifennydd, i'w bender- fynu gan y pwyllgor. Gohiriwyd y cwestiwn o gydnabyddiaeth i'r prif ysgrifennydd ymroddgar Mr Jenkins hyd y cyfarfod neillduol nesaf. Siarad- odd amryw ar y priodoldeb o wneud hyn iddo, am ei fod yn caru ein cym- deithas ni. •
Danygraig, Alltwen.I
Danygraig, Alltwen. I Boreu dydd Mercher, Ebrill laf, bu farw yr hen' dad, David Williams, Ed- ward Street, yn 69 mlwydd oed. Ad- waenid ef gan ei gyfoedion fel Dafydd William Daniel. Dioddefodd am hir flynyddau oddiwrth y diffyg anadl a'r peswch. fel y gwna y rhan fwyaf o'r glowyr. Yn y lofa y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, o dan y "Welsh," ac wedi hynny, y "Primrose Coal Company." Yr oedd yn Nglofa y Primrose pan y gorlifodd ym mis Ebrill, 1858, ac y coil- odd y goruchwyliwr, Noah Lewis, Glyn- dolau, Cilybejbyll, ei fywyd. Dihang- odd y gweddill a'u bywydau, ond trwy gyfyngderau mawrion. Rhedai y dwfr allan trwy level Ynysfechan, yr hon oedd yn llawn, a chafodd Dafydd William ddihangfa wyrthiol o'r diluw ofnadwy hwnnw. Cariwyd ef ar wyneb y dyfroedd am o gant i ddau o lathenni ar hyd y lefel, a thaflwyd ef i fyny i ben par o goed, ac yno y bu nes i'r diluw dreio. Yr oedd yn y lofa hefyd pan fygodd I ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd wedi hynny, sef ar y 13eg o Hydref, I 1858. pan y collodd tri ar ddeg o'r glowyr eu bywydau. Dihangodd ef y I tro hwn eto. Bu mewn tanchwa yn y lofa uchod yn mhen rhai blynyddau wedi hynny, pan y llosgwyd lliaws o'r glowyr, ac yntau y tro yma yn un o'r clwyfedigion. Gadawodd yr anffawd hon ei ol arno hyd derfyn ei oes. Gallai ddweyd, "Dwyn ydwyf nodau yr alwedigaeth yn fy nghorff." Deallaf hefyd ei fod yn y tren cyntaf a redodd ar hyd y Swansea Vale ar yr 21ain o Chwefror, 1860, y llinell sydd yn nwylaw y Midland Railway Company. oddiar y flwyddyn 1874. I Yr oedd yn rhanddaliwr yn y Pontar- dawy Steam Laundry," ac yn dad i ddau o randdalwyr yr Ystalyfera Steam Laundry, sef Mri. Richard a William Williams. Yr oedd yn aelod ffyddlon o Eglwys Annibynol Danygraig, ac yn un o'r ym- ddiriedolwyr. Eglwys yw hon sydd wedi ei bylchu yn drwm yn ddiweddar gan law angeu, braidd y ceir teulu yn- ddi ar hyn o bryd heb fod mewn ar- wyddion galar. Dydd Sadwrn, Ebrill y 4ydd, cludwyd ei weddillion i'w gosod i orwedd gydag eiddo'r tadau ym Mynwent yr Alltwen, a chafodd angladd barchus. Gwasan- aethwyd gan y Parch. Llewelyn Bowyer, I ei weinidog. Heddwch i'w Iwch. HIRFRYN. I
■II Colofn y Beirdd.I
■I I Colofn y Beirdd. I Cyfeiried ein cyfeillion barddol eu I cynhyrchion i Brynfab, Yr Hendre, Pontypridd. PENRHYS. I Mynachlog lewyrchai flynyddau yn ol! Pen Rhys oedd mam sanctaidd y Cymry! Rhodd luniaeth i frenin, a chym'rodd i'w chol Ffoadur dros wlad yn carlamu. Heolydd o bobman gyfeiriant eu cwrs, A throstynt daeth llawer pererin J geisio trwy weddi a ehynnwys ei bwrs, Flas pardwn offeiriad y werin. A gwelid dy gvnnyrch o wenith a haidd I Yn donnau'n melynu dy lethrau, Banllefau yr heliwr a bugail y praidd Adseinient yn fyw ar dy fronnau. Mae duwch y lofa yn awr ar dy fron, A chwareu lie unwaith bu gweddi. Ai Mairion a phleser yw duwiau'r oes hon? Ben Rhys! yw dy Dduw wedi tewi ? TYNNWR Y TANNAU. CREDU. I Beth yw eredu yn yr Iesu- I A gwii-ionedd mawi- y Groesr" Ai rhyw fywyd 0 hlesera 11 Mewn esmwythfyd trwy ein oes? Na, mae oredu'n meddwl aberth, A wynebu'r storm i gyd; Nid ar lwybrau Hawn o lfodau- Diogeli'r enaid drud. Rhaid wynebu ar bicellau 4 Y diafol yn y hyd; Pan mae'r Cristion ar ei oreu Fe ddaw'r gelyn yn ei lid; Unwaith credir yn yr Iesu Fe geir teimlo gallu'r fall; Ar ol credu rhaid wynebu Y byddinoedd yn ddiball. Dunvant. 'LJ. ..on, I Y LLWYBR YN Y WLAD. I Ymhell o ferw'r ddinas, I A swn masnachol fyd, A'm cefn ar bob galanas, Svdd ynddbi oab r Ia l ana, Sydd ynddi arboh pryd; Felysed gan fy nghalon Yw rhodio mewn mwynhad I Yng nghwmni cerddi'r afon, Hyd lwybr hardd y wlad. A! Fwyned yw y dolydd, I Is hud y wybren glir, Yn estyn croeso newydd I mi i grwydro'r tir; A thlysed yw yr awel, I Sy'n goglais mown mwynhad, Wrth lamn tua'r gorwel Hyd lwybr hardd y wlad. Mae engyl yma'n cerdded I Y n brydferth dros y tir, A minnau yn eu gweled, Oil yn eu gwisgoedd pur; Mae anian is ei choron Yn chwerthin mewn mwynhad, T minnau'n lion fy nghalon Hyd lwybr hardd y wlad. Mae iechyd caredigol I'w gael ar hyd y fro, Ac ar ei llennyrch denol j Mor effro yw y co' Drwy gyfnod y deffroad, Sy'n cerdded dros y wlad, Boed effro'r gwir adfywiad Hyd lwybr hardd y wlad. Barry. J. TYWI EVANS. Y DDANODD YN FY NGHOESAU. I 'Rwv'n methu'n deg a gwybod pa'm 'Rwy' heunydd yn cael poeni, Pa un o nhqd neu o fy mam Y mae y drwg yn tarddu; Ond wedi styried 'chydig bach A chwilio 'nol i'm haehau, Nid oes dim hanes neh o'r ach A'r ddannodd yn eu coesau. Mi ges y ddannodd lawer gwaith, A'i phoen i'm syfrdanu, A gwelais ereill oedd a'u hiaith Y n debyg ia wn i regu Ar ol i'm dynnu'm deint i gyd, Mi roes ffarwel i'w phoenau, Ond dyma'i eto'n fwy ei Hid Yn ddannodd yn fy nghoesau. Fe'i% t gelwir vn sciatic nerve, Gan ereill nerve sciatic, Ond d'wedaf fi,-mae'n well deserved Ei galw'n beth cythreulig; Mae'n tynnu, gwanu, brathu fe1,- G weill poeth neu lym gleddyfaii,- A dywed pawb mewn svndod, "Wel, Mae'r ddannodd yn eich coesau." Mae wedi dofi llawer iawn O'r gwynion gwyllt-gynddeiriog, Ond mae ef yma fore a nawn Bron Uethu'm ysbryd hywiog; 'Rwv'n methu eistedd, gorwedd, troi, Gan wendid a mellt-saethau, O! beth a wnaf? 'Rwyf wedi'm eloi Gan ddannodd yn fy nghoesau. Mae'n rhvfedd iawn un a fit Mor wisgi ar ei gamrau Ym methu rhodtli cam yn hy' Heb gymorth gwael ffyn baglau; I f ni t ino'n a%%rr, Ond dyna sy n N awr, Heh' funud o orffwysdra,— 0 hei wvdd diodde 'rwyf mor fawr Gan ddannodd yn fy nghoosa. Mae diodde'r ddannodd ddoudeg awr Yn difa'r holl amynedd, Ond diodde' misoedd sudda gawr I anobeithiol orwedd; Wel, dyna fel mae arnaf fi Dros hedwar mis mewn poenau, Bob dydd a nos, tost yw fy nghri— Gan ddannodd yn fy nghoesau. Hirwaun. GWILYM CADLAN. WY FO HEB EI DDODWY. Fe aeth fy modryb Betsi I gadw ieir un waith, Mawr oedd y gofal ganddi Am danynt dymor maith; Edrychai 'mlaen am arlwy Heb goelio'r wireb wiw Fod wy fo heb ei ddodwy Ym mhell o fod yn gyw." Cyfrifodd, do, rai cannoedd 0 wvau mao yn wir, Ymffrostiai cai werth punnoedd 0 gvwion cyn bo hir; Un horeu bvth na chyffrwy' Nid oedd 'run iar yn fyw: Mae wy fo heb ei ddodwy Ym mhell o fod yn gyw." Mae llu Vol modryb Betsi Yn debyg yn eu hvnt, Mawr dyrau gant eu codi ['w chwalu gan y gwynt; Pan ddaw i lawr eu mympwy Mae siom yn peri briw Mae wy fo heb ei ddodwy Yn mliell o fod yn gyw." Byw gormod i'r dyfodol Sydd weithred digon ffol, Rhaid cofio y presennol, Ac weithiau edrych 'nol; G wynfydau anwelaelwv Gwael arnynt ydyw byw: Mae wy fo heh ei ddodwy Yn mhell o fod yn gyw." Gochelwn adeiladu Rhyw gestyll yn y gwynt, Can's gallwn benderfynu Mai rhai siomedig ynt; Y wireb fo'n gofiadwy Rhag eto beri hriw: Mae wv fo heb ei ddodwy Yn mhell o fod yn gyw." MURMURYDD. Bronliwyn, Gelli. 44 MERCH Y BUGAIL." "Merch y Bugail," ddringa'r Bannau Gyda mynwes lawn o dan, Gwna yr awel lednais dannau Fel a'i gwallt modrwyog glan; 01 ei thraed sy'n liawn o gariad,— Swn ei charol rwyga'r bryn, Mae ei chwmni'n serch ogleisiol Pan yn canu'r "Gwenith Gwyn." Swn y defaid rhwng y bryniau Wedi dod o'r drysni'n rhydd, Swn y ferch a garaf finnau Wynai nos fel canol dydd; Swn brefiadau'r wyn o'r pellder Dyrr yn ruddfan ar fy nghlyw, Ond anwylach swn yw "Hyder" Merch y Bugail" ar ei Duw. Nid oes dwyll yn nhrem ei bywyd, Llawn ysprydiaeth yw ei chan, Yn ei gwen mae darn o wynfyd Y n ei serch mae marwor tan; Gwel y cymyl du'n ym<jodi Fel o for trueni'r hyd, Edrydd brofiad drv'n oleuni Ac yn rhamant byw o hyd. Ei chyfrinach glyw y creigiau- Am a fu, neu eto ddaw, Engyl wylia dros el llwybrau, A ymlidia 'sorvdion hraw; TJcheiderau y mynyddoedd Wel yn wynnaeh nag erioed, Ar ei gyrfa nid oes niwloedd Heddyw'n hiimp-ar-hugaln 00(1, Merch y Bugail "—merch y mynydd- Mercli y lluest yn y cwm,— Merch a'icharol byth yn newydd,— Merch nad yw ei gwisg yn llwm; Merch a rhinwedd yn ei chamrau,— vSppc-h a chariad ar ei min, Merch yn hoffi'r uchelderau, Merch heb brofi dyddiau hÍin.. Merch y Bugail," yn ei hanian- Yn y lluest, ar y bryn, Merch yn gweled Duw ym mhobman, A'i huchelgais oil yn wyn; Merch a natur yn ei charu- Hithall'n serch a chariad pur, Engyl beunydd arni'n gwenu, Ac yn difa'i phoen a'i chur. D. BASSETT. Gadlys, Aberdar. HEN EMYNAU MAM. Pan oeddwn blentyn bychan, Fel estron yn y byd, A rhywbeth yn fy anian Am fod yn fwy o hyd; Diddanwyd fy nheimladau, Fv nghalon roddai lam Tra'n gwrandaw nefol nodau Yn hen emynau mam. Adwaenodd hi yn foreu Ogoniant Ty fy Nhad, A chofiodd her ganiadau Ymdeithwyr nefol wlad; Os ooedd ei llais yn crygu Dan nifwl ing a cham, Tangnefedd mewn caledi Oedd hen emynau mam. Y "dyfroedd mawr a'r tonau," A "thorf y boreu wawr," A "chwal wr y cymylau Yn ing yr olaf awr A'r cyfaill dyrchafedig A'i cadwodd yn ddinam, Oedd ymffrost bendigedig Yn hen emynau mam. Bu blin daranau gwagedd Yn gwawdio swyn ei chan, Ond methodd byd a'i lygredd Ddiffoddi dim o'r tan; A fflamiau yn ei mhynwes Ddiragrith—diolch am Fod enaid yn rhoi'i hanes Yn hen emynau mam. Pan ddiffydd haul a'i wenau, Pan saif chwyrn donnau'r môr, Bydd can y gorthrymderau Yng ngwyddfod tambaid lor; Hawdd uno y cyfarfod- Tragwyddol,—dyma pa'm Y dysgais y cyweirnod Yn hen emynau mam. JOHN V. DAVIES Gilfac' h Goch. (loan Heulog.) Gilfach Goch. Printed and Published for the Propr ietors, The Tarian Publishing Co., Ltd., by W. Pugh and J. L. Rowlands, at their Printing Works, 19 Cardiff Street. Aberdare, in the County of GlamorgaP