Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

COLOFN Y PLANT. I

Advertising

Cyfarfod Anrhegu MarchogI…

News
Cite
Share

Cyfarfod Anrhegu Marchog I Ynyshir. Nos Lun ddiweddaf, yn Fe-stri Saron, Ynyshir, cefais y fraint o fod yn un o'r cyfarfodydd rhyfeddaf yn fy hanes. Gwahoddasai Syr William weddwon yr ardal i gyfranogu o d6 a ddarparesid ganddo, ac ar y diwedd cyflwynasant hwythau iddo yntau inkstand ac ysgrif- bin arian. Cymerwyd y gadair gan y Cynghorwr John Thomas, Agent Glofa'r Standard, ewythr i Syr William. Dywedodd y Cadeirydd mewn geiriau toddedig iawn y talai Syr William yn ol ar y ddegfed ac ar y canfed i'r gweddwon am eu han- rheg sylweddol. Wedi cael alaw ar y berdoneg gan Mr Howell o Ainon, cafwyd ychydig benhill- ion gan yr hen frawd digri a phwyllog Lewis Williams. Y mae efe yn un o'r rhai hynaf yn yr Ynyshir. Wedi hynny cawd unawdau gan Miss May John, R.A.M. Dywedwyd gan y Cadeirydd na chanasai Miss John yn well, os cytal, erioed a'r noson hon. Ar ol hynny galwyd ar y chwiorydd ymlaen i gy- flwyno yr anrheg i Syr William, ac os y bu teimlad yn orchfygol erioed, dyma engraifft. Darllenwyd yr hyn oedd yn ysgrifenedig ar yr album, a'r hyn oedd wedi ei argraffu ar yr inkstand gan Mrs Powell yn effeithiol iawn. Yna cyflwyn- wyd yr anrheg gan un o'r gweddwon hynaf oedd yn bresenol. Gallaf eich perswadio i gredu yn awr fod dagrau y gweddwon yn ami, a dagrau Syr William a'r cadeirydd hefyd gan mor rhyfeddol ddylanwadol oedd y cyfan. Fodd bynnag, pan y cododd Syr William i gynabod yr anrheg, cod- odd uwchlaw disgwyliadau pawb, trwy ddweud y rhoddai wyl fel hon ddwy waith y flwyddyn; yna, yn sydyn iawn, cyhoeddodd ei fod yn rhoi sofren y noson honno i bob gweddw a oedd yn y Festri-ac yr oedd yno dros gant o honynt. Campus, onide! Dyma i chwi ddyn yn cydymdeimlo a dynion yn eu hargyfyngau, nid ar air ac ar dafod yn unig, ond mewn gweithred a gwirionedd. Gwyn fyd na welem ragor o'n cyfoethogion yn dilyn ei esiampl. A dyma fel y canodd un o'r beirdd oedd yn bresennol:— Mae Ilawer math o roddion hael, I'w cael yn myd anrhydedd Cyfranna rhai o logell lawn, Heb deimlo fawr o duedd; Ond dyma rodd o galon rydd, Sydd fel y dydd yn oleu, A gwyddom hyn trwy brofiad oil Mai dyma'r rhoddion goreu. Nid maint y rhodd yw'r rhinwedd mawr, Ond faint o deimlad tyner Gynhesa'r Haw gynhwysa'r rhodd, Heb deimlo unrhyw bryder; Yn rhodd y gweddwon gwiwlon hyn, Curiadau calon gynnes, A gura'n gyson dan yr oil I anfarwolu'u hanes. Yn serch Syr William bydd y rhodd Yn un o'i brisfawr bethau; Fe'i perchir yn ei balas clyd Fel offrwm gwir galonnau A phan yr eistedd wrth y bwrdd, I gwrdd galwadau'i fywyd, Defnyddia yr ysgrifbin hwn I'w hateb oil mewn munyd. Cymeraf arnaf ryddid, Syr, I ddatgan dros y gweddwon, Eu teimlad gwir o barch i chwi Am helpu mewn treialon; Nid yw eu rhodd ond milfed ran 0 deimlad cudd eu calon; Bydd gweddi gweddwon Ynyshir Yn bur o'ch plaid yn gyson. Ynyshir. T. H. EMANUEL.

Hirwaun. I

Oddiar Lechwedd Penrhys.

Nodion o'r Onllwyn a'r Cylch.

I Colofn y Gohebiaethau. ;…

Advertising