Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Y Ddrama yn Aberdar.

News
Cite
Share

Y Ddrama yn Aberdar. GAN LYWELYN. Cefais y plesei- o weled cliwtre "Boh Morgan," drama gyntaf Mrs. Bassett, Gadlys, Aberdar, yn y Neuadd Gyhoeddus nos Fercher, Ebrill y laf. Yr oedd hon yn un o'r dramodau cyd-fuddugol yn Eistedd- fod Genedlaethol Caerfyrddin. Aethum i'w gweled gyda'r amcan o ddweyd fy marn am dani yn y Darian." Yr oedd yn dda gennyf weled, pan aethum i fewn, fod y Neuadd yn orlawn, a Ihvyddiant ar- iannol yr anturiaeth eisioes wedi ei sicr- hau. Gwyddwn fod y rhan fwyaf, os nad yr o!! o'r chwareuwyr ar y Hwyfan am y tro cyntaf erioed, a thybiwn mai rhai i ddweyd wrthynt air yn dyner a eharedig a fyddent heb feirniadu 11awer arnynt rhag eu digio. Ond, yn wir, gwelais yn bur fuan eu bod yn gryn geiliogod ae yn lied siwr o'u gwaith; a gallaf finnan deimlo yn bur rydd vvrth ddweyd wrthynt sut i wneud yn wen y tro nesaf. Yr hyn garaswn i fyddai gweled y parti yn chware'r ddrama hon yr ail waith. Yr wyf wedi sylwi fod <?ryn wahaniaeth rhwng yr ail beriformiad a'r cyntaf o eiddo cwmni sydd yn dechreu. Y maent wedi cael eu trued danynt ac yn cywiro eu eamgvmeriadau eu iiunain, a thrwy hynny yn arbed gwaith i'r beirniad. Pan godwyd y lien gv.elem Bet .Morgan, un o'r prif gymeriaduu. ger ej hwthyn ar lan y mor, ac yn vmson. Collasid tri 01 bechgyn yn y mor, ae ofnai weled hudo Bob, y pedwerydd, gan swyn bywyd morwr i drigolion y glannau. Yr hyn a ofnai a ddaeth arni. Cyehwvnodd Bob eto i'r mor yn swn -lu huddion ilifrifol yr hen wraig ar idflo fod yn fachgen da. Gwnaeth Mrs. Annie Evans ran Bet yn wir dda o'r •dechreu i'r diwedd, ei bai mwyaf oedd methu peidio gwenu weithiau ar ol dweyd pethau difrifol, pan fyddai vn fwy priodol iddi guddio'i hwyneb a chrio, neu gy- meryd arni grin, beth bynnag. Teimlwn h()fyd fod tipyn gormod o bregethu yn dod i ran Bet, ond dyna, bai gwraig gweinidog v Gadlys oedd hynny. Dygasai Mr David Harris ran Bob yn dda, a phortreadai'r k-vnieriad yn rhagorol. Y peth pnnaf oedd gennym yn ei erbyn oedd ei fod ormod "ar y wires," ac weith- iau fel pe'n dawnsio ar ben tomen bele. Tueddai i orwneud ei ran pan yn ymadael .a'i fam, nes yr ymddanghosai fel pe am fod yn gellweirus a chymeryd yr hen wraig yn ysgafn. Gwnaeth Mr. John G. Lewis ran John, Bronwylau Fawr, ei ran yn naturiol dros ben, ac yr ydym wedi methu, .er ceisio, cael dim yn ei erbyn y tro hwn. Yr oedd y menywod wrth y ffynnon yn ddiddorol iawn. Gwelsom hwy felly gan- noedd o weithiau, ac nid oedd dim yn fwy naturiol nag iddynt hwy chware y rhan hon o'r ddrama yn eithriadol dda. Dipyn yn foel oedd golygfa'r briodas, a gellid gwneud hebddi a'i chymeryd yn ganiataol. Methasom a chael llawer o dyllau mhor- tread Mr Morgan Richards o Mathews, y mate, a'r cena aeth a "rwm" i dy yr hen wraig ac a hudai Bob i feddwi. Rhaid i ni gamol hefyd Miss Beatrice Venn am wneud rhan Mrs. Bob Morgan mor dda. Yr oodd ganddi hi lawer o waith a gwnaeth yn dda o'r dechreu i'r diwedd; ond carem iddi hi'r tro nesaf, ar ol iddi ddweyd rhywbeth doniol, beidio dechreu dweyd dim arall nes bo'r dorf wedi gorffen chwerthin. Yr oedd amryw o'r cwmni yn euog o hyn. Teimlem, fel hen boacher, ddiddordeb mawr yng ngolygfa'r berw- hela gwnaed hi'n bur dda, ond nid oedd i fyny a'r marc. Dichon, er hynny, mai gormod fyddai disgwyl i wraig gweinidog fod yn hyddysg iawn mewn materion fel hyn, gan nad beth am y gweinidog ei hun. Camgymeriad mawr oedd i'r un darewai'r llawr i ddynwared ergyd o ddryll fod yn y golwg. Yr oedd yn dda gennym hefyd mai eogio saethu yr oeddent, oblegid nid oedd blaen y dryll bob amser i'r cyfeiriad y dylasai fod. Yr oeddwn i o dan yr argraff mai yn y nos yr oedd y gwaith hwn yn mynd vmlaen. Prin yr elai'y rhai mwyaf beiddgar i saethu yn ymyl y Plas liw dydd. Os nos oedd, mi a'i heriwn i saethu llawer .0 betris. Ac ar bennau coed y ceir ffesants yn y nos yn y gaeaf, ond ni welais un o honynt yn edrych i fyny. Ond a chaniatau iddynt fod yn ddigon beiddgar i saethu am hir amser yn y dydd yn ymyl y Plas, yr oeddent yn ffol iawn i aros i dynnu'r adar allan o'r sach i'w hedmygu a chware a chwnhingen fach fyw pan ddylasent wybod eu bod mewn perygl. Yr amryfusedd hwn arweiniodd i saethu'r cipar a gosod yr allt ar dan, a ffoedigaeth Bob Morgan a Mathews y mate. Yr oedd yn dda gennym weled cymaint o werthu ar yr "Aberdare Leader" ar y llwyfan pan ddaeth y newydd ynddo fod Bob wedi boddi, a Mr John Davies, attend- ance officer, yn ei brynu. Rhan capten a gymerai ef, ac edrychai yn iawn ar y llwy- fan, gan nad sut y gwnelai ar y Hong, dipyn yn ddifater a swyddogol oedd ei gyd- vmdeimlad a'r hen wraig wrth dorri'r newydd iddi. Credem ei fod yn meddwl gormod o'i wisg a'i osgo fel capten i fod yn ddiddanydd effeithiol i'r galarus, ond gellir maddeu hyn iddo am y tro, gan nad oedd wedi bod yn gapten yn hir. Wedi colli Bob, yr oedd Gwen yn rhvdd, ac yr oedd yn dda gennym weled nad oedd John Owen wedi colli'r ddawn i garu. Ac o gwmpas y briodas hon eto, gan fod y ddrama yn tueddu i fynd yn hir, credwn y gellid ymdroi liai gyda'r anrhegion-y china dogs a'r china cats, er cystal gan y merched oedd chwareu a theganau feUy. Cawn ein hunain yn nesaf yn New York, a'r Bob y tybid ei foddi eto'n fyw. Braidd yn hir oedd yr olygfa yn yr Ysbyty yno, a chredwn y gellid trefnu y cwbI a fu yn y ddinas honno yn un olygfa er mantais i'r ddrama. Beth bynnag, gwnaeth pawb yno eu gwaith yn dda a siriolodd y canu lawer ar yr amgylchiadau. Camgymeriad, er hynny, oedd i un arall gymeryd i fynny ran Boh yn v fan hon. Yr oedd Mr E. R. Evans newydd ei saethu fel cipar, a dyma fe'n troi i fynny fel Bob afradlon yn New York. Dylesid gorfodi David Harris i fynd ymlaen a'i waith hyd y diwedd. Dichon y byddai hanner boddi, a thwymyn wynegon, a thipyn o boen cydwybod yn y fargen yn help i sefydlogi tipyn ar ei goesau. Gresyn oedd iddo ef adael ei waith ar hanner. Dychwel Bob a geilw gyda'i Fodryb Neli i gael allan fod ei fam wedi ei chladdu ac fod Gwen, o dan y dyb- iaeth fod ei gwr cyntaf yng ngwaelod y mor, wedi priodi a John Bronwylan, ei hen gariad ac yn hapus tawn. Y mae Boh erbyn hyn yn edifeiriol, a theimladwy iawn oedd ei waith ar ol clywed fod ei wraig yn hapus gydag arall, yn i-hoi darn coron i'r hen wraig ac yn ei rhybuddio na ddywedai i neb iddi ei weled rhag i hynny dorri ar < ddedwyddwch Gwen. Pan aeth at Bron- wylan i gyel yr olwg olaf ar Gwen drwy'r ffenestr yn y nos cyn Hychwelyd i New York byddai yn well gennym iddo gad" I ddwylaw o'r golwg a dangos ei wyneh yn unig. Chwareuodd Rhagluniaeth ran dda yn y ddrama yn y fan hon trwy gipio Modrvb Neli i well hyd cyn y bore, am nad oedd ganddi ffydd, hwyrach, y cadwai r hen wraig y gyfrinaeh. Gwnaeth chwareu- wyr y rhannau Ileiaf, y negesydd, yr hedd- geidwad, Shoni Winwns, ac eraill, eu rhan yn dda, ac y mae llawer o lwvddiant Drama yn dibvnnu ar y cymeriadau mwyaf dinod ynddi. Llongyfarchwn yr awdures dalent- og, a'r Cwmni, a'r pwyllgor i gyd ar raen eu gwaith a llwyddiant eu hanturiaeth.

Briwsion o Aberpennar - (Mountain…

-Penderyn.I

- -.- ._- -.-..-.:._-.- -…

Glyn Nedd. I I

-:-.;-... - -,,- -Adolygiad.

Nodion o Rymni. I

Mr Henry Lewis, Trecynon.

Nodion o Frynaman.I

Colofn y Beirdd.

IY Groglith. IY Groglith.