Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

John Hwmffre yn ei Fedd.

News
Cite
Share

John Hwmffre yn ei Fedd. John Hwmffre, druan ag ef-wcdi ¡ marw! Dyna fydd ymson pawb a'i hadwaenent pan y tery eu llygaid ar bennawd ein sylwadau. Ac odid na chyfyd torraeth o atgofion difyr i feddyliau torf o ddarllenwyr y Darian"? Ac wrth ddarllen y new- ydd am ei farw odid na chanfyddem ddagrau ar lawer grudd. Ond er cymaint ein hiraeth am dano ef a'i wreiddiolder Cymreig, yr oedd ei oed, ei lesgedd, a'i gystudd yn galw am y graian, a thynn y wybodaeth hon lawer o'r min oddiar ein galar. Dechreuodd ei ddyddiau blin ef yn gynnar. Yr oedd yn gloff o'r bru. Angel fu angeu iddo ef, a'r bedd yn fedd i'w Binder a'i fusgrellni. Ym- hyfryda heddyw mewn rhydd-deb di- lyfethair, ac heb angen na phwyll na ffon i ddiogelu ei gerddediad a'r heolvdd y ddinas nefol. Araf a gwyrgam y bu ei gamrau yma, ac ni fu trwch ei gnawd ond vchwanegiad at ei boen a'i helbul. Yn ei anffodion cadwodd ei neilldu- olion yn ddianaf. Yr oedd yn garictor nad oes ynom y petrusder lleiaf i gysylltu'r ansoddair gwreiddiol ag ef. Cafodd natur ei ffordd fti hun ganddo-ufuddhaodd yntau i reolau ei mawrhydi heb dorri braidd un o lythyrennau ei chyfraith. Gallai edrych yn wyneb gorchymynion N'a^ur j a dweyd, "Y rhai hyn oil a gedwais oJm hieungctyd." Credai ef mewn gadael i Natur ddadblygu bywyd a chvmeriad ar ei llinellau ei hun. DYma oedd unig erthygl ei ffydd, a danghosodd hynny yn ei fywyd. Ni chafodd yr un dylanwad arall ymyr- aeth a chynllun a threfn natur ar ei fywyd; ni chafodd diwylliant gaboli dim ar ei dy o glai. Nt ddaethai addysg i aros dan ei gronglwyd. Ychydig gyfle gafodd moddion ar- ferol, twf dyn i geinio dim ar ei ddiwyg. Plentyn natur oedd efe— dichon mai ffawd dda oedd, nas diwylhwyd ef. Pe amgen ni chaw- sem mo'i wreiddioldeb dihafal; gallas- ai ef pe'r ewyllysiai ymffrostio na fu yn nyled gwrtaith erioed o ddim. Cadwodd natur ei pherchenogaeth lawn arno o'i gryd i'w arch. Feallai mai yr unig eithriad yn ymyriad y berchenogaeth fu i ras Duw i gael bod yn berffeithydd ei ffydd a'i fywyd yn vstod y blvnvddoedd di- weddaf o'i hanes. Ni allai neb fod yn brudd yn ei gwmni diddan; nid ceisio gwneud rhai yn ddiddan yr oedd, ond yr oedd ei fod a'i fywyd fel ffynnon yn bwrlymu yn ddidrai. Byddai gwenu a chwerth- in o'i gwmpas heb iddo ef feddwl fod yna rinwedd wedi mynd all an o hono, ac odid na holai beth allai fod yn achos o'r difyrrwch. Gwnaeth lawer yn ysbryd ei oes tuag at gadw trist- i wch draw o Heolyfelin. Gwna rhai gryn ymdrech i ddifyrru eraill, ond gwnai ef hynny heb barotoad ac yn hollol ddiymdrech. Byddai ei bryd a'i wedd, ei gwestiwn, ei air, a'i ymadrodd, ei gyngor, ei farn a'i gerydd yn creu bywyd. Yr oedd ei safiad a'i edrychiad crygwrus, a lliw y gredo amheus oedd yn delweddu ei wyneb yn ddigon o arlwy bob amser. Amheuthyn oedd cael ei feirniadaeth ar bersonau a phethau. Yr oedd honno fel ef ei hun—heb arliw barn y cyhoedd arni-yn wreiddiol, yn ddon- ioI, ac yn ddigrif hyd yr eithaf. Nid oedd arni ol caboli na cheinio. Yr oedd ei eiriau a'i gyflead yn union fel twrr o feini newydd eu darnio o'r chwarel heb fod gwaith y morthwyl a'r cyn wedi rhoi eu nod arnynt na'u llyfnu. Nid fod yr iaith yn anniilyn yn gymmaint, ond yr oedd mor anturus a hunan-hyderus ei feddwl. Mynegai ei air fel petai graig yn sylfaen iddo, ac eto gwelsid mai dim ond tywod sych oedd sail ei farn a'i ddamcan- iaeth a'i gasgliad bob gair. Yr oedd ei wreiddiolder ar ei oreu pan yn rhagfynegu'r dyfodol. Gallai ef fod N-ii arw ac amavd ei eiriau heb i neb ddigio wrtho. Ni wgai na dyn na dynes na phlentyn arno; yr oedd yn syml, yn ddiddwyll, ac o ddifrif gyda phobpeth. Edmygai pawb ei blaender di-addurn, a'i ddawn anghygoeth, a'i grefydd ddi-ffug. Yn ei sel enwadol siaradodd lawer am y "Corff," ei en- wad, ac am y Bryn, ei gapel. Fel John H wmff re y teiliwr y cofir am da no mwyach, a chyda hynny fel Maer ar lannau'r mor yn ystod gwylian'r haf, fel datganwr croew ac fel un o ddawrt i ddiddori ac i ddifyrru, ond gyda mi fel crefyddwr ei grefydd naturiol a erys mewn cof. Adwaen- wn ef fel un a wyddai fwy am han- fodion profiad crefyddol nag am benodau'r Hyfforddwr ac erthyglau'r Gyffes Ffydd. Brethyn cartref oedd ei grefydd bob edafen-ei wead ef ei hun ydoedd. Nid ceisio dilyn camrau hwn a'r Hall wnaeth, ond byw ei fywyd ei hun trwy yr Hwn a wnaeth- pwyd yn gnawd ac a drigodd yn rym cynhyddol ynddo yntau. Chwythig iawn gan lawer oedd ffarwelio ag ef ar lan ei fedd nawn Llun di- weddaf. Claddwyd ef yn swn croch y storm, a'r cymyl yn arllwys eu cynnwys bras i leithio gwaelod ei feddrod heb fesur na phall, ond pe clywem lais Hwmffre yn canu fel clywsom ond odid ganwaith, clywsid digon o hono i foddi swn y dymestl y diwrnod hwnnw ar fin ei leithig fedd. Ofer gwadu nad ydyw wedi gadael adwy yri niiir Ilawer r-ylch yn- yr ardal ac yn ei dy a'i gapel yn anad pob man. Ni chawn weld a chlywed swn ei gloffni mwy. Ni cheir clywed ei lais cryf eto. Ni thyrr atsain ei ysgwrs di- niwcd ar ein clvwjrnvyach. Ni ddaw a'i brofiad i felvsu ac i lonni'r seiat ragor. Ffarwel, Hwmffre, a gwyn dy fyd; beth bynnag fu dy ffaeledd yn nydd dy nerth, ni roddaist gym- maint a llety noson i falais yn dy fynwes. Ni roddaist le i droed cen- fig-en i halogi trothwy dy ddrws. Ni wyddit am fy-fiaeth a balchder a mympwy ysbryd. Ni chefaist dy gyhuddo erioed o eiddigedd; ar y pen hwn yr ocddet yn eithriad ymhlith y saint. Yr oedd dy wendidau di yn rhinweddau o'u cymharu ag eiddo y rhai a'th farnant. Bu yn dda gan lawer dy adnabod. Gyda golwg ar feiau dy ddyddiau gynt mae'r byd a'r nef wedi eu hanghofio a'u maddeu, a barnwyd ti y pryd hynny wrth safonau gwahanol i'r cyffredin. Gwelodd yr ysgrifénnydd werth ynot i'th osod ymhlith ei atgofion am Ddiwygiad dv fro, ac ni wid neb cymhwys i farnu dy hawl i'th le yn y rhestr. Myn- asai Duw dy nodi a'i law ei Hun yn nydd y cyffroad, ac attolwg pa beth oedd dyn i warafun iddo i anfarwoli dy enw ? Bu farw canol dvdd,—Gwener Mawrth 27am, a'r emyn sibrydai wrth groesi'r Hi oedd- Ar lan Iorddonen ddofn 'Rwyn oedi'n nychlyd," etc., etc. Fel sylwyd claddwyd ef Llun diwedd- af, Mawrth 30am. Trwv'r curwlaw mawr daeth Iluaws i dalu'r gymwynas olaf i'w weddillion. Gweinyddwyd ar lan ei fedd gan y Parchedigion J. Morgan, Bryn Seion (sef ei weinidog), a H. T. Stephens, Carmel. Dysgodd y gwlaw ddoethineb y tro hwn ar lan y bedd, a thalfyrrodd y ddrycin y gwasanaeth rhag redeg yn faith mol yr arfer yn y gladdfa. Bu farw yn ymyl ei 73 oed, ac angladd gwir gre- fyddol oedd ei angladd, a dylanwad ei grefydd yn bcnnaf edy ar ei ol. Heddwch i'w lwch bellach hyd fore caniad yr udgyrn, pan cawn ei weled heb na brycheuyn na chloffni na chrvchni. PARCWYSON. I

Gohebiaeth.

I *Adolygiadau.

, Hanesginio Blynyddol rCyntaf…

Seven Sisters.

ISSARZiNc." BLOOD MXTUFfE

Advertising