Skip to main content
Hide Articles List

12 articles on this Page

Nodion o Abertawe.

News
Cite
Share

Nodion o Abertawe. Mae yn hyfrydwch gennyl gyd- synio ag awgrym y Golygydd cragwr- us yn y Darian yr wythnos o'r blaen a "gwella gwall" o'm heiddo parth nifer siaradwyr y Gymraeg. Dylaswn fod wedi ysgrifennu dros ddwy filiwn, ac nid "dros ddwy fil," ond rhoddai mwy o hyfrydwch i mi pe gallwn ysgrifennu dros ddwy fyrddiwn," ond rhaid ymfoddloni y tro yma ar y "ddwy filiwn." Ar gefn hyn carwn ofyn i'r Golygydd mwyn ai y fi oedd yn gyfrifol am ddweud am y darlithydd y "Synnai fod cyn lIcied o god cof-golofnau i'n harwyr a'n henwogion mewn mannau cyhoedd- us." Os y mae, nid oes cof gennyf yn awr beth fu'm yn yfed y diwrnod hwnnw. Tybed a ellir cymhwyso yr englyn- ion canlynol o waith "Trefinfab," Ynysybwl, yn y "Darian" tua lach-j wedd, 1893, at y pechadur- D-L Y WASG. D--l y Wasg sy'n dal o hyd—yn ben Hen boenwr y llenfyd; Yn ei ben mae'n dwyn y bvd I feio ar ei fywyd. Wag esyd olwg isel,-anaddas Ar lenyddol Uriel; Lien a'i swyh, cyll hon ei sel, A'i gwir achos goruchel. Erchyllig yr archolla,—ein meddwl A'n moddau wyrdroa; O'r frawddcg gall, ddiwall, dda, Y lef wreiddol lofruddia. Grym ni ad mewn grinia(leg,-a darnia Gadernid rhesymeg; Hithau dal gydmariaeth deg Hiraetha am ei rheitheg. Pwy oedd Trefinfab? A yw yn fyw yn awr? Diolch iddo am fenthyg arf a min arno. Y mater gafodd. sylw arbennig Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymraeg, Abertawe, nos Wener, Ebrill 3ydd, ydoedd y mudiad sydd ar droed gan Is-bwyllgor Gwyddor a Chelf i agor Orielau Celf Glyn Vivian a Deffett Francis ar y Sabath. Dywedodd yr ysgrifennydd ei fod am i'r Cyngor Trefol a'r dineswyr yn gylfredinoi sylweddoli fod y cyfarfod wedi ei alw yn arbennig i ystyried y mater hwn, a'i fod yr un mwyaf lluosog ei nifer a gynhaliwyd yn ystod y tair blynedd diweddaf, a thrwy hynny yn profi eu bod fel Cristionogion yn fyw i fater- ion pwysicaf y dydd. Llywyddwyd y cyfarfod gan y Parch. William Gibbon (A.), Henrietta Street, a dar- llenodd yr ysgrifennydd, y Parch. T. E. Davies (T.C.), Crug-glas, bender- fvniad crvf a chroew yn condemnio gwaith yr is-bwyllgor yn cymeradwyo i'r Cyngor 'rrefol agor yr Orielau a nodwyd ar y Sabath. Dywedodd y Parch. Penar Griffiths y dylcnt hwy fel eglwysi fanteisio ar yr amgylch- iad i siarad a'u haelodau ar y mater. Ni fu erioed, meddai, adeg pan yr oedd mwy o eisiau gwasgu ar feddyliau y bobl yr angen o dalu mwy o barch i'r Sabath. Datganodd y Parch. W. Prydderch (T.C.) ei hyfrydwch fod yr ysgrifennydd, yn ngeiriad y penderfyniad, wedi dangos yn eglur eu bod yn gwrth\vynebu y mudiad oddiar safon crefydd a Christionogaeth. Edrychai rhai ar y Sabath fel dydd i orffwys, ond dylent hwy fel eglwysi edrych arno fel dydd wedi ei neillduo i addoli Duw, a dyna'r agwedd ddylent fabwysiadu yn eu hymwncud a'r Cyngor Trefol. Dywedodd ei bod yn flin ganddo gyfaddef nad oedd y Sabath hedd- yw yr hyn a fu. Yr oedd y tadau wedi bod yn ddiysgog yn eu parch i'r Dydd, ac wedi ei drosglwyddo i ni yn ei burdeb a'i nerth, ond yr oeddem wedi ei golli. Os gadawent fel Cyngor Eglwysi Ryddion i bethau o'r fath gymeryd ITe, byddai i'r Cyngor Trefol eu hystyried yn ddim a neb. Gofynn- odd sawl eglwys oedd yn cael eu cyn- rychioli gan y pwllgor, ac atebodd yr ysgrifennydd mai tair-ar-hugain. Dywedodd y siaradwr ym mhellach mai 'diddorol fyddai cael llawn nifer yr aelodau gynrychiolid ganddynt. Yr oeddyiit yn ddigon cryf fel corff crefyddol i alw ar Gyngor y Dref i wrthod cydsynio a chais yr Is- bwyllgor ar y mater dan sylw. Siarad- wyd hefyd yn gryf ac i bwrpas gan y Parchn. D. Pictop Evans, D. E. Thomas, a M. G. Dawkins; hefyd gan Y Bonwyr John Price, Thomas Lewis, a Ben Davies, a mabwysiadwyd y penderfyniad yn unfrydol. • Nos Sadwrn, Mawrth 28am, yn Neuadd Llyfrgell Gyhoeddus, Aber- tawe, traddodwyd darlith hyawdl ar Modern Music" gan Dr. D. Vaughan Thomas, M.A., y cerddor adnabyddus. Sylwodd y Dr yr ystyrrid cyfansoddiadau Elgar yn hen yn awr mewn syniad cerddorol, ac i gerddoriaeth ddiweddar, fel yr adwaenwn ni hi, ddod i fodolaeth gyda Wagner. Yr oedd yn wir i Mozarth gyfansoddi cerddoriaeth yn ymylu ar y dull presennol, ond yr oedd WTagner gymaint o flaen ei oes fel ag i ddrysu y beirniaid, a'i gyfan- soddladau yn achosi llawer o ymrafael yo y cylchoedd cerddorol drwy Ewrop, yn enwedig ei "Tristram and Isolde." Rhoddodd y darlithiwr enghreifftiau ar y berdoneg o'r gwa- banol weddau ar gerddoriaeth y -U- 1,1II,1. io'I.7- cyffyrddai a hwy i foddhad digam- syniol y gynulleidfa. Cadeiriwyd gan Mr William James, Arwerthwr, a chyferiodd at athrylith y darlithydd a'i safle fel cerddor, a'i fod yn barod i wneud yr hyn allai gyda Dr Thomas dros gerddoriaeth aruchel yn y dref.

I Ferndale.,

1 ! L;wynbrwYdraU. i

I HWNT AC YMA.

Uddiar Lechweddau Caerfyrddin.

; Arwyddion yr Amserau.

I \Treherbert.,I

I Soar, Aberdar. !

! Cadwraeth y Sabath yn :Nhreforis.…

|Pontardulais.

IGlais. :

Advertising