Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Beirdd y Bont.
Beirdd y Bont. GAN "BRYNFAB." I Fel y gwyr pawb sydd yn gwybod irhywbeth am y byd barddol, mae y Bont wedi bod yn enwog fel cyfan- ,eddle mwy o'r breuddwydwyr hyn na nemawr le y gwn am dano. Yr wyf yn gyfarwydd a'r Bont er's hanner canrif, ac o'r cof cyntaf sydd gennyf .am y lie, yr oedd yma doraeth o gnwd awenyddol. Ac o hynny hyd yn awr mae yr awen wedi cael ei meithrin yn ofalus yma. Nid wyf yn teimlo yn ddiogel iawn i fynd yn ol ym mhellach na'r adeg y gallaf fod yn sicr o'm Ilwybrau; mae yn digwydd yn ami i ddyn goch- elgar roi ambell dro gwyrgam pan yn ymddibynnu ar eraill am y cwrs a gymer. Ond anawdd gennyf beidio rhoi tro am ddau neu dri o feirdd fu yn byw yma cyn i mi osod troed yn y lie. Un o'r cyfryw oedd Gwilym Mor- gannwg. Mae efe wedi mynd i .orffwys er's dros driugain a deg o flynyddoedd. Cyfaneddai yn y New Inn, y gwesty bychan gwledig hwnnw, a safai ar un neu ddwy o ystafelloedd y casteil presennol. Dichon fod rhai yn barod i feddwl nad oedd gwesty yn lie cydweddol liawn a bonedd yr awen. Ond rhaid ;i ni gofio fod Gwilym Morgannwg yn cadw gwesty yn y dyddiau hynny, pan nad oedd Seneddwr wedi meddwl am ddeddfu i reoli safnau dynion sychedig nag ychwaith angen am hynny—yn y dyddiau gogoneddus pan nad oedd un heddgeidwad yn y lie nag angen am dano, na neb wedi dychmygu nas gallasai dynion ym- ddwyn yn weddaidd heb ddal pastwn deddf uwch eu pennau. Dyna y cyfnod yr oedd Gwilym Morgannwg yn byw yn y Bont. Yr oedd ef yn wahanol i'r beirdd oedd yn cydoesi ag ef yn y cylchoedd hyn. Yn ei ddyddiau ef beirdd y Tribanau oedd yn enwog ym Mhontypridd; ond am Gwilym yr oedd ef yn feistr ar fesur- au Cerdd Dafod. Tyrrai disgyblion tua'r New Inn o bob cyfeiriad ar ddiwrnod marchnad, a dychwelent i'w cartrefi wedi cael Uawer o wersi yn y grefft farddol. Yr oedd Gwilym yng gwesty y New Inn yn adeg Eisteddfod fawr Caerdydd yn y flwyddyn 1836. Yr oedd y diweddar Archdderwydd Clwydfardd wedi cerdded bob cam o Ddinbych i'r Eisteddfod, gan alw .am noswaith o lety gyda Gwilym. Ceir rhai yn edrych yn gilwgus ar westy yn ein dyddiau ni. Ond yn nydcjiau Gwilym Morgannwg- bu Gwesty y New Inn yn foddion i gadw canwyll yr awen i losgi yn oleu yn y Bont. Ychydig sydd yma heddyw yn cofio .am John Thomas (Ieuan Ddu), a'r sawl sydd yn cofio, cofio am dano fel cerddor y maent, ac nid fel bardd. Dichon mai yn gerddor y ganwyd ef, ac iddo ymddadblygu yn fardd er mwyn gosod y byd cerddorol mewn trefn. Ysgolfeistr o dan yr hen or- uchwyliaeth ydoedd. Bu yn cadw ysgol mewn dau neu dri o fannau o'r Bont i Drefforest. Dywedais ei fod yn cadw ysgol. Yn ein dyddiau ni yr ysgol sydd yn cadw yr ysgolfeistr. Mae yn y Bont a'r eyleh amryw o ddisgyblion Ieuan Ddu-rhai wedi dechreu cerdded llwybrau addysg o ,dan ei gyfarwyddyd. Dichon y gellir ei restru ef, Miss Williams, Aber- pergwm, a Phencerdd Gwalia fel y cymwynaswyr pennaf a welodd cer- < ddoriaeth Gy.nreig yn ystod y ganrif • o'r blaen. Llafurient hwy ar y maes cerddorol, pan oedd y gweithwyr yn brin, a'r cyfleusderau i wneud hynny yn brinach, Saif enw Ieuan Ddu wrtho ei hun ar y maes hwn hyd heddyw. Casglai yr hen alawon Cym- reig o ymlon angof, a phan na allai gael geiriau iddynt cyfansoddai rai ei hunan, a hynny gyda medr di- gamsyniol. Yn y Cambrian Minstrel fe geir nifer fawr o'r alawon Cymreig wedi .eu priodi a geiriau y bardd-gerddor ,ei hun, a gellir dweyd yn ddibetrus nad oes ond nifer fechan o feirdd ein dyddiau ni-yn hen nac yn newvdd, a fedrant gyfansoddi pethau mor gyfaddas i gerddoriaeth. Anwybyddir llawer o'r alawon a gasglwyd ganddo gan gantorion clasurol Cymru, a phriodir llawer 6 honynt gyda geiriau mwy heglog a diymadferth nag eiddo yr ysgol- feistr gwledig. Gwrandewch mor ystwyth y medrai blethu ei benhillion-- YN IACH I TI, DYWI. Yn iach i ti, Dywi, yn iach i I r I cvsgodau Y sefais i danynt i weled dy donn Yn iach i'r holl nentvdd arianber eu ffrydiau, Barablent hyfrydwch yr hafddydd i'm bron. Yn iach i ti, Dywi, yn iach i'r blyn- yddau Roedd troion fy mywvd fel troion dy ddwr; Pan medrwn bob hafddydd dy ddilyn trwy'r dolydd, Ac eistedd lie safet ar lennydd di- stwr. Gwrandewch eto fel y medrai ei awen fod dipyn vn gellweirus ar y don, "Distyll y Domen :— Y GLECWRAIG. Mae gwraig gan Rhys y Crythwr Wyr hanes pawb a'u cyflwr, Hi âi o'r Gogledd pell i'r Dê, Gwnai heb ei the a'i siwgwr, I ddilyn y glee. At orchwyl ty y borau Ni chodir hi a chlychau; Ond pe bae'n ffrae ar dorriad dydd, Twt, yno bydd heb 'scidiau Am gyfran o'r glee. Un iaith mae Sian yn wybod, Er hyn, ond yw'n beth hynod? 'Does un iaith na ddealla hi Os byddir ynddi'n trafod Materion y glee. Claddwyd leuan Ddu ym Mynwent Eglwys Glyntaf. Codwyd cofadail ar ei lwch gan ei gyfeillion, ag arni yn gerfiedig y toddaid canlynol o waith Watcyn Wyn- "Pwy un a gollwyd? Pa enwog allu Heddyw a flaenodd? Pwy wnaeth ddiflannu? Athraw'n Haddysg, a thwr awen- yddu, Hen delyn cenedl, Handel ein canu; Yn niwedd oes, Ieuan Ddu-aeth i'w fedd, A'i lawn ogonedd o'i 61 yn gwynnu." Yn y fan hon dymunwn grybwyll fod ei gofgolofn erbyn hyn wedi ei hanurddo yn fawr gan "draed y gwlaw a'r gwlith." Y mae hefyd yn gogwyddo tua'r ddaear, ac os na theimla cyfeillion cerdd a chan awydd am ei hunioni, bydd, ar fyrr o dro, yn gorwedd ar lwch Ieuan Ddu, yn lie sefyll yn syth i'w goffau ac i ennyn yng nghalonnau beirdd a cher- ddorion yn oes hon awydd am i ddeu- parth o'i yspryd ddisgyn arnynt. Pwy gychwyna y mudiad i drwsio ychydig ar ei gofgolofn? Ychydig bunnoedd fyddai eisiau i'w rhoi yn drwsiadus am flynyddoedd lawer eto. Pan fum wrthi ddiweddaf yr oedd y danadl a'r mieri o'i hamgylch yn drweh. Gresyn fod bedd un a wnaeth gymaint dros ei ardal a'i wlad yn cael ei esgeuluso. (I barhau.)
"Cenhinen Gwyl Ddewi."
"Cenhinen Gwyl Ddewi." Fel arfer cofiantau am enwogion y Genedl geir yn y "Genhinen" hon. Mae amryw o honynt yn rhai adna- byddus i lawer yn yr oes hon, ac eraill a llwch canrifoedd arnynt. Yr ysgrif gyntaf yn y rhifyn yw eiddo Syr Edward Anwyl ar "Alun." Mewn hanes yn unig y gwyddom am y bardd melusber hwnnw. Yr oedd ei weithiau yn adnabyddus iawn pan oeddwn yn hogyn, ond ychydig o i ddarlleawyr yr oes hon sydd yn ym- gydnabyddu a hwy ag eithrio dau neu dri o'i ddarnau. Fe wyr pawb mai efe gyfansoddodd "Farwnad Heber," ac nid oes ei melusach yn yr iaith. Credaf mai efe hefyd a gynlluniodd y mesur, ac adnabyddir ef o hyd fel mesur "Marwnad Heber." Cyfansodd- odd lawer o awdlau, ond ychydig sydd yn gyfarwydd a hwy. Mae ei gan, Gwraig y Pysgotwr yn par- hau yn fyw hyd heddyw, a chyfrifir hi yn delyneg safonol gan yr ysgol sydd yn gwybod popeth. Diolch i Syr Edward am gymaint o wybodaeth am y bardd sydd agos wedi ei anghofio yn awr. Ysgrif ddarllenadwy iawn yw eiddo Elfed ar "Ganrnlwyddiant Emrys." Mae y bardd gwych hwnnw wedi huno ers dros ddeugain mlyn- edd. Nid oedd bardd tlysach na chryfach nag efe yn ei ddydd. Saif awdl, "Y Greadigaeth," hyd heddyw ym mhlith goreuon awdlau Cymru, er na chafodd y wobr. Bu cryn helynt ynglyn a'r awdl, ac nid oes dadl am hurtwch y beirniaid yn Eisteddfod Abermaw. Mae cwpled o eiddo Emrys fel diareb ar lafar gwlad, sef- Segurdod yw clod y cledd, A'i rwd yw ei anrhydedd." Canai lawn cystal hefyd yn y mesur- au rhyddion. Nid oes un darn yn fwy poblogaidd na'i "Flodeuyn Olaf." Feallai fod a fynno cerddoriaeth Ambrose Lloyd a chyfrif am hynny i raddau. Diddorol iawn yw ysgrif John Owen, Caernarfon ar Syr William Preece." Un o feibion Eryri oedd efe, a daeth yn enwog ar hyd a lied y byd fel un o brif bciriannwyr trydanol y gwledydd. Nid oedd yn ail i Edison yn ei feistrolaeth ar gyfrinion y trydan. I'r sawl sydd yn hoff o "Hanesiaeth y Cynoesau," mae ysgrif T. Roberts, Bangor, yma i'w mwynhau. Ei des- tyn yw "Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn "yehan." Un o feirdd y bymthegfed ganrif oedd Gruffudd, ac addolir ei waith gan freuddwydwyr Cymru heddyw. Pabydd oedd y bardd, fel y rhelyw o'r hen feirdd a glodforir ac a efelychir gan y dos- parth a nodais. Nid oedd deddfau I Dafydd ab Emwnt yn trafferthu dim ar feirdd cyfnod Gruffudd ap Ieuan, ac mae ei gywyddau a'i englynion ef I a'i gydoeswyr yn erchyll o wallus yn ol ein deddfau ni. Blasus iawn yw Oriel Adgof gan Anthropos. Crybwylla am luaws o enwogion ei sir, ynghyd a chrybwyllion am le- oedd a digwyddiadau adnabyddus iddo. Ni fedd Cymru ysgrifennwr mwy byw nag Anthropos. Testyn Evan Davies, Trefriw, yw "Y Parch. Griffith Ellis, M.A." Ysgrifennwr gwych yw Anthropos bob amser, ac nid yw yn 01 o'i ddawn arferol yn yr ysgrif sydd wrth ei enw yn y rhifyn hwn. Henry Richards, Apostol Heddwch" yw testyn Evan Jones, Machynlleth. Er cymaint a wnaeth y gwladgarwr hwnnw dros heddwch, ychydig iawn o'i ddylanwad sydd ar y byd heddyw. Pe buasai heb fodoli ni fuasai ewyddorion heddwch yn cael eu camdrin yn llawer gwaeth nag a j gant yn nheyrnasiad y Brenin Sior. Mae costau rhyfel wedi mwy na dyblu f oddiar amser Henry Richard. Gwawd ar ei gofiant yw sefyllfa peth- au yn y byd ar hyn o bryd. Emrys ap Iwan yw testyn ysgrif D. F. Roberts, Blaenau Ffestiniog. Cymeriad ar ei ben ei hun fel ieithydd- wr Cymreig oedd Emrys. Prin y gellid gwneud pen na chynffon o'i ymadroddion pan fyddai wedi cael pang ieithyddol. Ceir rhai yn ein I hoes ni yn ceisio ei efelychu, ond ni theimlir yn rhy ddiolchgar iddynt am hynny o wrhydri. Hoffai ddef- nyddio geiriau anarferedig, a lluniai eiriau ei hunan i foddloni ei hun, gan I' nad pwy fuasai yn eu hoffi. Mae ei yspryd yn cyniwair ar lannau'r mor- oedd hyd eto, ac mae y dydd cyntaf o I Ebrill heddyw. Gwych iawn yw ysgrif Myfenydd ar "Y Canghellor i Silvan Evans." Dyn a wasanaethodd I ei genedl hyd ei fedd oedd efe, ac nid oes un Ilenor heb deimlo yn barchus tuag at ei goffadwriaeth. Mae yn y rhifyn hwn amryw o gofiantau am enwogion nad oedd yn adnabyddus iawn i ni yn y De yma. Ond am "Gwilym Alltwen," testyn ysgrif Alafon, nid oes bardd trwy Gymry benbaladr na wyr am ei enw ac am ei waith. Ceir darlun byw o hono yma yn gorfforol a meddyliol. Gwelais ef am y tro cyntaf yn Eistedd- fod Birkenhead yn 1879, a'r tro olaf i mi fod yn ei gwmni oedd yn Eistedd- fod Caerynarfon yn igo6. Mesurydd a pheiriannydd oedd efe pan na fyddai yn barddoni, a bu ar draws y byd yn mesur a chynllunio o dan wa- hanol argymerwyr. Cystadleuodd am lawer o gadeiriau, ac enillodd am- ryw. Yr oedd yn ail i Dyfed ar awdl Uchelgais" yn Eisteddfod Llan- rwst yn 1891. Yr wyf yn cofio dar- llen y feirniadaeth ar yr awdlau. Tueddai yr Alltwen i fod yn rhy gell- weirus yn ei ddesgrifiad o wahanol agweddau ei destyn, megys- "Y teiliwr a'r siopwr sydd-fawr ei aidd Yn ei fro hoff beunydd Ac mae rhyw graff Gymro-grydd Ry ei hun yn arweinydd." Tlws yw ei ddarluniad o uchelgais y dyngarwr "Hwn a w6l trwy'n heolydd—'arabi- aid Tlawd rheibus ein trefydd Ac a ddeil fel pwnc ei ddydd Yrru gwawl i'w rhigolydd." I Gallai ganu yn ddoniol hefyd, fel y prawf ei englyn i'r teiliwr a'i tVly,U odd- "Nid gwr gwib, ond swrth, anniben, —ydwyt Ddynwaredwr malwen Gwylia di walch, balch dy ben, Gael melldith Gwilym Alltwen." Cyfaill dilol oedd Gwilym, ac mae y rhai sydd yn debyg iddo yn brin iawn. I Nid rhyfedd fod Alafon yn teimlo yn hiraethus ar ei ol. Nid yw y bardd mwy wrtho ei hun yn y teimlad i hwnnw. Ond gwelaf y rhaid i mi fyn'd heibio I, amryw o ysgrifau sydd yng "Nghen- hinen Gwyl Dewi" heb roi cry- I bwylliad am danynt yma. Ond nis gellir myn'd heibio eiddo T. E. Nicholas ar "R. J. Derfel." Yr oedd y testyn yn gydnaws iawn a theimlad yr awdwr, ac nid yw ryfedd ei fod wedi ysgrifennu cystal arno. Sosial- ydd rhonc oedd R. J. Derfel, a threuliodd ei oes megys yn aberth i'w ddaliadau. Mae gwirioneddau ofnadwy yn ei holl ganeuon. Enghraifft neu ddwy: i YR AFON WAED. I Mae afon fawr o waed, 0 ddynol waed yn chwyddo; A thros y byd i gyd Mae'n rhedeg ac yn llifo: Rhedeg o hyd yn wyllt wnaiff hon Ar hyd a lied y ddaear gron, Heb flino byth na phallu, Ar holl ryferthwy gwaedlyd sydd 0 nos i nos, o ddydd i ddydd Ar hyd y ffordd yn mygu.. Offeiriaid yn eu gwyn A welir ar ei glannau, A gweddwon yn eu du Yn tywallt ocheneidiau Mae'r naill yn diolch am y gwaed, A'r celaneddau dan eu traed, Yn edrych tua'r nefoedd, A'r lleill yn wylo uwch y ffrwd, I A dafnau hallt eu dagrau brwd Yn rhedeg yn aberoedd. I TYLODI. I Pam rhaid i neb fod yn brin o fwyd A digon o fwyd yn y byd ? Digon i dorri anghenion pawb A gweddill i gasglu yng nghyd. Pam rhaid i neb fod yn brin o wisg, A chotwm, a sidan, a gwlan, Ddigonedd i'w gael i wneuthur pawb Yn gynnes, yn glyd, ac yn Ian? Pam rhaid i neb grwydro heb dy, A digon o gerrig i'w cael? Digon o goed, a digon o dir, A digon o ddwylaw hael. Dyna enghraifft o wirioneddau barddonol R. J. Derfel. Diolch i'r awdwr am ei ysgrif. Mae yn ameiith- yn mewn oes sydd wedi myn' d mor ddif ater. Mae yn y "Genhinen" hon luaws o ddarnau barddonol i gofio am en- wogion a gollwyd yn ddiweddar, ond ofnaf gilwg y Gol. os af i ddyfynnu rhagor. Nid oes perygl y byddai i neb edi- farhau am wario swllt am rifyn Gwyl Ddewi. Rhodder cefnogaeth i'r Gwr o Gaernarfon am ei ofal o goffa an- wylion y Genedl. Oni bae ef ebar- gofiant fyddai eu tynghed lawer o honynt.
0 Wy i Dywi. ,- ;
0 Wy i Dywi. Y CYFNOD RHUFEINIG.—GOR- ESGYNIAD SILURIA. < Wedi i Garadog ddiflannu o'r maes gellid meddwl mai gwaith hawdd j fyddai cael y Siluriaid dan draed. Ond nid hynny fu profiad Ostorius. Gymaint oedd dewrder ac eiddgarweh 1 ein cyndadau yn ei erbyn, a chymaint oedd ei bryder yntau mewn canlyniad, fel cyn pen blwyddyn bu farw o doriad calon. Yn olynydd iddo daeth yma yn y flwyddyn 52 O.C. rag law o'r enw Aulus Didius, am yr hwn y dywed ei gydwladwr Tacitus "iddo ymfoddloni ar gadw yr hyn enillodd ei ragflaen- wyr, ond iddo ychwanegu ychydig o amddiffynfeydd—yn unig er mwyn gallu dweud iddo estyn terfynau ei j lywodraeth." Ni fuasai Didius o un ¡ diddordeb i ni oni buasai am y ffaith fod Caerdydd yn dra tebygol o fod yn un o'r amddiffynfeydd a ych- wanegwyd yn nhir y Siluriaid. YSTYR YR ENW CAERDYDD. I I Llawer o ddytalu sydd wedi 000 parthed ystyr yr ail sill yn enw ein prif-ddinas. Deil un blaid mai oddi wrth yr afon Taf y deilliaw, ac mai Caerdaf y dylid galw y lie, tra y plaid arall ddywed mai Didi (oddi- wrth y ffurf Lladin Didius) ddengys Y i treigliad, ac wrth gwrs mai Caer- didi yr adwaenid y lie gynt. Gwendid y ddadl gyntaf yw fod Llandaf sydd yn ymyl wedi llwyddo i gadw y sill Taf yn yr enw, a phaham lai Caerdydd hefyd os mai hynny oedd yr haniad. Diffyg yr ail ddadl drachefn oedd nad ellid cyfeirio at un gaer Rufeinig yn y dref y tybid ei bod wedi cael ei hopw oddiwrthi. Ond, wele, bellach ofeuni newydd, canys o fewn y ddwy flynedd ddiweddaf cloddiwyd allan ddigon o brofion di- ymwad mai- fel gwersyll Rhufeinig y dechreuodd Castell Caerdydd ei yrfa gynhyrfus. Dug hynny ni yn ol ar unwaith at Gaer Didi, a'r tebygol- rwydd mawr yw mai oddeutu y flwyddyn 56 O.C. y bu genesis dinas fawr y glo, hynny yw, yn amser rhag- lawiaeth Aulus Didius, ac mai o an- rhydedd i'r rhaglaw hwnnw y galwyd y gaer newydd wrth yr enw sydd arni. CWRS YR YMDRECH. I Olynydd Didius drachefn oedd Veranius ymffrostgar, a honnai y buasai dwy flynedd yn eithaf digon iddo oresgyn yr holl wlad, chweith- ach Siluria. Ond gan iddo ef ei hun farw o fewn corff y flwyddyn gyntaf, ni phrofwyd gwiredd yr honiad y naill ffordd na'r llall. Dilynwyd ef yn y rhaglawiaeth gan bedwar arall yn olynol i'w gilydd na ofynnir inni son am danynt yn y fan hon am mai y tu allan i Siluria y bu eu hactau oil. Ac o ran hynny dim ond Suetonius o honynt oedd deilwng i'w restru gyda'r cedyrn o gwbl. Edlychod gwladol oedd y lleill. Yn y cyfamser gwelwyd llawer tro ar fyd yn Rhu- fain ei hun; diwedd yr hyn a fu i Ves- pasian esgyn i'r orsedd Ymherodrol. Chwi gofiwch mai efe oedd y swydd- og nesaf mewn awdurdod i Aulus Plautius pan oedd y cadfridog hwnnw yn was pennaf yma o dan yr Ym- herawdwr Claudius. Wyddai neb yn well na Vespasian ei hun am wrhydri ein cenedl a'r pwysigrwydd o ddanfon milwyr cymwys i'w threchu. Yn unol a hynny danfonwyd yn olynol at y gwaith dri o fiJwyr disgleiriaf Rhufain nid amgen na Quintus Petil- ius, Julius Frontinus, a Julius Agri- cola. I ran y cyntaf y disgynnodd goresgyniad y Brigantiaid; Julius Frontinus gwblhaodd gwymp y Sil- uriaid, tra eiddo Julius Agricola oedd y clod o ddwyn "eryrod y Caesari.-tid" i eithafion yr ynys. GORCHFYGWR CYNTAF Y I DEHEUBARTH. Gwr pwyllog, didwrw a di-lol oedd Frontinus, un o'r dynion tawel- ddiwyd hynny sydd mor amlwg yn hanes y byd fel gweithwyr dihafal. Dywed Pliny, ei gyd-oeswr, am dano iddo wrthod cof-golofn iddo ei hun yn y geiriau synhwyrol hyn—" Di- angenrhaid yw y draul; erys ein coffa yn ddigon sicr os bydd ein buchedd wedi haeddu hynny." Edrydd Tacitus am dano drachefn eiriau lawn cyn hyotled a hynny. Dyma nhw Er i lwydd Petilius fod y cyfryw ag a yrrai i'r cysgod glod unrhyw un arall, eto Julius Frontinus pan ddaeth fei dro a gynhaliodd dan y tasc an- ferth." I ni Gymry, fodd bynnag, hyotlach na'r cwbl ddywedwyd yw yr hyn wnaethpwyd, ac y mae pob mill- tir ymron o Gaerllion i Gaerfyrddin yn uchel ei llafar am yr hyn gyflawn- odd y gwr mawr hwn. Dyma'r Rhu- feiniwr drechodd Siluria, ac a lwydd- odd lie y methodd Plautius, Scapula, Didius, a Veranius o'i ftaen. Bellach, Rhufeineiddio ein gwlad mewn iaith a defod, gwisg a moes, oedd prif amcan y rhaglawiaid. Y moddion gymerwyd at gyrraedd yr amcan, a'r graddau o lwyddiant ddi- lynnodd yr ymdrechion fydd ein pwnc yr wythnos nesaf. Wedi hynny ym- driniwn a'r olion Rhufeinig sydd mor lliosog yn Siluria, ac a fyddant mor ddiddorol i'w phlant meddylgar o wneud cydnabyddiaeth' a hwynt.
Advertising
GWAED! GWAED 1 GWAED! MAE IECHYD A BYWYD YN DIBYNU AR WAED PUR CRYf. IACH A MAETHLON. Hughes's Blood Pills Mae "Hughes's Blood Pills" yn hynoi effelthial-at Creu Cwaed Newydd, Pur a Chryf, felly yn dylanwadu ar hen Organau y Corn, drwy hyny yn laohau Dolur Pen, Olffyg Traul, Biliousness, ■ >. Afu DdrwI. t < t Tal ddlantau a r y Cnawd, Cornwydon, mHf Twi I Scurvy, Pilot ?\s( i ?! ?fn? Fits, Nerv- %A[V9lU\ \I j'7II ousness, /? & J!j I C w y n t t Cwynegon (neu Cymal- Mst), Poen Cefn, Lum- ST | fiSjz. nrrr^mT bago, Corff- 1 rwymadd, %v A i Neuralgia, Anhwylder. at, yr Aren- <T au, I seider M VI pry", Surnl Cylla. BENYWOD! At Anhwylderau tueddol i bob Gwraig, Mam a Merch o bob oodrix mae Hughes's Blood Pills TB nodedig o effeithiol. Rhodder prawf arnynt. RHYBUDD PWYSIG. Wrth brynu y Pill. hyn gofaler rhag gael eich twyllo. Mynwch weled y Trade Mark, sef lIun Calon fel hyJI- 1 EL; bob blwch. Heb hwn, twyll ydyw. Gwrthodwch bob peth arall. Ar werth gan bob Chemiat a Stores arc m, 2/f, 4 B. Neu danfonwoh ei I Gwerth mewn Stamps neu P.O. a* j Perchenog- JACOB HUGHES, MANUFACTURING CHEMIST, M.P.S., L D.S Penarth, Cardiff. Can, LlenaCweriq Gwaithy diweddar Myfyr Wynn, set BACHAN IFANC Y DABIAN. Ceir ynddo ADGOFION AM 8IRHOWI A'R CYLOH, DARNAU BARDDCNOL A'R LLYTHKRA NEWYDD. Pris 1/. Drwy'r Post 1/2. I'w gael o Swyddfa'r DARIAN, ren oddiwrth Mrs. Williams, Newsagent, Aberaman. Athrofa Aberystwyth (UN O'R COLEGAU YM MHRIFYSGOL CYMRU). Prifathrttw-T. F. ROBERTS, M.A., LL.D 0 Parotoir yr efrydwyr ar gyfer Arboliadau Prifysgol Cymru. Cynhygir amryw o ysgoloriaethan (rhai o honynt yn gyfyugedig i Gymry) y flwyddyL hon. Am fanylion pellach, ymofyner a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. 1*1 PAGE Book about Herbs and how to use ?)t them. Post free. Send for one. Tritnnell, The Herbalist, 144 Richmond-road, Cardiff. Established 1879. PLEASE NOTE THE ADDRESS. mO prevent fraud see that you get "Estab JL Hehe? 1879 on every label and wrapper of my preparations, without which none are genuine -Trimuell, The Herbalist, 114 Rich- mond-road, Cardiff. mRIMNELL'S PILLS AND POWDERS _L have cured thousands. Why not you? See that you get Established 1879 on every label.-Trimnell, The Herbalist, 144 Richmond Road, Cardiff. Agents wanted. I DRAMA CYMRAEC NEWYDD, "GRUFFYDD LLWYD 19 Allan o'r Ffug-Chwedl Boblogaldd gan ROGER THOMAS, Ystalyfera. Telerau neillduol am ei pherfformio. Ymofyner a'r Cyhoeddwr-D. DAVIES, Ferodale. Y FORD. Yn cynnwys arlwy flsol amjflwyddwyn i blant o bob oed, Bef 13 o Bregetbau A 13 o Delynegion.' Mae'r gyfrol wedi 'i hadolygu yn y modd mwvaf ffafriol gan y Wasg Gymreig, mep Y Beirniad, Y Brython, Y Tyst, Cymru, Cymru r Plant, Seren Cymru, Seren Gamer, Y Drysorfa, &0., ac y mae'r Awdwr wedi derbyn Hn o lvthvrau oanmol oddiwrth bregethWyr, llenorion, plant, &c. Y g frol i'w chaSl ar dderbyniad Postal Order Swllt gan yr Awdwr— T. VALENTINE EVANS, CLYDACH, Nr. Swansea. Dywedwch wrth bawb: Y filtm DA VIES'S COUGH MIXTURE yn rhyddau Peswo/i." ANWYD, PESWCH, INFLUENZA. —Mae rhai'n gyda ni bob amser. Pair hinsawdd gyfnewidiol fod llawer o ddio- ddef oddi wrth Beswch, Bronchitis, Pas, Dolur Gwddf, Crygni, Caethdra, Diffyg Anadl. Y mae yr hen Feddyginiaeth II Davies's Cough Mixture etto ar y Jblaen, ac yn cael ei gwerthfawrogi yn fwy nag erioed, bob amser wrth law, yn felus, yn cynnhesu y frest, ac yn rhydd- hau y phlegm. Bydd dose mewn pryd yn ddigon. 1/14 a 2/9 (postage, 3c.)- HUGH DAVIES, Chemist, MACHYN- LLETH. THE J Aberaman & IVjountain Ash Billposting and Advertising Go. Proprietors of the most prominent stations in Aberaman, Cwmaman, Cwmbach, Abercwmbol, Aberdare and District. ADVERTISE BY BILLPOSTIMfi. EVERYONE SEES POSTERS. All communications and parcels should be addressed to the MANAGER. Public Hall & Institute, Aberaman. Aberdare Tel. P.O. 12, Aberaman. LAb; FS BLANCHARD'S PILLS Are unrivalled for al Irregularities. &c., they speedily afford relief and neve r;A, to lIevate all suaienng. They supersede Pennyroyal, Pil Cochia, Bitter Appto, Ao. litanchard's are the Best of all Pills for Womes. Sold in boxes, Ill J, by BOOTS' Branches, and all Chemists, or post free. same price, from EpScLi IiB r MARTYN Ltd., Chemists, 3 DALSTON LANB, LONDON Free Sample and valuable Booklet, post free lei. stamp AM BOB NIATH 0 ARGli, ALF F WAITH YMOFYNER YN Swydd'a'v* Leader," A Swyddfa'r H Ca,.ian," 19 CAKDIFF ST., ABEBDAR. EVERY WOMAN Should send two stamps for our 32 page Illustrated Book, containing Valuable Information how aU Irregularities and Obstructions may be entirely avoided or removed by simple means. Recom- tnended by eminent Physicians, as the only We, Sure and Genuine Remedy. Never Fails. thousands of Testimonials. Established 1862. Ma PAUL BLANCHARPf Cl»rwno £ t House- Dalston r-ane. T ondo#. DOWN & SONS, FOR GOOD SUBSTANTIAL Furniture. redsteads. Bedding, Carpets, And every Description of HOUSE FURNITURE. CABINET WORKS :— ? ?7 n T? Q ?  2! fC;:N¿T O;KS ? Morris Lane, RWallSea. The Largest and Cheapest Stearrj Cabinet Manufactory il) South Wales. Illustrated Catalogues free on application. IMMENSE STOCK TO SELECT FROM. Carriage Paid on all Orders above fit, or Delivered Free in our own Vess.