Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
GOOD NEWS FOR ABERDARE AND MERTHYR DISTRICTS! In preparation for the Annual Stocktaking at the close ot their financial year ending March 31st, Bevan & Co., Ltd., Cardiff, Pontypridd, Swansea, &c. are offering the whole of their vast stocks of everything required for Furnishing throughout regardless of cost! The Speciaj attention of Easter Wedding Couples is directed to this Immense Sale, which affords them the opportunity of obtaining the- Reliable Goods of this well-known Firm greatly under regular- Prices. Delivery Free up to 200 Miles.
Y Stori.I
Y Stori. LLWYBRAU'R SARFF. -9 Yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr." GAN M. H. CHARLES. I (Parhad.) I V. I Ymhen ychydig wythnosau, wedi dyfodiad Caleb Jones i'r lie, cymer- wyd un o blant yr "Angel" yn glaf. Aeth Evan Powell yn union i hys- bysu'r gweinidog, ac awgrymodd y priodoldeb iddo fyned i ymweled a hwy, ac y deuai yntau gydag ef: meddai "Mae Mrs Harries a'r teulu i gyd yn gyfranwyr da, ac yn gefn i'r achos, Mr Jones, ac y mae'n rhaid gofalu am y ffyddloniaid." Gwasgodd Caleb Jones ei wefusau. Credodd y buasai'r atebiad oedd yn ei galon yn cael mwy o ddylanwad yn y pulpud, a chadwodd ef yn ol. Wedi gweled y claf, yr oedd yn rhaid i'r gweinidog newydd a'r diacon gym- eryd cwpaned o de yn y parlwr bach, wrth reswm; a phan ddaethant i lawr y grisiau, yr oedd y te yn barod. "Dim i mi, diolch, Mrs Harries. Mae'n rhaid i mi fyned." "Gnewch yn siwr, Mr Jones, a chwithau yn ddieithr yn y lie—i chi yn rhwym o gymeryd cwpaned o de." "Na, mae'n rhaid i mi fyned, diolch i chwi." "Wel, chi gymerwch lasied o ryw- beth ynte, mae'n dda iawn gennym eich gweled yn galw." "Carwn ddweyd wrthych, Mrs Harries, fy mod yn Uwyrymwrthodwr, fel bo ni yn deall ein gilydd yn awr ar y cychwyn." "Popeth yn dda, Mr Jones, 'does dim angen i ni fod yn waeth ffryndiau o herwydd eich bod chwi yn credu yn wahanol i ni. Dewch chi yma pryd y mynnoch, fe fydd croesaw i phi pa un a fyddwch yn yfed ai peidio. Dim i mi diolch, Mrs Harries. Mae'n rhaid i mi fyned." Aros yn y parlwr bach a wnaeth Evan Powell i gael y "Special Blend," a chwarddai gan ddweyd, "Dyna ffol mae'r dyn bach yn gwrthod cynhyg- ion da fel hyn." "0 dewch chi, Evan, wi wedi gweled rhai tebyg iddo ef o'r blaen, yn benderfynol iawn ar y cychwyn ond yn dod wedyn a threulio diwrnod- au yn y parlwr bach yma." Ond y tro hwn, fe gamsyniodd Mrs Harries ei chwsmer, a daeth Troedyr- arth yn fuan i wybod fod Caleb Jones yn cyhoeddi rhyfel rhwng y fasnach feddwol a'r eglwys, ac fod arwyddion y buddugoliaethwr yn ei gerddediad. Disgwyliai'r dirwestwyr, a llA-er ereill, ymlaen at y Sul dirwestol, :■ "Cawn vvfeled y pryd hwnnw," medd- ent, "pa faint o stamp sydd yn ein gweinidog ni." Tyrrai'r bob! o hyd i Droedyrarth, er mai pregethu yr oedd Caleb Jones, ac nid canu. Yr oedd yn argyhoedd- edit; fod eisiau bara ar y bobl, ac nid blodau, a'i bod yn hen bryd i'r gan ddistewi bellach. "Bobol anwyl," meddai un nos Sabboth, "mae ein gwaith yn fawr, aln cyfcifoldeb yn ofnadwy. Mae eisiau divvygiad all round arnom. Mae eisiau diwygio'r pulpud, a'r set fawr, a phob set arall; ac 'rwy'n credu fod yr Arglwydd wrthi yn gwneud Ei waith. Mae pregethu smart a digrif yn dechreu drewi yn 'ffroenau ein heglwysi. Wnaiff canu a suo pobl i'r farn yn eu pechodau ddim o'r tro y dyddiau hyn. Mae cracio 'jokes' uwchben eneidiau coll- edig yn ddigon i beri i waed dyn fferi yn ei wythienau; a gwyddoch chi mae ein cynulleidfaoedd yn dod i adnabod y gwr sy'n cardota poblog- rwydd. Beth bynnag yw diffygion ein hoes, ryae ei llais yn gweiddi yn uchel heddvw am ddidvvylledd mewn pethau crefyddol. Ac mae'r dyhead mawr hwn yn mynd i dori bedd i do o bregethwyr arwynebol a hunan- hysbysebol. Dyna fy mhrofiad i, bobol, ac yr wyf yn ddiolchgar am dano. Yr wyf wedi ymladd fy mrwydr fawr ynglyn a phregethu ers blynydd- au. Bum yn fy ngwaed, ond mae'r fuddugoliacth yn amhrisiadwy i mi fy hun. Caf yn fynych dystiolaethau fod concwest fy enaid wedi bod o fendith i ereill, ond os bydd i mi glwyfo calonnau wrth ddweyd y gwir, mae'n well gennyf wneud hynny na chhvyfo fv Xgwaredwr wrth beidio ei ddweyd. Mae ufudd-dod i'r weled- gaeth nefol yn bwysicach i mi na chymeradwyaeth dynion." Yr oedd difrifwch Caleb Jones yn llethol, a'i lais megis cennad barn yn torri o'r byd mawr anweledig. Llwyddodd i wneud un peth eithriadol bwysig-deffrodd Droedyrarth o'i chysgadrwydd. Dechreuodd rhai foli, ac ereill felltithio, ac amlwg oedd fod y gelyn yn galw ei rengoedd ynghyd i'r ymgyrch fawr Daeth y "Sul dirwestol" yn ei dro, a dywedai rhai na fuasai Mrs Harries yr "Angel," na'i phlant, yn y cwrdd y Sul hwnnw. "Na," meddai hi, pan awgrymodd John ei mab iddi aros gartre'r Sul hwnnw, "chaiff hwn ddim 'ynghadw i mas o'r capel. Yr wyf fi wedi bod yma cyn ei eni ef, a byddaf yma ar ei oleto." Meddyliai llawer hefyd y buasai'n well i Mrs Harries fod gartre, ond yr oedd hi a'i theulu yno fel arfer. "Gwae a roddo ddiod i'w gymydog yn y diwedd efe a frath fel sarff ac a biga fel neidr," oedd geiriau testyn y gweinidog 'Does gennyf fi ddim gwell i ddweyd wrthych ar ddirwest y bore hwn na'r geiriau a ddarllenais Mae eich presenoldeb yma, a'ch teyrngarwch i'r achos yn dweyd eich bod yn credu yn Nuw ac yn Ei air. Felly, dyma eiriau Duw 'Gwae a roddo ddiod i'w gymydog, ac yn y diwedd efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr.' Ofer gwastraffu eich amser trwy ddwyn tystioliaethau dynion da am ddiogelwch dirwest, a pherygl y fasnach a'r arfer o y my fed. Mae gormod o ddadleu gan ddynion ar y mater, felly daliaf gerbron ein llygaid Air Duw. Gwae a roddo ddiod." Yr ydych oil yn deal! y geir- iau yna. Mae'r Gymraeg yn ddigon eglur i blentyn ei deall yn y fan hyn. Os temtir un o honch i 'roddi diod i'w gymydog,' cofiwch Air Duw- VGwae'; a'r sawl sydd yn derbyn cofied- Efe a frath fel sarff ac a biga fel neidr.' Ddiacon yn yr eglwys, fedri di estyn y cwpan damniol i'th gymydog, pan y mae Duw yn dweyd wrthyt mor bendant am beidio ? Frawd yn aelod o eglwys Dduw, fedri di gymeryd y cwpan, pan y mae Duw yn dweyd, 'Efe a frath fel sarff, ac a biga fel neidr' ? Chwaer anwyl sy'n proffesu dy fod yn aelod o'i gorff gogoneddus Ef, fedri di ymgel- eddu'r hudoles yn wyneb geiriau mor glir gan Dduw sanctaidd ? Bobl anwyl, mae'r meusydd yn llwythog o fendithion Duw, ond cywilyddiwch ac arswyddwch gymysgu'r ddiod a'r trugareddau hyn. Ofnwch ynte rannu'r ddiod ar y cae gwair, rhag ofn i farn y testyn ddisgyn arnoch. Gresyn fod angen pregethu dirwest i aelodau o eglwys lesu Grist yn yr ugeinfed ganrif. Dylai pob aelod fod yn llwyr-ymwrthodwr. Mae'r ffaith fod tafarnwyr a bragwyr yn cael lie i eistedd wrth fwrdd yr Arglwydd yn warth ar Gristnogaeth. Dylai'r go leuni fod yn rhy danbaid bellach i'r un o'r giwaid hyn aros ynddi. 'Agents' didderbynwyneb y diafol yw'r rhai hyn, wedi gwerthu eu corff a'u heneidiau i'w wasanaeth, a 'trade mark' Gehenna uwchben eu drysau." (I barhau.)
11 Y Feddyginiaeth iI Ddiffyg…
1 Y Feddyginiaeth i Ddiffyg Traul. I Hanes dyn ieuanc mewn busnes a wnaed yn iach, yn gryf, ac yn gymwys gan I DABLEDI DR. CASSELL. Y mae'r sicrwydd y gwellha Tabledi Dr. Cassell Ddiffvg Traul ac adfer crvfder yn eglur yn achos Mr L. Webb, dyn lenanc mewn busnes, o Grosvenor Villas, Lawns- wood Road, Wordesely, Stourbridge. Dy- wed Ni threulial fy mwyd yn briodol I Mr L. Webb, Stourbridge. a dioddeiwn lawer oddi- wrth wyntogrwydd a phoen pen. Peth ai-all a'r hlinai yn fawr oedd gwlvbwr sur a godai yn fy ngwddf yn boeth ac yn gas. Rhoddais brawf ar bob matho bethau a gymeradwyid i mi, ond heb gael es- mwvthad o gwbl hyd nes i mi gael Tabledi Dr. Cassell. Gwnaeth- ant hwy fi'n iawn mewn amser byr rhyfeddol, ac yr wyt yn awr mor iach a chryf ag y dy- munnai unrhyw un fod." Y mae gwellhad ar ol gwellhad, hyd yn oed yn yr achosion mwyaf eithafol, wedi profi mai Tabledi Dr. Cassell yw y feddygin- iaeth sicraf a ddyfeisiwvd at Fethiant y Nerves, Tlodi Gwaed, Gwendid, Diffvg Cwsg, Poen Giau, Curiad y Galon, Afreol- eiddiufh y Stumog a'r Arennau, Gwendid Plant, Parlvsiad y Cefn a'r Giau, Dihys. byddiad Cyffredinol o Nerth y Corff, Lludd- ed yr Ymenydd, a phob math ar fethiant yn y cyflwr. Anfoner 2g. heddyw i Dr. Cassell's Co., Ltd., 418 Chester Road, Man- chester, am sampl rhad. Gwerthir y Tab- ledi gan yr holl Fferyllwyr am 10td.. Is. Ile., a 2s. 9c.—y maint olaf yw y rhataf I yn y diwedd.
Morgan Rhys. I
Morgan Rhys. I GAN GETHIN. I Emynydd o'r radd flaenaf oedd Morgan Rhys. Yn y flwyddyn 1714 y tybir ei eni. Nid yw yn hysbys pwy oedd ei rieni. Ardal ei enedigaeth oedd Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Bu ef fel Dafydd Jones o Gaio a John Thomas, Rhaiadr Gwy, yn ysgolfeistr am lawer o'i oes. Bu am beth amser yn un o athrawion ysgol- ion teithiol Griffith Jones, Llandddow, ror. Yna sefydlodd ysgol ar ei gyfrifoldeb ei hun yn ardal Gapel Isaac, gerllaw Llandeilo-Fawr. Dy- wedir iddo gael ei argyhoeddi trwy weinidogaeth Howel Harris a Daniel Rowlands, ac y mae sicrwydd iddo fod yn aelod ffyddlon a gwasanaeth- gar gyda'r Methodistiaid yn Nghil-y- Cwm hyd ddiwedd ei oes, ac hefyd y byddai yn pregethu yn achlysurol. Dengys coflyfr Plwyf Llanfynydd iddo farw Awst, 1779, a chladdwyd ef ar y ged o'r mis hwnw. Llyfryn bychan pris dwy geiniog oedd ei gyhoeddiad cyntaf yn y flwyddyn 1760. Ei enw oedd "Casgliad o Hymnau am gwymp dyn yn yr Adda Cyntaf a'i gyfodiad yn yr Ail." Llyfryn 24 tudalen, 12 plyg, yn cynwys 22 o hymnau. Cyhoeddodd ail argraffiad yn 1764, o dan yr enw, "Golwg o Ben Nebo ar Wlad yr Addewid," ac yn cynnwys 84 tudalen, 12 plyg. Daeth trydydd argraffiad allan yn 1773, o dan yr ail enw eto. Yn hwn dywedir fod yr hymnau "wedi eu trefnu o'u diwygio allan o'r ail argraffiad, ynghyd a rhai caniad- au newyddion na buont yn argraffedig o'r blaen." Gadawodd yr awdwr am- ryw o emynau gwanaf y ddau argraffiad cyntaf allan o hwn. Cy- hoeddodd yr awdwr y pedwerydd ar- graffiad yn 1775, hwn oedd y di- weddaf yn ystod bywyd yr awdwr. Dygodd J. Harris, Caerfyrddin, y pumed argraffiad allan yn 1808. Vt. oedd hwn yn cynwys 100 o dudalenau, 12 plyg, ac 84 o hymnau. Daeth hwn drwy y wasg ym Merthyr yn 1831 ac yn Aberystwyth yn. 1841. Cyhoedd- odd lyfr hymnau pris dwy geiniog yn 1767 o'r enw "Golwg ar ddull y byd hwn yn myned heibio, a thra- gwyddoldeb o hapusrwydd yn nesau i holl waredigion Sion. Hyn sydd ar ddiwedd yr emyn olaf Hyn yn fyr (ac efallai y diweddaf) oddiwrth eich cyd-bererin i'r byd arall, Mor- gan Rhys." Nid yr uchod oedd ei ddiweddaf; cawn ef gydag un Thomas Dafydd, o Sir Gaerfyrddin, yn cyhoeddi llyfr bychan o emynau yn 1770. Enw y llyfr hwn oedd, "Golwg ar y Ddinas Noddfa mewn casgliad o Hymnau Newydd." Yn 1770 hefyd y cyhoeddodd "Marwnad neu Goffadwriaeth o ddedwydd farwol- aeth rhai o weinidogion ffyddlawn yr Efengyl a ymadawodd a'r byd hwn yn ddiweddar yn Neheudir Cymru, sef y Parchedig Mr Howel Davies, Sir Benfro; Mr William Richard, yn Sir Aberteifi, a Mr Sion Parry, yn Sir Gaerfyrddin," etc. Cyhoeddodd Morgan Rhys dri o lyfrau eraill; y cyntaf, Hanes byr o fywyd dychlyn- aidd a dedwydd farwolaeth Morgan Nathan, yn Llandeilo-Fawr, yn Sir Gaerfyrddin"; yr ail, "Y Frwydr Ys- brydol mewn casgliad o Hymnau Newydd, ar amryw fesurau," ar trydydd, llyfryn o 12 tudalen, 12 plyg, yn dwyn yr enw, "Gruddfanau'r Credadyn am Berffeithrwydd ac An- llygredigaeth ar Fesur Newydd." Nid oes amseriad, na'r lie, nac enw ar- graffydd ar y llyfrau hyn, ond bernid iddynt gael eu dwyn allan tua'r flwyddyn 1774. Nid oes emyn- au mwy adnabyddus yng Nghymru nag eiddo Morgan Rhys, ac ni chaf- odd cynulleidfaoedd Cymru fwy o hwyl wrth ganu emynau neb na'r eiddo ef. Wele linellau o'r rhai m,y,if adnabyddus "Os trwy filoedd o gystuddiau Rhaid im' eto fyn'd ymlaen. Er gwaetha'r maen a'r gwylwyr, Cyfododd Iesu'n fyw. 0 agor fy llygaid i weled Gogoniant dy arfaeth a'th air. Peraidd ganodd ser y boreu, Pan y ganwyd Brenin nef. Dyma Geidwad i'r colledig, Meddyg i'r gwywedig rai. Gwasgara'r tew gymylau Sy oddi yma i dy fy Nhad. Cydganed y ddaear a'r nefoedd yng nghyd Ogoniant tragwyddol i Brynwr y byd. Gwnes addunedau fil I gadw'r llwybr cul. Ymado wnaf a'r babell j Rwy'n trigo ynddi'n awr. Fe welir Sion fel y wawr, Er saled yw ei gwedd." Wele ddyfyniadau o'r hyn ddywed Morris Davies am dano, ac nis gellir cael neb cymwysach nag ef :— Prif ragoriaeth cynhyrchion awenyddol yr awdwr yw eu gwreidd- iolder a'u melusder. Nid ydym yn I canfod dim tebig i gyfieithiad nac efelychiad yn ei waith, fel y gellir edrych ar ei gyfansoddiadau yn wreiddiol Gymreig. Mae ei destynau yn Ysgrythyrol, ac ansawdd y bryd- yddiaeth yn efengylaidd a phrofiadol. Mae yn gorfoleddu yn yr amlygiad o anfeidrol gariad Duw, a chyfoeth ei ras, yn iachawdwriaeth ei bobl trwy yr Arglwydd Iesu Grist. Mae weith- iau yn pyncio yn hyfryd am ogonedd- f iad a gwynfyd y briodasferch, gwraig yr Oen, gogoniant Person y Gwared- wr fel Duw-ddyn, teilyngdod ei aberth, llwyddiant ei eiriolaeth y tu fewn i'r lien, ei dra dyrchafiad ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch- leoedd, ei ail ddyfodiad i farnu y byd, ac fel Alpha ac Omega yr holl oruch- wyliaethau dwyfol mewn creadigaeth, rhagluniaeth, ac iachawdwriaeth yr Eglwys—' ar yr hyn bethau,' fel y idywed yr Apostol, 'y mae yr angelioa yn chwenychu edrych.'
i Danygraig, Pontardawy. I
Danygraig, Pontardawy. I "Ynghanol ein bywyd yr ydym II yn angau. Boreu dydd Mercher, Mawrth y 25am, 1914, wedi hir gystudd a di- oddef oddiwrth y darfodedigaeth, bu farw Mrs Netta Thomas, priod Mr John William Thomas, Edward Street, a merch i Mr James T. Davies, •u'r un ystryd, cyn cyrraedd ei deg- ar-hugain oed. Bu farw fel y bu byw, "yn wrol." Dioddefodd yn dawel a dirwgnach, er yn gwybod fod y gelyn olaf yn tynu dan ei sail. Cowards die may times before their deaths; The valiant never tastes of death but once. —Shakespeare. Yr oedd Mrs Thomas o gymeriad gloew, ymdrechgar, gwir grefyddol, eglur yn ei meddwl a'i dywediad. Cefais gystal mantais i'w hiawn ad- nabod ag un dyn. Mynychai y Band of Hope, yr Ysgol Gan, Cyfarfodydd yr Bobl Ieuainc, a'r Ysgol Sul ym Mryn Seion, Gellinudd, a minnau yn un a 11a w yn y symudiadau hynny. Heblaw hynyna treuliodd lu o oriau yr hwyrnos ar ein haelwyd, ac yr oedd bob amser yn hapus ac yn yr ysbryd goreu. Bum yn talu ymweliad- au a hi yn ei chystudd, ac yr oedd ei llawcnydd ynddo yn fwy na'm dis- gwyliadau. Dydd Sadwrn, yr 28ain, dacth tyrfa fawr ynghyd i hebrwng yr hyn oedd farwol o honi i Hen Fynwent y Cyfiawnion,' sef mynwent yr Alltwen. Ddydd ei hangladd roeddwn wedi fy nharo i lawr gan afiechyd. Llwydd- ais, er hynny, i gael golwg o'm gwely ar y cynhebrwng yn myned heibio. Carwn fod vn yr orymdaith, ond dan yr amgylchiadau cefais ryw foddhad wrth edrych arni yn myned heibio fy mhreswyl, ac wrth syllu arni daeth y frawddeg honno o eiddo Bishop Hall i'm meddwl- "Death borders upon our birth, and our cradle stands in the grave." Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan Parch. Llewelyn Bowyer, Dany- graig. Huned yn dawel ei hun o hedd, a chaffed ei gweddw unig a'r perthynasau oil bwyso ar y fraich sydd wedi dal i fyny filiynau ereill o blant y tonau mewn ystormydd o'r fath. I'r wyl aeth eich anwylyd-nid yw'r bedd Ond aur borth y bywyd; Naid i angeu a diengyd Ar gvir a gwae i'r goreu'i gyd. HIRFRYN.
j Cwmbach.I
j Cwmbach. I Tro i'r Amser Cynt." Dan nawdd Cymdeithas Pobl Ieuainc EbeneKor (M.C.), traddodwyd darlith ar y testun uchod gan Mr. H. Lloyd (AI, Hevin), Ahedar. Llywyddwyd cran Mr. Dav i es, a Daniel Owen. Ar gvnhygiad Mr Davies, a chefnogiad Mr Hughes Jones, ysgolfeistr, diolchwyd i'r darlithydd a gwalioddwyd ef eto.
Advertising
Cadewch imi ^iaLrad a chwl am ?????? ^n'1wJ^8rau I Mae ein giau fel gwe blethedig 0 wifrau'r pellebr. Rheolir a maethir hwy gan ran o'r ymennydd adwaenir & S t S fel y canolfan gieuol. Dibynna cyflwr y canolfannau r; 1 ol ar gyflwr yr iechyd corfforol. ldIl amherir ?? Jtw? ? yr iechyd corfforol cyd-ddioddefa'r ?-j? ?Knerfau. Yr adeg hynny y pcenir ni SB?tD)   ? ?M gyda nerfau "—cur pen, niwralgia, M??? AH gwendid gieuol. Mewn achosioa ??N felly 'does dim tebyg i Wincamis,' ? ?"  ?"? ? *? .?? Gwin y Bywyd.' Mae Wincamis? [ f ? ? yn fwyd cryf i'r nerfau sy'n gweith- redu'n union gyrchol ar y canol- n fannau nerfol ac a rydd iddynt HHV/ fywyd newydd a. bywiogrwydd newydd. ^mm/ Mae'r canlyniad yn rhyfeddol. jtttttt Dechreuwch wella'n ttNm RHAD ??????????? \1?N Anfonwah am brawf-gostrel rhad o WincamK' ????????t???????????t?? ?tNN —aic) ei Bas yn unig. ond digon i wneud Het. Amgauer tri stamp ceiniog d dalu'r cludiad). ^H| COLBMAN & CO.. LTD.,  W. 169, Wincarnis Works. Norwich. uGwin y Bywyd" I Cymeradwyir gan dros 10,000 o Fcddygon. J ——— i E0RGE^ [ K I! L E-% G MIRACULOUS EFFECTS! I have;suffered from Pile and Gravel'for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. 01 01 i | Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y ruae y Feddyginiaeth chael mewn tri ffurf. Y inae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri ffurf. No. i. George's Pile and bravel Pills (label wen) No. 2. George's Gravel Pills (label las) No. 3. Jeorge's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn ya mbob man, mewn: Blychau J. a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10^ GocHelwch Dwyllwyr !—Gofynwch yn eglur am ".George's: pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG— J. E. GEORGE, MAS., HIRWAIN, ABERDARE.