Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
Advertising
HYSBYSIAD. YSGOL Y CWYHFRYN AMMANFORD. Sefydltvyd 1880. 1 I PRIF ATHRO: J. Gwili Jenkins, M.A. ,Anfoner am y Telerau a'r Rbaglen a banes Llwyddiant at y Prif Atbro.
Advertising
W.Williams&Co, JEWELLERS, &a.. 29 Castle St., Swansea. sooola/itfos: l8ct. GOLD DIAMOND, RUBY AND SAPPHIRE ENGAGEMENT RINGS, 22Ct. GOLD WEDDING RINGS, l8ct. GOLD KEEPERS. GOLD AND SILVER WATCHES. Gymry hoff, dewch at y Cymro Os am heirdd fodrwyau aur, Oriaduron ao awrleisiau, Geman a chadwynau olaer_. Yspectol gelfydd, htn-fynegydd. Gwres-fesarydd, cwmpawd mor Geir gan Williams, Heol y cam,, Trowoh i mewn i welld ei Btor.
Y CYNHWYSIAD. !
Y CYNHWYSIAD. Ar y Twr yn Abordar Tud. 1 Nodion o'r Gogldd. 1 j Colofn Llaf ur 1: Abei-telfi a'r CyJch 1 Llwybrau'r SarfF 2 j Morgan Ilhvs 2 | Danygraig, Pontardawe 2 Beirdd y Bont. 3 o W y i Dywi 3 Cenhinen Gwyl Ddewi 3 Colofn y Golygydd: Eniva,(Iaetli 4 Hwnt ac Yma 5 Arwyddioti vr Amsct-aii i): Cadwraoth y Sabath yn Nhreforis. 5 Colofn y Plant 6 Lhvydlo Fach 6 Oddiar Stac Fawr Llanelli 0 John Hwmffra yn ei Fedd 7 Adolygiada 11 u 7 Cinio'r Gogled(iii-yi 7 Colofn y Beirdd 8 Cofiant y Parch R. Thomas, Glandwr 8 Emrys 8
Ar y Twr yn Aberdar.I
Ar y Twr yn Aberdar. I Ffrwyth ymweliad y Parch. J. Lewis, Godreaman, a. Chanada yw darlith newydd ar ei 'Deithiau yng Xghanada.' Traddodwyd y ddarlith i eglwys Hebron nos Fercher diweddaf. Bu y Parch. W. 8. Davies, Llwyd .coed, yn ddiweddar dan weithred law- feddygol. Y mae'n gwella'n raddol, a hyderir y daw'n fuan yn alluog i bre- gethu. Y mae Mr Davies wedi gwas- anaetbu yr eglwys Annibynol yn Llwyd- coed am fwy na deugain mlynedd yn fawr ei barch, ac wedi mwynhau iechyd jda ar hyd ei oes. Y Sul a'r Llun diweddaf cynhaliwyd .,gwyl bregethu flynyddol Bryn Seion, Trecynon. Y gwahoddedigion eleni oeddynt y Parchn. W. Wynn Davies, "edyrn yw y rhai hyn, a bu'r cyfarfod- ydd yn hynod boblogaidd o'r dechreu i'r diwedd. Dywediv fod y dreth addysg i'w chodi 4c. y bunt. Rhoddir y bai ar yr Awdur- dod yn Llundan. Feallai y talai i'r Cyngor yn Aberdar ddechreu holi ei hunan, a diameu y gwela nad yw mor anffaeledig ag y inyn i'r trethdalwyr gredu ei fod. Nid oes llawer o amser lev pan vr oedd y dynion cibddall hyn yn tanu y supplementary teachers allan er mWYll rhoddi lie i rai drutach o lawer heb ystyried gallu trethol y lie. Erbyn hyn awgrymir iddynt ddychwelyd at yr hen drefn. Eithaf awgryni yw hwn, a hyderwn y llwydda'r Cyfarwyddwr i .ddarbwyllo ei Bwyllgor Addysg i'w fabwysiadu. Gorfu i athrawesau da ,droi allan oherwydd byrbwylldra ych- ydig o Gynghorwyr ymyrgar, ac erbyn hyn gwelwn ffrwyth eu camwri. Bydd yn fantais i addysg yn y cylch hwn fel mewn cylchoedd ereill gael t dvnion wyr rywbeth am addysg ar y pwyllgorati. Hyd yn oed pan ychwan- 1, egir aelodau ar y pwyllgorau o'r tuallan yn bresennol, ni chymerir i ystyriaeth gyniwysterau y sawl a ddewisir i'r gwaith neilltuol hwnnw. Gwaith hawdd fyddai profi anghymwyster yr awdurdod fel y mae oddiwrth y penod- iadau i safleoedd cyfrifol mewn ysgolion a wneir o dro i dro. Gyda llaw, oni fyddai yn byrion cynnal arholiad addysg i'r llywodraethwyr, ac ystyried pob un yn anghymwys i eisteddd ar bwyllgor o'r fath oddieithr profi ohono fod gan- ddo farn oleuedig ar y gwaith ? Ymddiswydda Mr. J. D. Thomas. f cyfreithiwr, fel ysgrifennydd yr Y gol- ion Nos. Gweithiodd y gwr hwn yn eg- niol tra fu yn y swydd. Hyderwn y dewisir olynydd teilwng iddo'n fuan. f Gwnaed cais y llynedd o amryw fannau am ddosbarthiadau i ddysgu cerddor- iaeth, a bwriedir adnewyddu'r cais ar gyfer y gaeaf dyfodol. Os yw "gwyr Caerdydd" yn darllen y "Darian," cy- merent awgrym i beidio anwybyddu barn leol ar faterion fel hyn. Bydd Seindorf Ail Gatrod Penfro yn .chware viii Mharc Aberdar o nos Fawrth, (Jrorff. 2lain, hyd nos Sul, > Gorff. y 26ain nesaf. Y tal a ofynnir yAv ■JE85. Hysbysodd y Cadeirydd fod hawl gan y Cyngor i wneud unrhyw ddiffyg i fyny i daIu'r swm swn. Daw'r dydd i'r Cadeirydd wynebu ei etholwyr, ac na ryfedded glywed y pryd hwnnw am eu { hawliau. Ein Daniel ar Gyngor Trefol A berdar yw Ogwen. Awgryma-i y gellid hebcor y Seindorf ar y Sul, ond ymddengys fod rhywrai yno wedi ymdvnghedu i beidio I gadael y dydd hwn yn Uonydd. Y maent wedi UyWu'r syniad v gallant .vvella Sul y Cymry, a'u ffordd o wneud hynny yw cael band a cherbvdau trydan a ffair ar y dydd santaidd. Safodd Ogwen yn ddifefl yn erbyn yr ymyriad dialw am dano, a dywedodd nad oedd yn briodol iddynt anhwylusu gwaith yr eglwysi. Gwasanaethaiy Parchn. S. G. Bowen, Cemaes, a Peter Jones, Colwyn Bay. yng nghyfarfodydd blynyddol Calfaria, Aberdar, Sul a'r Llun diweddaf. Y mae gwyl bregethu Calfaria yn arfer cael tri phregethwr ac odfa nos Sadwrn. Er hynny, yr oedd y cyfarfodydd eleni yn deilwng o'r rhai gynt. Cynhaliwyd cyngerdd nos Wener ddi- I' weddaf yn Ysgol y Safonau Uchaf. Trefnwyd y gyngerdd gan y Bonesau George a'u hathrawesau cynorthwyol. Yr arweinyddes oedd Miss Jones. Yr oedd yn gynhulliad da, a gwnaeth y merched a gymerodd ran eu gwaith yn ganmoladwy. At y Lyfrfa Genedlaeth- ol yr ai yr elw. Ymwelodd E. T. John, Ysw., A.S., ag Aberdar prynhawn Sadwrn diweddaf, ac anerchodd y Rhyddfrydwyr Teuainc ar bwnc Yiiireolaeth i Gymru." Barnai fod y sefyllfa wedi gwella llawer yn ystod y dyddiau hyn. a bod y rhagol- ygon yn fwy gobeithiol nag erioed. Bendith werthfawr a ddeuai trwy fesur o'r fath fyddai rhwvstro'r anghyfiawn- der presennol o osod Saeson uniaith mewn swyddi yng Nghymru. Y cadeir- ydd oedd Mr W. Thomas, cyfreithiwr. Yng nghyfarfod olaf y Cymrodorion etftolwyd swyddogion am y tymor nesaf. Etholwyd y Cynghorwr George Powell yn llywydd, ac Iwan Goch, y cyn-ysgrif- ennvdd, yn is-lywydd. Yr ysgrifennydd newydd yw Mr Timothy Davies, B.A., a chredwn ei fod yn olynydd teilwng i'r Iwan ffraeth a diflino. Erys yr ysgrifen- yddes. Miss Morfydd Davies, yh ei swydd, ynghyd a'r drysoryddes. Mrs. J. Gymdeithas ragorol hon., Bendith ami i fyned rhagddi i godi Cymru a Chym- raeg yn y cylch.
Nodlon o'r Gogledd.I
Nodlon o'r Gogledd. I GAX GLYXDWR. I Wythnos i'r Sadwrn diweddaf yr oeddis yn dodi i orffwys weddillion marwol Mr. Alexander. Henderson, y cerddor adnabyddus o Nantlle. Xid oedd ond ychydig dros ei 40ain mlwydd oed. Canodd lawer yn ystod ei oes, ac enillodd lu o wobrwyon fel baswr. Myn- ych y gelwid arno i wasanaethu mewn cyngherddau. etc. Nid yn unig yr oedd yn hyfedr gyda'i lais, ond yr oedd felly hefyd mewn cyfeiriadau eraill, megis hollti llechi, etc. Chwarelwr ydoedd, ac enillodd amryw wobrwyon yn y gangen uchod mewn Eisteddfodau. Cafodd gystudd maith. Melus fo'i hun. Chwaer iddo vdyw Mrs. Henderson Jones, Talysarn, y soprano adnabyddus. Aelod oedd Mr. Alex. Henderson o Gapel Mawr (M.C.) Talysarn. Gedy weddw a phlant. X os Sadwrn daeth y newydd i Caer- narfon fod Cwiiini Drainayddol yr Arwisgiad wedi eu dewis i berfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol nesaf YIll Mangor. Perfformiant Beddau'r Proffwydi." Y ewmni arall ddewisiwyd ydyw Cwmni Pentyrch, ger Caerdydd, a berfformiant Asgre Lan." Pa un o'r ddau fydd drechaf yn y diwedd, tybed 1 Mawr yw y paratoi yn y Gogledd yma ar gyfer y Groglith a'r Pasg. Treulir I y Groglith, fel rheol, yn y cylchoedd hyn mewn modd tawel a chartrefol. Y Pasg fe gynhelir Eisteddfodau yng ghaer- narfon a Chricieth. Mae rhagolygon campus i'r ddwy Eisteddfod. Xos Lun (Ebrill 6) bu Cwmni Draina- yddol o Lansadwrn, Mon., yn perfform- io y ddrania, "Ednyfed Fychan,; yn v Xeuadd Drefol, Caernarfon. Mawr yw'r miri y dyddiau hyn gyda golwg ar etholiadau Cynghorau Dines- ig. Clywais fod 24 yn ymgeisio yn Llangefni am 16 o seddau. Ym mysg yr vmgeiswyr y mae y bardd adnabyddus Caerwyn. Cojbeithiaf y dvchwelir ef. O'm rhan fy hunan wfft i'r holl Gyng- horau yma. "Cared y doeth yr encil- ion." a rhowch i mi deirawr yn y wlad ar ambell i noswaith yn yr haf i syllu ar y blodau amryliw ac i wrando ar "firi y cor adarol." Ac onid arian yw tuedd yr oes hon ? Ai onid hyn sydd wrth wraidd v syniud iad i estyn y tymhor haf yn yr ymdrocb leoedd yn y Gogledd yma—lleoedd megis Rhyl, Clandudno. Colwyn Bay, Rhos. etc. I Dechreuir y cyngherddau ar Wener y Groglith, a cheisir dal y tymor hyd ddiwedd Hydref, a gelwir y cyngherddau hyn, Autumn Concerts." I ba le yr ydym yn myned 1 Dydd Iau diweddaf yr oeddis yn agor Ysbyty (hospital) newydd ynglyn a Thloty Caernarfon. Yn absenoldeb Lady Assheton Smith fe'i hagorwyd1 gan Mrs. Irby, Porthaethwy. Y mae yn adeilad godidog iawn, ar faes gwyrdd, oddeutu hanner milldir o Gaernarfon. Pan yn y lie dywedais wrth un hen fach- gen go doniol o'r dref, "Wel, Richard, gobeithio mai nid yn y fan hyn y bydd- wn yn diweddu ein heinioes." Ebai r yntau: Wel. waeth gen i fynd i'r nef- J oedd o'r pare yma mwy nag o rywle i arall." I Clywir yn ami ym Myrddau Gwar- cheidwaid ein gwlad am gael y cofnod- ion yng Nghymraeg, tra yr aelodau eu hunain-tra yn ceisio siarad yn yr iaith; hono-yn ei llofruddio, ac yn gwneu-, thur i ddyn waeddi allan, "0, fy hen Gymraeg!" Defnyddiant eiriau fel "Supppsio, supportio, secyndio, applio, etc." Y meddyg, iacha dy hun. Yr wythnos nesaf ceir adolygiad ar y ddrama "Esther" a berfformir yn y Neuadd Drefol, Caernarfon, gan Gwm- ni o'r dref honno.
Cwmbacb.I
Cwmbacb. I Pwy Ddiffydd y Tip? I Mr. Gol.Er nad oes gennym ni yma gerbydau trydan a phethau eraill fel sydd gennych chwi yn Aberdar, y mae gennym bethau ag y mae ymwelwyr ar lie yn rhyfeddu atynt. Un peth neill- duol yw'r tip sydd yma'n llosgi'n bar- haus, a'i. sawyr afifveh. yjo ddigon gwympo ceffyl go gryf, heb son am ddyn, wrth fynd heibio iddo. Bu Cyngor Dosbarth Aberdar ar ymweliad a'r tip, ond ni ddiffoddwyd y tan wrth iddynt hwy edrych arno, er mor ddylan- wadol pobol yr honnant hwy eu bod. Llosgi y mae'r domen afiach o hyd, a thebig mai llosgi wna, gan nad oes ael- odau o'r Cyngor Dosbarth yn byw yn ei arogl. Y mae'r etholiad yn awr wrth y drws, a'r ymgeiswyr a'u cynfIonwyr wrth eu gwaith, yn addaw pethau godi- dog ac yn ceisio ein hudo a rhyw gymysgfa o wir a chelwydd. Rhaid i ni yng Xghwmbach ofalu dewis y dyn goreu ac nid y siaradwr goreu. Yr ydym wedi gwrando areithiau doniol er's deugain mlynedd, ond stwff gwae' i fyw arno yw areithiau dynion sydd eisiau'ch fot. Xid yw fymryn gwell na bwyd Effraim gynt. Gyda llaw, pa un o weinidogion Cwmbach fu'n pregethu'n ddiweddar ar Effraim yn ymborthi ar wynt, ac yn rhannu ei destyn fel hyn: (1) Yr oedd Effraim yn hawdd iawn ei Jblesio—gwynt yn ddigon o fwyd iddo. (2) Gan nad faint a gymerai Effraim i fewn, doedd i fol e' ddim llawnach. (3) Gan nad faint a lynca fo, yr oedd yn siwr y byddai arno eisiau bwyd yn fuan wedi'n. Pa cyhyd y bydd Cwmbach yn foddlon heb gael yr un breintiau a lleoedd eraill. Y r eiddoch, TIM PALMER. I
|Gadlys.
Gadlys. Yr wythnos o'r blaenbu farw yr "Hen Chwaer" anwyl a hoff Mrs. Margaret Lewis, Glan Road, yn yr oedran teg o 81 mlwydd oed. Un o gedyrn Israel- ac arwyr y ffydd ydoedd hi. Daeth yma o Sir Benfro dros hanner can mlynedd yn ol. Yr oedd yn un o aelodau hyna'r Gadlys. Xi welwyd ei ffyddlonach i gynulliadau'r saint, ac nid yn ami y ceid ei chryfach yn y Gair. Yr oedd a'i had- nod yn barod at bob pwnc. "At y (iair, ac at y dystiolaeth," oedd ei llef 1 ym'mhob dadl. Xi wnai "ymryson, na chyndyn ddadleu," ond gadael i adnod- au'r Gair setlo pob peth. Meddai ffydd gref. ac ymwybyddiaeth o sylweddau'r byd a ddaw. Yr oedd ei theyrngarwch i'r weinidogaeth, yn arbennig i'r gwein- idog, yn fawr iawn. Er yn gyfyngedig i'w thy tan ddirdyniadau cystudd maith, holai hanes yr achos, a chwes- tiynnau dilwgr "cred a byw" ym mysg y werin; ond er ei chryfder hi gymer- wyd ymaith dros y gprwel, etto erys ei dylanwad, a grym ei hadnodau megys ysbrydion byw yn gwneud eu tragwydd- ol bebyll yng nghalonau y rhai a'i had- waenai. Claddwyd hi yng Xghladdfa 1 (iyhoeddus AJberdar. Gweinyddwvd gan ei gweinidog, Parch. D. Bassett, a'r Parch. H. T. Stephens, Carmel. Hoed Duw yn dyner o'r bechgyn hoff a fuont mor ofalus ohoni yn ei chystudd, ac a wnaethant eu gore i'w diogelu.
COLOFN LLAFUR
COLOFN LLAFUR GAN PEREDUR." I Balot y Chwech Cheiniog. Gwelir oddiwrth yr holl adroddiadau Ueol sydd wedi dyfod i law fod mwyafrif mawr o'r glowyr wedi pleidleisio eto yn flrbyn ychwanegu chwech cheiniog at eu çyfraniad misol. Wrth grybwyll am hyn, dywed Mr. George Barker, un o fcrweinwyr y glowyr, fod y gweithwyr pi Unobeithiol, a thuhwnt i weddio drostynt. Y mae effeithiolrwydd yr Undeb yn cael ei luddias yn fawr yn ddiameu gan brinder arian, ac y mae yn syndod fod y gweithwyr yn gosod cyn Ileied o werth ar yr offeryn a'r cyfrwng flrwy yr hwn yn unig y gallant obeithio diogelu ac amddiffyn eu hawlfreintiau. Cymhariaeth. Y mae yn Bin gennym am y dibrisdod hwn ar ran y glowyr, oblegyd y mae yn dangos yspryd isel a chul ac yn profi .fod y mwyafrif yn methu ymryddhau o'r syniadau rhagfarnllyd a hunangar sydd mor niweidiol i ddatblygiad yr ys- pryd cymdeithasol ac undebol. Wrth gymar amgylchiadau y glowyr a'r crefftwyr allanol, fel y seiri maen a'r Beiri coed, ac ereill, y mae ymddygiad y cyntaf yn ymddangos yn anffafriol iawn. Y mae y erefftwyr undebol hyn, dros yr holl wlad heddyw, yn cyfrannu 3wllt yr wythnos o levy tuag at y crefft- wyr sydd ar streic yn Llundain, ac y mae eu tal aelodaeth yn gynwysedig o swm tebyg. Gwelir oddiwrth y gym- ,hariaeth yma fod y glowyr ymhell iawn ar ol yn eu syniadau am anrhydedd a dyledswydd tuag at eu hundeb. Ple Mae'r Bai? Nid ydym yn credu fod y bai am hyn i gyd ar y gweithwyr. Gwyddom fod oiddygiad ffol ac hunanol rhai agents j yn rhoddi achos i'r gweithwyr i fod yn anfoddog a gwrthnysig. Nid yw eu hymddygiad bob amser uwchlaw amheu- aeth. Angen mawr Agents Deheudir Cymru yw iddynt edrych i dre, a "gwarchod gartref" yn dda. Yrnddi- bynant yn ormodol ar eu gallu i siarad, tra yr esgeulusant organeiso y cyfan- soddiad. Elfen hanfodol arall i lwydd- iant yr un deb yw cyfaddasu amgylch- iadau a chysylltiadau cymdeithasol bywyd a hi, megis chwareuaethau i'r dynion ieuainc. dosbarthiadau dadleu a darllen i'r canol-oed a'r hen. Ni cheir llwyddiant i'r undeb hyd nes y trefnir cyfryngau i gael gwasanaeth a diddor- deb y gwragedd a'r merched o'i mewn. Dadleuaeth. A gawn ni ofyn i'r darllenwyr hynny sydd yn eymeryd diddordeb yn y mater- ion hyn i roddi eu barn ar yr awgrym- iadau uchod yn erbyn neu yn eu ffafr. Ymchwiliad Senghenydd. Achwyna Swyddogion y Ffederashwn fod yr Ysgrifennydd Cartrefol yn hwyr- frydig iawn yn danfon allan adroddiad o'r Ymchwiliad Swyddogol fu yn eis- tedd ar achos Tanchwa Senghenydd. Mewn atebiad i Mr. John Williams, A. S.. yr hwn dalodd ymweliad a Mr. Mac Kenna, dywedodd hwnnw fod vr adroddiad yn cael ei baratoi, ac y byddai yn barod mewn pryd fel ag i alluogi erlyniad ar y Cwmni, os y ceid eu bod yn euog o esgeulusdod a dueddai i achosi y galanaadra. Gweinidog Llafur. Ail gynhygiodd Mr Keir Hardie. A. S., ei Fesur yn Nhy y Cyffredin yr wythnos ddiweddaf i wneyd i ffwrdd ag anghyflogiad. Darperir yn y Mesur fod Gweinidog Llafur i'w benodi i eistedd yn y Senedd, a'i dalu yr un peth a'r Y sgrilellnydd Cartrefol. Disgwylid i hwn atal anghyflogiad (unemployment) drwy gysoni, mor belled ag y byddai yn bosibl, y galwad am lafur. Byddai am- ryw eraill o weithrediadau a chyfryngau llafurol o dan ei adolygiaeth. Gofynnir hefyd, fod Awdurdodau y Llywodraeth- au Lleol yn darparu cymaint o waith ag sydd bosibl i'r dynion hynny sydd o fewn eu terfynau, allan o waith. Strei Lcfaol yn Yorkshire. Y mae streic fawr lofaol wedi torri allan yn Swydd York, Lloegr, a thua 180,000 o lowyr wedi atal gweithio. Achosa hyn hefyd i tua 20,000 o weith- wYI" eraill yn gweithio mewn gweith- feydd ymddibynol ar y fasnaeh lo, fod yn segur. Annealldwriaeth yng nghylch v minimum wage, a dyfarniad Syr Ed- ward Clark ar y cyfryw, yw yr achos o'r streic. Trefnir i'r Meistri a chynrych- iolwyr y gweithwyr i gyfarfod yn Lllln- dain dydd Mercher er ceisio dod i ddealldwria4eth ar yr anghydfbd.
IAbertelf1 a'r Cylch.I
I Abertelf1 a'r Cylch. I Marwolaeth. Blin iawn gennym gofnodi yr wythnos hon am farwolaeth Mrs. Esther Thomas, gwraig y lienor a'r bardd, Mr J. L. Thomas, Pilmawr, Blaenwaun, Llanwinio. Bu Mrs. Thomas yn claf- ychu oddiar mis Medi diweddaf, ac aeth i Llathrach. Sir Gaerfyrddin, i gesio gwellhad, ond gwaethygodd yn raddol, a ffarweliodd a'r fuchedd hon ddydd Sul, Mawrth y 27ain. fe Yr oedd Mrs. Thomas yn ddynes eithr- iadol o ran ei chymeriad, yn llawn di- wydrwydd. yn llettygar, yn garedig, serchog a theyrngarol i'w gweinidog a'r achos ym Moriah. Dywedai ei gwein- I idog, sef y Parch. Ifan Afan, ei bod fel Esther y Beibl yn "weddeidd-lwys," ac y gellid dyweud am dani fel y dywedodd yr Iesu am Mair: Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth," Nis gall angylion, meddai ef, wneud mwy na hyny, ie, na Duw ei hun. Cymerodd yr angladd Ie dydd Gwener, Ebrill 3ydd. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth yn y ty yn Llathrach gan y Parchn. Morgans, Bantrydfelyn; J. Peregrine, Trelech; Griffiths, Eynon, Gelliwen (B.), ac Ifan Afan. Er fod tua deg milltir gan y gynhebrwng cyn cyrraedd Moriah, daeth lliaws i dalu y gymwynas olaf iddi. Erbyn cyrraedd Moriah, yr oedd lluoedd o'r cylchoedd wedi dod i gyfarfod yr angladd, a Ilanwyd y capel gan y cyfeillion a'r perthynasau. Yn y capel gwasanaeth- wyd gan ei gweinidog, Ifan Afan; Morgans, Cana; Cadfwlch Davies; St. Clears; W. Thomas, Llanboidy; Price, Glandwr, a Davies, St. Clears. Gwas- anaethwyd ar lan y bedd gan y Pacbv. D. G. Williams, St. Clears, ac Arthog Davies, Offeiriad Eglwys LIanwinio. Teimlad pawb oedd fod un o anwyliaid SeMMt yn cael dac-arit. amgylchiadau o'r fath yw dyweud gor- mod, ond nid oedd hynny yn bosijbl yn ei berthynas a'r ymadawedig. Gadaw- odd briod, mab a merch i alaru ar ei hoi. Derbyniwyd amryw lythyrau oddiwrth weinidogion ac ereill fethai fod yn bresennol. Cyngerdd. I Bwriedir clywed parti enwog Moun tain Ash, dan arweiniad Mr T. Glyndwr I Richards, yn y Pavilion nos Wener 1 nesaf, sef y Groglith. Mae gwerth £ 50 o gardiau eisioes wedi eu gwerthu. Diameu ceir gwledd mewn ystyr I gerddorol. I I Tysteb. I Da gennym fod y dref erbyn hyn yn teimlo awydd i ddangos eu parch a'u hedmygedd o un o gedyrn Ymneilldu- aeth yn y dref a'r wlad, sef y Parch. J. Williams, Bethania. Mae wedi cyflawni 25ain o flynyddau o wasanaeth cy- hoeddus ar wahanbl Fyrddau, ac wedi I bod yn aelod gwasanaethgar yn mhob ystyr. Bwriedir gwneud tysteb iddo J gan y dref a'r cylch—yn Rhyddfrydwyr, I Toriaid, a Dirwestwyr. Ychydig wyr y gallu aruthrol fu ef mewn cylchoedd cy- hoeddus tu allan i'w bwlpud. Mae wedi treulio ei amser a'i arian mewn mynychu pwyllgorau a Byrddau, a j chredwn y ceir tysteb anrhydeddus iddo. Os oes rhai o gyfeillion Mr. Williams yn. Sir gyfoethog Morgannwg, am roddi ychydig gynhorthwy i'r mud- iad, bydd yr ysgrifennydd fel un o'r casglyddion yn barod i dderbyn y rhodd leiaf. Credwn y dylai Mr Williams gael ei anrhydeddu ar yr un adeg a'r teitl Ustus Heddwch. j I Gyfarfod y Gronfa. Bu y Parchn. W. A. Williams, Ponty pridd Dr. Edwards, Caerdydd, ac E. T. Jones, Llanelly, ym Methania dydd Mercher diweddaf yn esbonio y cynllun j o godi Cronfa o zC25,000 er cynorthwyo eglwysi gweiniaid i dalu eyflogau gwell i i'w gweinidogion. Cymerwyd y gadair gan Mr. D. T. Davies, N.P. Bank. Daeth cynrychiolwyr o wahanol eglwysi y wlad ynghyd i wrando y gweinidogion. a phenodwyd ar bwyllgor, a'r ddau i frawd, y Parch. D. W. Phillips, St. Dogmells, a Mr J. E. Jones, Stafford House, Aberteify, fel ysgrifeiiyddioin. Cafwyd cyfarfodydd da, ac ymddengys fod symiau da wedi eu haddaw eisioes. Mae poh enwad erbyn hyn yn ceisio codi cronfeydd i'r un aDICaD. ot I Aberteifi. D. JONES.
\ ,CLYN NEDD.\
CLYN NEDD. I Borew Llun, Ebrill 6ed? tra yr oedd' gyrrwr o'r enw Win. Leyshon yn gadael ei waith yng Nglofa'r Empire, fladdwyd of. a niweidiwyd Arthur Jones.
Advertising
CROEN. eN A WD. ASGWRN. RHAID QOFALU All PHAO MYN. Esgeulusdod o unrkyw xfweaf I rfctf hvn drwy ddamwain Haw tttafya "M aeliosi Blood Poisoning a Marwolaeth. Meddvginiaeth Effeithiol. Er mwyn ysgol Parygl rhali HI ymarfar mown pryd. 'DOES DIM MOR LLWYDDIAMUt A SIOR A GOMERIS BALM. Mae Hwn yn awr yp oael ei gydnabot gan fil oodd fal V «•«»««» sicr a diogel dd.rgMfyddw? eriosd at ischau Clwyfau, Atcholllon, Tardd- lantau^ y ??.?  Cnawd, Eczema, Craoh a H Nodd yo Mhenau Plant, Liosgiad. au, Yllal. danau, Scurvy, I L lugrad Plant, Benywod a -J W Babanod, t Tarwden, Cout, Gymalau P88ftU qbeumat- £ ^7^ Yrc?dp?fyml. cSn P?!M tyn -ewn 6"t, 0OW7610a. hynod aGvvellbaodd Gomer's ?' offelth:ol ?' yn bur fa at CLWYFAU ar COESAU. Miloodd yn tystlo i'w Elfeithlau Rhyfeddoi. RHODDWCH BRAWF ARNO Gwellhad sydd s/or Ar werth gan bob Chemiat a Storee sia lIlt. Gofyner am Comer's Balm. Mya- weh weled enw ".1011 Hughas ar bob blweh. Heb hyn nid yw gywir. Nm danfoner ei gwerth (P.O. neu Stampi) at Jacob Hughes, Manufacturing CKm- 18t, M.P.S., L.D.B., Ponarth, Cardiff. CWRTHODWCH BOB PETH ARALL. FTlelch Lacy THE UP-TO-DATE LONDON TAILOR, WHO SERVES YOU PERSONALLY AND Cuts all Garments Himself. Specialists in MOURNING ORDERS. 222 HIGH STREET, SWANSEA. Return Bailwav Fare allowed to Purchasers upon mentioning this Paper. Telir Pris Tsen prynwyr yma ao yn nl on iddynt enwi Tabxan y Gwbithiwe. VN AWR YN BAROD. 'Social Problems in Wales.' 183 Pages 1/- net; Post Free 1/3. Ad  11 United Seboo AddreaseB delivered at the United Scboo of Social Service for Wa es. A book every Patriot should read. Sand without delay to the Publishers MORGAN & HIGGS, Publishers, Printers, Ao., 18 Heathfleld Street, Swansea.