Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Cymrodorion Tonyrefall.

News
Cite
Share

Cymrodorion Tonyrefall. Bu Mr W. J. Gruffydd, M.A., Caerdydd, yn annerch y Gymdeithas uchod nos Fawrth ddiweddaf, pryd y cadeiriwyd gan Mr D. P. George. Ar ol ychydig sylwad- au pwrpasoi cynwypodd y darlitnyud i m fel un a gymerodd ran fiaenllaw mewn symbylu ein cenedl i efrydu a gwerthfawr- ogi ei llenyddiaeth. Dechreuodd Mr. Gruffydd trwy ddweud iddo ddod i'n plith i gyhoeddi newyddion da," a chawsom ar ddeall fod ei newyddion yn dal cysylltiad a Llenyddiaeth Newydd Cymru. Dywed- odd wrthym, ymhlith pethau ereill, mai llenyddiaeth gynhyddol oedd yr eiddom ni, a'i bod yn addo ei hoes euraidd ymlaen. Rhennid hi i dri cyfnod, ac ar ol olrhain llenyddiaeth y gortfennol, daeth i'r pen- derfyniad mai'r cyfnod cyntaf oedd y gwannaf, fel y bydd bob amser yn neddf twf; adeg babandod yw'r gwannaf. Ond yn yr ail gyfnod dechreuodd y Cymry edrych oddiamgylch, a gwneud cyfeillion a chenedloedd ereill. Yna, dechreuasant fenthyca oddiwrthynt, ac y mae benthyca jn un o hanfodion bywyd cymdeithasol. Cyfeiriodd at Dafydd ab Gwilym fel un o'r rhai a gymerodd y fantais fwyaf ar yr agwedd hon o fywyd y genedl. Yn ystod y trydydd cyfnod daeth amser i ad-dalu, a dyna wna lien Cymru y dyddiau hyn. Cy- feiriodd hefyd at ddylanwad gwlad i draws- newid cenedl a rhoi ei ffurf arbennig ei hun ar bob peth o'i heiddo. Tynnodd ein sylw at yr oes dywyll fu ar Gymru am amser ar ol i'r Tuduriaid esgyn i orsedd Lloegr, pryd y dechreuodd tywysogion a boneddig- ion Cymru dyrru i Lundain, a chan mai hwy oedd prif noddwyr llenyddiaeth yr amser hwnnw, iddynt hwy ac am danynt hwy y bvddai'r beirdd yn canu, ac felly ar ol eu hymadawiad cawn i'r awen ddis- tewi bron yn hollol yng Nghymru. Yna cododd yr Hen Ficer a chyfansoddodd ben- hillion telyn; a chytieithodd Edmund Prys y Salmau. Hhoddodd bwys neillduol ar waith Williams Pantycelyn, gwir fardd cenedlaethol Cymru, sydd wedi ysgrifennu yn iaith, syniadau a dull y werin. Cyfeir- iodd at y ddwy ffrwd (y mesurau caethion a'r mesurau rhyddion) yn ein llenyddiaeth, .sydd wedi bod am hir amser yn elyniaethus i'w gilydd, ac er eu bod yn rhedeg yn gvf- ochrog eto heb gymysgu hyd yn gymharol ddiweddar. Yn ystod y ddarlith crybwyllodd am lawer bardd o fri, megis Huw Morus, Eben Fardd, Eifion Wyn, a T.«Gwyn Jones, a dlfvnnodd yn helaeth o'u gwaith fel esiam- plau o'r gwahanol gyfnodau yn hanes ein llenyddiaeth. Gresyn na ddaethai chwaneg ynghyd i wrando'r ddarlith alluog hon. Gan mai dechreu y mae'r gymdeithas hon, rhaid cymeryd cysur, gan hyderu y deffry y Cymry hynny sydd mewn twmgwsg cyn y bydd yn rhy ddiweddar. Cvnygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mr Gruffydd gan y Parch. Gwrhyd Lewis; eiliwvd gan Mrs. A. James, a chefnogwyd gan Mr David Rowlands, a danghosodd y gwrandawvr eu gwerthfawrogiad o'r ddar- lith ragorol yn y modd arferol. Ar ol ychydig eiriau gan y cadeirydd, galwyd ar Mr Tom Roberts i ddiweddu'r cyfarfod <lrwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau." T.J.

Ebenezer, Rhydri, Caerffili.I

Oddiar Lechweddau --Caerfyrddin.

IFerndale.I

Nodion o Glyn Nedd. I

Poen Cefn a Drwg yn yrI Arennau.

I ,0 Dir y Gogledd.

Nodion o Gylch Aberafon.

Abertawe.

-'-'-'- -..- - -.:-_-_.-..._-....._-…

¡Nodion o Rymni.

I Penderyn.¡ __i

I-Colofn y Gohebiaethaa.

Birchgrove. I

Colofn y Beirdd. I